Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
"FEL BLODEUYN Y DAW AT, LAN…
"FEL BLODEUYN Y DAW AT, LAN A Y TOPCR EP YMAITH." LUnellau i'w 7talroddvln Cambria, y Calcin. Boneddwr hoff wrth deithio, Yn mysg prysglwyni coed, Yn nhrigle'r anifeiliaid, Hen gartre'r neidr erioed, Ganfyddai rosyn hawddgar Yn gwenu'n hardd ei liw, As meddai wrtlio'i hunan, "O! dyna rosyn gwiw." Wrth un o'i ffyddlon weisicn, Dywedai yn y fan Am ddrwg, a thra gresynus, Sefyllfa'r rhosyn gwan; Dywedai, "Dwg ef yma, Nid dyna yw ei le; Mae yna fan rhy ddiffaith 0 lawer iddo e." Bydd dyner iawn o hono, Na ddyro ddyrnod gref 0 dan ei wraidd, a chofia Nad draenen ydyw ef; j Na fydded it' ei wasgu, A 1 wnenthur yn anhardd, A phlana ef yn ebrwydd I dyf u yn fy ngardd. Y teithiwr ydyw Iesu, Ac angau ydyw'r gwas— Y byd a'i orthrymderau Yw'r hen ania]wch ças; 1- A bachgen ieuanc hawddgar, J Neu lodes lawn o sercli, Yw'r rhosyn teg gymerir O'r byd trwy angau ercb. 1 brydferth ardd Paradwys, I gwmni'r Iesu'r ant, Heb awel groes 1 w gwywo; Dros byth ymagor wnant, Yn heirdd rosynau sawrus, Yn ngardd y nefol wlad, I wasgar peraroglau Wrth riniog ty eu Tad.— Eryr Bero.
HENRY WARD BEECHER.
HENRY WARD BEECHER. Y PARCH HENRY WARD BEECHER PEL PREG- ETHWR—AI EFE YW DYN MWYAF YR OES? CYDMARIAETH RHYNGDDO AG EHAILL- BARN DAU IIEN WEINIDOG AM DROSEDD MR. BEECHER, AC YMDDVGIAD Y DRYCH YN YSTOD Y PRAWF—RHESYMAU GOHEB- YDD CYDWYBODOL A CIIRISTION GLOEW 0 NEW YORK DROS GREDU FOD MR. BEECH- ER YN EUOG. POBLOGRTVYDD MR. BEECHER Traetha y Tribune, y National Baptist, Philadelphia, a rhai o. newyddiaduron Cym- reig America, yn unochrog a phleidiol yn eu hanes o "brawf Brooklyn." Darfu y DRYCH o dro i dro roddi y manylion yn gy- wir, diduedd, ac yn gydweddol a rheolau tegwch, o'r ddau tu. Edmygwyr Mr. Beech- er a'i cyhoeddanty person puraf, y cymer. iad perffcithiaf, a'r pregethwr mwyaf ei ddawn, ei allu, a'i ddylanwad yn yr holl fyd. Daw Cymry craffus, a Saeson sylw- gar i mewn i New York, ant i addoldy Mr. Beecher, a'r canlyniad fydd y siomiant mwyaf; cauys y mae Soar, Merthyr, gan yr Annibynwr; Bethesda, Abertawe, gan y Bedyddiwr; a Moriah, Caernarfon, gan y Trefnyddion Calfinaidd, yn addoldai agos, os nad llawncymaint, a'r eiddo Mr. Beech- er. Eto, dywedir mai efe.yw y pregethwr poblogeiddiaf ar y ddaear! Mae Mr. Beech- er yn wr llawn triugain a dwy mlwydd oed, tra nad yw Mr. Spurgeon ond un mlwydd a deugain. Tafolwn yn deg, mantolwn yn gywir, a daliwn y glorian yn ddiduedd y waith hon. Addefir nad yw y babell yn yr hon y pregetha Mr. Beecher ond lie bycli- an, eyffredin, a disylw, o'i gydmaru a'r deml fawr yn yr hon y pregetha Mr. Spur- geon i'r miloedd lawer, ac yn y ddinas ryf- eddaf yn y byd. Eilchwyl, y mae Mr. Spurgeon, yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf, wedi codi deunaw ar hugain o gapeli eraill yn Llundain a maesdrefi y ddi- nas, heblaw ei Dabernacl mawr ei hun.— Agorwyd Tabernacl y West End ddwy flynedd yn ol, yr hwn a gostiodd fwy na thriugain mil o ddoleri. Cafwyd yr oil ar ddydd ei agoriad, a rhentiwyd pob eistedd- le ynddo yr un adeg. Eto, cofied y dar- llenydd mai nid Tabernacl y West End yw teml Mr. Spurgeon, ond un o'r deunaw ar hugain o gapeli mawr i or. a gododd efe yn pymtheng mlynedd diweddaf. Rhaid i ni ofyn bellach i oracl Scranton, nerthoedd Pittsburgh, ac i holl edmygwyr Mr. Beech- er, am nodi allan a mynegi nifer y capeli a gododd efe yn y deg, yn y pymtheg, ie, yn yr ugain mlynedd diweddaf. Enwer hwynt, a ni a gredwn, ac a ymostyngwn