Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
GWELL NAG AUR.
GWELL NAG AUR. Gwell na harddweh a gwell nag au", A gwell na theitlau pena'r byd, Yw iechyd corff a meddwl clir, Heb hyn yn wir cawn nos o hyd; Gwell nag aur y w calon dyner Yn teimlo dros y dyn tylawd, Gwell nag aur a pherlau'r ddaear Yw modd i wel'd pob dyn yn frawd. Gwell nag aur yw cydwybod lan, Er i ti weithio yn y tros; Perchenog hon all seinio cfin, Fe deithia'n mlaen er gwaetha'r nos; Gwell nag aur yw nun y gweitliiwr, Ar wely gwellt yn llwyd ei rudd; Gwell nag aur neu fyw mewn parlwr, Yw gwneyd yn deg a phawb bob dydd. Gwell nag aur yw'r meddwl treiddgar All syllu ar y byd yn liy, Dwy n trysorau wna yn feiddgar 0 gell drysorfa'r oesau fu- Sydd yn fwy eu gwerth na plierlau A mwngloddiau yr India bell, Cael ymgomio a'r hen oesau, Mae hyn nag aur yn llawer gwell. Gwell nag aur yw cartref tawel A'r teulu'n llawen wrth y tsn, Yn y bwthyn tlawd ac isel A chariad pur yn ledio'r gan; Y fam yn gwenu ar ei baban, Y tad un tyner ydyw ef; Gwell yw hyn nag aur ac arian, Wel dyma fan 'run fath a'r nef. Fairhaven, Vt. YR HE\ Stox.
[No title]
-"Fy anwylyd," meddai gwr wrth ei wraig, "y r wyf y n bwriadu cychwyn plan- igfa goffi." "Pa f o d 3 e vdych y n meddwl cael tir ?" "0, nid oes arafferth yn y byd i gael hwnw; y mae genyf cldigonedd bob boreu o coffee grounds y n fy nghwpan." —Englyn i'r "Pylor," cyflwy nedig i D. I Jones, Hyde Park, Pa.: Aer celf, trydanawl elfen-ac allwedd Mwn-gellau'r ddaiaren, Yw'r pylor—hyrddiwr pelen, A'i dwrw'n ail i daran nen. T. Cilranin Evans. —Darfu i Farwnes Burdett Coutts ranu 24 o wobrau am eifr a my nod yn arddang- osfa amaethyddol Devon, y dydd o'r blaen. Amcan y foneddiges ydyw galw sylw at weich geifr fel anifeiliaid dofion. —Mae amryw o ddarnau byrion tlysion yn Chwareu-gerdd (Drama) newydd Ten- nyson "Queen Mary." Wele engraifft, sef Can y llaeth-wraig Shame upon you, Robin, Shame upon you, now! Kiss me, would you? with my hands Milking the cow ? Daisies grow again, Kingcups blow again, [the cow. And you came and kiss'd me, milking Robin came behind me, Kiss'd me well, I vow; Cuff him, could I? with my hands Milking the cow? Swallows fly again, Cuckoos cry again, [the cow. And you came and kiss'd me, milking Come, Robin, Robin, Come and kiss me, now, Help it, can I? with my hands Milking the cow? Ringdoves coo again, All things woo again, [cow! Come behind and kiss me, milking the —Y dydd o'r blaen, yn agos i Creston, Iowa, fel yr oedd llofrudd yn cael ei ddilyn gan wyr ar feirch, efe a dynodd ellyn o'i logell, a chan ddweyd yn oeraidd, "Yr ydych yn meddwl, mae'n debyg, eich bod yn siwr o'ch dyn,"—torodd ei wddf o glust i glust. —Ehedodd colomen i mewn i eglwys yn Hoosick, N. Y., gan ddisgyn ar ben y Parch. H. J. S. Lewis. Mae v rhai mwyaf coel- grefyddol o'r gy aulleidfa yn credu y bydd y bugail farw yn fuan, a myned i'r nef- oedd; ond nid yw y bugail yn dangos gor- lawenydd mawr. -Dywed y Presbyterian fod un o hen weinidogion Boston yn cyngori y cysbwyll oedd yn edrych oddiamgylch am weinidog, i gymeryd dyn ieuanc, o herwydd ei bod y n ddyledswydd' ar bob eglwys i wneyd ei rhan i ddoli ebolion duwinyddol. "AFON CERIST."—Yn nghymydogaeth Llanidloes, dro yn ol, cynygiwyd gwobr i'r bardd a allai ddweyd mwyaf o gelwydd am afon y Van. YTmgeisiodd pymtheg, a'r ganlynol oedd y gan fuddugol. Cofier nad oes un pysgodyn yn gallu byw yn nwfr y plwm, fel y dywedir yn y gan Mae Cerist fawr 3 a afon liynod, A drwyddi draw yn llawn o bysgod; Ond hynot.:ch peth na hyny, Dyma afon red i fy ay. Delir ynddi for forwy nion, Anchovies a phenweig coclron; A rhai ereill elwir gwyniaid, Llygod mawr a phenau hwyaid. Y mae macrel, chubs a salmon, Fel yn berwi yn y r afon; Ac fe welir, mewn rhai manau, Y mor-fulod ar ei glanau. I Ond y mae, yn mysg y pysgod, Un yn gwisgo cot a gwasgod; Ond trwy ddamwain yr aeth iddi, Herwydd cwymp oddiar y lorry. Ond bu agos i'm anghofio Am y Hong sydd yn ei nofio; Ac am waf. r cress d dialog, Afon Cerist bur risialog. Mae hi'n rhedeg ar ei hunion, I Dyloty'r Caersws Union;" Yna berwir hi yn llymru, I dylodion Gogledd Cymru. STORI ANHAWDD EI Ci-ir.F.DU.-)iledd y Boston Post: Dywed cyhoeddiad meddygol Seisnig fod o 160,000 i 200,0C 3 o wallt ar ben merch; ac yna cyfrifa eu gwerth yn ol y pris a dal wyd am beth o wallt Madame Nilsson yn ninas New York. Aeth hi un diwrnod i ffair, pryd y gofyuodd un o'i hedmygwyr iddi beth fuasai pris un blewyn oddiar ei phen ? Atebodd hithau, mai $10; ac yn mhen ychydig fynydau amgylchynid y hi gan luaws o bersonau awyddus i brynu. Trosglwyddodd hi y cynyrch i drysorfa y ffair. Yn ol y pris hwn, y mae gwallt Nilsson yn werth$2,000,000!
