Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
^ ^ ' ftll R ^ ^
ftll R A yrBBJLzr JVJ&MSTA.&E'Z'I. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y. I
[No title]
-Er pan ddarganfyddwyd America yn 1492, mae$3,200,000,000 mewn aur, a $6,- 300,000,000 mewn arian, yn gwneyd cyfan- swm o $9,500,000,000 wedi eu hallforio o'r wlad hon. —Darllena, nid llyfrau yn unig, ond dynion; yn benaf bydd ofalus i ddarllen dy hunan. -Cymerodd achos o gorff-losgiad le yn Lloegr yn ddiweddar. Torodd dynes o'r enw Fanny Johnson, gorff marw ei phlen- tyn yn ddarnau a llosgodd hwynt mewn stove. Cymerwyd hi i fyny.
CHRISTMAS EVANS,
CHRISTMAS EVANS, GAN Y PARCH. D. W. MORRIS, HYDE PARK. I. MR. EVANS YN CYCHWYN EI YRFA. Tair LIan glodadwy yn Sir Gaerfyrddin yw, Llanfair-ar-y-bryn, ac yno y ganed Williams, Pantycelyn, tywysog telynorion I trugaredd. Rai milldiroedd yn mhellach i fyny y mae LJancrwys, ac yno y ganed y rhyfeddfawr Kilsby Jones, arabeddwr ei wlad. Eto yn uwch i fyny y mae Llanfi- hangel-ieroth, ac yn y lie oer a noetli hwnw y ganed Christmas Evans, yn seren i Walia, yn swynwr y werin, ac yn seraph yn rheng- oedd y saint. Mynega blwyddolion yr am- seroedd mai yn y flwyddyn 1766 y daeth y 'I.' oaoan nwn i'r byd, ac yr oedd hyny chwe' blynedd wedi coroniad Sior y III, yn deyrn-ben ar y deyrn- as. Dyna y flwyddyn y terfynodd gweinyddiad Grenville yn y Senedd, y bu Grey a Canning mewn ymrysonfa fawr, ae y rhoddwyd toll ar y cider yn mhob seler o eiddo y Sais. Dydd geni ein gwr- on ydoedd, Nadolig y flwyddyn 1766, ac yr oedd y flwyddyn yn mron a marw pan y dechreuodd efe fyw yn y fro flinderus yma. Tra nodedig oedd ei eni ar y Nadolig. Der- byniodd yr enw Christ- mas yn herwydd hyny. Enw wedi ei rifo yn Rhufeinig, ei gadw yn gysegredig, a'i nodweddu yn arbenig yn Christmas Evans. Trodd efe allan yn ol ei enw, yn emyn- ydd i'r Emmanuel, yn al- awydd y groes, yn deyrn- genadydd i'r Iesu, a myn- egydd am y Crist a ddaeth i eneinio y ddaear Sg olew y nefoedd. Enw ei dad oedd Samuel Evans; es- gidiwr oedd ei swydd, llwm oedd ei dy, a llwyd oedd gwedd ei deulu. Barnwyd mai gwell oedd i Cliristmas'ymgadw rhag ymaelodi gyda meibion St. Crispin, ond myned i weini at amaethwyr y fro am ei grystyn a'i gaws. Aeth allan, a bu yn bugeilio y defaid, yn rhifo yr wyn, yn gwylio y praidd, yn gyru y meirch, ac yn porthi y moch. Ai yn yr athrofa hono y daeth i'r meddiant o'r meddyliau byw sydd ganddo yn ei bregeth ar y "Mab Afrad- lon?" Ac efe yn ieuanc, yn dyner ac yn wan, disgynodd ei goelbren i weini gyda meistr anynol, meistres anynad, a theulu anheilwng i roddi abwydyn dan eu Haw, aderyn dan eu tô, na mulyn dan eu gofal. Enwai y