Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
EIN TELEBAU AM 1875. Pris yn mlaen Haw$2.50. fgp Pris y DRYCH i Glybiau §2 20 Pris y DRYCH i Canada 70 ur Pris y DRYCH i Gymru. 3 50 Anfoaer arian mewn Post Office Order neu Registered Letter, neu mewn Draft arfNew York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. LLYFR NEWYDD-" The Golden State and its Resourcesgan y Parch. J. J. POWELL. Yr han- es o-oreu amDalaeth California. Pris SS1.5Q, ac i'w ekel can R. T. Roberts, U". S. Mint, San Francisco, California. 475—2975 H A. POWELL, ATTORNEY AT LAW, RHIF. 520 MONTGOMERY STREET, SAN FRANCISCO. ">My A" WERTH. lrN O'B TAFAlly DAI 60REU YN NINAS UTICA, Lie y mae llawer o Gymry yn arfer myn'd. Mae gan y perchenog reswm da dros adael y jle. Ymofvner am fanylion a CHARLES KRUM, 26 Liberty St., Utica, N. Y. ENWAU YR AGERLONGAU A gyclmynant o New TorJcy mis hwn. Agerlongau. Morlo. | I ba> le. Swyddfa N. Y.- Wyoming Gorph 13 Liverpool|29 Broadway. Abyssinia Gorph.14 Liverpool,4 Bowling Green S of Indiana Gorph.14 Glasgow. 72 Broadway. Adriatic Gorph.17 Liverpool 19 Broadway. Spain Gorph.17 Liverpool|69 Broadway. City of Paris.. Gorph.17 LiverpooljlS Broadway. Elysia Gorph.17 Glasgow. 7 Bowling Green Idaho Gorph.20 Liverpool;29 Broadway. Algeria Gorph.2l Liverpool 4 Bowling Green Erin Gorph.24 Liverpool;69 Broadway. Celtic Gorph.24 Liverpool 19 Broadway. City of Berlin. Gorph 241Liverpool 15 Broadway. California Gorph.24:Glasgow. 7 Bowling Green Montana Gorph.27! Liverpool 29 Broadway. Scythia Gorph.28] Liverpool 4 Bowling Green S. of Georgia.. Gorph.28jGla.sgow 72 Broadway. C.of Richmond Gorph.31 jLiverpool 15 Broadway. Republic Gorph.31 jLiverpool 19 Broadway. City ofBrussels Awst 7. (Liverpool 15 Broadway. Britannic.. | Awst 7. jLiverpool 19 Broadway. ilt (9,agcbhr!1r a'n S^feontcnjr. Nicholas Bdn.—Gorfu i ni dalfyrn peth ar hanes y picnic, er gwneyd lie iddo yn y rhifyn hwn.— Gwiiaethom yr uu peth a hanesion llawer o gyfar- fodydd eraill. Griffiths, CINCINATI.-Methasom a gwneyd lie i'r eiddoch ar -1 Brawf Mr. Beecher" yn y rhifyn hwn. Ymddengys yn ein nesaf. [W Hefyd, ymddengys ysgrif oddiwrth weinidog parchue arall yn ein nesaf ar yr un testyn, yr hwn sydd yn gweled yr ochr arall i'r ddalen."
T. J. GRIFFITHS, Cyhoeddwr.…
T. J. GRIFFITHS, Cyhoeddwr. GOLYGWYR, J. W. io-,VF-s, J. C. ROBERTS.
DYDD IAU, GORPHENAF 15,1875.
DYDD IAU, GORPHENAF 15,1875.
PWYSIG I'N DERBYNWYR.
