Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Cynaysiad.

Advertising

YR WYTHNOS.

DEOHREUAD GOFIDIAU. !

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DEOHREUAD GOFIDIAU. PAN wybu y wlad fod awenau y Llywodraet b wedi eu cymeryd gan y blaid Geidwadol, teimlai y Rbyddfrydwyr yn gyffredinol yn siomedig a gofidus. Nis gallasai neb ddy- weyd yn bendant o ba gyfeiriad y codai y perygl gyntaf, ond meddianid bwynt oil gan ryw ddysgwyliad y deuai gofidiau o ryw gyfeiriad, ac y buasai beichiau trymach yn sicr o gael eu gosod ar ysgwyddau y treth- dalwyr Prydeinig. Cyfodai y dysgwyliad hwn oddiar hanes flaenorol Llywodraethau Toriaidd, a sicr oeddem na fuasai Arglwydd SALISBURY yn fwy cynil ei dreuliau, nac yn fwy heddychol ei ysbryd na'i ragflaenydd Iarll BEACONSFIELD. Nid oes eto ddim pen- dant wedi ei wneyd, nac wedi'ei fygwtb, ond nos Lun diweddaf cafwyd prawf amlwg o gyfeiriad y gwynt. 0 dan Weinyddiaeth Mr GLADSTONE, gofynwyd am vote of credit o Xll,000,000 i gyfarfod a'r treuliau milwrol yn y Soudan, a'r treuliau oeddid yn ofni fuasai yn angenrheidiol mewn cysylltiad a Rwsia, oblegid y pryd hwnw, fel y mae yn gofus gan ein darllenwyr, yr oedd ein cy- sylltiad a'r wlad hono mewn sefyllfa berygl- us, ac nis gallasai neb ddyweyd pa awr y cyhoeddasid rhyfel rhwng y ddwy wlad. Yr un pryd gofynodd Arglwydd HARTINGTON, yr Ysgrifenydd Rhyfel ar yr adeg, am gael ychwanegu 35,000 o filwyr at y fyddin. Pasiwyd y ddwy bleidlais yn bur unol. Wedi i bethau wisgo agwedd mwy hedd- ychol rhyngom a Rwsia, dywedodd y Llywodraeth Gladstonaidd na fuasai angen y 111,000,000 yn llawn, a hyny am y rheswm na fuasai 35,000 o ychwanegiad at y fyddin. Pan ddaeth y Llywodraeth Doriaidd bre. senol i swydd, derbyniasant o'r zEI1,000,000 y swm benodwyd gan Weinyddiaeth Mr GLADSTONE; ond pan ddygodd Mr W. H. SMITH, yr Ysgrifenydd Rhyfel presenol, y mater yn mlaen mewn Pwyllgor Cyflenwad nos Lun diweddaf, gofynodd am 35,000 o ychwanegiad at y fyddin. Mynegodd Arglwydd HARTINGTON yn y man fod y bleidlais o'r ychwanegiad hwnw wedi ei chael yn nglyn a phleidlais y 111,000,000, a chan fod y bleidlais hono wedi ei lleihau, nad oedd angen am gymaint o ychwanegiad yn y fyddin. Pe buasai ef wedi aros yn y swydd o Ysgrifenydd Rhyfel, ei fod yn bwriadu gostwng pleidlais yr ychwanegiad at y fyddin hefyd. Beirniadwyd y mater yn llym gan amryw o aelodau, a chynygiodd Mr RYLAND fod 12,000 yn unig i gael eu hychwanegu at y fyddin. Eiliodd Syr W. LAWSON yn ei ddull ffraeth arferol, ond dal- iai Mr SMITH at ei gynygiad am 35,000 yn rhagor o filwyr ac mewn Ty 'heb fod yn. chwarter Ilawn cyrhaeddodd ei amcan. Felly, mae 35,000 yn ychwaneg o ddynion i gael eu denu oddiwrth eu gorchwylion, a'u gosod yn segurwyr diangenrhaid i'w cynal a'u cadw ar drethi y wlad. Os nad oedd eisieu yr ariaD, pa angen am y dynion sydd ? Dyna gwestiwn nas gellir ei osgoi, a chwestiwn y dylid cael atebiad diamwys iddo. A ydyw y Llywodraeth bresenol yn gweled ein cy- sylltiad a Rwsia yn fwy bygythiol nag ydoedd cyn iddynt ddyfod i swydd, a bod angen y dynion hyn i gyfarfod a'r hyn oedd Mr GLADSTONE wediei derfynuyn heddychol ae anrbydeddus ? Nac oes, dim o'r fath beth, meddai Mr SMITH. A ydyw y Llywodraeth bresenol yntau yn bwriadu ail-gychwyn gweithrediadau milwrol yn y Soudan, neu ychwanegu y gallu Prydeinig yn yr Aipht ? Nac ydynt, ebai Mr SMITH. Wel, i ba beth y ceisia y Toriaid 35,000 yn ychwaneg at y fyddin ? Nid oes ateb i'w gael ond yn y ffaith mai ysbryd aflonydd, rhyfelgar, a threulfawr yw yr ysbryd Toriaidd. Mae nifer o ddynion ieuainc yn mysg y bendef- igaeth, ac eisieu swyddi segur ond enillfawr arnynt, ac nid oes lie iddynt ond yn y llynges a'r fyddin. Pe gofynid iddynt, pa fodd y gallant hwy gynal y 35,000 hyn beb y X] 1,000,000 mwy nag y gallasai Gwein- yddiaeth Mr GLADSTONE P atebent yn union mewn geiriau mawrion a brawddegau chwyddedig, yr hyn o'i ddehongli fyddai, nad ydynt hwy yn lbwriadu talu ag arian, ond gwystlo credit y Llywodraeth nesaf, trwy'roddi Exchequer Bonds. Gallent gynal y 35,000 ac ychwaneg pe dewisent a pha- pyrau i'w talu gan Lywodraeth y Senedd nesaf. Nid yw hyn ond ychydig or cyf- lawnder sydd yn ngweddill o gyffelyb beth- au yn ystorfa dwyllodrus Toriaeth, a cbyn y daw eu tymhor i ben byddwn wedi cael ychwaneg. Ofnwn,wrth weled y nifer fechan bleidleisiodd yn erbyn y Llywodraeth nos Lun, fod y Rhyddfrydwyr wedi taflu y game i fyny, a myned adref i fwynbau eu hunain, gan adael y maes yn glir i'r Toriaid i wneyd fel y gwelant yn dda. Tra y byddo y Senedd yn eistedd y mae eu gwylio, oblegid nid gwaeth ganddynt wneyd pethau y ca y wlad ar ol hyn ruddfan o'u herwydd. Nid yw mwyafrif y Ty Cyffredin wedi cyfnewid gyda cbyfnewidiad y Llywodraeth, ac y mae hwnw yn ddigon i atal y Llywodraeth rhag gweitbredu gyda Haw wastraffus mewn materion cartrefol, ac i gadw allan Spirited Foreign Policy y Toriaid o'u gwladlywiaetb Dramor.

[No title]

Advertising