Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ABEEDAE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABEEDAE. Gan fy mod oddicartref yn Glanyfferi (Ferryside), lie mae yr afon Towy yn ymarllwys i'r mor, nid wyf yn gwybod am bobpeth sydd yn Aberdar, ond yr wyf ya dra diolcbgar i Gyhoeddwr y TYST A'R DYDD am ei ddanfon i mi yma i blith y pysgod. Y diwrnod cyntaf y daethum yma, daeth i fy meddwl fod y Milflwyddiant wedi decbreu wrth weled y fath daenfa rhwydau, fel o Engedi i Ene clatim, a'r pysgod yn dda fel pysgod y mor mawr. Rhywbeth fel yna fydd pregethiad yr Efepgyl yn mhlith yr boll genedloedd, y rbai gyait nad oedd pysgota dynion a rhwyd yr Efengyl yn eu plith mwy nag y byddid yn pysgota yn y Mor Marw; ond mae dyddiau gwell wedi dyfod arnom, ac nid yw hi eto ond dechreu gwawrio. Bydd i wybodaeth o'r Arglwydd lanw y ddaear fel y toa y dyfroedd y mor. Lie rhyfedd ydyw hwn. Mae yma ugeiniau yn cael eu bywioliaeth wrth bysgota, ac ar ol eu dal, maent yn ddiwyd iawn yn eu pacio, a'u danfon gyda'r tren i Merthyr, Aberdar, a Llundain. Gallem feddwl yn Aberdar mai y glo ydyw bywyd y byd, ac felly Cwm Rhondda, &s., yn Nowlais a Merthyr, mai y dur ydyw y cwbl. Amaethydd- iaeth yn bobpeth mewn manau ereill, ac yn Ferryside meddylir mai pysgod a physgota ydyw y cwbl. Gwrywod yn droédnoeth yn gwthio badau, a thynu rhwydau i dir; gwragedd yn chwilio am goes, ac asynod yn bloeddio wrth eu cario at y tren. Yr wyf yn Iletya o dan gronglwyd y Parch William Prydderch, gweinidog da yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, wedi treulio oes faith i bregethu yr Efengyl trwy Dde a Gogledd Cymru. Mr Prydderch, sir Gaerfyrddin, fyddai y Dywysog- aeth yn ei alw, a'r siroedd yn falch ohono. Mae wedi bod yn anhwylus o ran ei iechyd yn ddi- weddar, ond y mae yn dyfod yn well, fel y gobeithiwn y gall fyned yn fuan eto at ei gyhoedd- iadau. Nid wyf yn meddwl fod nemawr yn yr oes hon wedi cael eu breintio a chryfach synwyr cyifredm na Mr William Prydderch, ac yn for o ddawn i bregethu yr Efengyl. Trueni ei fod' yn myned yn hen, ond mae y meibion yn dyfod yn lie y tadau, fel y gwelir ei fab hynaf yn y Gopa, Pontardulais, a'i fab ieuengaf yn decbreu pregethu yn Llanymddyfri. Llwyddiant iddynt. Fe ddy- wedir nad ydyw dyn yn foddlon addef fod neb yn rbagori arno ond ei fab. Mi ddaethum yma dyddtMawrth, y 7fed o'r mis hwn, sef boreu tranoeth i se'ydliad y Parch D. Onllwyn Brace yn Bethel, Aberdar. Yr oedd y Sabboth blaenorol yn gyfarfodydd blynyddol Bethel, pryd y pregethwyd yn rhagorol gan y Parchn Trefor Davies, Llanelli, a W. Bowen, Penygroes, a nos Lun hefyd. Am haner wedi dau o'r gloch dydd Llun, yr oedd y cyfarfod sefydliad Yr oedd cynifer ag oedd gartref o weinidogion y Cyfundeb yn bresenol. Nid cyfarfod pregethu i.oedd hwn, felly neillduwyd y Parch J. Morgan Cwmbach, i gymeryd y gadair. Wedi dechreu trwy ddarllen a gweddio gan y Parch H. P. Jenkins, Wern, Ystalyfera, galwodd y Cadeirydd ar Mr J. D. Evans", un o ddiaconiaid henaf y Wern, i siarad, a rhoddodd uchel ganmoliaeth i Mr Brace fel Cristion, pregethwr, a dirwestwr. Ar ei ol ef siaradodd Mr D. Lewis, diacon henaf Bethel, am eu hunfrydedd fel eglwys yn eu dewisiad o Mr Brace. Yna galwyd ar y Parch J. Davies, Aber- cwmboy, yi* hwn a siaradodd yn fyr a phwrpasol. Ar ei ol ef, y Parchn W. S. Davies. Llwydcoed, a J. D. Rees, Salem. Mesur byr yr oedd yn rhaid iddynt hwythau gymeryd. Yn nesaf, ceisiodd y Cadeirydd gan y Parch J. Davies, Soar, i ofyn am anvydd oddiwrth y gynulleidfa a Mr Brace eu bod yn dewis eu gilydd. yr byn a wnaed yn unfrydol. Yna gweddiodd y Parch R. Griffiths, Cefn, am fendith Duw ar yr undeb. Siaradodd Mr Brace ychydig eiriau yn doddedig, a chanwyd emyu ya wresog. Wedi hyny, siaradwyd gan y Parchn L. P. Humphreys, Abercanaid, a D. Sdyn Evans, Aberdar. Fe ballai amser i mi nodi y pethau ffraeth a doniol a ddywedwyd gan y brodyr yn y cyfarfod hynod hwn. Yna Jones, Cefn; Edmunda, Hirwaun; Davies, Ebenezer, Llauelli; Bowen, Penygroes Hough, Merthyr Davies, Cwm. aman Jenkins, Wern; Hywel Cynon Brythor.- fryn Jones (T.C.), Carmel; a Jones (B.), Llwydcoed. Yr oedd y brodyr yn r'oddi crcesaw cynes i'r gweinidog newydd, a gvvnaed cyfeiriadau tyner a chariadlawn at Mrs Brace. Hysbyswyd uynwysiad amryw lythyrau caredig a ddanfonwyd i'r cyfarfod oddiwrth frodyr oedd yn methu bod yn bresenol, megys y Parchn Williams, Hirwaun Evans (B.), Gadlys; Evans, Nelson; Howell, Tabernacl; Rowlands, Aberaman Griffiths, Cvvmdar; a Thomas, Merthyr. Mae Mr Brace yn dechreu yn gysurus, ac os ydyw efe o'r dymher addfwyn ac efengylaidd y dywedodd y rhai a'i hadwaenent oreu ei fod, gallwn ddysgwyl pethau gwych oddiwrth yr uodeb* hwn. Mae eglwys Bethel yn ua fywiog a gweitbgar, ac yn hynod dalentog. Da genyf fod hen eglwys barchus Ebentaer wedi rhoddi galwad unfrydol i wr ieuanc tra gobeitbiol o Goleg Caerfyrddio. Gobeithio y bydd ei oes yno cyhyd ag oes ei ragflaenydd, y diweddar Mr Edwards, ac yn llwyddianus yn '>n plith, GOHEBYDD.

COLEG GOGLEDD CYMRU.

[No title]

[No title]

_---r-----Y GOLOFN WLEIDYDDOL.