lie mwy yn Hadadrimon, y maes yn Megido, y gwr yn Omri, y wraig yn Jezebel, y meibion yn frodyr i Pharaoh, a'r merched yn garesau i Cleopatra, yn herwydd eu traha i'r bachgenyn ag y mae brodorion Paradwys yn ei edmygu. Tymor ydoedd hwn ag y derbyniodd Christmas Evans waredigaethatt amlwg-o'r llifeiriant heb foddi, rhag ei ladd yn y marchdy, a rhag ei ddryllio yn y codwm a gafodd dros glogwyni ysgythrog y graig. Ai nid hedd- ynadon Haran oedd yn craffu, olwynion cerbydau Dothan yn troi, a gwyliedyddion Padan-Aram yn llygadu ar y bachgen llwm yn Llanfihangel-ieroth, y bugail bach yn Llandysil, a'r blodeuyn ter ar diroedd Rhos-y-corn, gan ei noddi er mwyn y nef- oedd? Rywbryd yn y flwyddyn 1782, yr oedd Christmas Evans yn hogyn 18 mlwydd oed, yn gweini yn ffyddlawn gyda fEarmwr yn Swydd Ceredigion, ac yn gwrando yr efengyl gyda y Presbyteriaid yn Llwyn- rhydowen. Eu gweinidog ydoedd y Parch. D. Davies, Castell Howell. Efe ydoedd wr o ddysg mawr, buchedd bur, ac awen barod. Mr. Davies gyfieithodd "Alargan Grey," ar y meirw a'r monwentydd, i'r Gymraeg. Rhagora y cyfleithiad ar y gwreiddiol, medd barnwyr barddoneg. Ac yn y dyddiau hyny yr oedd Hadfa yn Cas- tell Howell, i gyfarwyddo meibion y pro- phwydi, a Mr. Davies yn athraw arni. Dychwelai o'i ysgol un prydnawn gwlawog I ag ysgub o wellt uwch ei waIlt, ac ym- ddangosai yn wyllt ei wedd. Gofynai cyf- aill iddo, Pa fath wlawlen oedd y sypyn neu y sopen? Atebodd yr athraw, To gwellt ar y ty o glai, fy machgen i." Bernir nad oedd Mr. Davies, Castell Howell, yn Drindodwr nac yn Undod\tfS-, ond yn rhodio rhwng y ddau. Eithiv^gan mai un yw gwirionedd, nid oes dau am dano. Tlhai sychion iawn opdd Presbyteriaid Cymru yn yr oes hono. Addysg Atliro- faol," oedd y prif gymwysder i'r pwlpid yn eu plith. Rhaid oedd hebrwng Hebraeg i'r pen, a llyncu y Lladin i'r côf, a gyru iaith y Groegiaid i'r ymenydd, er addasu dyn yn efengylydd. Er hyny, yn y flwydd- yn 1782, torodd adfywiad crefyddol allan yn Llwynrliydowen, j-munodd am ryw a'r gynulleidfa, a derbyniwyd Christmas Ev- ans i'r cymun y tro cyntaf, nid gyda y Bedyddwyr, ond gyda'r Presbyteriaid, yn Llwynrhydowen yn Sir Aberteifi. Tra- ddododd y bregeth gyntaf ar ben ystol, mewn amaethdy gerllaw, ac i gynulleidfa o lafurwyr gan mwyaf. Ac yn yr un lie, yn mhen yr wythnos, y dechreuodd y Parch. David Davies, wedi hyny o'r Myn- ydd Bach, yr hwn a alwai y werin yn "Udgorn Arian Morganwg," yn herwydd ei lafar, ac yn herwydd ei lais. Mawr gan- molid pregeth Christmas, mab Samuel y crydd, gan y dynion mwyaf deallus fu yn ei wrando yn yr amaethdy. Daroganid am dano y buasai yn llawer mwy nag y bu Mr. Davies, Castell Howell, ac nag y