Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

-------YMYLON Y FFORDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Gnrphenaf 25ain. DRWG genyf fod rhai o'm cyfeillion wedi eu hanesmwytho gan ryw grybwylliad a wnaed C, ddechreu yr wythnos hon yu nglyn a sefyllfa fy iechyd. Mae yn debyg mai rhyw ohebydd prysur i ryw bapyr prydnawnol a gychwynodd y cwbl, yn absenoldeb unrhyw "6th arall, mae yn debyg, i beri cyffroad a chan fod y newyddiaduron ar hyn o bryd yn lIed brin o newyddion, ymddengys ddarfod i aJttyw ohonynt ei ail gyhoeddi, nes peri Pryder ac anesmwythder i lawer o'm cyf- Million, fel yr wyf yn deall oddiwrth y %thyrau a dderbyniais. Yr wyf yn ddiolch- gar iawn i'm cyfeillion oll am y gofal mawr a ddangosir ganddynt am danaf, a da genyf allu eu sierhau fy mod yn gwella yn ^bagorol ar ol yr ychydig anhwyldeb a'm ualiodd. Yr wyf wedi bod yn segur am cQWe' Sabboth, ac y mae hyny yn ameuthyn Inawr i mi. Yr oeddwn wedi meddwl, ac yn wir wedi addaw pregethu gartref wythnos 1 yfory, ond gan fod yr eglwys yn garedig wedi rhoddi i mi ollyngdod nes y byddaf wedl llw-yr adfer, y mae pawb yn fy ^bynghori i beidio dechreu o leiaf hyd Jjdechreu Medi ac er mor groes yw hyny *01 teimlad, yr wyf wedi rhoddi ffordd i fod yn ddvstaw am chwech Sabboth arall. Nid Wyf yn amheu dim nad yw y eyfeillion oil yn fy nghynghori oddiar y dybenion cywiraf, ond ychydig wyr y rhan fwyaf ohonynt. hwy y fath groes i mi ydyva bod yn ddystaw ,ykyd, a minau yn.teimlo yn ddigon cryf i *egethu, ond fod fy llais yn egwan ond "ag cael ail ymosodiad, dyogelach ydyw i 1111 ynabwyllo am ychydig eto. Cymered fy Snyfeillion hyn, er arbed i mi y drafferth o ysSrifenu at bob un yn bersonol. Tarawyd fi yn rymus pan welais am FARWOLAETH DR HARRIES JONES. oeddwn or blaen wedi clywed am ei Waeledd, ond ni feddyliais fod ei ddiwedd agos. Yr oedd yn pregethu yn Wrex- a?* Sabboth wythnos i'r diweddaf. Yr Oedd yn rby wan i'r cjaith, a. mynai ei Syfeillion iddo beidio myned, ond nid oedd Perswadio arno. Aeth oddiyno i Soutbport 1 r Hydropathic Institution, ond nid oedd Stella iddo, a bu farw yno ddydd Mawrth j1Weddaf. Cymerwyd ei gorff o Liverpool i J^ndysul yn y tren i'w ddwyn i Closvgraig, • a°geler, ei ardal enedigol, lie y cleddir ef aydd Mawrth nesaf. Gwelais ei arch yn y serbydres oedd yn myned trwy y lie yma A-Lilandrindod) prydnawu dydd Mercber, a eimlwn yn rhyfedd i weled ei weddillion edi ei ddwyn i le mor fychan. Da, yr wyf cofio Dr Harries Jones ddeugain mlynedd yn ol yn dyfod yn fachgen cryf, gwledig, o b lbsygraig i Gaertyrddin i'r ysgol. Cafodd ^anteision addvsg a allasai arian eu ^°adi iddo. Yr oedd yn un o'r dynion wyaf cywir a diniwed, yn bregethwr doniol Pooblogaidd, ac am yr ugain mlynedd olaf Tn TJ8 ^Wasanae^bodd fel Athraw Clasurol v fl ^re^eea" ^ae P0*3 enwa^ yn Nghymru 5^^yddyn hon yn gorfod teiralo, oblegid y cedrwydd yn cwympo. Llawenydd mawr oedd genyf