Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y SENEDD YMHERODROL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y SENEDD YMHERODROL. Ty YR ARGLWYDDI. — Cyfarfuwyd ar ol y gohiriad am chwarter wedi 4 o'r gloeh. Cododd Arglwydd Salisbury i gynyg eu bod i ohirio hyd ddydd Mawrth nesaf. Tra yn siarad gan gyf- eirio at Fesur y Seddau, galwodd Iarll Granville ef i drefn, nad oedd yn rheolaidd cyfeirio at fater oedd ar y Papyr cyn iddo gael ei ddwyn yn mlaen. Cynygiodd hefyd fod Mesur y Gwaddoliad i'r Dywysoges Beatrice i basio. Hyny a ftI. Cynygiodd iarll Kimberley eu bod i ystyried rhesymau y Ty Cyffredin dros wrthod rhai o welliantau y Ty hwnw ar Fesur y S.eddau. Dymunai Arglwydd Salisbury wrthwynebu ys- tyried y mater ar y pryd, ar y tir fod y mesur y mynyd y pasid ef yn ei gwneyd yn anmhosibl i dori y Senedd i fyny hyd fis Tachwedd nesaf. Am hyny, dymunai gynyg fod y mater i gael ei ohirio hyd ddydd Mawrth. Atebodd Iarll Kimberley yn y modd mwyaf miniog gan awgrymu mai amcan y cwbl oedd rhwystro y mesur i basio fel y gallasai y Toriaid apelio at y wlad gyda gobaitk o gael mwyafrif o dan yr hen drefn. Ar ol ychydig eiriau gan Iarll Faversham ac Arglwydd Salisbury, rhanwyd y Ty. Dros ystyried y rhesymau, 55. Yn erbyn 124. Mwyafrif, 63. Yua gohiriwyd y Ty hyd ddydd Mawrth nesaf. Ty Y CYFFREDIN.—Cymerodd y Llefarydd ei sedd am 4 o'r gloch. Rhoddodd Mr Dillwyn rybudd y buasai iddo yn fuan gynyg fod dar- pariaeth i gael ei gwneyd i gymeryd rhan o'r vote of credit oedd wedi ei chynyg gan y Llyw- odraeth, a bod hyny i gael ei wneyd h6b dolli te, siwgr, bara, nac unrhyw ymborth, ond trwy dolli yn ychwanegol eiddo personol a thrwyadl. Mynegodd y Llefarydd ei fod wedi derbyn Ilythyr oddiwrth Mr Bradlaugh, yn mynegi ei fwriad i gymeryd ei sedd. Barnai y Llefarydd mai ei ddyledswydd oedd darllen y llythyr i'r Ty, ac hefyd yr atebiad oedd efe wedi ei anfon iddo. Yna cododd Syr S. Northcote i ofyn i Mr Gladstone pa gwrs oedd efe yn fwriadu ei gymeryd yn y mater. Atebodd Mr Gladstone nad oedd ganddo ef ddim i'w ddyweyd yn fwy nag oedd wedi ei. ddyweyd o'r blaen. Eu bod wedi dewis gweithredu yn groes i'w olygiadau ef yn y, mater. Am hyny nad oedd yn bwriadu ymgymeryd a'r cyf'rifoldeb o gynyg dim. Ond ei fod yn dymuno hysbysu ei fod wedi cael ar ddeall fod Arglwydd Salisbury wedi llwyddo i ohirio y Ty arall hyd ddydd Mawith. Felly ei fod yntau yn cynyg fod y Ty Cyffredin ar ei godiad i sefyll yn ohiriedig hyd yrundydd. Yna gofynodd Mr Labonckere drachefn, fel yr oedd wedi gofyn o'r blaen. os oedd sail i wirion- edd y si oedd ar led, fod addewidion wedi ei roddi i'r Blaid Wrthwynebol, fel amodau o dan ba rai yr oeddent i gymeryd y llywodraeth i'w Haw, a thros ba hyd yr oeddent i gael y gobir. iadau. Atebodd Mr Gladstone nad oedd dim gwirionedd yn y si. Ond pa beth bynag fyddai canlyniadau y gohebiaethau, y byddai iddynt gael eu gwneyd yn gyhoeddus. Yna ar gynyg- iad Mr Gladstone, gohiriwyd y Ty byd ddeng mynyd i bump o'r gloch dydd Mawrth nesaf.

LLEYN AC EIFIONYDD.

AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD.…

Advertising

EIN SEFYLLFATBOLITIO.AIDD.