Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
ADGOPION BOBEUOL AM CALIFORNIA.
ADGOPION BOBEUOL AM CALI- FORNIA. Dichon nad annerbyniol genych chwi a'ch lluosog ddarllenwyr, fyddai ychydig eiriau o barth darganfyddiad aur yn Cali- fornia-pa le, pa bryd, a chan bwy. Y llanercli lie y darganfyddwyd yr aur gyn- taf ynddo, ydoedd y fforch ddeheuol o'r American River, yr hwn a elwir yn bres- enol yn Coloma. Cymerodd hyn le ar y 19eg o lonawr, 1848, yn y dull a ganlyn:— Anfonodd Gen. John A. Sutter bersonau o'r enwau, James W. Marshall, E. Pierson, John Wimmer, W. H. Scott, A. Stephens, H. Bigler, J. Brown, Peter Wimmer, a C. Bennett, i osod melin lifio i fyny. Fel yr oedd James W. Marshall yn tori ffos i gario dwfr canfyddodd ddarn o aur, yr hyn a greodd gyffro mawr yn eu mysg. Ymledodd'yr hanes yn fuan dros y byd gwareiddiedig, a chyrchodd nifer mawr o bobl yno y ilwyddyn ganlynol, gan feddwl gwneyd eu pile yn yr El Dorado newydd; oddiwrth yr liyn y cafodd y County ei enw. Nid oedd yn Coloma ar y pryd ond dau log- cabin, a deunaw o bersonau, a'r rhan fwyaf o honynt yn Indiaid; ond buan y daeth yn dref yn cynwys o dair i bedair mil o drig- olion. Yindeitltydd.
DEDFRYDAU LLYS Y PAB YN EU…
DEDFRYDAU LLYS Y PAB YN EU HEFFAITH AR DETBNGAliWCH GWLADOL, GAN Y GWIR ANRH. W. E. GLADSTONE, A. s. PENOD VII. Y TKVDVDI) GOSODIAD. SEF nas gall neb ddyfod yn Babydd heb ymwrthod a'i ryddid moesol a meddyliol, a dodi ei deyrngar- wch a'i ddyledswydd wladol at ewyllys un arall. Ond ni a edrychwn weithian, od oes y bwlch lleiaf wedi ei adael yn y cyfeiriad yma heb ei gau, bod y gwagle i gael ei wneyd i fyny gan ddirpariad tirall o ei(ldor Dcdfrydau, Tra y mae ymestyniad An- ffaeledigrwydd mor llydan agyr ewyllysio'r Pab, neu y rhai a gymliellant y Pab, i'w wneuthur, eto y mae l'hywbeth lletach fytli, a hwnw ydyw yr iiawl i Ufudd-dod cyfiawn a hollol. Y mae'r Ufudd-dod yma i'w roddi i'w orchymynion ef yn yr achosion yr af rhagof i'w nodi, heb unrhyw amod cyfaddasol, megys ex cathedra. Y mae'r enw swnfawr o Anffaeledigrwydd wedi swyno cymaint ai- feddivl y werin, ac wedi ei lioelio mor dyn wrth y Bedwaredd Benod o Gyfansoddiad yr Eglwys, fel y mae ei chymydoges agos, y Drydedd Benod, wedi derbyn, yn ol fy marn i o leiaf, lawer llai na chyfiawnder. Darllener a ganlyn: "Y mae bugeiliaid a ffyddloniaid pob defod ae urddas o bob math, pob un wrtho ei hun, cystal a pliawb yn gynulledig, yn rhwym wrth y ddyledswydd 0 Iwyr ymostyngiad i lywodraeth yr eglwys a gwir uftidd-dod, nid yn unig mewn pethau a berthynant i ffydd a moesau, ond hefyd mewn pethau a berthyn- ant i ddysgyblaetli a threfn gywir yr eglwys sydd ar wasgar trwy'r 11011 fyd.Dyna athrawiaeth y gwir- ionedd Catholig, oddiwrtli yr hwn nis gall neb ysgoi gyda dio^elwch i'w ffydd a'i iachawdwriaetli Yr ydym yn dysgu ac yn datgan mai efe yw gor- uchaf farnwr y ffyddloniaid, ac yn mhob aclios a berthyn i lywodraeth eglwysig, at ei farn ef yn unig y gellir apelio; a chan nad oes un awdurdod uwch na barn yr Eisteddfa Apostolaidd, ni wiw i neb gynyg ei diddymu. Ac ni oddefir i neb ffurflo barn am ei farn ef mewn un modd." Gan hyny, y mae dedfrydau'r Pab hyd yn nod pan na chytiwyner awdurdodau yr anffaeledigrwydd, yn anapeliadwy ac yn anileadwy: ni faidd neb ddodi barn arnynt; ac y mae pob dyn, clerigol a lleygol, ar wahan neu yn ymgynulledig, yn wir rwym y i ufuddliau iddynt; ac ni faidd un dyn ys- goi rheol y gwirionedd Catliolig yma, ond dan berygl ei iacliawdwriaeth. Yn sicr ddiau, y mae'n oddefol dweyd bod y Dryd- edd Benod hon ar ufudd-dod cyff1;edinol yn ymgystadlydd brawychus a'r Bedwar- edd Benod ar Anffaeledigrwydd. Yn wir, ymddengys i sylwedydd oddiallan iddi ad- ael yr urddas i'r llall, ond iddi gadw'r