i'r ensyn- iadau a roddwyd i weinidogion yr efengyl yn ystod y Prawf. Ein gofyniad oedd, ein holiad yw, a'n ymchwiliad fydd, a oes gan Mr. Beecher gymaint ag un heblaw Ply- mouth Church? Tawer a moli maint liono, canys nid yw ond pabell gyffredin yn ym- yl y Synagog fawr yn yr hon y mae Mr. Spurgeon yn serenu meddyliau Duw i'r miloedd dynion sydd yn ei edmygu, er mwyn y genadwri ei hun. Ac nid addoldy, cofier, ond deunaw ar hugain o addoldai a gododd efe yn yrychydig flynyddoedd. Pa Ie bellach y saif Mr. Beecher, od nad oes ganddo ond un i gyfarfod a deugain? Am y "Plymouth Pulpit," y mae yn llyfr na welsom erioed; ond mynegir gan ddynion galluog nad yw yn haeddu ei enwi yn yr un rhaleb ag eiddo Dr. Thomas, o Stockwell, Llundain, ac amryw eraill. Rhiniog di- ddymdra fyddai y lie i'r 11 Plymouth Pul- pit" o'i gydmaru a Paxton Hood, ac yn -neillduol y Dr. Joseph Parker, a Saeson er- aill o'r un enwad a Mr. Beecher ei hun. TREMELAH. y RHEITHWYR YN AiYGIrYTUyo. Nid yn ngliylch dieuogrwydd Mr. Beech- er a feddyliwn yn y penawd uchod, ond yn nghylch tegwch honedig y DRYCH yn ei nodiadau ar ei achos o bryd i bryd yn ys- tod y prawf Ac nid tri i naw ychwaith ydyw cyfartaledd yr anghytundeb yn mysg cyfeillion ffyddlonaf y DRYCH, o fewn cylch adnabyddiaeth yr ysgrifenydd. Er ein bod yn un o bleidwyr enwadol Mr. Beecher," os Cynulleidfaolwyr a feddyl- iwch wrth y term uchod; eto nid ydym, fel yr haerwch, mor selog dros ei anffaeled- igrwydd, fel na fynwn gredu iddo wneyd dim ond yr liyn oedd ddoeth, cyfiawn, ac anrhydeddus yn ei holl gysylltiadau a theu- lu Mr. Tilton." Na, na, yn yr haeriad ys- .gubellog yna, yr ydycli, nid yn unig yn gwneyd cam a, Mr. Beecher, ond hefyd a. miliynau, yn mhob gwlad, a gredant yn ei ddieuogrwydd o'r cyhuddiacl a ddug Tilton a Moulton yn ei erbyn-eto a addefant, fel ni- nau, iddo wneuthur "yn ynfyd iawn," a mawr golli ei le mewn llawer o bethau.— Addefa hyny ei hunan, a chondemnia ei hunan yn drymach nag y condemnir ef gan neb arall am y pethau hyny. Ac er, ment- rwn ddweyd, ein bod wedi darllen hanes y prawf mor fanyled a diduedd a neb yn eich swyddfa, ac mewn newyddiaduron mor ddiduedd a theilwng o gred ag a ddarllen- wyd genych cliwithau, nid ydym wedi can- fod ynmysg pleidwyrMr. Beecher gymaint ag un a feddyliant nachollodd ei le ifesur. Gwyddoch mai y Rheol Gyfreithiol yw: Fod y cylmddedig i gael ei yn ddieuog hyd nes y profir ef yn euog. N i plirofir dyn yn euog heb i'r rheithwyr gytuno, Pe na bae ond un drosto, ac unarddeg yn ei er- byn, y mae yn ddieuog yn ngokcg y gyf raith. Ac os bydd 1WW drosto—neu unarddeg, gyda dim ond tri, neu, ar un tymor, ond un yn ei erbyn—ystyrid hyny yn ategiad cryfach fyth i'w ddiniweidrwydd. Nid gorchwyl ei gyfreithwyr yw profi ei ddieu- ogrwydd—rhwystro ei ymosodwyr i'w fwnv yn ellog ydyw eu gwaith. Gwnaed hyny yn effeitliiol gan Evarts a'i Gyf. Ac eto fel hyn y darllenwn heddyw mewn ethygl olygyddol yn y DUYCII-" Yn awr, ar ol chwe' mis o brawf, mcthwyd argylioeddi deucideg o ddynion fod Mr. Beecher yn hollol lan oddiwrth y cyhuddiadau yn ei erbyn." Yn nechreu y prawf apeliodd y Barnwr at y newyddiaduron oil, er nbloya chwareu teg, i beidio beirniadu ar yr hyn a gymerai le yn y llys, hyd nes y byddai y cwbi dros- odd. Ni thalwyd sylw i'w gais rliesymol gan bapyrau y aiaill blaid na'r Hall. Drwg genym orfod rhifo y DRYCH gyda'r trosedd- wyr, ac yn enwedig ei rifo gyda'r rhai a gariwyd gan eu rhagfarnau i gyhoeddi aw- gryrniadau bryntion am y cyhuddedig, ac i ddarnlethu