Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
YMDDENGYS fod marweidd-dra masnach ac amser caled yn gyffredinol wedi tynu llog arian i lawr, canys yr oedd digonedd i'w cael yr wythnos adiweddaf ar alwadyn New York am 1%, a 2c. y cant o log. Yr oedd yr aur yn 114% a 114M. Er mor isel ydyw y llog, nid oes llawer o fenthyca ar- ian, yr hyn sydd yn arwyddo arafwch mewn masnach. Mae rhyw anghysondeb rhyfedd rhwng caledi yr amser a cliyflawn- der mawr o arian yn y wlad.
[No title]
MAE y Prof. Marsh, o Goleg Yale, yr hwn fu yn arwain mintai o ymchwilwyr Daearegol yn nghylchoedd y Black Hills, yn dwyn cyhuddiadau pwysig yn erbyn swyddogion y Ilywodraeth a gymerasant arnynt ofalu am yr Indiaid yn y Gogledd- orllewin. Anfonodd adroddiad maith at yr Arlywydd, i roddi ar ddeall iddo fel y mae ei swyddogion yn twyllo yr Indiaid gydag ymborth a dillad, a hyny yn y dull mwyaf cywilyddus. Rhoddodd y blaenor mawr, Red Cloud, beillied, siwgr, gwrth- banau, &c., iddo, fel engraifft o'r hyn a anfonwyd iddynt gan y llywodraeth, y rhai a ddangoswyd i'r Arlywydd; ac mae yn ymddangos y penododd dirprwywyr i chwilio i'r mater. Yr oedd y goruchwyl- iwr J. J. Saville yn honi ei fod yn porthi ac yn dilladu 15,117 o Indiaid, ac yn codi pris am hyny oddiar y llywodraeth, tra mae Prof. Marsh yn barod i brofi nad oedd yno dros 8,400 Mae yn amIwg oddiwrth ddinoethiad Prof. Marsh, fod y goruch- wyliwr mewn cyngrair gyda masnachwyr anonest i dwyllo y llywodraeth ac ysbeilio yr Indiaid o'r hyn sydd yn deilwng iddynt.
[No title]
RIIODDIR ar ddeall yn awr fod plaid bo- liticaidd newydd wedi dyfod i fodolaeth yn sydyn iawn, o'r enw American League; ac mae yn ymddangos ei bod yn sylfaenedig ar egwyddorion y Know Nothings, fu yn cynhyrfu y wlad flynyddoedd yn ol. Hon- ir fod 40,000 yn perthyn i'r blaid yn Nlial- aeth New York. Mae y coriforiad yn meddu llawer o ddirgelion, arwyddeiriau a nodau adnabyddus i'r aelodau yn unig; ac mae llw pob cyfrinfa yn fanwl a rhwymed- ig. Prif am can y blaid ydyw cael Americ- aniaid genedigol i lywodraethu America- z, dim swydd i dramorddyn na'i blant. Dyna ddigon i sicrhau yr un dynged i'r blaid ag oddiweddodd; y Know-Nothings ychydig flynyddau yn ol; ac mewn gwirionedd y mae yn anmhosibl i'r fath athrawiaeth dwyllodrus fyw mewn gwerin-lywodraeth oleuedig fel yr eiddo y Talaethau Unedig.
[No title]
ER holl ymdrechion Cymdeithas Hedd- wch i ddarbwyllo llywodraethau Ewrop o ddrygioni rliyfel, a'r angenrheidrwydd o dawelu pob anghydfod drwy gyflafaredd- iad, y mae yn ymddangos fod yno yn awr fwy o baratoadau at ryfela nag a fu yn yr oes hon. Ar y laf o Fai diweddaf yr oedd 5,000,000 o ddynion dan arfau yn barod i faes y gwaed, gyda 15,000 o gyflegrau, 1,- 250,000 o feirch, 2,036 o longau rhyfel yn cario 14,500 o fagnelau yn cael eu gweithio gan 280,000 o forwyr, a morfilwyr. Mae yr holl arfogaeth yn costio i'r gwahanol wledydd$560,000,000 yn flynyddol. Onid oes yn bosibl i wareiddiad a moesoldeb yr oes roddi atalfa ar y fath wastraff ar lafur, golud a bywydau? Onid oes llawer o waith :1 gwareiddio eto ar wledydd gwareiddiedig? Beth fydd barn y paganiaid am wledydd goleu a gwareiddiedig, pan ddeallant eu bod yn gwneyd y fath ddarpariadau at ladd eu gilydd?
IIOELIO CEL W YUBA U.