caetli- der a'r effeithiolrwydd iddi ei hun. Y Bedwaredd Benod yw'r Penad-ur Merofing- iaidd (Meroningian Monarch); y drydedd yw Maer Carolingiaidd (Carolingian Mayor) y Palas. Y mae gan y bedwaredd ysplan- der dychrynadwy; gan y drydedd grafanc haiarn. Ychydig o bwys. i mi ydyw a hona fy uwchafiad anffaeledigrwydd ai peidio, cyn belled ag y bo ganddo hawl i ofyn a mynu cydymffurfiad. Sylwir ei fod yn erchi hyn, hyd yn nod mewn achosion nas cysgodir hwy gan ei anffaeledigrwydd; ach- osion, gan hyny, yn y rhai y dichon iddo fod yn gyfeiliornus, ond y cenfydd bod yn anoddefadwy dweyd felly. Gan y rhaid ufuddhau iddo yn ei holl ddedfrydau er na byddont ex cathedra, ymddengys mai gresyn ydyw nas gallai roddi'r dilysrwydd cysurus, eu bod yn sicr o fod yn gywir. Ond pa achos am yr ad-ddyblygiad ym- ddangosiadol hwn, yr arddigonedd amlwg yma? Paham na buasai dyfeiswyr cyfrwys y cynllun dyryslyd nwn yn penderfynu nas gallent fforddio gorpliwys yn dawel gyda thyngedu'r Cyngor i Anffaeledig- rwydd mewn ymadroddion sydd nid yn unig yn eang i raddau helaeth, ond hefyd yn ystwyth tu hwnt i bob mesur? Ery rhaid y gwyddent yn berffaith dda fod "ffydd a moesau" yn cynwys pob peth, neu bob peth gwerth ei gael, yn y cylch gwir unigol, gwyddent hefyd yn llawn cys- tal, hyd nod lie y byddai dyn yn ddarostyng- edig, y gallai ac y byddai a fynont fath a'r Llywodraeth. Y mae'r gwahaniaeth yma mewn hanes canoloesol, nid yn unig yn eglur, ond yn ddisglaer. O'r tu allan i derfynau ambell sect gul a choudemnedig, nid ydym byth, neu braidd byth, yn clywed am wrihwynebiad neillduol a phersonol i'r Pab. Gan" Brotestaniaeth" ddewr yr amseroedd canoloesol yr oedd ei gweith- garwch bron yn hollol yn ngliylch liawliau cyhoeddus, cenedlaethol, a gwladol. Nis gellir dodi gormod o sylw, yn ol fy inarn i, ar y pwnc yma. Hwn ydyw gwir wreidd- yn a chnewyllyn y mater. Ni foddlona gwaseidd-dra personol, pa mor ddistadl bynag, mo'r blaid lywoclraethol sydd weith- ian yn yr Eglwys Ladinaidd: rhaid i'r Llywodraeth hefyd fod yn gaethes. Cydnabu ein Hiachawdwr fod y ddwy ar wahan: nid awgrymodd mewn un man fod yr awdurdod ysbrydol i hawlio trefniad grym anianyddol, ac i reoli yn ei llywod- raeth ei hun yr awdurdod sydd gyfrifol yn unig am heddwch, trefn, adiogelwch allan- ol yn mlilith cyfundebau gwareiddiol o ddynion. Ond arbenigrwydd, balchder, ac anffawd Eglwys Rliufain, yn mhlith cyfundebau Cristionogol, ydyw ei bod wedi goddef arferiad diderfyn iddi ei hun, cyn belled ag yr elai ei gallu, o offerynau daearol at ddybenion ysbrydol. Gwelsom a pha fath ddilysrwydd helaeth* y porth- wyd y genedl hon a'r Senedd yn 1825; pa mor wych a diymatal y cydnabyddwyd hawliau cyfiawn a diranedig yr awdurdod wladol, a gwahaniad y ddwy lywodraeth. Y mae hyn oil o'r diwedd wedi ei ddad- wneutliur, cyn belled ag y gallai'r Pab ei ddad-wneuthur, yn y Crynhodeb a'r Cylch- lythyr. Gadawyd y dadwneuthuriad i'w gwblhau, trwy iswasanaeth neu ystwyth- der y Cyngor. Ac y mae'r gwaith yn awr yu wir gyflawn. Rliag y dywcdid nad yw uwcliafiaeth mewn ffydd a moesau, cwbl lywodraeth dros gred ac ymddygiad person- ol, yn gorchuddio gweithred gynulledig dynion mewn Teyrnasoedd, agorwyd tryd- edd talaetli, nid i'r haeriad dyrys o AnlYael- edigrwydd y mae'n wir, ond i'r arcliiad sydd lawer mwy ymarferol a phenderfynol o Ufudd-dod diainodol. A dyma waith priodol y Drydedd Benod, a'r hon o'r di- wedd yr ymdrechaf wneuthur cyfiawnder. Gwrandawn eto ar rai o'i geiriau ar y pwnc, y sawl, er nad ydynt ond ychydig nifer, sy'n dra arwyddocaol: Nid yn unig mewn pethau a berthynant i ffydd a moesau, ond hefyd mewn pethau a berthynant i ddysgyblaeth a threfn gywir yr Eglwys sydd ar was- gar trwy'r holl fyd." Mynegir yn hf fod ufudd-dod