rhai o'r nbwyddion pwysicaf oeddynt ffafriol iddo. Ond dyna y ffaith. Mewn erthygl olygyddol am Mehefin 10, darllenwn fel hyn-" Ar ol cwblhau holi y tystion, dechreuodd Mr. Porter ei araeth amddiffynol i Mr. Beecher, neu yn hytrach ei ymosodiad ar Tilton, Moulton, Mrs. Moulton, a'r holl dystion ar yr ochr liono. Rhaid fod unrhyw achos yn dywyll, acan- hawdd ei esbonio, cyn y bydd yn rhaid siarad arno am bwn' diwrnod." Ymddengys mai amcanmawr Mr. Porter oedd duo cymeriadau yr ochr erlynol hyd eithaf ei allu, a cliael y rheithwyr i gredu mai diafliaid wedi ymgnawdoli ydyw Til- ton a Moulton." Ni wnawn heddyw ond yn unig galw sylw at eich awgrym parthed i dywyllwch yr achos ag yr oedd yn rhaid cael amser mor faith i'w glirio—a'cli Italeiddiad o'r pum' diwrnod, fel at blyf a ddangosant o ba gyfeiriad y chwytha y gwynt yn eich swyddfa. Ond rhaid i ni gael ymhelaethu ychydig ar y rhanau hyny o'r dyfyniad a feiant Mr. Porter am ymosod ar Tilton a Moult n yn He amddiffyn Beecher. Gallai yr anghyfar- wydd dybied oddiwrth eich geiriau fod Mr. Porter wedi mabwysiadu ystryw anarferol ac anghyfreithlon i amddiffyn Mr. Beech- er. Ai nid dyna a wneir gan gyfreithwyr yn ddieithriad bob amser, ac yn mhob gwlad? Gwyddom mai dyna a wneir yn Utica, yn gystal ag yn Cincinnati a Brook- lyn. A mwy na hyny, yr ydym yn myn- tumio fod hyny yn iawn ynddynt; ac y byddai yn anheg ynddynt tuag at eu client i beidio a rhoddi cymeriad ei gyliuddwr i'r diheubrawf caletaf. Ar gymeriad y cy- huddwr y dibyna cymeriad y cyhuddiad i raddau mawr. Felly, os ydyw Tilton a Moulton yn ddynion da, rhinweddol a geir- wir, ac uwchlaw arnheuaeth, pa ddyben myned i gyfraith o gwbl? Ond os dynion penrliydd, anfoesol, ac wedi arfer a dweyd celwyddau ydynt, fel yr addefasant eu hun- ain yn y llys, yn gystal ag y profwyd hwynt ID gan lawer o bersonau cyfrifol eraill, yna dyledswydd Mr. Porter oedd rhwygo yr hugan a'r crys o rawn oddiarnynt; a chyd a'u cymeriadau drygsawrus hwynt aeth y cyngaws a'r gydfradwriaeth uffernol yn fethiant hollol dan ddyrnodiau cawraidd Mri. Porter ac Evarts. Methwyd a'i brofi yn eu- og—felly, yn ol cyfraith, mae ei ddieuog- noydd yn sefyll. Eto, mewn erthygl olygyddol am Meh. 17, ceir a ganlyn—"Darfu Mr. Beach ar ddech- reu ei araith awgrymu fod arian yn cael eu defnyddio i amcanion llygredig, yr hyn gre- odd syndod cyffredinol. Hefyd, ceryddodd fiaQnor y rheithwyr yn llym am ddangos ar- wyddion o bleidgarwch." Ond o hyny hyd heddyw ni chyhoeddwyd yn y DRYCH yr her ganlynol o eiddo Mr. Shearman i Beach yn y llys: We respectfully demand that he should produce the evidence here and now." Hefyd, ni welodd yn dda hysbysu ei ddar- llenwyr i Mr. Beach gael ei orfodi i wneyd diheurad i'r rheithwyr am ei insinuations sarhaus a disail am danynt. Hefyd, ni farn- odd yn angenrheidiol i gyhoeddi i'r byd Cymreig, nad oedd y tystiolaetl-iau newydd- ion yn erbyn Beecher, y gwnaeth Beach y fath dwrf yn eu cylch yn nghlyw y rheith- wyr, yn deilwng o ystyriaeth yn marn y Barnwr Neilson, wedi iddo roddi ystyr- iaeth ddiduedd iddynt. Eto, mewn erthygl olygyddol am Mehefin 24, rhoddir ail gyhoeddusrwydd i'r un cliwedlau yn erbyn Mr. Beecher, a chryn arbenigrwydd arnynt, fel y canlyn: "W yth- nos gynhyrfus mewn cysylltiad a'r gwarad- wydd oedd y ddiweddaf, drwy i gyliudd- iadau mwyaf erchyll gael eu cyhoeddi yn erbyn Mr. Beecher yn y N. Y. Herald, a hyny yn y dull amlycaf, dan beniad ar- ddangosawl, mewn llythyrenau mawrion." Dealler nad ydym yn dweyd fod dim yn unheg