PWYSIG I'N DERBYNWYR. 0 HERWYDD y cynydd mawr sydd wedi cymeryd lie yn ein cylchrediad yn ystod y blynyddoedd diweddaf, a bod mailio yn yr lien ddull, trwy ysgrifenu enwau ar y pa- pyrau, wedi myned yn faich trwm arnom, bycidwn o hyn allan yn anfon y DRYCH ymaith yn ol cynllun newydd, sef trwy bastio enw argraffedig ar bob papyr, gyda pheiriant pwrpasol at hyny. Heblaw yr enw, rhoddir hefyd rifnodau i ddangos i bob un pa fodd y saif ei gyfrif ar ein llyfrau. Yna bydd pawb yn gwybod pa bryd i an- fon arian; ac arbedir i ninau y draul a'r drafferth i anfon biliau i ddyledwyr. Rhag y byddo rhywun yn methu deall ei gyfrif, sylwer ar yr eglurhad canlynol: Yn lle rhoddi y dydd <?'?' mis ar ol yr enw, dodir y rhifyn o'r DRYCR, gyda'r hwn y bydd y tanysgriflad yn rliedeg allan. Y mae yn ddealledig fod pob rhifyn o'r DRYCH yn dwyn rhifnod neiliduol-1, 2, 3, 4, &c., i fyny i 52,, sef y rhifyn olaf o'r flwyddyn; felly bydd yn hawdd i bob un weled pa bryd y bydd ei amser yn rhedeg allan, drwy gydmaru y rhifnod ar ol ei enw a'r rliifnod ar dudalen cyntafy DRYCH. Fel hyn: ROBERT OWENS. 176 PETER DAVIES. 1'75 JOHN JONES. 14'72 DAVID THOMAS 40'71 JOHN OWEN 29'69 .-v' :I to '9. Dengys y mgyrau ucnoa ioci ROBERT UWENS wedi talu hyd y rlbil'yn cyritctf Yn y Swyddyn 1876; y mae ef wedi cydymffurfio yn liollol a'n telerau, drwy dalu yn mlaen llaw. Mae PETER DAVIES yn glir ar ein llyfrau hyd y rhifyn cyntaf o'r flwyddyn 1875; hyny yw, y mae yn ddyledus o ddecbreu y flwyddyn bresenol. JOHN JONES sydd ddyledus o Rhif. 14 yn y flwydd yn 1872; sef o ddechreu Ebrill 1872. Felly yr oedd yn ddyledus am dair blynedd o'r DRYCH yn Ebrill di- weddaf, a bydd yn ddyledus am dair blynedd ac wyth mis yn niwedd y flwyddyn hon—sef yn y swm o $9.40. DAVID THOMAS sydd ddyledus o Rhif. 40, hyny yw, o ddechreu Hydref, 1871. Yn niwedd y flwyddyn hon bydd felly yn ein dyled am bedair blynedd a thri mis. JOlIN OWEN sydd yn ddyfnach byth yn ein dyled. I fyny i'r Rhif. 29 yn y flwyddyn 1869 y mae ef wedi talu; felly y mae yn ddyledus i fyny i'r wythnos hon (sylwer mai Rhif. 29 yw y rhifyn presenol) am chwe blynedd o'r DBYCH, sef yn y 8wm 0 $15. 00. Wrth gael ei adgoffa yn wythnosol o'i ddyledswydd os ydyw yn ddyn gonest, bydd yn sicr o wneyd ymdrech i dalu rhyw gymaint yn ddioed. Wrth gwrs, ni ddis- gwyliwn iddo dalu y cyfan o'i ddyled ar unwaith; boddlonir ni os enfyn ddim ond$2.00 neu$3.00 yn fisol; le, bydd $1.00 yn fisol yn dra derbyniol. CYDNABOD ARIAN.—Wedi mabwysiadu y dull hwn, ni bydd yn angenrheidiol i ni anfon receipts am arian yn y papyrau, nac ar postal cards, os na bydd eisiau rhoddi rhyw eglurhad ar y cyfrif, neu ateb rhyw ofyniad neillduol. Pan dderbynir arian oddiwrth danysgrifwyr, newidir y rhifnodau ar ol eu henwau; A BYDD IIYNY YN SIeR- WYDD DIGONOL IDDYNT FOD EU HARIAN WEDI CYRAEDD YilA YN DDIOGEL. Ond gan na byddwn yn cywiro y rhestr ond bob dwy wythnos, na fydded neb yn anes- mwyth os byddant yn gweled y rhifnod heb ei gyfnewid ar ddau rifyn ar ol iddynt anfon y tal. Ar ol aros dwy wythnos, os bydd y rhifnod yn aros heb ei gyfnewid, anfoner ymholiad i'n swyddfa, rhag y byddo yr arian wedi myned ar goll. Ych- ydig o berygl y sydd o hyn, pa fodd byn- ag, os anfonir yr arian mewn registered let- ter neu post office order,
[No title]
MAE yn ymddangos fod pobl Boston wedi cael llosgi eu bysedd yn ddiweddar wrth roddi gwahoddiad i'r Arlywydd Grant a'i gwmni i aros yno, fel y gallent dalu parch haeddianol iddynt; canys yr oedd y gost o'u cadw yn y Revere House yn af- resymol. Yr oedd costau yr Arlywydd yn $30 y dydd,$120 am bed war diwrnod! Costau Robeson, Jewell, Babcock a vVil- son oedd $10 y dydd; ond codid $18 ar yr Ysgrifenydd Delano. Swm y biliau am y gwinoedd a'r cigars oedd $,¡:J6 25. Bu y Cad. Babcock mor anffortunus a gadael y dwfr i redeg yn ei ystafell, nes gorlifo y llawr a difa arluniau mewn ystafell islaw, am yr hyn y bu raid talu $100! Ond coron y cwbl ydyw y wledd a rood i'r Arlywydd yn yr hwyr, yr hon a gostiodd fil o ddolcri! Codwyd$3 50 y chwart am y strawberries —blodau ifr ystafell$480—$50 am arluniau i harddu yr ystafell, a$17 am yswiriant arnynt; a chodwyd$3 25 am gario trunk yr Arlywydd. Ni fydd i'r Bostoniaic1 wa- hodd yr Arlywydd i'w plith yn fuan eto; os na ddaw yno ar ei gost ei hun.