byddai byth, a llawer o ymadroddion felly. Eitlir buan y darfu y moledd mawr, canys caed allan mai eiddo arall oedd y bregeth a dra- ddodwyd ganddo-eiddo Esgob Beveridge, medd rhai, eiddo Rowlands, Llangeitho, medd rhai eraill, ond nid eiddo Christmas Evans, medd ef ei hun, "canys benthyg ydoedd." Er deall mai nid ei eiddo ei hun oedd y bregeth, daliai y bobl i gymeradwyo ,,y gweddi mab y Crydd fel yn rliagori ar weddi pob offeiriad, o Lanfihangel-ieroth i Lanfynydd, ac o Gapel Coelbren i Gapel Noni. Eto gwyddai Christmas mai nid ei eiddo ei hun oedd y weddi, ond ei fod wedi ei chymeryd o lyfr gweddi anghy- ffredin-o eiddo Griffith Jones, Llanddow- ror, neu rywun anghyffredin arall. z!l Dechreua ambell un heb un bregeth, ond mynodd Christmas Evans bregeth dda i ddechreu, er iddo ei lloffa mewn llanerch y tu allan iddo ei hun. Trancell yr Ele- phant yn ymlenwi, cynffon y Behemoth yn aflonyddu yr anialwch, a ffroenau y Lefiathan yn dechreu berwi y mor oedd hyn. Aeth Christmas Evans rhagddo yn mhellach na Llanrhydowen, cylch Castell Howell, a pharwydydd y Presbyteriaid, ac a bregethodd i enwadau eraill hefyd. Dar- fu i'r Parch. William Perkins ei wahodd i Bencadair i efengylu i'r Annibynwyr, a bu yno amryw droion, yn dysgu ac yn cael ei ddysgu. Diacon yn Mhencadair oedd tad y Parch. John Evans, Llwynffortun; a'r un Evansiaid oedd efe a Christmas, meddir. Y mae debyg fod ei berthynas a'r Diacon wedi hod yn foddion i ddrws yr addoldy gael ei agor yn rliwyddacli iddo. Efe a wahoddwyd i Benybont, Llandysil, i breg- ethu, a rhwng Pencadair a Phenybont, yr oedd Christmas Evans yn ymddyrchafu dros ben y Presbyteriaid. Bedyddwyr oedd ac sydd yn Mhenybont, ac yr oedd Christ- mas yn meddu rhagfarn yn erbyn y bobl hyny, er y byddai yn myned i'w plith, ac yn pregethu idd- ynt yn dra mynych. Ael- od gyda'r Bedyddwyr yn Aberduar, o'r enw Amos, fu y moddion i ddar- bwyllo Christmas Evans i ymuno a'r enwad hwnw. Ymadawodd mewn hedd- wcli a'r Presbyteriaid, a bedyddiwyd ef yn afon Teifi gan y Parch. Timo- thy Thomas o'r Maes, yn y flwyddyn 1788, ac efe yn ddwy ar liugain ml. oed. Bedyddiwyd un a deugain o bersonau yn Aberduar o fewn cylch y flwyddyn- hono, lieblaw Christmas Evans, ond efe ydoedd y mwyaf o'r Ilu. Tri Bedyddiwr a deim- lent yn falch o gael bed- yddio tri eraill yn yr oes ddiweddaf:—Dr. Ryland, Northampton, am gael bedyddio William Cerey; Henry Davies, Llangloff- an, am gael bedyddio Joseph Harris, a Timo- thy Thomas o'r Maes, am gael bedyddio Christmas I Evans. Cymaint a hynyna am Christmas yn dechreu ei yrfa. Awn rhagom yn ein hysgrif nesaf gyda "Christmas Evans ar es- gynfa enwogrwydd. -:0:-
'IADGOFION BYRION.