mewn cyhoeddiad o'r uchodfel new- ydd mynedol y dydd-ond y peth y cwynir o'i herwydd yw, na thueddasid y DnycH, gan ei degwch a'i ryddfrydigrwydd, i gy- hoeddi hefyd yn un o'r rhifynau dilynol fod Loader a Price, y ddau au-dyst, mewn dalfa, ac wedi cyffesu mai anwiredd oedd eu tystiolaethau, a bod Moulton yn helpu i barotoi eu tystiolaetliau-a Tilton yn ymyl mewn ystafell gefn; a Morris, cyfreithiwr Tilton, wedi rhoddi amryw symiau o arian i Price i fyned i'r wlad nes yr anfonid am dano. Cyhoeddwyd y ddwyochr mewn pa- pyrau eraill-paham na wnaethai y DRYCH ? Ae, eto, myna y DRYCH "wrth ffarwelio a'r ymdrafodaeth ofidus hon," i ni gredu ei fod "wedi rhoddi talfyriad teg a diduedd o'r prawf, fel yr oedd yn myned yn mlaen bob icythnosCredwn ninau o'r tu arall na tcnaeth. Dim ychwaneg y tro hwn. Cincinnati, 0. G. GRIFFITHS. t 11. W. BEECHER YN EUOG. lUm. GOL. Gofynaf ganiatad yn awr, ar ol diweddu o brawf y Parch. H. VY. Beecher, i ddweyd gair ary pwnc; ac yn gyntaf yr wyf yn dioleli i'r DRYCH am roddi esboniad mor dda ar y mater o'r declireu. Yr oedd yn rhaid i'r Cymry ddi- bynu arnoch am grynodeb o'r hanes; canys yr oedd y cyhoeddiadau Cymreig eraill fel pe buasai arnynt ofn dweyd dim y naill ffordd na'r llall, a phe na buasai y DRYCH ary maes, buasai y Cymry mewn tywyll- wch holiol am y cyliuddiadau yn erbyn Mr. Beecher, a'r dull y dygwyd y prawf yn mlaen. Yr oedd yn syn genyf eich bod yn cadw mor anmhleidiol ar y pwnc, tra yr oedd yn amlwg ar ba ochr yr oedd pob un o'r newyddiaduron Seisnig. Ym- ddengys nad oedd ond un o newyddiadur- on mawrion New York yn gwbl dros Mr. Beecher, drwy y tew a'r teneu, gwir neu anwir, sef y Tribune; a pha ryfedd fod hwnw felly, os yw yn wir fod ochr Mr. Beecher yn talu deg dolar y golofn iddo am yr oil a gyhoeddodd o hanes y prawf? Yr oedd y Tribune yn lioni ei fod yn cyhoeddi y cwbl air yn air, ac yn anmhleidiol; ond y ffaith yw, iddo gael ei geryddu lawer gwaith yn ystod y prawf am anghywirdeb ffafriol i ochr Beecher. Gyhoeddodd 1,500 0 golofnau o'r lianes, a clerbyniodcl bymtheg mil o ddoleri ($15,000) am wneyd. Omd oedd yn anmhosibl i'r fath bapyr beidio bodyn unoclirog? Mae yn ddrwg genyf ddweyd na chefais fy moddhau yn y DRYCII, yn ystod y prawf, yn llouig o herwydd ei fod yn rliy ochelgar i draethu ei farn y naill ochr na'r llall. Caraswn iddo fod yn fwy eon a phenderfynol yn ei farn ar ymddygiadau Mr. Beecher, ytiei gysylltiad a theulu Mr. Tilton. Gwir fod y cwbl yn dibynu ar dystiolaethau amgylchiadol, gan nad oedd neb yn gallu cymeryd ei lw iddo weled.y pleidiau yn godmebu; ond yrtollf yn credit 1 mi ddarlkn am ddynion yn cael eu crogi, drwy rym tysiiolaethau amgylchiadol, llawer gwanach na'r rhai a ddadleuwyd ar brawf Mr. Beecher; ond er y cwbl, ni chondemn- iwyd ef. Tueddir fi i gredu pe buasai Mr. Beecher yn ddyn cyffredin, na chawsai y rheithwyr drilffei-th yn y byd i'w euog farnu. Mae dylanwad golud, balchder a pliomp Capel Plymouth yn ddigon grymus i reoli unrhyw reithwyr a ddewisir o blitli pobl Brooklyn. Symuder y prawf i ryw le arall, ac eler dros yr un tystiolaetliau, yna sicrheir dedfryd liollol wahanol, er mai rhanog oedd yr un a gaed. Mae y ffaith fod pleidwyr Mr. Beecher heb ofyn am brawf newydd i'w lwyr ryddhau, yn gyf- addefiad ar en rhan eu bod yn ddiolchgar am iddo ddianc, fel y gwnaetli. Mae y rhesymau canlynol wedi fy llwyr argy- hoeddi fod Mr. Beecher yn euog o'r cy- huddiad yn ei erbyn: 1. Methodd y twrneiaid yn lan ag esbon- io ei lythyrau ar unrhyw dybiaeth a ddygasant yn mlaen; ac nis gellir eu hegluro yn rhesymol ond mewn cysylltiad a'i euogrwydd. Gellir casglu hyn oddiwrth Kiurs y Barnydd. ;J. Os nad ydyw ei lytliyr edifeiriol yn solygu godineb, beth y mae yn ei olygur 3. Cyfaddefodd ei fod yn gwybod fod Mrs. Tilton mewn cariad gydag ef, ac er ei fod yn gwybod mai gwraig dyn arall yd- oedd, ni chyngorodd hi i ymgroesi. Y ffordd debycaf o ladd nwyd anghyfreithlon Mrs. Tilton, fuasai i Mr. Beecher gadw yn fwy distant oddiwrthi. 