Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
fj iOmh. A 7r&BJRZY Xff ESTABLISHED 18(1. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
Y LLAFURWR TLAWD.
Y LLAFURWR TLAWD. GAN DEWI WYN 0 EIFION. Mae y gwr yn ymguraw, A'i dylwyth yn wyth neu naw, Dan oer hin yn dwyn y rhaw Mewn trymwaith. Bu ganwaith heb giniaw! Ami mae yn teimlo min Yr awel ar ei ewin; A llwm yn ei gotwm, gwel, Durfing i'w waed yn oerfel; Noswylio yn iselaidd A'i fynwes yn bres oer, braidd. Bu helynt! cael ei blant ca Oil agos a llewygu? Dwyn ei geiniog dan gwynaw, Rlioi angen un rliwng y naw, Edrych yn y drych hwn dro, Gyr gal on graig i wylo; Pob cell a llogell egyr, A chloiau dorau a dyr.
EPHRAIM LLWYD AT EI GYD-WLADWYR…
EPHRAIM LLWYD AT EI GYD- WLADWYR YN AMERICA. Anwyl Gyfeillion a Chyfeillesau- Y mae Emynau yr hen Batriarch, Evan Evans, Caerlleon, gynt, yn dyfod i'm cof wrth ddechreu fy llitli bresenol, sef, "Mae 'nghyfeillion adre'n myned, 0 fy mlaen, o un i un, Gan fy ngadael yn amddifad, 11 Fel pererin wrtho 'i hun." wWedi bod yn hir gyd-deithio, Yn yr anial dyrys maith, Gormod iddynt oedd fy ngado Bron ar derfyn eitha'r daith." Ydynt, Mr. Gol. anwyl, y maent yn myn'd, ac ni ddychwelant byth yn ol. Y cedyrn yn cwympo ïe, rai o'r rhai cadarnaf wedi cwympo er pan yr ysgrifenasom ein llythyr diweddaf, yn Nghymru ac hefyd yn America. Yna, fy lien gyfaill myn- wesol, Mr. J. Mather Jones. Pwy fuasai yn dychymygu am ei farwolaeth ef mor fuan ar ol derbyn llythyr oddiwrtho; mor ddiweddar a mis Medi diweddaf; yn yr hwn yr oedd yn rhoddi desgrifiad manwl o'i anturiaethau i mi, am y tro cyntaf ar ol ei ymadawiad o'i dref enedigol, sef Ban- gor, hen ddinas Deiniol, yn yr hon y buom ein dau yn cyd-chwareu ac yn cyd-fyfyrio yn nyddiau ein bachgendod? 0 angeu 9 I, creulon! nid rhyfedd i Job waeddi, Cys- god angeu, a heb drefn." Pa drefn oedd, dwyn y fath ddyn a Mr. Jones, yn mlodau ei oes fel hyn, dyn yn nghanol ei ddef- nyddioldeb, dim ond wyth a deugain oed! —pan yr oedd yn dechreu ymagor—ei dal- ent yn dechreu blodeuo-dwylaw oerion angeu yn ei ddal yn gaeth yn ei fedd-ei enau wedi ei chloi i fyny am byth-byth i lefaru mwyach-perl anmhrisiadwy wedi ei gladdu, byth i ddyfod i'r golwg, ond i ddysgleirio yn nghoron Brenin y brenin- oedd yn y drydedd Nef. Pa drefn sydd mewn pefcoff&l hyn? Siren mor ddysglaer wedi ei diffoddi yn awyr y byd llenyddol! Yr angeu creulon fu yn anelu ei saeth at galon un mor dyner ac addfwyn! Ysgub- ion cymdeithas—ysbwriel y byd, a sorod