ANNIBYN/AHTH AME 'I, ('A.
ANNIBYN/AHTH AME 'I, ('A. Y pcdwerydd o Orphenaf- Cedwir hwn trwy'r wl d bron, Gan drigolion gwlad Arj Er mwyn parch i Wasl u— Dydd caed arno Annib Dydd ca'dd Lloegr fri r' bnm, Wrth law-nodi hardd gy > Vb Rhyngddi hi a Wasbiiiiji ua. Rhyddid gwladol a clirefyddol Oedd yn berwi dan ei fron; Difa'r tretbi, lladd pob gomes, Oedd yn mwriad Washington; Rhoi gorchymyn wnaeth i'r miiw /r, I fyn'd adre' dros y don, Buddugoliaeth hardd ar Loegr Ga'dd yr enwog Washington. Tra b'o dyn yn ngwlad Americ', Tra b'o Hong ar frig y don, Codir baner Aunibyniaeth, Er mwyn parchu Washington; Os yn nyfroedd Lloegr byddant, Bydd y faner ar bob llong, Cofio'r dydd y gwnaed cytundeb Rhyngddi hi a Washington. Naw deg naw o flwyddi hirion, Mae tawelwch yn y wlad, Rhyddid gwladol a chrefyddol, Trais a gormes sydd dan draad; Egwyddorion annibynol Sydd i lanw'r wlad o'r bron, Dyna'r egwyddorion puraf r Gaed trwy fywyd Wasliington. Plymouth, Pa. W. C. WALTEIIS.
LLENYDDIAETH IFORAIDD.
LLENYDDIAETH IFORAIDD. FAIKHAYEN, VT.—CY naliwyd cyfarfod llenyddol yma y 3ydd o Orphenaf yn nghapelyrA., dan nawdd y Hymdeithas Itoraidd-y Parch. John Seth Jones (gJ ilt o Danville, Pa.,) yn Uywydd. Eeirniad y Rhyddiaeth, y Parch. R. J. Mathews; y Farddoniaetli, Dr. R. J. WilHams; y Dad- ganu, Richard O. Prichard. in 2 o'r gloch, wedi canu can genedtaethol o dan arwciniad John R. Hughes, eafwyd an- erchiad gwresog gan y 11 y wydd; anerchiad barddonol gan Wm. Jones; a darlleniad gan Wm. R. Hughee. Beiniiadaeth y llythyr, Mab at ei Dad—goreu, Wm. Ii. Rowlands, ail Rich. O. Prichard. Dad- ganu, iblant, Ein diodni—go eu, Annie L. Evans ac Ellen Mary Evans; beirn. y Gram- adegu-goreu, Wm. Parrv, ail R O. Prich- ard; beirn. yr Englyn i Undeb y Chwarel- wyr-anheilwng o'r wobr; adrodd gan blant dan 10 oed-goreu, Willie H. Parry, ail Maggie Ann Parry; can, J. J. Parry a John Williams; y cyneithiad o'r Saeson- aeg i'r Cymiaep'—goreu Wm. H. Row- land, ail Wm. R. Hughes; adrodd, i blant dan 15 oed-goreu, \v illie S. Robei ts, ail Annie L. Evans; can, Glauinarchlyn, y n llawn swyn a pheroriaeth fi .viog; beirn. y traethawd, Hancs Mal dn Luther—goreu, Wm. R. Hughes, all Evan J. Evans; can, John J. Parry. Agorwyd cjfarfod yr hwyr gyda (han Iforaidd, gan J. J Parry, a'i- l,ly ii Li I leid. ft yn uno yn ygydgan; yna cotwyd anerch- iad bj r a phwrpasol gan y 1h vydd, ac anerchiadau barddonol gan W. K. Hughes, E C. Jones, W. Jones a J. S. JoTies (Yr Hen Shon.) Danganu, i blant—goreu, Annie L. Evans; beirn. y cjiieithiad o'r G3,n raeg i'r Saesonaeg—goreu ac ail oreu, W. H. Row- land; beirn. y Tri Plienill i lfüriaetll- goreu, R. O. Prichard, ail Evan J. Evans; can, Cor y Llwyn, yn foddkaol iawn; beirn. y