Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YK YSGOL SABBOTHOL-I .L.\..1.kJ\..x'--'..LJ-.--..I-JJ"-J-L.-j....

--. MERTHYR TYDFIL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MERTHYR TYDFIL. Y Bwrdd Ysgol.-Dydd Gwener diweddaf, cynaliwyd cyfarfod pythefnosol y Bwrdd o dan lywyddiaeth Mr D. Davies, yr is-gadeirydd. Yn mhlith pethau ereill, penderfynwyd ychwanegu cyflog Mr W. Walters, Twynyrodyn, £10; Mr G. Bevan, Troedyrhiw, £ 10; a Miss Lewis, Peny- darren, £5. Nid oedd yr aelodau yn unfrydol dros roddi y codiad, ond yr oedd y mwyafrif dros wneyd. Derbyniwyd rhybudd oddiwrth Miss S. J. Haman, meistres Ysgol Clwydyfagwyr, ei bod ya bwriadu ytnddiswyddo. Marwolaeth Mr Evan Roberts.-Bydd yn chwith gan lawer glywed fod Ysgrifenydd Cymdeithas Adeiladu Merthyr a Dowlais wedi marw yr wytbnos ddiweddaf yn ei 68 mlwydd oed. Rbyw bythefnos y bu yn cadw ei dy, a llai na byny ei wely. Un genedigol o'r dref oedd Mr Roberts. Cychwynodd ei fywyd trwy gadw ysgol yn y Dinas, Tonyrefail, Llancarfan, &c. Yna dychwel- odd i Ferthyr, a bu yn ysgrifenydd am flynyddau yn swyddfa Mr Hill, Plymouth. Tra yno, enillodd ffafr ac anrhydedd fel y cafodd ei ddyrchalu i fod yn arolygwr ffwrnesi, yr bon swydd a ddaliodd am 18 mlynedd, hyd nes y prynwyd y gwaith gan Mr Fothergill. Tua'r amser yma, cychwynwyd y Metthyr and Dowlais Building Society, a chafodd ei benodi yn ysgrifenydd iddi, gan lanw y swydd gydag anrhydedd am 13 mlynedd-hyd ei farwol- aeth. Bu yn briod dair gwaith, ac y mae i alaru ar ei ol weddw ac un bachgen. Gladdwyd ef yn nghladdfa gyhoeddus y dref dydd Iau. Tan.—Dihunwyd a dychrynwyd amryw o breswylwyr rban isaf y dref, rhwng 2 a 3 o'r gloch boreu dydd Iau, gan waeddiadau, "Tan, tan," pryd y cafwyd ar ddeall fod tan wedi tori allan yn ngwesty y Crown, Ileol-fawr. Yn y gegin y torodd allan, a bu agos i letywr a gysgai yn yr ystafell uwchben gael ei fygu i farwolaeth. Daeth nifer o heddgeidwaid ac ereill i'r lie mewn amser byr, a llwyddwyd i gael digonedd o ddwfr at wasanaeth y peiriant tan heb fawr oedi, fel y cafwyd y tan o dan law mewn ychydig amser, a chafwyd y lletywr trwy y ffenestr. Pe gadewsid ef yno am ychydig amser yn rhagor, buasai y bywyd wedi ei aberthu. Trwy brydlondeb y peiriant tan a digon o ddwfr wrth law, ataliwyd y tan rhag ytnledu. Nid oes gwybodaeth pa sut y dechreuodd.

Advertising