Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
f ftilfll. .71. WfiUlLZr JV&WSP'ATISIL ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, N. Y.
Y FERCH A'R LLOER.
Y FERCH A'R LLOER. Machlnd 'roedd y Lleuad oleu Tros y pell orllewin for; Minau'n anion ocheneidiau Gyda'r Lloer o drothwy'r ddor, 0 nad allwn rwymo 'nghalon Wrth dy gerbyd, Leuad dlos, Fel y gallwn fyn'd yn union At f'anwylyd gyda'r nos. Pan y deui nos yforu Tyr'd a gair oddiwrth fy John, Cluda'i wenau pur os medri Ar dy wyneb, Leuad Ion; Dos a'm cariad dros y moroedd- Cariad pur, os yw yn ffol, A thrwy ganol mil o fydoedd Tyr'd a'i gariad yntau'n ol. Medr y mor ruddiau Pan y suddi drosto i lawr, Ac wrth fachlud, medri dithau Fwyn gusanu'r dyfnder mawr; Dos a chusan droswyf finan, I fy nghariad ffyddlon ffol, A phan godi dros y bryniau Gwyddost beth i dd'od yn ol. Cemmes, Mont. MYNYDDOG. 4 I".
LLYTHYR EPHRAIM LLWYD.
LLYTHYR EPHRAIM LLWYD. AT EI GYDWLADWYR YN Y TALAETIIAU UNEDIG. LERPWL, Ion. 13.Blwyddyn newydd dda i chwi oil" drwy y wlad fawr yna i gyd, o'r naill begwn i'r llall, ac o'r pegwn hwnw i'r pegwn arall, a llawer iawn o hon- ynt-pob cysur yn mhob teulu. Bydded fod llawnder, a llawenydd yn mhob ty y clywir yr hen Gymraeg anwyl yn cael ei pharablu. Y mae llawer o ddigwyddiadau wedi cymeryd lie yna ac yn yr hen wlad er dechreuad y flwyddyn ddiweddaf—llawer wedi symud oddiyna yma, a llawer oddi- yma yna. Ond newid dwy wlad ddaearol ydyw hyny, onide? Ond y mae cyfnew- idiadau pwysicach na hyny wedi cymeryd 11$yma, ac yna, sef dynion yn newid dwy wlad, a dim gobaith am ddychweliad byth 0 honi mwyach. Myned a dyfod ydyw hi yn y byd hwn, ond rhodio llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelir, ydyw y symudiad arall. Gyda mawr ofid y darllenais hanes am farwolaetli fy hen gyfaill, Mr. David Evans, Oshkosh, Wis., gynt 0 Drefriw, "Llanrwst," a "Cae Braich Cafn, Bethes- da," ger Bangor, (G. C.,) Yr oedd yn dda genyf ganfod ysgrif Mr. W. Evans, Lock- port, Ill., yn adgoffa am dano, yn yr hon y mae yn ei bortreadu yn gywrain a cliywir. Gallaf finau gyd-dystiolaethu ag ef, ei fod yn meddu ar lais y tu hwnt i'r hyn a glyw- ais byth ar ol ei ymadawiad a'r hen wlad. Bum inau yn canu llawer gydag ef, pan yd- oedd mewn cysylltiad a Chor y Tabernacle, Bangor, a hefyd yn yr hen Cathedral. Yn 01 tystiolaeth yr hen Ddeon Cotton gynt, (heddwch i'w lwch,) ni fu y fatli faswr a Dafydd Ifan yn ei gof ef. Yr oedd yr hen Ddeon yn lleisiwr da, yn faswr cryf, ond elai ei lais ef yn ddim pan ddechreuai y Baswr Mawr ganu. Fel y dywed Mr. Evans, yr