'I ADGOFION BYRION. GAN CELYDDON. Y PARCH. H. POWELL, NEW YORK. PATKRSON, N. J.-Daeth y DRYCH i'm llaw heddyw; ac er fy nirfawr alar, cyn- wysai y newydd dwys am ymadawiad y gweinidog gweithgar a duwiolfrydig uchod a'r fuchedd hon. Y mae troion Rliaglun- iaetli yn chwerw! Yr wyf yn teimlo yr eilia,d hon fod cysgod marwolaeth yn liedfan o'm cwmpas! Y mae cynhebrwng ,,y yr Efengylydd Powell, yn ddiau, yn ym- symud i'r gladdfa yn awr, ac er nad oes rhyngof a New York ond ychydig dros ugain milldir, y mae yn fythol rhy ddi- weddar i frysio i'r gerbydres er myned i dalu y gymwynas olaf i'w ran ddaiarol. Dynghedfen anghymwynasgar! paham na buasai y newydd marwol yn fy nghyraedd ychydig oriau yn gynt, fel y gallaswn gael golwg ar y Cristion gloew yn ei arch- wedi gosod ei gledd heibio—wedi darfod brwydro—golwg arno yn huno yn ei an- rliydedd a'i nodwedd dilychwin wedi gorphen ei yrfa lafurus a bendithiol! Cred- af y buasai hyny yn lleddfu ychydig ar y teimladau hiraethus ag y mae y genadwri wedi greu yn y fynwes. Y mae y galon wedi ei chlwyfo-Powell nid yw mwy! I ba betli y mae dyn wedi ei eni? Ai i gladdu ei gyfeillion anwylaf, ac i wylo y dagrau yn afonydd i ogof didrai y bedd? Yr wyf yn gyfarwydd a'r bedd er pan yn ieuanc. Y mae wedi fy amddifadu braidd o'm perthynasau, a gwelais briddo llawer o gyfeillion fy ieuenctyd yn Nghymru; ac, yn awr, pan newydd dirio mewn cyfandir dieithr, wele y genadwri fel llais o'r byd arall yn fy ngliyraedd fod un o'm cyfeillion anwylaf, a pharotaf ei gyngor yn cael ei osod yn ei fedd! Y corff yn y bedd, eithr y mae yr enaid noble a Christionogol wedi ehedeg at ei wobr. Cyfarfyddais gyntaf a'r Parch. rHowelr Powell, y Sabboth diweddaf cyn i mi gych- wyn o Gymru. Pregethai yn Bethaniar Aberdar. Y mae yr enw yn galw torf o- adgoflon dysglaer a hyfryd i'r meddwl, heblaw yr adgof am yr ymadawedig-a- chan fod amgylchiadau yn galw arnaf i y groesi y Werydd, arosais gartref y Sabboth hwnw i gael ymgynghori a'r ymwelydd o'r wlad y bwriadwn ymfudo iddi; a thra byddo anadl ynwyf, ni anghofiaf y dyddor- deb a gymerodd yn 'fy llwyddiant; ac yr oedd ei ddull mwyn, thynaws, caredig a Christionogol y tu hwnt i ddesgrifiad.- Pwy, wedi haner awr'o ymddyddan a'r ym- adawedig, na ddymunaifgyfranogi yn ehel- aeth o'i ysbryd rliyddfrydig, cynes, ac efengylaidd. Meddai ar ryw rinwedd an- esboniadwy i enill ymddiried perffaith ar unwaith. Cyfarfyddir ag ambell i gymer- iad ag y plae yn anichonadwy i,un dewill1 ei adnabod, a phwy a ymddirieda yn y fath berson? Yr oedd yr ymadawedig yn ddidwyll mewn egwyddor, a dyna y dir- gelwch, yn ddiau, ei fod yn argraffu eB ddidwylledd a'i grefyddoldeb mawr mor gyflym ar arall. I Bethania yn yr ysgrif nesaf.
