Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
CYMANFA GERDDOEOL ANNIBYNWYR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA GERDDOEOL ANNIBYN- WYR LLANBEDR A'R CYLCHOEDD. Cynaliwyd yr uchod eleni yn Soar, Llanbedr, dydd LIun, Mehefin 15fed, o dan arweiniad y Parch W. Etnlyn Jones, Treforris. Am 11 o'r gloch, cafwyd rehearsal i'r dybeu i'r arweinydd a'r cantorion ddyfod i ddeall eu gilydd. Am 2 o'r gloch, dechreuwyd gan Mr Jones, Drefach. Yn absenoldeb y Parch D. Williams, Rhydybont, .etholwyd y Parch T. Thomas, Llan- fair, i lywyddu, yr hwn, wedi rhoddi anerchiad pwrpasol, a alwodd ar yr arweinydd at ei waitb. Canwyd Innocents, Manheim, Normanton, "Mae heddyw'n ffynon hyfryd lawn," Altona, a Penry. Cynygiwyd gan y Llywydd, eiliwyd gan y Parch H. Jones, Ffaldybrenin, cefnogwyd gan Caradog ac Emlyn Jones, a phasiwyd penderfyniad yn datgan ein colled fel Enwad a chenedl yn wyneb marwolaeth y Parch E. Stephen, Tanymarian, yn ogystal a cbydymdeimlad a'r perthynasau dan- gosodd y gynulleidfa arwydd o'i chycisyniad a'r cynygiad trwy godi ar ei tbraed. Yna canwyd y don Tanymarian, a'r anthem" I ti, Arglwydd." Am 6 o'r glocb, dechreuwyd gan Mr Evans, Penmain. Llywyddwyd gan y Parch H. Jones, Ffaldybrenin, a chafwyd anerchiad rhagorol ganddo.. Canwyd Chichester, Calfaria, Aber- ystwyth, Tadmor, Gwalia, Pen Nebo, Bryniau Canaan, "'Rwyn gweddio drosoch chwi," ac "Ar lan Iorddonen." Trodd y Gymanfa allau cystal a dysgwyliad y goreu am dani. Cafwyd anerchiadau buddiol'a da T? cyfarfodydd gan Mri J. Thomas, Llwynffynon, Llanbyther; T. Jones, Llangybi; J Evans, Mark-lane; J. Thomas, College-street; y Parchn Davies, Tynygwndwn Evans, Penmain Thomas, Soar; Thomas, LIanfair; ac yn enwedig gan yr Arweinydd-nid yn fuan yr aiff ei gyfar- wyddiadau o'n cof. Yn y prydnawn, cynaliwyd pwyllgor yr undeb, yn yr hwn y penderfynwyd fod y Parch W. Emlyn Jones i fod yn arweinydd y Gymanfa y flwyddyn nesaf eto, yr hon sydd i gael ei chynal yn Rhydy- bont.