[No title]
CREWYD cryn lawer o ddadleu yn mlilith gwneuthurwyr llawr leni yr wythnosau di- weddaf, o herwydd i'r masiiachwyr yn Kidderminster, Lloegr, benderfynu peidio anfon eu llawr leni i'r arddangosfa gan- mlwyddol yn Philadelphia yr haf nesaf, a hyny o herwydd fod y Talaethau Unedig yn rhoddi tariff ar lawr leni tramor. Defn- yddiwyd yma yn 1870 werth $22,766,9000 lawr leni cartrefol; ac os cyfrifir fodgwerth $20,000,000 wedi ei ddefnyddio yn flyn- yddol am y saith mlynedd diweddaf, gwna hyn y swm yn$140,000,000; ac yr oedd y llawr leni tramor a ddefnyddiwyd yn werth $30,754,621. Casglodd y Talaethau Uned- ig 59 y cant o doll ar y llawr leni tramor, sef $18,145, 226. Oddiwrth hyn y mae y masnachwyr Seisonig yn dadleu fod mas- nachwyr y Talaethau Unedig wedi casglu oddiar y bobl $82,600,000, sef 59 y cant ar werth y llawr leni cartrefol; canys pe na buasai tariff gallasent hwy werthu eu llawr leni gymaint a hyny yn rhatach. Haerant fod pobl y Talaethau Unedig wedi talu mwy nag a ddylasant wneyd am lawr leni yn nghorff y saith mlynedd diweddaf o $100,754,226, sef $82,000,000 o dariff ar y llawr leni tramor, a $18,145,226 yn fwy am y llawr leni cartrefol, nag fuasai raid idd- ynt wneyd dan gyfundrefn masnach rydd. 0 herwydd y rhesymau a nodwyd, pender- fynodd gwneuthurwyr llawr leni Kidder- minster gadw eu nwyddau gartref.
[No title]
HYSBYSIR fod $4,000,000,000 o arian all- an ar reilffyrdd yn y Talaethau Unedig. Dyma swm aruthrol o arian i fod allan mewn un diwydrwydd, ac mae ei ddylan- wad yn fawr ar drafnidiaeth y wlad. Er mor niweidiol oedd dylanwad y panic yn 1873 ar y ffyrdd haiarn, ychwanegwyd mwy na 3,000 o filltiroedd o ffyrdd new- yddion yn 1874, drwy yr holl wlad. Yr oedd hyn yn llawer llai, mae'n wir, na'r ychwanegiad y blynyddoedd blaenorol; ac er 1871 gorphenwyd mwy na 12,00<1 o gledrffyrdd newyddion. Holl enillion y ffyrdd y flwyddyn ddiweddaf oedd$520,- 466,016, sef llai 0 $6,000,qoo na'r flwyddyn flaenorol. Dengys adroddiad diweddar mai ffyrdd haiarn y gorllewin oeddynt wedi dioddef lleiaf o unrhyw ffyrdd, er mai yno yr oedd y bobl yn rhyfela fwyaf yn eu herbyn. Hefyd y mae yn ymddangos fod y rheilffyrdd wedi dioddef llai oddiwrth yr amser caled nag unrhyw ddiwydrwydd arall yn y wlad.
