Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

MWYAFRIF YN ERBYN Y LLYWODRAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MWYAFRIF YN ERBYN Y LLYWODRAETH. 141 chafodd y Llywodraeth fwynhau melus- Ion swydd cyn cael profi hefyd y chwerwder sydd yn ngltn a hyny. Dechreuodd eu gofidiau yn fuan, ac ni chant lonydd gan flinderau nes daw yr adeg iddynt gyflwyno yr awenau i ddwylaw ereill cymhwysach a galluocach i'w dal. Yn Mesur Estyniad yr Etholfraint a basiwyd gan y Llywodraeth flaenorol yr oedd adran oedd yn ei gwneyd yn gyfreithlon i ddynion arfer yr etbolfraint, er iddynt gael eu gorfodi gan amgylchiadau I dderbyn cvmhorth meddygol plwyfol idd- ynt eu hunain neu eu teuluoedd. Pasiodd y mesur y Ty Cyffredin a'r adran bon yn- ddo; ond pan ddaeth i ofal Ty yr Ar- glwyddi, lie y mae y mwyafrif yn Doriaid, gwelsant gyfieustra i gyfyngu ei effeithiau trwy dynu allan yr adran hon, a thrwy byTly awddifadu o leiaf 66,000 o'r bawlfraint i arter y bleidlais, yn unig am eu bod wedi dygwydd derbyn cymhorth meddygol, beth J^yQag allasai fod eu cymhwysder naturiol. •^aeth pawen fforcbog Toriaeth i'r golwg yn y weithred hono. Ymffrostiant yn eu bam- ddiffyniad o fuddianau y werin, ac yn eu eYfeillgarwchj'r dosbartb gweithiol, ond ni phetrusant gyfyngu ar eu hawliau, a'u dar- °stwng i gyflwr anifeiliaid direswm ar bob ^yfle a ddaw ar eu ffordd. Yna dygodd Mr "ESSE COLLINGS fesur yn mlaen i gywiro y ryg a. wnaethai y Toriaid. Un adran yn Unlg a gynwysai y mesur, a'r adran hono yn dadwneyd gweitbred yr Arglwyddi, trwy yQegi pad oedd dyn oherwydd derbyn cy- mhorth meddygol plwyfol yn ei anghy- Ib.hwyso i arfer y bleidlais. Pan ddaeth y ^'ywodraeth bresenol i awdurdod gwasgai JESSE COLLINGS ac ereill arnynt am gael ytieustra i basio y mesur byr, ond gwir J^genrheidiol bwnw. O'r diwedd dywedodd ^YR M. HICKS-BEACH fod y Llywodraeth yn j Wrjadu cymeryd y mater i fyny, ac y dygent esur yn mlaen yn fuan i gyrhaeddvr amcan 6dd mewn golwg ganddo. Yn wyneb add- J^d felly, ymneillduodd MR JESSE COLLINGS ^aes, gan adael y mater yn ngofal y j^ywodraeth, gan fod yn sicr, os cymerai y jj1 yw°draeth yr achos i fyny, a dwyn mesur ei }!^Wyl mewa; y buasai yn sicr o gael f Prin y gallasai neb feddwl na ew'rf1 llywodraeth yn ffyddlon i'w hadd- triv ac e^° yr oedd y rhai cyfarwydd a'u *au yy aiuheu, ac yn teimlo yn sicr y buasai Arglwydd SALISBURY yn arfer ei fedr i eirio y mesur yn y fath fodd fel ag i'w wneyd yn ymarferol ddiwertb. Y gallasai trwy hyny ymddangos i wneyd yr hyn a geisiai Mr JESSE COLLINGS, heb mewn gwir- ionedd ddadwneyd ei weithred lfaeuorol yn tynu allan yr adran yn Nhy yr Arglwyddi pan oedd y Mesur Diwygiadol ger bron. Tra yr oedd pethau yn y sefyllfa hon edrychid yn brydejus am fesur addawedig y Llywodraeth. Yn y cyfamser nis gallasai Mr JESSE COLLINGS wneyd dim ond eu procio yn mlaen gyda chwestiynau yn ei gylch. O'r diwedd gwnaeth ei ymddangos- iad, a darllenwyd