diamodol yn ddyledus i'r Pab, dan boen iachawdwr- iaeth, nid yn unig mewn ffydd, mewn Gwel yn mhellach, Attodiad B. moesau, ond yn mhob peth a berthyn i ddysgyblaeth a llywodraeth yr Eglwys. Fel hyn ysgubir yr holl luoedd gwirionedd- au i rwyd y Pab, holl gynlluniau llywod- raeth, sy'n ffynu, er mewn gwahanol radd- au, yn mhob gwlad dan haul. Hyd yn nod yn y Talaethau Unedig, lie y tybir bod y gwalianiaeth rhwng yr Eglwys a'r Llyw- odraeth yn gyflawn, gellid tynu cyfres hir o bynciau a berthyn i diriogaeth ac awdur- dod y Llywodraeth, ond sy'n effeithio'n ddiamheuol hefyd ar lywodraeth yr Eg- lwys; megis, er esiampl yn unig, priodas, claddu, addysg, dysgyblaeth carchar, cab- ledd, cymorth y tlawd, corplioraeth, tir eglwys, gwaddoliadau crefyddol, adduned- au gwyryfdod ac ufudd-dod. Y mae'r cylch yn llawer eangach yn Ewrop, y mae pynciau'r cydo-yffyrddiad a'r cymhlethiad bron yn aneirif. Ond ar bob materion, y rhai y gall unrliyw Bab dybied yn briodol iddo ddatgan eu bod yn perthyn i ffydd, i foesau, neu i lywodraeth neu ddysgyblaeth yr Eglwys, y mae'n honi, gyda chymerad- wyactli Cyngor a fyddo'n ddilys Gyffredin- 01 yn yr ystyr Rufeinig, cael ufudd-dod di- amodol pob aelod o'i gÿmundeb, dan boen gy iu chawdwriaeth. Nid ymddengys y barnwyd eio bod yn ddoeth rliwymo'r Cyngor mewn ymadrodd- ion wrth y Crynhodeb a'r Cylchlythyr. Y mae'n debyg y cedwir yr orchest hono erbyn rhyw un o'i eisteddiadau sydd eto i ddyfod. Yn y cyfamser y mae'n werth cotio bod yr honiad yma, o berthynas i bob peth a effeithia ar ddysgyblaeth neu lywod- raeth yr Eglwys, cystal ag ar ffydd ac ym- arweddiad, yn caelei gadw yn amlwg gan y Pab ac o fewn ei reolaeth ef, yr hwn sydd wedi condemnio ymadrodd rydd, ysgrifen rydd, argrapliwasg rydd, goddefiad i ang- lydffurflaeth, rhyddid cydwybod, myfyrio materion gwladol ac athronyddol yn annib- ynol ar awdurdod eglwysig, priodas oddi eithr iddi gael ei gweinyddu yn sacrament- ol, ac eglurhad gan y Llywodraeth.o hawl- iau gwladol (jura) yr Eglwys; yr hwn, gan hyny, sydd wedi gofyn yn awdurdodol ar i'r Eglwys gael y fraint o egluro ei hawliau gwladol ei hun, yn nghyd a hawl ddwyfol i ragorfreintiau gwladol, a hawl i ddefnydd- io grym anianyddol; a'r hwn hefyd sydd wedi balch-haeru na ddarfu i Babau'r Can- ol Oesoedd a'u cynghorau ormesu ar hawl- iau tywysogion: megis er esiampl, Gregory VII., ar yr Ymerawdwr Henry IV.; In- nocent III., ar Reymond o Toulouse; Paul III., yn diorseddu Henry VIII.; neu Pius V., yn cyflawni swydd dadol gyffelyb ar Elizabeth. Yr wyf fi, gan hyny, yn hpni bod fy mhedwerydd gosodiad yn gywir: a bod gan Frydain hawl i ofyn, ac i wybod, yn mha fodd y mae'r ufudd-dod a ofynir gan y Pab a Chyngor Llys y Pab i'w gysoni a gonestrwydd teyrngarwch gwladol;
[No title]
—Poblogaeth China yw 470,000,000, yn ol amcangyfrif diweddar. Yrwyf yn gweled y dyhiryn yn eich gwynebpryd!" meddai cyfreithiwr wrth dyst cyfrwys. 'id yw hyny ond adlew- yrclnad personol," meddai y'tyst. —Y mae rhywun wedi sylwi, yn rhywle, mai golygfa ryfedd iawn ydyw gweled meddyg yn bresenol yn nghladdedigaeth un o'i gleifion; y mae yn edrych yn gyffelyb i deiliwr yn myned a'i waith adref. -Desgrifiad "Alafon" o'r Daran: Y goleu llidiog trwy'r gwaele lly A dyr ei adwy a min o drydan; A dyry ofid bair drwy bedryfan Funyd o reddfol ofnadwy ruddfan!