Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

=---CLYWAIS ADERYN YN CANU.

. HANES BYWYD

AWSTRALIA A'I BRODORION.

A DDEUANT I'R WYL?

OFNI'R OCHR ARALL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OFNI'R OCHR ARALL. MRi. GOL.-Er cymaint o son am ryddid. a chwareu teg, a gwrando'r ddwy ochr yn ddiduedd cyn barnu, sydd mewn byd ac eglwys, anfynych iawn y gwneir ac y can- iateir hyny. Mae agos bawb yn ofni yr ochr arall, sef yr ochr wahanol a gwrth- wynebol i'r eiddynt hwy, fel na allant oddef i'r ochr hono gael sylw a gwrandaw- iad t6g. Mae agos bob cyfarfod politic- aidd felly. Pe cyfodai Republican syn- wyrol a boneddigaidd i geisio dweyd gair mewn cwrdd Democrataidd, y fath hysio fyddai yno i fyddaru pawb rhag gwrando arno! A'r un fath pe ceisiai Democrat teg ddweyd gair mewn cwrdd Republicanaidd. Anfynych os byth y rhoddir gwahoddiad teg i'r areithwyr goreu o bob tu i anerch y bobl. A'r un modd gyda'r wasg, un-ochrog bron bob amser y ceir yr holl newyddiad- uron. Pe byddai pethau goreu y ddwy blaid yn holl bapyrau y wlad, onid yw yn debyg y byddai y darllenwyr yn llai eith- afol a chroes o bob tu ? Yr un modd yr ydys yn cael yr un-ochr- edd gor-bleidiol hwn yn mysg crefyddwyr. Pa bryd y ceir Cymanfa grefyddol i'r hon y gwahoddir pregethwyr goreu y gwahanol Z, enwadau i anerch y bobl ? Onid oes ar bob sect ofn i'w phleidwyr fod yn gydnabyddus a'r sect sydd yn groes iddi ? Onid oes awydd mawr cadw ein pleidwyr ddigon ar wahan oddiwrth ein gwrthwynebwyr mewn opiniynau? Mae ar y Pabyddion ofn mawr i'w pobl fod yn gydnabyddus &T Beibl a Phrotestaniaeth. A'r Esgobaeth- wyr ni fynent er dim adael i bregethwr o anghydffurfiwr agor ei enau yn eu heglwysi. Yr un modd yn union y mae pob "Union- gredwr" yn ofni yn arw i "Ryddfrydwr" gael vngan <?air wrth ei bobl ef. Ac y m llawer o Universalists ac Unitarians na fynant er dim oddef neb yn eu cyfundebau os na swniant eu Shibbolethau hwy yn groew. 0 mor anaml y ceir unrhyw fisol- yn neu newyddiadur, a roddant chware teg hollol i ysgrifenwyr a ddywedant ry- beth yn erbyn eu hobbies hwy Ac felly, os bydd ar ddyn eisiau gwrandawiad teg, rhaid iddo adael ei holl hen gyfeillion, a chodi sect a phapur gwahanol, o herwydd ofn gwrando arno, ac ofn ei oddef, ac ofni iddo fod yn gryfach na hwy-a amlygir gan ei hen gyfeillion! Yr ofn hwn a bar yr holl ferthyru, a'r holl fwrw allan o'r synagogau, a'r holl ymranu sydd yn mell- dithio cymdeithas. Ofn i Luther fyned yn drech na'r Babaeth, II' barodd iddi ei ys- gymuno. Ofn fod gan Wesley rywbeth cryfach nag Esgobyddiaeth Lloegr a bar- odd i'w fam eglwys gau ei drws yn erbyn. Ofn Servetus, cyn hyny, a barodd i Calvin losgi ei frawd a fethai gydweled ag ef. Ofn i'r hyn a elwir yn gyfeiliornad fod yn gryfach na'r hyn a dybir yn wir, a bar i bob enwad a phob newyddiadur gau allan hyd y gallant bob rheswm a phob dyn a dynes na byddont o blaid eu "gwir" hwy. Yr un ofn yn union a bar i filoedd o bobl enwog waliardd, hyd y gallant, i'w cyfeill- ion ddarllen unrhyw lyfr croes i'w daliad- au hwy, os na ymostyngant i'w ddarllen trwy spectol eu hadolygiadau hwy arno. Y,, A'r un ofn yn union a bar i gymdeithas gref o grefyddwyr fwrw allan o'u mysg un a alwarit hwy yn "becliadur" anheilwng o'u cymundeb. Addefiad teg yw pob ys- gymundod felly, fod y gymdeithas hono yn ofni mwy i'r "pechadur" hwnw wneyd mwy o ddrwg i nifer mawr o "saint," nag ydyw yn ei obeithio y gallai yr holl "saint" hyny wneyd o les i'r un "pech- adur hwnw Mae yn eithaf amlwg fod gan bob cym- deithas, a phlaid, a phapyr hawl o ryw fath i gau pawb allan, ond a ddywedant Amen" yn unol ag amcan cul y fath gymdeithas, neu blaid, neu bapyr ond peth arall, a ydyw hyny yn ddoeth, yn gynorthwyol i eangiad gwybodaeth, car- iad, goddefgarweh ac undeb, a ffydd gref mewn gwirionedd ? Pe gallai cyfeiliornad a drwg orchfygu gwirionedd a daioni, ar dir teg, lie y caniateir i'r naill a'r lleill ber- ffaith ryddid, oni fyddai hyny yn profi fod y diafol yn gryfach na Duw Ni ddylai y gwir byth ofni gadael i'r gau ei gyfarfod yn deg. Y ffordd oreu i orch- fygu drwg, yw dangos y daioni yn ymyl ei 11 ochr. Ni raid i'r bank note genuine byth ofni i'r counterfeit ddyfod i'r goleu ar yr un bwrdd ag ef. Os bydd rhywun yn awyddus