4. Cyfaddefodd y byddai yn arfer myned allan i farchogaeth gyda hi, ac yn ei chusanu yn fyuych, (ond nid o flaen y morwynion a'r ferch henaf) er iddo ei chusanu rai troion o fiaen ei gwr! Os cusanu diniwed fel siglo llaw oedd, paham y gwneid hyny yn ddirgel? 5. Yr oedd ei waith yn talu saith mil o ddoleri i Moulton i gadw Tilton yn llon- ydd, a chodi y swm drwy roddi mortgage ar ei dy, yn debyg iawn i waith dyn euog, yn ol fy marn i. 6. Yr oedd ei ymddygiad drwy.y blyn- yddoedd yn gorphwys dan y fath gyhudd- iad, heb ddyfod allan fel dyn, i wadu y cwbl, yn myned yn mhell i dybio euog- rwydd. Y noson o'r blaen, mewn cyfarfod gw'eddi yn eglwys Plymouth, heriai gyth- reuliaid a dynion i'w atal i bregethu. Yr oedd efe yr un mor wrol gwr flynyddoedd yn ol. Paham gan hyny na fuasai yn mathru y scandal megis a throed haiarn pan ddechreuwycl sisial am dano? Dyna fuas- ai yn naturiol i ddyn o safie Beecher wneyd, os nad oedd ganddo ddim i'w gelu. 7. Pan ysgrifenodd Dr. Storrs ato, (un o'r gweinidogion blaenaf yn Brooklyn), ar ol iddo ddeall fod y fath gyhuddiad yn cael ei roddi yn ei erbyn, i'w hysbysu o'i grediniaeth yn ei ddieuogrwydd, gan ddangos parodrwydd i'w gynorthwyo yn ei drallod, niatebodd air, hydynnod i ddweyd eifod yn ddieuog. Pa fodd yr esbonir hyn, os oedd yn ddieuog? 8. Pan ysgrifenodd Mrs. Bradshaw ato, (un o aelodau mwyaf puraidd yn ei eglwys ef ei hun) i erfynarno ddweyd wrthi ei fod yn ddieuog, cymaint a wnaeth oedd gofyn iddi ei gynorthwyo igadw ypeth yn ddystaw. 9. Pan ddywedodd ei chwaer wrtho, sef Mrs. Hooker, ei bod hi yn barod i fyned i'w bwlpud i ddarllen ei gyffesiad i'w bobl, os oedd yn euog, darfu iddo osgoi y pwnc, heb sicrhau dim y naill ffordd na'r llall. 10. Yr oedd ei waith yn gwrthod rhoddi Mrs. Tilton ar ei llw fel tyst, yn dangos gwendid mawr, tra yr oedd yr ochr arall yn awyddus am hyny. Profa hyn fod arno ef a'i gyfi-eitliiwr ofn ei thystiolaeth; a phaham hyny os oedd yn ddieuog? 11. Darfu i Mrs. Tilton gyffesu mewn ysgrifen iddi odinebu gyda Mr. Beecher, wrth ei gwr, wrth ei brawd, Mr. Richards a'i briod, wrth ei merch, Florence Tilton, wrth Mrs. Bradshaw, ac wrth Susan B. Anthony. 12. Cymerodd Mrs. Moulton ei llw i Mr. Beecher gyffesu ei euogrwydd wrthi droion; a methwyd a thori tystiolaeth y foneddiges liono, drwy dystion anmhleid- iol. 13. Yr oedd esboniad Mr. Beecher ar ei lythyrau edifeiriol yn hollol afresymol, os na wnaeth ddim ond cyngliori Bowen i droi Tilton o'i wasanaeth, a chyngori Mrs. Tilton i ymadael oddiwrth ddyn drwg; ac mae Bowen yn cymeryd ei lw na wnaeth hyny cliwaith! 14. Os dyn drwg oedd Tilton, gwaith da oedd cynghori y wraig i ymadael oddi- l wrtho; paham ynte yr edifarhaodd Mr. Beecher mor chwerw? Mae nyn yn profi fod Tilton yn ddyn da, neu ynte yr oedd yr edifeirwch yn afreidiol, a rliagrithiol. 