Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
f ftgrt. A jrBBKLT ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
DEDFRYBAU LLYS Y PAB
DEDFRYBAU LLYS Y PAB YN EU HEFFAITK AR DE YBNGAB WCK G WLAD OL, GAN Y GWIR XXRH. W. E. GLADSTONE, A. 8. PENOD I. ACHLY SUB AC AMCAN V TRAETIUWB. WRTH ddilyn amcan oedd lieb fod yn ddadleuol ond tangnefeddus, arweiniwyd fi i arfer geiriau a berthynent, i raddau mwy neu lai, i fro dadleuaeth grefyddol; a'r rhai, er nad oeddynt ond ycliydig nifer, yr ymddengys, oddiwrtli yr amryw deim- ladau a gynhyrfwyd ganddynt, y dylwn eu darnodi, eu liegluro, a'u hamddiffyn yn ofalus. Nid yw y gorchwyl o ansawdd dymunol i mi; ond at rhagof i'w gyflawni. Yn mhlith yr achosion a dueddent i gyn- hyrfu a thrallodi meddwl y bobl yn yr ystyriaeth o'n hanhawsderau crefyddol ein hunain, un ydoedd math ar fraw oblegid gweithgarwch ymosodol a cliynydd dy- chymygol Eglwys Rliufain yn Mlirydain. Y mae pawb yn hysbys o dynerwch cin teimladau ar y pwnc yma; a thybiaf nad anmhriodol i un a ddymuna symud pob peth a ddichon ymyryd a tliymer bwyllog a brawdlysol, a'r hwn a gred fod y braw yn ddisail, i fynegu yn ddiamwys, er yn fyr, rai rhesymau dros y gred hono. 0 her- wydd paham ni phetrusais ddefnyddio yr iaith ganlynol mewn papyryn a ddodwyd mewn rliifyn o'r "Contemporary Review," (Adolygiad Cyfamserol,) am fis Hydref. Llefaru yr oeddwn ar y pwnc "A ydyw, ai nid ydyw, dyrnaid o glerigwyr yn ym- egnio mewn ymdrech hollol anobeithiol a gwag wrth geisio Rhufaineiddio Eglwys a phobl Brydain." Ni bu y fath gynllun yn ddichonadwy byth er teyrnasiad gwaedlyd Mari. Ond o bu bosibl yn yr eilfed ganrif ar bymtheg neu y ddeunawfed, eto y mae wedi dyfod yn annichonadwy yn y bedwaredd ar bym- theg; pan y mae Rliufain wedi gosod llyw- odraeth trais a newidiad ffydd yn lie y bal^h-fost o semper eadem (yr un dros fyth); l y mae wedi adloewi, ac mewn rhwysg yn ail-ddangos pob offeryn rhydlyd yr hoff dybid iddi beidio ei arfer; pan nas gall neb ddyfod yn ddychwelwr ati heb ymwrthod a'i ryddid moesol a meddyliol, a dodi ei deyrngarwch a'i ddyledswydd wladol at ewyllys un arall; a phan y mae wedi gwrtliod syniad diweddar yn gystal a han- esyddiaeth henafol. t Pe buaswn, pan yn ysgrifenu yr ymad- rodd yma, fel yr ydwyf weithian, i fesur helaeth, yn cyfarch fy nghydwladwyr Pab- yddol, mi a ymdrechaswn ochel gerwindeb ymddangosiadol rhai o'r ymadroddion hyn; ond gan ma.i yn ngliylch eu sylwedd y mae y pwnc yn awr, oddiwrth yr hyn ni'm tu- eddir i gilio mewn dim neillduol, dichon y tueddai unrhyw gynyg i ail-drefnu eu ffurf gyffredinô1 at gam-arwain. Mi a af rhagof, gan Ihyny, i ymdrin a liwy yn ol eu teil- yi-lgdo4. Y mae mwy nag un o'm cyfeillion, yn