Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
CYMANFA ANNIBYNWYR MEETHYB…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA ANNIBYNWYR MEETHYB 1885. CYNALIWYD unfed Gymanfa ar bymtheg Merthyr eleni ar y dyddiau Sadwrn, Sul, a Llun, Mehefin 20fed, 21ain, a'r 22ain, pryd y gweinyddwyd yn Horeb, Bethesda, Soar, ac Ynysgau gan y Parchn. W. James, Porth; O. Jones, Pwllheli B. Davies, Treorci R. W. Roberts, Ystradgynlais D. Evans, Caerfyrddin; J. B. Jones, B.A., Aberhon- ddu; D.M.Jenkins, Liverpool; ac Owen Evans, Llundain. Cafwyd pregetbau gwerthfawr, g-wran- dawiad siriol, arwyddion o'r gwenau Dwyfol yn yr oedfaon, a chynulliadau lliosog. Ymddengys nad yw poblogrwydd y Gymanfa yn lleihau dim o flwyddyn i flwyddyn. Fel yr arferir gwneyd bob blwyddyn, cynaliwyd CYFEILLACH GYFFREDINOL yn Soar, am ddau o'r gloch ddydd LInn. Erbyn amser debhreu yr oedd yr addoldy wedi ei lenwi a chynulleidfa hardd, awyddus am wledd, ac ni siomwyd neb yn hyn. Cymerwyd y gadair eleni gan y Parch. J. M. Bowen, Penydarren, yr hwn a alwodd ar y Parcb. W. James, Porth, i ddechreu trwy ddarllen a gweddio. Y CADEIRYDD a ddywedai mai dyma y drydedd waith i'r eglwysi ei anrbydeddn i lywyddu Cyf- eillach y Gymanfa. Chwith oedd meddwl fod 17 o'r gweinidogion a gymerasant ran yn y Gymanfa o'i dechreuad wedi eu symud gan angeu. Dys- gwylid Dr. Rees, Abertawy, i'r wyl, ond yntau befyd a. gymerwyd ymaith. Da oedd ganddo ef (Mr. Bowen) bysbysu fod gweithgarweh crefyddol a chariad yn bodoli yn y gwahanol eglwysi, a rhai ohonynt wedi myned i draul fawr i adnewyddu a harddu eu capeli. Yroedddigono syn wyr yn. yr oes hon; eisieu mwy o deimlad oedd; ac ond cael Duw byddinoedd Israel gyda ni, aem yn mlaen yn llwyddianus. Galwodd Mr. Bowen wedi byny ar y boneddigion gwahoddedig i'r Gymanfa i anerch y gyfeillach a chan fod Mr. W. James, Porth, wedi arwain y gwasanaeth dechreuol, galwyd yn gyntaf ar y Parch. 0. JONES, Pwllheli, yr hwn a deimlai yn fraint i fod mewn cyfeillach grefyddol mor lliosog. Hwn oedd blodeuyn yr holl gyfarfodydd. Credai fod y gyfeillach a'r cyfarfod gweddi yn ddangosiad o ansawdd y teimlad crefyddol. Teimlai gryn an- hawsder i roddi ton briodol i'r Gyfeillach. Nid oedd angen am alw llawer o sylw at agwedd allanol crefydd—ei hanfodion oedd yn bwysig. Byw ath- rawiaethau crefydd mewn dyledswydd ac ymarfer- iad oedd y test goreu o wirioneddolrwydd ein cref- ydd. Yr oedd y Cristion yn dilyn moddion gras fel y mae cadben y llong yn dilyn y current sydd yn ffafriol iddo gyrhaedd y porthladd a ddymuna. Darllenai air Duw, a bwytai o aberth Iawnol Crist fel y gwir fana a ddaeth i waered o'r nef. Ymar- ferai weddi fel prif ddyledswydd crefydd, yr hwn a gadwai fywyd yn fyw yn ei enaid, ac fel y galvanic. battery rhoddai nerth a grymusder trwy holl gylch ei fywyd. Mr. DAVIES, Treorci, a ddywedai mai y cymeriad Cristionogol oedd y cymeriad uchaf—yr egwyddor uchaf, a hanfod y bywyd Cristionogol. Nid oedd gorfodaeth ar neb i gymeryd enw Iesu arno, Os myn neb," &c. Yr oedd deddfau at bob peth dan yr Hen Oruchwyliaetb, ond erbyn hyn y maent wedi eu newid am egwyddorion. Gosodid deddfau at gyfranu dan yr Hen, ond pob un i roddi fel y mae yr Arglwydd yn ei lwyddo ydyw o dan y Newydd. Nid oedd am honi perffeithrwydd mewu bywyd yn nysgyblion Crist, ond yr oedd felly mewn