traethawd, Desgrifiad o dyddynwr gwledig yn ymadael a Olly mru, un ymgeis- ydd, sef John R. Hughes; can, Miss Pt-us- illa Owens (merch Glan.), yn cael ei cliyn- orthwyo gan John W. Jones a John Wil- liams. Canodd yn ardderchog ac yr oedd ei llais peraidd yn swyno pawb, nes y caf- odd encore brwdfrydig; darllen difyfyr; can, Griffith Roberts a'i gyfeillion, yn wir dda; beirn. y Bryddest, DaCydd yn ymladd a'r Cawr; ni ddaeth ybuddugolyn mlaen i dderbyn ei wobr-ail oreu, Rich. O. Prichard; can, John W. Jones, Merch y Meddwyn; ni chlywsom ef erioed yn canu yn rliagorach a mwy effeitliiol, a gorfu iddo ganu eilwaith; anerchiad, John S. Jones, ar y testyn, Fourth of July; can, John Owen o M. Granville; beirn. y prif draetliawd, sef Iforiaeth-goreu, Evan J. Evans; dadganu, Telynau mwyn Cymru, gan John J. Parry; ni ddaeth neb i gys- b 9 tadlu yn ei erbyn. Barnwyd efyn deilwng o'r wobr; areithio difyfyr, anheilwng o'r wobr; anerchiad barddonol i'r Gymdeithas 'Iforaidd, gan yr Hen Sli n; can, John R. Hughes. Fel hyn terfynodd cyfarfod difyrus iawn, ac aeth pawb adref yn bur llawen. W. R. RUGHES, Ysg. (Iforyn.) JETIMVX, PA. Y Gymdeithas Iforaidd.— Y mae yn y lie hwn Gymdeithas Iforaidd a golwg addawol arni. Y mae llawer o aelodau newyddion wedi ymuno a'r frawd- olaeth, ac amryv- ar y ifordd. Nos Wener y 18fed cynfisol, bu y brawd Thos. Jones, C. L. Cyfrinfa Providence, ac W. L. yr Adran D. yn talu ymweliad a ni, er ein hyfforddi yn ngliyfrinion yr Urdd, a dymunem bob llwyddian: i'r brawd i fyned yn ei flaen i ledaenu yr egwyddorion daionus. Nos Lun, yr 28itin, cawsom gyf- arfod llenyddol a chystadleuol, pryd y llywyddwyd yn ddeheuig gan y Parch. John Morris. Beirniad y traethodau, &c., oedd y Parch. John Evans, Grand Tun- nell, yr hwn sydd yn meddu cymwysderau at y gorchwyl. Cafwyd can gan Miss M. Smith; adroddiad gan'Miss J. Thomas; can a chydgan, D. Hopkins a'ibarti; beirn. ar y penillion i Fis Mai, John W. Griffith, yn oreu o ddau; adroddiad, Sarah Anne Phillips, yn deilwng o'r wobr; cystad. canu rhwng parti o Jermyn a pliarti G. Glenwood-yr olaf yn fuddugol; beirn. y llawysgrif, J. T. Thomas yn oreu o saith, drwy i gyfaill roddi menthyg llaw iddo; can, Mr. J. Rees ar y piano; beirn. y gan a chydgan i Gyfrinfa Caswallon, John W. Griffiths yn oreu o ddau; can, John J. Morris; beirn. traethawd ar Ymarferiad, un yn cystadlu, sef J. W. Griffiths, ac yn deilwng o'r wobr. Adroddwyd a clian- wyd amryw ddarnau yn Saesonaeg heblaw yr uchod, ac felly treuliwyd un o'r eyfar- fodydd mwyaf difyrus a welwyd. Ter- fynwyd trwy ganu Sailor's Chorus gan David Hopkins a'i barti. Y mae pob peth yn myned yn mlaen yma yn awr yn ei hwyliau goreu, yn wladol a clirefyddol.- John R. Jones. ".a.
CYFARFYDDIAD HYNOD.
