Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
fj §ttich. •A WJJBXLY xff ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, N. Y.
FY NGHARIAD YN MARW.
FY NGHARIAD YN MARW. Un noswaith ddu eisteddwn Wrth erchwyn gwely bun, Edmygwn fel angyles- A garwn fel fy hun; A thyner law y sychwn Oer chwys ei gwyneb gwyn, Hun nefol megys bendith Aeth drogti y pryd hyn. Hardd orchuddleni ei llygaid Drachefn agorai hon, Ysgydwai'n ara 'i gwefus, Edrychai'li ddwyfol bron; Mae'n marw rhvrag fy mreichian A gwen ei gwyneb claer, A swyna engyl gwynfa I'w harddel fel eu chwaer. Mae'n ceisio sibrwd wrthyf, Dymunai ysgwyd Haw, "'Rw ']1 myn'd," yn wan dywedai 'Rwy'n myn'd a thithau ddaw;" Ei gair 'Rwy'n myn'd" a gofiaf, Aeth gwywder dros fy ngwedd, Ow! syniad annaearol, Fy nghariad yn y bedd. Remsen. RODRI ARFON.
Prydain Fawr.
WANAMIE, PA.-Dymunir cydnabod yn ddiolchgar dderbyniad y symiau canlynol a gasglwyd gan Mr. D. E. Davies at ddi- ddyledu eglwys yr Annibynwyr yn y lie hwn. DerbyniwydoDundaff a Gibson,$31,- 80; S. Gibson a Bradford $37.20; Carbon Run$27.50; Plainfield $6.79; Utica $10.50, yn gwneyd cyfanswm o$113.79. Buwyd yn Remsen, Capel Cerig, a Bethel, lie y cafwyd pob sirioldeb a charedigrwydd, ond yn anamserol i gael casgliad teilwng o'r eg. lwysi enwog hyny am eu haelioni,ynNhal- aeth New York yn gyffredin ol. Rhwng y casgliadau hyn, a chynyrch yr oyster suppers yma Rhagfyr 23, 24, pryd y cafwyd pob cynorthwy gan ein brodyr y Bedyddwyr, galluogwyd ni i dalu$400; ac nid oes yn aros ond $600 o ddyled ar ein haddoldy. Disgwyliwn yn bryderus am amser gwell, fel y gallwn dalu y cyfan. Er ein hanfan- tais, y mae yr achos yn llwyddo a'r Sab- both cyntaf o'r flwyddyn, daeth chwech yn mlaen i gyffesu Crist. Dros yr Eglwys, Henry George,
EBION 0 ILINOIS.
EBION 0 ILINOIS. MRI. GOL.-Gofid i'm calon oedd darllen fod y gonest a'r caredig, y deallus a'r tyner J. MATHER JONES wedi noswylio mor gynar a sydyn. Ych- ydig ddyddiau cyn marw ysgrifenai ataf rai o'i ddymuniadau a'i benderfyniadau o berthynas i'r DRYCH. Sef mai pwysig yn ei olwg oedd ei gadw yn Newyddiadur hoilol anriibynol ac agored i bob barn a llafar synwyrol a boneddigaidd, pa mor groes bynag i'w syniadau personol ef y gallai rhai ysgrifau fod. Dywedai fod yn ddrwg ganddo orfod meddwl y buasai y DRYCH yn fwy cymeradwy gan rai pe bu- asai yn gul, unochrog, ac heb gyhoeddi dim croes i'w golygiadau hwy. Tybiai yn onest y dylai Newyddiadur i bawb"; gyn- wys amrywiaeth, a bod yn enau cyhoeddus syniadau pawb, can belled ag y byddent yn onest o blaid purdeb a daioni. Yr oedd gan Mr. Jones barch calon i grefydd bur yr Arglwydd Iesu Grist. A dywunai yn angerddol i'w Newyddiadur fod bob amser yn sicr a difioesgni dros chwareu teg i bawb, ac yn addysgwr pob brawdgarwch a dynol-welliantau. Er na fynai gyfyngu arnaf mewn unrhyw fodd, dymunai am i mi fod mor dyner a tliirion byth y gallwn wrth ysgrifenu, os bwriad- wn ebu unrhyw beth yn y dyfodol yn groes i rai o syniadau duwinyddol mwyaf pobl- ogaidd ein cenedl. Ac y mae y dymuniad hwnw o eiddo fy anwyl frawd ymadaw- edig yn gysegredig gan fy nghalon, ac i gael ei gyflawni genyf yn fanwl. Buan bellach y'rhaid i ninau orplien ein gyrfa ddaiarol. 