pob dim, yn cael eu goddef i ymwingo ac i geulo ar eu sorod," yn yr hen fyd yma, a chewri cynaliol gwybodaeth yn cael eu mudo ymaith. A oes dyben i beth fel hyn tybed? Gobeithio fod, onide gwae ni. Dyna hen gawr mawr arall wedi cwympo yna, Mr. David Evans, Oshkosh. Wis., neu fel yr adnabyddid ef oreu, Dafydd Ifan y baswr mawr. Hen gyfaill hynawsol i mi er's talm—y mae yntau yn y pentwr yn awr, yn gorwedd yn nghesail ei hen fam, y ddaear. Dyn cryf, heinif, ond yn rhy wan i ddal dyrnod gan angeu-trocliodd y gelyn ei saeth mewn gwenwyn marwol, ac a'i trywanodd yn ei galon dyner, a dyna raid ddweyd, Efe a fu farw." Yr un yw angeu yma hefyd, nid oes ffafriaeth tuag at ddynion yr Hen Wlad, cwympo y maent yma hefyd. Pwy ydynt nod ei saethau yma tybed? Dyma un- Alfardd!" ie, Alfardd, gyfeillion! Y mae Alfardd yn ei fedd Y gwr ieuanc cryf, hardd, unionsyth, tM, iach hwnw, fu yn golygu yr Herald Cymraeg, Y mae hwnw yn ei fedd erbyn heddyw—un o golofnau cadarnaf llenyddiaeth wedi ei symud o'r mur-un o ryfelwyr dewraf y fyddin Eis- teddfodol wedi ei ladd, pan wrth y gwaith o ymladd dros ei wlad, ei iaith a'i genedl, a plian ar enill y frwydr yn cael ei dry- wanu gaii y gclyn diweddaf,-— cyfaill calon, yr hwn, y buasai yn rhaid rhestru pob dyn yn myddin y diafol, os methai ei garu-yr oedd ei wên yn enill serch pob dyn oedd yn feddianol ar ryw ronyn o ddynoliaeth o'i fewn ïe, dyna y dyn mawr, da, a'r cyfaill mynwesol yna wedi ei osod dan y dywarchen yn y fynwent. Yn Eisteddfod Bangor yr oedd yn ei lawn nerth a'i iechyd, ond erbyn Jieddyw "ei le nid edwyn ddim o hono ef mwy." Y cwestiwn pwysig yn awr ddylai lanw meddyliau pawb ydyw, Pwy fydd y nes- af ? I galon pwy y trywanir y saeth wen- wynllyd nesaf? Y Duw mawr a wasgo y ddau gwestiwn yna yn ddifrifol at ein calonau oil; a'n dymuniad ni ydyw, ar fod heddwch i lwcli y tri cawr a enwyd, hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Y mae y ddau wr enwog, Sankey and Moody," ar ymweliad â'n tref ni yn bres- enol. Y mae yma adeilad mawr wedi ei adeiladu ar eu cyfer, yr hwn a ddeil yn rliywle oddeutu deuddeng mil o bobl, ond er hyny y mae yn cael ei orlenwi, a chan- oedd yn analluog i fyned i mewn. Y mae eu gweinidogaeth yn cael dylanwad ang- hyffredin ar ybobl, yn enwedig caneuon Mr. Sankey; y mae y fath swyn yn ei lais nes tynu y dagrau o lygaid y caletaf; ac y mae apeliadau difrifol Mr. Moody dra- chefn yn sobri y mwyaf gwamal. Treat ydoedd gweled Arabiaid "Marybone," a "Ben Johnson