Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
A yr&& £ zr jvj&ivsTATJEft. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
=---CLYWAIS ADERYN YN CANU.
=- CLYWAIS ADERYN YN CANU. r iiluiyntdig i'r cerddor adnabyddus T. D. Griffith, C.1 YNW., St. Clairs, Pa. Ar graig ger y mynydd eisteddwn yn syn, A'm mynwes ymchwyddai gan ofid; Adgofiwn fy nyddiau boreuol cyn hyn, pan rhiaint anwylaf a welid; ond heddyw fel estron yn fwy nag erioed, A danedd cenfigen yn brathu; i Ond draw uwch yr aber ar gangen o'r coed, Fe glywals aderyn yn canu. y gauaf a'i g'ledi adawodd y wlad- Yr eira a'r rhew a ddiflanodd; Ae anian a wenai mewn swynol fwynhad, Ac felly 'r aderyn a ganodd; A chann mae eto ar gangen o'r llwyn, Hewn iaith fO --I y gwanwyn yn gwawrio- j. minan heb gyfaill i adrodd fy nghwyn, A'm calon yn wir yn ymddryllio. Wel, can fwyn aderyn, wyt ddedwydd dy fron, Na ddeued un gelyn i'th ymlid- Ond wylo mae'r bachgen fu nnwaith yn lion— Gorlwythog yw heddyw gan ofidj- Ond ni bydd yn auaf fel hyn trwy fy oes, Mae gwanwyn er hyn i ddadblygu- Mae natur yn dysgu er gofid a cliroes, Fe glywais aderyn yn canu. XJtica, N. Y. DWYFOR, ————
. HANES BYWYD
HANES BYWYD EN BERSON LLANDEDWYDD. GANDDO EF EI HUN. PENOD, L Sut bynag yr oedd hyny yn bod, bycldwn uob amser o'r farn fod y dyn gonest a I feriodai, ac a ddygai i fyny deulu lluosog, 0 fwy gwasanaeth i'w wlad na'r hen lane a foddlonai ar siarad yn unig am y boblog- Heth. 0 dan ddylanwad y dybiaeth yna iechreuais feddwl yn ddifrifol am briodi Cyn i mi braidd dderbyn urddau. Ni ddllynais ddoethineb y byd, ondyn hytrach gymelliadau fy nghalon. Dewisais wraig ar yr un egwyddor ag y dewisodd hithau ei gwisg briodasol-nid yn gymaint o her- tyydd harddwch, ond buddioldeb. Byddai yn burion i lawer dyn ieuanc ddilyn fy esiampl yn y peth hwn. A dweyd y gwir, Yr oedd yn ddynes o dymer ragorol, ac o deulu da. Dyna ddwy ragoriaeth deilwng o sylw wrth ddewis gwraig. Gallai ddarllen unrhyw lyfr Cymraeg neu Saes- lieg heb nemawr o drafferth i sillebu; ac am gogini-aeth o bob math, nid oedd ei gwell. Ystyriai ei hun hefyd yn neillduol o fedrus mewn trefnu amgylchiadau ty, er ,,y \a chefais i [erioed allan ein bod yn cyf- aetliogi er ei hollfedrusrwydd. < Beth bynag, yr oeddym yn hoff o'n gil- Ydd, a chynyddai yr hoffder fel yr oeddym Yn heneiddio. Yn wir, nid oedd dim a ailai wneyd i ni deimlo .yn ddig wrth y byd, na'r naill at y llall. Y mae dedwydd- ch dyn yn dibynu ar galon hawddgar a Ita, diddichell, digenfigen, a thangnef- eddus. Yr oedd genym dy ardderchog, mewn ftrdal brydferth a chymydogaeth ddifyrus. Treulid yr amser mewn ymweled a'n cyf- eiUion cyfoethog, ac ysgafnhau trallod y tIodion. Nid oedd genym chwyldroadau i'w hofni na blinderau i'w dyoddef. Yr &edd ein holl anturiaethau ar yr aelwyd, Vn holl symudiadau o'r bron yn gyfynged- ig i gylch bychan ein preswylfod ein hun- nin. Nid oeddwn yn