0 am adael olion ein traed yn amlwg o blaid yr hyn sydd resymol, gon- est, a thueddol i wir lesliau pawb yn mhob ystyr. Goddefer i mi, yn y modd tirionaf, ebu ychydig o eiriau am t, TYNDALL UNWAITH ETO. Gan fod fy anwyll frawd, y Parch. H. O. Rowlands, yn cael ei dueddu i feddwl yn ddrwg am Tyndall, ac i gasglu oddiwrth ei araeth ei fod yn Atheist a Gross Materialist, wel, ni bydd i mi gweryla a Mr. Rowlands am hyny. Mae iddo groesaw, o'm rlian i, i feddwl felly. Ond gwell genyf fi feddwl fel arall am y dyn enwog hwnw, sydd yn un o brif Wyddonwyr ein hoes. Da genyf goleddu yn fy nghalon ei fod yn credu yn modolaeth Duw, ac yn parchu crefydd ys- brydol. Yr hyn sydd yn peri i mi feddwl felly am Tyndall yw, yn gyntaf, ei fod ef ei hun yn cyhoeddi yn amlwg a phendant lawer gwaith drosodd nad yw yn coleddu y syniadau Atheistaidd y camgyhuddir ef o'u coleddu. Yn ail, ei ymadroddion eg- lur yn ei araeth yn Belfast o blaid bodol- aeth Duw, a'i barch i grefydd. Dyma rai o honynt: "The whole process of evolu- tion is the manifestion of a power absolutely inscrutable to the Intellect of man. As little in our days as in the days of Job, can man by searching find this power out. Con- sidered fundamentally, it is by the operation of an insoluble mystery thai life is evolved," &c. In opposition to all restrictions of Materialism, the creative faculties of man find a field for their no- blest exercise to give unity to thought and faith." Pan yn son am ffeithiau amlwg cysyllt- iad "volecular vibrations, and the pheno- mena of consciousness," dywed-" it is a rock on which Materialism must inevitably split, whenever it pretends to be a com- plete philosophy of life." "To yield the religious sentiment in man reason- able satisfaction, is the problem of pro- blems at the present hour." "It is vain to oppose the religious force in man with a view to its extirpation. It is capable of being guided by liberal thought to noble issues in the region of emotion, which is its proper sphere." Heb ddifynu ychwaneg, dyna ddigon i beri i mi feddwl yn sier fod Tyndall yn golygu yr hyn a eilw efe yn "insoluble mystery," yr un peth ag a elwir yn Llyfr Job—"Yr Hollalluog" nas gellir wrth chwilio ei gael i berffeithrwydd." Nid wyf yn beio Mr. Rowlands am fethu cydweled a mi yn hyn; dim ond dweyd paham yr wyf fi yn barnu fod Tyndall yn credu yn modolaeth Duw. Pe dywedasai Tyndall "fod defnydd-yn annibynol ar Dduw-yn hunan-gynyrchiol o fywyd," fel y dywed Mr. Rowlands, buasai hyny yn