Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ty TR ARGLWYDDI.-Dydd Mawrth.—Cyfarfu- wyd am 4 o'r glocb. Ar y cynygiad i ail ddarllen Mesur y Regent's Canal, cynygiodd Iarll Ravens- yorth fod y standing m'der sydd yn gwahardd talu interest allan o'r capital i gael ei throi o'r neilldu yo yr achos hwn. Gwrthwynebwyd gan Arglwydd Brabourne. Wedi ychydig- o ddadl, rhanwyd y Ty. Cariwyd y cynygiad gan 46 yn erbyn 37, ac ail ddarllenwyd y mesur. Pasiwyd trwy bwyllgor Mesur Diwygiadol y Friendly Societies' Act. Ty Y CYFFREDIN.—Cymerodd y Llefarydd ei sedd ychydig cyn 4 o'r gloch. Mewn atebiad i Dr Cameron, dywedodd Ar'gl.wydd J. Manners fod y 4500,000 a gyfrifid yn angenrheidiol i ddarparu ar gyfer cael pellebrau chwecheiniog wedi, neu ar gael eu gwario, a bod 1,200 o glercod wedi eu hychwanegu at y gwasanaeth. Fod y mesur, nid Yn unig yn darbodi rhoddi pellebrau am 6c., ond hefyd dileu cyfeiriadau rhad. Fod hyny yn fater yr oedd cymaint o wahanol farnau arno yn y Ty ac allan ohono, fel yr oedd y Llywodraeth yn barnu nad oedd yn ddoeth myned yn mlaen ajf ef y tymhor hwn. Methodd Mr Callan a chael dim allan o Syr R. Cross yn nghylch y Pall Mall Gazette. Mewn atebiad i Mr McLaren, dywedodd Syr M. Hicks.Beach fod y Llywodraeth wedi Penderfynu anfon cenadaetb i'r Aipht, ac mai Syr H. D. Wolff oedd y gwr dewisedig. Mewn atebiad 1 Arglwydd C. Hamilton, dywedodd Mr Balfour fod y trefniadau a'r rheolau a wnaed y llynedd i ragflaenu y cholera yn y wlad hon yn parhau Mewn arym, a bocl dadrefniad rags yn wahardd- edig hyd y dydd cyntaf o Dachwedd. Yna cododd Canghellydd y Trysorlys i fynegi pa fesuran oedd y Llywodraeth wedi penderfynu myned yn mlaen a hwynt, a pha fesurau i'w gadael allan. Yn ^ysg y rhai olaf yr oedd Mesur y Crofters, Addysg Ganolraddol i Gymru, ond gobeithient gael hamdden i ystyried Mesur Mr Collings i roddi y bleidlais i'r rhai oedd wedi derbyn cymhorth plwyfol meddygol. Hefyd, gobeithient gael cyd- syniad y Senedd i ddiwygiadau neillduol yn y Criminal Act (Iwerddon). Dilynwyd ef gan Mr Gladstone. Mynegai ei foddlonrwydd i'r l'hesymau a roddwyd dros adael allan Fesur Addysg Ganol- raddol i Gymru. Gobeithiai yn gryf yr aent yn mlaen i mesur Mr Collings, a daliai y Llywodraeth Yti gyfrifol am iawn-reolaeth a heddwch yn yr lwerddon. Cynygiodd Cangbellydd y Trysoclys fod materion y Llywodraeth i gael y flaenoriaeth ar bobpeth ar ddyddiau neillduol o'r wythnos. Cynygiodd Syr W. Lawson fel gwelliant, Fod y Ty hwn, gan nad oes ganddo ymddiriedaeth yn nghynghorwyr presenol Ei Mawrhydi, yn gwrthod yoiddiried i'r Llywodraeth i wneyd fel y gwelo yn dda ag amser y Ty." Wedi ychydig siarad, rhanwyd y Ty. Dros y cynygiad, 151 dros y gwelliant, 2 Ar gynygiad Canghellydd y Trysor- Jys fod cynysgaeth o £ 30,000 i gael ei rhoddi i'r Dywysoges Beatrice ar achlystir ei phriodas, pynygiodd Mr Labouchere welliant nad oedd hyny I gael ei