[No title]
YMDDENGYS fod Ysgrifenydd y Trysor- lys yn cael lie i credu yn awr y bydd y derbyniadau arianol y flwyddyn gyllidol bresenol, yn llawn$289,000,000, sef y swm a awgrymwyd mewn amcan-gyfrif ychydig ,y amser yn ol. Os profa y cyfrif hwn yn gywir, ni raid cwyno llawer o herwydd amser caled. Yr oedd y derbyniadau dydd- iol, yr wythnosau diweddaf, oddiwrth doll ar nwyddau tramor, yn $366,761; a $322,- 198 oddiwrth y cyllid mewnol. Dengys y cyfrifon fod y derbyniadau oddiwrth nwy- ddau tramor am y flwyddyn a ddiweddodd Mehefin 30, 1875, yn $156,398,453; ac oddi- wrth y trethi mewnol $109,804,512, yr hyn, yn nghyd a derbyniadau amrywiol eraill o $23,000,000, a wna yr holl swm yn $289,- 000,000. Ni fydd yr holl gostau dros $275,T 000,000; gan hyny y mae yn aros ar law, wedi talu pob ymrwymiad,$14,000,000. Nid oedd yn weddill ar law y llynedd ond $2,344,000. Oddiwrth hyn, gwelir fod golwg fwy addawol ar fasnach eleni nag ydoedd y liynedd.
[No title]
CYFRiFiR Talactli Iowa yn wlad Grist- ionogol a gwareiddiedig; acmaeyn meddu mwy o faiiteision i fod felly nag amryw o'r Tiriogaethau gorllewinol, o herwydd mai gwlad amaethyddol ydyw, hcb law-weitli- feydd a mwn-gloddiau, i'r rhai yr ymgasgla pobl afreolus; ond y mae ynddi, er hyny, ryw anwareidd-dra tra hynod. Crogir dyn- ion yno yn fisol, ar byst y lampau a brigau y coed, heb na rheithfarn na phrawf, a herir y gyfraith wladol. Nid oes llawer o amser er pan dorwyd i mewn i'r carchar yn mhrif ddinas y Dalaetli, a cliymerwyd carcharor oddiyno o'r enw Howard, yr hwn a grogwyd gerfydd post y lamp, wrth borth y Hysdy! Gwir i hyn gael ei wneyd tua haner nos, gan ddynion wedi gor- chuddio eu gwynebau; ond yr wythnos cyn y ddiweddaf, pan lynchirwyclllll or enw Smith, yn Ottumwa, ni amcanwyd ceiu y weithred na'r personau. Fel yr oedd y swycldogion yn arwain y llofrudd i'r car- char o'r llysdy, wedi ei arholi, rhuthrodd mintai o'r dinasyadion, a chymerasant ef oddiar yr heddgeidwaid, a chrogasant ef wrth y Vamp-post yn nrws y City Hail. Dy- wedir fod amryw o ddinasyddion parchus yn cymeryd rhan yn yr anfadwaith. Gad- awsant y corff i hongian am haner awr ar ol iddo farw; a clian nad oedd gorcliudd yn cuddio ei wyneb, yr oedd yr olygfa yn eehryslon dros ben. Cyflawnwyd y gyf lafan rhwng un a dau yn y prydnawn, mewn dinas yn cynwys 10,000 o drigolion, a hyny drwy lierfeiddio holl swyddogion y gyf ra i tli!
[No title]
Nos Fercher, y 7fed cylisol, cyflwynodd yr Anrh. John Bright ddeiseb i sylw Ty y Cytfredin, wedi ei Haw-nodi gan dri ugain mil o aelodau Undeb y Llafurwyr Am- aothyddol, yn gofyn i'r Parliament eangu yr etholfraint i benau teuluoedd yn y sir- oedd a'r pentrefydd, a dosbarthu yr eis- teddleoedd yn y Parliament yn gyfartal drwy yr holl wlad. Cynygiodd Mr. Tre- vclyan fod y mesur i'w ddarllen yr ail waith: a siaradoclcl y Gwir Anrh. W. E. Forster yn ffafriol i'r diwygiad, a dyfyn- odd ymadroddion o eiddo Mr. Disraeli i'r un perwyl. Dywedodd Mr. Henry Faw- cett fod y llafurwyr amaethyddol wedi eu hesgeuluso gyda moddion addysg, yr etholfraint, &c. Os nad oedd y Ty yn barod y noson hono i wneyd cyflawnder i ddosbarth mor bwysig o'r bobl, yr oedd yr amser ger Haw pryd y bydd i'r bobl hawlio hyny. Gwrthwynebwyd y diwygiad yn rymus gan yr ochr arall, y rhai a lionasant fod y mesur yn anamserol; ac y mae yn ymddangos na feiddiasant ddwyn rhesym- au eraill i'w erbyn. Wedi dwyn y Ty i bleidlais, caed fod 268 yn erbyn y mesur, a 166 drosto. Er fod y dyrnod hwn yn ang- euol i'r diwygiad ar yr adeg bresenol, y mae yn sicr o lwyddo cyn hir, fel y cyn- ydda syniadau gwerinol yn y wlad.