cynllun. Yr oedd y gallu mwyaf sydd yn y byd heddyw. Talodd Ingersoll, yr anffyddiwr, ymweliad a Cincinnati, Ohio, yn ddiweddar, a chafodd 2,000 i'w wrando yn cablu y grefydd Gristionogol. Dygwyddai yr Esgob Simpson fod yn pregethu ar yr un adeg yn y ddinas, a chafodd 7,000 i'w wrando. Fel y mae y wisg brydferth sydd am y dyn yn llefaru yn ffafriol am y gwneuth- urwr, felly y mae bywyd dystaw llawer o aelodau eglwysig yn siarad am yr Hwn a'u gwisgodd yn lighyfiawnder Crist. Mr. ROBERTS, Ystradgynlais, a gredai ei fod yn gwybod rhywbeth am flas crefydd. Yr oedd yn falch ei fod yn y seiat, ac nid oedd ganddo ddim yn ddrwg i ddywcyd am dani. Cafodd rywbeth i'w enaid yn mhob cyfeillach. Iesu yw arweinydd y seiat; yr oedd yn ei addabod Ef er's dros 50 mlynedij, ac yr oedd yn anvvylach ganddo yn awr nag erioed. Pa le yr oedd y telynau ? A oeddynt yn ngbrog ar yr helyg ? Credai ei fod yn cly wed swn yn mrig y morwydd y dydd o'r blaeu nes rhoddi tiBC ar ami i hen delyn. Carasai ef yn fawr gael un drochfa dda eto o'r Ysbryd Glan cyn myned i'r nefoedd. Ar ol canu penill, galwodd y Cadeirydd ar y Parch. D. EVANS, Caerfyrddin, yr hwn a gyfeii- iodd ei sylwadau at rieni plant, a'r berthynas oedd rbyngddynt ag Eglwys Iesu Grist. Yr oedd cy- sylltiad arbenig rhwng y teulu a'r Eglwys y teulu yn hynach na hi. Yn nheulu Abraham y dechreu- odd yr Eglwys Iuddewig, ac yn nhy Cornelius y planwyd yr Eglwys Geaedlig. Yr oedd Duw yn cymhell ei blant yn ofalus iawn i drosglwyddo teimladau pur trwy eu teuluoedd o oes i oes, Ni ehododd neb biant yn uwch nag y gwnaeth lesu Grist, a rhoddodd orchymyn pendant i Petr i borthi ei wyn. Mae perygl mawr i beidio rhoddi addysg grefyddol i blant, oblegid os esgeulusa rhieni wneyd fe wna y diafol hyny, mesrys y dywed- ai un gweinidog wrth foneddiges oeclclyn diystyru rhoddi addysg grefyddol i'w phlant. Credai nad oedd digon o lawenydd yn ctel ei ddangos pan dderbynid plant yr Ysgol Sabbothol i'r eglwys. Dyma y dosbarth sydd weii bod yn fwyaf defn- yddiol iddi trwy yr oesau. Ein pregethwyr, di- aconiaid, a'n haelodau enwocaf ydynt wedi eu magu yn yr eglwys o'p hieuenctyd. Y ffordd eff- eithiolaf i gael gafael ar y genedl' ydoedd trwy afnelyd yn y plant. Mr. JONES, Aberhonddu, a gredai fod dynion goreu Merthyr yn y Gyfeillach. Byddai yr hen John Evans, Llwynlfortan, yr hwn a flinid yn amI' gan y pruddglwyf, weithiau yn meddwl nad oedd yn deilwng i fod yn aelod o'r gyfeillach, ond pan ddywedai un brawd wrtho, os torid of allan ohoni y byddai yn anhawdri iddo gael d'od yn ol, nid oedd mor barod i fyned o dan yr ornchwyliaeth hono. Prydnawn oedd hwn i hogi y crymanau. Rhaid oedd bod yn barod i dderbyn yr Ysbryd Glan, ac nid oedd genym ddim i'w wneyd ond dysgwyl wrth yr Arglwydd. Dylai pawb ddangos y ffordd i'r bywyd i'w gymydog. Dylem fod fel cynifer o fynegfysedd i'n cyd ddynion i ddangos y ffordd i booking office Calfaria-ac ilid oes mynegfys yno a ddengys y ffordd i uffern. Mr. JENKINS, Liverpool, a ddiolchai i Dduw fod cynifer o ddynion yn barod i aberthu eu cysuron er mwyn hyrwyddo ei waith yn mlaen; ond lied an- turiaethus fyddai dyweyd fod pob aelod eglwysig yn cyfrif rhyw lawer dros fynediad crefydd yn mlaen yn yr oes hon. Un o ddiffygion yr eglwys ydoedd fod y drws mor agored. Ymwelodd Crom- well unwaith ag Eglwys Gadeiriol