ymyraeth a materion Cyhoeddus, megys mainc yr ustusiaid, festri plwyf, na dim o'r fath bethau, canys tybiwn bob amser fod digon o waith gan beriglor bob plwyf heb ymyraeth a phethau Sydd yn perthyn yn fwy priodol i bobl eraill. Yr oeddwn i yn ddigon diniwed i feddwl felly, o'r hyn lleiaf, ac nid wyf wedi hewid fy marn hyd heddyw. Yr oedd ein ty ni yn lied agos i'r ffordd, ac felly yn bur gyfleus i'r teithiwr a'r dyeithrddyn i dalu ymweliad a ni, ac i toddi prawf ar ein gwin cartref, am yr hwn yr oeddym yn enwog; ac yr wyf yn barod i sicrhau, ar air ac anrhydedd, na chlywais neb erioed yn ei feio. Byddai ein perthynasau hefyd, hyd i'r ddeugeinfed tadd, yn gallu olrhein eu cysylltiad a ni, heb gynorthwy achyddwr, ac yn talu myn- ych ymweliadau. Yr oedd rhai o honynt yn mhell o lewyrchu unrhyw glod ar ein teulu, oblegyd yn eu mysg ceid y dall a'r cloff, a'r anafus. Ond ei hyny dadleuai fy ngwraig eu hawl i gael eistedd wrth yr un bwrdd, gan eu bod o'r un cnawd a gwaed a ninau; ac felly, os na byddai genym gyf- eillion cyfoethog o'n deutu, byddai genym yn gyffredin rai hapus iawn. Y mae'r sylw hwn yn wirionedd trwy fywyd—po dlotaf yr ymwelydd, mwyaf oil ei fwynhad wrth dderbyn croesaw; ac fel y bydd rhai yn syllu gydag edmygedd ar liwiau, neu edyn y gloyn byw, yr un modd y byddwn inau yn naturiol yn dotio at wynebau dyn- ol, siriol a dedwydd. Pan byddai ambell un o'n perthynasau yn gymeriad lied ddrwg, neu yn achosi mwy o drafferth i ni nag oedd yn angenrlieidiol, wrth adael ein ty, byddwn yn cymeryd gofal i roddi iddo fenthyg cot, par o esgidiau, ac ambell dro geffyl o ychydig werth, a phob amser cawn yr liyfrydwcli o weled na ddeuai byth yn ol i'w dychwelyd. Trwy y cynllun hwn glanheuid ein ty o'r cyfryw nad oeddym yn lioffi eu cymdeithas; ond ni wybu neb erioed am un engraifft o deulu Llandedwydd yn troi y teithiwr a'r diamddiffyn dros y drws. Yr oedd llawer o bersoniaid yr un fath a minau; ond y mae arnaf lawer o ofn fod eu nifer yn lleihau. Treuliasom amryw flyneddau yn dded- wydd fel hyn, er y byddem yn cael rhyw ambell un o'r un man ofidiau hyny ag y mae Rhagluniaeth yn anfon i'r dyben o ych- wanegu gwerth ei ffafrau. Byddai bech- gyn yn dwyn afalau o'r berllan, a danteith- ion fy ngwraig yn cael eu anrheithio gan y llygod neu y plant. Dro arall, byddai'r ysgwier yn cysgu yn ystod y rhanau mwy- af tarawiadol o fyjnhregeth, neu dichon y byddai ei wraig yn cydnabod moes-gyfarch- iad fy ngwraig yn yr eglwys gyda rhyw oerfelgarwch mawreddus. Ond buan y caem ymwared o'r anesmwythdra a achosid gan y cyfryw ddamweiniau, ac yn mhen tridiau neu bedwar, byddem yn synu eu bod wedi ein poeni o gwbl. Ychydig achos wna ddirfawr boen i'r sawl sydd yn mwynhau cysuron a thawelwch bywyd, ond rhaid cael mor tymhestlog i achosi arswydyn mynwes dyn sydd wedi noflo ton- au geirwon bywyd. Yr oedd fy mhlant yn iach ac yn bryd- ferth. Nid fy marn