Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA GERDDOROL ANNIBYNWYR…

CAERPHILI.

Y S TA L Y FER A.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y S TA L Y FER A. CYFARFOD YMADAWOL A THYSTEBOL Y PARCH ONLLWYN BRACE. Nos Fercher diweddaf, -yn nghapel y Wern, Ystalyfera, daeth tyrfa luosog o gyfeillion ac edmygwyr y Parch Onllwyn Brace yn ngbyd, yn gynwysedig o weinidogion, beirdd, a lienorion, i ddatgan eu teimladau biraethlawn ar ei ymadaw- iad o'u plith i gymeryd gofal gweinidogaetbol eglwys barchus Bethel, Aberdar. Llywyddwyd y cyfarfod yn ddeheuig, fel arfer, gan y Parch H. P. Jenkins, gweinidog y Wern. Dygwyd y cyfarfod yn mlaen yn gymysgedig o adrodd, canu, ac areithio. Siaradwyd gan y boneddigion canlynol: y Parchedigion H. P. Jenkins, Wern, Ystalyfera C. Williams, Soar, Ystalyfera T. J. Morgan (Thalamus), Pontardawe W. Rees (Arianglawdd), Beulab, Cwmtwrch; Meistri J. D. Evans, J. Rees (dau o ddiaconiaid y Wern), D. Jones (Cynalaw), Briton Ferry; G. Davies, argraffydd, Ystalyfera J. Dyfrig Owen, Bethel, Cwmtwrch D. Morgan, Bethel, Aberdar, ac amryw ereill. Rhoddodd y siaradwyr uchod y ganmoliaeth uchelaf i Mr Brace, fel dyn gweithgar a blaenllaw gyda phob mudiad daionus yn y lie, fel cyfaill didwyll, car- edig, ac hunanymwadol, fel dirwestwr aiddgar, fel bardd awenyddol, a pbregethwr godidog. Teimlai y cyfarfod eu bod yn colli un o'r dynion ieuainc galluocaf, anwylaf, a mwyaf poblogaidd yn Nghwmtawe. Yn ystod y cyfarfod cafwyd aaerchiadau barddonol gan Cidifor, Thalamus, Glan Cwmant, a Mr Rees (perchenog a chyhoedd- wr y Gwladwr Cymreig). Cafwyd caneuon gan Mr E. Telorydd Nicholas, ac Asaph, Godre'r Graig. Ar ran cyfeillion ac edmygwyr, cyflwynodd Mr J. Beynon, Ystalyfera, godaid o aur i Mr Brace fel arwydd sylweddol o'u parch dwfn tuag ato, a'u hedmygedd mawr ohono. Cafwyd anerchiad pwrpasol a thoddedig gan Mr Brace, yn datgan ei ddiolchgarwch diffuanfc i drigolion Cwmtawe, am eu caredigrwydd tuagato. Terfynwyd gyda dymuniadau goreu y cyfarfod ar i Mr Brace a'i -deulu fod yn ddedwydd iawn yn Aberdar. GLAN TAWE.

LLANFACHRAETH, MON".

S E ION, MON.

PENMABNMAWE, -

[No title]