Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA - ANNIBYNWYR SIR GAERNARFON.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA ANNIBYNWYR SIR GAERNARFON. Cynaliwyd yr uchod eleni yn Mhorthmadog, ar y dyddiau Mercher a Iau, Gorphenaf laf a'r 2il. Y GYNADLEDD. Am ddau o'r gloch y dydd cyntaf, etholwyd y Pjirch E. Herber Evans i'r gadair, yr hwn a'i llanwodd yn wir deilwng. Galwodd y Cadeir- ydd ar y Parch LI. B. Roberts; Caernarfon, i fldechreu drwy ddarllen a gweddio. Yr oedd yn bresenol yn y Gynadledd y Parchn T. P. Evans, Pontardulais J. Miles, Aberystwyth T. Nicholson, Dinbych; T. Rhondda Williams, Castellnedd; T. Jones, Tabor E. James, Nefyn E. W. Griffith, Bethel; L. Probert, Porthmadog D. P. Davies, Penmaenmawr J. U. Jones, Hebron; R. S. Williams, Bethesda; O. Jones, Pwllheli; R. Rowlands, Treflys W. E. Jones, Colwyn W. B. Marks, Cricieth; R. Lumley, Trevor T. J. Teynon, Cwmyglia; D. S. Thomas, Penrhyn D. G. Evans, Harlech; R. Hughes, Abersoch; E. Jones, Llanbedrog; W. W. Jones. Pisgah; H. Davies, MoeJtryfan D. Jones a T. 'Williams, Capel Helyg; D. S. Jones, Chwilog; J. Davies, Llithfaen; W. P. Williams, Waenfawr L. Williams, Bont- newydd; W. P. Hughes, B.D., Beulah; J. Walters. Brithdir; H. Hughes (M.C.), Bryn. kir; H. W. Parry, Chwarelgoch; H. S. Jones, Maesydref; J. E. Owen, Llanberis; a R. Jones, Pentir. Pregethwyr: — Mri W. Hughes, Pendref, J Caernarfon; R. Williams, Penygroes; Ellis Jones, Pwllheli; D. Griffith (ieu.), Dolgellau;; H. P. Thomas, Morfa Bychan J. Jones, j Chwilog; W. Owen, Hebron; H. Morris a G. Jones, Ceidio; a R. J. Williams, Llanberis. Diaconiaid a Chenadon: — Mri W. J. Williams, J. R. Pritchard, a O. R. Owen, Car- narfon; O. Williams a J). Owen, Bethel; E. Jones a R. Williams, Chwilog; R. Griffith, Fourcrosses; O. Jones, The Goat Villa J. Jones, Tabor; T. Williams, Penygroes; S. Evans, Bangor; J. Parry, Penrhyn R. Roberts (Llew Glas), Cricieth; S. Roberts a R.Roberts, Llanystumdwy; H. H. Owen, Pentir; E. Hughes, Maesydref; J. Griffith, Cilgwyn R. Morgan, Llanllyfni Cadben Jones a W. Edwards, Nefyn J. Roberts, R. Roberts, a E. Griffiths, Trevor; T. Owen, Carmel; T. Edwards, Bethlehem L. Jones, J. Williams, a D. Roberts, Borth; J. Jones, Braichysaint; Cad. D. liichards, Cad. Morris Jones, W. Timothy, 0. Hughes, W. Evans, Dr Jones- Morris, O. Jones, T. E. Morris, B.A., J. Jones Morris, R. Mc Lean, J. P. Jones, Cad. D. Morris, J. Roberts, R. Morris, W. Evans (ieu.), W. Owen. H. Jones, G. Griffith, J. Jones, S. Eichards, Cad. Richards, D. Jones a R. Jones, Morfa Bychan. Trwy fod y Gynadledd mor lluosog, dichon fod ereill yn bresenol, y rhai na chawsom eu henwau. 1. Darllenwyd penderfyniadau y Gymanfaflaen- orol, a chadarnhawyd hwynt. 2. Fod y Gymanfa nesaf i'w chynal yn Mhen- maenmawr. 3. Fod y Parch E. Herber Evans i fod yn Gadeirydd y Gymanfa y flwyddyn ddyfodol. 