Street," yn wylo wrth wrando ar Mr. Sankey yn canu y "Prodigal Child, a "Corne to the arms of Jesus." Gellir dweyd yn ddibetrus, y buasai mor hawdd tynu gwaed o gareg ag a fuasai tynu deigryn o lygaid y rhai hyn, ond fe ddaethant allan o'r diwedd. Ami gnoc a djbr y gareg." "Dichon Duw o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham." A phwy a wyr na chaiff Lerpwl annuwiol droedig- aeth drwy ymweliad y gwyr da hyn. Poed felly y bo, yw gwir ddymuniad ein calon. Y mae llawer o bethau yn cymeryd lie yn y dref boblogaidd hon, Mr. Golygydd, Cymry yn troi yn Saeson (?) yn mhen y pythefnos ar ol dyfod i'r dref; tim Cym- raeg ydyw iaith glogyrnaidd y Than fwyaf o lionynt, yn enwedig trigolion "Brynsien- cyn," "RhosyBol," Llanf air-pwllgwyn- gyll," &c." Y mae Mary Robatsh, Twll y Clawdd, wedi tori clicied ei gen wrth geisio dweyd How di dw, Sal Llwyd wedi colli cil-ddant wrth geisio dweyd "Fine morning," pan ydoedd yr hin yn wlawog ofna'dwy; Catsan Jones wedi rhwygo llin- yn ei thafod wrth geisio dweyd Good night," wyth o'r gloch yn y boreu, pan yn ymadael a ffrind, &c. Clywais fod mawr angen am heddgeidwad, neu ryw geisbwl effro arall, yn Mh—n—t L1-y-d, Ff-t- n-g, i gadw Wil Denau, (?) Shon Owen, a theulu Twm Ifaif Siams, yn gyffredinol, mewn cydgordiad Cristionogol a'u gilydd oil,, yn lie dychrynu hen bobl a phlant hyd "oriau man y boreu," gyda'u rhegfeydd, ac adsain dur eu pedolau wrth gyfarch esgyrn y naill y Ilall! Bydd yn angenrheidiol gyru cloiau hefyd i'w rhoddi ar draed a chegau y giwaid hyn gyda brys, oni ddiwygiant ar ol y rhybudd hwn. Clywais hefyd fod dau fod arall o'r un] fan, a elwir RHEN Bwll a Rhen Ifan Blaen y Ddol, wedi bod yn ymladd dau fywyd wrth erchwyn eu gwely yn Mlaenau D-l-dd-l-n, i dreio setlo'r pwnc pwysig, sef pa un o'r ddau ga'i gysgu wrth yr erch- wyn! ac iddynt ladd dwy chwanen yn y frwydr. Rhaid gwneyd gwely crwn i'r ddau frawdyma yn ddioed; ac erfyniaf am i Ellis o'r Nant edrych allan am rywbeth o'r fath, rhag i felldith Pant Llwyd syrthio hefyd ar ffordd haiarn newydd Dolyddel- en, ac ychwaneg o chwain golli y fuddug- oliaeth. Y mae y Cymro gwladgarol, y "Cymro Gwyllt," wedi ei ddofi i'r fath raddau fel y gellir ymddiried baban yn ei freichiau—y mae i'w weled bob dydd yn nursio baban mor ddeheuig a phe buasai yn fam iddo. Hir oes i'r ddau, yn nghyd a'i briod hoffus, yw ein gwir ddymuniad. EPHRAIM LLWYD. Lerpwl, Chwef. 13, 1875. 4"
[No title]
Rhoddwyd dyn yn ngharchar yn swydd Polk, Iowa, am ladrata Beibl.
