Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
CYMANFA GERDDOROL ANNIBYNWYR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA GERDDOROL ANNIBYN- WYR MON. Cynaliwyd y gymanfa uchod yn Nghapel Dinas, JjJangefni, dydd Llun, Mehefin 29ain. Llywydd- yn wirfedrus gan Mr H. Lewis, Y.H., Llew- Lodge, Bodedeyrn. Yr arweinydd ydoedd y "arch W. Emlyn Jones, Treforris. Y cyfeilyddion oeddynt Miss A. J. Williams, Beaumaris; Miss Ahomas, London House, Menai Bridge; Miss **arker, Llanerchymedd; Miss Thomas, West- bury Mount, Caergybi; a Mr Lewis Jones, Llan- gefni. Dechreuwyd y cyfarfod cyntaf am ddau o'r 8^och drwy ddarllen a gweddio gan y Parch R. Williams (Hwfa Mon). Canwyd y tonau canlynol -.Ramah, Bryntirion, Y Delyn Aur, Shiloh, Ips- wich, Bryn Calfaria, Hyfrydol, a Huddersfield. ■Khoddwyd dadganiad ardderchog hefyd o'r anthem 11 Caned preswylwyr y Graig." Anerch- Wy-d y cyfarfod yn fyr ac i'r pwrpas gan y cerddor galluog, y parch E. Cynffig Davies, Menai Bridge, ^echreuwyd cyfarfod yr hwyr gan y Parch J. Williams, Niwbwrch. Canwyd y tonau canlynol: ^"•Twrgwyn, Llansanan, Aberystwyth, Tanymar- lai>> Saul, Bryniau Canaan, a Hendre, yn nghyda'r nthemo" Addoliad (J. Ambrose Lloyd). Cynyg- i^yd gan y Parch E. C. Davies, ac eiliwyd gan y ■^arch R. Williams (Hwfa Mon), "Bin bod, fel ^ymanfa Gerddorol, yn dymuno dadgan ein teim- ad o hiraeth a cholled ar ol y diweddar Barch E. Stephen, Tanymarian, i'r hwn yr ydym felEnwad aan gymaint o rwymau am ei wasanaeth anmhris- jadwy yn nglyn a chaniadaeth y cysegr, a'n bod ^etyd yn dymuno datgan ein cydyrndeimlad a^ysaf d'i weddw a'i.blant yn eu galar mawr ar ol Priod a thad tyner a charedig." Yr oedd y (lyraanfa hon yn llwyddiant yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd y capel eang yn orlawn. Bernid fod y gynulleidfa yn rhifo oddeutu 1,300. Yr oedd y canu hefyd yn ardderchog. Yr oedd cyd- "Wysedd y lleisiau yn hynod dda, ac y mae llawer ° glod yn ddyledus i'r Parch E. C. Davies yn pgtyn 4 hyn, gan mai iddo ef yn benaf yr ymddir- leawyd y gwaith o drefnu safleoedd y gwahanol elSlau. Teg ydyw i ni hefyd ddyweyd ein bod yn dra. rhwymedig am lwyddiant ein Cymanfa i'r Parch W. Emlyn Jones, yr hwn a wnaeth ei waith yn wir feistrolgar. Cafwyd anerchiadau yn ystod y cyfarfod hwyrol gan y Parchedigion T. Evans, Amlvsrch; J. Donne, Llangefni D. Rees, Capel Mawr; ac R. Williams (Hwfa Mon). Atnlygodd ein brodyr y Methodistiaid Calfinaidd garedigrwydd nid bychan trwy eu parodrwydd yn raoddi at ein gwasanaeth eu capel eang, yr hwn Ydyw yr adeilad mwyaf cyfleus yn Llangefni at gynal Cymanfa Gerddorol. Tyddyn Gyrfar. J. H. HUGHES, Ysg. «
CAERPHILI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERPHILI. Tysteb.