Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB D WYREINIOL MORGANWG.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB D WYREINIOL MORGANWG. Oynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb Uchod yn Nghastellau, dydd LIun a dydd Mawrtk, Mehefin y 29ain a'r 30ain. Y Gynadledd am haner awr wedi 2 o'r gloch Y dydd cyntaf, a'r Parch T. George, Dinas, yn llywyddu. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch J. Davies, Taihirion. Darllenwyd a chadarnha- ^yd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Pender- fynwyd:— 1. Fod derbyniad croesawus yn cael ei roddi i'r Parchn D. L. Evans, Pontypridd, a O. H. Hughes, Tylor's Town, i'n plith. 2. Cafwyd ymddyddan go faith ar gynygiad y Parch W. E. Evans, Tresimwn, sef Fod Papyr i gael ei ddarllen ar ryw bwnc crefyddol yn mhob Cynadledd." Gohiriwyd y mater hyd y cyfarfod Oesaf. 3. Mudiad y Jubili oedd y mater nesaf fu o dan sylw. Am 11 o'r gloch cyfarfu Pwyllgor y Jubili, a- mabwysiadwyd y penderfyniadau canlynol, y rhai a gymeradwywyd gan y Gynadledd. (a.) Ein bod yn adnewyddu yr amodau i'r eglwysi, ac i fod y cyfrandaliadau i gael eu rhoddi i bob eglwys a ddaw i fyny a'r amod- au o hyn hyd ddiwedd Rhagfyr nesaf. (b.) Ein bod yn dymuno ar y^arch J. Davies, TaihirioD, i ysgrifenu apeliad at eglwysi y Cyfundeb am gymhorth at Drysorfa y Jubili, yn hytrach nag i'r gweinidogion ymweled a hwy fel y gwnaethant yn y ddwy flynedd a aethant heibio. (c.) Ein bod yn gohirio dosranu y cyfrandal- iadau am y flwyddyn hon hyd y cyfarfod nesaf. 4. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Beulah, ■kglwysnewydd, yn nechreu' Hydref, os yn gyfleus. 5. pod y Parch D. L. Evans, Pontypridd, i Pjegethu yn y cyfarfod nesaf ar bwnc a roddir Iddo gan eglwys Beulah, a'r Parch J- James, •oethesda, yn ol ei ddymuniad ei hnn, gan iddo tethu bod yn bresenol yn y cyfarfod hwn, ar y Pwnc a roddwyd iddo yn y cyfarfod blaenorol, sef Yabrydolrwydd y Beibl." Diweddwyd trwy weddi gan Mr Idris Williams. Y MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd gan y Parchn O. L. Roberts, Pentyrch; D. G. Rees, Eglwysnewydd; J. Henry, Maerdy; T. George, Dinas; J. yiUiams.Hafod; D. Thomas, Cymer; W. E. Evans, Carmel; a J. C. Evans, Gilfackgock. Deckreuwyd y gwakanol gyfarfodydd gan Mr Davies, myfyriwr o Aberhonddu, y Parchn J. V- Evans, Gilfachgoch; L. Rees, Llanharan a ■Mr Idris Williams. Talwyd diolchgarwch cynes i Mr Davies a'i bobl am eu sirioldeb rhyfeddol i'r iioll ddy- eithriaid. Cafwyd cyfarfodydd gwerthfawr. Yr oedd y pregethau yn rymus, y gwrandawiad yn astuda thyner, yr hin yn deg, ac anian yn dlos o gylch y lle, a natur a gras fel ar eu goreu i'n gwneyd yn ddedwydd. W. I. MOERIS, Ysgrifenydd.

Advertising

.. LLYTHYR 0 AMERICA.

'M A E S T E G.

CYMANFA MYNWY.