[No title]
MAE yn ymddangos oddiwrth y newydd- ion diweddaraf o'r Black Hills, yn y gog- ledd-orllewin, nad oes llawer o aur wedi ei ddarganfod yno, er mor chwyddedig oedd yr hanesion rai wythnosau yn ol. Derbyniwyd hanesion o'r aurgloddiau hyd y 23ain o'r mis diweddaf, ac yr oedd y mwnwyr yn cwyno 0 herwydd y gwaith caled i olchi ymaith ychydig o ronynau melynion allan o'r fath swm o bridd a cher- yg. Dywed Mr. Jenney, y daearegwr per- thynol i'r fintai archwiliadol, fod aur yn wasgaredig yn mhlith y Bryniau Duon, ond y mae yn amheus a oes yno ddigon o hono i dalu am ei godi. Adroddir fod rhai wedi gwneyd 0 $12 i $13 mewn diwrnod, tra yr oedd llawer eraill yn metliu enill eu bwyd. Aeth un dyn o Utica yno ddechreu Mai, ac er nad ydyw ei lythyrau yn hollol anffafr- iol, nis gellir dweyd iddo fod mor llwydd- ianus ag y disgwyliai, i fyny i'r amser yr ysgrifenodd ddiweddaf.
ROBERT DALE OWEN.
ROBERT DALE OWEN. Ymddengys yn awr nad oes amheuaeth ar y pwnc o wallgofrwydd Robert Da'e Owen, yr ysgolhaig clasurol, a'r awdwr poblogaidd; canys derbyniwyd ef i mewn i'r gwallgofdy yn agos i Harmony, Ind- iana, tua thair wythnos yn ol. Yr oedd er's rhai blynyddoedd yn credu mewn ys- brydiaeth, ac ysgrifenodd ddau o lyfrau ar y pwnc, heblaw nifer mawr o erthyglau i wahanol gyhoeddiadau. Nid oes amheu- aeth nad oedd yn credu yn wirioneddol yn yr athrawiaeth, ac ni siglwyd ei ffydd hyd nes y dinoethwyd twyll "Katey King" yn Philadelphia, amser yn ol. Llwyddodd dynes i ffugio ymddangosiad ysbryd mor berffaith, nes llwyr argyhoeddi Mr. Owen, ac efe a ysgrifenodd hanes maith a manwl am y cwbl i'r Atlantic Monthly; ond tra yr oedd y rhifyn hwnw yn y wasg daeth y twyll i'r amlwg, a chyfaddefodd y ddynes y cwbl. Yr oedd y dyrnod hwn yn rhy drwm i feddwl cawraidd Mr. Owen, a'r canlyniad fu iddo ddyrysu. Mab ydyw Robert Dale Owen i'r diwedd- ar Robert Owen, o'r Drefnewydd, G. C., yr hwn a hynododd ei hun fel Cymrodolwr selog dros gydfeddianiaeth, a chydweitli- rediad undebol mewn masnach a llafur.— Efe sefydlodd gymdogaeth New Lanarck, yn Scotland, lie y cariwyd pethau yn mlaen ar yr egwyddor gydweithredol; ond- nid oedd y llwyddiant gymaint ag y dys- gwylid. Yr oedd rhyw both yn hynod yn amgylchiad marwolaeth Robert Owen. Tra mewn cyfarfod y Cymrodyddion yn Glas- gow, Scotland, dywedodd Mr. Owen mewn cydymddiddan gydag Arglwydd John Russell, nad oedd yn teimlo yn dda, gan awgrymu fod ei ddiwedd yn nesau, ac wrth derfynu dywedai: Cefais yr esgyrn hyn (sef esgyrn ei gorff) yn y Dref- newydd, ac yr wyf yn myned yno i'w dodi yn ol." Aeth yn ol abufarw yno. Darfu i Robert Dale Owen, ac eraill, gychwyn sefydliad cydweithredol a cliydfeddianol, yn Harmony, Indiana; ac mae yn myned yn mlaen yn llwyddianus. Yr oedd Mr. Owen yn un o brif feddylwyr yroes, ac yn un o'r ysgrifenwyr galluocaf ar faes llen- yddiaeth. Talodd sylw mawr i wleidiad- aetli flynyddoedd yn ol; a phenodwyd ef yn Weinidog dros y Talaethau Unedig i Lys Naples. Cyflawnodd ei swyddogaeth fel llysgenadwr yn alluog a medrus, er dyrcliafiad iddo ei hun, ac anrhydedd i'r wlad a'i hanfonodd. Cyn credu ysbryd- iaeth yr oedd Mr. Owen yn cael ei ystyried yn amhcuwr, yr un modd a'i dad; ac o her- wydd hyny ymffrostiai yr ysbrydegwyr yn barhaus eu bod wedi troi anffyddwr atlieist- aidd i gredu mewn anfarwoldeb a sefyll" fa ddyfodol. Mae rhyw ddirgelwch rhyf- edd mewn cysylltiad a'r gwallgofrwydd sydd yn tarddu o'r cynwrf ysbrydegol.— Dywedir liefyd fod nifer mawr o bobl yn Lloegr wedi myned i gyflw o wallgof- rwydd, dan ddylanwad diwygiad crefydd- ol Mri. Moody a Sankey yn y wlad hono; eithr nid oes nemawr o'r rhai hyny yn ddynion diwylliedig, wedi derbyn addysg a aadblygiad meddyliol. Mae gwallgof- rwydd Mr. Owen yn golled drom i lenydd- iacth Seisonig; ond y m.ie yn hen ddyn dros 70 mlwydd oed.
