Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YR YSGOL SABBOTHOL-

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YR YSGOL SABBOTHOL- Y WERS EHYNGWLADWKIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, TREFFYNON. AWST 2il—Elias yn cyfarfod Ahab.—1 Bren. xviii. 1-18. Y TKSTYN I'URAIDD.—' Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi a thy dy dad am i cliwi wrthod gorchymynion yr Arglwydd, ac i ti rodio ar ol Baalim.ArlDod 18. RHAGARWEINIOL, AROSODD Elias vn ei neillduedd o olwg Ahab a Jezebel am dros dair blynedd. Yn ystod yr amser hwn yr oedd y wlad yn dyoddef fwy.fwy oddiwrth y sychder, a'r trigolion mewn canlyniad yn cael eu gwasgu gan newyn. Gallesid meddwl y bussai hyn yn dtvyn calon Ahab a'r trigolion i geisio Jehofah, ond yrngaledu yr oeddynt yn wyneb eu cystndd a'u dyoddefiadau. O'r diwedd, y mae tymhor y sychder we li dyfod i ben. Y mae proffwydi Baal i gael eu cosbi, addysg ac arferion pa rai oedd wedi dwyn y drygfyd blin a* y wlad. Mae yn angenrheidiol i Elias ac Ahab gyfarfod. Yn yWers yr ydym yn cael banes eu cylarfyddiad. ESBONIADQL. Adnod 1,—"Ac ar ol dyddian law^r daeth gair yr Arglwydd at Elias yn y drydedd flwyddvn, gan ddy- wedyd, Dos, ymddangos i Ahab a mi a roddaf wlaw ar wyneb y ddaear." Daeth ga1,r yr Arglwydd at Elias. Fel proffwyd, nid oedd yn gweithredu nac yn llefaru ond yn ol cyfarwyddyd unioupyrchol oddiwrth yr Arglwydd. Y clrydedd flwyddyn, sef y drydedd flwyddyn o'i arosiad yn Sarephtah-gwel Luc iv. 25, a Iagd v., 17. Ymddangos i Ahab. Er mwyn dan«os iddo mai Jehofab oedd yn rhoddi y gwlaw. Yr oedd yr ymddangosiad hwn wedi ei fwriadu i ddylanwadu ar fedd'l y breniu, er mwyn ei ddwyn i ystyried ei rwymedigaetlnu i Jehofali. Adnod 2. Ac Elias a aeth i ymddangos i Ahab. A'r newyn oedd dost yn Samaria." Y f»th wroMeb y mae yn ddangos. G 'yddai yn ddiau ei berygl, ond yr oedd yn teirolo yn hyderas, gan ei f( d yn ufuddhan i Dduw. A',>" newyn oedd dost yn-tiamaria. Yn ol penod xfii. 12-14, cawn fod y newyn wedi ymledu dros derfynau Israel, ond teimlid ef yn dost yn Samaria aV cyffiniau. Yr oedd y bobloCTaeth yn fwy, a'r anifeili 'id yn lluosocach yn ymyl y ddinas. Adnod 3.—"Ac Ahab a alwodd Obadiah, yr bwn oedd benteulu iddo (ac Oba, iiah oedd yn ofni yr Ar- glwydd yn fawr)." Obadiah. Ystyr yr enw ydvw gwasanaethwr yr Arglwydd. Yr oedd ei gvmeriad yn cyfateb i'w enw. Yr hwn oedd benteulu iddo, ne I ei or-nchwyliwr teuluaidd. Cymharer penod xvi. 9; 2 Bren. xviii. 18 ac Esaiah xxii. 15. Ac Obadiah oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr. Nid yn unig yr oedd yn nieddu crefydd wirioneddol, ond gwnai arddeliad o'i grefydd er gwaethaf gelyniaeth Jezebel a dylanwad llygredig llys Ahab. Cawn yma brawf nodedig o ofal Duw am ei weision ffyddlawn yn ei waith yn dyogelu Obadiah yn nheulu Ahab, yr hwn oedd dan "ddylanwad gelynes mor greulawn a dichellgar i'r cyfiawnion. Yr oedd yn rhyfedd i ddyn mor ddrwg a Ahab ddewis Obadiah i'r swydd hoi, ond' gan ej fod yn ddyn o onestrwydd a diwydrwydd, teimlai mai y petb goreu iddo oedd ei gadw yn y swydd. Rhaid ei fod yn ddyn dowiol iawn cyn y gallasai fyw yn dduwiol yn nhy Ahab. Adnod 4. Cinys pan ddistrywiodd Jezebel brotfwydi yr Arglwydd, Obadiah a gymerodd ganddo broffwydi, ac a'u cuddiodd bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a/a