— Aros Awenydd, cofydd y cyfan— Oes dim ond twrw i'r glust mewn Taran? Athronydd, gyfieithiwr Anian—pybyr— Duw ai'r awyr sy'n siarad yrwan ? -Cyfi,ifir fod Ardalydd Bute yn colli $15,000 o arian toll yn wythnosol, mewn canlyniad i'r "cloi allan" yn Nelieudir Cymru. —Cana "Hehdref" i'r Gorgreiniog (Bull- frog) Hagr ei lun, gwrol ei wedd-garw ei groen Yw'r gorgreiniog rliyfedd; Ac un heb lys nac anedd, Heb ran na swyn bri na sedd. Mor ddidrefn o'rmerydd draw—mae'r oer Mor uchel yn grilliaw; [wawch A dewr agwedd cas drigaw, Ar gwr llif neu dir gerllaw. —Mae y Frenines Victoria, meddir, yn bwyta uwd i'w boreufwyd bob dydd. —Cymerodd 64 0 liunanladdiadau le yn Paris yn Ion awr a Chwefror. —Maent wedi dechreu cynauafa gwair yn nghymydogaeth Sacramento, California. -Cyfrifir fod perllanau y wlad hon yn gorcliuddio 500,000 o erwau o ,dir, ac yn cynwys 20,000,000 o goed. —Y mae llawer o Gymry yn yr oes hon yn dwyn eu plant i fyny heb iddynt gym- aint a dysgu darllen eu hiaith; a chan fod y DRYCH yn cyraedd pob sefydliad Cymreig, bydd yn fantais iddynt gael dysgu yr iaith Gymraeg yn drwyadl. A chymered yr holl Gymry y cyngor canlynol:- Yn awr o Gymry gwlad y gan, Wel n-iynweli DDRYCH o fawr i fan, I ddysgu 'ch plant i fod yn wych, Trwy ddysgu iddynt iaith y DRYCH; Mae'r DRYCH yn awr yn frenin pen Ar holl bapyrau Cymru Wen,— Am bob rhyw newydd yn y byd' Maent yn y DRYCH i'w cael o hyd. —Sigabwgi. —Dywedir mai yn Wezikon yn Switzer- land y darganfyddwyd y profion hynaf o fodolaeth dyn ydynt yn wybyddns yn bresenol. Cynwysant mewn nifer o bawl- iau wedi eu gyru i'r ddaear ac wedi eu gor- fchuddio a rhwyd-waith o wiail. Dargan yddwyd hwy mewn gwely o lo lecli-faen perthynol i'r amser rhwng y ddau gyfnod rhewllyd. —Englyn i'r "Goleudy": Goleudy uwch creig-waelodion—erchyll Lewyrcha bob noson; I'r morwr ar ddeifr mawrion, Wylio'i dy ar ael y don. Llonglanc. -Cyfrifir fod 1,500 o base ball clubs rheol- aidd wedi eu sefydlu yn y wlad hon, yn rhifo dros 25,000 o aelodau. —Dywedir fod y ddyled wladol y byd yn cyraedd i'r swin aruthrol o $20,000,000,000. CARLO, SALLY, A,R PRYDYDD. Allan o Tien gronicl, cyflwynedig gan John J. Jones, Picalonica, Wis. Ar ryw foreu Carlo ydoedd Wedi cysgu ar yfron, Gwaeddai Sally-Carlo, Carlo, Gad i'm gael dy gwmni lion; Neidiai Carlo, dawnsiai Sally, Fel yr ewig ar ei spri, 0 na chawswn inau'm cymell I fyn'd felly gyda hi. Rhodio'r ydoedd Carlo a Sally Hyd y llwybrau tua'r bryn, Teimlwn fod yn rhaid i Carlo Fod yn ddedwydd y pryd hyn; Gwarcliod ni, o'r blys oedd arnaf Am gael cwmni Sally fach, Cael lion chwareti fel 'roedd Carlo, Wnaethai'm calon drom yn iach Wedi dringo, gwelwn Sally 'N eistedd ar y velvet glas, Gwaeddai-Carlo, tyred yma, Rho dy bawen, yr hen was; Gwthiai Sally, fysedd meinion Drwy ei fwng, a'i gribog wallt, Am na chawswn inau'r pleser, Fy nheimladau oe'nt yn hallt. Dacw Sally'n gwasgu Carlo, Am ei wddf ei dwylaw oedd, Am na buaswn yn lie Carlo, Parod oeddwn i roi bloedd; Gormod i ddynoliaeth oddef, Ydoedd hyn debygwn i- Carlo'n cael ei fwyn gofleido, Minau'n unig oer fy nghri. Gwelwn Sally'n slicio Carlo, Gan roi cusan ar ei drwyn, Methais inau'r adeg hono 'Nlan a dal awenau'r ffrwyn- Rhedais, teflais Carlo Am gryn ddeg llath ar i draw, Sally anwyl, moes i minau, 'Nawr dy gusan, a dy law. I'R HEN LANC 0 CAMBRIA.—Mi welaf braidd bob wythnos, ar wyneb glan yDRYCH .ryw 'smotyn du ofnadwy, gwaith rhyw hen lencynsycli; mae rhywbeth digon rhyf- edd yn ngwaith y gwalch disercli, ond gwell yw iddo beidio'archolli teimlad mereli. Pe unwaith y gwybyddai, y merched ier. ainc lion, pwy yw yr hen lanc sychlyd, cai deimlo llawer ffon; ei deitl sy'n egliiro, mai gwrthodedig yw; ac nas gall gael 'run lod- es yn briod yn ei fyw. Ac yna nid oes ganddo ond trin a hel o hyd, a gweled bei- au'r merched, yn holl ffasiynau'r byd- rhaid iddo edrych ati, i'r ddalfa daw ryw ddydd, ac yna fe gaiff weled, pa fath gan- lyniad fydd. Fe ddylent dynu am dano, yn araf gyda threfn, a chwilio am ddarn o ledr, a'i osod ar ei gefn; rhoi cot o tar 'roi hyny, i guddio'i wydn groen, a'i roi mewn plu i orwedd, yn dawel heb ddim poen.— Llanc ifanc 0 Columbus.
