Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

SARON, TREWILLIAM.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SARON, TREWILLIAM. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Carwn i'r llinellau hyn gael ym- ddangos mewn cysylltiad &'r hysbysiad am urddiad y brawd John Grawys Jones, o Goleg CéJerfyrddin, yn Saran, Trewilliam. Dywed ef yn ei lythyr fy mod heb ohebu yn derfynol ar y mater. Nid yw hyny yn wir. Yr oeddis wedi penderfynu hyd yn nod giniaw i'r gweinidogion, a'r lie i'w gynal; ond nid oes clim fel i esbonio pob peth. Mi welais ar Tarian y Gweithiwr yr wythnos ddiweddaf alwad i'r talentog John G. Jones, o Goleg Caerfyrddin, i ddyfod i eglwys oarchns EbenezT, Aberdar a chwi welweh fod yna dalent gan y brawd ond yr wyf yn rhyfeddu am dano ei fod wedi siarad mor gryf yma o flaen yr eglwys hon, a'i fod wedi bod yn gweddio llawer am i'r Arglwydd 1 gyfeirio ei feddwl i'r lIe y gallasai wneyd fwyaf o ddaioni, a'i fod wedi ymgynghori llawer a'i Dduw o gylch y He hwn, a'i fod wedi cyfeirio ei feddwl yma, ac nid i un man arall, ac wedi siarad ag ereill, ae heb Wneyd dim yn fyrbwyll. Ond hyn sydd i'w ryfeddu, fod gan y brawd ddau arglwydd i ymwneyd a hwynt; ond rhaid cydnabod mai y diweddaf sydd yn cael y flaenoriaeth, oblegid gohirio oddiwrth y cyntaf er cael derbyn gan y diweddaf-eglwys gyfoethog Ebenezer, Aberdar. Yr wyf yn gobeithio y byddantyn Ilwydd. lanus igael yr urddiad ar unwaith rhag ofn i Ebenezer, Abertawy, i ddyfod i glywed, nen l'ywle eyffelyb. Mae yn lied debyg y bydd y brawd yn myned mewn rhwysg 1 Ebenezer, gan osod ei droed ar eglwys isel Trewilliam yn llawn bai i gyd yn lie myned yno i'w cyfarwyddo yn ol gorchymyn ei Dduw, ond myned i Damascus, fel Jonöh, druan, ar ffordd pob peth. Ond y mai yn lied debyg na ddianga ef ddim heb gerydd, mwy na Jonah am y tro gwael hwn, ac y bydd rhyw forfil yn ei aros yn rhywle ar ei daith. Yr wyf yn meddwl y gallaf ddyweyd dros yr eglwys hon ein bod wedi maddeu iddo, am ei fod wedi dangos yn amlwg pwy y mae yn ei addoli, gan obeithio y bydd i bawb fod yn onest yn ei broffes. Yr wyf yn credu pe buasem yn cwrdd a phawb fel y brawd hwn, buasai yn well arnom heddyw, felly yr ydym yn ddiolchgar iddo am ei onestrwydd. Yr wyf yn terfynu, gan obeithio y gochelwn rbagtwyllo y nail I a'r llall fel hyn. Mae hyn yn rhy ddrwg, ar ol 1 r eglwysi ymdrechu casglu i godi a chadw bechgyn yn (lln colegau, i gael ein twyllo ganddytft fel hyn. THOMAS JOHN, Ysgrifenydd.

Y PARCH J. N. RICHARDS, P…

ACHOS Y PARCH J. NEWMAN RICHARDS.

AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD.…

YR UNDEB CYMREIG AC ANNIBYNFAETH…

YMADAWIAD Y BRAWD IEUANC MR…

CYMANFA MORGANWG.

Advertising