p rthodd hwynt a. bara ac a dwfr." Cawn yma engrai fit o ffyddlondeb Obadiah i grefydd, yr hyn sydd yn dangos ei gymeriad. Pan ddistrywiodd Jezebel broffwydi,yr Arglwydd. Mae yn debyg i'r erledigaeth hon ddisgyn ar broffwvdi yr Arglwydd yn union wedi i Elias gyhoeddi y farn oedd i ddisgyn ar y wlad. Yn lie ymostwng, y mae Jezebel a'i chyngorwyr yn cynddeiriogi. Wrth" broffwydi yr Arglwydu golygir rbai o ysgol y proffwvdi, ac ymgyflwynedig i wasanaeth crefydd (I Sam. x. 10) a idys^wyr crefydd- ol. Cuddiodd Obadiah gant ohonynt mewn ogof, rhag iddynt gael eu dinystrio. Dywelir fod ogofeydd mawrion yn y mynyddoadd yn ,agos i Sam ria, lIe y gellic1 yn hawdd eu cuddio. Mae yn eu rhauuhwynt yn ddeg a deugain er mwyn dyo ielwch, gan y buasii yn hawddach eu porthi yn ddirgelaidd mewn dau lp. Cymharer gynllun Jacob (Gen. xxxii. 7, 8). "Ni feddyliodd fod yn dd'gon iddo ofni Duw ei hun, ond gan fod ganddo gyfoeth ac awdurdod, teimlodd ei hun yn rhwymedig i gynorthwyo a chefnogi ereill ac oedd yn ofni Duw. Mor rbyfedd y mae Duw yn cyfodi cyfeillion i'w wejnidoâon a'i bobl, er eu hymgeleddn mewn amserau celyd. Yr oedd bara a dwfr yn awr yn nwyddau prin, eta myn Obadiah ddiconolrwydd o'r ddau i broffwydi Duw i'w cadw yn fyw." A<!n;,d 5.—" Ac Ahab a ddywedodd wrtb Obadiah, Dos i'r w ]ad, at bob ffynon dwfr, ac at yr holl afonydd ysgatr.Ydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y cefryauar mulod, fel na adawom i'r holi anifeiliaid golli Ffynon dwfr 8ef y ffynonau parhaol ceid yn y wliid, y rhai na fyddent yn sychu. Afohydd, nen cornentydd, y rhal a sychent yn yr baf, ond yn eu gwely hwy gallasent weithi.u gael glaswellt. Nid ydym ) dybied fod gofal Ahab am y ceffylau a'r mulod yn awgrymu nad oedd yn cydymdeimlo a'i ddeiliaid yn eucyfyngder. Nis gallasai y creaduriaid yma wneyd dim drostynt en huna'n. Yr oedd llawer ohonynt eisoes wedi eu colli, gan nad oedd bwyd iddynt. Yr oedd yn naturiol idd fvned allan i chwilio am laswellt, rhag colli vr holl anifeiliaid. Adnod 6. "Felly hwy a raiasant y wlad rhyng- ddynt i'w cherdded Ahab a aeth y naill ffor,ld ei hunan, ac Obadiah a aeth y ffordd arall ei hunan." Rhanasant y wlad rhyngddynt er mwyn iddynt \v; eyd y gwait!) yn gynt. Rha;d clel fflaswellt ya fuan os am gadw yr anifeiliaid yn fyw. Wrth hyn yr ydyn yn gweled i'r fath gyfyngder yr oedd y wlad wedi dyfod. Nid ydym i feddwl eu bod ar eu penau eu hunain, heb neb gyda hwynt; ond Obadiah ei hunan gyda mint-a; yn wyne i un ffordd, a'r brenin ei hunan gyda mintai arall yn mvned ffordd arall. Adnod 7—"Ac fel yr oedd Obadiah ar y ffordd, wele Elias yn ei gyfarfod ef ac efe a'i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy a'ylwvdd Elias?" Yn ei gyfarfod ef—yn sydyn. Adnabu Obadiah broffwyd yr Arglwydd, ac y mae yn ei gydnabod, ac yn talu pob gwaroga^th iddo fel y cyh-yw. Mae yn syrthio ar ei wyneb, ac yn ei alw yn arglwydd. Onicl ti yw fy arglwycld Elias? Cyf. Diw., "Aityi .yw, fy arglwydd Elias p Iaith syndod sydd yma. Tydi yn y fan yma yn ymyl Samaria, ac Ahab y brenin wedi gwnevd y fath ymdrech i ddyfod o bvd i ti, ac we )i methu. Cyfar^yddodd Elias ag Obadiah yn gyntaf, a thafodd wybod fod un o weision mwyaf urddasol Ahab yn ofni yr Argfwydd-fod cant o broffwydi yr Arglwydd wedi eu cadw yn fyw er gwaethaf Jezebel. Nid damwain oedd y cyfarfyddiad, ond yr oedd wedi ei ordeinio er calonogi Elias. Adnod 8.