Advertising
—A gyfansoddwyd i'r "Cysgwr mewn addoliad," gan "Corwgfab," Plains, Pa: Gwawdiwr lor, cysgadar o hyd-yw ef Dan y dwyfol ysbryd; Diofal ydyw hefyd, 0 reol fawr yr ail fyd.
LLOFFYN IFORAIDD.
LLOFFYN IFORAIDD. DYDD GWYL DEWI diweddaf ydoedd ddydd nodedig, ac o gryn rwysg gan feib Ifor Hael, drwy wahanol barthau o'r wlad. Dyma y dydd yr oedd gwahanol adran- oedd yr Undebiaeth" yn cynal eu cyfar- fodydd haner blwyddol a blynyddol, er trin achosion teilwng eu gwahanol Ddos- barthiadau. Er na chyhoeddwyd hanes y cyfarfodydd hyn, oddieithr un yn eich newyddiadur, eto i gyd, cafwyd cyfarfod- ydd ardderchog o luosog a bywiog. Yn ol fel y'm hysbyswyd, cafwyd cynrychiol- aeth reolaidd a chyffredinol oddiwrtli yr holl Gyfrinfaoedd, a gwnaed llawer iawn o weithredoedd gwelliantol a chanmoladwy er lies a budd deiliaid lluosog yr Urdd. Ni clianiata gofod i mi yn bresenol wneyd adroddiad o'r holl weithrediadau, ac nid yw yn ddiogel chwaith i wneyd hyny. Yr 011 a ddymunwn wneyd yn bresenol ydyw hysbysu enwau rhai o brif swyddogion yr Adranau am y fiwyddyn hon, gyda y rhai y mae hawl i ymyraeth a gweini ar agor- iadau Cyfrinfau newyddion, &c. ADRAN A.-Cyfarfyddodd cenadon Ad- ran A a'u' gilydd yn neuadd Iforaidd "Blodeuyn Cariad" Minersville, Dydd Gwyl Dewi. Uwch-lywydd am y tymor dyfodol ydyw Samuel Jones, C. L. Sliamo- kin; Ysgrifenydd, Thomas Lewis, C. L. Shamokin; Rhaglaw, Lewis Evans, C. L. St. Clair, Pa. ADRAN B. Etholwyd y Swyddogion canlynol yn Upper Lehigh, Pa.: Uwch- lywydd, G. R. Jones, C. L., Upper Lehigh; Rhaglaw, Gwilym Jeffreys, C. L., Summit Hill; Ysgrifenydd, Owen G. Owens, C. L., Slatington, Pa. ADRAN C.—Cyfarfu Adran C yn gryno, ar Ddydd Gwyl Dewi, ac etholwyd y per- sonau canlynol yn brif Swyddwyr: Uwch- lywydd, James Herring, C. L., Cyfrinfa "Rliysap Tewdwr," Plains Pa.; Rhaglaw Adranol, Dl. R. Davies, C. L., Kingston; Ysg. Adranol, A. D., H. G. Williams, (Gieddwyson,) C.L., Plymouth. Disgwylir y bydd yr Adran hon yn rhifo wyth o Gyf-' rinfau erbyn canol y mis nesaf. ADRAN D.—Saif Thomas D. Davies, C. L., A. D., yn ei swydd lywyddol am y tymor dyfodol; felly hefyd D. O. Lewis, Y. C., A. D., Hyde Park, yn ei swydd ysgrifenyddol. ADRAN E.—A gyfarfuasant yn neuadd Iforaidd Pittsburgh ar yr un adeg. Ethol- wyd Francis Rhys, C. L., Frostburg, Md., yn U. L.; Richard Zechariah, C. L. Johns- town, Pa., yn Rhaglaw, a H. J. Thomas, C. L., Ynad Heddwch, Pittsburgh, yn Ysg. Adranol. Y mae amryw sefydliadau o fewn cylch yr adran hon, y byddai yn ddy- wenydd genyf glywed fod Iforiaeth wedi cymeryd meddiant o honynt; megis Bra- dy's Bend, Irwin Station, Birmingham ac Ebensburgh. ADRAN G-Cyfarfu y cenadon yn Sharon Ddydd Gwyl Dewi. Cyfarfod cyhoeddus y nos flaenorol, Seindorf Brookfield yn chwareu, a'r gwahanol genadon yn areithio. Cafwyd cwrdd campus. Y cyfarfodydd y dydd canlynol yn gyfyngedig i swyddog- ion a chenadau. Etholwyd Wm. Griffiths, C. L., Brookfield, yn U. L. A., am y tymor dyfodol; J. D. Jones, C. L. E., Newburg, yn Rhaglaw, a D. J. Hughes, C. L., Hub- bard, Ohio, yn Ysg. Adranol (A. D.). Bydd cyfarfod blynyddol y BWHDD LLYW- ODRAETHOL i'w gynal y mis nesaf yn Sum- mit Hill, Pa., pan y bydd holl weithred- iadau y gwahanol Adranau hyn yn cael eu dwyn gerbron. Y mae yr Urdd haelionus hon yn dal ei thir, ac yn gweithio ei ffordd yn gysurus iawn, er caleted yr amseroedd presenol. Yr eiddoch, yn rhwymau yr Urdd a'm cenedl, MEURIG AMAN, Summit Hill. Ysg. y Bwrdd.