YR YSGOLION GYEOEDDUS.
YR YSGOLION GYEOEDDUS. Mae ymdrech neillduol yn cael ei wneyd yn y gwahanol Dalaethau i ddifa cyfun- drefn yr ysgolion dyddiol, drwy rariu arian yr ysgolion rhwng y Pabyddion a'r Protest- aniaid, a'r gwahanol enwadau crefyddol; yr hyn, os cymer le, a brofa yn ddinystriol i achos addysg elfenol ac anenwadol. Ym- ddengys fod y Pabyddion yn llafurio yn dra selog i gyraedd yr amcan mewn golwg; ac maent yn cyhoeddi yn wyneb galed, nad ydynt hwy yn foddlon i dalu treth i gynal achos addysg sydd yn groes i'w crefydd. Calonogwyd hwy yn fawr yn eu rhyfel yn erbyn cyfundrefn yr ysgolion, gan lwydd-, iant y Democratiaid yn yr etholiadau y llynedd; ac mae eu holl obaith am lwydd- iant yn sylfaenedig ar fuddugoliaeth y Democratiaid yn y dyfodol. Dylai cyfeill- ion addysg ddeall hyn yn mhob man. Mae y Democratiaid yn eu cynadleddau yn ddys- taw ar y pwnc, ac mae yn hawdd deall y rheswm paham, sef ofn tramgwyddo y Pabyddion. Nid fel hyn y mae y Gwerin- wyr yn ymddwyn; ac yn eu cynadleddau yn Pennsylvania, Ohio, Iowa, a Wiscon- sin, cyhoeddasant yn blaen a difloesgni eu bod yn sefyll yn gadarn dros gyfundrefn addysg anmhleidiol ac anenwadol. Yr yd- ym yn gobeithio y bydd i'r cynadleddau Gwerinol a gynelir yn y dyfodol mewn gwahanol Dalaethau fabwysiadu pender- fyniadau cryfion ar yr un pwnc. Os de- chreuir rhanu trysorfa yr ysgolion, ym- bleidio a chweryla fydd y canlyniad, yr hyn fydd yn sicr o brofi yn andwyol i addysg. Mae Gwerinwyr Wisconsin yn cyfarfod y pwnc yn deg yn ei wyneb, a hyny yn amserol, gan benderfynu ymladd dros yr hyn sydd iawn a theg. Maent yn rhagweled mai hwn fydd pwnc mawr y dydd mewn gwleidiadaeth yn fuan; ac nid oes amheuaeth am hyny, nac amser i'w golli cyn gwrthsefyll y rhuthrgyrch Pab- yddol ar ein hysgolion cyhoeddus. Gwneir yr ymosodiad hwn ar yr ysgolion dan gochl crefydd a duwioldeb, a chwynir fod y plant yn yr ysgolion cyhoeddus yn cael eu dwyn i fyny yn anghrefyddol.— Dadleuir y dylid dysgu crefydd iddynt; ac 0 angen .'heidrwydd rhaid i'r Pabyddion gael eu hegwyddori yn athrawiaethau eg- lwys Rhufain. Os caniateir hyn iddynt hwy, rhaid rhoddi rhyddid i'r Wesleyaid, y Cynulleidfawyr, y Bedyddwyr, yr Un- dodiaid, yr Ysbrydegwyr, y Cweceriaid, y Mormoniaid, &c., i wneyd yr un peth. Gall pob un weled y byddai hyn yn ddin- ystriol i addysg gwladwriaethol. Mae cyf- undrefn ysgolion cyhoeddus America hyd yn hyn wedi bod yn destyn edmygedd i wledydd eraill, ac mae rhai wedi ei hefel- ychu; ond er y cwbl y mae bradwriaeth feiddgar ar droed i'w dinystrio. Nid yd- yw yr haeriad fod ein plant yn cael eu dwyn i fyny yn anghrefyddol ond rhagrith hollol. Nid oes na chrefydd nac anghref- ydd mewn dysgu sillebu, darllen, ysgrif- enu, rhifo, gramadegu, &c. Onid yw yr Ysgolion Sabbothol, y cyfarfodydd uref- yddol, ac addysg y teulu yn ddigonol i ddysgu gwersi crefyddol ac enwadol i'r plant? Bwriadwydyr ysgolion cyhoeddus i roddi addysg elfenol i'r ieuenctyd, er eu cyfaddasu i fod yn aelodau d Jfnyddiol mown cymdeithas.
