Cynuiysiad. I Hysbysiadati 1} 2 Ymylon y Ffordd—Adgofion Deugain Elynedd 3 Y Golofn Wleidyddol 4 Aberclar-Goleg Gogledd Cymru-Galwadau 5 Llanelli/— Cwm Rhondda—Tonypandy—Caerlleon a r Cyffiaiau—Llangwm 6 Yr Eisteddfod Genedlaethol, 1885-Libanus, ger Aberhonddu-Abertawy-Anianford 7 At ein Gohebwyr—Yr Wythnos 8 Y BRIF ERTRYGL- Ymgeisydd Toriaidd Abertawy 8 Y Sanedd Ymherodrol 9 Bargoed a'r Cylchoedd-Newyddiol1 Cyffrgdinol- Gohebiaethau 10 Cyfarfodydd 11 Y Wers Rhyngwladwriaetho!— Mar wolaethau 12 Cyfarfod Sefydliad y Parch J. B. Parry, diweddar o Lansamlet 13 Hyst.yaiadau 13,14,15,16
AT EIN GOHEBWYR. Edmygwr.-Byddai gwneyd yr byn a awgrymwch yn ddymunol, er yr of own y byddai anhawsder mawr i'w gario allan. Gohirir cyhoeddi yr eiddoch oblegid fod rhywbeth ar droed mewn cyfeiriad arall, am yr hwn ond odid na chewch wybod cyn hir. Mewn Llaw.-Cyfundeb ^Go^leddol Morganwg-Yr Etholwyr newvdd a'u Dyiedswyddau-John Lloyd- Tonyrefail-Cromwell-Mr John Edward Lloyd, B.A.-Urddiad yn Felindre, Lianayfelach-Clive a H-adnall—Cyfarfodydd—Priodasan — Marwolaethau, &c', &e.
YR WYTHNOS. CWYMPO ALLAN 0 GERBYD Y TBEN.— Prydnawn Sadwrn diweddaf yr oedd bach- genyn ieuanc 7 mlwydd oed, mab i Robert Henry Jones, Penygroes, Caernarfon, yn 19 teithio gyda y tren i Afonwen, a rhwng Brynkir a Pantglas fe agorodd drws y cer- byd yn ddisymwth, a chan fod y bachgenyn yn pwyso yn ei erbyn syrthiodd allan. Ataliwyd y tren yn Pantglas, ac anfonwyd yrengine yn ei hoi i edrych am dano, a phan gafwyd ef yr oedd yr anadl ynddo, ond bu farw. yn mhen yehydig oriau. T Y LOFRUDDIAETH DDIWEDDAR YN ST. CLEARS. Mae yn gofus gan ein darllenwyr am y lofruddiaeth ofnadwy gyflawnwyd mis Ebrill diweddaf mewn ffermdy o'r enw Maesygrove, St. Clears, pryd y lladdodd Thomas Thomas ei wraig. Dydd LIun yr oedd i sefyll ei brawf yn mrawdlys Caer- fyrddin ar y cyhuddiad o lofruddiaeth. Dygwyd o flaen y BarnWr, ac ymddang- osodd dadleuwyr dros ac yn erbyn y car- charor, ond cyd-dystiolaethai meddygon o Gaerfyrddin a Llundain nad oedd y car- charor yn ei iawn bwyll, y synwyrau wedi dyrysu, felly nad oedd ar hyn o bryd mewn sefyllfa briodol i sefyll ei brawf. Felly gorchymynodd y Barnwr ei gadw mewn gwallgofdy cyhyd ag y barnai y Frenines yn briodol. J CYDYMDEIMLAD A'R GLOWR. — Mae yn goius gan ein darlleuwyr. am y ddamwain ohdus ddygwyddodd yn ddiweddar yn nglofa Clifton Hall, yn agos i Manchester, pryd y collodd rhai ugeiniau o lowyr eu bywydau. Gwnaed apel at y wlad am dan- ysgrifiadau i gynorthwyo y gweddwon a'r amddifaid, ac ni dderbyniwyd apel erioed mewn gwell ysbryd a chydymdeimlad. iviecidyliwyd wrth gychwyn y buasai £15,000 yn swm digonol ar gyfer y gweddwon a'r amddifaid, ond y mae yn dda genym allu hysbysu fod y swm o £21,000 eisoes wedi dyfod i law, a dywedir fod casgliadau am- ryw gymydogaethau heb dd'od i law. Bernir pan ddaw y cwbl i law y trysorydd y cyr- haeddant y swm anrhydeddus o £ 23 000 Prawf hyn yn amlwg fod calon barod gan y bobl i gydymdeimlo a theuluoedd y dewrion hyny sydd yn colli eu bywydau trwy y dam- weiniau mynych sydd yn dygwydd i ran -glowyr ein gwlad, ac nid ar dafod yn unig y dangosir y cydymdeimlad, ond wele nifer luosog yn myned yn isel i'w llogellau, fel y prawf y symiau anrhydeddus uchod eu bod yn barod i gydymdeimlo mewn modd syl- weddol a gweddwon ac amddifaid ein glowyr. YSGARMES OFNADWY GYDA THYDORWR.