[No title]
—Un o'r nodweddion gwerthfawrocaf mewn cymeriad yw tymer dda. Nis gall. un cartref fod yn gysurus hebddo.
CRISTIONOGAETIR.
pethau fel yna? Wel, fe ddylai fod gan bob dyn reswm am y gobaith sydd ynddo. Credir gan holl wir broffeswyr Cristionog- aeth, fod y Llyfr yn yr hwn y mae rheolau y grefydd hon yn Llyfr Dwyfol, a phob brawddeg o'i fewn a sel dwyfoldeb arni. Mae yn wir fod y Jehofa anweledig wedi rhoddi dadguddiad o hono ei hun yn y greadigaeth fawrwych o'n hamgylch; ond y mae arwyddluniau y greadigaeth mor gwmpasog, a dyn wedi syrthio i by dew mor ddwfn a thywyll, fel mai ychydig all- asai ddarllen ar y llyfr yma gyda nemawr o fuddioldeb. A pheth arall, nid oedd cy- maint ag un frawddeg wedi ei hystrydebu ar golofnau y greadigaeth, yn egluro fod gan Dduw ddim i wneyd a thoseddwr ond ei ddamnio am bob tragwyddoldeb. Felly, cyn y gallasai dyn truenus gael un gip- drem ar y ffordd i ddedwyddwch, yr oedd yn anhebgorol iddo gael dadguddiad pell- ach o'r natur Ddwyfol nag y gallasai anian byth ddal dan ei bwysau. Yna, mewn ychydig yn ychwaneg na phedair mil o flynyddoedd, fe roddodd ddadguddiad cyf- lawn o hono ei hun, nid yn unig fel Duw cyfiawn, daionus a galluog, ond hefyd fel Duw trugarog, graslawn a maddeugar. Mae yn wir mai haeriad yw, fod yn bosibl i'r YDWYF mawr tragywydrlol ymddarostwng i drosglwyddo ei feddyliau tragywyddol mewn geiriau i'w greadnr, oblegid fod hyny uwchlaw amgyffred bod meidrol. Eto nis gallwn weled fod dim yn annheil- wng o Dduw yn y dybiaeth. Ac felly, os yw y fath ddadguddiad wedi ei roddi, mae yn rhaid mai Ysgrythyrau yr Hen Desta- ment a'r Newydd ydyw; os felly, rhaid i'r dadguddiad Dwyfol a garuwch-naturiol bwn fod yn berffaith gyson a cliydgordiol a'r dadguddiad creadigol. Pe na buasai felly, buasai hyny ar unwaith yn ddigonol reswm i'w daflu dros y bwrdd a'i wrthod am byth gyda dirmyg, ond cael allan fod natur ac yntau yn tystiolaethu yn groes y naill i'r Hall. Addefir gan bawb mai Duw yw awdur natur; addefir hefyd gan bawb, ond yr hwn sydd wedi cael rhyw gam wrth ei fagu, neu ryw room to be let o dan ei wallt, mai yr un Duw sydd wedi llefaru yr Ysgrythyrau ag a ddywedodd "Bydcled" wrth greu. Yr hyn a gredir am y Duw hwn yw, mai Duw gwirionedd ydyw, ac mai nid dyn yw Duw i ddywedyd celwydd. Nodwedd gwirionedd bob amser yw cyd- gordiad, a phob rhan o hono yn cyd-ddy- wedyd a'r cyfanswm, ac nid all y gwaith o'i chwilio gan ei elynion ddim ond ei wneyd yn fwy dysglaer a gogoneddus. Hefyd, y mae credu yn Nwyfoldeb yr Ysgrythyrau yn hanfodol i bob un a bro- ffeso Gristionogaeth; heb hyny nis gall fod amgen na dynwaredwr ffuantus, a'i holl obeithion ddim amgen na hyder ar wO y pryf copyn. Y mae yn wirionedd diym- wad fod dyfnderoedd yn yr Ysgrythyrau na ddichon dyn nac angel byth eu plymio. Mae hyny yn deilwng o'r Duw a'u rhodd- odd; a bydd hyny hefyd yn sylfaen ded- wyddwch diddarfod i'w greaduriaid sanct- aidd yn y gwynfyd pur. Mae dymuniad am newydd-deb yn ddeddf blanedig yn nghalon pob creadur moesol, liyd ag y gwyddom ni; ond y mae dyfnderoedd di- hysbydd yn meusydd yr Ysgrythyrau, fel na bydd oesoedd tragwyddoldeb