mhlith y rhai a arweiniwyd i ymuno a'r cymundeb Pabaidd, wedi gwneyd yr ym.. adrodd yma, i raddau mwy neu lai, yn bwnc o ymresymiad neu ymddadleuad. Yn awr, y mae yr honiadau a wna, yn ol fy marn i, megys rhai yn dyfod oddiwrth leygwr a dreuliodd y rhan fwyaf a r rhan -oreu o flynyddoedd ei oes i sylwi ar w leid- Vddiaeth ac i'w hymarfer, nid yn ymosodol ond yn amddiffyn ol. Nid oes gan gefnogwyr y Gadair Bab- aidd, na chan neb, pa mor bell.bynag y byddo o fod yn gefnogwr y Gadair Bab- aidd, a ysgrifeno oddiar olygiad Pabaidd, y mae hawl i ymddadleu a'r byd cyfan; ond, yn y gwrthwyneb, gan y byd cyfan y mae hawl i ymddadleu, yn-gyntaf a'i Sant- eiddrwydd, yn ail, a'r rhai a gyfranogant yn ei weithredoedd, ac yn d-vydydd, hyd yn nod a'r sawl a'u gQddefont neu a'u der- byniont yn ddiwrtlw^ynebiad. The Vatican Decrees in their bearing on Civil AllCffiflTlCG. t Contemporary Review, October 1874, p. 674. Minau, gan hyny, fel un o'r byd cyfan, a gynygiaf ymddadleu yn fy nhro. Ym- drechaf ddangos i'r cyfryw o'm cyd-ddeil- iaid Pabaidd a ddichon fod mor garedig a'm gwrando, ar ol y camrau liynod y barnodd awdurdodau yr Eglwys yn gy- mwys eu cymeryd yn y blynyddoedd olaf hyn, fod gan bobl y wlad yma, y rhai sydd yn llwyr gredu yn eu teyrngarwch, hawl, ar seiliau gwladol pur, i ddysgwyl rhyw ddatganiad neu amlygiad barn ganddynt, yn ateb i'r blaid eglwysig sydd yn eu Heg- lwys, y rhai a ddodasant egwyddorion i lawr, yn eu henw, sydd groes i burdeb a gonestrwydd teyrngarwcli gwladol. Y mae yn ddilys fod lied mawr i'm lion- iadau; ac y mae honiadau llydain yn gofyn sylfaen lydan a dofn. Yr holiad cyntaf a gyfodant ydyw, A ydynt o ran eu sylwedd yn wir? Ond dichon na byddai hyd'yn nod eu gwirionedd yn ddigon i ddangos bod eu cyhoeddiad yn amserol. Yr ail gwestiwn, gan hyny, a gyfodant ydyw, A ydynt, o-ran iliyw amcan ymarferol, yn ddefnyddiol? Ac eto y mae trydydd hol- iad, er mai eil-raddol ydyw, yn cyfodi o'r gosodiadau mewn cysylltiad a'u liawdur- iaeth, A oeddynt yn addas i gael eu gosod allan gan yr ysgrifenydd presenol? Mi a ymroddaf weithian i ateb y tri hol- iad hyn. A thybiaf y bydd i sylwedd fy ateb gyfansoddi a chyfleu apeliad at ddeall- twviaeth fy ngliydwladwyr Pabyddol, yr hwn fel yr liyderaf, o leiaf, na fernir gan rai yn eu plith yn gwbl annheil wng o'u hyatyriaeth. Y mae yn amlwg, fel yr ofnaf, oddiwrth yr iaith a ddefnyddiwyd gan rai cyfryngau o farn Babyddol, eu bod wedi rhoi tramgwydd dwfn mewn rhai manau. Gellid dywedyd bod anfocldlonrwycld, dig- ofaint, ac hyd yn nod ffyrnigrwydd yn dynedi yr iaith a lefarwyd yma ac acw yn mhoethder y cynhyrfiad. Triniwyd hwy yn fyrbwyll fel ymosodiad ar y Pabyddion yn gyffredinol, ïe, fel