Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ty YR ARGLWYDDI. — Dydd Llun. — Cymerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei sedd ar y sach wlan am chwarter i 4 o'r gloch. Wedi i amryw o Ar- glwyddi newyddion gymeryd y llw gofynol, cod- odd Arglwydd Salisbury i fyny i wneyd ei fyneg- iad. Ni ddywedodd yn eglur beth fwriadai ei y n wneyd, ond ytnfoddlonodd yn unig ar fynegi ein sefyllfa bresenol yn nglyn a'r Aipht a Rwsia, heb ddyweyd yn bendant beth fwriadai ei wneyd, ond yn unig mewn awgrymiadau. Wedi iddo derfynu cododd larll Caernarfon i fynegi fod sefyllfa bre- senol yr Iwerddon mor rhydd oddiwrth droseddau, ac mor heddychol a thawel, fel nad oedd y Llyw- odraeth yn barnn fod angea am adnewyddu y Crimes Act. Yn ei lie bwriadent ddwyn i mewn Fesur Tir. Cwynai larll Kimberley yn erbyn y bwriad i reoli yr Iwerddon trwy y gyfraith gyff- redin. Wedi ychydig eiriau gan Due Argyll a,c Arglwydd Rosebery, cododd y Ty. Ty Y CYKFREDTN, — Cymerodd y Llefarydd ei sedd am 4 o'r glocb. Yn union gwnaeth Mr Bradlaugh ei ymddangosiad o flaen y Bwrdd i gymeryd y llw. Cyn iddo wneyd hyny, cododd Canghellydd y Trysorlys i gynyg penderfyniad, ei fod yn anghymhwys i wneyd hyny, a gwnaeth araeth. Cododd Mr Healy a Mr Parnell i bwynto drefn, fod Mr Bradlaugh yn cael aros i fewn tra yr oedd ei achos o dan sylw. Rheolodd y Llefarydd fod y cwbl mewn trefn. Yna cynygiodd Mr Hopwood welliant, yn mynegi fod angen am gyf- newidiad yn y ddeddf, a bod hyny yn cael ei wneyd yn ddioed. Eiliwyd gan Syr W. Lawson. Cefnogwyd gan Mr Gladstone. Ar raniad y Ty cafwyd dros y gwelliant, 219. Yn erbyn, 263. Mwyafrif, 44. Hawliai Mr Labouchere rann y Ty ar y penderfyniad, ond mynegodd Mr Gladstone ei fwriad i beidio a pbleidleisio ar hwnw. Cyn i'r rhaniad gymeryd lie aeth Mr Gladstone allaD, a dilynwyd ef gan agos yr holl Ryddfrydwyr, a chytunwyd nad oedd Mr Bradlaugh i gael cymeryd y llw. Dywedodd Canghellydd y Trysorlys y buasai dranoeth yn mynegi beth fuasai gan y Ty i'w wneyd. Dymunai Mr Gladstone ei hysbysu fod dysgwyliad cryfyny wlad am y Crofters Bill, neu tebyg iddo, am Fesur Addysg Ganolraddol i Gymru, ac am Fesur Mr Jesse Collings, &c. Nid cedd y Llywodraetb, meddai y Canghellydd, yn bwriadu dwyn dim i fewn fuasai yn cynwys materion dadleugar, a bod y mesurau y cyfeiriwyd atynt yn cynwys mater dadleugar. Yna aed i Bwyllgor Cyflenwad.

COLEG CAERFYRDDIN.

Advertising

Y TABERNACL, LIVERPOOL. >…

MERTHYR TYDFIL. -

OYFARFYDDIAD Y SENEDD.