sail gadarn i gyhuddo Tyndall o Atheist- iaeth a "gross J.faterialisrn." Ond ni ddy- wedodd Tyndall erioed y fath beth. Mae yn hen arferiad bellach gan grefyddwyr i frysio i ddweyd fod Gwyddonwyr yn gwadu Duw, pan gyhoeddant unrhyw syn- iad newydd am weithredoedd Duw. Pan soniwyd gyntaf am "LaM of attraction bu duwinyddion yn mawr bryderu bod • hyny yr un peth a cheisio diorseddu Duw. Pan gyhoeddodd Newton y "Prindpia," yr oedd mawr stwr yn Lloegr fod hyny yn "ymgais at ysbeilio Duw o rai o'i briodol- eddau ardderchocaf." Ond erbyn heddyw mae pawb yn gweled hyny yn unol a chref- ydd, ac a'r dduwinyddiaeth fwyaf poblog. Ac yr wyf fi fychan yn teimlo yn dra sicr nad yw geiriau Tyndall yn nghylch y gallu sydd mewn defnydd, yn gwadu yn y radd leiaf fodolaeth Duw; canys y mae Tyndall mewn llawer o eiriau a manau eraill yn cydnabod yr "Inscrutable Power and Mys- tery" sydd yn peri i ddefnydd gynyrchu ei wahanol ffurfiau. Pa faint bynag a ysgrifenir eto i'r DRYCH i geisio profi fod Tyndall yn Atheist, ym- rwymaf i beidio gofyn genych gymaint a modfedd o le eto yn y DRYCII i draethu ar y pwnc hwnw mewn unrhyw fodd. An- wyl a clianmoladwy iawn yw brwdfrydedd brodyr crefyddol dros yr hyn a onest olyg- ant yn seiliau mawrion gwir grefydd. Ond dylem oil fod yn ofalus i beidio gadael i'r brwdfrydedd hwnw ein harwain i ddwvn camdystiolaeth yn erbyn ein cymydog. Yr eiddocli yn serchog, Geneva, 111. R. L. HERBERT.
IA WNDERA U Y CHW AREL WY…
IA WNDERA U Y CHW AREL WY R A'U MEISTRI. Y DDAU DU Y DDALEN. GAN W. E. JONES, GORUCHWYLIWR. MIDDLE GRANVILLE, N. Y., Ion. 8fed.— Mae yn anmhosibl ffurfio barn gywir ar unrhyw bwnc hyd nes .y ceir eglurhad ar ddau du y ddal en. W rtll ddarllen ysgrifau Orwig yn y DRYCH, ar iawnderau y gweith- wyr a'r meistri, synais at ei oranwybod- aeth druan yn amcanu gorddyrchafu ei hun wrth o'-ddarostwng y Penrliyn Slate Co., a'r goruchwyliwr yn Middle Granville, N. Y. Da fuasai iddo sylwi ar y gair iawn- derau, canys y mae y gair yn gwahardd gwneyd cam a; pherson a cliymeriad dyn neu ddynion. Dylasai Orwig feddwl am hyn pan oedd yn rhoddi sail ei druth i lawr; ond angliofiodd Orwig hyn, ac wrth adeil- adu yn afler, aeth yn ortlirymwr. Gorth- rwm y meistri a'r goruchwylwyr ar y gweithwyr ydyw baich ei ddau lythyr; ond y mae yn amlwg nad ydyw yn deall dim o'r pwne sydd ganddo dan sylw. Dywed fod y Penrllyn Slate Co., yn Middle Granville, yn prysur ddilyn llwybr gortlirymus y Penrhyn Quarries yn Nghymru, drwy or- thrymu y gweithwyr. Mae yn debyg pe buasai y wlad yn cael esboniad teg ar ddau du y ddalen, fel yr oedd pethau yn myned yn mlaen yn Chwarel y Cae, na fuasai y wlad ddim yn credu fod Lord Penrhyn yn haeddu y llysenw Gormesdeyrn; canys fe dalwyd canoedd o filoedd yn y chwarel hono am lafur na roddwyd erioed 5 y cant ohono. Dysgodd fy nhad i mi ddeall mai wrth orthrwm y