0 WIS. I SAN FRANCISCO.
0 WIS. I SAN FRANCISCO. GAN AP TREVOR. Yr oeddym yn teithio yn gyflym, a deall- ais ein bod wedi dechreu ar^y'goriwared, y tybiais am dano lawer gwaith, erbyn dyfod; allan o'r shed. Yr oedd yr eira wedi myned yn eir-wlaw, a ninau yn troi ko amgy'ch fel ,y olwyn trol, gan amgylchu copau'y bryniau. Ymddangosai y dyffrynoedd llydain o'n blaen yn y pellder, ac islaw i ni yr oedpt cymoedd ceimion, wedi eu'gordoi a rhyw niwl goleu, ac ambell i afon ddisglaer yn ymddangos obry yn ngwaelod y nant; a nin- au yn cael ein cipio heibio'r cwbl, heb ond). prin gael cip-drem arnynt. Y mae y diwrnod olaf ond un o'r daith yn dwyn mwy o ryfeddodau i'r teithiwr na'r un diwrnod arall, a'c eithro y Mynyddau Creigiog. Mewn lie by chan o'r enw Aub- urn y gwelais y creaduriaid rhyfedd hyny, y Chineaid, y tro cyntaf yn fy oes; ac yn wir, chwareu teg i'r hen Darwin,*os y caf- odd olwg ryw dro'ar y creaduriaid hyn, yr oedd yn anhawdd iddo beidio coleddu y syniad, mai o'r Epa y tarddodd dyn. Y mae runners yr hotels erbyn hyn bron a fy myddaru; ond y cysur gymerais oddi- wrthynt oedd, fod rhyw dref hynod ym agos, gan fod cymaint o nifer o west-daii ynddi. Ac wedi teithio am ychydig oriau. trwy ddyffryn prydferth a bras yn llawn 0" ffrwythau persawrus,cefais fy hun yn ninas-L enwog Sacramento—ond cofier mai yr unig: betli sydd yn cyfansoddi ei henwogrwyddf. ydyw ei bod yn State Capital. Adeiladaut gwaelion sydd ynddi, ac mae ei hystryd- oedd yn liynod o afler ac aflunaidd; ac os1 na chymerir gofal parhaus, y mae'n berygll boddi mewn baw, ar ei phrif heolydd. Ond aros ddarllenydd, y mae ganddynt esgus. i'w roddi dros yr anrhefn, sef fod yr afon fawr—yr American River—sydd yn ym- Ilwybro heibio iddynt am y Tawelfor, arrai prydiau, yn arfer chwareu triciau pur ys- mala a hwynt, trwy dori dros ei therfynais a bygwth boddi yr holl dref. Gwnaethj felly tua thair blynedd yn ol, nes y gorfie iddynt gyfodi eu tai yn uwch i fyny, a'r heolydd yr un modd; ac fel y clywais, darfu fygwth yr un peth eleni, oni buasai i'w meistr ddywedyd wrthi: "Hyd yma yr- ei, a dim yn mhellach." Gan fy mod yn deall y byddem yn cyr- aedd pen ein taith yn foreu dranoeth, nii chysgais fawr"y noswaith hono, ond dis- gwylyn bryderus amddyfodiad y wawr; a. phan ddaeth, ymddangosai y ddinas eur- aidd yr ochr draw i'r dwfr, yn deg a siriol.. Yr oeddym yn gadael yr hen babell yrochr yna i'r Bay, gan "gymeryd agerfad i groesfi drosodd, ac un ardderchog ydoedd hefyd. Dyma lie mae hurry mawr gyda'r luggage-. pawb yn ch^ilio'am eu pac, ac yn stwffio- am y cyntaf; oblegyd cul ydyw y porthi sydd yn arwain i'r ddinas gyfaneddol. Er gwaetliaf pob rhwystr ac anfantais, cefaia- fy hun yn ddiogel a'm traed ar y lan tua wyth o'r gloch boreu ddydd Mawrth, y 27ain o Hydref, ar ol bod ar y ffordd am urr niwrnod ar ddeg. A bwyteais fy moreu- fv yd yn nliy Cymro caredig y Welsh Harp, (DIWEDD.)
I RUDDFAN GWNAED DUN.