UNDEB YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR DOSBARTH TREFFYNON. Cynaliodd yr Undeb uchod ei Chymanfa flynyddol yn Nhreffynon dydd Mercher, Mehefin 24ain. Cynaliwyd dau gyfarfod-un am ddau y prydnawn, a'r Hall am chwech yn yr hwyr, yn Rehoboth, addoldy eang y Methodistiaid Calfin- aidd. Er ein dirfawr siomedigaeth, trodd y tywydd yn hynod o anSafriol; und er garwed yr hin, dangoswyd sel mawr, a daeth mwy i'r wyl eleni na'r llynedd. Cynwysa yr Undeb ddeg o ysgolion, ac yr oedd o leiaf bymtheg cant o bobl yn bresenol. Llywydd cyfarfod y prydnawn ydoedd Mr John Jones, Rhesycae. Decbreuwyd trwy weddi gan y Parch 0. Thomas, M.A. Cafwyd ychydig eiriau yn gynes gan y Llywydd. Llongyfarchodd yr Ily Undeb ar y sel a arddangoswyd yn wyneb y fath anfanteision, ac hyderai y byddai y cyfarfodydd yn profi yn fendithiol i'r holl ysgolion. Yna aed yn mlaen ft gwaith y cyfarfod. Canwyd Ernan ar y geiriau Gwaith byfryd iawn a melus yw yn effeithiol dros ben, a chanodd y plant "Fe'n harweinia'n dyner," o Odlau'r EJengyl, nes swyno pawb â'u hacenion melus. Caowyd St. Cross ar y geiriau "0 ddydd i ddydd, o awr i awr," a "Cwrdd yn nbref" gan y plant. Holwyd y dosbarth canol gan Mr John Roberts, Gwaonyscor, yn Hanes Joseph. Er maintioli y capel a dyeithr- wch y lie, gwnaeth yr holwr a'r plant eu gwaith yn ardderchog, gan roddi boddlonrwydd i bawb. Canwyd Navarre ar y geiriau » Agorwyd teml," ar anthem, H Moeswch i'r Argl wydd" gan J. Thomas. Diweddwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch S. Thomas, Newmarket. Yr oeddym wedi bwriadu cael gorymdaith fawreddog trwy beolydd y dref, ond oherwydd sefyllfa y tywydd, gorfu i ni roddi heibio y bwriad. -belly, gollyngwyd pawb yn uniongyrchol o gyf- arfod y prydnawn i gael lluniaeth yn ngwahanol ysgoldai y dref. Llywydd cyfarfod yr hwyr ydoedd Mr Thomas Roberts, Gwaenyscor. Dechreuwyd trwy gaau Mendelssohn a gweddi gan y Parch D Jones, ana gyn Dywedai y Llywydd fod y parotoadau !,aind,m/trifrfWy y? ?icr 0 brofl yn fendithiol, yn neillduol y llafur gyda r canu cynulleidfaol. Yna canwyd Clorach ar y geiriau. Daeth ffrydiau melus iawn." Holwyd y dosbarth hvnaf o'r gynulleidfa yn Gen. i. gan y Parch H. Uwchlyn Jones, Rhesycae. Aeth Mr Jones i lafUP maWr i barotoi gofymadau, ond drwg genym nad oedd yr amser yn caniatau iddo ofyn ond cyfran fechan ohonynt. Meddyliwn mai y dull goreu i holi pobl mewn oed a phlant mewn cyfarfodydd mawr o'r fath yma ydyw trwy gynorthwy holwyddoreg neu gatecism. Ni byddai raid i'r holwr gyfyngu ei bun i'r cwestiynau argraffedig, ond byddai hol- wyddoreg yn fantais i'r ysgolion ddysgu yr atebion, a'u cydateb fel un gwr. Mae ein brodyr y Methodistiaid Calfinaidd yn deall y pwnc hwn yn dda, Bcyn eu cyfarfodydd ysgolion yn defnyddio Hyfforddwr Mr Charles i bwrpas. A gawn ni awgrymu y priodoldeb o fabwysiadu Holwyddoreg Dr W. Rees, neu rywun arall, yn nglyn d'r Gymanfa nesaf ? Wedi gprpben holi y benod, canwyd Chichester, Twrgwyn, a'r Delyn Aur, a Gwelweh pa fath gaviad'' gan y plant. Yn y cyfwng hwn, cafwyd anerchiad rhagorol gan y Parch D. Oliver ar "Godiad a cbynydd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru." Dywedai