Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YMJLON Y FFORDD. r_'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMJLON Y FFORDD. r_' ifos Sadwrn, Gorphenaf 18fed. Nid oes dim wedi peri tiymaint o gyffroad y pythefnos diweddaf a DYNOETHIADAU Y PALL MALL;" ac yn sicr y maent yn ddigon i ferwino clustiau y neb a'u clywo. Os ydyw yr hyn a gyboeddir yn wirionedd, nid oes ond ychydig fh wtig tiliindairi a bdd fel Sodom, ac yn gyffelyb i Gommorah ond yn iinlg fod iHWy 0 rai cyfiawn wedi eu gadael ynddi i waeddi ac ocbeneidio oblegid y ffieidd-dra oil a wneir yn ei chanol hi. Yr oedd y sibrwd allan er's trp fod trafnidaeth ddirgelaidd yn cael ei chario yn mlaen ar raddfa lied eang mewn merched ieuaine, a. genethod bychain, i ddybenion halogedig; a bod dynion sydd yn troi liiewn eylchoedd ncbel, ac o deulu- oedd pendengol, yn gyffatiog yn yr anfad- :kaith. Yn gynar yti y flwyddyn bon fftiff- y iwyd math o ddirprwyaetb ddirgelaidd i bliwilio i niewii i'r mater. Trwy gymhorth fesddgeidwaid) a ehehadoti dinasol, at ereill sydd yn gwybod am y euddfatiati iielaf, daethant onhyd i bethaa y buasai yn anhy- goel gan neb gredu fod yn bosibl iddynt fodoli mewn gwlad Gristionogol yn yr haner olaf o'i- pedwerydd canrif ar bymtbeg; a phethau rby frwnt i'w hadrodd. Cawsant at y rhai sydd yn cadw y tai drygionus yma, ac yn cario yn mlaen y dybirwch, gyda'r boll fanylion pa fodd yr oeddynt yn gwneyd. Daethant o hyd i enwau rhai o'r bobl a gyf- rifir yn urddasol sydd yn noddi y ffieidd-dra yma, ac yn gyfranog ynddo. Mae yn debyg ddarfod iddynt gael y ffeithiau trwy sicrbau y rhai a'u hysbysent na fradycbent bwy trwy roddi eu henwau i fyny i'r awdurdodau, oblegid buasai hyny yn dwyn y cyfryw ar Unwaith i afael y gyfraith ac eto dywedant y gellir profi cywirdeb yr oil a gyhoeddwyd. Cyhoeddodd y blaenor yn yr ymchwiliad nifer o ertbyglau yn y Pall Mall ddecbreu yr wythnos ddiweddaf, ac ni pharodd dim o'r fath erioed fwy o gynhwrf. Nid oedd copi o'r Pall Mali am Llun a Mawrth i'w gael am avian. Cymerwyd y bechgyn i fyny ar heolydd Lluudain am werthu y papyr, fel yn cynwys pethau rhy aflan i'w cyhoeddi ond yr hyn a vmddaugosai yn aughyson oedd na buasai yr awdurdodau ^n eymeryd Golygydd aChy hoeddydd y papyr i fyny, os oedd yr hyn, a gyhoeddid yn tros- r, eddu y gyfraith, ac nid eymeryd y bechgyn i fynu. Mae ysgvifenvdd yr ertbyglau yn herio yr awdurdodau i wneyd ymchwiliad i'r mater, ac os troseddodd, i'w gosbi, ond nid ymddengys eu bod yn barod i wneyd y naill na'r Hal). Dygwyd y mater ger bron y Senedd, ond ymddengys mai y teimlad yno oedd gadael i'r peth ddarfod. Myu llawer mai cbwedl wedi ei llunio yn unig i beri cyffroad, ac i wasanaethu amcanion bydol cyboeddwyr y Pall Mall yw y cwbl. Creda ereill fod yr oil yn ffeithiau, ac na fynegwyd yr haner, a sicrhant pe gwneid ymchwiliad y troai enwau llawer o bobl fwyaf y deyrnas 1 fyny, fel rhai wedi ymbulogi yn yr ysgeler- 3er. Mae yr ysgrifau wedi peri dadleu Ulawr. Condemnir hwy yn aruthr gan rai, a dywedant y gwna y cyhoeddiad ohonynt, er y gallant fod yn wirionedd, lawer mwy o ddrwg nag o dda. Amddiffynir hwy gan ereill, a dadleuant nad oes dim mor sicr o roddi drwg i lawr a'i ddynoethi; acery gall wneyd drwg i feddyliau rhai dros ychydig, eto y bydd y daioni parhaol yn gorbwysb o ddigon. Cyboeddwyd yn y Pall Mall yr wythnos ddiweddaf nifer o'r gwrthdystiadau yn erbyii yr ysgrifau, a llawn cynifer o gymeradwyaethau vn eu y ffafr, ac y mae diwygwyr cymdeithasol y deyrnas, bron yn ddieithriad, yn cymerad- wyo eii dyhoeddJetd; gan mai felly yn unig y gellir deffroi y deyrnaS i deimlad angerddol yn erbyn y fath ddrygioni. Mae eisieu dal I yr euogion, a rhoddi y fath drafnidaetb felldigedig i lawr, a dylai tadau a mamau, yn auad neb, ddyrehafu eu llais yn erbyn yr halogiad wneir ar enethod ieuainc dibrofiad a diamddiflfyn. Gwrthododd