Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

..._...,......-...._.,............"....-_..........-_......",..._.......-..-_...,........-_.,"..--.....-LLOFFION…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFFION 0 BELL AC AGOS. Mae y Gymdeithas Amaethyddol Freninol yn Lloegr yn adrodd fod 450 a 600 o fwsieli o bytatws i'r erw yn gnwd cy- ffredin yn Ynys jersey; ac mewn rhai am- gylchiadau caed o 900 i 1,200 6 fwsieli. Hefyd, y mae Cymdeithas Amaethyddol West Virginia yn cofrestru o 800 i 1,000 o fwsieli yr erw yno. Nid oes amheuaeth mwyach yn mhlith ffarmwyr ymarferol nad ydyw yn angen- rlieidiol cadw tail dan do hyd nes y rhoddir ef yn y ddaear; ond er hyny y mae yn of- ynol iddo gael digon o wlybor i gario yn mlaen y braenu a'r llygru. Dylai y gwlyb- aniaeth oddiwrth yr anifeiliaid redeg i'r domen dail, ac o herwydd hyny mae yn of- ynol cadw y gwrtaith mewn lie isel. Gan yr anfonir anifeiliaid obobparth o'r Undeb i'r Dathliad Canmlwyddol yn Philadelphia yr haf nesaf, dylai yfIarmwyr gofio y bydd yno le campus i ddangos, prynu a gwerthu anifeiliaid. Dangosir yno y gwartheg, yr ychain, y defaid a'r ceffylau goreu Ye, pob math o anifeiliaid ac adar dofion perthynol i'r amaethwyr. Mae rlynion cyfarwydd a defaid yn deall yn dda mai ar eu hysgwyddau ac yn y cylchoedd hyny y mae y gwlan mwyaf rhywiog a goreu. Wrth ddethol gwlan ed- rycher yn gyntaf ar yr ysgwyddau, yna yr asenau a bonau y cluniau; ac os bydd y gwlan ar barthau eraill o'r corff yn debyg i wlan yr ysgwyddau, gellir bod yn sicr y bydd y gwlan yn dda. .Dywedir os bydd ceffyl yn gallu gos- twng ei ben i yfed y dwr ar le gwastad lieb gamu ei aelodau, fod hyny yn arwyddo ceffyl perffaith yn ei ffurfiad oddiwrth yr hwn y gellir dysgwyl gwasanaeth; ond os plyga ei aelodau nid yw fawr o werth. Mae yn y Talaethau Unedig tna 38 o golegau amaethyddol, yn y rhai y mae 389 o athrawon a 3,917 o ysgolheigion. Mewn 21 o'r colegau rhoddir arbenigrwydd i fag- wraeth anifeiliaid thoroughbred; ac mewn 15 o honynt gweithir rhan o'r amser gan yr ysgolheigion ar y fferm. Yn ol cyfrifon swyddogion y Llyw- cl odraeth mae 8,858 o bersonau wedi eu gad- aei yn llwyr amddifad drwy ddifrodiadau cuiiingod y rhedyn yn Minnesota. .Er cael ymwared oddiwrth ysgall, nid oes dim yn angenrheidiol ond hau rape seed. Ni wna y ddau blanigyn gyd-dyfu. Cynyrchir o 90 i 100 o fwsieli o wen- itli i'r erw ar lanau y Tawelfor. .Cyfrifir fod gwerth$1,525,000,000 o anifeiliaid yn y Talaethau Unedig. .Bernir fod tua 34,000,000 o ddefaid yn Mhrydain, a 28,477,951 yn y Talaethau Unedig. .Mae garddwr yn agos i New York wedi llwyddo i gynyrchu o 1,200 i 1,600 o fwsieli o wynwyn i'r erw. Mae y cynauaf haidd wedi dechreu yn neheubarth California. .Enillir 0 $500 i $800 yr erw yn fyn- ych yn nghymydogaetli dinasoedd mawrion drwy godi bresych (cabbages). .Dywed ffermwr o Colorado ei fod yn 1873 wedi codi 900 o fwsieli o bytatws Peerless ar un erw, ac 800 o fwsieli o Early Rose ar erw arall. .Drwy wrteithio yn ofalus llwydd- odd amaethwr o Vermont i sicrhau 112 o fwsieli o shelled corn oddiar erw o dir. Ymddengys yn debygol yn awr mai yn Washington y cynelir cyfarfod nesaf y National Grange yn mis Taehwedd. MEDWAT, BROOKINGS Co., DAKOTA TEE. —Y mae digon o dir Llywodraeth yma, gwaelod-dir ar yr afon Sioux neu brairie. 45 milltir sydd oddiyma i Marshall, ar ffordd haiarn Winona a St. Peters. Gwlad oer a iachus yw hon, y gwair gwyllt yn hynod o ffrwythlon, canys y mae y da corn- iog yn dewion yma ar y gwair. Ni welais i greaduriaid mor dewrion erioed o'r blaen ar wair yn unig. Y mae ychain yma yn dewach na'r cyffredin sy'n cael eu lladd yn Chicago wedi eu pesgu ar gorn. Dyma'r wlad am factory gaws, lie mae'r borfa a'r gwair am ddim ond eu casglu. Y mae'r dwfr yn rhagorol yma. Yr eiddoch-Rich- (tpd Jones. 18..

ADGOFION SELGlI.

ADnA41 MR. PWftS. I

AMRYW BETHAU.

IllEAETH.

Family Notices

YMOFYNIAD AM

Advertising