---7'-ADGOFIO&C
7'- ADGOFIO&C AM Y DIWEDDAR BARCHEDltnON DANIEL DA VIES, A JOHN JONES, SIR ABERTEIFI. 0 gylch ugain mlynedd yn ol, digwydd- odd fod y ddau wr enwog uchod yn preg- ethu ar aclllysur neillduol, yn un o gapelau Ceredigion. Llonwyd ni yn fawr pan ddeallasom hyn, a theimlem yn awyddus i fwynhau y fath wledd. Pan ddaeth yr ad- eg, aetliom gyda y lluaws tua'r fan y cynel- id y cyfarfod. Yn fuan iawn llanwyd y capel eang hyd y drysau, gan dyrfa. o ddyn- ion astud yr olwg arnynt, yn prysur ddis- gwyl am glywed gair gwirionedd yr Efengyl;" yr hyn a barai i ni sibrwd yn ddistaw y gair liwn:—" Yr ydym ni yina oil ger bron Duw, i wrando yr holl bethau a orchyinynwyd i ti gan Dduw." Eistedd- em ar gyfer yr areithfa, i gael folwg ar y pregethwr, oblegyd yr ydym o'r rhai a garaiit weled y genad yn gystal a chlywed y genadwri. Wedi i ranau arweiniol y cyfarfod fyned drosodd, safai yn y pwlpud wr o ymddang- osiad penderfynol, cymedrol o dew, a'i wallt yn llwydo yn gyflym. Ymddengys fod triugain gauaf wedi chwythu dros ei ben, er hyny mae yn edrych yn gryf a cliadarn. Mae yr olwg arno yn peri i ni ddisgwyl am doraeth o synwyr cyffredin, da; darllena ei destyn yn eglur fel y gallo pawb glywed bob gair. Argyhoeddir ni ar ,y y cychwyn ei fod yn deall ei bwnc; mae yn ymallyd ynddo yn egniol, ac egyr ef yn fedrus a goleu, nes y tybiem ni fod pawb yn deall yr hyn sydd ganddo mewn Haw. Nid yw yn medru y gelfyddyd hono sydd yn "tywyIlu cyngor agymadroddiofr. heb wy- bddaeth." Mae yn myned yn"nlaen ar gyfer, ac ar hyd y ffordd a wnaeth iddo ei hun. Nid ymddengys fod neidio y'gwrych- ly oedd yn brofedigaeth iddo; ond cerdda yn mlaen yn feistrolaidd i gelloedd ei bwnc. Mae yn eglur ei fod yn siarad yr hyn y mae wedi ragfeddwl, a'i sylwadau yn hynod darawiadol, nes y mae yn enill sylw yr holl wrandawyr. Yn awr teimla ddy- ddordeb mawr yn ei fater, ac wrth fyned yn y blaen, gwresogai ei dymer, melldenai ei lygaid, a rhoddai ambell. i fonllef lied gyn- hyrfus, fel pe yn gweled fod perygl gerllaw. Yna ymataliai yn sydyn am ychydig fyn- ydau, er rhoddi mantais i'r dorf enill eu hanadl, a pharotoi i dderbyh y brawddegau dilynol. Mae yn lion genym ddweyd na siomwyd ein disgwyliad; cawsom wledd i'n meddwl o ddanteithfwyd, na chawn ei chffelyb ond yn anaml. Dacw yn yr areithfa yn awr, wr canol oed, o ymddangosiad boneddigaidd, trws- iadus, a glanwedd ei wisg, o dewdra mwy na'r cyffredin. Mae golwg siriol iawn arno, pen mawr, llygaid lion, gruddiau iaclius, a'i wynebpryd oil yn hapus iawn, ei ddyn oddiallan yn brydweddol a hardd. Nid yw yn sefyll yn syth, ondyn hytrach yncrymu uwchben y Beibl. Mae yn darllen ei dest- yn yn dra isel, ac araf, eto mae rhywbeth yn ei ymddangosiad sydd yn peri i ni ddis- gwyl am doraeth o hyawdledd. A yn mlaen yn bwyllog a rliwydd, lieb ofalu yn ormod- ol am reolau gramadegol. Ymddengys ei fod yn berff aith rydd oddiwrth un math o lyffetheiriau rhagbarotoawl; mae yn cymer- yd rhyddid i godi ambell dywysen yma a thraw ar hyd y maes ar ei hynt, a'i rhwbio ar y pryd; ac os gwel efe rywbeth gwerth ei