15. Yr oedd gwaith Mr. Beecher yn ys- grifenu llythyr i ymddiswyddo o fod yn I y weinidog yn eglwys Plymouth, yn ngwyn- eb yr anghydfod gyda Tilton, yn anghyson ag unrbyw ddamcaniaeth, ond yn unig ei fod yn euog. Caraswn allu dyfod i benderfyniad gwa- hanol ar aclios y gwr mawr o Brooklyn, yn un peth am fy mod yn Gristion, ac hefyd am fy mod yn edmygu ei dalent a'i allu fel un o ddysgawdwyr penaf yr oes; ond yn sicr nis galla! -er i miyn gydwybodol gym- eryd y Tribune (am ei fod yn ffafrio Mr. Beecher) i ddarllen hanes y prawf ynddo, yn hytrach nag ymddibynu ar bapyrau a allasent hwyrach fod yn rhagfarnllyd yn ei erbyn. Os oes y fath beth yn bosibl ag i Beecher fod yn ddieuog o'r cyhuddiad pwysicaf yn ei erbyn, gobeithiaf y daw rhyw oleuni buan ar vr achos. Ni byddai i neb lawenhau yn fwy na mi. Ydwyf yr eiddoch, o Ddinas New York. IAGO.
RACINE A'I DIG WYDD I AD A…
RACINE A'I DIG WYDD I AD A U. RACINE, WIS., Gorph. 14.-Ar y pedwer- ydd o Orphenaf, cynaliodd yr Annibynwyr "Festival yn Belle City Hall; ac er fod yma lawer o atdyniadau eraill ar y pryd, trodd yr anturiaetli yn liwyddiant da, a chaed el w anrhydeddus oddiwrthi. Bu Ysgol Sabbothol y T. C. yn cynal "picnic" yn y coed ar yr un dydd, a mawr oedd y boddhad a gafodd y plant bychain a mawrion, gyda eu chwareu diniwed. Yr oedd rhai wrthi yn chwareu "croquet," rhai yn swingio, ac eraiilynprancio fel ewigod yn y coed. Caed cytlawnder oice cream, lemonade, candies, &c., aphawbyn mwynhau eu hunain i foddlonrwydd.— Erioed ni welsom y plant yn ymddwyn mor foddiiaus; ac ni chyfarfyddodd neb a dam- wain, nac un digwyddiad anghysurus.— Cafodd un Gymraes ieuanc o'r enw Sarah Jones ei niweidio yn lied dost yn y ddinas, drwy i gerbyd a cheffylau redeg ar ei thraws; torwyd pont ei hysgwydd, lieblaw ei hanafu mewn ffordd arall; ond y iliae gobaith iddi wellhau yn fuan. Ar y lOfed cyfisol, cymerodd digwydd- iad galarus iawn le yn Raymond, ger y ddinas hon, sef hunan-laddiad yr Anrli. Henry Stevens. Aeth allan o'r tu yn lied foreu, a thybiai y teulu mai myned allan i rodio yr oedd, ond wrth ei weled yn aros yn hir, dechreuasant anesmwytho, ac aed i cliwilio am dano, a chaed ef wedi ym- grogi wrth goeden. Yr oedd wedi tynu ei 1 9 got a'i het, a'u gosod o'r neilldu, ac wedi gwneyd y weithred yn bwyllus. Yr oedd yn ddyn parchus yn mhob modd, ac wedi bod yn cynrychioli y sir hon yn Senedd y Dalaeth am dymor. Yr oedd yn gysurus ei amgylcliiadau bydol; ac nid oes neb yn gallu rhoddi un rheswm boddhaol am y weithred dorcalonus. Ar y ddeuddegfed cyfisol, aeth nifer o ddynion mewn bad i bysgota yn yr afon; ond trwy ryw antfawd tlymchweiodd y bad, a'r canlyniad fu i undyn o'r enw John Longfellow foddi. Sibrydir eu bod mewn diod. gan eu bod wedi myned a chytlawn- der o whiskey gyda hwynt. Dyma un rhybudd yn ychwaneg eto o'r perygl o gellwair a'r hen ddiod felldigedig. Mae y Parch. Josefih Roberts wedi ym- sefydlu yma er's peth amser fel gweinidog eglwysi y T. C. yn Racine a Skunk Grove. Y mae ei ddyfodiad wedi creu gwedd newydd ar yr achos—y gynulleidfa yn cynyddu, a'i weinidogaeth yn dra derbyn- iol gan bawb; ac ymddengys yntau yn awyddus i wneyd daioni yn y cylch pwys- ig ag y mae wedi ei alw i droi ynddo. Y mae yma faes mawr gydrliwug y ddwy gynulleidfa, a gobeithio y cailf nertli ac iechyd i ddal y llafur caled sydd yn gor- phwys arno. Y mae arwyddion da am gnydau toreitliiog yn y parthau hyn, fel peth cyffredin, er fod y chnch bugs wedi gwneyd peth niwed mewn rhai manau. Ni ddaetli y ceiliog rhedyn y ffordd yma o gwbl; ac ymddengys yn awr, er yr holl ddarogan drwg, na bydd y niwed agos cynddrwg ag y bernid yn y declireu. Un cynauaf da yn y Gogledd-orllewin a fyddai yn gaffaeliad annesgrifiadwy.—Racmiad.