— Nos Fawrth, yn hwyr, canfu beddgeidwad o'r enw Owen Davies (Oymro), pan ar ei ddyledswydd yn nghymydogaeth Kensing- ton Park Gardens, Llundain, ysgol wedi ei gadael yn erbyn ty gwag oedd yn myned dan adgyweiriadau ar y pryd. Meddyliodd y swyddog ieuanc y gallasai y cyfryw ysgol fod o wasanaeth i ryw leidr i ddringo ar hyd iddi er cael mynediad i mewn trwy nen rhai o'r tai cylchynol; a cban nad oedd ganddo amser i aros ar y pryd, gosododd fare neillduol arni trwy ba un y gallasai yn rhwydd adnabod pan ddychwelai os buasai rhywun wedi myned i fyny drosti. Felly fu aeth rhag ei flaen i ben ei siwrnai, a phan ddychwelodd rhwng un a dau o'r gloch y boreu, deallodd ar unwaith fod rhywun wedi myned i fyny dros yr ysgol; ac ar ol cael cynorthwy cyd-swyddog o'r enw Pretty- man, penderfynodd Davies esgyn ar hyd yr ysgol, a'i gyfaill i aros wrth y godre. Cyn J gynted ag y cyrhaeddodd nen y ty, clywai y swyddog wrth y gwaelod eiriau cynhyrfus j yn cael eu siarad, a galwai am help. Gyda r hyny, clywai ergyd o bistol yn cael ei ollwng. Dechreuodd redeg i fyny dros yr ysgol, ond pan ar haner y ffordd teimlai yr ysgol yn cael ei symud odditano; edrychodd i fyny, a gwelai ddyn a masc ar ei wyneb yn ceisio I rhyddhau yr ysgol er ei thaflu ymaith oddi- wrth y ty. Pan welodd y perygl oedd yn- ddo, ymollyngodd ei hun i lawr ar hyd yr ysgol, ac ymaith ag ef mewn brys gwyllt i ymofyn cynorthwy. Dychwelodd mewn byr amser gydag amryw o beddgeidwaid ac ereill, ac awd i fyny yr ail waith dros yr ysgol, pryd y cafwyd Owen Davies megys yn farw ar ben y ty-y gwaed yn rhedeg o'i wddf, a chafwyd allan ei fod wedi ei saetbu bedair gwaith; ond rhywfodd yn rhaglun- iaethol, gallesid meddwl, nid oedd dim un o'r bwledi wedi myned i mewn i'w gorff Awd ag ef i'r meddygdy mor fuan ag oedd bosibl. Nid oedd yn alluog i siarad gair, ond y mae y meddygon yn credu yn gryf yr adferir ef. Bid sicr, yr oedd y ty-dorwyr wedi dianc cyn j gynorthwy digonol gy- rhaedd. Mae'n bosibl y gall Davies, ar ol iddo wella, roi desgrifiad ohonynt, ac a'u dwg hwynt i'r ddalfa eto. Yn wir, dangos- odd y Cymro ieuane wroldeb teilwng 0 arwr. Y BARNWR GWILYM W ILLIAMS.- Y r ydym eisoes wedi cyfeirio at benodiad y boneddwr i gylchdaith Morganwg. Yr wythnos ddiweddaf cymerodd ei eisteddle am y waith gyntaf yn Llysoedd Merthyr ac Aberdar, a chafodd dderbyniad croesawgar gan y cyfreithwyr a'r masnachwyr. Yn Llys Aberdar, siaradodd Mr Linton, fel y cyfreithiwr henaf yn y dref; yehydig eiriati caredig. Dymunai ddatgan, drosto oi hun a'i gydgyfreithwyr, y pleser mawr yr oeddynt yn fwynhau wrth roddi croesaw calon i'w anrhydedd ddyfod i'w plith. Yn Merthyr, disgynodd y gwaitb o longyiarch y Barnwr ar Mr W. Simons, fel y cyfreithiwr henaf a berthyna i'r llys, a gwnaeth hyny mewn yehydig frawddegau hynod bwrpasol. Wrth gydnabod y derbyniad yn Aberdar, dywedai y Barnwr fod ei deimladau yn hynod