Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

ADGOFION BYRION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADGOFION BYRION. GAN CELYDDON. Y PARCH. H. POWELL, NEW YORK. PATERSON, N. J.-Diweddais fy ysgrif gyntafgyda'r bwriad o fyned a'r darllen- ydd i wrando y Parch. H. Powell yn pregethu yn Bethania ac Aberdar, ar y nos Sabboth diweddaf y bum yn. Nghymru. Nis gwn pa fodd i nesu at borth y capel i feddwl desgrifio y gynulleidfa. Tebyg, hefyd, pe darluniwn y gynulleidfa, y byddai i lawer dieithr gredu fod y lliwiau yn rhy ddysglaer a thanbaid; eithr, yn wir, y mae g')goniant yn perthyn i gynulleidfa Betliania na pherthyn i un eglwys arall yn y Deheudir. Cydnabyddir drwy y Dywys- ogaeth fod mwy o wybodaeth duwinyddol, athronyddol a cherddorol yn nghynull- eidfa Bethania nag yn unrhyw gynulleidfa arall. Yr wyf yn teimlo yn yswil i ys- grifenu y gwirionedd, gan y cyfarfyddir a chynifer o frawddegau gwyntog am berson- au a chynulleidfaoedd. Pa bryd y daw cenedl y Cymry i ddeall y gwahaniaeth rhwng swn a sylwedd, synwyr a baldordd; ac os caniata y darllenydd i mi ychwanegu —rhwng bombastiaeth a barddoniaeth ? Cas beth gan fy enaid ydyw gwynt a baldordd, ac y mae yn ofidus genyf weled cynifer o fan-Ienorion yn gwledda mor flasus ar y fath gysgodion. Ond dyna, gadawaf lonydd i'r cyfryw ewyllysiant ymborthi ar gibau, a throcdio y llwybr gochwyd gan filoedd i wneyd liyny; ac mi af i Bethania, mewn adgof, i wrando yr Efengylaidd Powell. Y mae y capel yn orlawn-pob gwyneb yn pelydru gan sirioldeb-Powell yn dyfod i mewn yn mraich yr Englynydd digymar, Mr. William Morgan (William Fardd.) Cymerodd ei eisteddle dan y pwlput, a lluddiedig oeddyr agwedd arno, gan ei fod wedi pregethu ddwy waith y dydd hwnw. Yn fuan, amneidiodd arnaf i esgyn i ddech- reu yr oedfa. Teimlwn yn anfoddlon, canys yr oedd fy mynwes yn derfysglyd- y Sabboth olaf yn Bethania. Gwasgodd Mr. Powell arnaf i wneyd, ac 0! dyfaled y darllenydd fy :nheimladau-y fynwes mor ystormus a'rWerydd pan yra y tymestloedd dros ei donau! Edrych, ysywaeth, am y tro olaf i wynebau y dorf—torf a anwylai fy enaid-fy enaid wedi ymbletliu am lawer o lionynt! Cyn i mi gael amser i benodi cmyy, wele Powell yn esgyn y grisiau, ac yn sibrwd wrthyf am roddi allan yr emyn dwys hwnw, a gyfansoddodd yr anfarwol leuan Glan Geirionydd: "Ar lan Iorddone.n ddofn 'Rwy'n oedi'n nychlyd," &c. Anturiaf ysgrifenu ei bod yn werth myned oddiyma i Gymry, pe ond i wrando cynulleidfa-'Bethania yn per-ganu yr emyn rhag-grybwylledig. Pan oedd y gerddor- Iry iaeth anorchfygol a nefol yn ymaflyd gyda nerth mawr yn y penill olaf, sylwais ar wynebpryd y pregethwr yn ymloewi, a darllenwn orfoledd ei ysbryd yn eglur yn mhelydriad byw eilygaid; acynfuan, wele y dagrau gloewon mawrion—dagrau gorfol- edd y Cristion—dagrau na wyr yr anianol am dauynt, yn treiglo i lawr dros ei rudd- iau, a throdd ei ddau lygad gwlithog ataf, a sisialodd—"Beth fydd canu y nefoedd, fy machgen i, gan fod hwn cystal?" Darllen- odd ei destyn yn syml a dirodres; eithr ryw sut, ffrydiai y difrifol i'r oil a wnaethai.