weled fod Cynadledd y Wesleyaid wedi ethol Y PARCH RICHARD"ROBERTS yn llywydd. Bu ar fin cyrbaedd yr anrhy- dedd yma, y llynedd, ond eleni etholwyd ef gyda mwyafrif mawr. Yr ydwyf fel Cymro yn llawenhau yn yr anrhydedd yma a osodwyd ar Mr Roberts. Er mai yn mysg y Saeson y mae wedi llafurio am ddeugain mlynedd, eto y mae yn Gymro o waed coch cyfan, a'i deimladau Cymreig mor fywiog a chynes a phe buasai wedi treulio ei oes yn Nghymru. Yn nghyfarfodydd y Cymry. yn Llundain, nid oes yr un gweinidog Seisonig y gwelir ei wyneb yn amlach na Mr Richard Roberts. Nis gwn a fu Cymro o'r blaen yn Llywydd y Gynadledd, ond y mae y Cymro a etholwyd eleni yn sicr o gyflawni ei orchwyl er anrhydedd i'w holl genedl. Mae etholiad Mr Roberts yn deyrnged i'r pwlpud hefyd, oblegid fel pregethwr y mae yn rbagori. Nid yn ami y clywir ei lais yn Ngbynadleddau y Cyfundeb. Mae yn gadael materion eyffredinol i'r rbai y mae ynddynt fwy o chwaeth, os nad mwy o gymliwysder, at bethau felly, ac wedi cyfyngu ei hun agos yn gwbl at bregethu ac y mae am ddeng mlynedd ar hugain wedi bod ar restr flaenaf pregethwyr y Cyfundeb. Mae cryn lawer o dan ac arddull y pwlpud Cymreig yn ei bregethau, ac y mae yn bur sicr fod hyny yn yehwauegu yn ddirfawr at ei boblogrwydd. Dymunaf iddo flwyddyn lwyddianus yn mhrif gadair ei enwad, ac oes hir wedi myned allan ohoni i wasanaetbu ei genedlaeth a'i oes. Nid yn ami y darllenais ddim gyda mwy o hyfrydwch nag y darllenais DAFLEN YSTADEGOL MEIRIONYDD, yn nghyda phapyr y Parch P. Howell ar ystadegaeth, a ddaeth heddyw i'm Haw. Dyma un o'r cynygion goreu a welais eto at gael ystadegaeth gywir o eglwysi ein Hen- wad. Yn ychwanegol aty Daflen a Phapyr Mr Howell, ceir yma adroddiad Oymdeithas Achosion Gweiniaid y Sir. Ni ddywedaf ddim am yr adroddiad, yn yehwaneg na bod rhai eglwysi wedi gweithio yn ganmoladwy a chvdweithrediad cyffelyb oddiwrth yr holl eglwysi a sicrhiii fwy na dwbl swm y casgl- iad eleni. Nid wyf yn gwybod ond am un Cyfundeb—sef Cyfundeb Lleyn ac Eifionydd -sydd yn arfer cyhoeddi ystadegaeth fanwl fel hyn. Maent hwy yn arfer gwneyd er's blynyddau. Da genyf weled Meirionydd yn gwneyd hefyd, a byddai yn dda genyf weled holl Gyfundebau Cymru yn mabwysiadu yr un cynllun. Byddai genym wedi hyny ys- tadegaeth at yr hon y gellid apelio, yn dwyn gyda hi brofion annadleuadwy o'i bawdur- dod. Nid heb drafferth y gallwyd cael y eyfrif, a dangosodd yr vsgrifenydd, y Parch J. Pritchard) ffvddlondeb diflino. Bu raid iddo apelio unwaith ac eilwaith i rai manau, ond ni orphwysodd nes eu cael yn gyflawn. Mae y cwestiynau a anfonwyd yn bur fanwl, ond nid mewn un modd yn ymyraeth ag achosion mewnol unrhyw eglwys. Gofynid enw yr addoldy, y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf, y flwyddyn yr adeiladwyd y capel presenol, nifer yr ymddiriedolwyr sydd yn fyw, gwerth y carpel presenol, pa un ai prvdlesol ai rhydd-feddiant ydyw, swm y ddyled