fod Ysgolion Sabbothol mewn bod yn N ghymru cyn sefydlu yr un gan Mr Charles, ond ei fod yn teilyngu diolchgarwch y genedl am sefydlu Iluaws mawr o ysgolion newyddion, ac am y gweithgarwch a'r sel ddan- gosodd yn nglyn a'r sefydliad. Hefyd, na ddylid gorpb wys ar yr ben ddull o gario pethau yn mlaen yn yr Ysgol Sabbothol, ond y dylid chwilio am gynlluniau newydd, a symud yn mlaen gyda yr amseroedd. Ar ol anercbiad Mr Oliver, canwyd anthem y canmlwyddiant, sef "Toriad y dydd ar Gymru" (Dr Parry). Diweddwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch W. James, Sarn. Dylem ddyweyd cyn terfynu mai arweinwyr y canu oeddynt Mri E. Evans, Bagillt, a J. E. Pierce, Treffynon, a theilyngant ddiolchgarwch yn ngiyn a'r rhan bwn o'r gwaith. Hvderwn y bydd i'r Gymanfa eleni eto adael argraffiadau daionus, a bod yn foddion i beri i'r gwahanol ysgolion geisio rhagori mewn cariad a gweithredoedd da. TREFFYNON YDD. «
CYMANFA CASTELLNEDD A'R• CYLCHOEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA CASTELLNEDD A'R • CYLCHOEDD. Cynaliwyd y Gymanfa ucbod Mehefin 20fed, 21ain, a'r 22ain. Gwahoddwyd i gymeryd rhan yn y Gymanfa eleni-Maesyrhaf, D. WilliatnS, Rhydybont, a T. P. Evans, Pontardulais Soar, W. T. Davies, Llanelli, a J. G. Thomas, Solva; Melincrythan, E. G. Davies, Abertawy, a J. Alan Roberts, B.D., Caerdydd Sciwen, J. B. Williams, Brynaiawr, a D. Thomas. Llanybri; Llansawel* D. S. Evans, Aberdar, a W. Jones, Trewyddel. Cynaliwyd cyfeillach grefyddol am 2 o'r gloch dydd Llun, yn ngbapel Soar, o dan lywyddiaeth y Parch J. Roberts, Maesyrhaf. Siaradwyd gan 7 brodyr uchod, a chafwyd Cymanfa dda. Dilyned bendith lor. A
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
£80,000,000 GOING BEGGING !—50,000 persons have been advertised for by tbe Court of Chancery to claim this money- Mr. R. Robson, a" labourer at Itexh ni has lately recovered from the Court £ 250,000, left 138 years ago. 000 persons oI the name of 8mith alone are entitled to large sums. Messrs. Cox & Co.. 41 Southampton Buildings, Holborn, LondonW.y > are now publishing a list of these 50,000 names in full, pTIce Eightpence (postal order), post free, and every man and woroan in the country should send to them lor it at once, so that th rightful owners_ may be found for this enormous wealt"- Instructions ave'given in this invaluable list how to proceed 1 poor, free of;,cost until the amount claimed is recovered.
CAERDYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERDYDD. Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru.— Dydd Mercher, y 17eg o'r mis diwed iaf, oedd ddiwrnod a hir gofir mewn perthynas a'r Ysgol Sabbothol yn Ngwlad y Bryniau yn mhlith enwad parehus y Method- istiaid Calfinaidd, fel y dydd y cadwasant wyl goffadwriaethol gyntaf ganmlwvddol yr Ysgol Sab- bothol yn Nghymru. Cyfarfu gwahanol Ysjolion Sabbothol y dref a'r cylcb yn Nghaerdydd. Yroeddynt yn dyrfa luosog, hardd ei hymddanoosiad, ac yn eglar ddangoseg o'r mawr ddaioni y niae y sefydiiad oeddent yn ei anrhydeddu yn ei wneyd. Hoffem pe buasai yr boll enwadau yn cyduno yn yr wyl goffadwriaethol-yn tori dros derfynau enwadaeth, ae yn wresog barchu ymdrechion yr hybarch eftngylwr Thomas Charles o'r Bala, yr hwn a fu yn flaenllaw i svlfaeou yr Ysgol Sabbothol yn Nghymra. Yr un gwr oedd pIif sylfaenydd y gymdeithas i roddi Beibl i bawb o bobl y byd." Unodd y gwabanol enwadau yn y flwyddyn 1880 i eynal gwyl goffadwriaethol sylfaeniad yr Ysgol Sabbothol yn LIoe.