IIOELIO CEL W YUBA U. Nid yn ami y byddwn yn ymddarostwng i wneyd un sylw o'r enllihau atlirodus a ymddangosant yn wythnosol yn yr Ader- tising Sheet fudr, slafaidd, afler a didalent a gyhoeddir yn Pittsburgh, wrth yr enw Y WClSg. Mae y DRYCII ar y maes Newydd- iadurol er's pum' mlynedd ar hugain, ac erbyn hyn, wedi cyraedd safie annibynol, yn unig drwy ei deilyngdod a'i anmhleid- garwch fel Newyddiadur i'r genedl Gym- reig yn America; ac felly gall fforddio i chwerthin am ben ffolineb ambell i olyg- ydd rhagfarnllyd, culfarn a clienfigenllyd, a gadael yn ddisylw ensyniadau gohebwyr ffals a phenglwyfus. Ond yr oedd anwir- eddau golygydd y papyryn uchod yr wyth- nos ddiweddaf mor haerllug a gwyneb- galed, fel nas gallwn eu gadael i ddianc yn ddisylw. Yr ydym yn gwybod fod bodau y papyr dan sylw, mewn gwewyr parhaus o herwydd ein bod yn eu hystyried yn Salach nag islaw sylw," canys trwy liyny y maent colli advertisement pwysig iawn. Am y tro hwn rhoddwn iddynt yr elw o sylw yn ein colofnau, a hyny yn rhad, am nad oes ganddynt ddim i dalu yn anrhydeddus am adverteisio. Ein trosedd oedd cyhoeddi, yn nglyn ag adolygiad ar Rowell's Newspaper Directory, enwau a chylchrediad cylioeddiadau Cym- reig America-sef y sylw hwn: A ganlyn yw nifer derbynwyr y cyhoeddiadau Cymreig, yn ol y llyfr hwn: Y DRYCH, 5.993; YCyf- aill, 2,200; Baner America, 2,000; Y WasIl, 1,000. Ni ddywedir beth yw cylchrediad y Cenhadwr. Ym- ddengys mai amcangufrifon yw rhai o'r uchod, ond maent yn ddigon cywir i ddangos dylanwad cydmar. iaethol y gwahanol newyddiaduron. Y mae cylch rediad gwirioneddol y DRYCR yn bresenol tua mil yn fwy na'r cyfnf a roddir i lawr yma, a dichon fod cylchrediad rhai o'r papyrau eraill wedi ych. wanegu rhyw gymaint; ond Y MAE YN FFAITH DDI- AMHEUOL fod cylchrediad y DRYCH bron gymaint ag eiddo yr holl gyhoeddiadau, eraill gyda'u gilydd, ac eithrio Blodau yr Oes, yr hwn sydd yn meddu tua 2,000 o gylchrediad. Sieryd hyn rywbeth am werth y DRYCH fel cyfrwng hysbysiadol. A gellir dweyd fod ei gylchrediad yn parhau i gynyddu er gwaethaf yr amser caled. Cyhoeddasom yr uchod fel item of news, a farnem o ddyddordeb i Gymry America, heb yngan gair am y Wasg yn fwy na'r cyhoeddiadau eraill. A buom ofalus hefyd i roddi ar ddeall mai "amcan-gyfrifon" oedd y ffigyrau, ac y gallai fod cylehrediad y papyrau a enwir yn fwy nag a osodir allan drwyddynt; megis ag y mae cylch- rediad y DRYCH wedi cynyddu er pan roddwyd nifer ein cylchrediad y 5,933— i gywirdeb yr hwn, y pryd hwnw, y gwnaeth Mr. J. Mather Jones affidavit, yr hyn ni feiddiai pobl y Wasg wneyd o ber- thynas i'w cylchrediad liwy, gan mor fychan ydoedd. Ond wele y golygydd clwyfedig a bombastaidd yn rhuthro yn mlaen i farnu ein hamcanion, gan honi ein bod yn gwybod "mai anwiredd oedd yr hyn a argrafOwyd yn llyfr Rowell, &c." z, Difynwn o'i ysgrif gelwyddog fel y canlyn: Nid yw yr un o'r cyfrifon yn gywir-y mae un o honynt yn rhy uchel oflloedd, ac eraill yn rhy isel o filoedd. Nid 1,000 ydyw ein cylchrediad, ychwaith, er i'r DRYCH gyhoeddi y rhif hwnw. Nis gallwn lai na chredu yn benderfynol fod gwyr y DRYCH yn gwybod mai anwiredd oedd yr hyn a argrafEwyd am danom yn llyfr Rowell & Co., ac mai eu hamcan yn copio cynwys y llyfr hwnw, oedd ceisio ein drygu a'n gosod mewn sefyllfa isel o flaen Cymry America. Pe buasem yn awyddus iawn am eu drygu," gallasem wneyd hyny yn llawer rhwyddach na thrwy ddifynu o lyfr Ro- well. Mae genym well tystiolaethau o lawer wrth law; a phe buasem yn arfer bradychu cyfrinach, cyhoeddasem lythyr a dderbyniasom o Bwyddfa y Wasg oddiwrth ei golygydd dliveddar, cyn iddo gychwyn i Gymru-dyn sydd a llawer mwy o fonedd- igeiddrwydd