sarhad arnynt. Y mae yn hawdd ateb, nad ydynt yn mynegu dim am y Pabyddion yn gyffredinol. Gyda golwg ar y "dyehweledigion," am y rhai y dywedaf ychwaneg, y maent ar y cyfan yn feirniadaeth rydd a chref ar ymddygiad y Gadair Babaidd, ac ar el chyngorwyr a'i chefnogwyr. Os dywedir wrthyf fod yr hwn a feirniado ar y rhai hyn trwy hyny, yn ymosod neu yn sarhau'y Pabyddion oil, y rhai nad ydynt yn dewis eu rheolwyr eglwysig, ac nas cydnabyddir megys yn meddu dim llais yn llywodraeth eu Heg- lwys, nis gallaf fod yn rhwym wrth osod- iad, nac i dderbyn un sydd yn ymddangos i mi mor anghyson a, rheswm. Ond o fiaeri pob petli, hoffwn ei fod yn ddealladwy, gyda golwg ar y nodiadau a gynygir genyf weithian, y dymunwn ochel nid dall-bleidiaeth grefyddol yn unig, ond dadl dduwinyddol hefyd. Yn wir, nid oes dim a fynwyf fi yma fi duwinyddiaeth fel y cyfryw mewn un modd, dim ond yn ei cliysylltiad gwladol yn unig. Ond hynod- rwydd duwinyddiaeth Rufeinig ydyw, ei bod, trwy ymwthio i lywodraeth dy mhorol, yn dyfod yn naturiol, ac hyd yn nod o angenrhaid, yn bwnc mynych ymchwiliad gwleidyddol. Rhaid ei fod yn ofid dider- fyn i feddyliau Pabyddion tawel, bod eu crefydd ar y tir yma yn anad dim arall, yn dyfod yn bwnc beirniadaetli; ei bod, yn anad dim arall, yn achlysur o ymrafaelion a'r Llywodraetli ac o aflonyddwch gwladol. Yr wyffi yn ddiffuant deimlo o herwydd maint gorthrwm eu sefyllfa. Ond dygir y gorthrwm yma arnynt yn hollol gan ym- ddygiad awdurdodau eu Heglwys eu hun- ain. Paham yr aeth duwinj^ddiaeth i mewn mor helaeth i ddadleuon y Senedd ar Rydd- freiniad yPabyddion? Nid yn ddilys ddi- amheuol oblegid bod gwladweinyddion a dadleuv/yr haner can' mlynedd yn ol yn meddu cariad naturiol at y fath ddadleuon, ond am y credid yn gyffredinol fod Pab Rhufain wedi bod, ac yn parhau i fod, yn droseddwr ar dir a berthynai i'r awdurdod wladol, a'i fod yn lidni hawl i benderfynu pynciau y cylch gwladol trwy ragorfraint ysbrydol. Y gwirionedd yma, os gwirion- edd ydyw, ac ni-I gwirionedd neu geudeb, rhesymoldeb neu afresynioldeb, unrhyw erthygl o gredo cwbl grefyddol, ydyw yr unig a'r holl achos o'r anffawd. At y gwir- ionedd yma, ac at hwn yn unig, y gellir cyfeirio fy iaith inau: ni buasai yn ddy- ledswydd arnaf fi nac yn ddymunol genyf ei harfer, oddieithr y gwirionedd yma. Y mae y Dwyreinwyr, y Lutheriaid, y Calfiniaid, y Presbyteriaid, yr Esgobydd- ion, yr Anghydffurfwyr, oil i gyd, yn der- byn budd trefn wladol yn foddlawn a diolcligar; heb honi byth nad y Llywodr- aetli yw ei meistres ei linn; na gwneyd un hawliau crefyddol i feddianau neu fanteis- ion tymhorol; ac o ganlyniad, nid ydynt byth mewn cyd-darawiad peryglus a'r Llywodraetli. Ie, ychwaneg, credaf