oedd tri pheth neillduol yn ei lais, sef cylch, cryfder aphereidd-dra. Cofus yw genyf ei glywed yn canu y darn Solo byehan hwnw sydd yn "Anthem Genedig- aeth Crist," sef, "Ac yn ddisymwth yr oedd gyda'r Angel," &c. Mor beraidd y canai ef; y mae ei lais y foment hon yn swnio yn fy nghlust. Cofus genyf hefyd i'r Deon fyned gydag ef i lofft yr organ, i dreio dyfnder ei lais. Dechreuodd, (yr wyf yn meddwl,) y "Doctor Priny" yn swnio yr hen offeryn i'r gwaelod isaf a hi, a Dafydd ar ei hoi yn llawer pereiddiach na'r offeryn ei hun, a'r hen Ddeon wrth fodd ei galon, ac yn curo cefn Dafydd Ifan, gan waeddi, "Well done David." Swniodd yr amser hono, y Double G yn groew. Ond, y mae yn rhaid dweyd heddyw am dano ef fel am 1awer eraill, a "Lle Dafydd sydd wag." Y mae ei le yn wag yn yr eglwys—ei set yn wag-ei dy yn wag-ei lais mawr cryf wedi distewi-ei gorff cryf a heinif yn gorwedd yn nghesail ei hen fam, y ddaear-ni cheir gweled ei wyneb siriol eto-ni cheir clywed ei lais eto-ni cheir ei gwmni difyr byth mwy. Ond, y mae hyn yn cysuro ein meddwl-fod Dafydd Ifan heddyw yn gwneyd i fyny gor y drydedd nef; bydd yno yn canu bellach am dragwyddoldeb; ni fydd pall ar y gan yno, ac ni bydd neb yn dywedyd yno, "Claf ydwyf." Hedd- wch i'w lwch, a'r Duw mawr roddo nerth i'w deulu ddal o dan ddyrnod mor droin, a rhodded help iddynt ddweyd, "Dy ewyllys di a wneler ar y ddaear. Galwodd Mr. Hugh Williams, builder, gynt o Racine, yma gyda ni i gael cwpan aid o de yn ddiweddar. Yr oedd Lowri, yn anffortunus, oddicartref; felly, ni cliaf- odd hi ddysgleoden gyda ni, ond 0 dan yr amgylcliiadau daethom drwyddi hi yn lied lew i chwi. Yr oedd o yn siarad am y 'Mericia yna fel tase fo yn siarad am Lan- rwst. Yr oeddwn i yn llawn busncs, fel arferol, wyddoch, yn holi llawer arno am hwn a'r llall. Pan glywais ef yn siarad mor ysgafn am faint y 'Mericia, gofynais iddo, A oedd ef yn byw yn ymyl New York? "Ddim yn mhell iawn," medda fynta, "Cyn belled ac oddiyma i Everton," medda finau." "Na, dipyn pellach," meddai yntau, "rhyw fil o filldiroedd," medda' fo wed'yn, nes aethym i flit, ar ol cael gormod o de hefyd; ac yr wyf fi yn sicr, pe buasai Lowri gartref, y buasai hithau yn cael flit hefyd y tro hwn am un waitli yn ei hoes. Wel, mae hyny cyn belled ac oddiyma i'r lleuad, meddai Slion Catrin, a dwy filldir a thri chwarter, a haner hyny wed'yn. Ond, pan glywais i ef yn siarad mor anystyriol o bell am leoedd, mi roddais i ben ar y scwrs, a chymerais fygyn i ddod ataf fy hun. Yr oedd o yn dweyd wrthyf fod tri wedi dyfod drosodd o'r wlad yna