bersonol ac unigol yw hon, ond barn y wlad. Yr oedd fy meib- ion yn heini a chryfion, a fy merched yn dlysion a hawddgar. Edrychwn arnynt fel cysur a chynaliaeth fy henaint. Er nad oedd genyf ond chwech o honynt, ystyriwn eu bod yn anrheg werthfawr i'n gwlad, ac o ganlyniad edrychwn arni yn fy nyled. Enw fy mab hynaf ydoedd Hywel, ar ol ei ewythr, yr hwn a adawodd i ni ddeng mil o bunau. Geneth ydoedd ein hail blentyn, a bwriedais ei galw yn Wenfron, yn ol enw fymodryb; ond mynai fy ngwraig, yr hon oedd wedi bod yn darllen rhamant ychydig cyn geni y plentyn, ei galw yn Olwen.— Yn mhen llai na blwyddyn, ganwyd i ni ferch arall, a phenderfynais mai Gwenfron a fyddai ei henw; ond gan i berthynas gyf- oethog deimlo tuedd i sefyll yn fam- fedydd, galwyd hi, yn unol a dymuniad hono, yn Maria, ac felly yr oedd genym ddau enw rhamantus yn y teulu; ond yr wyf yn barod i fyned ar fy llw yn ddifrifol nad oedd genyf lais na llaw yn y dewisiad. Llewelyn oedd y nesaf, ac yn mhen deu- ddeng mlynedd, cawsom ddau fab arall. Waeth peidio na gwadu fy llawenydd wrth edrych ar fy rhai bye hain o'm ham- gylch; ond yr oedd balchder a boddhad fy ngwraig yn fwy na'r eiddo minau. Pan ddywedai ymwelwyr, "Wel yn wir, Mrs. Meredydd, y mae genych y plant brafia yn yr holl wlad." "Ie, gymydog," atebai, "y maent fel y gwnaeth y nefoedd hwynt, yn ddigon prydferth, os byddant yn ddigon da." Yna archai y genethod igodi eu pen- au i fyny, ac, a dweyd yn ddiduedd, yr oeddynt yn dlysion anghydmarol. Y mae yr allanol mor ddibwys yn fy ngolwg fel na buaswn yn crybwyll hyn oni bae mai dyma brif destyn ymddyddan y gymydog- aeth. Yr oedd Olwen yn awr tua deunaw oed, a'i harddweh y fath ag a fuasai yn taro dyn cariadlon i lewyg ar yr edrychiad cyntaf. Nid oedd Maria mor darawiadol ar y cyntaf, er fod ei gwynebpryd a'i hym- ddygiad yn siwr o adael argraff mwy par- haol. Y mae tymer merch fel rheol, yn cael ei ifurfio oddiwrth ddull ei gwynebpryd— o leiaf fel yna yr oedd gyda fy merched i. Yr oedd ar Olwen eisiau llawero gariadau; Maria am sicrhau un. Byddai y ilaill yn fy nifyru a'i hoender pan byddwn lawen, a'r llall gyda ei synwyr pan y byddwn ddifrifol. Ond ni byddai y gwahaniaetli liwn yn cael ei gario i eithafon ynddynt, a gwelais hwynt yn cyfnewid cymeriad am ddiwrnod cyfun ambell waith. Dygwyd Hywel, fy mab liyiiaf, i fyny yn Rhydychain, gan fy mod yn meddwl iddo ymgymeryd a rhyw broffes ddysgedi(r.- Gan fy mod yn bwriadu fy ail fachgen, Llewelyn, i fasnach, derbyniodd ef addysg gymysg ac ymarferol adref. Anhawdd, ac anfuddiol ydyw ceisio desgrifio cymeriad pobl ieuainc, heb weled nemawr o'r byd.- Yr oedd tebygolrwydd teuluaidd yn nod- weddu yr oil—mewn dull o siarad, nid oedd ganddynt ond un cymeriad, a hwnw yn un caredig, diniwed, syml a didram- gwydd. Gwelais blant heb fod felly gan fy mhlwyfolion fy hun, ac yrndrechais trwy gyngor ac esiampl eu dwyn i'r iawn ddelw.