mai felly y mae hyd yn nod gyda cliorff y Pab- yddion yn bresenol. Ond nid felly gydag arweinwyr eu Heglwys, na cliyda y rhai sydd yn ymfalchio mewn dilyn yr arwein- wyr. Yn wir, gwnaed hyn yn bwnc o yniff "Nid oes un Eglwys arall" (hehlaw Eg- Iwys Rufain) "nac unrhyw gymundeb sydd yn proffesu bod yn Eglwys, nad yw yn ymostwng, neu yn ufuddhau, neu yn tewi, pan y gorchyinyn llywodraethwyr gwladol y I)Y(I. Present Crisis of the Holy See,' by H."E. Manning, D. D., London, 1861, p. 75. Yr oedd Rliufain y Canol Oesoedd yn lioni unbenffeth gyffredinol. Nid yw Eg- lwys Rhufain ddiweddar wedi rlioddi dim heibio, nac wedi galw dim yn ol. Ai dyna y cwbl? Pell oddiwrth hyny. Trwygon- demnio rliai (fel y gwelir eto), megys yr Esgob Doyle yn 182y rhai a gyhuclclent y Pabau canol-oesol o ymosodiad, y mae yn amddiffyn yn ddiamodol, hyd yn nod os dan gêl, yr hyn a amddiffynai y Pabau canol-oesol. Ond nid hyd y nod hyn ydyw y gwaetliaf. Y gwaethaf o lawer ydyw, tra yr oedd gwrthwynebiad bywiog, egniol a pharhaas yn Eglwysi a chymundebau cenedlaethol y canol-oesoedd i'r lioniadau anghymesur hyn, gwrthwynebiad a wrol honai ei hun yn uniawn-gred, yr hwn yn wastad a fynai gael ei barchu, a'r hwn hyd yn nod wcithiau a enillai y llaw uchaf; ond yn awr, yn ein pedwaredd ganrif ar bym- theg ni, a thra y mae yn myned ar gil, y mae yr un gwrthwynebiad wedi ei fwrw allan o'r llys, ac wedi ei ddiifodd yn ol y gyfraith o fcwn yr Eglwys Babaidd, gan ddedfrydau diweddar Llys y Pab. Ac mae yn anmhosibl i'r sawl a dderbyniont y ded- frydau hyny gwyno yn gyfiawn, pan y dodir y cyfryw brawf-ysgrifau mewn gv/ir- ionedd dan archwiliad manwl gyda golwg ar eu cysondeb a hawl wladol ac ufudd- dod y deiliaid. Wrth amddiffyn fy ymadroddion, mi a nodaf eu terfynau yn ofalus. Ond y mae pob amddiffjaiiad yn adhoniad, yr hwn a ofyn yn briodol adystyriaeth bwyllog; ac ni ddylai neb a adystyrio fel hyn betruso, os cenfydd gymaint a gair a ddichon gyfleu camsyniad, ei ddiwygio. Y mae manyl- deb wrth adrodd gwirionedd yn ol mesur ein dealltwriaeth, yn amod anhebgorol cyf- iawndcr, a hawl i wrandawiad. Fy ngosodiadau, gan hyny, fel y safent, yw y rhai hyn:— 1. Bod" Hhufain wedi gosod llywodraetli trais a newidiad ffycld yn lle'r balchfost 0 semper- eadem." 2. Ei bod wedi adloewi, ac mewn rhwysg yn ail- ddangos, pob offeryn rhydlyd yr hoff dybid iddi beidio ei arfer. 3. Nas gall neb weithian ddyfod yn ddychwelwr iddi heb ymwrthod a'i ryddid moesol a meddyliol, a dodi ei deyrngarwch a'i ddyledswydd wladol at ew- yllys un arall. 4. Ei bod hi (" Rhufain") wedi gwrthed synia ddi- weddar cysial a hanesyddiaeth hynafol. t Lords' Committee, March 1S, 1826. Report p. 190.
NODWEDDION YR AMSERAU.