yn ddiweddar i edrych am eu mamau. Oedran un oedd naw a thri-ugain, y llall yn ddeuddeg, a thri- ugain, a'r trydydd yn bymtlieg a thri-ugain. Wel, gwarchod ni, beth all fod oedran mam pob un o honynt, os oeddynt hwy mor hen? Dywedodd eu henwau wrthyf, ond nid ydwyf yn eu cofioyn bresenol. Y mae hyn i'w ddweyd am danynt, y mae yn rhaid eu bod yn caru eu mamau yn fawr yn eu hen ddyddiau, pan y deuent o gym- amt pellder i dalu ymweliad a hwy. Y mae miloedd o feibion, ysywaith, na cherddant filldir 0 ffordd i dalu ymweliad a'u hoffus rieni, pe arbedai hyny eu bywyd- au. Ie, pe cyfarfyddwn a'r tri hyn yn rhywle-ysgydwn law a hwy hyd y penel- in, a churwn eu cefnau am gyflawni gweith- red mor orchestol. Hir oes iddynt hwy a'u mamau yw gwir ddymuniad fy nghalon. Anghofiais grybwyll yn fy llythyr di- weddaf am ddau neu dri eraill o'm hen gydnabyddion, sydd yn llochesu yn y wlad yna yn rhywle, sef Mr. John Owens (Glan- marchlyn), gynt o gymydogaeth Llanberis: Hen ganwr gwych; llawer noswaith ddifyr a dreuliasom yn Lerpwl a manau eraill. Gwelais yn y DRYCH am Rhagfyr y 3ydd, ei fod i gynal cyngerdd yn Utica rywbryd. Cofiwch fi ato yn garedig, a dywedwch w'rtho fod yn hyfryd genyf ganfod ei fod yn dal ati i ganu o hyd; dymunwn lwydd- iftnt a hir oes iddo. Un arall ydyw Mr. Wm. Morris, Braich Melyn, Bethesda, Arfon. Y tro diweddaf y gwelais ef yd- oedd yn arwain cor yn Nghymanfa Ddir- westol Bangor, (G. C.,) oddeutu dwy neu 11 y dair blynedd ar hugain yn ol. Yr oedd yr adeg hon yn ei brime, yn llawn bywiog- rwydd, yn cael ei ystyried yn arweinydd da a medrus. Ond ni chly.wais air am dano byth wedi yr adeg hono. Gobeithiaf ei fod ar dir y rhai byw, ac yn dal yn selog gyda y canu.*—Y trydydd ydyw "Apmadoc."— Y tro diweddaf y cefais yr hyfrydwch o'i gwmni ef ydoedd mewn cyngerdd yn Hope Hall, Lerpwl. Ni chlywais lais mwy son- iarus gan ddyn erioed, yn enwedig yn canu gyda'r delyn. Hyderaf ei fod yntau yn dal i ddifyru ei gydgenedl yna. Cawsom Eisteddfod ardderchog eleni yn Lerpwl. Y mae Eisteddfod y Gordofigion yn gwella yn ei gafael, fel y gath yn y pobty, bob blwyddyn. Casglu nerth y naill flwyddyn ar ol y llall. Enillwyd y gadair gan fardd ieuane o'r enw Mr. Wm. Thomas (Gwilym Gwenffrwd,) o'r Deheu- dir, ond yn awr o St. Aidan's College, Birkenhead, Liverpool. Ar y cyfieithiad, o ran o "Wledd Belzassar," gan Ieuan Glan Geirionydd, enillwyd y wobr gan Pedr Mae William Morris wedi marw er's chwe' biymdd. Mostyn, o'r dref hon. Y prif draethawd, sef "Gweithrediad gwres yn ffurliad a rheoleiddiad y ddaear," a enillwyd gan