AWSTRALIA A'I BRODORION.
AWSTRALIA A'I BRODORION. GAN TOM AP DAVIES, CHURCH HILL, O. LLITH II. Wedi sefydlu trefedigaeth benydiawl (penal colony) yn Botany Bay (yr hwn le a enwyd felly o herwydd lluosogrwydd blod- au amryliw a gaed yno), sylwai rhai cad- beniaid fod y wlad, yn ol yr olygfa fawr- eddog a gaed arni oddiar y mor, yn ym- ddangos yn debyg i Ddeheudir Cymru, am yr hwn reswm y galwyd hi New South Wales. Aingylchyair y wlad gan res 0 fr&-ifiau, neu fynyddoedd lied uchel, a elwir y Coast Blue Ranges. Eu pellder o lan y mor a am- rywia o 2 i 80 milltir. Gan fod y Ranges 30 milltir allan o Botany Bay, a'r tir yn dy- wodlyd a gwael, araf fu cynydd y sefydliad am dymor hir; ond o'r diwedd gwnaed ymdrechion clodfawr i wneyd archwiliad- mewndirol. Cawn i Hume a Trosby groesi y Ranges a'r Alpau Awstraliaidd, pryd y darganfyddasant y Bathurst Plains, a gwas- tadeddau ffrwythlawn eraill, a dwy afon risialaidd yn ymddolenu trwyddynt, sef y Murray a'r Murrunbigee. Dylifa ymfud- wyr i'r parthau hyn o hyny hyd yn awr. A. Cunigham, pan yn teithio tua Moreton Bay, yn y flwyddyn 1819, a ddarganfydd- odd yr afon Darling. Colonel Collins oedd y cyntaf diriodd yn Port Philip, ger Mel bourne, yn 1801. Sefydlwyd Trefedigaeth Victoria yno yn 1850. Darganfyddwyd Port Adelaide, South Awstralia, gan Cad. Flinders, yn 1802. Sefydlwyd trefedigaeth yno yn 1836. Arferid ei galw The Model Colony, hyd nes i'w haelodau seneddol gweryla, ymladd, a chael eu carcharu, rai blynyddoedd yn ol. Nis gwn fawr o hanes Western Awstral- ia, rhagor na bod John Bull yn ei chadw yn benydfa. Alltudir canoedd o Loegr yno bob blwyddyn. Darfu i lawer Prydeinwr, drwy iddo ladrata C5, fod mor ffodus a chael free passage i'r drefedigaeth uchod. I ddenu anturiaethwyr i wneyd archwil- iadau pellach y tu allan i gylch y trefedig- aetliau, cynygiwyd gwobr fawr gan y lly w- odraeth yn Sydney, i unrhyw un, a groesai y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. Disgwyl- iai pawb wrth yr enwog Dr. Leichardt i gynyg, gan ei fod newydd ddychwelyd o daith Iwyddianus drwy anialwch Victoria, N. S. Wales; ond gwrthododd y Dr. am dymor. Gwyddai ef drwy brofiad beth oedd teithio crasdir poetli, di-ddwfr, Ye, ambell i gant neu ddau o filltiroedd o an- ialwch tywodlyd heb ddim dwfr ar wyneb y tir; ac nid peth dymunol brydiau eraill oedd gorfod yfed dwfr o byllau lleidiog a drewedig; ac heblaw hyny, yr oedd y wlad yn llawn o lwythau brodorol anwaraidd, heb weled dyn gwyn erioed, a lluaws o rwystrau a pheryglon