golygir gwneyd cam neu ang- hyfiawnder amlwg ag arall—gwneyd trais —"trechaf treisiad, gwanaf gwaedded." Twyllo a bod yn anghyfiawn, drwy beidio cyflawni yr hyn a addawyd. Dyna ydyw gortlirwm yn ei liw priodol ei hun, o du y meistri, a'r un modd o ochr y gweithwyr hefyd. Rhaid sefyll at y gosodiad hwn, gyda'r naill a'r llall. Dylasai Orwig brofi y pethau hyn cyn haeru drwy y wasg fod y P. S., Co., a'r goruchwylwyr yn euog o orthrymu; ac hyd nes gall efe brofi drwy ffeithiau ei haeriadau, rhaid ei ystyried yn ortlirymwr o'r fath waethaf ar gymeriad da y rhai ydynt hyd yn hyn heb eu llwgr wobrwyo gan neb na dim, i wneyd ang- hyfiawnder a'r gweithwyr. Gorthrymu y gweithwyr gan y meistri 11 ydyw peidio sefyll at y cytundeb, megys addaw $2 50 y sewar a thalu$2 40. A oes un engraifft ar gael i brofi fod y Penrhyn Slate Co., wedi gorthrymu yn y dull hwn? Nac oes, gymaint ag un; ond ar y llaw arall y mae canoedd o engreifftiau i brofi eu bod wedi talu miloedd dros ben cytundebau. Mae y gweithwyr yn gorthrymu y meistri drwy roddi llai o gyfrif yn y sewar nag a ddylai fod—rhoddi ceryg drwg anfarchnadol yn y pentyrau a cheisio eu pasio yn lie cerig da. Os na fydd y llwythwyr yn ddigon craffus a gonest, i'w taflu allan, ant ymaith ar r cars, a rhaid talu pris mawr am eu cludiaa, yna eu taflu yn wastraff. Dyna orthrwm
GWIRIAD CRISTIONOGAETH.
GWIRIAD CRISTIONOGAETH. Wrth Safon Profiad Personol. GAN Y PARCH. G. GRIFFITHS, CINCINNATI. "Un peth a wn i, He yr oeddwn i yn ddall yr wyf fl yn awr yn gweled." Baich fy llith a fydd dadl o du uchel, ddwyfol haniad Cristionogaeth, a'i chyf- addasder i adferu dynolryw o ddirywiad ein cwymp galarus trwy bechod i sefyllfa o burdeb, o heddwch a'r Arglwydd, a'n paratoi i fwynhad o ddedwyddwcli diddar- fod yn y sefyllfa ddyfodol. Er fy mod wedi blaenddodi fy erthygl a thystiolaeth ddiamwys dyn o flaen llys yr eglwys Iuddewig am wyrth a gyflawnwyd arno gan Iesu Grist; ac er fod ei adrodd- iad syml, cyson, a phendant mewn perth- ynas iddi yn gyfryw nas gallaf weled pa fodd y dichon i'r rhai a fynant bwyso hanesiaeth yr Ysgrythyr Lan, fel yr eiddo unrhyw lyfr arall yn nghlorian rheswm ei degwrthod; eto fel arwyddair yn unig y defnyddir ei haeriad genyf yma, neu hoel i grogi arni ychydig o nodiadau bwriadedig i ddangos mai tystiolaeth profiad personol a. phresenol am rin ein crefydd, ydyw y goraf i'w hategu, a'r unig lwyr ac anffaeledig feddyginiaeth i anffyddiaeth. Rhag fy nghamddeall, goddefer i mi yn y cychwyn wneyd cyffesiad rhydd a deall- adwy o'm cred yn ngwirioneddolrwydd y cronicliad gan yr Efengylwyr o wyrthiau ein Hiachawdwr-nad wyf yn eithrio un o'r gweithredoedd nerthol yr honir iddo eu cyflawni o Cana hyd Gethsemane; ac nid yn unig hyny, ond hefyd fod iddynt amcan pellach a phwysicach na'r buddion tymorol ac uniongyrehol a dderbyniwyd trwyddynt. Mewn fgair, eu