Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

---ANGHYWIRDEB TORIAETH.

[No title]

[No title]

CYMANFA DWYREINBARTH OHIO,…

. PWYSAU A MAINTIOLI CENEDL-OEDD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PWYSAU A MAINTIOLI CENEDL- OEDD PRYDEINIG. Y CTMSO BIAU CADEBNID. Y mae adroddiad yr Adran Ddynweddol (Anthropo- logical) a ddarllenwyd yn ddiweddar o flaen y Gym- deithas Brydeinig yn ychwanegiad gwerthfawr at y wyejdor ddyddorol hono. Cynwysa yr adroddiad y cyf- eiriasom ato rai ffeithianystadegol dyddorol. Yr ydym yn dysgu oddiwrtho, nid yn unig y cymerodd y pwyJl- gor eu taldra a'u pwysau, ond hefvd faintioli eu hae'- odau, lliw eu gwallt, llygaid, pryd <edd, gallu cyhyrol, a manylion ereill rhy luosoa i ni i'w henwi. Gellir cryn. hoi yn nghyd ganlyniadau y darsylwadau hyn fel y canlyn Mewn taldra, saif yr Ysgotyn a'i bais gwta yn mlaenaf (68 6-10 o droedfeddi), y Gwyddel yn ail (67 9-10 modtedd), y Sais yo drydydd (67 9-25), a'r Cvmro yn ohf (66 3 5). Yr ydym wedi gosod y ffugyrau hyn yn y modd hawddaf i'w deall ag y medrem, er y gall- asem osod y ffugyran yn fwy manwl gywir pe defnydd- iasem decimals. Mewn pwysaa cymer yr Ysgotyn y lie blaenaf, ychydig dros 165, y Cymro yn ail, ychydig dros 158 pwyg, y Sais yn drydydd, yn 155, a'r Gwyddel yn bedwerydd, 154 pwys. Mae pwysau cyfartal yr oil yn 158 pwys. Oddiwrth y ffugyrau uchod, ymddenays mgiyrYsgot- iaid ydynt y talaf a'r trymaf. Cymer y Saesort y tryd- ydd safle mewn pwysau a maintiolaetb, tra y mae y Oymry a'r Gwyddelod yn cael eu gwrthdroi. Daw y Gwyddel, yr hwn a saif yn ail mewn taldra, yn olaf mewn pwysau, a'r Cymro, er ei fod yn olaf mewn tal- dra, a saif yn ail mewn pwysau. Am bob modfedd o faintioli, pwysa yr Ysgotyn yn agos i ddau b-vys a haner, y Cymro; 2 3-4, y Sais 2" 3-10, a'r Gwyddel rhwng "au bwys a haner a thri chwarter. Oddiwrth hyn, gwelir yn amlwg fod y Cymro, fel y fuwch Gymreig, os yn fychan o faintioli" yn rhagori mewn pwysau ar y mwyafrif o'i gymydogion.

♦' AMRYWION.