y Parch. Wm. Williams, Pentre, Broughton, Gwrecsam. Cymerwyd rhan yn y cyng- erdd hwyrol gan yr Artists canlynol: Miss Edith Wynne a Mrs. Talbot Clierru-y ddwy o Lundain. Mr. James Sauvage (o'r America, gynt); Mr. T. J. Hughes, a Mr. Ily 0. J. Rowlands, Lerpwl. Canodd Mr. Sauvage fel angel. Y mae yn favorite mawr yn Nghymru, Lloegr, a Llanrwst. Y llywydd ydoedd J. Rhys, Ysw., M. A., H. M., I. S., Rhyl, yr hwn a draddododd ar- aetli ardderc-liog ar yr iaith Gymraeg. Y mae pobl yn Nghymru, Lloegr, a Llan- rwst, wedi bod mor brysur gyda'r Eistedd- fodau, canu carolau (tua'r Gwyliau) bwyta gwyddau, pwdin a chyflath, fel na chaw- sant fawr o amser i bechu; felly o ganlyn- iad, megis ni fu galwad am y nAlwydd, y labwt, clo na spectol. Ond gadewch i'r Nadolig fyned heibio, bydd digi4ii o alwad wed'yn, a bydd genym ninau ddVjon o stoc ar law yn barod iddynt. Ond, rhaid i mi addef hyn, fod llai o alwad ar nwyddau Etta Mon y flwyddyn ddiweddaf na'r flwyddyn gynt; ac y mae hyny, wyddoch, i'w briouoli i'r daioni dirfawr sydd yn deilliaw oddiwrth ein gwasanaeth graslawn ni ar galonau, traed, dwylaw, a chegau, nodau ein saethau. Felly y mae ein dull ni o ddiwygio y byd yn ateb dyben ei ly gychwyniad. Pwy ddyfyd Amen, gyf eillion? Yr oedd "Mynyddog," "Y Gwr o'r Lleuad," a "Rhywun o rhywle," wedi addaw dyfod i'n ty ni i swper nos Nadolig yn ddisiom. Yr oedd y swper i fod yn gynwysedig o spar ciniaw y bobl ty nesaf, sef esgyrn yr wydd spar >: ■■Asp, tipyn o gabaitch oerion wedi eu hail dwymno, gren 0 ddwr a thriagl, a thipyn o bupur ceian ynddo i'w gynesu, a lwmp o does cyn crasu y dorth haidd, wedi ei ferwi yn lie pwdin. Ond ni ddarfu yr un o'r tri roddi eu presenoldeb ar awr swper, ond aethant i'r Washington Hotel i gael "Sham pain Supper," a marn gydwybodol i ydyw, ,Y fod y tri wedi cael y real pain yn y boreu; ac os na chawsant, dylasent gael am wneyd tro mor wael. Ond pa un bynag, gwa- hoddais Mr. T. J. Hughes, Mr. Joseph Skeap, Mr. Jones a'r Llyfr Bryf i wneyd cyflawnder a'r danteithion a osodwyd ger eu bron. Nid oedd yno nac asgwrn na dim arall yn weddill-y cyfan wedi trafael- io i lawr y Ion goch, a neb yn teimlo yr un blewyn gwaeth na llawnach wed'yn.— Golchwyd y cyfan i lawr gyda dimeu-wertli o laeth gafr rliyngom. Dyna fel y treul- iasom ni ein nÇ):S Nadolig, a Lowri yn absenol. EPHRAIM LLWYD. O. Y. Os oes ar rai o Gymry America flys ymohebu a mi, bydded iddynt gyfeirio eu llythyrau fel y canlyn: Epliraim Llwyd, Liverpool, England." Y mae yn sier 0 gyraedd yma yn ddiogel. EPH. LLWYD.
..... Y CYNWRF PATAGONAIDD.