-r gan yr hyglod Robert Raikes, ac nis gwyddom am un rbeswm digonol-er fod man resymaa VI efi ea rhoddi-dros beidio gwneyd yr un peth yn 1885 er cof anwyl am lafur daionus y diweddar Barchedig Thomas Charles o'r Bala. Ysgoldy Minnie-street, Cathays.-Nos Sadwrn a Sabbath, yr 21ain a'r 22rtin o'r mis diweddaf, cynaliwyd cyfarfodydd blynyddol cyntaf yr eilwys ieuarc a ym- gyferydd yn yr ysjoldy uchod. Y gwe'nidogion etholedig oeddynt y Parchn E. James, Nefyn, a D. Lloyd Williams, Machen. Not Lun, pi'bawyd y cyfarfodydd yn Ebenrzer, pryd y gIXeinyddodd yr un pregethwyr. Dyma y waith pyntaf i'r eft-ngylwr gwreiddiol o Nefyn bregethu yn Nahaerdydd, ac yr oe ld ei gynvrehion o natur nwchraddol, a tine et lais yn wefreiddiol. Pregeth rhagorol oedd eiddo Mr Williams, nos Lun, ar "Faddeugarwch Dnw." Nid ami y clywsom wr mor ieumc yu pregethu mor wresog, nertbol, a duwinyddol, a llawenychem i ganfod olynydd mor deilwng i'r diweddar goethedig weini iog, y Parch T. Leyis Jones. Y mae iddo ddyfodol dysalaer. Prvdnawn y Mercher canlynol, yn dal perthynas a'r un wyl, yn Minne-street, pregethodd y Parch R. Thomas, Glandwr, Abert;iwy ac yn vr- hwyr, yn addnldy y Methodistiaid Calfinaidd yn May-street, y Parchn R. Thomas, a David Morgan, Ystradfellte, yr hwn a ddae'h yn ddamweiniol i'r cyfarfod, fie a gymerodd le y Parch J. Alun Roberts, B.D., yr hwn oedd i bregethu, ond a roddodd ff'ordd i'r gwr dyeithr. Yr oedd y gweision yn pregethu yn hwyliog, y naiil ar "Dnw gyda ni," a'r llall ar Fyw crefydd." CePid emynau dewisedig, ae yr oedd swyn dymunol yn yr holl ganu. Nid ydym yn synu am hyn, gan mai arweinydd can yr eglwys yw y cerddor deallgar ac ymroddgar Mr E. Mawddach Jones. Cesglid yn yr oedfaon at ddi- ddyleda yr ysoaldy. Capel Cynulleidfaol Seisonig Llandaff-road.—Ar y trydydd •Sabboth yn Mebefin, cynaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr YS'lol Sabbothol yn y drefn gan)ynol :— Am 11 y bo eu, cafnyd preaeth dyner ar eiriau v G'.varedwr, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi," gan y Parch Thomas Evans, Star-street. Yn y' prydnawn, anerchwyd y plant gan y Parch Thomas Rae (W), Conway-road; ac yn yr hwyr, traddodwyd pregeth werthfawr ar y fri gair, A oes heddweh ? pregeth werthfawr ar y fri gair, A oes heddweh gan y Parch Robert Jackson, Haunahttreet. Ebenezer.-Rhwystrwyd deiliaid yr Ysgol Sabbothol hon, fel Ysgolion Sabbothol ereiil y Dywysogacth, i fwynban dydd Llunjwyn fel arferol, oherwydd gwlyb- aniaeth yr hin. Penderfynwyd cael diwrnod arall, a'r dydd Mercher cyritaf o'r mis presenol cludwyd deiliaid yr ysgol—y plant bach a'r rhai mawr—o'r ddan ryw efo'r ceffyl tan," i orsaf pentref tlws Llanishen. Trealiwyd y prydnawn cyntaf yn Gorphenaf yn ddifyr mewn Ciie eang, lie yr ymddangosal nator yn ei gogoniant, ac yr oedd yn amheuthyn i breswylwyr y Babifon Gymreig gael anadlu awyr bur a iachus y mynyddau. Yr oedd ysgol M'nnie street, Cathays, hefyd yn y mwynhad o'r im breintian. Charles-street.