Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

[No title]

I Cynwysiad. I

Advertising

Y WTTIIMi

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y WTTIIM Y GERI MARWOL. Mae y clefyd dinystriol hwn yn parhau yn ddrwg iawn yn Ysbaen.* Allan o 1,046 gymerwyd yn glaf mewn un diwrnod diwedd yr wythnos ddi- weddaf, bu 520 feirw. YNADON NEWYDD I GAERDYDD.—Dydd Gwener diweddaf, derbyniodd Mr Wheatley, Ysgrifenydd Trefol Caerdydd, hysbysiad swyddogol oddiwrth yr Arglwydd Ganghell- ydd fod y boneddigion canlynol i gael eu hychwanegu at ynadon y dref, sef Mr Robert Bird, Major Sloper, a Mr Jobn Bovey. CAUAD TAI COFFI CAERDYDD AR Y SABBOTH.—Yn nghyfarfod y cwmni, nos Wener, pasiwyd penderfyniad i gauad y tai ucbod ar y Sabboth am ddau fis, er gwneyd prawf a fydd galwad am eu hagor yn y dyfodol ar y Sul. GWEITHRED GYNTAF YR YSGRIFENYDD CARTREPOL.-Dywedir mai un o weithred- oedd cyntaf Syr R. Cross, yr ysgrifenydd newydd, ydyw gwneyd i ffwrdd a'r 50 o detectives Gwyddelig a gadwyd yn Llundain trwy orchymyn ei flaenorydd, Syr William Harcourt. Cychwynodd 25 obonynt am yr Iwerddon dydd Llun, a bydd y gweddill yn cychwyn dydd Llun nesaf. LLOSGI DELW IARLL SPENCER.-Dydd Mercher diweddaf, yn Dublin, darfu i'r blaid o Wyddelod a adnabyddir wrth yr enw y Nationalists gyneu tan mawr ar y Green, a llosgi delw y boneddwr uchod, er dangos eu hatgasrwydd tuag ato ar ei ymadawiad a'r Castell i roi lie i'w olynydd. Traddodwyd anerchiadau gan yr offeiriaid Pabaidd yn cymeradwyo y weithred. RHODD 0 X500 I GOLEG ABERYSTWYTH. -Mae y boneddwr caredig Mr David Jones, Bryndedwydd, Corwen, wedi gadael y swm anrhydeddus uchod i'r coleg yn ddiamodol. Grocer llwyddianus oedd Mr Jones yn Liverpool, a da iawn ei fod yn cyflwyno rhan o'i gyfoeth at sefydliad mor deilwng. MR ROWLAND WINN.—Mae Ei Mawrhydi wedi gweled yn dda i godi y boneddwr hwn —y Conservative Whip-i Dy yr Arglwyddi. Adnabyddir ef o hyn allan o dan y teitl Baron St. Oswald of Nostell. Llenwir ei le yn y Ty Cyffredin gan Mr Akers-Douglas. ETHOLIAD CYMRO YN SIRYDD DROS LLUNDAIN.—Dydd Mercher, etholwyd Mr Alderman David Evans yn sirydd dros y Brifddinas, ac nid yw yn anhebyg y gwelir ef, os ca einioes, yn llanw y swydd o Ar- glwydd Faer Llundain yn mhen ychydig flynyddau. Da genym grybwyll mai Cymro mewn iaith a tbeimlad yw Mr Evans. Mab ydyw i'r diweddar Mr Thomas Evans, Llan- trisant, Morganwg, ac er nad yw ond cymharol ieuanc, y mae wedi enill iddo ei hun enw a safle anrbydeddus yn y Brif- ddinas, ac edrychir yn mlaen ato fel un a wna aelod defnyddiol yn y Senedd heb fod yn hir. Efe yw y prif bartner yn y ffirm enwog, Mri Richard Evans a'i Gwmni, Watling-street, Llundain, MR SAMUEL MORLEY YN GWRTHOD CAEL EI WNEYD YN BENDEFIG.-Mae ein Brenines wedi teimlo ar ei chalon i gynyg codi y bon- eddwr Cristionogol uchod i Dy yr Ar- glwyddi, a bid sicr dysgwylid iddo wisgo teitl ac enw newydd; ond y mae yn well gan Mr Morley wrthod yr anrhydedd, a chadw yr hen enw syml Samuel Morley- enw sydd mor adnabyddus, yn enwedig yn I y y byd Cristionogol. Diolch i'w galon am ddangos digon o hunanymwadiad i wrthod y dyrchafiad. Trueni o'r mwyaf fuasai cuddio neu gladdu yn fyw enwau syml mor adnabyddus a dylanwadol a William Ewart Gladstone, John Bright, Richard Cobden, Samuel Morley, Henry Richard, &c., trwy roddi iddynt deitlau mawreadog na fuasai un o bob mil o'u hedmygwyr byth yn gallu eu hadnabod. Mae swyn, nerth, a dylanwad yn perthyn i'r enwau uchod yn bresenol, a thrueni mawr fuasai colli y pethau dymunol crybwylledig yn nghanol enwau mawreddog. 0 0

Advertising