yn ormod i chwilio i'w dyfnderoedd. Ar ol i oesoedd rifedi'r tywod man gael eu dirwyn i fyny ni bydd y gan y pryd hyny ond dechreu. Rhyw newydd wyrth o'i angeu d'rud a ddaw o hyd i'r goleu. Hefyd y mae eglur- der y gwirioneddau hyn y fath fel y gall y gwanaf ei amgyffred eu deall. Pe byddent ynfydion ni chyfeiliornant." Yn awr, oddiar ba resymau neu awgrym- iadau yr ydym yn casglu mai Duw ydyw Awdwr yr Ysgrythyrau, ac nad rhyw ddy- fais o eiddo dynion ydynt. Wei, y mae eu bod wedi eu llefaru gan wahanol bersonau, ar wahanol amserau, ac o dan anfanteision amgylcliiadau, a hyny yn yr yspaid maith o ddau cant ar bymtheg o flynyddoedd- rhanau o honynt wedi cael eu llefaru a'u hysgrifenu gan bersonau fyddent yn symud o fan i fan mewn anialwch anghysbell; rhanau eraill an frenhinoedd oeddynt yn ysgwyd teyrnwiail; a rhanau -gan rai oedd- ynt gaethion mewn gwlad eilunaddolgar; rhanau gan dywysogion mewn llysoedd paganaidd; rhanau gan ddoethion o'r radd uwchaf; rhanau eraill gan fugeiliaid ar y mynyddoedd; rhanau eraill gan rai wedi eu neillduo o'r groth at hyny; a rhanau eraill gan hen ddewin twyllodrus-eto yr oil yn anymwybyddus y naill o'r llall. Er fod neillduolion nodweddiadol yr ysgrifenwyr idd eu gweled yn eu hysgrifeniadau mor amlwg a'r haul ganol-ddydd, eto y mae y fath unoliaeth barn ac ysbryd ynddynt oil, fel ag y mae pob brawddeg yn ymdoddi i'w gilydd fel y dafnau yn y m6r, a'r cyfan yn cadarnhau mai yr un yw yr Awdwr gwreiddiol, ac mai yr un yw y dyben moesol mewn golwg ganddynt oil. Yn awr, tybiwyf nad oes dim yn eglur- ach nag mai y gyfundraeth Ddwyfol hon sydd i fod yn grefydd y byd cyfan, a hyny ar fyr amser. Y mae math o broffwydol- iaethau yn Vedas y Braminiaid, ac yn Zan- davesta y Persiaid, ac yn Alcoran yr Arab- iaid, ond ni chyflawnwyd yr un sill o hon- ynt erioed, ac ni chyflawnir yr un byth ond yn unig yn ddychymygol. Ond y mae prophwydoliaethau y Gyfrol Ddwyfol hon wedi eu tyngu trwy 1*, yr aiff y nef a'r ddaear heibio cyn y metha yr un iott a chael ei pherffaith gyflawni. Y mae y rhagfynegiadau am hen ddinas- oedd y Dwyrain wedi eu cyflawni i'r llyth- yren. Ac y mae y rhai am y gwledydd Gorllewinol yn derbyn cyflawniad newydd bob dydd. Nid oes dim yn amlycach na bod yr holl bethau a ragfynegodd loan yn Ynys Patmos, er's yn agos i ddwy fil o flynyddoedd yn ol, yn cael eu cyflawni yn llythyrenol gan bob symudiad yn y blyn- oedd hyn. Soniai fod y ddau dyst i bro- phwydo fil a dau cant a tlit-iugain o ddydd- iau mewn sach lian a lludw; ac awdurdod wedi ei roddi i'r Dwystfil i ysbeilio am ddau fis a deugain, a'r ddau gyfrif yn golygu yr un faint o amser, yr hwn oedd i derfynu yn y fiwyddyn 1866, pan gymerwyd y Ilyw- odraeth wladol yn llwyr o law y. Pab o Rufain. Os nad ydyw y ffaith yna ei hun yn ddigon i brofi mai yr Roilwybodol ei hun yw Awdwr y Beibl, i bob meddwl di- ragfarn, nid oes dim amlycach i'w ddis- gwyl nac angen am dano chwaith. Er mai y grefydd Gristiouogol ydyw y fwyaf tyner ei gosodiadau, yr ysgafnaf ei beichiau, a lluosocaf ei rhagorfreintiau ar wyneb yr holl ddaear, eto y mae y fwyaf annibynol o bob crefydd wed'i'r cwbl. Ni fyn, mewn un modd, fyned yn bartner gydag un grefydd arall ar wyneb y ddaear. Ni oddef ddefodau yr un grefydd arall o fewn ei chynteddau, Ni awgrymir yn