CYFARFYDDIAD HYNOD. "CYNT Y CYFERFYDD DAU DDYN NA DAU FYNYDD." PENOD VII. Y felldith ddiachos, ni ddaw Dafydd Llwyd. Mae hi wedi dy fod yn sobr iawn i gyfarfod Arthur Williams y Wern, neitli- "Y iwr." Rhyfedd iawn, aie! Beth y w y mater, R. Hughes?" Wei, fe ddaeth y celfyl adref hebddo tua haner nos neitliiwr; aeth y dynion i chwilio am dano, a cliawsant ef wedi marw ychydig tu draw i Bont y Mor fa." "Wei, hynod iawn! Pa fodd y bu tybed?" "Mae yn anhawdd iawn gwybod, ond mae llawer o ddyfalu. Mya rhai mai syrthio oddiar y ceffyl yn ei feddwdod a wnaeth, ond tybia rhai a'i gwelsant jn cychwyn o'r dref nad oedd nemawr, os dim ol diod arno. Ba-rna eraill iddo gael Hit, ac felly sy itliio ar ei ben a marw yn y fan. Ond mae rhai yn niyied mor bell a dweyd fod rhywun, neu ryw rai, wedi rhoddi terfyn ar ei fy wyd Mae y n an- hawdd iawn gwybod, iodd bynag, sut y bu." 1, Wel, mae yn fater difrifol iawn, sut by nag y bu. Mae o wedi myned i wyddfod Barnwr cyfiawn erbyn hyn, ac mae can- oedd o cllodion-o wragedd gweddwon a phI mt amcldifaid yn dystion yn ei erby ii. Peth ofnadwy yw myned i'r farn a'r fath gwmwl o dystion yn erbyn dy,i-wedi gwneyd cyuiaint o dwyll ac anghyaawn- der. Y mae yn beth mawr i adyn gael myned trwy yr hen fyd y ma heb cael tl regi a'i fellditliio gan ei gyd-ddyaion, o herwydd eu twyJlo a'u gortlirymu, ond mae yn ofnadwy meddwl eu gwynebu yny farnfanol." "Mae hyn yn wir yn beth sobr iawn i feddwl am dano, D. Llwyd. Ac os braidd y mae y cyfiawn ii gadwedig, pa le yr ym- ddengys yr anuwiol a'r pechadur? Mae yn wir nad oes dim haeddiart tuag at ein cadwedigaeth y a ein gweitliredoedd da, ond mor wir a hyny, ni chedwir by ch mo hon- om heb weitaredoedd da. Pan welir dyn- ion yn ymliyfrydu mewn cy3awi.i gweith- redoedd diygionus angliy flawn—mew a poeni a gofidio eu cydgreaduriaid; mae eu colledigaeth ddifrifol y a sicr. "WiJi eu tfrwytliau yr adnabyddwch hw^at." E" fod yn arswydus meddwl am farwolaeth dynion fel hyn, mae yn iecliyd i gymdeith- as gael gwared o honMu. Cu llawer o ddymuno am i ryw aiiwycld g. farfod A. Williams, ond gobeitliio nad oedd gan yr un dyn law yn yr aflwydd difrifol hwn.— Clywais rai yn ei fygwth a'u dyrnau wrth ei ddanedd. Mae yn wir ddrwg genyi dros yr hen wraig a'r bogen, ond ychydig o gwyn a gant, druain, gan neb; maent wedi bod mor falch, ffroenuciiel, a diystyrllyd o bawb eraill." Mae yn ddrwg iawn geny f finau dros y merched, druain. Byddaf y n ce;sio peidio hydyn nod ddyrnuno, chwaethach gweutli- ur drwg i neb; ond mae ymddygiadau a gweitliredoedd iselwael y teulu yna wedi peri llawer iawn o ond calon i mi erioed, a3 yn enwedigyn ddiweddar." Gallaf ddweyd yr un peth a cliwi yn hollol, D. Llwyd, Mae y Wern wedi bod yn brif ffynonell ein hanghysuron ni a llawer eraill trwy'r blynyddoedd. Dyna Morris hwnw wedi gwneyd ei ran i'n poeni; ac lllae pobl yn dweyd fod 3 r hen ddyn a'r merched yn cydsyaio, os nad yn ei anog i fyned i ffwrdd a gadael Gwen- llian. Mae'n ddigontebyg na buasai John acw byth yn gadael ei wlad oni bua'sent hwy.