NODWEDDION YR AMSERAU. GAN SYLWEDYDD. Mae y byd y dyddiau hyn fel rhyw groch- an berwedig-y gwahanol wledydd fel pe byddent yn arfogi i ryfel, ac un frenin- iaeth yn achwyn yn y fan hon, fod rhyw unarallyngwasgu ar ei therfynau. Mae un arall wedi colli rhyw ddarn o dir, yr hwn nad yw yn werth ond oto mae y llywodraeth yn chwythu bygythion parliaus. Mae un arall wedi colli ei henw mawr a'i hurddas milwrol, ac yn pender- fynu dial gwaed ei milwyr. Felly, mae y naill yn ofni y Hall, ac eto yn parotoi ar gyfer eu gilydd; ac yn barod i osod eu ( rhengoedd mewn trefn. Ein gweddi fydd am i'r hwn sydd yn eistedd ar amgylch- oedd y ddaear, lywodraethu, a gwasgar y rhai sydd dda ganddynt ryfel, oblegid nid oes dim yn fwy dinystriol i wir le.s gwlad,' na rliyfel. Mae sefyllfa fasnachol pob gwlad mewn cyflwr terfysglyd iawn, a chyfalaf a llafijr mewn ymdrechfa galed. Ymddengys i pii yn eglur fod bwriad gan y meistri i osswwg y cyflogau trwy y byd masnacliol, obl-grf/d f mabwysiedir yr un cynlluniau yn Ngliym- ru ac Ewrop ag yn America; ac y mae ar- goelion yr amserau yn dangos fod y meistri haiarn a glo yn y Talaethau Gogleddol yma, ar eu goreu i ffurfio caethwasiaeth, gwaeth nag a fu yn bodoli yn y De erioed. Os nad ydym fel dinasyddion yn pender- fynu gwneyd ein rhan, byddwnie! y wadd wedi cael ein lladd, cyn yr agorwn ein Hygaid. • v; Mae'n debyg nad oes neb am foment yn am- z!1 eu uniondeb egwyddorion sylfaenol gwer- iniaeth. Mae ynddi yr ansoddau a'r man- teision hyny sydd yn gyfaddas a chymwys ar gyfer dyn fel bod yn meddu ar ewyllys rydd; ond mae un peth yn eglur mewn perthynas i Weriniaetli, fel i annibyniaeth, seE tra y gall dynion da ar un IlaAv wneyd mwy o dda drwyddi, na thrwy unrhyw flurf arall o lywodraeth, y gall dynion drwg ar y Ilaw arall wneyd mwy o dclrwg; felly er fod gweriniaetli yn dda, mae ynddi anfanteision, oblegyd fod elfenau drwg o'i mewn; er ei bod yn ei natur, yn golygu, ac wedi ei bwriadu ar gyfer rliai da, Nid oes yma ddeddfau a chyfreithiau llym a man- wl er cospi troseddwyr; ac os oes, anaml iawn y rhoddir hwy mewn gweitlirediad, oblegyd nid yn ami y bydd lleidr yn cosbi lleidr, os na fydd ef yn cael Ilai na'i gyfran o'r ysbail. Mae deddfau cyfiawn, doeth a da yn wastad yn golygu sicrliau i bob dyn gyflawn ryddid i wneyd yr hyn sydd iawn, a pherffaith arnddiffyniad a diogelwch rhag effeithiau gweithredoedd drwgeraill; megis ag y dywedodd un o wlad-weinwyr goreu yr oes, sef "y dylai llywodraetli ddeddfu yn y fath fodd ag i beri bod yn hawdd i wneyd daioni, ond yn anhawdd i wneyd drwg." Addefwn a cliredwn mai dyma oedd motto yr hen Washington, a'i gyd- gynghorwyr wrth ffurfio y cyfansoddiad; ac y mae darllen ei anerchiadjymadawol i'r Senedd yn ddigon i argyhoeddi pob dyn gonest o hyn. Ond pa Ie mae yr uniondeb, moesoldeb a'r grefydd y siaradai yr Hen Wron hwnw am dani, heddyw? Maent wedi cael eu taliu i'r wadd ac i'r ystlumod. Sylwn ar ymadroddion y gwr ei hun: "Gofynwn," meddai, "y cwestiwn syml liwn, Pa le y mae y sicrwydd sydd genym am feddianau, anrhydedd, cymeriad a bywd ei hun, os yw yr ystyriaeth o rwym- au crefydd i ymadael o lwon, y rhai ydynt i fod yn gyfryngau ymchwiliad mewn llys- oedd barn? Bydded i ni ochelyd coleddu y syniad y gellir amddiffyn gwir foesoldeb heb grefydd. Beth bynag a ganiateir i allu a dylanwad addysg goethedig