wneyd, am fod gan Ei Mawrhydi ddigon o eiddo personol i'w rhoddi i'w phlant. Cwynai Syr F. Milner yn erbyn gwaith Mr Labouchere yn gwrthwynebu pob pleidlais o'r fath. Mr Redmond a ddymnnai wrthwynebu, gati fod Ei Mawrhydi ^edi meddianu saith neu wyth miliwn o bunau. ^pfynai Mr Arnold a oedd sicrwydd gan y Llyw- odraeth y byddui iddyntgydsynio awgrymiad !vIr Gladstone, fod pwyllgor i gael ei benodi i 11 ^Heyd ymchwiliad i'r grants hyn. Atebodd y Canghellydd nad oedd y Llywodraeth wedi cael jjjtaser i ystyried y mater. Yn y rhaniad, cafwyd dros y cynygiad, 153 dros y gwelliant, 32. Ty Y CYFFREDIN.—Dydd Mei-chei-Cymerodd y Llef^rydd ei sedd yn fuan ar ol 12 o'r glocb. Wedi ychydig ymddyddan ar symudiad Cadben •Hobart Hampden oddiar gyfres y Llynges, a'i "orertad drachefn, trenliwyd prydnawn tawel gyda Phleidleisio symiau braf o arian i'r Llynges. Ty YR ARGLWYDDI.—Dydd law.—Cyfarfuwyd a,*n 3 o'r glocb. Daeth Arglwydd Rothschild i ^&y a'i het ar ei ben, ac ar Feibl Hebraeg y 11 vv gofynol. Cynygiodd Arglwydd 0Seberry ail ddarlleniad mesur i benodi Ysgrif- i Ysgotland, a gwnaed hyny. Tynwyd yn Fesur Diwygiadol Gwallgofiaid a Mesur Cof- *estriad Real Property. Dar-llenwyd y drydedd ^aith, a phasiwyd Fesur Diwygiadol y Cymdeith- asau Cyfeillgar. Ty Y CYFFREDIN.—Cyfarfuwyd am 4 o'r gloch. lwn atebiad i Mr Arnold, dywedodd Canghellydd » frysorlys fod y Llywodraeth wedi penderfynu gwneyd ymchwiliad i sefyllfa wasgedig masnach I Y wlad. Mewn atebiad i-gais yr Arglwydd ll^tk' Swrthododd Mr Bourke osod ar y bwrdd y i thyrau a'r pellebrau an Fonwyd gan Syr Peter Wsden i'r Liy wodraeth ddiweddaf. Yna cododd Canghellydd y Trysorlys i fynegi ei Gyllideb. Yn ol y dysgwyliad, nid oedd yn cynwys dim newydd. Cynygiai i Dreth yr Incwm gael aros yn 8c. fel y cynygiodd Mr Childeis, a chynygiai godi y gweddill, nid trwy osod toll ar ddiodydd a gwirodydd, fel y gwnaeth Mr Childers, ond trwy rhoddi exchequer bonds, y rhai ni ddeuant yn ddyledns hyd yflwyddyn nesaf. Cytunwyd heb un gwrthwynebiad, wedi cael ychydig egluvhad ar rai pethau synfawr a draethodd am y Weinydd- iaeth flaenorql. Dygwyd i fewn gais am ail ddarlleniad y Criminal Law Amendment Bill, aq wedi ychydig siarad gwnaed hyny. TY YR AEGLIWYDDI -Dydcl Gwener.—Cyfarfu- wyd am chwarter wedi 4 o'r gloch. Cododd Due Argyll, a gwnaeth gyfeiriad at yr amgylchiadau a arweiniasant i yfiiewidiad y Llywodraeth, gan guro y ddwy blaid yn ddidrugaredd. Cymhwysodd Iarll Roseberry y fflangell ato mewn modd deheuig ac effeithiol. JSTid oedd awydd ar neb i fyned i'r ffrwgwd, a therrynodd y chwareu ar hyny. ._Cy TY Y CYFFREDIX Lmero, Id y Llefarydd ei sedd ychydig ar ol pedwar o'r gloch. Mewn atebiad i Mr A. Grey dywedodd Syr R.'Cross fod gorchymyn wedi ei roddi i'r heddgeidwaid i wneyd yr hyn a allont i osod i lawr weithrediadau gwaradwyddus y Pall Mall Gazette. Mewn atebiad i Mr Jesse Collings, dywedodd Syr