—Y mae Morris wedi bod yn dweyd nad oedd ef yn meddwl dim am Gwenllian, ond fod arntk eisiau tori John allan. Y fath anfadrwydd oedd hyny, onide? sef dinystrio cysur rhai allasent fod yn dded- wydd gyda'u gilydd, a hyny, yn fwriadol, heb unrhyw amcan arall ganddo mewn golwg. Mae wedi bod yn un o brif amcan- ion fy mywyd wrth fagu y plant acw, i'w dysgu i fod yn onest ac anrhydeddus tuag at bawb, fod yn dirion a thyner WI h ddyn ac anifail, a pliareliu ac anrhydeddu y tlawd fel y cyfoethog; a byddai yn ceisio rhoddi esiamplau iddynt yn y pethau hyny. Awn trwy y byd yma lawer liapus- ach felly, a bydd coffa pareliu, am danom ar ol i ni adael y ddaear. "Coffawdwr- iaeth y cyfiawn sydd fendigedig, ond enw y drygionus a bydra." Wel, yn wir, Robert Hughes, mae ym- ddygiadau y bachgen drygionus yna tuag at yr hogen acw wedi bod bron a fy ngyru i'r ddaear. Dywedais lawer wrthi pan o"dd yn dechreu cyfeillachu ag ef, ond i ddim dyben. Ar ol ei gweled wedi myned mor ynfyd am dano, gwnaethum bob peth yn fy ngallu iddynt. Pan oeddwn yn meddwl eu bod yn myned i briodi, a phob petli bron yn barod, a minau wedi myned i gryn lawer o gost, dyna fo i ffwrdd ryw ddau ddiwrnod cyn y dydd penodedig i briodi, a tbrwy hyny wneyd y fath ffyliaid o lionwyf i fa hithau. Pwy byKh fuasai yn meddwl y gallasai neb ymddwyn mor an- z::> heilwng a gwaradwyddus tuag at hogen ddiniwaid oedd wedi ymddiried ei bywyd iddo? Ni buasai neb a'r gronyn lleiaf o ddynMiaeth ynddo yn meiddio gwneyd y fath beth. Dyna hi, druan, ni ddangosodd ei gwyneb yn gyhoeddus er pan aeth ymaith, ac y mae yn wylo bron o hyd, ddydd a nos, acyn awr y mae wedi ymollwng i'w gwely, a sicrlia, os cyfyd byth o hono, a dyfod yn alluog i fyned ymaith, na ddengys ei gwyneb yn y plwyf yma byth wed'yn." Ar hyn daeth un o weision y Fron ar gefn y ferlen ar garlam, a phrin y medrodd gymeryd amser i ddweyd ei neges wrth ei z, feistr: "Ewell adref mewn mynyd, m-dd- ai, "yr wyf yn myned i'r dref i geisio y doctor." [I'w BABTTAXJ.]
Adolygiad y Wasg.
Adolygiad y Wasg. LL YFRA U A a A WD UR ON. Y MAE Dr. Rufus a W. Clark newydd gyhoeddi yn Lloegr gyfrol, pris 3s. 6c., yn dwyn yr enw Gwaith Duw yn Mhrydain Fawr," drwy offerynoliaeth Mri. Moody a Sankey. GWELWN fod yr ail gyfrol o'r Encyclo- sedia Britanica, y nawfed argraffiad Seis- nig, allan, pris 13Us. 6 SEFYDLWYD rhwng 1851 a 1870 y nifer o 930 o newyddiaduron yn y Deyrnas Gyfun- ol, a 263 er y fl. 1870. Mae 134' o bapyrau yn dwyn yr enw Advertisers; 133 Gazettes; 123 News; 122 Times; 115 Journals; 108 Chronicles; 91 Heralds; 75 Expresses; 58 Guardians; 54 Observers; 46 Presses; 38 Mer- curies; 34 Telegraphs; 32 Standards; a 32 Mails. DYWEDIR mai Mr. A. S. Abell, o'r Balti- more Sun, yw y golygydd cyfoethocaf yn America; cyfritir efyn werth o$,7000,000 i, $10,000,000. Mae Mr. Francis, o'r Troy limes, hefyd yn wr goludog, wedi gwneyd ei arian yn benaf drwy brynu a gwerthu eiddo tirol. SKETCHES ABOUT WALES -By Owen of Wales" Oyhoeddedig yn Swyddfa y Western Mail, Cardiff, S. Wales, 1875—Pris Is., neu 30 cents, wedi tctlu ci gludiad i America.— Dyma lyfryn bychan, 60 o dudalenau, yn yr iaith Saesneg, wedi ei gyfansoddi gan Ohebydd talentog y Western Mail, "OWEN OF WALES," er dangos i'r Saeson balch ychydig o'r gogoniant sydd yn perthyn i Gymru, Cymry a Cliymraeg, yn filwrol, cerddorol, awdurol, &c. Y mae yn syniad cyffredin yn mysg y Saeson, nad oes gan y Cymry, yn y ffurf o lenyddiaeth, ddim ond ychydig o faledi ysgeifnac arwynebol; ond chwareu teg i'r Saeson, y mae ein llenydd- iaeth gyfoethog. ein barddoniaeth uchel- ryw, ein hymnyddiaeth dihafal, ein hynaf- iaethau dyddorgar, a'n hanesyddiaeth cyff- rous—oil yn gloedig rhagddynt, oblegid nad oes nemawr neb hyd yn hyn wedi eu cyfieithu i'r Saesoneg. Yrunfathfugyda llenyddiaeth a hynafiaethau Scotland, hyd nes i Syr Walter Scott gyfodi a tliros- glwyddo i'r byd cyfan oludoedd Ilenydd- iaeth dihysbydd ei wlad drwy gyfres odid- og y Waverly Novels. Yr hyn sydd eisiau yw, i nifer o ysgrifenwyr llithrig, doniol a gwladgarol eu hysbryd, ymgymeryd