Y CYNWRF PATAGONAIDD. HYDE PARK A'R AMGYLCIIOEDD-Ionawr 22ain-Mae Cymry yr amgylchoedd hyn, yr un fath a Chymry llawer ardal arall, wedi bod yn hir iawn yn swn Patagonia, ond mai swn o bell ydoedd-swn y wasg o bryd i bryd, a swn M. D. Jones a D. S. Davies brydiau eraill-swn rhai yn canmol yr anturiaeth, a swn eraill yn ei difrio- rhai yn ei brolio heb fawr o reswm am hyny, ac ambell un yn ymresymu drosti ac eraill yn ymresymu yn ei herbyn. Rhaid addef mai ar antur y gwnaed y cyfan, yn enwedig yr oil ag y mae y gwladfawyr wedi wneyd-naid mewn tywyllwch mawr ydyw, ac y mae maint y naid yn anhysbys hyd yn hyn i bawb. Bwrw bara ar wyneb y dyfroedd ydyw. Ond y mae y swn yn awr wedi dyfod yn agosach atom nag y bu erioed o'r blaen; er y rhaid addef nad yw ond swn yn unig hefyd yma. Mae y Cadben Rodgers o'r Lightning Spark wedi dychwelyd i'n plith am enyd, gyda'r bwriad, mae'n debyg, i barotoi ei deulu a mintai arall; ac ymddengys yn awr I:ly ei fod yn llwyddo i raddau helaeth. Mae rhai eraill wedi dychwelyd o'r wladfa i fanau eraill, ac mor bell ag yr ydym yn cofio, yr oeddynt oil yn ei difrio i raddau mwy neu lai, ond y mae Mr. Rodgers yn ei mawr ganmol, ac y mae yn ddiameu y gall ei dystiolaeth am yr anturiaeth gynyrchu digon 0 awydd mewn amryw o deuluoedd i'w ganlyn i'r Baradwys newydd. Yr ydym yn credu yn ddibetrus fod Mr. Rodgers yn ddyn geirwir, plaen a gwyneb-agored. Y mae yn ddiddadl ei fod yn dweyd am beth- au yn union yn ol yr argraff a dderbyniodd oddiwrthynt, ac annhegwch mawr ag ef fyddai i rywun na fu erioed yn y Wladfa awgrymu ei fod yn bwriadol gamliwio pethau; er hyny dichon y gellid, ar dir cryf iawn, ameu cywirdeb gwybodaeth y Cadben am sefyllfa a rhagolygon y sefydl- iad. Nid oes achos ameu uniondeb ei eg- wyddor, ond gallem feddwl fod rhai ffeith- iau hysbys i bawb a fedrant weled, ag ydynt yn sail deg i ameu cywirdeb yr liyfforddiant a dderbyniodd am betliau. Dywedir fod y Cadben yn dweyd fod rhai o'r sefydlwyr cyntaf yn gyfoethog—yn werth eu miloedd. Pa fodd y gellir cysoni hyny a'r ffaith eu bod ar fin newynu yn mron bob blwyddyn er pan y maent yno ? Mae hwn yn anhawsder mawr ar ein ffordd i gredu, a thybiwn ei fod yn codi ar un- waith yn mhob meddwl ystyriol. Dyrnaid o bobl dlodion a ymfudasant ddeng mlyn- edd yn ol i wlad newydd, sych, angliyfan- j edd, anghysbell, ac allan yn hollol o bob trafodaeth fasnachol a rhanau cynyddol y byd, wedi dyfod yn gyfoethog a dedwydd heb ddim o'r moddion na'r cyfleusderau hyny yn eu meddiant ag ydynt angenrheid- iol i wneyd cyfoeth! Pe buasai ganddynt ryw ffordd i gyfoethogi heblaw trwy fas- nachu mewn cynyrchion amaethyddol, ni fuasai yr anhawsder mor fawr. Nid oes neb yn honi hyd yma fod ganddynt ddim i fasnachu ynddo ond cynyrchion amaeth- yddol, ac fe wyr pawb ydynt wedi cadw golwg ar y llythyrau sydd wedi dyfod oddiyno o bryd i bryd, nad ydynt wedi llwyddo i godi cnydau ond rhyw ddwy- waith neu dair er pan y maent yno. Os felly, gadawer i ni ddyfalu pa sut y maent wedi ymgyfoethogi. Peth arall yn mhellach, y mae yn am- heus a oes rhywun yn y