M. Hicks-Beach fod y Llywodraeth yn bwriadu dwyn mesur i fewn dydd Llun nesaf fuasai yu cynwys yr amcan oedd ganddo ef mewn golwg. Wrth fyued i Bwyllgor Cyflenwad, galwodd Mr S. Smith sylw at sefyllfa y dosbarth gweithiol mewn trefi a dinasoedd mawrion. Cynygiodd hefyd fod y plant o 12 i 16 oed i gael eu gorfodi i fyned i ysgol yn yr hwyr, i'w cymhwyso i enill eu bara yn y wlad hon neu y trefedigaethau. Eiliwyd gan Mr L. Stanley, Wedi cryn ddadl, yn yr hon y cymerwyd rban gan Syr R. Cross, Mr Mundella, Mr Collings, Mr Stanhope, a Mr C. S. Reed, cynygiodd Mr Smith dynu ei benderfyniad yn ol, ond gwrthodwyd ef heb rhanu y Ty. Ty YR ARGLWYDDI.-Dydd Llun.—Cymerodd ychydig aelodau newyddion eu sedd. Mewn atebiad i Arglwydd Castletown, dywedodd Ar- glwydd Waterford fod y Llywodraeth yn bwriadu yn fuan i ddwyo mesur i fewn i hwylysu tros- glwyddiad tiroedd yn yr Iwerddon. Pasiwyd mesur i roddi benthyg XIO,000,000 i India, a chododd y Ty. Ty Y CYF-FREDIN -Cymerodd y Llefarydil ei sedd ychydig cyn 4 o'r gloch. Wedi myaed trwy ychydig o gwestiynau, &c., aeth y Ty i Bwyllgor Cyflenwad. Cynygiodd Mr W. H. Smith fod 35,000 o ddynion i gael eu hychwanegu at y Fyddin. Dangosodd Arglwydd Hartington nad oedd angen am y fath ychwanegiad. Cynygiodd Mr Ryland fod y nifer yn ddim ond 12,000. Eiliwyd gan Syr W. Lawson. Ar ol dadl, rhanwyd y Ty, a chollwyd y gwelliant gaa 98 yn erbyn 12. -+-
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1885.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1885. Cyfarfyddodd y pwyllgor cerddorol dydd Iau diweddaf, pryd y trefnwyd gwaith yr holl feirniaid cerddorol. Y mae genym le cryf i gredu y bydd i'r trefniadau a wnaed roddi boddlonrwydd cyffredinol. Bydd pump ohonynt yn cydfeirniadu ar y prif ddarn. Hefyd, pasiwyd mai y penill cyntaf a'r penill diweddaf yn y darn "Beddy Dyn Tlawd" sydd i'w canu, ac nad yw nifer y corau meibion i fod dros hump-ar-hugain (y nifer a nodir ar y rhaglen) yn cynwys yr arweinydd. Heddyw (Sadwrn) yw y diwrnod diweddaf i dderbyn cyfansoddiadau llenyddol, barddonol, a cberddorol, ac y mae yn dda genyf ddyweyd eu bod yn dyfod i fewn yn gyflym. Cyhoeddwn yr enwau-yr wythnos nesaf. MAES LLAFUR AM URDD BARDD-GRADII UCHAF. 1. Rheolau Barddoniaeth, Yr Ysgol Farddol." 2. LMVdryddiaeth, Awdl Cariad Dyfed. 3. Cydnabyddiaeth a Gwaith Barddonol Hwfa Mon," Colofn y Beirdd" gan John Howell, 1, Goinion Emrys," a il Chaniaclati Islwyn." URDD BARDD-AIL RADD. Ymgeiswyr i astudio Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain," Tafol y Beirdd," ac "Ysgol Farddol" Dafydd Morganwg; dangos cydnabydd- iaeth a « Gweithiau Gor. Owain" a H Dewi Wyn o Eifion," yn nghyda "Buddugoliaethau y Meddwl Dynol" gan Essyllt; a gwneyd englyn yn cynwys y tair cynghanedd ar destyn rhoddedig ar y pryd, &c. UIIDD OJTYDD. "Gramadeg" Dewi Mon, "HanesPrydain" Q. Jones, Daearyddiaeth, <fcc. HYWEI, CYNON, Ysg. Cyff.
