Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

......--GWIRIAD CRISTIONOGAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWIRIAD CRISTIONOGAETH. M(ti wrth ei gwaiih y mynai ei Hawdwr i Oristionogaeth gael ei phrofi. GAN Y PARCH. G. GRIFFITHS, CINCINNATI. RIIIF. IT. Amcenais ddangos mewn erthygl flaen- orol, fod Cristionogaetli, fel ei Sylfaenydd, yn derbyn clwyfau parliaus yn nhai ei charedigion proffesedig, trwy eu gwaith yn atal mewn anghyfiawnder y profion presenol, ymarferol, a mwyaf argyhoedd- iadol o'i gwirionedd oddiwrth y byd, i wneyd lie i eraill nad all eu lieithaf ond dangos fod hyny yn debygol a phosibl. Y mae hyny yn rhy fach yn nglyn a phwnc bywyd tragywyddol. Nis gall enaid wedi ei ddeffroi yn nghylch y mater, ac a deimla yn bryderus mewn perthynas i'w ddyfodol ymfoddloni heb icybod fod ei lygaid wedi eu hagoryd-heb wybod fod dysgeidiaeth ei athraw o Dduw-heb wybod fod ganddo Brynwr byw, ac yn mhwy y creda. Ac y mae yn amlwg oddiwrth y dyfyniad can- lynol o eiriau yr lesu ei hun nad ydyw yn dysgwyl hyny: Os ewyllysia neb wneuth- ur ei ewyllys Ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi ai myfi o honof fy hun sydd yn llefaru." Wrth y ddysgeidiaeth y cyfeirir ati yr ydym i ddeall yr athrawiaethau hyny a safaat allan gyhoeddusaf yn ngweinidog- aeth y Messia, ac a roddant iddi ei nod- wed 1 gwahaniaethol; megis ei Dduwdod ei hun, ei ogyfuwchedd a'r Tad ac a'r Ys- bryd-ei hawliau i addoliad mor barchus, ac anrhydedd cyfartal a hwythau oddi- wrthym-mawr ddirgelwch ei ymgnawd- olial, er ei gyfaddasiad i gyflawni y rhan a ordjiniwyd iddo yn nhrefn y Prynedig- acth; anhebgoredd ei farwolaeth i wneyd iawn trosom fel y'n heddychid a'r Ar- glwydd, a digonol rinwedd ei waed i'n glanhau oddiwrth bob halogrwydd, ac i'n gwneyd yn gymwys i gael rhan yn mysg y rhai a santeiddiwyd-ei adgyfodiad o'r bedd trwy ogoniant y Tad, a'i arwisgiad gyda phob awdurdod yn y Nef ac ar y ddaear, fel arwydd o'r gymeradwyaeth lwyraf o'i waith-ei esgyniad ar ddeheulaw y Mawredd, i arferyd y frenin-fraint hono er llwyddiant ei deyrnas yn mhlith dynion -ac mai trwy greadigaeth newydd, neu eni drachefn yn unig y gellir gweled, myned i mewn i, a mwynhau rhyddid, gogoniant a dedwyddwch annhraethadwy y deyrnas hono. Fe wasanaetha hyn yna fel crynodeb o erthyglau arweiniol ei ddysgeidiaeth. Pwnc o'r pwys mwyaf, ac, o ganlyniad, yn gofyn ymchwiliad manwl, amyneddus, a thrwyadl iddo ydyw-Pa un ai gwirion- edd ai cyfeiliornad—pa un ai oddiuchod ai oddi isod-pa un ai dwyfol ai anianol a chythreulig ydyw ? Y mae mwy na thynged ymerodraethau eangaf a chyfoethocaf y byd yn crogi arno. Mae yn fater bywyd annherfynadwy i ddynion, ac yn safon i brofl wrthi gymeriadfjrr Iachawdwr ei hun, a phenderfynu pa*un ai yr Ysbryd Glan ai ysbryd aflan a lefarai trwyddo. Dealler hefyd fod a wnelo a phawb, gwreng a bon- eddig, dysgedig ac anllytliyrenog, proffes- edig a dibroffes; ac nid cwestiwn i'w setlo gan eraill trosom mewn Cymanfaoedd na Synodau mo hono, na chan breladiaid, car- dinaliaid a Phab mewn Ecumenical Coun- cil ychwaith, fel yr haera rhai, ond un y gofynir i bob un drosto ei hun ei gymeryd I dan ei ystyriaeth, ffurflo barn oleubwyll arno, ac edrych fod ganddo resymau i'w rhoddi tros ei obaith pan geisia gwrthwyn- ebwyr ei ysbeilio o hono. Mae ysbryd o ymofyngarwch i'r mater wedi ei ddeffroi yn ein dyddiau ni, ac yn rhodio yn rhyd-d a phen-uchel yn mysg y werin o bob cenedl ddiwylliedig. Nis gallem, pe dymunem, ei gadw i lawr na'i osgoi. Cyferfydd ni yn y maes a'r farch- nad, ymrithia o flaen ein llygaid mewn gwahanol ffurflau yn ein Cylchgronau a'n Newyddiaduron crefyddol ac eraill. An- ercha ni o'r ddesg gysegredig yn gystal ag oddiar lwyfan y lenorfa. Ni ddylai hyn ein hanfoddloni na'n cythryblu. Mae y fath ysbryd, pan wedi ei naioseiddio gyda boneddigeiddrwydd a gonest-rvyydd Bereaidd yn ei