bod yn oruwch-naturiol a diymwad arddangosion o'i Fesiaeth i bawb oeddynt lygaid-dy8tion o honynt, ac adnabydd- us oHfywyd a'i athrawiaeth. Gallent hwy, ynte, eu defnyddio yn eithaf priodol fel rhesymau i brofi ei fod yn Fab Duw mewn gallu, gan ddywedyd: "Nyni a wyddom ei fod yn Ddysgawdwr wedi dyfod oddiwrth Dduw; canys ni allat neb wneuthur y gwyrthiau y mae Efe yn eu gwneuthur, oni bai foda'Duw gydag Ef. Ond i ni:yn; y pellder y safwn oddiwrth- ynt o ranjimser a lie, ychydig iawn mewn cydmariaeth o- gynorthwy allant roddi i ostegu gwrthddadleuon amlieuwyr yn erbyn ein'santeiddiolaf ffydd. A plie gorfu- asid ni i edrychaatynt am ategion iddi, nis gallaswn lai",na -phetruso parthed ei gwir- ionedd. Ond nid rhaid i ni. Mae genym ffeithiau cyfaddasach i'r perwyl hwnw ynom ein hunain ac o'n hamgylch. Cyf- eirio yr wyf at [waith gras Ysbryd yr Iesu trwy yr efengyl ar bechaduriaid edifeiriol a diwygedig, yn Isymudiad cen dallineb ys- brydol oddiarjpygaid eu meddwl, a'u had- gyfodiad pan oeddynt feirw mewn cam- wedd a phechod 4rodio ger ei fron Ef mewn newydd- deb^buchedd. A phe na chaniateid fod rhagor urddas a gwerth eneidiau, ydynt ddeiliaid y goruwch-naturiol weithrediad hwn, ar wrthddrychau ei wyrthiau gynt, yn cyfreithloni fy haeriad am eu rhagor gyfaddasder i'n hargyhoeddi ni o deilyng- dod ei athrawiaeth i bob derbyniad genym, yn sicr, nid ellir gwadu nad ydyw ein perthynas ni a'r ffeithiau hyn, fel pethau a welsom ac a glywsom; ie, ac a deimlodd ein dwylaw am Air y Bywyd, fel y pethau y geill y mwyaf anllythyrenog yn hawdd wneyd ymchwiliad personol i'w dilys- rwydd, ac y gorphwysa eu gwirionedd ar ymwybyddiaeth dyn ei hun, ac nid ar ddamcaniaeth na hanesiaeth, yn rhoddi iddynt y fantais a honir genyf. Pell wyf oddiwrtli ddibrisio ymegniadau ysgolheigion duwiolfrydig mewn "Evi- dences of Christianity" i gynal i fyny aw- durdod y Beibl fel dadblygiad perffaith, hyd y mae yn cyraedd, (j ewyllys Duw, a digonol hefyd o drefn yr iachawdwriaetli, trwy apeliad at waith y Mab yn nyddiau ei gnawd, yn iachau gwaliangleifion a bwrw allan gythreuliaid. Eto pe gofynid i mi ddewis gydrhwng y dyspleadau rhyfeddol hyny, a'r rhai y bum yn dyst o honynt fy hun o ragorol fawredd ei nerth yn nghad- wedigaeth plant marwolaeth, y rhai goraf, i'm tyb i, at hyny—ni phetruswn roddi y flaenoriaeth i'r olaf. Rhydd ymresymiad seiliedig ar y dos- bartli blaenaf eangach maes i ddadleuydd ddangos ei wybodaeth, os yn ei feddiant, ac i ddifyru trwy gywreinion rheithegol a godidowgrwydd ymadrodd; ond yn yr olaf yr ymddengys godidowgrwydd y gallu sydd o Dduw, egluraf i ni. Llaw dyn sydd gy- hoeddusaf yn y naill; 'Bys Duw" yn y llall. Felly ymddengys i mi yn anoethineb o'r mwyaf, os nad yn amryfusedd pechad- urns yn y rhai a dybiant eu bod wedi eu neillduo o'r groth, a'u cyfaddasu trwy 11 1 y addysgiad hefyd i amddiffyn