NOD I OX PEliSONOL.
NOD I OX PEliSONOL. Pregethodd y Parch. LEWIS MEREDITII (Lewys Glyn Dyfi), o Chicago, i gynulleidfa luosog, yn addoldy y Wesleyaid yn Utica y Sabbotli diweddaf, ar ei ddychweliad o Semi-centennial Reunion athrofa Cazen- ovia, lie y gwelwn iddo draddodi anerch- iad bywiog a llawn arabedd. Da oedd gen- ym ei weled yn edrych mor heinyf. Cawsom hefyd y pleser o wrando ar Mr. JOHN T. LLOYD, 0 Union Seminary, New York, yn pregethu yn addoldy y T. C.— Mae yn bregethwr coeth ac yn draddodwr effeithiol. Bwriada dreulio dwy neu dair wythnos yn Swydd Oneida, er lies i'w iechyd. Dywed Ar ARVON ei fod wedi llwyddo i ddarganfod y llanerch neillduedig yn Vir- ginia, lie y gorwedd llwch yr anfarwol GORONWY OWAIN. Ymddengys i'r bardd farw yn y flwyddyn 1769, yn lied dlawd o bethau'r byd hwn. Addawa Ap Arvon roddi y manylion eto ar ol cyraedd Cymru. Mae y gwr ieuanc addawol, JOHN JONES, Treffynon, yn awyddus i fyned yn genad- wr i blith pagani aid Bryniau Cassia; ac y mae ei achos o dan ystyriaeth Pwyllgor Gweithiol y Genadaeth y Trefnyddion Cal- finaidd. Hysbysa DKWI EHLYN ei fod yn ym- wrthod a'r swydd o Feirniad y cyfansodd- iadau barddonol erbyn Eisteddfod Youngs- town, O. Gwelir mewn colofn arall ysgrif gyntaf T. AP DAVIES ar "Awstralia a'i brodorion. Mac budd i'w gael wrth ddarllen ysgrifau o'r fath. Ni ddaeth erthygl y Parch. J. E. JONES, Oak Hill, ar "Babyeldiaelh" i law mewn pryd i'r rhifyn hwn. Deallwn y bydd y Parch. G. GRIFFITHS, Cincinnati, yn dyfod i Gymanfa Utica yn mis Medi. Ca dderbyniad brwdfrydig gan ei'hen gyfeillion. Dichon nad yw pawb yn gwybod fod Mr. Griffiths yn dwyn allan yn bresenol Gof- iant am y diweddar Barch. JAMES DAVIES, Radnor, 0. Bydd y llyfr yn barod o hyn i ben dau fis; a diau y ca dderbyniad hel- aeth, gan na bydd ei bris ond tua $1. Mae y Parch. D. S. PATAGONIA DAVIES wedi atel) yii gadarnhaol yr alwad a dder- byniodd o eglwys Annibynol Bangor, G. C.; a bwriada hwylio tuag yno erbyn dechreu Medi. Hysbysasom bythefnos yn ol fod yn mwr- iad CARADOG, arweinydd byd-enwogli Cam- bria's Five Hundred," godi cor o 100 neu 150 i ddyfod drosodd i America yn 1876.— Da genym gael ar ddeall erbyn hyn, fod lie cryf i gredu y llwydda yn ei anturiaeth; a byddwn yn disgwyl clywed fod y cyfarfod cyffredinol o'r pwyllgor oedd i'w gynal yn Neuadd Calfaria, Aberdar, ar y laf cyflsol, wedi penderfynu ar gynllun effeithiol i ddwyn yr amcan i ben. Fel hyn y cana PENFELYN i Gor Church Hill, Ohio:' I gor odiaeth dignradwy—y Bryn Bair hanes glodadwy; Yn eu hawl eu henwau hwy Sy' i fod yn safadwy. Natnriol hyddysg