ar ddiwedd 1884, rhif y cymunwyr yn niwedd 1884, rbify rhai ar brawf, rhif y plant sydd yn dyfod i'r gyfeillach, rhif y gwrandawyr heb yr eglwys, y rhai ar brawf a'r plant, nifer yn y Band of Hope, nifer yr Ysgol Sal, cyfanswm yr aelodau a'r gwran- dawyr. Mae eyfrif am y pethau hyn oil wedi ei gael o bob He. Yn ei bapyr yr hwn addarllenwyd ganddo yn Nghyfarfod Chwar- terol y Dyffryn, y mae Mr Howell yn elfenu gyda medrusrwydd nodedig yr ystadegaeth. Gwyddai pawb ei fod yn un o bregethwyr goreu a pherffeithiaf ein Henwad o'r blaen ond yn y Papyr yma y mae wedi dangos ei fedr mewn cyfeiriad na ddysgwyliasai llawer. Buasai yn dda genyf allu rhoddi y Papyr i mewn yn gyflawn. Rhoddir eyfrif rhanol neu gyflawn, am 68 o leoedd gan gynwys 11 o ysgoldai, ac y mae gan Mr Howell awgrym yn nglyn a'r ysgoldai na ddylai gael myned heibio yn ddisylw. Ai nid yn ysgoldai yn nglyn a rhyw eglwysi y dylasai amryw o'r man eglwysi sydd genym fod ? Gofyna, "A ydym ni yn peidio rhanu yr eglwysi yn rby fan, ac felly wanbau ein nertb, a lleihau ein dylanwad er daioni ?" Mae hwn yn fater gwir deilwng o ystyriaetb, a byddai yn dda genyf weled rhywrai yn ymgymeryd a'i dra- fod yn deg. Allan o'r 68 lleoedd, mae 3 o gapeli Seisonig. Adeiladwyd 8 o'r capeli y tro, cyntaf yn y canrif diweddaf, a dau obon- ynt yn haner cyntaf y canrif, sef Llanuwch. llyn a Thy'nybont. Mae yr holl gapeli yn y sir yn wertb £38,995 6s. 4c., ond nid oedd y ddyled oedd yn aros yn niwedd 1884, ond £9,735 Is. life., fel ]& gwelir fod y swm 2 mawr o £29,260 4s. 4^c. wedi ei dalu ac y 2 mae 34 o gapeli yn rbydd o ddyled. Cawn fod yn yr holl sir ar ddiwedd 1884, 4,635 o gyflawn aelodau, gyda 254 yn yr eglwysi ar brawf, a 1,686 o blant yn mynychu y cyf- eillachau a 2,016 o wrandawyr heb gyfrif yr aelodau fel y mae mwv na 10,000 o eneidiau mewn cysylltiad a'r Enwad yu y sir. Mae 5,500 yn perthyn i'r Ysgolion Sabbothol, ac y mae hyny yn gwneyd y nifer yn yr Ysgolion Sabbothol yn fwy o 865 na rbif yr aelodau. Nid yw nifer y rbai sydd yn perthyn i'r Band of Hope ond 995 a'r unig beth y cwyna Mr Howell o'i her- wydd ydyw, fod cynifer o'r eglwysi heb y sefydliadau ^werthfawr ac angenrheidiol yma. Mae yr ystadegaeth yn gaffaeliad gwerthfawr; ac fel y dywed Mr Howell, Amcan ystadegaeth ydyw dangos pethau y 11 fel y maent, ac nid lei y byddai yn ddy- munol eu bod, ac os gwelir yn wyneb yr ystadegaeth hon nad yw sefyllfa yr Enwad Annibynol yn y sir mor lewyrchus ag y dylai fod, gellir dysgwyl i hyny fod yn foddion i ail-euyn sel poh un yn ein mysg sydd vn awyddus am weled ein hegwyddorion yn ffynu yn y tir, ac achos crefydd yn llwyddo trwy ein hymdrechion." Yr wyf yn gobeithio y parheir i ddwyn allan adroddiad cyffelyb bob blwyddyn. Bydd y peth yn llawer hawddach y flwyddyn nesaf, ac yr wyf yn gobeithio nad yw yr amser yn mfiell pan y bydd holl gyfundebau ein Henwad yn dwyn allanjy gyffelyb ystadegaeth. LLADMEBYDD.