uniongred- aeth yn erbyn swynyddion Deistiaetli ac Atheistiaeth, Olldduwiaeth ac Undodiaeth, i wasttaffu cymaint o amser a threulio cym- aint o'u nerth ar fanloriau felly i gario yn mlaen goeg ysgarmesau heb fod o fanteis- ion sicr i'w hachos, a dweyd y lleiaf, pan y gallent esgyn y mynydd manteisiol hwn— Profion personol, a phrofion giceledig ac adna- byddus i ni ein hunain—fod yr efengyl yn allu Duw er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu, a dwyn i wasanaeth arno gyflegrau a ddistawent ar unwaith ffrwt- ynau y gelynion, ac a yrent eu cewri mwy- af rhyfygus ar encil yn rhwydd. Condemniai'r Athraw Mawr ei wrandaw- wyr o herwydd eu gwanc aniwalledig am yr aruthrol yn barhaus mewn eysylltiad a phethau materaidd. Cenendlaeth ddrwg a godinebus, meddai, sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y prophwyd Jonas. Edrychai ar y fath raib gnawdol ynddynt fel nodolrwydd teulu- aidd. Yn y plant hyny gallasai y neb a fynai weled ac adnabod delweddau wyneb- pryd eu tad, a fu ychydig yn flaenorol yn eymell yr Iesu yn y diffaethwch i droi ceryg yn fara, ac mewn man arall i ym- ollwng o ben pinacl y deml i brofi iddo ef ei Ddwyfol Fabolaeth. Ond ni fynai y Ceidwad weini i'w tueddiadau isel, mwy nag y mynodd foddio yr archelyn o'u blaen. Amcanai yn hytrach at buro a dyrchafu eu chwaeth, a pheri iddynt synied yn uwch am waith ei ras ar eneidiau, nag am ei wyrthiau er llesad tymorol dynion, a chwenychu y doniau goraf hyny. Dyna yn ddiameu dueddbeniad y datganiad can- lynol o'i eiddo: "Yr hwn sydd yn credu ynof ti., y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna, a mwy na'r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad." Nid y byddai eu gwyrthiau yn lluosocach a feddylir, nag y cynwysent ryfeddach amlygiadau o allu Duw; ond y byddai pregethiad gair y byw- yd gan ei ddysgyblion yn fwy bendithiol i'r byd, ac y cynysgaeddai ni ag amgen profion o deilyngdod ei hawliau i'n parch, ein cariad a'n hymostyngiad iddo fel per ffaith reol ffydd, ac ymarweddiad, nag a geir yn ei wyrthiau tra y bu yn pabellu gyda dynion ar y ddaear. Ni ildiaf i neb mewn edmygedd o'i weithred dda ar y dyn dall. Ac ni roddaf i fyny un ymresymiad teg ellir ei seilio arni o blaid ein crefydd. Yr wyf yn credu fod dysgleirdeb person y Tad Mawr ei hun- an yn eglur belydru trwyddi i bawb ag yr oedd yn dal perthynas uniongyrchol a hwynt, ond y rhai na fynant ei weled. A chan hyd yn oed iddynt hwy, oeddynt yn y lie ar y pryd fethu ei gwrthbrofi, er gwneyd eu goraf i hyny, mai ofer yr ym- egnia eu brodyr yn awr ei guddio yn nghysgod medrusrwydd meddygol i dynu pilion oddiar lygaid dynion: Dealler beth bynag mai gwrthrych ffydd i mi ydyw y wyrth hon a holl wyrthiau Crist, yn gystal a'i farwolaeth, ei adgyfodiad, a'i esgyniad i'r nef; ac o herwydd hyny nad ydwyf yn eu cynyg yma fel fy mhrofion blaenaf