sylw ar y ffordd, pe byddai yr ochr arall i'r mur, cymer ei genad i'w gyrchu, heb arfer un esgusawd. Mae o hyd yn siarad yn bur ddedwydd, gan gasglu nerth wrth fyned yn mlaen, erbyn yr amser a ddaw. gellid meddwl. Mae yr olwg ar y dyrfa hefyd fel pe byddent yn disgwyl rhywbeth anghyffredih yn y man, ond nid oes dim angliyffredin eto. Ond maes o law mae rhyw arwyddion ei fod yn myned rhagddo; mae ei lais yn dyrchafu yn raddol, ond yn fwy peraidd wrth godi. Yn mhen ychydig mae ei wyneb yn cochi, a'i lygaid yn gwylltu a'i ddwylaw yn dyrchafu, a'i lais yn awr fel bloedd udgorn, yn'hynod soniarus, a'i holl gorph yn arddangos cynliyrfiadau ei enaid; mae ei wyneb yn awr yn dysgleirio fel gwyneb angel; haws yw rliwymo yr unicorn mewn rhych na cheisio ei atal yn ei yrfa. Yr oeddem yn meddwl wrth ei wrando am y gornant fechan, yn cychwyn allan yn ngodrau y bryn, gan ymlwybro yn "araf a didrwst, ac amgylchu pob careg yn eillwybr, heb geisio myned dros yr un. Ond wrth fyned yn mlaen, mae yn cryfhau yn I raddol, yn derbyn cymorti. oddi yma a chymorth oddi draw, gan fyned o hyd rhagddi. Ond dacw y cymylau yn dechreu gwlawio, ac yn penderfynu rhoddi help eu dylanwad i'r gornant fechan; ac yn y man y mae hithau yn ymegnio, y gwlawJyn disgyn, a'r nant yn codi, gan hyrddio yn y blaen, a threiglo y ceryg mawrion, a di- wreiddio y llwyni ar ei ffordd, nes y mae yn berygl bywyd i neb, na dim i sefyll o'i blaen, gan faint ei rhyferthwy; ac felly yr oedd y gweinidog hwn i Grist, yn cario yr oil efo* angerdd ei deimlad, a chenllif ei hyawdledd, yn yr un cyfeiriad ag yr elai ei hun. Ond pan yn mhoethder ei hwyl, eis- teddai i lawr yn sydyn gan ein gadael oil yn ferw frwd gan deimlad dedwydd yn edrych tua'r nef. Ricliyille, N. y. T. B. DAVIES. _t;t-
GWIRIAD CRISTIONOGAETH.
GWIRIAD CRISTIONOGAETH. GAN Y PARCH. G. GRIFFITHS, CINCINNATI. Rhif. III. Nid petli newydd dan haul ydyw yr ym- osod ffyrnig presenol ar Grefydd y Beibl. Ac nid oes llawer o welliantau ychwaith yn yr offer a ddygir gan ei gelynion i'r gad yn ei herbyn, nac o wahaniaeth yn y modd- au a'r ystrywiau a fabwysiadant yn nygiad yn mlaen eu rhyfelgyrch arni. Hysbys i ni ly fod, mor belled yn ol a'r ganrif gyntaf, yn mhob man, ddywedyd yn erbyn y sect hon -yn enwedig yn nhir Groeg, gan ddosparth o bobl a gyfrifid yn ysgolheigion enwog— dysgyblion beilchion a hunan-ddoeth Aris- totle, Socrates a Plato. Pan safodd Paul i fyny ar Fryn Mawrtli yn Athen i draddodi iddynt yr "ymadrodd am y groes," a cliy- hoeddi rnai trwy y pregethiad o Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio, yr adferid y byd o'i druenus gyflwr, "Ynfydrwydd yw," meddynt hwytliau. Mae y fath atli- rawiaeth yn afresymol a liollol anghyd- safadwy ag addysgiadau athroniaeth. Dyna ddigon wedi ei ddweyd yn barod i brofi fy liaeriad, nad oes fawr o wreiddioldeb yn ngwatwariaethau Gwyddonwyr anffyddol, ac atheistaidd ein dyddiau ein hunain o "ffolineb pregethu." Fy mhdf amcan, beth bynag, yn y cyf- eiriad at yr Apostol a'i wrthwynebwyr yd- yw galw eich sylw at y dull doeth ac effeithiol a gymerodd i