a ctwyn trysorau y genedl allan o'u dinod- edd, a'u harddangos ar faes llenyddiaeth Seisnig, y modd y mae Owen of Wales wedi dechreu gwneyd yn y Uylryn ger ein bron-cynwysiad yr hwn sydd fel y can- lyn: 1. Hanes carwriaeth Brenines o Loegr a Chymro; sef y modd yr aeth Owen Tuctur o ilen Mynydd Mon i fyay i Lundain, a thrwy ffawd ragluniaetliol y llwyddodd i enill serch Katrin, gweddw y Brenin Har- ry V, yr hyn a esgorodd ar ganlynredau pwysig i'r genedl Gy mreig. Darllenasom y chwe' phenod yn cynwys helyntion Owen Tudur gyda bias, a byddant yn sicr o fod yn ddycidorol i bob Cymro. 2. Ymdaith y Cambt la's F:ve Hundred' o Gymru i Lundain, a'r frwydr yn y Palas Grisial, pryd o dan arweiniad y cerddor Caradog yr enillasant y Cwpan Aur y n 1873. Yma ceir desgrifiad byw a chyifrous o sy- mudiadau Gor Mawr y Delieudir, ac o'u hymddangosiad ger bron Tywysog Cymiu. Rhoddir hefyd restr gyflawn o enwau ael- odau y Cor. 3. Ymweliad a bedd Llewelyn einLlyw Olaf, yn Cefn y Bedd, ger Llanfaiimuallt. 4. Pi-i f hynodioii bywyd a gweithiau Iolo Morganwg. Y fforad hwylusaf i gael y llyfr fydd i haner dwsin neu ragor gJyb:o a'u gilydd, ac anfon Foreign Po4 Office Order yn union- gyrchol i Owen of Wales, Pont y pridd. S. vvales, G. B., yna ceir y IlyLau gyda'r Post yn mhen Ilai na mis o amser. HABPEB'S NEW MONTHLY MAGAZINE, No. 303, AUGUST, 1875. Harper & Brothers, Franklin Squa,re, New York. Mae y misolyn poblogaidd hwn yn dyfod aPan yn rheolaidd, wetti ei lanw a darllen- iad dyddorol ac amrywiol. Cynwysa 150 o dudaleniii-pris 35o. y rhifyn; a gwna ddwy gyfrol mewn blwyddyn, yn cynwys 900 o dudaledau yr un, am 2.10 y gyfrol. Mae y gwahanol ertliyglau yn cael eu heg- luro a'r darluniau goreu, a chynwysa law- er o ysgrifau hanesyddol am bobl a pheth- au, perthynol i wahanol wledydd. Nid y'dyw yn rhy sych ac athronyddol i'r dar- Henwyr cyifredin, nac yn rhy isel a nofel- aidd i'r aruchelaf ei chwaeth. Mewn gair, hwn ydyw y misolyn teuluaidd mwyaf defnyddiol a dyddorol a gyhoeddir yn y wlad. LAWS OF LIFE AND JOURNAL OF HEALTH: July, 1875. Austin \Jackson & Co., Dans- ville N Y. Cynwysa y misolyn hwn 30 o dudalenau; pris 15c. y rhifyn. Ei amcan ydyw egJuro deddfau bywyd, ac esbonio amodau iecb- yd a hir-lioedledd. Mae enw Dr. Jackson yn dra adnabyddus yn y wlad er's llawer o tlynyddoedd mewn cysylltiad a meddygin- iaeth dwfr, mewn gwahanol ddulliau. Mae ei sefydliad yn Dansville, Livingston Coun- ty, N. Y., mewn lie iach a hyfryd. Der- bynir cleifion o bob gradd yno, y rhai a ddysgir i iachau eu hunain, a pha fodd i ddal gafael mewn iechyd ar ol ei gael.- Credir fod moddion gocheliadol yn fwy effeitliiol namoddion adferiadol; ncu mewn geiriau eraill, y mae yn haws cadw y corff rhag salwch, na'i adferu o salwch. Y moddion a ddefnyddir i wneyd hyny ydyw ymborth maethlon, awyr iach, ac ufudd- do.d cyfiawn i holl ddeddfau iechyd. Rhodd- ir gwahoddiad cylfredinol i'r cleifion, y blinderus a'r lluddedig i ddyfod yno i gael gorphwysdra ac adferiad iecliyd, fel y byddo iddynt gymeryd prydles newydd ar fywyd, a byw hyd nes y difianant o wendid naturiol, a phasio ymaitli yn dawel a di- boen, fel canwyllwedillosgi allan. Mae Dr. Jackson yn barod i wneyd cyt- undeb rhesymol gyda dynion cyhoeddus— golygyddion, cyfreithwyr, gweinidogion, atlirawon, &c., i ddyfod yno i roddi prawf ar ei gyfundrefn, fel y gallant farnu dros- tynt eu hunain, a deall pa fodd i gynghori eraill. Dadleua fod yn ddyledswydd ar bawb i gefnogi y diwygiad hwnler gwellau iechyd yn gyflredinol, a chynyddu ded- wyddwch yr oes.