eraill. Ond o'r di- wedd, wedi i'r llywodraeth roddi bwyd, a nifer o geffylau, ac wyth o ddynion ych- wanegol at y wobr, cychwynodd Leichardt yn y flwyddyn 1849; ond ni clilywyd gair o'i hanes byth wed'yn. Yn 1860-61 aeth Bourke a Wills, o Melbourne, ar daith i'r gogledd mor bell a'r Gulf of Carpenteria; tebyg iddynt groesi llwybr Leichardt. Pan ar eu taith yn ol, darfyddodd eu bwyd; ac wedi iddynt fwyta eu ceffylau, a cholli eu camelod, buont feirw o newyn a syclied pan o fewn taith dau ddiwrnod i Cooper's Creek, sef y sefydliad mwyaf mewndirol (inland) yn South Awstralia. DelJwyd o hyd i weddillion a phapyrau y ddau anffod- us gan y brodorion. Gwelais y gweddill- ion a'r camelod yn pasio trwy dref Gawler, ar eu ffordd i Melbourne, yn Rhagfyr,1862. Yn 1865, sef 18 mlynedd wedi ymadaw. iad Leichardt a therfynau gwareiddiad, an- fonodd boneddigesau Melbourne ymgyrch gref allan i chwilio am y Dr.; ond dychwel- asant yn aflwyddianus. Gwelwyd er hyny beth olion o'i lwybr. Gwelsant lawer o goed mewn llinell unionsyth, a'r isod wedi ei gerfio yn y rhisgl, sef "Dr. L., April, 1848," a chawsant ddau hen geffyl yn pori gerllaw i lyn o ddwfr, a dau fachgen pen- gocli, haner gwyn (half caste) yn mysg un o'r llwytliau brodorol, ystori y rhai, mor bell ag y gellid eu deall, oedd, fod wyth o ddynion wedi dyfod at y llyn, ac i Iwyth arall o frodorion ddal a chario i gaethiwed saith o honynt; ac i'r llall ddianc atynt liwy, a phriodi un o'u merched, ac mai eu plant oedd y ddau lane gwridgoch. Caf- odd y dyn gwyn bob chwareu teg (ond dim dillad, wrth gwrs) tra fu byw. Yr oedd wedi marw er's tua phedair blynedd, a llosgwyd ei gorfI, yn ol arferiad y llwyth. 11 Yn 1861-62; croesodd John McDougall Stuart, o Adelaide, i'r cefnfor Indiaidd yn y gogledd ac yn ol; yr oedd ei fintai yn rhifo 12 o ddynion a 68 o geifylau. Gor- fodid hwy weithiau i dori eu ffordd a bwy- elli trwy goedwigoedd tewion; brydiau er- caent ugeiniau o filltiroedd heb arno las- wellt na dwfr. Ymdrechai y brodorion eu llosgi, drwy osod y wlad ar dan—gorchwyl hawdd mewn gwlad boeth. Gan i Stuart fod allan am 14 mis. yr oedd y bwyd mor brin cyn iddo ddychwelyd, nes yr oedd yn gorfod gosod ei wyr wrth gwarter (34 ra- tiontydigon o fwyd, a hwnw gan mwyaf yn gig ceffylau. Beth bynag all fod y caledi a'r anhawsderau sydd ar ffordd teithwyr Affricanaidd, tebyg fod teithio Awstralia yn orchwyl llawn mor anhawdd. Yn fy llith nesaf, cewch hanes y brodor- ion, yn mysg y rhai y bum yn byw am cliwe' mlynedd. i
A DDEUANT I'R WYL?