ef y waith gyntaf. Erbyn yr ail-ddarlleniad yr oedd COLLINGS ac ereill wedi cael amser i'w chwilio a'i brofi, pwyso a mesur pob gair, dadansoddi ei frawddegau, a barnu beth fuasai ei weith- rediad ymarferol. Datguddiodd y geiriad fedr nodedig Arglwydd SALISBURY Ii lunio brawddegau teilwng o'r ben Oraclau Pagan- aidd gynt—yn cynwys meddyliau mor amwys fel y gallesid eu cymeryd y naill ffordd a'r llall, a thrwy hyny beri fod yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf. Cynwysai y mesur y geiriau, nad oedd i ddyn dderbyn cymhorth meddygol neu surgical," ac yn arbenig "cyfferi medd- ygol (vhedicine), yn ei anghymhwyso i ar- fer yr etbolfraint. G-welwvd twyll a chyf- rwysdra y Llywodraeth yn ngeiriad y mesur. Mae cyfferi meddygol, yn briodol, yn gol- ygu dim ond y cyfferi a gedwir gan y medd- yg neu y fferyllydd. Ond gwyr pawb mai rban fechan yn ami, yn neillduol yn nglyn a'r dosbarth yr oedd llygad y mesur arnynt, o gvfarwyddiadau meddygon yw y cyfferi hyn. Cynwysant gyfarwyddiadau am luu- iaeth briodol i'r claf. Nid an ami y gor- chymynir stimulants o dan amgylchiadau neillduol; ac yn mysg y dosbarth a dder- byniant wasanaeth meddyg y plwyf, nid oes llawer a wrthodai stimulant o dan gyfar- wyddyd y meddyg, ac wedi ei bwrcasu ag arian y tretbdalwyr. Teimla y meddygon plwyfol yn ami fod mwy o angen lluniaeth briodol ar y cleifion hyn ddaw o dan eu gofal nag un cyfferi meddygol, ac felly rhoddant iddynt orders i fyned at yr overseer i gael cymaint a chymaint o beef tea, jellies, &c. Yn .gweled hyn oil, cynygiodd Mr JESSE COLLINGS welliant i'r perwyl fod "medical," neu surgical assistance," a "medicine" i olygu pob cymhorth medd- ygol a pbob peth a orchymynai y meddyg ag y telid am dano gan y plwyf. Ar hyn cafwyd dadl yr wytbnos ddiweddaf, a ffrom- odd Syr M. HICKS-BEACH yn aruthr. Fodd bynag, ar raniad y Ty, cafwyd 50 o fwyafrif dros gynygiad Mr JESSE COLLINGS, ac yn erbyn y Llywodraeth. Taflodd y Llywodr- aeth y mesur i fyny, gan fynegi na fyddant bellach yn gyfrifol am dano. Fodd bynag, aed yn mlaen a'r mesur, ac ychwanegwyd y gwelliant ato. Nos dranoetb, pan bolwyd CANGHELLYDD Y TRYSORLYS am yr acbos, dywedodd nad oedd y Llywodraeth yn bwr- iadu gwrthwynebu y mesur yn y stage hono, cystal a dyweyd, yr ydym yn y lleiafrif yma, ond pan anfonir ef i'r Ty arall, y mae genym ni fwyafrif yno, a bydd ganddynt hwy rywbeth i'w ddyweyd a'i wneyd yn yr achos. Ni cbyfnewidiodd yr Ethiop ei groen, na'r llewpard ei frychni. Nid oedd y Toriaid am ollwng y dosbarth hwn i'r etholaeth pan allan o swydd. Yr un ydynt mewn swydd, a cheir trafferth ganddynt cyn y terfynir y mater hwn Methasant yn eu cyfrwysder, ac yn lie cael mesur twyllodrus i siarad o'u plaid yn yr etholiad nesaf, eodir ef yn amlwg. yu eu herbyn, a gwneir def- nydd priodol OhODO.

""" Adolygiad y Wasg.

RHOS A'R CYLCHOEDD.

MR JOHN EDWARD LLOYD, B.A.

[No title]

Telerau y Tyst a'r Dydd.

YR WYTHNOS.