—"Yntaua ddywedodd wrtho, le, myfi dos, dywed i'th arglwydd, Wele Elias." Ië, rnyfi Cyf. Diw "Myfi yw." Mae yn gorchymvn i Obadiah fyned a dy«edyd i'r brenin ei fod yno i siarad ag of. Yr oedd am i'r brenin wybod yn flaenorol, fel na fuasai yn syndod iddo, ac fel y galiasai fod yn sicr 'mai gweithred y proffwyd ei hun oeld ymddangos iddo ef. Y mae y gorcbymyn yn sydyn, ac yn ddisyfyd fel Elias. Adnod 9. Dywedodd yntau, Pa bechod a wnaethum i pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i'm 11add ? Yr oedd yn ofni na buasai molld dal Etna, ae os na cheffid, ni byddai gan Obadiah ddim i'w ddysgwyl ond ei ladd, am na buasai yn ei roi mewn dalfa wedi cael gafael arno unwaith. Adnod 10.—"Fel mai bvw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genedl na breniniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i'th ge:s o di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y freniu aeth a'r genedl, na chawsent dydi." Golygir ei dalaethau ei hun, a'r breni' iaethau cymydogol oeddynt mewn cyniirair ag ef, yr hyn sydd amlwg wrth ei wai,h yn rhoddi y llysoedd yr ymofynai a hwy ar eu llw. Adnod 11.—" Ac yn awr yr wyt ti yn dvwedyd, Dos, dywed i'th Arglwydd, Wale Elias." Peth peryglus ydoedd gofyn i frenin dwyre niol ddyfod at un o'i ddeil- iaid ar nnrhyw adeg, ond wrth feddwl am y ttimladau oe id yn mynwes Ahab at Elias, yr oedd y peryul yn fwy. Felly, y mae Obadiah yn gofalu dangos yr anhawsder. Adnod 12.—" A phan elwyf fi oddiwrthyt, Ysb-yd yr Arglwydd a'th gymer di lie nis gwn i: a phan ddelwyf i fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a'm lladd i; ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o'm mebyd." Yr oedd Elias wedi byw yn ei ymguddfa mor ddirgelaidd, fel na wyddai y dynion gorea yn y frenin- iaeth pa le y lleolai. Meddyliai Obadi,h y byddai Elias yn cae! ei symud mewn modd gwyrth'ol gan yr Ysbryd o'r naill le i'r Ilan, allan o gyrhapdd perygl; ac o ganlyniad, er iddo ef ei adael mewn nn lie, y gallai efe fod yn mhell iawn oddiyeo mewn ychydig amser. Efe a'm, lladd. Gan yr ymddangoswn fet "n yn ei dwyllo. Ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o'm mebyd Coffheirhyn i argyhoeddi Eli s, er ei fod yn was i Ahab, nad oedd ef ddim o'i blaid. Yr oedd yn ofni yr Arglwydd o'i febvd. Adnod 13 Oni fynegwyd i'm harglwydd yr hyn a wnaethum i, pan laddodd Jezebel broffwydi yr Ar- glwydd, fel y cuddais gan' wr o broffwydi yr Arglwydd bob yn ddeg wr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt a bara ac a dwfr." Yr oedd hefyd wedi bod yn ffyddlon i broffwydi yr Arglwydd mewn adeg gyfyng iawn yn eu hapes. Coffheir y ffeithiau hyn ganddo er mwyn d ingos i Elias nad anHyddlondeb i'r Arglwydd, nac anmharod, wydd i gynorthwyo proffwydi yr Ar- glwydd, oedd yn peri iddo ofni dwyn y genadwri i Ahab. Adnod 14.—"Ac yn awr ti a ddywedr, Dos, dywed i'th Arglwydd, Wele Elias ac efe a'm liaiid i." Ai dyma y wobr yr wyf i gael am fy n'ydd!ond''b ? Adnod A dywedodd Elias, Fel mai byw Arglwydd y llaoedd, yr hwn yr wyfyn sefyil ger ei fron, heddyw yn dd au yr ymdd<,ngosad' iddo ef." MaeEias yn sicrhau iddo y buasai iddo y dydd hwnw ymddangos i Ahab, ac felly y gallasai gyda dyogelwch draddodi y genadwri. Adnod 16.