—Ar y Sabboth diweddaf o Mehefin, dechreuodd y Parch John Williamson, M.A., srynt o Lincoln, ar ei weinidogaeth yn yr addol dy Cynulleidfaol Seisonig sydd yn yr heol nchod. Ei destvn oedd 2 Cor. i. 24. Siaradodd yn hyf a chr ^ew a phobl ei ofal, fel y siarada gwr â'i deuln. Cyfeiriodd yn dyner at ganlyniadau y Sabboth hwnw iddynt fel bagail a. pbraidd. Edrych^i ar yr eglwys fel llyfr pwysig oedd ganddo i fyfyrio-tremiai yn ei gwyneb ar y Sabboth, ac ar ei bywyd yn ystod yr wytljnos yr oedd yn wir ange^rheidiol iddo wybod yr olaf, er ei allnogi i ddarparu ar gyfer eu hangenrheidian ysbrydol. Ni phregethai iddynt yr hyn a amheuai, fel y mae arfer rhai, ond traethai iddynt yr hyn a gredai. Yr oedd fel yr apostol yn dyfod i'w plith, nid mewn un modd i arplwyddiaethu ar eu ffydd, ond i gydweithio a hwy er en IIawenydd. Hyderwn y cynyrcha yr undeb lawenydd hir yn y byd hwn, a diddatfod yn yr hwn a ddaw. Y diweddar Mr Lewis Vincent Shirley.-Nid oedd braidd enw yn Nghaerdydd yn cael ei seinio yn fwy mynyeh nag enw y boneddwr uchod, yr hwn oedd gyfreithiwr Ardalydd Bate, ac y mae yn chwithig cysylltn y gair diweddar a'i enw, ond rhaid gwneyd hyny. Er's tua mis yn ol, aeth dan driniaeth feddygol -aeth trwyddi yn llwyddianus, ac hyrlerid ei ganfod yn troi yn ei gylch cyfrifol yn fuan ond gwaethygodd, a therfynodd ei ddolar blin yn angenol iddo nos Fawrth, y 23ain cynfisol, yn yr oedran o 57. Y dydd Sadwrn canlynol, casglwyd ei iarwol weddillion i fynwent Eglwys Gadeiriol Llandaf. Firm gyfreithiol enwog yn ein tref am flynyddau oedd Mri Luard a Shirley, ond gosododd angen y ddau yn y beddrod tywyll o fewn chwech mis i'w gilydd, gan mai yn nechreny flwyddyn hon y cymerwyd Mr Luard ymaith yn sydyn ac annysgwyliadwy iawn.* Caerdydd. D. L. D.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1885.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1885. Bydd vn dda gan ddarllenwyr Iluosog y TYST A'B Dvdb wybod fod yr holl bsvyllgorau yn gweithio A'a holl alln or dwyn y trefniadau angenrhpidiol i ben. Bu y pwnc o adeiladu Y BABELL yn peri cryn drafferth, ac yn rhwystr ar ffordd pethati ereill i fyned yn mlaen yn ystod yr wythnosau diweddaf, ond y mae yn dda genyf ddyweyd fod y rhwystr yn awr wedi ei symud, a'r gwaith wedi ei ddechreu. Bydd i gost'o tua naw cant o bunau. Gall y cyhoedd gasglu. oddiwrth ei bod i gostio swm mor fawr o arian, y bydd yn un eang, gadarn, a chyfleus. Yn fy nodyn yr wytbnos ddiweddaf, gelwais sylw at y priodoldeb o fod i'r gwahanol weithfeydd drefnu EXCURSIONS i Aberdar yn ystod wythnoa vr Eisteddfod, ac erbyn hyn deallwyf fod y peth yn cael ei gymeryd i fyny, a bod Cwmni y Mardy Colliery yn ta'u am excur sion i'w holl weithwyr i Aberdar yn ystod dyddian yr Eistedd- fod. Gobeithiwn y bydd i ereill eu hefelychu. Gwn fod amryw o'r managers y cefais y p'eser o alw arnyat) yn ystod yr wythnos ddiweddaf, wedi addaw arfer ea dylanwad yn yr un cyfeiriad. Bwriadwn, os yn bosibl, gyhoeddi yr wythnos nesaf Y MAES LLA.FUR, ofyddol, b^rddonol, a cherddorol. HYWEL CYNON, Ysg. Cyff. »