TAllIII BANGOR, WISCONSIN.
TAllIII BANGOR, WISCONSIN. Mm. GOL.: Mae Bangor tua 103 o filltir- oedd gyda y train o Randolph. Mae yn lie bach hynod o liardd, a phawb fel pe yn byw yn gysurus iawn yno. Mae yn He gryn dipyn yn fwy na Markesan, a dwy reilffordd yn pasio drwyddo, sef y Milwau- kee a'r Northwestern. Maent wrthi yn adeiladu amryw o dai hareM yn bresenol. Adeiledir un gan Mr. Pugli, gweinidog y Methodistiaid. Yr wyf wedi bod yma yn awr er's dau ddiwrnod, ac er fod llawer o ddynion ac ieuenctyd o amgylch conglau yr ystrydoedd a'r stores, ni chlywais hyd yn hyn enw Duw yn cael ei gymeryd yn ofer gymaint ag unwaith, yr hyn sydd yn dra gwahanol i'r hyn a glywir yn Markesan.— Tua 17 milldir oddiyma y mae LaCrosse. Mae y cnydau yn edrych yn dda iawn o gwmpas y lie hwn, er eu bod am lawer o'r ffordd cyn cyraedd yma yn edrych yn ddrwg iawn. Braidd na feddyliem mai o gwmpas Kil- bourn City y dechreuodd y Crewr greu, ac nad oedd wedi cael ei law at y gqrchwyl yn dda, neu ynte ei fod wedi ei wneyd o wecldillion y defnyddiau. Mae yno fonu- ments mawrion yn ymddyrcliafu i'r nef- oedd yn greigiau noeth. Ond y mae rhyw beth yn fawreddog yn mhethau hagraf Duw, fel ag mai gwaeledd, a gwaeledd yn unig sydd yn mhethau goreu y diafol.— Gallai dynion o feddyliau anmftarclius am Dduw, dybio ei fod wedi taflu llawer o ddefnyddiau oedd ganddo yn weddill o am- gylch Kilbourn City, yn blith-draphlith mewn tymer ddrwg, gan eu bod yn edrych mor rough. Ond gall dyn o synwyr cyff- redin gael addysg dda wrth fyned dan y dividing ridge, yr'hwn sydd tua milldir o hjrd, ac fel rhyw arddangosiad o ddyffryn cysgod angau. Ond daw pawb i'r goleu yr ochr draw i'r ridge, ond nid felly gyda phawb yn nyffryn cysgod angeu. Gelwir ef yn dividing ridge am fod y dwfr yn un ochr iddo yn rhedeg tua'r dwyrain, ac yn yr ochr arall tua'r gorllewin. Mae dyffryn cysgod angau yr un modd yn gwahanu rhwng amser athragwyddoldeb. Gynt o Markesan. LEWIS LEWIS. +-11-
[No title]
—Y mae diniweidrwydd fel umbrella— pan gollir ef, nid oes gobaith ei gael byth yn ol.