-Nos Iau, Gorphenaf 2il, cynaliwyd cyf- arfod dyddorol iawn yn Bethel, capel yr Annibyn- ^yr yn Caerphili, o dan lywyddiaeth y Parch D. ■^chards, gweinidog parchus y lie. Amcan y cyf- artod ydoedd cyflwyno tysteb i'r brawd ieuanc cerddorol Mr Samuel Earnest Evans, Castle Cot- pt?e> am e* ^a"-ur diflino a rhad fel organydd i'r Sflwyg a'r cor am yr ygbaid maith o saith mlynedd. ynwysai y dysteb gopi o'r Oxford Bible, Geiriadur eiblaidd, cyfrol o Voluntaries detholedig o weith- au y prif feistri, par o wydrau (convex spectacles), a phwrs o aur yn cynwys dros ddeg punt. Cyf- wynwyd yr anrhegion i'r derbynydd ar ran yr eglwYR a'r Yagol S-,tbbothol gan Mr Richards, y gweinidog, a Mr H. Anthony, Cadeirydd Bwrdd Eglwysilan. Hefyd, darllenwyd anerchiad j cJ° gan Mr Richards, yn yr hwn y gosodai allan J«ur a theilyngdod Mr Evans mewn modd syml. e^byniwyd yr anrhegion yn wylaidd, a diolchodd y derbynydd mewn araeth fach bert iawn yn CxYmraeg a Saesoneg. Siarttdwyd hefyd yn ddon- j. gan y brodyr H. Anthony, Edward Bush, D, aniel (Alawgerdd), Jonathan Lewis, a John vans. Yr oedd yn dda genym weled eglwys Behel yn d'od allan mor anrhydeddus i wobrwyo Wlr deilyngdod. Mae y derbynydd yn foneddwr tl'wyad1' ac yQ chwareuydd medrus fel mai fitb • e* glywe(i yn gweithio allan athry- ttia e'U £ er<Worion l"en a diweddar. Hefyd, ? e^e a'i chwaer yn barod bob amser i wasan- nu unrhyw enwad crefyddol a phob mudiad iad°"QUS cyfeilyd(iion (accompanyists). Caffael- Jun}'iyw eglwys ydyw cael gwasanaeth y fath jjj-i Morion addfed. Bydded i'r Arglwydd roddi oes> a bendithied eu llafur am lawer o y yddau yn Bethel a manau ereill. LLYTHTRGLUDYDD.
Y S TA L Y FER A.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y S TA L Y FER A. CYFARFOD YMADAWOL A THYSTEBOL Y PARCH ONLLWYN BRACE. Nos Fercher diweddaf, -yn nghapel y Wern, Ystalyfera, daeth tyrfa luosog o gyfeillion ac edmygwyr y Parch Onllwyn Brace yn ngbyd, yn gynwysedig o weinidogion, beirdd, a lienorion, i ddatgan eu teimladau biraethlawn ar ei ymadaw- iad o'u plith i gymeryd gofal gweinidogaetbol eglwys barchus Bethel, Aberdar. Llywyddwyd y cyfarfod yn ddeheuig, fel arfer, gan y Parch H. P. Jenkins, gweinidog y Wern. Dygwyd y cyfarfod yn mlaen yn gymysgedig o adrodd, canu, ac areithio. Siaradwyd gan y boneddigion canlynol: y Parchedigion H. P. Jenkins, Wern, Ystalyfera C. Williams, Soar, Ystalyfera T. J. Morgan (Thalamus), Pontardawe W. Rees (Arianglawdd), Beulab, Cwmtwrch; Meistri J. D. Evans, J. Rees (dau o ddiaconiaid y Wern), D. Jones (Cynalaw), Briton Ferry; G. Davies, argraffydd, Ystalyfera J. Dyfrig Owen, Bethel, Cwmtwrch D. Morgan, Bethel, Aberdar, ac amryw ereill. Rhoddodd y siaradwyr uchod y ganmoliaeth uchelaf i Mr Brace, fel dyn gweithgar a blaenllaw gyda phob mudiad daionus yn y lie, fel cyfaill didwyll, car- edig, ac hunanymwadol, fel dirwestwr aiddgar, fel bardd awenyddol, a pbregethwr godidog. Teimlai y cyfarfod eu bod yn colli un o'r dynion ieuainc galluocaf, anwylaf, a mwyaf poblogaidd yn Nghwmtawe. Yn ystod y cyfarfod cafwyd aaerchiadau barddonol gan Cidifor, Thalamus, Glan Cwmant, a Mr Rees (perchenog a chyhoedd- wr y Gwladwr Cymreig). Cafwyd caneuon gan Mr E. Telorydd Nicholas, ac Asaph, Godre'r Graig. Ar ran cyfeillion ac edmygwyr, cyflwynodd Mr J. Beynon, Ystalyfera, godaid o aur i Mr Brace fel arwydd sylweddol o'u parch dwfn tuag ato, a'u hedmygedd mawr ohono. Cafwyd anerchiad pwrpasol a thoddedig gan Mr Brace, yn datgan ei ddiolchgarwch diffuanfc i drigolion Cwmtawe, am eu caredigrwydd tuagato. Terfynwyd gyda dymuniadau goreu y cyfarfod ar i Mr Brace a'i -deulu fod yn ddedwydd iawn yn Aberdar. GLAN TAWE.
LLANFACHRAETH, MON".