ei Llyfr Rlieolau gymaint ag un frawddeg, sydd yn dangos mai arwydd o'r nef yw fod yr Undodiaid a'r Universaliaid wedi dod mor agos at yr Orthodox,' fel y gallant ym- uno a Christionogion yn eu cymundeb eg- lwysig. A thybiwyf na chyfrifai y fath gymysgedd annuwiol ond megis y flieidd- dra anghyfaneddol a ddywedwyd trwy Daniel y propiiwyd ei fod wedi ei osod yn y lie sanctaidd; na'r gweinidog a ymddi- grifai i lyfu y fath drutli, ddim amgen na hiliogaeth y gwiberod a nodwyd. Llais Cristionogaeth wrth gychwyn allan i'w hanturiaethau yw, "Y neb a wrandawo arnaf fi a gaiff aros yn ddiogel." "Nid oes iachawdwriaetli yn neb arall." Y mae Cristionogaeth yn gwaeddi allan wrth gychwyn, fel Alexander Fawr wrth gych- y wyn i gampaign, Os yw Alexander i gael ei goroni, y mae yn rhaid i bob coron arall fyned i'r tomenau." O'r blaen yr oedd mân frenhinoedd, a phawb a'i goron a phawb a'i hawliau, a phob pen coronog yn cydnabod hawliau y naill y llall, yn nghyd a'r terfynau oedd iddynt i arfer eu hawcl. urdod. Ond pan goronwyd Alexander, diddymwyd yr hawliau a drylliwyd yr holl gyngreiriau yn ddarnau man. Dyna fel y mae Cristionogaeth yn gwaeddi heddyw ar holl gau grefyddau'r byd, Na ddeued fy enaid i'w cyfrinach." Yr Arglwydd a a allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyifry eiddig- edd; efe a waedda, ïe, efe a rua ac a fydd trech na'i elynion." Y ffaith ryfeddaf y clywyd son am dani erioed, oedd y Ilwybr gerddodd tragywydd- ol ddoethineb ar hyd-ddo wrth osod syl- faeni Cristionogaeth i lawr yn adfeilion y codwm. Yr oedd yr anhawsderau mor an- oresgynadwy fel ag y buasai galluoedd y cerub uwchaf yn diffoddi am byth wrth edrych ar fanylion y cynllun. Ond fe gaf- wyd un allan o gyff Jesse, oedd yn fedd- ianol ar allu digonol i'w ddeall, ei cliyf- oeth digonol i'w gario yn mlaen, a ffydd- londeb digonol i osod ei wyneb fel callestr nes cael gorucbafiaeth ar y gelyn olaf, nes oedd uffern lawn o dan yn crynu ger ei fron. Yr oedd pethau dieithr, yn yr am- odau i'r gorchfygwr; yr oedd yn rhaid gor- wedd yn y preseb, bod heb le i roddi ei ben i lawr, sefyll o fiaen y barnwr anghyfiawn, coroni a drain, a marw mewn lie cyhoeddus heb un achos. Dywedir nad oes dim yn y byd hwn yn llanw dymuniad calon dyn mor berffaith a chael ei goroni; ac nad oes dim yn anfarwoli cymeriad yn fwy nag urddas, a defnyddiau, a gwerth y goron. Dywedir fod coron Victoria yn werth dros bedwar ugain mil o ddoleri. A bod coron y Mogul o Hindostan, yn ddigon o werth 1 brynu tiroedd yr Arddrych Orllewinol o begwn y Gogledd i begwn y De. Ond yn fuan, fuan, tynged holl goronau breiniol byd, fydd cael eu rlioddi yn gymysg a thail y domen, a'u holl ogoniant wedi darfod son am dano yn oes oesoedd. Ond fe blethwyd coron o ddrain amser yn ol yn amgylch- oedd Jerusalem, nad oedd o ran gwerth yn liaeddu ei chodi o'r ffos gan gardotyn wrth fyned heibio, ond bydd mwy o son am dani, na'r un arall wisgwyd erioed. Bydd son am y goron ddrain ddydd y farn fawr. Yr un goronwyd a hon fydd yn rlianu'r dyrfa yno am byth-yn mhen mil myrdd o oesoedd ar ol llosgi'r byd a'i goronau. I Gwych sain fydd am y goron ddrain, Yr hoelion dur a'r bicell fain; Wrth gofio rhai'n caiff uffern glwy, Cadwynau tynion aiff yn rhydd Fe gaed y dydd, Hosanna mwy. Fish-Creek, Wis. D. W. JONES.