I RUDDFAN GWNAED DUN. [.Efelychiad o Burns.] GAN GWENTYDD FARDD, WILKES-BARRE. Tra rhyndod ganu'n wywllyd wnai Y goedwig werdd a'r ddol Hyd lanau gofer crwydrais ryw Brydnawn yn mlaen ac ol; Canfyddais henwr byr ei gam Dan bwys gofalon byd, Jthycliiedig oedd ei rudd gan oed Dan frithlwyd hirwallt, clyd. Wr ieuanc, clyw, pa le yr ai?" Gofynai'r doethwr im', "Ai chwant am olud lywia'th.rawd Neu bleser chwerwa'n chwim? Ai pryder ealon, gofid bron Neu rywbetli wnaethost ti, Wr ieuane ddaeth a thi'r ffordd hon I ruddfan gyda mi? Yr haul uwchlaw y weithfa draw Wasgara'i wawl yn rhydd, Lie meibion llafur weitliiant i Ryw arglwydd balch bob dydd; Dychwelai'r haul gauafol hwn Ddau ddeugain mlynedd flin, Bob tro y try yn groew dwed I ruddfau gwnaethpwyd dyn." Ha! fab, tra yn moreuddydd oes Dy ddyddiau cyfrif di, Os cam ddefnyddi'th oriau, clyw, Dy degwch ieuanc ffy; Cynlluniau ffol 'ynt fagl i'th draed, Hyfforddant chwantus cliwyn, I orenynu'tli natur wan- I ruddfan gwnaethpwyd dyn." Nac edrych ar hoenuslanc tlws, Nac ar henafddyn 'chwaith, Mae'r naill i'r llall yn gysur cryf Tra'n uniawn byddo'u gwaith; Ar derfyn einioes bydd y ddau Dan bwn helbulon blin, A'r ddau gydunant yn eu hiaith- I ruddfau gwnaethpwyd dyn." Ar rai dyfera ffafrau byd, Fel byd o fwyniant liawn, Ond o'r rhai hyny a'u mwynhant Ami un trallodus gawn; Ond mae plant llafur yn mhob gwlad Yn oresynol flin, Och'neidio wnant o glwyfus fron I ruddfan gwnaethpwyd dyn." Ac ami flinderau sydd i'w rhan Ac hawddfyd ymaith dry, Ac euog ydym ninau oil 0 dyner cwmwl du; A dyn a'i olwg tua'r nef Profesa foes a rhin,. A wna'n annynol a'i gydryw- I ruddfan gwnaethpwyd dyn." Gwel dan ei draed y gweithiwr tlawd Yn nod annuwiol nwyd, Yn crefu ar ei gyd-ddyn brau Am gyfle i enill bwyd; A hwnw'n gyd-abwydyn gwan Yn gwrthod hyn i un, Er cadw 'i deulu trwm yn fyw- I ruddfan gwnaethpwyd dyn." Os bod yn gaeth yw'm tynged brudd Trwy ryw naturiol ddeddf, Paham rhoed ynwyf feddwl chwim Os, amgen, pa'm wyf wTthddrych llid A gorthrwm creulon un? Paham rhoed hawl i dreisiwr ddweyd I ruddfan gwnaethpwyd dyn." Ond eto, na foed it' fy mab Ymgolli'n wanllyd ffol, Hanerog dremyn ydyw hyn Mae'n llawn olygfa'n ol; Y tlawd a'r gorthrymedig wr Ni chawsai fyd mor flin, Pe na chae fyth ddywedyd nad I ruddfan gwnaethpwyd dyn. O! angeu, cyfailldynyn tlawd Dymunol iawn yw'th wedd, Hawddamor ddydd ca roddi'i bwys I orphwys yn dy hedd; Dychryna beilchion rhag dy drem Eu cyfoeth 'nawr a ffy, Tra'r gweithiwr tlawd yn ymfwynhau Yn gan ei ruddfan dry.