[No title]
-Ni wnaeth angen erioed fargen dda. —Cedwch eich siop, a cheidw eich siop cliwithau. —Edrycliwch yn mlaen, onide chwi a gewch eich hunain ar ol. Cronicla newyddiaduron Groeg far- wolaeth mynach yn mynachdy y Prophwyd Elias, Zitza, yn 117 oed. Ei enw oedd Nicephorus. —"Bychan yw byd heb iechyd Er ei gael yn aur i gyd. "-Alaw Goch. -Dyma yr englyn i'r "tceiiiog y Rhedyn" a farnwyd yn oreu yn ngliyfarfod llenydd- ol Prospect y dydd o'r blaen: Dacw'r llu liyll dieflig'n dod—yn heidiau Ehedant i ddifrod— Na fu'n y byd fath betli'n bod, Am lwytho pawb a thrallod. —Dau benill o glod i Mrs. Owen P. Jones, Plymouth, Pa.—gynt o Pittston: Fel pren pur ffrwytliog fe'i gwelir, Y n barod i roddi gwasanaeth; Ac hefyd mynega yn eglur, Y llwybr i gyraedd uwcliafiaeth; Beunydd fe'i gwelir ar gynydd, A'i hymdrech i wneuthur daioni, Chwi wragedd y dyffryn gwnewch oddef Pr geiriau ymddangos am dani. 17, Yma cewcli weled naturiaeth, Yn berffaitli fel rhodiad ein Duw, A clianu wyf finau am unwaith, I'r ddynes sydd yma yn byw; Gobeithio cawn wel'd llu lawer Yn dilyn esiamplau Miss Jones, Gan gario yn ucliel ei baner, 17, Heb wawdio na thynu'n groes. James W: Davies. —Dengys yr ystadegau sydd newydd gael eu cyhoeddi fod 818,212 o bersonauyn derbyn cymorth plwyfol yn Lloegr a Chymru, ar y cyntaf o Ion awr, 1875, o'r rhai yr oedd 155,6.35 yn y tlot-dai. Y mae y cyfanswm yn llai o 1.7 y cant na'r flwyddyn o'r blaen. Cyfanswm y boblog- aetli yw 22,706,031; ac y mae 662,557 o'r rhai hyny yn derbyn cymorth phvyfol al1 o'r tlotdai, yr hyn sydd ar gyfartaledd yn 290 o bob 1,000. Drwg genym ",cleQ Cymru yn llawer uwcli na'r cyfartaledd hwn. Gyda phoblogaeth o 1.4-21,475, y mae yn Nghymru 60,896 yn derbyn cym- orth oddiallan i'r tlotdai, yr hyn sydd yn 43 am bob mil o drigolion; tra nadyw cyf. artaledd tlodion sir Lancaster a sir Gaet ond rhywbeth fel 16 y fil. —"Trebor Senad," gohebydd i'r JIea14 Cymraeg a ddywed iddo gael yr englynlolt isod ar y ffordd o Lanrwst i Bentrefoelas, wedi eu hysgrifenu er y flwyddyn 1799; a byddai yn dda ganddo gael gwybod p oedd eu liawdwr. Credwn y byddai yndda. gan holl lenorion America gael gwybod: 17, Y Mor Cocli. Rhewodd mor, cochfor cwclifaith—yo b. Er inwyii Abram berftijili; [rill; Cyn y boreu, goreu gwaith, Meiriolodd y mor eilwaith. Rhegen yr Yd. Rhcgen yr yd, fawlyd, folwen- a'i rhegcad; u Mal rhygnu carwden; Dy 'nabod, jad anniben, ) Cael dy nyth, ddeir byth i b(n. I'r Rhew Mawr yn 1*799. Dychwel yr awel rew i-D-uw aiiwyl! Dy weiniaid sy'n erclii Heddyw, y Tad, liawdd i Ti Ro'i d' addysg i rew doddi. MR. C. H. SPURGEON.—Pan oedd Mr. Spurgeon yn Llys Canolbarthol Llundain, ) ydydd o'r blaen, yii aclios gwraig oedd' wedi ff ugio ei enw ar arclieb ar y ilythyr-1 > dy, gwahoddwyd y pregethwr enwog gan y barnwr i eistedd ar y faine wrth ei ochr. Mae y barnwr, Mr. Gurney, yn fab i Fed- yddiwr, sef y diweddar Barwn Gurney, ond Eglwyswr yw y barnwr Gurney, a Cheidwadwr. Ni chymerodd Mr. Spur- geon y llw arferol, oud rhoddodd ei dyst- iolaeth fel Quaker. Y mae son am Mr. Spurgeon wedi cyhoeddi anerchiad ar "Bregethu yn weddus." Dywed fod rhai pregethwyr yn ceisio cael derbyniad i'w goleg, ond nid oes ganddo ef ddim ffydd ynddynt. Dynion fedrant siarad yn ddi- derfyn, ac ni byddant wedi dweyd dim wedi y ewbl-dynion ofnadwy o ddifrifol a brwdfrydig—rhai fedrant lefain a dilio'r Beibl (thump the Bible) am amser, a churo dim a hono wedi y cyfan. Mynydd mewn llafur heb esgor ar y llygoden!
OFNI'R OCHR ARALL.
i gau allan y counterfeit o'r cyfarfyddiad a'r cydmariad hwnw, onid yw hyny yn arwyddo yn gryf fod y person hwnw yn ofni am genuineness ei note ei hun ? Pa bryd y daw yr amser pan fydd genym ddigon o ymddiried yn Nuw, yn y gwir- ionedd, ac mewn daioni, nes peidio ofni i'r ochr arall orclifygu, wrth roddi yr un rhyddid i bob ochr? Argylioeddi y gau a'r niweidiol yw yr angau sicraf iddynt. Geneva, Ill. R. L. HERBERT. 11+-