gymysglyd. Yn mlaenaf teimlai hyfrydwch mawr wrth gael y fath dderbyniad brwd- frydig yn ei dref enedigol. O'r tu arall, teimlai dipyn yn ddigalon rhag ofn nad oedd ei allu yn gyfryw ag a'i cymhwysai i wneyd cyfiawnder a'r achosion ddygasid o'i flaen. Yr oedd y teimlad hwn yn ei flino yn llawer mwy pan yn dyfod i ddosbarth Morganwg na phan yn myned i ganolbarth Cymru, gan ei fod yn awr yn dyfod yn ol i'w le genedigol, ac i blith pobl oedd wedi eu cydfagu ag ef. 9 Yehydig feddyliodd pan yn fachgenyn yn Aberdar i ymgyrhaedd at gadair Barnwr Llys y Man Ddyledion yn wir, ei syniad y pryd hyny oedd cael ei ddwyn i fyny i edrych ar ol y glo, a dichon mai hyny fuasai oreu iddo ond nid eiddo gwr ei ffordd yn ei achos ef, mwy na llawer achos arall. Wel, wedi cyrhaedd y safle anrhydeddus yma, yr oedd yn penderfynu gwneyd ei oreu i weinyddu cyfiawnder rbwng gwr a gwr. Wrth gydnabod ei dderbyniad yn Llys Merthyr, amlygai y Barnwr ei syndod am nad oedd yno neuadd bwrpasol i gynal y llys, yn lie ymddibynu ar neuadd yr heddgeid- waid. Amlygodd ei barodrwydd i ddwyn y diffyg 0 flaen yr awdurdodau y cyfleustra cyntaf. Prin y mae eisieu adgofio ein darllenwyr mai mab i'r diweddar Alaw Goch, Ynyscvnon, Aberdar, yw y Barnwr Williams, a medr siarad yr hen Gymraeg yn llithrig a. hyawdl.
YMGEISYDD TORIAIDD ABERTAWY. YMDDENGYS fod boneddwr ieuanc o'r enw Mr MEREDYTH wedi cymeryd yn ei ben i ddyfod allan fel ymgeisydd Toriaidd am sedd yr hen wron ffyddlon Mr DILLWYN dros fwrdeisdref Abertawy. Dywedir nad yw ond 22 oed, a gwneir gwawd ohono gan rai ar gyfrif ei oed ond nid ymddengys i ni y dylid ei wawdio am hyny nis gall efe help ei fod yn ieuanc, a daw allan o'r anghy- mhwysder hwnw yn raddol, os ywyn anghy- mhwysder o gwbl. Cychwynodd Mr GLAD- STONE ei yrfa Seneddol pan nad oedd ond 23 oed, ac ni fu hyny yn anfantais iddo i gyrbaedd y safle uehel ac anrhydeddus y mae yn ei dal heddyw fel prif wladweinydd ei oes. Os dywedir fod ei hyfdra yn anny- oddefol yn ceisio sedd henfoneddwrparchus, ac un o aelodau Ifyddlonaf y Senedd, sydd wedi cadw ar y blaen fel Rhyddfrydwr aDl ddeng mlynedd ar hugain, addefwn fod sentiment Rhyddfrydwyr y fwrdeisdref, a'u parch tuag at Mr DILLWYN yn naturiol yn eu harwain yn mhell mewn gwrthwynebiad i'r gwr ieuanc ond pan feddyliom fod gan Mr MEREDYTH gystal bawl a chan rywral ereill, yn gyfreithiol, gystal hawl i ymofyu am y sedd a Mr DILLWYN, pan ddaw yn wag, bydded rhyngddo ef a'i hyfdra, a dangoswn iddo yn y lie a'r amser priodol na dderbynir neb ond Mr DILLWYN tra y byddo byw, a thra y byddo ei olygiadau gwleidyddol y fath ag ydynt. Mae Toriaid yn mwrdeisdref Abertawy, fel yn mbob bwrdeisdref; ac os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu camgynrychioli yn ddigon hir gan Ryddfrydwr o nodwedd Mr DILLWYN, a'i bod yn bryd iddynt hwy gael eu cynrych- ioli yn deg bellach gan Dori o'r iawn lun a lliw, purion; paham y gwarafunir iddynt wneyd eu goreu er cyrhaedd hyny ? onid oes ganddynt hawl i wneyd hyny a llwyddo, os medrant ar dir teg? Dywedwn eto, chwareu teg i'r gwr ieuanc, a chwareu teg i'r dyrnaid Toriaidd sydd yn y fwrdeisdref i *3