York, a phan ddangoswyd iddo yno ddeuddeg o ddelwau arian o'r apostolion, gorchymynodd eu tynu i lawr, a'u toddi, fel y byddai iddynt fyned oddiamgylch, fel eu Meistr, i wneutbur daioni. Felly hefyd, ebai ef, da fyddai cael rhyw foddion i gael yr aelodau o'u cornelau clyd i ddilyn esfampl eu Gwaredwr. Yr oedd mwy o weithgarwch yn yr oes hon na'r un oes o'i blaen ond ychydig iawn y mafe hyny yn argraffa ar y byd. Y perygl ydyw gosod gormod o bwys ar y peirianwaith, a rhy fach ar yr ysbryd. Dywedai Luther wrth yr Arglwydd pan yr oedd yr achos Protestanaidd yn ymddangos yn dywyll— "Rhaid i ti, Arglwydd, ofalu am y Diwygiad Pro- testanaidd." Credai ef fod y teimlad yn rhy isel, a bod angen syrthio yn ol ar Dduw, gan ofyn iddo i dd'od at ei waith. Mr. EVANS, Llundain, a lawenycbai ddeall oddi- wrth sylwadau y Cadeirydd fod heddwch yn teyrn- asu yn eglwysi y cylcb. Dinystrio y mae rhyfel, ond adeiladu a wneir yn amser heddwcb. Tyuir i lawr mewn ychydig wythnosau gan derfysgyr hyn gymerodd flynyddoedd i'w godi. Anogai bawb i fod yn grefyddwyr tangnefeddus ac effro, gan b roddi gwyneb yn erbyn arferion llygredig yr oes. Terfynwyd y Gyfeillach ragorol hon trwy weddi gan y Parch. R. Griffiths, Cefn, a hiraethai pawb wrth fyned adref am gael ei chyffelyb yn fuan eto.
[ CYMANFA MALDWYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA MALDWYN. Cynaliwyd y Gymanfa uohod y flwyddyn hon yn Nghroesoswallt, ar y dyddiau Iau aGwener, Mehefin lleg a'r I2ed. Yn y Gynadledd am 10 o'r gloch boreu dydd Iau, yr oedd yn bres- cnol y Parchn J. Silin Jones, Llanidloes (y Cadeirydd), T. J. ltees, Carnb J. Jones, Mach- ynlleth J. Davies, Amwythig; J. Charles, Croesoswalit; W. Roberts, PenyboDt; W. 11. j Edwards, Sardis; T. Hughes, Llansantffraid C. Evans, FocI; It. Powell, Drefnewydd D. S. Davies, Llaubrynmair; Dolvaa Lewis, Pen- arth; R. O. Evans, Sammah; H. Edwards, Derwenlas J. T. Phillips, Caersws M. M. Hughes, America T. Griffiths, Machynlleth, ac R. Thomas, Glandwr. Meistri C. R. Jones, Y.H., J. P. Williams, a E. Roberts, Llanfyllin H. Jones a J. Thomas, Trallwm E. Morris, Penarth W. Theodore, Llanfair J. Evans, E. Roberts, E. Davies, J. Thomas, a it. Evans, Croesos wallt. Gan fod y gwaith yn ormod i fyned trwyddo mewn un gynadledd, cafwyd cynadledd arall am 8 boreu dydd Gwener, yr hon oedd yn barhad o'r cyntaf. Dechreuwyd trwy i'r Cadeirydd ddarllen cyfran o'r Gair, ae i'r Parch J. Davies, Amwythig, i weddio. Wedi darllen a chadarn- hau cofnodion y cyfarfod blaenorol, pasiwyd Y penderfyniadau canlynol:— 1. Fod y Gynadledd hon yn barnu y byddai yn fantais i benodi un i fyned trwy y sir yn flynyddol ar ran y Gymdeithas Genadol, ac i fod yr un hwnvv i gael ei benodi yn y Cyfarfod Chwarterol nesaf. 2. Fod y Parchn J Silin Jones, Llanidloes; R. Powell, Drefnewydd a T. Hughes, Llansant- ffraid. Meistri C. R. Jones, Y,H., Llanfyllin, a Joseph Evans, Croesoswallt, i fod yn Bwyllgor Trysorfa Achosion Gweiniaid y Sir am y flwyddyn ddyfodol. 3. Fod arian Trysorfa y Jubili i'w rhanu yn y Cyfarfod Chwarterol nesaf. 4. Fod y Gynadledd hon yn llawenhau wrth weled cymaint o ymdrech yn cael ei wneyd i godi yr achos dirwestol i sylw, ac yn dymuno am i'f brodyr y Parch J. Jones, Machynlleth, a Mr Joseph Evans, Croesoswallt, i :fod yn gynrychiol- wyr drosti yn Nghymanfa Ddirwestol y Jubili, yr hon a gynelir yn Carnarfon yn mis Medi nesaf. 