[No title]
Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, bath- wyd yn San Francisco $30,527,000; y swm mwyaf a fathwyd yno er's ugain mlynedd. Yr oedd$4,327,000 yn arian, mwy na haner yr hyn a fwriedir i gymeryd lie shinplasters.
0 AMERICA I GYMRU.
ddysgwyl pethau gwell oddiwrthynt, mor -wirion a hyny; ac wrth y rhai hyny, pri- odol ydyw dweyd fel y dywedodd yr ath- ronydd hwnw, "Pwy bynag nad yw yn teimlo rhyw gymaint o anrhydedd dros wlad ei enedigaeth, y mae yn sicr nad yw yn meddu ond yehydig ei hunan." Ond y mae rhai fel arall, yn llenwi sefyllfaoedd uchel mewn cymdeithas, ac yn addurn i'w gwlad, eto yn ymffrostio yn eu cenedlgar- weh fel Cymry, yn adnabyddus i bawb, ac yn cael eu parchu gan bawb fel y cyfryw; dynion y byddai yn well ganddynt i'w taf- odau lynu yn nhaflod eu genau nag iddynt angliofio "lien iaith eu tadau." May foul dishonor stain my name, Be mine a coward's death, ,cyn byth y meddienir fi a chymaint gwen- did meddwl, fel ag i wadu fy ngwlad na fy iaith. Y peth cyntaf a wnaethum ar ol myned i fwrdd y llestr, oedd cyfl wynofy hun a'm teulu i ofal yr Hwn sydd yn llywio nefoedd a daiar-y gwyntoedd a'r mor, ac yn dal y dyfroedd, y llestr a ninau ar gledr ei law, ac felly, y mae yn rhaid i Dduw dynu ei law i ffwrdd cyn yr awn ni i'r gwaelod. Nid oedd yr un dyn ar y bwrdd a adwaen- wn yn ol y cnawd. Yr oedd yno rai, er hyny, y treuliais lawer awr ddifyr yn eU cyfrinach cyn hyn. Y mae yma Feibl ar y bwrdd, o drugaredd, trwy yr hwn yr ydym yn medru dal cymundeb ag ysbryd- oedd yr ymadawedig—dynion sanctaidd Duw, megys y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd." Y mae Williams, Pantycelyn, yma hefyd, a Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt; tri chydymaith rhagorol i ddyn oddicar- tref. Yr wyf finau yn nghanol llawer iawn o Ellmyniaid, Gwyddelod a Swiss, yn medru cadw tipyn o wasanaeth dyddiol i mi fy hun, er fod yma offeiriad Pabyddol yn rhodio yn fy ymyl, a rhyw ]yfr dan ei gesail yn proselytio a'i holl egni, ac mor ddefosiynol yr olwg a phe byddai diogel- weh yr holl lestr yn gorwedd yn gyfan- gwbl arno ef. Y mae John Angel James yma hefyd; a phan yn teimlo yn isel o ran ein meddwl, y mae Mark Twain yma, a'i ddywediadau ffraethbert yn ein lloni. Y mae yn dra sicr na fydd neb farw o'r dys- pebsia ar ol darllen yr Innocence Abroad," gan Mark Twain. Gadawodd y pilot ni am 4 o'r gloch prydnawn, ar gyfer goleudy Cape Henlopen, felly torwyd y ddolen olaf oedd yn ein cysylltu a, Gwlad y Gorllewin. Hyd yn hyn yr oedd pawb a'u gwynebau tua chyfeiriad machlud haul, ond fel yr oedd y golygfeydd yn ymgolli yn y niwl cadduglyd, y mae gwynebau y teithwyr o o un i un yn cael eu troi tua'r Dwyrain. Y mae y stectmer bellach mewn llawn hwyl- iau, a'i swch fawr yn aredig y dyfnder, y dyfroedd yn trychioni, a ninau yn dechreu teimlo yn bryderus-pob cysylltiad rhyng- om a daiar wedi ei dori, yr awyr las yn ganopy uwchben, a'r dyfroedd odditanodd- Nid oes yma yr un land-mark, na chareg filltir, i ddweyd pa faint a deithiasom, na'r un orsaf a'i gong fawr yn ein croesawi i giniaw ar ddynesiad y train—dim ond dwfr, dwfr, dwfr yn ddidor; ac er fod yma ddigon o ddynion ar y bwrdd i'w gwneyd i fesur yn gartrefol, y mae yma ryw unig- rwydd anghyffredin drwy cwbl—dim swn cerbydau i'w clywed, na meirch yn car- lamu trwy yr lieolydd; nid oes yma yr un aderyn yn pyncio mawl i'w Greawdydd- dim ond yr hen beiriant yn tuchan a'i holl egni, fel pe byddai ar dynu ei anadliad olaf. Gellir canfod yn awr ac eilwaith ambell i hen bysgodyn yn codi ei snout i wyneb y dwfr, ac fel pe byddai yn ysgyr- 11 y cygu danedd arnom. Gwarchod pawb! beth pe byddai