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANFACHRAETH, MON". Ymadawiad y Parch John Samuel Evans.-Drwg genym hysbysu am yr amgylchiad uchod, ond diau fod yn hyfrydwch gan eglwys yr Annibynwyr yn Cemaes ei gael yn eu plith fel eu gweinidog. Enillodd lu o gyfeillion mynwesol yn yr ardal hon, fel y profwyd trwy ei anrbegu ar ei ymadawiad a thysteb, sef swm sylweddol o arian. Yr ydym o galon yn dymuno iddo bob Ilwyddiant yn ei faes newydd, ac y bydd y golled a gafwyd yma yn enill mawr i'r frawdoliaeth yn Cemaes, Mon. YMDEITHYDD.
S E ION, MON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
S E ION, MON. Te Tarti a Chyfarfod Ollstadleuol. Y mae yr wyl uchod yn nglyn a'r Ysgol Sabbothol yma, bellach yn hen sefydliad blynyddol. Cynaliwyd hi eleni ddydd Gwener, Gorphenaf y 3ydd. Aed a'r plant fel arfer yn orymdaith i Clegyrog, a dymun- ol iawn oedd gweled Mrs Thomas yn cyfranu yn siriol o'i charedigrwydd i'r plant yn ol arfer y ddi- weddar Mrs Thomas, yr hon y mae ei choffadwr- iaeth yn fendigedig. Yna dychwelwyd at y capel i fwynhau o'r danteithion ag oedd caredigion yr achos drwy yr ardal wedi ddwyn yIio, am yr hyn yr ydym yn teimlo yn ddiolchgar iawn iddynt. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan amryw fon- eddigesau serchog a phrydferth. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cystadleuol ac amrywiaethol, difyr ac adeiladol, o dan arweiniad y Parch W. Davies, gweinidog y lie, a'r Parch T. Evans, Amlwch, yn y gadair. Ar ol cael araeth bwrpasol gan y Llywydd, aed drwy raglen faith, a gwobr- wywyd am y pethau canlynolTraethawd ar y I I Sabboth." Traethawd ar "Gofnodiad y Pedwar Efengylwr o amgylchiadau y Croeshoeliad." Dilyn ar y Modulator. Canu ton gynulleidfaol. Sillebu. Adrodd" Y Wyddfa," o Weithiau Hwfa Mon. Darllen difyfyr. Dadl byrfyfyr. Enillwyd y gwahanol wobrwyon eleni gan y personau can- lynol Mr W. Jones, Ty'n Lon Miss Catherine Williams, Ty Capel; Mr Richard Williams, Llys- gwynt; Miss Mary Jones, Fodol Miss Eliz% Owen, Penycae; Miss Mary Hughes, Dafarn Newydd Mr Owgn Williams, Penbol Uchaf a Mr J. W. Jones, Glanygors. Beirniadwyd y gwa- hanol betbau gan y Parch T. Evans a Mr J. H. Hughes (Tenorydd Cynfarwy). Holwyd y plant yn hanes Joseph yn fywiog a gwreiddiol iawn gan Mr William Lewis, Dafarn Newydd, fel y medr y brawd hwa holi. Chwareuwyd ar yr harmonium yn fedrus gan y foneddiges ieuaac addawol Miss Barker, Stamp Office, Llanerehymedr], a chawsom yr hyfrydwch o'i chlywed yn canu am y tro cyntaf yn gyhoeddus. Dadganwyd amryw ddarnau tar- rawiadol yn feistrolgar gan Mr Hughes, Tyddyn. Gyrfar. Canwyd amryw weithiau yn dra swynol gan gor y lie o dan arweiniad Mr Thomas, Clegyrog. Os oes rhywun yn haeddu canmoliaeth am ei ffyddlondeb, y mae y brawd hwn. Mawr yw breintiau plant Seion, ac yr ydytn yn gobeithio y gwnant y goreu ohonynt. Nid yn ami y ceir un mor ymroddgar a Mr Thomas, ac yn llanw cynifer o gylchoedd mor ganmoladwy. Hir oes iddo i barhau yn ei ffyddlondeb yw dymuniad ein caloD. Yr oedd testynau i farddoni arnynt wedi eu nodi, oud ni ddaeth cyfansoddiadau barddonol i law y tro hwn, ond darllenodd y Bardd o'r Berllan res o benillion hynod ddoniol i'r cyfarfod i "Faen-y- Goges," Maent o gryn hynodrwydd yn y gymyd. ogaetb, a rhoddwn hwynt i lawr yma oni bai fod arnom ofn eich blino a. meithder, felly nid ym- helaethwn. GWYLIEDYDD.