a cliadarnaf o wirionedd ei athrawiaeth. Eto na watwared anffyddwyr fi fol hygoelus, oblegid hwy a welant fod cryn lawer o reswm neu synwyr cyffredin yn fy ffydd- yn ddiau nad ydyw yn anghydsafadwy ag ef, gan fy mod yn seilio fy nghrediniaeth, nid ar allu yr Iesu i wneyd y pethau a briodolir iddo gan ei fywgraffwyr, na'i gyflawniad o honynt ychwaith; ond ar bethau mor anhawdd ac anhebyced y mae, trwy toybod i mi, ac nad allant hwy than fod yn anwybodus o honynt, wedi eu ciwyn oddi- amgylch yn ein dyddiau ac yn ein mysg ni ein hunain. Nid oes genyf wrthwyneb- iad i wysio Lazarus a Bartimeus o flaen y fainc i^roddi eu tystiolaethau yn yr achos. Eto historical evidence fydd yr eiddynt ar y goraf i mi, ac nid profion pendant o'r fath a ofynir, a ddylid gael, ac yma a ddygir yn mlaen genyf yn y rhai a adwaenom, trwy ddylanwad yr efengyl a ddysgwyd i ym- wadu ag annuwioldeb, ac i fyw yn dduw- iol. Dyma y darluniad o'u cyflwr gynt: Chwychwi, y rhai oeddych gynt yn dywyll- weh.-Oeddynt feirw mewn camweddau a phechodau, sydd derm arall a fabwysiedir i'r un perwyl, yn y rhai y rhodiasoch gynt, yn ol helynt y byd hwn, yn pi tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr ry awthon yn gweithio yn mhlant anufudd- dod. Eithr Duw, yr Hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad a'r hwn y carodd Efe ni; ie pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cydfywhaodd ni gyda Christ, ac a'n cydgyfododd, ac a'n gosododd i eistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu. Fel, y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai ragorol olud ei ras Ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yn Nghrist. Canys, Duw, yr Hwn a orchymynodd i'r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr Hwn a lewyrchodd yn ein calonau, i roddi gohuni gwybodaelh gogoniant Duw, yn ngwyn- eb Iesu Grist. Erchir i ninau lewyrchu mewn gweithredoedd da ger bron dynion, a mynegu rhinweddau yr Hwn a symudodd ein dallineb, ac a'n galwodd allan o dyw- yllwch i'w ryfeddol oleuni Ef. Fy mrodyr Cristionogol, ai gormod dis- gwyl i ni wneuthur hyny? A brofasom ni y cyfnewidiad bendithfawr hwn? Paham ynte y darlethwn ein cymeradwyaethau i'n cymwynaswr, ac na ddeuem allan yn eon gyda'n profiadau ein hunain o du y gwir- ionedd, fel y mae yn yr Iesu, yn lie ceisio llusgo meirw y ganrif gyntaf o'u beddau i dystiolaetliu, a rhoddi baich y prawf arnynt hwy? Mae tuedd yn y fath ym- ddygiad i gynyrchu a maethu anffyddiaeth. Nid oes fawr o le i obeithio yr argyhoeddir rhydd-dybwyr genym, os na ddeuwn a rhyw ddadl rymusach a mwy pwrpasol i'w chynyg i'w hystyriaethau na'r un gyffredin hono; "mae 'nhw yn dweyd," er i'r rhai hyny fod yn brophwydi ac apostolion seintiedig. Y fwyaf effeithiol ydyw tyst- iolaeth brofiadol a phersonol fel hon: Lie yr oeddwn i gynt yn ddall, yr wyffi yn awr yn gweled.