ateb eu twyll- resymau, ac i ostegu anwybodaeth dynion ffolion. Mae yn ei ymddygiad tu ag atynt sampl ragorol ac angenrheidiol iawn hefyd i ninau weinidogion y Gair, pan ymgymer- wn o'r areithfa a thrwy yr argraff-wasg, ag amddiffyn y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint. Dilys y gallasai Paul gyfarfod y doethion hyn ar eu tir eu hunain, a'u baeddu gyda'u harfau eu hunain. Ond ni ddewisodd wneyd-"A myfi, pan ddaeth- ym atoch, a ddaethym nid yn ol godidowg- rwydd ymadrodd, neu ddoethineb, gan fynegu i chwi dystiolaeth Duw. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plitli, ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." Yn lie dal ar y cyfleusdra i wneyd dysplead o'i ysgolheigdod ei hun, neu helaetlirwydd ei wybodaeth yn y gwyddorau fu yn efrydu wrth draed Gamaliel, efe a gyhoeddodd iddynt y gwirionedd, megys ag y mae yn yr Iesu, gyda symledd ag oedd yn nghyr- aedd amgyffredion y mwyaf anllytliyren- og, ac mor rhydded oddiwrth rodresgar- wch y coeg-lenor a phe na buasai erioed wedi bod o fewn muriau un athrofa. Yn lie rhedeg ar ol y breuddwydwyr i feusydd barddoniaeth a gwyddoniaeth olygianol {speculative science), efe a'ugalwodd i'w gyf- arfod ar dir cadarn profiad personol.— Cyhwfanodd faner yr efengyl yn adwy Thermopyle, megys, lie yr ategid ef ar bob llaw gan greigiau anysgogadwy ffeitliiau adnabyddus, ac oddiyno, gyda chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw Gair Duw, efe a yrodd fyddinoedd unedig didduwiaeth, oll-dduwiaetli, ac eilyn-dduwiaeth ar i10 Mae gair o eglurliad yn angenrheidiol parthed yr erthygl hon. Parotowyd hi yn unig fel anerchiad i'w thraddodi vn Ngliylch-wyl Flynyddol ein Cymdeithas Feiblaidd, a gynaliwyd y Sabboth, yr Slain o Chwefror gan y T. C. a'r A., mewn undeb a'u gilydd yma. Ffrwyth ail feddwl, ac anogaeth oddiwrth eraill ydyw ei hanfon- iad i'w cliylioeddi. Anfonir hi heb wneyd cyfnewidiad mewn gair na llythyren ynddi. Fe ddealla y darllenydd, gan hyny, paham y ceir arddull draddodol yn lie yr olwbol ynddi. Yr oedd yr erthygl gydfynedol hefyd, Rhif. 4, yn yr anerchiad, ond paratoasid hono i'r gyfres hon. G. G. gwaradwyddus. Ljfateb eu haeriad mai "ffolineb" oedd pregethu Croes Crist, efe a gyfeiriodd eu sylw at yr hyn a wnaethid eisoes, a'r hyn hefyd oedd yn cael ei wneyd o flaen eu llygaid trwy hyny, at ddylanwad santeiddiol ac achubol ei tr. atbrawiaetli7yn mysg eu cenedl eu hunain, a hyd yn oed yn Corinth, oedd yn ddiareb am ei halogedig- aethau, a mamaeth puteindra yr holl genedloedd: "Fe welodd Duw yn dda, meddai, trwy ffolineb pregethu, gadw y rhai sydd yn credu." Fel pe dywedasai, os fel y taerwch, yn- fydrwydd yw yr ymadrodd am y groes, pa fodd y cyfrifwch am y diwygiad rhyf- eddol a sicrheir trwyddo yn nghymeriad a buchedd eich cymydogion a'ch cyd-ddinas- yddion? Atebwch fy ngofyniad fel dyn- ion synwyrol a .theg. Edrychwch y ffaith anwadadwy hon yn ei hwyneb, ac espon- iwch hi, os gellwch, yn unol a'ch barn ddatganedig am yr efengyl. Gwyddoch y fod eich poetau a'ch gwleidiadwyr eich hunain am oesau wedi bod yn