— Yr oedd y difrifol yn ei ystum, ei wedd, ei edrychiad, ei lais, ac hyd yn oed yn ei wen. Dim ymdreeh-dim celfyddyd dim ond natur wedi ei plirydfertliu-ei haddasu a'i bedyddio a gras. Ni welais neb erioed yn llanw y gair cynwysfawr ac eangfawr, efengylydd, yn gyflawnncli na'r Parch. H. Powell. Efengylai o ddechreu y bregeth i'w diwedcl; ac fel yr elai rhagddo, elai yn fwy-fwy gwresog, ac yn fwy-fwy brwd, ac yn mhen ychydig bwrlymai y dagrau i lygaid Mr. Lewis Griffiths, William Fardd, &c., a dyna brawf digonol i'r sylwgar fod ysbryd cynes y pregethwr yn cyffwrdd ag ysbryd y gynulleidfa. Nid wyf yn cofio neb yn dylanwadu yn fwy naturiol ar y gynulleidfa-taniai y dorf a than sanctaidd ei enaid duwiolfrydig ei hun. Yr oedd yn gymeriad rare. Mi a wn fod eigoffawdwr- iaeth heddyw yn wyrdd yn Bethania; ac yn wir, drwy y Dywysogaeth; eithrymaehyd yn oed Efengylydd o nodwedd yr ymadaw- edig yn gadael argraff dyfnach ar ambell i gynulleidfa rhagor i gynulleidfa arall.— Bum yn ei gymdeithas di-idiati wedi iddo ddycliwelyd i'r cyfandir hwn, ac y mae ei gyngliorion yn werthfawrocacli genyf heddyw na'r gemau. Tybiwn y pryd hyny ei fod ar newid dau fyd, canys yr oedd naws "ardal lonydd yr aur-delynau" yn ei siarad. Yr oedd myucdiad cyntaf Powell allan Mor deg, mor weddaidd ag yw'r wawr ei hunan; Ond gormod gorchwyl ydyw ei ddesgrifio Yn ei ddysgleirdeb dwyfol yn machludo, Gan adael cwmwl o ogoniant golau I glaer-oreuro holl fynyddoedd angau! Gwel ambell un Ragluniaeth ddoeth y nefoedd Yn amlwg iawn yn amgylchiadau'r miloedd, Pan rodia ef ar lwybrau ei dynghedfen Yn rhwydd, fel nofia'r awel drwy'r ifurfafen; Ond mor wahanol yn ei ffydd a'i gredo Pan fyddo gordd Rliagluniacth arno'n curo! Nid felly Powell; na, tra ffyddiog ydoedd Yn mhob amgylchiad yn nhrefnladan'r nefoedd A gwelai law ei Dduw yn llawn mor eglur Yn nghylch ei deulu ag yn heuliau natur; Ac fel gadawai ef yr anial hirfaith Yn mhell o'i ol, o'i flaen yuiloewai 'i obaith! o holl ddysg awdwyr a chynghorwyr bywyd, Ac er mor gywrain en dysgeidiaetli hefyd, Y tri ant gyntaf i deimladau'r galon Y'nt Anian fwyn, y Gair, a Phrofiad Cristion. A Powell roddai ei brofiadol gynghor, ]"ai fel goleudy clir ar graig y cefnfor, A hwylier mwyach heibio'r creigiau enbyd Yn ei oleuni, draw yn lion i'r bywyd! .0

CHRISTMAS EVANS,

GWIR GREFY DD ER HYNY.

Advertising

Y SAITH GYSGADUR.

[No title]