gantorion-hyglod Bryn Eglwys saif weithion; A'u doniau gyda dynion Yn y sir yn taenu son. Y Dalaeth ysl)rydolaiit-alti miwsig Grymusol difethiant; Ac yn nerth eu canu gwnant Y genedl yn ogoniant. Rlioddodd eglwys Salem, Dolgellau, al- wad unfrydol i'r Parch. ROBERT ROBERTS, Abergele, i fyned yn weinidog iddi, ac y mae yntau wedi derbyn yr alwad. Bydd yn dechreu ar ei lafur yno yn mis Awst. Y Parchn. ROGER EDWARDS a THOMAS LEYI a benodwyd yn Nghymanfay T. C. yn Mhorthmadoc i fod yn olygwyr Dydd- iaduron yr enwad am y flwyddyn nesaf. Bu Dr. ROLAND ROGERS, organydd Eg- lwys Gadeiriol Bangor, G. C., ynRliydych- ain, yr wythnos o'r blaen, yn arolygu y datganiad a fu ar ei Gantata "P,'ayer and Praise," yr hon a gyfansoddwyd ganddo pan y derbyniodd ei radd o ddoctor cerdd- orol o'r brif-ysgol hono. Cymerodd y per- fformiad le yn Chwareudy y Sheldon. Gair o gydymdeimlad a IONORON GLAN DWYRYD, o herwydd yr anffawd a'i cyfar- fyddodd, sef clwyfo ei droed yn y chwarel: Mae'n arw genyf am lonoron-ydyw 'Rhen greadnr gwirion; Hell fardd hoff yn mhlith cleifion, Y mae'n awr, drwy'r ddamwain hon. -Huw loan o Council Bluffs. Bydd y Parch. D. DAVIES, gweinidog y Bedyddwyr yn Carbondale, Pa., yn morio i Gymru, ar yr 21ain o'r mis hwn. Treul- iodd Mr. Davies y pum' mlynedd diweddaf yn y wlad hon yn barchus fel dyn, yn an- rhydeddus fel crefyddwr, yn ddawnus fel pregethwr, ac yn dra llwyddianus fel gweinidog y gwirionedd. Dymunir iddo y derbyniad mwyaf calonog yn y wlad y mae yn myned iddi. Taweled y mor, hwylied y llong, a gofaled y Mawredd am ei genad yn ei hollymdaith.-D. W. Morris. BEDDARGRAFF.—Mri. Gol: Gan fod rhi- eni galarus Miss Tegwen P. Jones, Church Hill, 0., wedi dewis y penill canlynol, fel y Beddargraff mwyaf cymwys iddi, byddaf yn ddiolchgar i cliwi am ei gyhoeddi yn y DRYCH Yma, er alaeth, yn mysg marwolion, Y rhoed i orwedd y feinir dirion; Tegwen addfwyn, wyl, anwyl ac union, Er ei mawr synwyr a'i hamryw swynion, Gwywodd ingau angau honl-ond yn hir Ei henw gerir am ei rhagorion. Youngstown, O. DAFYDD Y GAREG WEN. LLWYDDIANT MEDDYGOL.-Y mae Dr. D. C. DAVIES, Columbus, Wis., yn parhau i enill enwogrwydd fel llaw-feddyg. Yn y fall diweddaf, medd y Columbus Democrat, syrthiodd dyn o'r enw Frederick Ihk o ben llwyth o goed, a thorodd ei fraich dde yn ddrwg, drwy i'r olwynion basio drosti; ac mewn canlyniad i fwnglereiddiwch doctor Germanaidd yn Beaver Dam, bu agos iddo golli gwasanaeth yr aelod yn llwyr. Tyf- odd cymal newydd rhwng yr ysgwydd a'r penelin, o herwydd fod yr esgyrn heb ym- uno yn briodol, ac felly yr oedd y fraich yn