PENMABNMAWE, -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENMABNMAWE, CYFARFOD URDDIAD. Cefais y fraint o fod yn y lIe uchod ar achlysur urddiad fy agbyfaill mynwesol Mr David Walters, o Goleg Aberhonddu, yn weinidog ar yr eglwys Seisonig yn y lie. Yr oedd yn wir dda genyf weled ei fod wedi cael lie mor rbagorol, ardal braf wedi ei treintio gan natnr a phob peth sydd yn tueddu i wneyd dyn yn ddedwydd yn y byd. Mae yno gydgyfarfydcliad o bob peth—mor a mynydd, dol a bryn, coedydd ffrwythlawn, golygfeydd prydfertb, &c. Nid yn unig mae'l! lie yn braf, ond hefyd mae'r bobl yn hynod garedig a chymwynae- gar. Nid wyf yn meddwl y gall y natur ddynol fod yn fwy felly nag oedd y bobl hyn, ac yn goron ar y cwb], dyma iddynt weinidog teilwng ohonynt yn mbob ystyr. Yr oedd eisieu dyn da yno. Mae y lie yn resort pobl bwysig yn ystod misoedd yr haf ac i gadw urddas y weinidogaeth i fyny yn ngolwg y Saeson, yr oedd yn rhaid cael prc ethwr da yn y lie, ac y maent, yr wyf yn credn, wedi ei gael. Cymerodd yr urddiad le nos Fa wrth a dydd Mercher, Gorphenaf 14sg a'r 15fed, Nos Fawrth, pregethodd Dr Morris, Aberhonddu, bregeth ardderchog, Ni raid i rai iach wrth feddyg." Gwefreiddiai ein holl natur wrth wran- daw arno. Da oedd genyf weled yr hen wron yn ei hwyliau. Prydnawn dydd Mercher, dechreuwyd gan y Parch J. Lloyd, Colwyn Bay, a phregethodd Dr Morris ar Natur Eglwys. Holwyd y gofyniarlau gan y Parch W. Ceinion Thomas, Llanfairfecha n, pa rai a atebwyd yn hynod bwrpasol gan Mr Walters. Offrymwyd yr irrdd-weddi gan y Parch M. J. Evans, M.A..PH.D., a pbregethwyd siars i'r gweinidog gan y Parch J. Davies, Taihirion. Yn yr hwyr dechreuwyd gan y Parch W. Jones, Wedon, Northamptonshire, a phregethwyd sis rs i'r eglwys gan y Parch Griffiths, Bangor. Yna treuliwyd gweddill y cyfarfod mewn areithio, pryd y cadeiriwyd gan Mr W. J. Parry, Coetmor Hall, a theimlai y brodyr yn hynod ddiolchgar iddo am fod yn bresenol. Siaradwyd gan Doctor Morris, M. J. Evans, C. Williams, W. C. Thomas, W. Griffiths, J. Davies, a D. Walters. Ni chan'ata gofod i mi fanylu ar eu hareithiau. Heblaw a enwyd yr oedd yno ereill yn bresenol, ac yn eu plith rai o gydfyfyrwyr Mr Walters, sef y Mri J. Davies, R. D. Green, a D. Waters. Cafwyd cyfar- fodydd rbagorol o'r dechreu i'r diwedd. Dechreua ei weinidogaeth yn addawol iawn, a dysgwyliwn y bydd yn bynod lwyddianus. Amgylchynir ef gan weddiau lluaws o gyfeillion, gweddiau a fydd^yn dal ei freichiau i fyny pan fydd y frwydr yn boeth. Llonwyd fy nghalon .pan glywais fod ei fam-eglwys wedi treulio un Sabboth i weddio am lwyddiant ar ei lafur. Dyna esiampl gwerth ei dilyn. Llwyddiant mawr iddo. J. D.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
♦— S Dr Jenner's Phosphorous and Charcoal provides the human system with thought, nerve, and brain food, and furnishes the elements of vitality, health, and strength. Dr. Jenner's Phosphorous and Charcoal are certain cures for melancholia nervous piostration, consumption and impaired digestion' from whatever cause arising. Depot, 172, Great Tfchfield- street, Regent's Park, London, N.W. In bottles 2s. 9d 4s Cd lis -22s., and 33s. From any Chemist, or by post from the Depot. Dr. Jenner's Phosphorous and Charcoal is a maivel- lous remedy for the loss of Nerve Power, and in arrest of Physical Decay, from whatever cause arising it is invaluable and acts as a charm m Consumption, Exhaustion &e No medicine known contains- so much Phosphates, Soda, Mag- iiesia, Lime, Chloride of Potasiiiju, Iron, pm e andrr oxydised Phosphorous, all ot which are scientifically combined in this essence, and etch of which is collectively essential to the res- toration of lost function. It has received the sanction of Sir Benjamin Brodie, Sir William Lawrer.ce, Sir Thomas Watson, Sir Charles Locock, the College of Physicians, Sir Jam tergusson,bir Philip Orampton, Sir Ifidward Lisketh, Sir James Ciaru, Dr Miller, and Dr Lancaster.