Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ty YR Abglwtddi. — Dydd Mawrth. — Aed i bwyllgor ar Fesur Ysg-rifenydd i Ysgotlaud, a chynygiodd Arglwydd Eoseberry, gan yr hwn yr oedd gofal y mesur, ychwaaegu adran yn gosod yr 11 Ysgrifenydd yn Llywydd yr Education Depart- ment i Ysgotland. Y Department hwnw i gael ei benodi gan y Ty a'r Frenines. Gwrthwynebodd larll Camperdown, a chefnogodd Due Argyll. Yna pasiwyd y mesur gan gynwys yr adran. Ar gynyg- iad Archesgob Caergrawnt, darllenwjd yr ail waith fesur, amcan yr hwn oedd rhoddi gallu i'r Eccles- iastical Commissioners i godi cyflogau yr Arch- ddiaconiaid. Wedi ychydig ymddyddau ar waith Canghellydd y Trysorlys yn cyhuddo ei flaenorydd o gamddefnyddio arian yn nglyu a'r llynges, cod- odd y Ty. Ty Y OYFFKBDIN. — Mynegodd Mr Burke ddar- fod i Ymherawdwr Awstria anrhegu un Lady Paget a darlun o'r Ty Cyffredin yn amser Mr Pitt, a bod y foneddiges bono wedi ei gyflwyno i Ymddiriedolwyr y National Gallery. Mewn ateb- iad i Mr Fowler, dywedodd Syr R. Cross fod y Llywodraetb, ar ol yetyriaeth briodol, wedi pen- derfynn peidio erlyn Golygydd na. Pherchenog y Pall Mall Gazette. Mewn Pwyllgor Cyflenwad, dywedodd Mr Stanhope i .£3,181,879 gael eu treulio llynedd ar addysg, a'i fod yn gofyn eleni £ 3,302,372. Cynydd 0.8120,493. Fod y cynydd bwn yn codi o'r cynydd yn y grants oddiwrth y Llyw- odraeth a'r cynydd yn yr athrawoD. Syr F. Milner a ddymunai am i'r Llywodraeth dalu sylw i addysg y mud a'r byddar, ac hefyd y daII. Ateb- odd Mr Stanhope fod yn mwriad y Llywodraeth i benodi dirprwyaeth i ystyried achos y dall, a pha mor bell oedd y trefniant addysg yn cyfarfod ag aagenion y mud a'r byddar. Ty Y CYFFREDIN.—Dydd Mercher.—Wedi myned trwy y cwestiynan, &c., aed i Bwyllgor Cyflenwad. Gofynwyd am £ 51,488 tuag at adeiladau y Sen- edd-dai. Cynygiodd Mr M. Henry fod £8,000 i gael eu tynu oddiwrth y swm uchod. Ar ol dadl rhanwyd y Ty. Dros y gwelliant, 42. Yn erbyn, 196. Cynygiodd Arglwydd G. Hamilton fod pwyllgor neillduol i gael ei benodi i wneyd ym- chwiliad i dreuliau a dyledion y morlye. Cytun- wyd ar hyny. Cododd y Ty yn fuan. TY YR ARGLWYBDI.— Dydd Iau.-Rhoddwyd y sel freninol wrth 42 o fesurau, ac yn eu mysg yr oedd Mesur Diwygiadol y Cymdeithasau Cyfeill- gar. Cynygiodd Arglwydd Salisbury ail-ddarllen- iad Mesur Tai i'r Tlodion. W^edi egluro ychydig ar ei ddarbodion, ail-ddarllenwyd ef. Ty Y CYFFREDIN—Mewn atebiad i Mr Campbell, dywedodd Syr W. Harcourt nad oedd yn ei aHu i fyned yn mlaeu gyda'r Crofters Bill, yr hwn oedd y Llywodraeth wedi penderfynu ei adael allan. Mewn atebiad i Mr Stuart, dywedodd Canghell- ydd y Trysorlys, gan fod Mesur y Difreiniad yn herwydd derbyn cymhorth meddygol plwyfol yn un mor bwysig, fod y Llywodraeth am fyned yn y I 11113en ag ef yn ddio.ed. Dymucai Syr R. Cross sicrhau Mr S. Smith y gwnai y Swyddfa Gartrefol bob ymdrech i gosbi y rhai, os oedd rhai a g Md yn euog o'r troseddau yr ysgrifenwyd erthyglau arnynt yn y Pall Mall Gazette. Mewn atebiad i Mr Healy, dywedodd Syr R. Cross nas gallasaiym- gymeryd a mesur i ohirio etholiadau Cynghorau Trefol hyd ar ol yr etholiad Seneddol. Mewn atebiad i Syr H. Maxwell, dywedodd Syr R. Cross yn wyneb fod mater ffiangellu yn un slchymaint o ddadleu arno, nas gallasai roddi ei gydsyniad a mesur oedd o flaen,y Ty yn d^rbodi fod fflaDgellu i fod yn rhan o gosb y rhai a geid yn euog o gyf. lawni troseddau gyda dynamite, &c. Ar y cynyg- iad fod Mesur y Customs and Inland Revenue i gael ei ail-ddarllen, gwnaeth Mr Childers ychydis; sylwadau beirniadol, ond ni chynygiodd welliant, Ty YR ARGLWYBDI. — Dydd Gwener. — Wedi ycbydig- siarad am addysg ail-raddol a'n ham- ddiffyufeydd arforol, dygodd Arglwydd Ashburn i fewn fesur i hwylysu gwerthiant tiroedd i'r ten- antiaid yn yr Iwerddon. Wedi egluro ei ddarbod- ion, darllenwyd ef y waith gyntaf. Ty Y CYFFREDIN. — Nid oedd ond ychydig o gwestiymiu dibwys i fyned trwyddynt. Wrth fyned i Bwyllgor Cyflenwad, cododd Mr Parnell, yn ol ei rybudd, i alw sylw ar weinyddiad cyliawn- der yn yr Iwerddon, o dan y Weinyddiaeth flaen- (rol. Nid oedd hyn yn ddim ond sen-bleidlais ar larll Spenser. Cynygiodd fod Pwyllgor i gael ei nodi i wneyd ymobwiliad i'r achos. Eiliwyd gan Mr W. Cobbet. Gwnaeth Mr Hicks-Beach, ar ran y Llywodraetb, araeth gref. Nis gallasai gyd- synio a'r cais, a galwai ar y Ty i'w gefnogi, Syr W. Harcourt hefyd a amddiffynodd larll Spenser a'r Weinyddiaeth, a dangosai fod y mater wedi ei ddadleu o leiaf bump o weithiau drosodd. Ych- wanegodd Arglwydd R. Churchill ychydig eiriau yn ei ddull ei hun. Dymunai Mr Parnell alw ei gynygiad yn ol. Yna aed i Bwyllgor Cyflenwad,

YMGEISYDD TORIAIDD ABERTAWY.