Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

BALA, KANSAS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BALA, KANSAS. Er difrod y ceiliogod rhedyn y llynedd, a'r eisiau canlynol drwy y Dalaeth hon ynogystal a tllrwy y Talaethau eraill, yr ydym eleni wedi cael amgylchiadau mwy ffafriol i'n cyfarfod, drwy oruchwyliaeth dyner Rhagluniaeth; canys nid yw y ceil- iogod rhedyn wedi ein niweidio eleni, er fod llawer wedi bod gyda ni a myrddiynau uwch ein penau ar eu ifordd tua'r gogledd- orllewinol. Cawsom adeg o dywydd sycli, nes yr oedd ysbryd pob un yn gwanhau; eithr yn ngliyf'yngder dyn" daeth adeg Duw," a daeth y gwlaw yn dyner a helaeth nes adfywio pob ysbryd dynol, anifeilaidd a llysieuol. Yr ydym yn awr yn dysgwyl cnydau da o Indrawn a chloron. Tybir na fydd y cnwd gwenith ond bychan yn ein hardal ni. Yn mysg cynlluniau rhyfedd a doeth Rhagluniaeth, mae Gweilhfa Gaws i gael ei hadeiadu yma eleni, ac yn barod i waith tua Mai nesaf. Perchenogion y gweithfa yw Cymry o Dover, New Jersey. Eu benwau yw Richard Jenkins a James Shar- pies. Mae y boneddwr cyntaf wedi bod, ac yn parhau yn bresenol i fod, yn arolyg- wr y Richarrl Mines," yn agos i Dover, New Jersey, er ys tua dwy ar ugain o flyn- yddau, ac yn dwyn y cymeriad gloewaf fel Cymro selog, arolygwr llwyddianus a Christion. Mae Mr. Sharpies yn dwyn yr un nodweddion uchel, ac o herwydd ei brofiad helaeth. am oddeutu dwy ac ugain o flynyddau yn Brazil, South America, a gall ymdaraw yn rhwydd a'n gwlad new- ydd. Mae Mr. Sharpies wedi dyfod i'r Bala, yr wythnos duiweddaf, a rhan o'i deulu a bydd y gweddill yn dyfod allan mor fuan ag y gellir. Daw Mr. Jenkins hefyd allan y gwanwyn nesaf gyda'i deulu, a Mrs. Jenkins, (sef gweddw yr ymadawedig gyf- aill y Parchedig John R. Jenkins), a'i tlieulu. Nid dyfod, allan i weled y wlad, eithr i drigianu yma a gwneyd cartrefi par- haol. Bydd llawer yn eu canlyn o herwydd eu cymwynasgarwch enwog tuag at Gymry a'r llwyddiant a fegir gan eu presenoldeb mewn ardal. Mae Mri. Jenkins a Sharpies wedi prynu yr hyn oedd heb ei werthu o dre y Bala, a'r tir amgylchynol yn cynwys Timber Creek, a'r Branch Creek, gan y Gymdeithas Dirol Gymreig yn Utica, N. Y.; eu perchenogaeth yn cynwys yn agos i ddau gant a thri ugain o erwau. Byddaf yn adeiladu y Weithfa Gaws ar eu tir wrth ochr tref Bala, ac yn ddiau, dyma y peth goreu sydd wedi digwydd yn y Bala, a'r sefydliad. Amcan y bonedd- wyr hyn yn dyfod yn mlaen a gwneyd y pryniad o'r tir, a chreu y gwelliantau yn y dref, ydyw, er cynorthwyo y Gymdeithas Dirol Gymreig i rwyfo yn mlaen yn fwy llwyddianus drwy yr anfanteision a'u cylch- ynasant, a'u gosod ar safle anrhydeddus, ac i wneyd yr hyn a allasent dros eu cydwlad- wyr, yn sefydliad Powvs, heb, ar yr un pryd, niweidio eu hunain, a'u teuluoedd. Mae dyfodiad Mr. Sharpies, yma, wedi codi calon pob sefydlwr, gan fod lie i gredu fod amser gwell ar ddyfod. Cyf- addLfir nad oes gwell lie i godi anifeiliaid (fel un adran o amaethyddiaeth) nag sydd yn sefydliad Powys; a chan y bydd pris am ymenyn, rhaid mai llwyddiant a a, gyda y weithfa gaws. Bydd y gweithdy o leiaf yn 60 wrth 80 o droedfeddi, ac y mae yn agos i bedwar cant o wartheg godro ar y list yn bresenol. Dyna newyddion da i gyfeillion y Bala. Eto, yr ydym fel ardal Gymreig wedi gwn- eyd cam yn mlaen mewn Cristionogaeth ymarferol,sef drwy ddadgysylltu yr Ysgol- ion Sabbothol oddiwrth yr eglwysi yma, a'u cyd-uno dan un gorfEolaeth ar wahan dan yr enw Ysgol Sul Anenwadol Bala;" a da genyf adweyd fod cynydd wedi dang- os ei hun eisoes mewn nifer ac ysbryd. Carwn fod yn alluog i gofnodi fod yr eg- lwysi hefyd wedi ymuno a'u gilydd, eithr hid ydynt eto wedi gwneyd hyny. Ar y 3ydd o Orphenaf cadwasom yr wyl fawr swladwi-iactliol Americanaidd, sef y Fourth, yn y dull o Eisteddfod, dan lyw- yddiaeth y parod Wil Sir Yon, yr hwn a areithiodd yn fyr ar Beirniadaetli Eis- teddfodol." Canodd James M. Thomas yn ddoniol, wrth gwrs. Yr oedd anerch- iadau y Beirdd yn orlawn o awen,yn neill- duol y cyfarchiad a ddarllenwyd gan Add- fwyn Myddfai, dros "BarddMehenn," o'r Mississippi Valley. Enillodd Daniel Wil- liams ar y penillion i'r Dyn Anwadal; can- odd John Lloyd Jones yn swynol, fel arfer. ol; enillodd D. Williams ar ytraitliawd ar Anhebgorion aelodau teilwng o gymdeith- as; enillodd Thomas Daniels a Hugh F. Jones ar ganu "Dusseldorf." D. Williams oedd ygoraf a ddangosodd pa foddi i "godi moch." D. Williams, Rowland Davies a John Lloyd Jonas a enillasant ar y Ddadl Indrawn, neu wenith. Adroddodd Miss Lizzre Evans yn dda. Canodd T. Daniels "Mi gollais y tren." Enillodd y Parch. Henry Davies ar y traithawd ar yr Apostol Paul. Adroddiad da gan Edward Evans. Y goraf i areithio yn fyrfyfyr oedd Tlios. Daniels. Canodd Miss Maggie Watkins yn fedrus, fel arfer. Cafwyd anerehiad pwr- pasol a derbyniol iawn gan Mr. Sharpies. Dywedodd T. Daniels wi-lhym drwy gan, i Wnneyd pobpeth yn Gyairaeg, 1H3 i ni benderfynu gwneyd. Penderfynvvyd yn unfiydol i gynal Eis- teddfod eto ar Dclydd Calan. J. H. jEXKrss.

---............--.....-ELIZABETH,…

ST. LOUIS, frIO.

PICNIC MA IVPI, YN OHIO..

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

G W-TL YM DAN HUGHES,

CAN IIR GOEDIVIG.

TELYNEG

HIRAETH TAD AM EI FETICH.

IN MEMORIAM.