y Llywodraeth wneyd ymchwiliad i'r achos, ond y mae nifer o foneddigion dyngarol wedi oymeryd y mater i fyny, a ffurfio dirprwyaeth ar eu cyfrifoldeb eu bunain a dywedodd Mr Samuel Morley ger bron y Ty, ei fod yn barod yn un o dri i roddi ei enw wrth achos, end iddo gael prawf diamheuol o'i gywirdeb, ac yna bydd raid i'r gyfraitb gymeryd ei chwrs, pwy bynag ddelir yn euog. Mae y dynoethiadau byn yn dangos fod swm anferth o drueni a drygioni yn ei lfurfiau gwaefcbaf, a hyny yn ein hymyl, eto yn aros er yr holl ymdrechion daionus a wneir i welia a dyrchafu cymdeithas. Gwelaf fod CYMANFA OYFFREDINOL Y METHODISTIAID wedi ei chynal yn Aberdar yr wythnos hon. Y Parch R. Roberts, Dolgellau, oedd y Cadeirydd am y llynedd, ac wrth roddi y gadair i fyny i'w olynydd, y Parch D. Phillips, Abertawy, y traddododd ei anerch- iad,. Dyna yr arfer yn eu plith hwy. Nid yw anerchiad y cadeirydd wedi dyfod eto yn rhan mor bwysig yn eu mysg ag ydynt yn nghynulliadau yr Annibynwyr yn Nghymrti a Lloegr, ac y maent yn cael eu cyfyngu yn benaf i betbau fyddo yn arweddu yn union- gyrcbol ar y Cyfundeb, er ei ddiwygio a'i berffeithio. Gall pobl oddiallan dybied fod ar y mwyaf o fawrygiad ar Fethodistiaeth yn yr anerchiada,u byn, ond y mae yn bur sicr fod y Methodistiaid yn gweled llawn cymaint o fawrygiad gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr ar eu henwadau yn eu cyniill- iadau hwythau, a dichon y byddai yn anbawdd i sylwedydd anmhleidiol i bender- fynu yn mba le y mae mwyaf. Nid wyf 0 ran hyny yn gweled fod dim allan o le mewu i enwadau ar acblysuron o'r fath siarad cryn lawer am danynt eu hunain, ond iddynt wneyd hyny beb ddarostwng na byebanu neb arall. Yr oedd y Cadeirydd y waith yma yn ddyn craff, a pbwyllog, ac anym- hongar, a bellacb wedi myned i ddosbaith yr hynafgwyr, er o bosibl fod yn anhawdd ganddo gydnabod hyny. Nid yw wedi bod yn un o wyr amlycaf y Cyfundeb, a dichon na chyfrifir ef yn nosbarth blaenaf y preg- ethwyr poblogaidd, eto y mae wedi bod trwy ei oes yn sylwedydd manylgraflp, yn deall trefniadau y Cyfundeb yn dda; ac er heb fod un amser yn brysur i siarad, eto yn un, pan y llefara, gwna hyny yn wastad mewn doethineb. Mae ei anerchiad yn Aberdar yn engraifft nodedig o hyny. Er fod yn eglur fod ei gydymdeimlad a'r blaid ddiwyg- iadol yn y Cyfundeb, eto y mae yn gynil a chymedrol yn ei holl sylwadau, ac y mae yn eglur ei fod, am ddwyn pob diwygiad i mewn mor esmwyth a didramgwydd ag y gellir. Nid oes dim llai na cbwildroad a foddlona ambell un, ond y mae pob dyn doeth a deallgar mewn, enwad, yn gystal ag mewn gwladwriaeth, am ddwyn oddiamgylch bob diwygiad heb derfysgu oud a fyddo raid ar yr ben derfynau. Dadleua Mr Roberts mai un o ragoriaethau Methodistiaeth ydyw ei ystwythder i gyfaddasu ei hun i'r amgylch- iadau. Un peth a ganfyddai yn eglur yn y dyddiau byn rhagor yr oedd gynt ydyw, fod yr elfen werinol yn llawer cryfach. Ystyria pob un fod ganddo ei farn ar bob achos a ddygir ger bron, a bawl i'w thraethu. Yn hyn y mae pethau wedi newid yn fawr rhagor yr hyn oedd gynt. Ymddiriedid y cwbl gynt i ychydig o'r arweinwyr, ond creda pob un yn awr fod ganddo hawl i beri i'w lais glywed, a chlywir-hyny yn rhy ami pan na byddo ond y llef yn unig, heb unrhyw oleuni ar y mater ger bron. Mae yn eglur, yn ol anerchiad Mr Roberts, fod llawer yn teimlo yn anesmwytb o eisieu fod mwy o sefydlogrwydd yn y weinidogaeth o dan ryw gynllun, yn lie fod y fath afrad ar arian ag a wneir yn awr i gyrchu pregetb- wyr o bell; ac, fel y dywed yntau, y mae y draul sydd yn nglyu a hyn yn ddifrifol. Ond nis gallaf ddilyn yr anerchiad rhagorol hwn yn mhellach. Yr oecldwn wedi meddwl cyfeirio at yr ystadegaeth a ddarllenwyd, a'r cynyg am undeb agosach a Phresbyteriaid Lloegr ond gwelaf fod yn rbaid i mi adael y cwbl am heno. Lladmerydd. -+-

ADGOFIOJST DEUG A IK MLYNEDD..