A DDEUANT I'R WYL? COR MAWR Y DEHEUDIR-Nos Wener, Gorph. 2il, cynaliwyd cyfarfod gan bwyll- gor gweithiol Cor Mawr y Deheudir," yn Aberdar, pryd y bu amryw bethau o dan ystyriaeth. Penderfynwyd gosod y "Gwp- an goffadwriaethol" a gaed yn Llundain, y faner Americanaidd, a rhoddion eraill, yn amgueddfa y Brifysgol i Gymru yn Aber- ystwyth.—Dangosai yr adroddiad arianol a ddarllenwyd fod gweddill o 50p. 18s. 5%c. mewn llaw, yn nghyd ag archebion ar y llythyrdy am 27p. 18s. a dderbyniwyd oddi- wrth Gymry Deheudir Cymru Newydd. Ffaith ddyddorol yn nglyn a'r archebion hyn a wnaed yn hysbys yn y cyfarfod yd- oedd, eu bod wedi eu safio o'r Schiller, y llestr fawr Germanaidd a aeth yn ddrylliau ychydig amser yn ol ar dueddau Ynysoedd Scilly, a'u derbyn yn ddiogel ar ol bod yn y dwfr am wythnos! Yr oedd yr hysbys. iadau cysylltiedig a hwy, pa fodd bynag, wedi myned ar goll, ac nis gallai awdur- dodau y llythyrdy o herwydd hyny eu talu hyd nes' y caent amser i anfon i Awstralia yn eu cylch, a derbyn atebiad oddiyno. Mewn perthynas i'r cynygiad fod d&u gaut o aelodau y Cor i ddyfod drosodd i America, i'r Dathliad Canmlwyddol yn Philadelphia, yr haf nesaf, dywedodd CAR- ADOG ei fod yn ffafriol iawn i'r cynygiad, ac yn dra awyddus am ei weled yn cael ei gario allan; ond yr oedd dau anhawsder anorfod ar ei ffordd i'w ddwyn i weithred- iad, sef, y bydd y gost rhwng 6,000p. a 7,- OOOp.; ac hefyd, y byddai raid i'r ddau cant cantorion hyny fod yn absenol oddiwrth eu teuluoedd a'u gorchwylion am o leiaf dri mis o amser. Pa fodd bynag, penderfyn- wyd anfon at bwyllgor yr uchel-wyl i ofyn a ganiateid i gor o Gymru gymeryd rhan yn y gweithrediadau, ymgystadlu, a der- byn gwobrwyon, os yn fuddugol. Nid yd- ym yn gweled y gall fod un rheswm digon- ol dros i'r Pwyllgor yn Philadelphia beidio estyn y gwahoddiad gwresocaf iddynt i ddyfod drosodd. Hyderwn y deuant; cant dderbyniad brwdfrydig yn yr holl sefydl- iadau Cymreig.
OFNI'R OCHR ARALL.
OFNI'R OCHR ARALL. MRi. GOL.-Er cymaint o son am ryddid. a chwareu teg, a gwrando'r ddwy ochr yn ddiduedd cyn barnu, sydd mewn byd ac eglwys, anfynych iawn y gwneir ac y can- iateir hyny. Mae agos bawb yn ofni yr ochr arall, sef yr ochr wahanol a gwrth- wynebol i'r eiddynt hwy, fel na allant oddef i'r ochr hono gael sylw a gwrandaw- iad t6g. Mae agos bob cyfarfod politic- aidd felly. Pe cyfodai Republican syn- wyrol a boneddigaidd i geisio dweyd gair mewn cwrdd Democrataidd, y fath hysio fyddai yno i fyddaru pawb rhag gwrando arno! A'r un fath pe ceisiai Democrat teg ddweyd gair mewn cwrdd Republicanaidd. Anfynych os byth y rhoddir gwahoddiad teg i'r areithwyr goreu o bob tu i anerch y bobl. A'r un modd gyda'r wasg, un-ochrog bron bob amser y ceir yr holl newyddiad- uron. Pe byddai pethau goreu y ddwy blaid yn holl bapyrau y wlad, onid yw yn debyg y byddai y darllenwyr yn llai eith- afol a chroes o bob tu ? Yr un modd yr ydys yn cael yr un-ochr- edd gor-bleidiol hwn yn mysg crefyddwyr. Pa bryd y ceir Cymanfa grefyddol