yn bosibl drainio yr hen gafn mawr yna sydd rhwng yma ac Amer- ica, ac yn cyraedd, hwyrach, o begwn i begwn, o bob dyferyn o ddwfr sydd YD- ddo-y fath olygfa fyddai hyny onide, hen framework y greadigaeth yma wedi ei dwyn i'r golwg, yr holl greaduriaid afrifed o bob maintioli, llun a lliw, o'r "lefiathan erfawr deyrn y don," at y sprat bychan. Pa faint o tiloedd o wrecks ellid eu canfod rhwng y Bermudas a'r Grand Banks! Ymddengys fod o ben y Chimborazo, ar linell union- syth i'r fan isaf y tarawodd plumel yn y North Atlantic, dros naw milltir. Nid hir y bu neb o honom cyn gorfod talu tey.rn- ged iN eifion-y mae rhai yn fwy loyal na'u gilydd yn yr ystyr yma wrth gwrs; ond y mae cysgodion yr hwyr yn dechreu ym- daenu, a ninau yn cael ein sïo i gysgu yn nghanol bloeddiadau y dwylaw ar y bwrdd —"Set up the braces," "reef the mizzen," "luff boys, Ivff," a'r cyffelyb; y mae cwsg, fodd bynag, wedi cilio ymaith. Boreu dranoeth clywais ddyn ieuanc yn canu "Clychau Aberdyfi," trwy yr hwn y deall- ais fod tri o Gymry ar y bwrdd heblaw fy liunan, ac un Gymraes o'r enw Mrs. Row- lands, o Chicago. Ond er dangos y dylanwad y mae gwar- iddiad yn ei gael er uno pobl gwahanol wledydd &'u gilydd, y mae yn deilwng o sylw fod deg o honom yn yr un ystafell, ac nad oedd ond tri o honom o'r un genedl; sef tri Ellmyn, un Rwsian Pole (Iuddew), 'un Danish, un Gwyddel, un Sais, un Amer- ican, ac un Cymro; yr oedd un yn Univer- salist, y Hall yn Free Religionist, un yn Babydd, un yn proffesu y grefydd Iuddew- ig, a'r pump arall yn bobpeth ac eto yn ddim. Ni fu yr un deg Cymro erioed yn fwyliapus gyda'u gilydd na'r deg yma; cefais ganddynt ysgrifenu gweddi yr Ar- glwydd, pob un yn ei iaith ei hun, er cofio yr amgylchiad. Fel yr oeddem yn prysuro yn mlaen, yr oedd ein sylw yn cael ei alw at y fan hyn a'r fan acw, lie y cymerodd llong-ddrylliadau le. Yr oedd lien adgolio.n cynes yn llanw ein calon wrth feddwl fod rhai a adwaenem yn dda yn Nowlais, yn gorwedd lieb fod yn mhell o'r fan yr oedd-. em yn sefyll arno. Byddai yn dda genym p3 gallem dalu rhyw deyrnged o barch i'w coffadwriaeth wrth fyned heibio, ond y mae hyny yn annichonadwy. Nid oes yma un cof-adail o farmer, na'r un weeping wil- low i ddynodi y fan y gorwedd neb. Nid oes yma un gwahaniaeth rhwng mawr a Inch, gwych a gwael, ond yr un ddamwain yn dygwydd i'r brenin a'r cardotyn; yr un tonau yn ymdreiglo drostynt, yr un haul yn tywynu arnynt, a'r un anthem wylofus yn cael ei chanu uwch eu beddrod; dyma He maent yn cysgu yn dawel hyd nes y delo bloedd yr Arch angel i'w dihuno. Felly, nid oes genym ond eu gadael, a diosg ein penau fel arwydd egwan o barch i'w coffadwriaeth wrth fyned heibio. Daethom i Queestown oddeutu 11 o'r gloch boreu dydd Sul, mewn pryd i gael y pilot ar y bwrdd, a derbyn y newydd tor- calonus am long-ddrylliad y "Vicksburg" ac am un o'r gloch dydd Llun, Mehefin 14, cefais fy nhraed ar terra flrma," yn glanio yn Le'rpwl. Ar ol treulio diwrnod neu ddau yno, daetlium rhag blaen i Fertliyr, lie y cefais fy ewythr wedi heneiddio cryn lawer, eto mor fywiog ag erioed. Ni fum gwbl bedair awr ar liugain o dan grong- lwyd fy ewythr, cyn fod y Parclin. Ed- ward Mathews, Eweny; William James, Caerdydd; ac Ezeciel Thomas i fewn, a chawsom amser difyr iawn. Y mae tý fy ewythr wedi bod yn rhyw fan cyfarfod i bregethwyr er cyn cof genyf. Ond rhaid gadael yn bresenol ar hyn, rhag gormod meithder. ii. E. L. O. Y. Ar seiliau da, yr wyf ya dymuno hysbysu fy ngliydwladwyr yn yr America, fod adran bwysig o'r Cor Mawr, dan ar- weiniad Griffith Jones (Caradog), yn debyg o dalu ymweliad a'r Arddangosfa Fawr yn Philadelphia yr haf nesaf.