5. Awdurdodwyd y Cadeirydd i arwyddo deiseb dros yjGynadledd i'r Senedd o blaid can y tafarn- dai ar y Sabboth yn Lloegr. 6. Fod y Gynadledd yn dymuno am i'r brodyr Mr Ellis Roberts, Llanfyllin, a Mr J. P. Williams, Llanfyllin, i archwilio cyfrifon Pwyllgor Acbosion Gweiniaid y Sir, a bod yr adroddiadohonynti gael ei gyhoeddi a'i wasgar i'r eglwysi. 7. Fod y Gynadledd yn awdurdodi Trysorydd y Drysorfa Sirol i dalu allan ohoni y symiau canlyn- ol :— £ 7 i weinidogaeth Penybont. < £ 5 i Lanid- loes i gario yn mlaen y weinidogaeth yn Glan- hafren.. X5 i weinidogaeth Meifod, a X3 i wein- idogaeth Penycoed. 8. Fod y Gynadledd hon yn chwenychu datgan ei gofid oherwydd colli o'n plith ein hanwyl frawd y Parch M. B. Jones, Meifod, drwy weinidogaeth angeu, yn nghyda'n gwerthfawrogiad o'i fawr 11 11 1 wasanaeth i giefydd yn Meifod, yn enwedig drwy ei .1afur caled a diflmo yn adeiladu yno gapel hardd, ac agos ei ddiddyledu, ac yn dymuno cyd- ymdeimlo yn ddwys &'i weddw alarus a'i amddifad yn nghyda'r eglwysi oedd dan ei ofal, gan obeithio y bydd nawdd ac amddiffyn Duw mewn modd neillduol drostynt oil. 9. That this Conference desires to express itg appreciation of the comprehensive Bill introduced into Parliament for the promotion of Intermed- iate Education in Wales, highly approves of its general principle, and at the same time is strongly of opinion that the objections generally felt in regard to the Representation Clauses should be so modified as to meet the exigencies of the Princi- pality, and secure the confidence of the great majority of the Welsh people. 10. That this Conference desires to express its most heartfelt gratitude to Almighty God that the dark clouds which so recently threatened war between us and Russia seem at length to have been effectually dispersed and it begs hereby to congratulate most warmly Mr Gladstone and his Ministry on the wise and Christian method which has been adopted to bring about such a happy and honourable issue. 11. That this Conference rej oices at the atti- tude generally taken up by the Welsh constituen- cies to support only those candidates who are in favour of the Disestablishment and Disendowment of the Church of England in Wales, and earnestly appeals both to the old and new electors to use every legitimate means to return such candidates at the next general election with a decisive and triumphant majority. 12. Fod y Gymanfa y flwyddyn nesaf i fod yn Llanrhaiadr. Prydnawn dydd Iau am 2 o'r gloch, cynai- i wyd cyfeillach grefyddol o dan lywyddiaeth y Parch H. Powell, Drefnewydd y cadeirydd ■etholedig am y flwyddyn ddyfodol. Wedi i'r Parch Dolvan Lewis, Penarth, ddechreu y eyf. arfod trwy ddarllen a gweddio esgynodd y Parch J. Silin Jones i'r pwlpud i ddarllen papyr ar Berson a Gvvaith yr Ysbryd Glan." Caf- wyd ganddo ar ei waith yn ymddiosg o'i swydd fel cadeirydd am y flwyddyn flaenorol bapyr galluog a gwerthfawr. Siaradwyd ar gynwys- iad y papyr gan y Cadeirydd, Mr Thomas, Glandwr Mr Davies, Amwy thig Mr Jenkins (B.), Croesoswallt; Mr Parry (M), Croesos- wallt; Mr Evans, Llundain; A1 r C. R. Jones, Llanfyllin a Mr Jones, Machynlleth. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr Jones am el wasanaeth yn y gadair am y flwyddyn, ac am Y