4. That the Annual Assembly of the Congrega- tionalists of Carnarvonshire, held at Port- madoc on the 1st defy of July, 1885, begs most earnestly that Her Majesty's Government willy include a Welsh Intermediate Education Bill among the measures to be proceeded with during the present Parliament. 5. Fod y Gynadledd hon yn dymuno datgan yn y modd mwyaf diamwys ei theimlad o golled fawr ar ol y Parch E. Stephen, Tanymarian, yr hwn a fu ain dyrnhor maith yn weinidog llwydd- ianus a phregethwr poblogaidd yn ein plitb, ac a fa o wasanaeth acghymharol i gerddoriaeth gy-segredig yn y Dywysogaeth, a'n cydymdeimlad a'i deulu, ac a'r eglwysi a fwynhaodd ei wasanaeth ardderchog am flynyddau lawer. 6. Ein bod fel Cynadledd yn dymuno amlygu ein cydymdeimlad a Dr Thomas, Liverpool, yn ei gystudd presenol, a'n'siomedigaeth o golli ei was- anaeth gwerthfawr, yn neillduol pan newydd gael ein hamdaitadu fel enwad o gynifer o weinidogion enwog, a dtfnyddiol, ond yn teimlo yn llawen am nad yw ei gystudd yn un trwm, ac yn dymuno iddo gael llawer o gysur crefydd yn bresenol, a chael adferiad buan fel y gallo lenwi ei wahanol gylchoédd pwysig megys cynt. nx yd y Parch L. Williams, Bontnewydd, a Mr J. R. Pritchard, Caernarfon, i fyned yn gyn- rychiolwyr drosom i Gynadledd a Chymanfa y Jubili Dirwestol, Gogledd Cymru, yr hon a fwr- iedir ei chynal yn Nghaernarfon yn mis Medi nesaf. 8. Fod y Gynadledd bon yn taer ddymuno ar bawb sydd wedi derbyn cylchlythyrau oberthynas i Ddeddf Cau y Tafarnau ar y Sabboth yn Nghymru, eu llenwi a'u dychwelyd yn ddioed i'r Parch S. Owen, Tanygrisiau, neu i'r Parch D. G. Evans, Harlech, fel y gellir gwybod beth yw ffrwyth y ddeddf hono yn mhob ardal. 9. Ein bod fel Cynadledd yn nodi i sylw Pwyll- gor y Gymanfa Gerddorol y 27ain o Awst, fel y dydd mwyaf cyfleus i'w chynal. 10. Ein bod fel Cynadledd yn taer ddymuno ar Mr S. Morley, A. S., roddi ei bresenoldeb, a chymeryd y gadair yn y Gymanfa Gerddorol, yr hon a fwriedir ei chynal yn y Pavilion yn Caer- narfon yr haf hwn, 11. Penderfynwyd anfon llythyr yn datgan ein diolchgarwch diffuant i Mr Morley am ei rodd haelionus at acbosion gweiniaid y sir, gan obeitbio y bydd iddo barhau i ddangos yr un ysbryd hael- ionus yn y dyfodol, ag sydd wedi ei ddangos gan- ddo yn y gorphenol. 12. Fod y Gynadledd hon yn taer ddymuno ar yr eglwysi hyny sydd heb gasglu at Gymdeithas yr "Achosion Gweiniaid i wneuthur hyny yn ddi- oedi, fel y gellir rhoddi cyfrif am danynt yn yr Adroddiad nesaf. Dywedodd y Parchn T. Jones, Tabor; E. James, Nefyn a Mr J. R. Pritchard, Carnarfon, air mewn ffbrdd o symbyliad i'r eglwysi i ym- helaethu yn eu cyfraniadau at achosion gwein- iaid y sir. Yr oeddynt yn cydnabod fod hael- ioni mawr yn cael ei ddangos, ond eto y mae He." Trwy fedrusrwydd a chyflymdra y Cadeir- ydd, diweddwyd y Gynadledd hon yn brydlon a boddhaol nodedig. Terfvnwyd drwy weddi gan yr hen bererin hoff, O. Williams, Bethel. Teim- lem wrth ymadael o'r