olrheiniadau, yn perffaith gydgordio ag anian Cristionogaeth. Ac er, hwyrach, y byddai yn ormod dweyd mai o honi yr hanodd, eto ni phetrusaf ddweyd mai hi a'i cadwodd yn fyw, ac mai yn y gwledydd sydd tan ei haden hi y mae yn cael llawn cliware teg. "Chwiliwch yr Ysgrythyrau -profwcli bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda," ydynt ei harwydd-eiriau. Sylwerar yr awgrym yn y datganiad blaenorol o eiddo Crist, "Efe a gaiff wybod ami y ddysg- eidiaeth." Ar liygoeledd, medd yr Anffyddiwr, y mae ffydd yr efengyl yn gorpliwys, ac nid ar synwyr eyff redin-trwy ddall danysgrif- iad o athrawiaethau nad all eu profl, a chroes i reswm, yr addawa iddo fywyd. Nage, meddwn ninau. Nid oes ffurf o athrawiaeth yn gofyn llai o ffydd, yn yr ystyr o gredu peth heb brofion dealladwy i'w cadarnliau, neu a wna lai o drais ar synwyr cyffredin na dysgeidiaeth Iesu Grist. Am na farnasant, w, o honynt eu hunain farn gyfiawn, y rhoddes un o'i fflangelliadau tostaf i'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid. Efe a ddywedodd yn bendant, na ddichon neb ddyfod ato Ef ond y rhai a glywsant gan y Tad, ac a ddysgasant. Tynu ymaith y gorchudd, ac nid rhoddi mwgwd ar lygaid pobl, y mae yr efengyl. Par idd- ynt edrych gyda gwyneb agored i'r athraw- iaethau a gymhella arnynt cyn eu mabwys- iadu, er cael sicrwydd i'w meddyliau fod iddynt sail dda. Gwybodaeth ac nid ofer- goeledd sydd yn arwain i'w mangre. Mae cynydd hefyd mewn gwybodaeth, yn gys- tal ag mewn gras, yn cael ei argymell gan- ddi, ac esgeulusdra i roddi heibio yr ym- adrodd sydd yn dechreu rhai yn Nghrist, i fyned yn mlaen at berffeithrwydd, yn cael ei anghymeradwyo, fel arosiad dysgybl trwy y blynyddoedd gydag elfenau symlaf rhyw wyddor, pryd y dylasai, o ran amser a manteision, fod yn athraw neu ym- borthiad person wedi cyrhaeddyd oedran a maintioli gwr, ar seigiau eiddilaidd a baro- toir i fabanod yn hytrach nag ar fwyd cryf a berthyn i'r rhai perffaith, y rhai, o her- wydd cyneflndra, y mae ganddynt synwyr, wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da. Nid oes neb a wyr hyn yn well na rhai o'r cyf- eillion sydd yn ddidaw oganu Cristionog- aeth fel mamaeth anwybodaeth. Nid wyf yn golygu fod yn angenrheidiol er hyny i ddyn ddeall holl erthyglau y gyfundraith Gristionogol er bod yn gadw- edig, nac ychwaith eu bod oil yn ahigy-, ffredadwy i feddwl creedig. Gwyddom yn amgen na hyny. Perthyna iddi feddyliau rhy ddyfnion i un angel gael hyd i'w gwaelodion, rhy uchel ac eang i gyneddfau Gabriel fedru eu cwmpasu byth. Pe di- bynasai ein diogelwch tragywyddol ynte ar gael y rhai hyny allan i berffeithrwydd ni buasai gadwedig un cnawd. Ond nid dyna y fath wybodaeth a ofynir yma; ac y mae Undodiaid, Deistiaid ac Anffyddiaid yn bradychu eu hunain wrth bwyso arnom am dani, ac yn rhoddi arf yn llaw Atheist- iaid a dyr eu gyddfau eu hunain mor rhwydded a'r eiddo y mwyaf gwarchodol o honom ninau. Oblegid nis gallant hwy ddweyd yn eglurach beth ydyw hanfod y Tad Mawr, na rhoddi i chwilfrydedd y meddwl yr hysbysrwydd a ddymunai mewn perthynas i ddiddechreuaeth ei fodolaeth mwy nag y gall union-gredwyr esbonio gwyrthiol genedliad y Mab yn mru y wyr- yf, neu gyfiawnder a phosibilrwydd tros- ly osodiad cosbedigaeth ein heddwch ni arno Ef. Y mae mor hawdded i1 synwyr cy- ffredin weled tegwch dyoddefaint yr Im- manuel o'r melldithion a liaeddasom ni ag ydyw iddo ddeall tegwch cKkngiad dyn a droseddodd ddeddf ei natur rhag marwol- aeth naturiol, trwy abertliiad o fywyd cre- adur direswm a diniwed, neu hyd yn nod fywyd llysieuyn, i gael cyffyriau priodol iddo. Troseddiad sydd yn y naill a'r llall: Ac nid ydyw tra-rhagoriaeth gwerth y naill fywyd ar y llall yn gwneyd y gwahaniaeth lleiaf yn iawnder neu aniawnder yr eg- wyddor ar yr hon y saif.

-_... MWNGLODDIAU CYPOETHOG.

------------- $-." --PITTSBURGH,…

Advertising

"BRENIN Y TYLWYTH TEG."