sefydiiad nad yw yn gorfod defnyddio y cyfan y mae ei dir yn gynyrchu dros ben cynaliaeth iddo ef a'i deulu a'i anifeiliaid, tuag at bwrcasu dillad, offer amaethu a phethau eraill yn ddirifedi, nad yw wedi bod yn alluog i'w cael o achos tlodi. Os ydyw y rhai mwyaf llwyddianus mor dda a hyn eu hamgylch- ly iadau yn bresenol-wedi deng mlynedd o adfyd, rhaid addef eu bod yn dda iawn, heb son am fod yn werth eu miloedd. Peth arall, Ai nid yw y presenol yn llawer iawn rhy gynar yn sefyllfa y byd i wneyd gwlad amaethyddol ar gwr eitliaf deheuol y cyfan- dir hwn yn wlad gyfoethog a llewyrchus? Gyda phwy, wys, y mae yn myned i wneyd masnach? Yn sicr nis gall lwyddo mewn masnach ag Ewrop; oblegid y mae Pata- gonia o leiaf daith tair wythnos yn mhell- ach nag yw y Talaethau Unedig o Ewrop; a thra y bydd digonedd i'w gael yma yn hynod o rad, ni bydd i Ewrop anfon i Pa- tagonia neu rywle pellenig o'r fath. Mewn trefn i lwyddo ac ymgyfoethogi, ,,y 11 y mae yn rhaid i genedl allu cynyrchu nwyddau y bydd galwad am danynt, nid yn unig o fewn y wlad y byddont yn cael eu cynyrchu, ond y byddo galwad helaeth am danynt y tu allan i'r wlad hono hefyd. Yn mha oes y daw Patagonia i greu mas- nach felly? Nid ydym yn ameu nas gall y gwladfawyr yn raddol ddyfod i enill eu bwyd a'u dillad. Dichon y deuant i fyw arnynt eu hunain, ond nid oes cyfoeth un amser yn bod mewn gwlad felly, na chysur na goleuni deallol na moesol. Wel, o ran hyny, dyna ydyw cyflwr presenol y rhan fwyaf 0 Ddeheubarth America, o linell ddelieuol y Talaethau Unedig; a pha Gym- ro a lioffai wneyd ei gartref mewn gwlad mor ddigynydd?—C.
[No title]
Y DYDD o'r blaen, claddwyd yn myn- went Glanadda, ger Bangor, wr syml, tawel, a difost, aelod o eglwys y Tabernacl, o'r enw John Jones, yr hwn oedd wedi darllen ei Feibl drosodd am y ddegfed waith a deugain! Dyna ddywed gohebydd yn y Ooleuad. Y MAE y Parch. A. B. Edwards, B. A., Coleg yr Iesu, Rhydychain, wedi ei apwyntio yn ail athraw Coleg Cymreig Llanymddyfri; a Mr. R. Balderstone, B. A, Coleg Gonville a Guais, Caergrawnt, yn Ddarlithiwr ar Athroniaeth Naturio1.
CRWYDRIADAU SHANGHAI.
CRWYDRIADAU SHANGHAI. PALISADE, NEV., Ion. 10.—Gan fy mod wedi dechreu ar hanes fy nhaith i San Francisco, a Virginia City, ni waeth i mi yn bresenol orplien hyny o orchwyl. Yr oedd y tywydd yn hynod braf fel yn nghanol yr haf, a chymerais y baa: am bedwar y prydnawn, ar yr afon Sacramento. Cyr- haeddais Virginia City am'wyth boreu. dranoeth. Yr oedd y tywydd yma yn hyn- od frwnt, yn wlyb ac oer; yr oedd y niwi mor dew fel nas gallwn braidd weled yn mhellach na phen fy nrliwyn, ac os y bydd- wn allan am ychydig, byddwn gan wlyped a'r domen. Meddyliais y buaswn yn eith- af cydnabyddns a phob twll a chongl yn Virginia City, lie bum yn campio am lawer blwyddyn, ond dyn am helpo, pan ddisgyn- ais o'r cars ni wyddwn pwy ffordd i fyned. Aethugi am yr International Hotel, i ym- ofyn lie i orwedd am awr neu ddwy i aros goleu dydd. Canfyddais'nad^oedd lie yno am f od pob man yn Ilawn. Clywais ryw- un yn llefain haloo Shanghai-a chefais ganddo