ar feddyliau o gyfansoddiad neillduol, mae rheswm a phroflad yn ein gwaliardd i ddysgwyl y ffyna gwir foesoldeb heb grefydd." Ond pale yr ydym heddjrw? Yr ydym wedi gwyro yn mhell oddiwrth y rheol. Beth ellir ddywedyd heddyw am y cyliawnder fydd i'r tlawd, mewn Ilys barn? Ni cha efe ddim- "Iloney makes the mare to ()-o, Dywedaf fod y twyll swyddogol a arferir ar y fainc yn sarhad ar gyfiawnder, yn warth aryr oes yr ydym yn byw ynddi, yn ysmotyn du ar wareiddiad, ac yn elfen dinystr, anocbeladwy yn ein gwlad. Ai nid prioditl iawn yw yr ymadroddion hyny at yr amscVam yma—"Barn hefyd a droed yn ei hoi, a chyfiawnder asafodd o hirbell; canys j^vi-rionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn." Os mai dy'na yw cymeriad Seneddwyr a deddfwyr ein gwlad, yr ydym yn ymylu ar ryw cliwyldroad mawr. Petb arall sydd yn hynodi yr amserau yma yw brwydr yr opiniynau meddyliol. Mae rhyw doraeth ac amrywiaeth braidd yn rtdiddarfod o ddefnyddiau ar y maes hwr;, o'r anffyddiaeth uwchaf, yr athron- iaeu ddyfrial' i'r Gristionogaolh buraf.— Ygwelir a chlywir yn dadleu y Defn- ydi'ioiwr (Materialist), Duwiolwr {Deist), Tamlyddwr (Sensationalist), Amheuwr (Septic), Meddyliwr (Idealist), Duw-ollwr (pantheist), Gyffredinolwr (Unwersalist), Ys- brydiwr (Spiritualist), Rhydd-feddyliwr I /Free Thinker), Rhydd-garwr (Free Lover), a rhyw isms ac ists dibendraw. Gelwir un yn uniongred, a'r llall yn anuniongred. Y mae pregethu Crist i un yn dramgwydd, ac z: y i'r Ilall yn ffolineb; ond i'r rhai sydd yn iawn gredu, mae yn Grist gallu Duw a doethineb Duw." Mae un yn dal "cymer- iad uwchlaw credo; y Ilall, mai credo yw sylfaen cymeriad. Rheswm dynol yw arwcinydd dyn at Dduw, medd un; ie, meddai y llall, ond eiffod wedi ei ddysgu gan Dduw. 3Tac un yn cymerydJDuw yn ganol-bwynt ei ymresymiadau, ac wrth ddilyii.ei syniadau y mae ef yn dyfod i'r casgliad mai Duw yw pob peth, a bob pob peth yn Dduw. Dechreua un arall ei ym- resymiad gyda dyn, gan ymbalfalu fel pe yn ceisio profi mai dyn yw pob peth, neu mewn geiriau eraill, mai dyn sydd yn creu Duw—nad yw Creawdwr mewn gwirion- edd ond effaith crebwyll dyn. Mae y llall yn dyfod yn mlaen ac yn honi nad oes yr un o'r ddau yn iawn; oncl fod gallu cynhenid mewn defnydd i gynyrchu dad- blygiad. Yn ol hwn, nid oes na Chreawd- wr na chreadur, ond yn ol deddfau dad- blygiadol natur, ac felly fod natur wedi esgor ar beth sydd fwy nag ef ei hun, sef meddwl a mater, ac wedi cynyreliu deddf, yr hyn yn ol ein tyb ni, sydd wrthuni o'r fath ynfytaf. Mae pethau hynod yn nod- weddu y byd crefyddol a moesol, sef y diwygiadau a'r cynliyrfiadaumawrion sydd ynddo. Y mae gwyddor a gweddi mewn ymryson, meddwdod a sobrwydd; ffurf a sylwedd. Gwelir ymryson gwastadol yn ngliylch awdurdodau gwladol, masnach fydol, ac opiniynau crefyddol y grefydd Gristionogol yn y blynyddoedd hyn. Beth fydd y diwedd, tybed? Yr wyf yn credu ein bod yn nesau at ryw gyfnod rhyfedd; ond nid at y mil blynyddoedd. iliac gor- mes a thrais wedi cyraedd eithafnod; maent wedi myned mor hyf, fel ag i herio pawb a phob peth. Ac ar yllaw araB, mae rhyddid gwirionedd ac uniondeb yn deff i-o at eu gwaith, ac yn c-yflawni gwrhvdri; a cliredwn nad yw y chwyldroad daionus ond megis dechreu. Ein gweddi fyddo ar i lawer o ddaioni ddeilliaw; o bob cynwrf yn y byd masnachol, crefyddol a moesol. -4+10-6 410-
