Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Cynaysiad.

Advertising

YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS. Y CHOLERA YN YSBAEN.-Parbau i gavio ymaith ei filoedd yn wythnosol y mae yr haint dinystriol hwn yn Ysbaen. Wele y ffugyrau am yr wythnos ddiweddaf-o ddydd Llua hyd y nos Sabboth ganlynol- Cymerwyd yn glaf, 11,794; bu farw, 5,065. DYCHWELIAD ARGLWYDD WOLSELEY.- Cyrhaeddodd ei arglwyddiaeth orsaf Victoria, Llundain, pryduawn dydd Llun, yn ngwnmi amryw swyddogion milwrol. Yr oedd yno dyrfa luosog wedi dyfod i'w gyfarfod ar ei ddychweliad o'r Aipht. '-M_ Y MARDI WEDI MARW.-Anfonodd y Cadfridog Brackenbury bellebr yn dyweyd iddo dderbyn llythyr oddiwrth farsiandwr yn Handak, dyddiedig yr 8fed eyfisol, yn hysbysu marwolaeth y Mahdi, a bod ei ganlynwyr yn ymladd a'u gilydd. Mae ail bellebr wedi cyrhaedd yn cadarnhau yr bysbysiad uchod. DAMWAIN DDYCHRYNLLYD MEWN CAE GWAIIZI-Dydd Mawrth diweddaf, cvfarfu dyn ieuanc o'r enw William Hughes (gwas gyda Mrs Rowlands, Argoed Hall, Tregaron) a damwain angeuol. Yr oedd ar y cae yn llwytho gwair, a rywsut symudodd y gert yn ddiarwybod iddo, nes i ran o'r Uwyth syrtbio a'i daflu yntau gydag ef. Disgynodd y gwr ieuanc ar ben pigfforch a ddaliai yn ei law, pigau pa un a aeth i fewn i'w galon. Cafodd ddigon o nerth a gwroldeb i'w thyuu allan, a'i thaflu rhyw chwech llath oddi- wrtho, a bu farw yn y weitbred o daflu y bigftorch. YR INDIAID YN BYGWTH YMOSOD AR KANSAS.-Derbyuiodd Mr Endicott, Y sgrif- enydd Rhyfel America, hysbysrwydd yn Washington, dydd Gwener diweddaf, fod trigolion oddeutu dwsin o siroedd de- orllewinol y dalaeth hon mewn sefyllfa wyllt a chynhyrfus-miloedd o'r preswylwyr wedi gadael eu tai a'u tiroedd a ffoi i'r trefi, rhag ofn ymosodiad oddiwrth yr Indiaid. Mae llywodraethwr y dalaeth yn deisyf ar y Llywodraeth i gymeryd mesurau ar unwaith er dyogelwch y preswylwyr. TAN MAWR YN TILUNDAIN-GWFRTIL X40,000 WEDI LLOSGI.-Tua dau o'r gloch boreu dydd Mercher, torodd tan allan yn ngweitbfa glue Mri B. Young a'i Gwmni, Bermoudsey. Gosodwyd pump o weithdai ar dan mewn ychydig amser, ac ymledodd i weithdai Mri W. Powell a'i Feibion, saddlers. Er fod Ilawer o'r eiddo wedi ei arbed yn y ddau le, bernir fod colled y lie blaenaf tua £ 25,000, a'r olaf yn D £ 15,000. Torodd y tan hwn allan, fel y nifer luosocaf ohonynt, heb neb yn gwybod pa fodd.

DEOHREUAD GOFIDIAU. !

[No title]

Advertising