wely campus i orphwys am ychyd- ig oriau. Pan go dais allan ar yr heol, un o'r rhai cyntaf a welais oedd Mr. Roderick Evans, mab i'r Parch. Rees Evans, Cami; bria, Wis.; aethom ein dau am ein boreu- bryd a chawsom amser difyr trwy ymddi- ddan am yr hen amser^a aeth heibio. Er fy mod wedi byw cyhyd yma, yr oeddwn fel pe buaswn yn myned i Lundain am y tro cyntaf. Nid yw y lie hwn ond dechreu cynyddu. Mae y mwngloddiau yn edrych yn well heddyw nag y buont erioed. Clyw- ais fod gan y Consolidated Virginia werth haner can miliwn o fwn yn y golwg, a'r mwyafrif o'r stock gan fechgyn y gors, sef Flood, B. Orien & Co. Dywedir i mi fod y dynion hyn ar y ffordd i fod yn gyfoethoc- ach na neb sydd a son am danynt yn y byd. Ni welais fwy o wahaniaeth mewn can lleietl o amser yn fy mywyd erioed ag sydd yma; adeiladau mawrion yn myned i fyny yn gyflym. Gallwch gychwyn o'r North End am wyth milldir, a thai yn Ilanw pob ochr i'r heol o Virginia i Dayton ar afon Carson, a mwnwyr yn gweithio yn mhob twll oedd wedi bod yn segur am flynyddau. Ni welais neb allan o waith; eto^_mae braiddfyn an- mhosibl i ddyn dieitlir gael gwaith ond trwy ddylanwad rhywun sydd wedi byw yno am amser. Dymunwn ddweyd gair am fecligyn Cymreig y dref, sef fod cyf- newidiad mawr er gwell yn eu mysg; nid wyf yn gwybod ond am un (ac nid wyf yn ei gyfrif ef yn Gymro, trwy na chlywais ef yn siarad Cymraeg erioed) a dim yn an- heilwng yn ei ymddygiadau. Nid oes ond ychydig amser.er pan welais y creadur yma yn perthyn i grefydd ac yn gwneyd rhyw wyneb hir arno ei hun. Ond tuag amser etholiad y Seneddwr Jones, methodd a gwneyd dim daioni er ethol y Cymro no&- edig uchod, heb wertliu ei grefydd i'r diaf- ol, ac yn bresenol cewch ei weled yn fynyeh yn dyfod allan o'r grog alwp fel pe heb glywed son am grefydd yn ci fywyd, ac nid dyma y tro cyntaf iddo wrthgilio. Credwyf mai un o deulu y gors yw wedi dysge iatth Deheudir Cymru. Mae yn y dref ar amgylchoedd, meddent hwy i mi, o bedwai i bum cant o fecligyn Cymreig, ac y mae yrs. llawenydd genyf ddweyd eu bod oil (ond yr uchod) yn fechgyn sobr a diwyd, ac ya y esiamplau hyd yn nod yn eu gwisg ar yr heol, a'r oil íI honynt yn speculatio ya y Mining Stocks &c. Clywais am amryw ydynt heddyw yn werth o ddeuddeg i ugais. mil. Llwyddiant iddynt oil, a gobeithio yr gwelant eu digon cyn^hir,j ac'y bydd gan- ddynt ddigon o synwyr gwneyd yn sier o gartref cysurus iddynt eu hunain, rhag j dichon iddynt eto golli y cwbl. Mae y rhas fwyaf o honynt yn darllen y DRYCH a cliredwyf pe bae rhyw Gymro yn cymeryd mewn Haw ymofyn enwau am eichnewyddr iadur clodwiw, nad, oes ond ychydig (j honynt na roddant eu henwau am ddwy it haner heb rwgnach'dim. Peth arall syiW yn eisiau yno yw, pregethwr Cymreig; uiå yw yr amser mor galed yn bresenol yno a, phan oedd yi Parch. Wm. Hughes yn myn- ed trwy'r ochr hon o'r wlad, a chredwyf pe bae rhyw ddyn da a bywiog yn galw yno, y caffai dy llawn o Gymry caredig & boneddigaidd. Terfynaf gan ddymuno llwyddiant i'r DRYCH a'i luosog ddarllen- wyr, yn y dyfodol fel yr amser a basiodd WM. S. EVANS.