ceisio cwmpasu yr amcan teilwng hwn, trwy ddoethineb, ond iddynt lwyr fethu. "Ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon aneallus hwy a dywyllwyd. Pan dybient eu bod yn ddoetliion, hwy a aethant yn ffyliaid. Gwaeth, waeth yr oedd y naill genedlaeth ar ol y llall yn myned er pob mesur addysg- 01 a chyfreithiol a dreiwyd ganddynt i buro chwaeth a dyrchafu moesau dynion. Ond, wele y Mawrliydi Dwyfol-y Duw nad adwaenasoch chwi trwy ddoethineb mo hono—ie, pan oedd y byd yn mron wedi ei andwyo gan gyfareddion eich gau-feddyg- on chwi, gyda balm ffydd yn Nghrist yn gwellhau ei wahanglwyf. Os ffolineb y gelwch hyn, y mae yn canlyn ynte, fod ffolineb Duw yn ddoethach na dynion, a gwendid Duw yn gryfach na dynion. Pa brawf cryfacli ellid ei ddysgwyl neu ddymuno o wirionedd yr Ysgrythyrau a'u goruwchnaturiol haniad, na'r gwaith a gyf- lawnant ar gyllyrau pechaduriaid liunan- ddinystriol. A oes achos i ddyn fyned i ymofyn ag offeiriaid philosophyddiaeth naturiol i wybod a ydyw yn oer, tra "Mynych mae yn teimlo min Yr awel ar ei ewin." Neu, a ydyw yr haul wedi dod allan o'i ys- tafell tra yn rhodio yn ei oleuni, ac yn ym- hoewi yn ei wres? Yn mha gangen o wybodaeth, carwn ofyn, y ceir profion mwy argyhoeddiadol i feddwl, na'r rhai a gynygir iddo trwy synwyrau y cortI? "Y Mewn astronomyddiaeth, daearegiaeth, a rhifyddiaeth, mae rhai o'r cymeriad hwn bob amser yn penderfynu pob dadl. Pa'm lai mewn duwinyddiaeth, ynte? Ah, ebe'r Deist, nid ydynt i'w cael o fewn ei tlierfyn- au. Credu, credu, CREDU ydyw Alpha ac Omega, ac Omicron—dechreu, diwedd a chanol Cristionogaeth. Nid oes a wnelo a rhesymu peth allan, neu gyda llusern dysgeidiaeth yn ei llaw i'w goleuo, ddringo ysgol uchel canlyniadau, o ffon i ffon, nes cyraedd y nefoedd, trigle gogoneddus yr Achos Anfeidrol, a roddodd fodolaeth iddynt i gyd. Yr ateb priodol i'r haeriad ynaydyw, nid gwir. Gallwn, ac yr ydym yn profi mai gallu Duw yw yr efengyl, er iachawdwr- iaeth J bob un ar sydd yn credu, wrth yr un reol, er, fel y caf ddangos yn ol llaw, nad gyda'r un samplaii ag y profa dysgyblion crefydd natur fodolaeth y Goruchaf. Peth- au a welsom, a glywsom, yr edrychasom arnynt, ac a deimlodd ein dwylaw am Air y bywyd ydynt sail ein ffydd yn ei ddwyfol awduriaeth. Os ydynt hwy yn gweled ei enw fel Creawdwr yn gerfiedig ar yr holl ddaear, yn adnabod gwaith <>i fysedd ar y ser a frithant laslen eang y ffurfafen, ac yn adnabod ei lais yn nhwrf y mor a rhuad y daran. Yr ydym ninau yn honi y gallwn yn ngoleuni yr un ddeddf—y ddeddf sydd yn rhwymo achosion ac effeithiau wrth eu gilydd—ei weled fel Duw Cyfiawn ac Achubydd yn nghreadigaeth dynion o newydd yn Nghrist Iesu i weithredoedd.da, neu eu hadgenhedliad i obaith bywial,, a'u hail-enedigaeth, nid o had Ilygredig,.eith, anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd. Gadawaf y mater yna bellachi-wneyd sylw o un peth arall, yn yr hwn y teflir diystyrwch anhaeddianol ar Gristioaogaeth gan ddysgyblion y gwyddorau manwi, fel eu cyfenwir, sef eu harferiad o gymeryd yn ganiataol, nid yn unig o&ddeil .Crefydd 0