Gynadledd fywiog hon, fod gan y bobl galon i weithio gwaith Duw." Y MODDION CYHOBDDTJS. Am saith, nos Fercher, yn Salem, dechreuwyd gan y Parch E. Herber. Evans, a phregethwyd gan y Parchn T. Rhondda Williams, a T. P. Evans. Yr un adeg, yn y Capel Coffadwriaethol, dechreuwyd gan y Parch R. Lumley, a phreg- ethwyd gan y Parchn T. Nicholson a J. Miles. Pregethwyd hefyd nos Fercher yn y lleoedd canlynolPenymorfa, y Parchn LI. B. Roberts a R. W. Griffith. Berth, y Parchn J. E. Owen, a-E. Rowlands. Morfa Bychan, y Parchn L. Williams, a 0. Jones. Am saith, boreu dranoeth, cafwyd cyfeillach grefyddol o dan lywyddiaeth y Parch L. Probert y gweinidog. Caed cyfeillach luosog, adeiladol, a buddiol dros ben. Yr oedd teimlad pawb wedi rhedeg yn uchel iawn cyn diwedd y gyf- eillach hon. I Am ddeg, ar y maes, dechreuwyd gan y Parch E. James, a phregethodd y Parchn T. Rhondda Williams, a D. Jones, B.A., Abertawy. Am ddau, dechreuwyd gan y Parch D. P. Davies, a phregethwyd gan y Parchn J. Miles, a T. P. Evans. Am chwarter wedi pump, dechreuwyd gan y Parch T. Rhondda Williams, a phregethwyd gan y Parchn T. Nicholson, a D. Jones, B.A. Dygodd hyn i derfyniad Gymanfa ragorol Porthmadog am eleni. Y r oeddyn llawen gan bawb oedd yn bresenol ddeall fod D'r Thomas, Liverpool, yn adfeddianu ei nerth a'i iechyd arferol, gan obeithio fod iddo flynyddau lawer eto i efengylu anchwiliadwy olud Crist" yn ein gwlad. Yr oedd yno adgofion hiraethus yn mynwesau llawer o'r hen dadau am Emrys, Dr Rees, Tanymarian, a lluaws ereill a hunasant yn yr lesu," ond eich tadau, pa Ie y maent hwy? a'r proffwydi ydynt hwy yn fyw byth?" Tra yn gofidio yn ddwys iawn oblegid eu colli hwy, yr ydym yn diolch fod Duw yn aros gyda ni, ac yn parhau i gyfodi gweision teilwng yn He y rhai a gymerwyd ymaith. Haedda y Parch L. Probert, y diaconiaid, a'r eglwysi, ganmoliaeth gyffredinol am eu darpar- iadau rhagorol ar gyfer y Gymanfa, ac am y croesaw caredig a roadasant i'r dyeithriaid. Ond yn benaf dim, dymunwn gydnabod Duw yn ddi- olchgar am hin hyfryd, ac am nerthu ei weision i bregethu gyda nerth a dylanwad i'r miloedd a ddaethant yn nghyd. Yr oedd y rhai oedd yn "brudd am y Gymanfa" cyn dyfod iddi, ytt myned i'w ffordd yn llawen i fynegi am ddaioni Duw. Hyfryd iawn oedd genym ddeall aID lafur a llwyddiant yr eglwysi parchus sydd o dan ofal Mr Probert, Y maent wedi cyflawni gwaith mawr yn ystod y gauaf a'r gwanwyn diweddaf, drwy dalu swm mawr o ddyled y Deml Goffadwriaethol yn ogystal a phethau ereill. Os bydd iddynt barhau i ddangos yr un diwydrwydd am ychydig eto, byddant wedi talu y ffyrling eithaf." Hyderwn y bydd y Gymanfa a gafwyd yn gyfnerthiad iddynt, ac yu lloniant i'w hysbryd, yn ogystal a bod yn fodd- ion i ddychwelyd llawer o bechaduriaid at Dduw. Diau y rhoddir i'r Gymanfa dderbyniad serchog yn Mhenmaenmawr yr haf nesaf, ac y mae lie arall yn barod i'w derbyn yn haf 1887. 0

CYMANFA MYNWY.