0 WIS. I SAN FRANCISCO.
0 WIS. I SAN FRANCISCO. GAN AP TREVOR. PENRTIYN, CAT,IF.-Gadewais y darllen- ydd yn fy ysgrif o'r blaen, tra yn liel fy nhaclau yn nghyd i gychwyn o Omaliq.- Wedi cael newid y check ar y trunk oedd genyf—ac yma dylid sylwi fod pob luggage yn cael eu pwyso, gan na chaniateir uwch- law 100 pwys ar gyfer pob tocyi-i-aetliuiii i lenwi fy masged ag ymborth o bob math, digonol i'm cadw yn fyw a lied gysurus am tua naw diwrnod. Yr oedd y gerbydres braidd yn orlawn pan gyrhaeddais yr orsaf, ac nid oedd ond i mi gymeryd yr eisteddle gyntaf a welwn yn wag, yr hon a wasan- aetliodd yn gartref i mi am bum niwrn d. Y peth cyntaf a'm tarawodd yn yr olwg ar y teithwyr, oedd fy mod wedi bwrw fy nghoelbren yn mysg lladron; yn wir yr oedd rhai o liony».t, gan eu bod wedi ym- wisgo dipyn yn salw, ac heb eillio, feddyl- iwn, er's wythnosau, yn edrych can ddued a'r c1--1 ei •feun; ond erbyn cydnabyddu ychydig a hwynt, llwyr argyhoeddwyd Í, nad yn ol ymddangosiad allanol y mae barnu cymeriad bob amser. Cefais fod caredigrwydd a gonestrwydd pur yn cartrefu tu ol i'r ymddangosi;?d hacraf yn ami. Cychwynasom o Omaha prydnawn Sab- both y 18fed, a hi yn liwyrhau. Bwytasom ein swper yn y tren. Cefais liwyl anghyff- redin ar hyd y ffordd gyda genethod (Dutch), oeddynt yn esgyn y cars ar bryd- y iau, gyda'u "hot coffee, milk," neu "roast, chicken," a byddent yn ami yn gorfod gadael y car lieb eu lieiddo na'u hariad- Byddai y bechgyn direidus yn yfed y coffee cynes bob dyferyn, a chymerent arnynt fethu cael newid, hyd nes byddai y tren yn cychwyn, pryd y byddai yn rhaid i'r poor girls adael y cwol a disgyn, onide byddai yn rhy ddiweddar arnynt heb fyned i'r depot nesaf. Ar doriad y wawr boreu dranoeth, cefais fy hun mewn lIe o'r enw Granol Island. Y geiriau cyntaf ddisgyn- odd ar fy nghlust yma, oedd, fod nifer o ysbeilwyr Mexicanaidd wedi eu crogi yno y noswaith flaenorol. Yr oeddwn yn synu. at y fath ryddid cyfreithiol oedd gan ddinaswyr y lie bychan hwn, fel yr oedd- ynt yn gallu crogi pob ysbeilydd a ymwelai a'u dinas, os gallent gael gafael ynddynt, heb un prawf o gwbl. Hysbyswyd fi mai dyna ydyw eu cyfraith gyda golwg ar ys- beilwyr; ac yn wir, y mae safle eu dinas, yr lion sydd mewn rhan anghysbell o'r wlad yn galw am gyfreithiau, a chosbedig- aethau o'r fath, onide cymerid mantais gan- fileiniaid, i ysbeilio a dinystrio lleoedd