i'r hon y gwahoddir pregethwyr goreu y gwahanol Z, enwadau i anerch y bobl ? Onid oes ar bob sect ofn i'w phleidwyr fod yn gydnabyddus a'r sect sydd yn groes iddi ? Onid oes awydd mawr cadw ein pleidwyr ddigon ar wahan oddiwrth ein gwrthwynebwyr mewn opiniynau? Mae ar y Pabyddion ofn mawr i'w pobl fod yn gydnabyddus &T Beibl a Phrotestaniaeth. A'r Esgobaeth- wyr ni fynent er dim adael i bregethwr o anghydffurfiwr agor ei enau yn eu heglwysi. Yr un modd yn union y mae pob "Union- gredwr" yn ofni yn arw i "Ryddfrydwr" gael vngan <?air wrth ei bobl ef. Ac y m llawer o Universalists ac Unitarians na fynant er dim oddef neb yn eu cyfundebau os na swniant eu Shibbolethau hwy yn groew. 0 mor anaml y ceir unrhyw fisol- yn neu newyddiadur, a roddant chware teg hollol i ysgrifenwyr a ddywedant ry- beth yn erbyn eu hobbies hwy Ac felly, os bydd ar ddyn eisiau gwrandawiad teg, rhaid iddo adael ei holl hen gyfeillion, a chodi sect a phapur gwahanol, o herwydd ofn gwrando arno, ac ofn ei oddef, ac ofni iddo fod yn gryfach na hwy-a amlygir gan ei hen gyfeillion! Yr ofn hwn a bar yr holl ferthyru, a'r holl fwrw allan o'r synagogau, a'r holl ymranu sydd yn mell- dithio cymdeithas. Ofn i Luther fyned yn drech na'r Babaeth, II' barodd iddi ei ys- gymuno. Ofn fod gan Wesley rywbeth cryfach nag Esgobyddiaeth Lloegr a bar- odd i'w fam eglwys gau ei drws yn erbyn. Ofn Servetus, cyn hyny, a barodd i Calvin losgi ei frawd a fethai gydweled ag ef. Ofn i'r hyn a elwir yn gyfeiliornad fod yn gryfach na'r hyn a dybir yn wir, a bar i bob enwad a phob newyddiadur gau allan hyd y gallant bob rheswm a phob dyn a dynes na byddont o blaid eu "gwir" hwy. Yr un ofn yn union a bar i filoedd o bobl enwog waliardd, hyd y gallant, i'w cyfeill- ion ddarllen unrhyw lyfr croes i'w daliad- au hwy, os na ymostyngant i'w ddarllen trwy spectol eu hadolygiadau hwy arno. Y,, A'r un ofn yn union a bar i gymdeithas gref o grefyddwyr fwrw allan o'u mysg un a alwarit hwy yn "becliadur" anheilwng o'u cymundeb. Addefiad teg yw pob ys- gymundod felly, fod y gymdeithas hono yn ofni mwy i'r "pechadur" hwnw wneyd mwy o ddrwg i nifer mawr o "saint," nag ydyw yn ei obeithio y gallai yr holl "saint" hyny wneyd o les i'r un "pech- adur hwnw Mae yn eithaf amlwg fod gan bob cym- deithas, a phlaid, a phapyr hawl o ryw fath i gau pawb allan, ond a ddywedant Amen" yn unol ag amcan cul y fath gymdeithas, neu blaid, neu bapyr ond peth arall, a ydyw hyny yn ddoeth, yn gynorthwyol i eangiad gwybodaeth, car- iad, goddefgarweh ac undeb, a ffydd gref mewn gwirionedd ? Pe gallai cyfeiliornad a drwg orchfygu gwirionedd a daioni, ar dir teg, lie y caniateir i'r naill a'r lleill ber- ffaith ryddid, oni fyddai hyny yn profi fod y diafol yn gryfach na Duw Ni ddylai y gwir byth ofni gadael i'r gau ei gyfarfod yn deg. Y ffordd oreu i orch- fygu drwg, yw dangos y daioni yn ymyl ei 11 ochr. Ni raid i'r bank note genuine byth ofni i'r counterfeit ddyfod i'r goleu ar yr un bwrdd ag ef. Os bydd rhywun yn awyddus