BEAUFORT. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BEAUFORT. Gwyl Flynyddol y Rechabiaid. -Hanes y Babell.- Pedair blynedd yn ol y gosododd meibion Rechab eu pabell yn Nghendl. Y cyntaf i son am wneyd pabell ar y mynydd hwn oedd Mr H. Healy, ys- grifenydd y gyfrinfa. Un-ar-ddeg o aelodau oeddent ar y cychwyniad, ond erbyn hyn y maent yn rhifo 250. Mae clod mawr yn ddyledus i'r swyddogion am sicrhau y fath lwyddiant. Ond dyna, mae dirwestwyr yn gallu gweithio yn well nag yfwyr. Nos Sul, Gorphenaf 5ed, ar gais y gyfrinfa, pregethodd y Parch J. Vinson Stephens bregeth ddirwestol oddiar y geiriau, Od oes gen- ych air o gynghor i'r bob), traethweh" (Actatt xiii. 15). Daeth cynulleidfa. fawr i'w gwrando hyderwn y gwna ddaioni. Yr Orymdaith.-Am ddau o'r gloch prydnawn dydd Llun, gorymdeitbiodd yr aelodau drwy y gymydogaeth, yn cael eu blaenori gan Ssindorf Bres Ddirwestol Abertileri. Barn pawb oedd mai hon oedd yr orymdaith oreu a welwyd yn Beau- fort. Yr oedd hyd yn nod tafarnwyr yn dyfod i'w drysau i'w gweled. Y Pe.-Mae yfed mawr bob amser yn bod ar de y Rechabiaid, ond ni fu cymaint o yfed erioed a'r tro hwn. Yr oeddent wedi parotoi yn dda; ond pan yn gweled y bobl yn dyfod wrth y canoedd, gofyniad pawb oedd, Beth yw hyn rhwng cy. nifer ? Eisteddodd oddeutu 600 wrth y byrddau. Pi-aivf Syi- John Barleycorn. -Aetbpwyd drwy y prawf dyddorolhwn yn yr hwyr. Yn mhell cyn adeg dechreu yr oedd yr ysgoldy yn orlawn, a chanoedd y tuallan yn methu dyfod i fewn. Penderfynodd y cyfeillion i fyned drwyddo nos Fawrth, fel y gallai pawb ei glywed; ac ar gais y Parch J. V. Stephens, gadawodd llawer o bobl yr ysgoldy i ddyfod yno y noson ganlynol. Mr E. Charles oedd y Prifyntid Mr W. Griffiths, mab y Parch W. Griffiths, oedd y Twrnai Cyffredinol; a Mr Charles Hughes oedd Amddiffynydd y Carcharor. 11 y Aeth pob un drwy ei ran yn rhagorol, ac yr oedd y modd naturiol ac effeithiol y dadleuai Mr Griffiths yn gwneuthur y bobl i fynych deimlo fod y prawf yn un real; ac y mae yr un clod yn ddyledus i Mr Hughes. Dyna i chwi, mewn byr eiriau, yr hyn a wnaeth y Rechabiaid yn Beaufort dydd Llun di- weddaf. »■
GODRE Y BERWYN. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GODRE Y BERWYN. Coleg Aberystwyth.—Derbyniwyd y newydd am ddinystriad rhan o'r Coleg uchod gan dan yn y cymydogaethau hyn gyda gofid cyffredinol. Mae yma deimlad dwys dros y Prifathraw yn yr am- gylohiad gofidus hwn, ac hefyd kg awdurdodau y Caleg, yn gystal a'r myfyrwyr sydd yno yn bre- senol. Yr ydyrn ni yma yn ei ystyried fel Coleg y bob!, ac felly yn teimlo sel angerddol drosto. Y Parch Richard Owep. -Yr wythnos o'r blaea bu y Parch Richard Owen ar ymweliad k Melin. wig, Betws Gwerfil Goch, a Dimael. Cafodd gyn- ulleidfaoedd lluosog. ac yr oedd arddeliad neillduol at- y weinidogaeth. Da genym fod ei iecbyd wedi ei adferu i raddau helaeth eto. Milodfa,—Yr wythnos hon ymwelwyd a, Llan- gollen, Corwert, Bala, a Dolgellau gan Filodfa y diweddar Wombell, ond a adnabyddir yn awr fel eiddo Mr James Edmonds. Bu lluaws o drigolion yr ardaloedd hyn yn talu ymweliad a hi, a chaws- ant eu boddloni yn lied gyffredin. Gwelsant yn- ddi amryw o greaduriaid cad oeddynt wedi eu gweled yn fiaenoro). Cyfarfodydd To.—Mae cynhauaf y rhai hyn bron myned heibio yma yn awr. Buont ynfwy lluosog eleni nag arfer rhwng yr Ysgolion Sabbothol a 11 9 dyddiol, Byddin y Riban Glas, y Temlwyr Da, a'r picnics. Ond yr oedd pawb yn ymddangos yn m wynhau eu hunain yn rhagorol iawn, ac yn hir- aethu am. gael yr un peth yn fuan etc. Eglwys Seisonig Corwen.-Nid yw Annibynwvr Seisonig Corwen wedi sicrhau gweinidog eto, ond dywedir en bod yn llygadu am un yn awr, ac na byddant yn hit- bellach heb syrthio ar eu dewis- ddyn. Wel, llwyddiant iddynt, meddaf, o waelod calon. Mr Robertson.—Gwelaf nad oes gwir yn yr ystori a ledaenwyd gan un o bapyrau Caernarfon nad yw Mr Robertson, A.S., Pale, Llandderfel, yn bwr- iadu d'od allan fel ymgeisydd dros Feirion yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae Mr Robertson wedi rhoddi ei serph yn gryf ar Feirion, ac ya penderfynu ymladd y frwydr i fudd, fel nad oes awheuaeth na Wtta. J. A. P.