—" Yna Obadiah a aeth i gyfarfod Ahab, ac a tytiegod(i iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Elias." Wedi cael y sicrwydd hwn, y m-ie yn ufuddhau yn ewyllysgar. Aeth Ahab i gyfarfod Elias. Er mor gased oedd ganddo fyned, teimlai fod byny yn well na'r newyn. Adnod 17.—" A phai welold Ahab Eliis, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel?" Cyf. Diw., "Ai tjdi yw, yr hwn sydd yn blino Israst r A ydwyf, o'r diwedd wedi dyfod o hyd i ti ? A ydwyt wedi beiddio dyfo i i fy mhresenoldeb ? Mae Ahab yn ymdrechu daQjfs ei hon yn wrol, a-j y mae am i Elias deimlo foi ei fywyd yn ei law ond ymddangos\n hyf yr oedd, n s gillasai deimlo felly mewn gwirionedd. Adnod 18.—" Ac efe a ddywedodd, ni flinais i Israel, ond tydi a thy dy dad am i chwi wrthod gorchymyn- ion yr Arglwydd, ac i ti rodio ar ol Baalim." Nid ydyw Elias yn s?ofalu am eiriau byirythio) y.brenin, ond y mae yn troi i'w gyhuddo. Ceisiai Ahab dadogi y newyn ar y proffwyd a'i rhagtynegasai, ond y mae yntaa gyda hyf ler gonest a didderbynwyneb yn rhoddi y bai ar yr hwn a'i piodd, gan nodi yn d iiweniaeth wir aohos adfyd ei genedl yn ei wyneb. Nid oes dim yn crea mwy o Hinder i wlad nac annuwioldeb a halog- rwydd tywysogion a'u teuluoedd." G WE RSI. Mor barod me Elias yn nfuddhau i air yr Arglwydd, ac yn myned i ymddangos i Ahab. Y mae yn anKen- rfreidiol cyflawni dyledswyddau anhawdd weithiau- dyledswyddau sydd yn ein dwvn i afael a pheryglon mawrion; ond y mae yr Arglwydd yn sicr o ofalu am ei bobi sydd yn ymddir:ed ynddo. Mae banes Obadiah yn dangos y gellir cael daioni mewn lie anhebyg iawn weithiau-Obadiah ya nhy Ahab. Yr oedd Obadiah yn ddyn da iawn, ac nid ofnai arddel ei grefydd yn mhalas Ahab, lie yr oedd Jezebel a phrotfwydi Baal yn llygru pawb. Yr oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr." Yr ce fd Obadiah yn ofni yr Arglwydd o'i febyd. Yr oedd wedi aros yn ffyddlon i'r argyhoeddi a dau da yr oedd wedi eu derbyn pan yn ieuanc, ac yr oedd hyny wedi ei ddwyn i anrhyderid, a rhoddi nerth a sefydlog- rwydd i'w gymeriad.. Profodd Obadiah ei hun yn ffyddlon i achos yr Arglwydd mewn adeg dywyll arno, a phan yr oedd yn gyfyng iawn ar weision yr Arglwydd. Mae yn defn- yddio ei saflu a'i gyfoeth o blaid achos Jehofah. Anaml y ceir gan bechaduriaid addef eu bai. Maent am daflu y cyfrifoldeb ar rywun arall. Daw adeg pan y bydd yn rhaid i bob dyn addef ei bechod ei hun. GOFYNIADATJ AB Y WERS. 1. Pa bryd y daeth gair yr Arglwydd at Elias yu gorchymyn iddo ymddangos i Ahab ? Both ydoedd y genadwri oedd ganddo ato y tro hwn ? 2. Pah m y cyfeirir at y ffaith fod y newyn yn dost yn Samaria ? 3. Pwy oedd Obadiah ? Pa beth a olygir wrth yr yma 1 rodd ei foi yn ofni yr Arglwydd yn fawr?" 4. Bethoe,id a,mcan Obadiah ac Ahab yn myned i'r wlad at bob ffynon dw'r ac at yr holl afonydd ? 5. Beth oead teimlad Obadiah pan gyfarfu Elias ag ef ? Paham yr yrnddangosodd Elias i Obadiah yu gytftaf ? 6 Beth oedd yr ac1.os fod Obidiah yn pryderu myned i hyshysu Ahab fod Elias wedi dyfod ? 7. Pa resymau y mae yu eu dwyn dros iddo beidio myned ? 8. Pa ddadf y mae yn ei ddefnyddio i ddangos ei fod ef yn ffyddlon i'r Arglwydd ac i weision yr Arglwydd ? 9. Beth oed(1 yn cymhell Ahab i ddyfod at Elias pan y clywodd ei fod yn agos ? Pit fodd y mae yn ei anerch ? Pa fodd y mae Elias yn ei ateb ?

Family Notices