a thalent yn perthyn iddo na'r bwngler sydd yn ceisio golygu y papyryn yn awr; yr hwn a ddywed yn mhellacli: Hoifem yn fawr pe gwnelai pobl Utica dyngu nifer eu cylchrediad, yn nghyd a thyngu y swm o arian a dderbyniwyd ganddynt y flwyddyn ddiweddaf, a gwnawn nmau yr un peth. Nid yw Directory Row- ell a'i Gwm., i'w ymddiried ynddo, fel y gwyr pob cyhoeddwr yn y wlad hon. Gallasem ni yn hawdd lenwi blank, a dweyd fod ein cylchrediad yn 5,933," a chyhoeddid ef felly gan Rowell. Dyna yn gymwys yr hyn a wnaeth "y cenediaethol." Wel, gan eu bod wedi herio cymaint yn nghylch cylchrediad y DRYCH ni a'u cym- erwn ar eu gair, gan fod yn barod i brofi, fod cylchrediad y DRYCH gymaint ag yr honir uchod; ïe, yn fwy hefyd. A chofier mai ein cylchrediad rheolaidd a feddyliwn. Ac yna bydd golygydd y Wasg wedi ei brofi yn dyst celwyddog, gan iddo ddweyd fod y cyfrif hwn "yn rhy uchel o filoedd." 0 dan ddeddf newydd y llythyrdy, y mae pob cyhoeddwr yn gorfod talu y Pos- tage yn mlaen llaw, bob wythnos, ar bob papyr a anfonir o'r tu allan i'r County. Hyny yw, pwysir y sacheidiau oll eyit, eu hanfon </?' Post Office, a thelir clud-doll yn gyfatebol. Felly, y mae receipts wythnosol y Post-master yn ddangosiad cywir o gylch- rediad y papyr, o'r tu allan i'r County. O'r laf o lonawr hyd Mehefin 30ain, talasom fel Postage ar y DRYCH$284.76, sef yn ol cyfartaledd 0 $10.95 yn wythnosol, oddi- wrth yr hyn y gwel hyd yn nod y golyg- ydd cibddall hwn, os yw yn gwybod rhyw beth am rifyddiaeth a phwysau papyr, fod ein cylchrediad presenol o'r tu allan i Sir Oneida, yn ymylu ar y cytrif a roddir yn RowelVs Directory. Heblaw hyny, yr ydym yn anfon sachaid dda o'r DRYCH i sefydl- iadau Cymreig Sir Oneida, yn glir oddi- wrth Bostage; yr hyn a wna ein cylchred- iad gwirioneddol rhwng 6,000 a 7,000 ac nid oes arnom ofn i unrhyw spy yn ngwas- anaeth pobl y TVasg chwilio allan i gywir- deb y cyfrifon 11 y Bellach, yr ydym yn eu herio hwythau i gyhoeddi swm eu Postage wythnosol, yn nghyd a'r nifer o gopiau a anfonir gan- ddynt i Swydd Allegheny yn ddidraul.— Yna gallwn gydmaru y ffigyrau a'r rhai sydd genym mewn llythyrau eyfrinachol, oddiwrth bersonau a ddylent fod yn gwy- bod yn lied dda. Gyda golwg ar ein D&rbyniadau arianol, nid oes arnom un cywilydd eu cyhoeddi; ond ofnwn y parai hyny i reolwyr Y Wasg dynu gwynebau can hired a ffidl "Carad- og," ar yr amser caled yma. Digon o loes yw iddynt gael gwybod, er ein bod yn rhoddi papyr harddach, mwy costus a gwell argraffwaith, yn gystal a thua phum colofn mwy o ddarlleniad i dros chwe' mil o ddarllenwyr nag a roddir ganddynt hwy i'w hychydig ddarllenwyr; eto, ein bod yn talu pob gofynion yn onest ac yn brydlon, fel na fedr neb ein gofyn o gymaint a chan dolar! Y mae hyny yn lied dda ar yr amser presenol, pan y mae stockholders rhai papyrau newyddion y gwyddom am danynt yn edifarhau o'u calon eu bod erioed wedi cymeryd eu rhwydo i brynu shares yn- ddynt! Eitlir nid yr anwireddau uchod ydynt y rhai mwyaf pwysig ynein golwg; ond yr anwiredd bwriadol, noeth, haerllug a beiddgar a ganlyn: Y maent wecli amcanu er ys talm lindagu y Wasy, a chymerant fantais, felly, i gyhoeddi pobpeth a fed- rant am danom, ond y gwirionedd. i awel ymfodd- lonem iddynt ein hadolygu, a chyboeddi yr hyn a fynant am danom, pe gwnaent aros ar hyny. Ond cymerant hwy gam yn mhellach, ac ymdrechant sug- no ein gwaed. Ceisiasant ein drygu, amser yn ol, o flaen y Postfeistr Cyffredinol yn Washington, gan ddwyn cwyn yn ein herbyn am anfon darlun Car- adog drwy'r mail i'n tanysgrifwyr yn amgauedig yn y Wasg. Darfu iddynt feddwl y buasent yn llwydao, trwy hyny, i gau y llythyrgod yn erbyn ein newydd- iadur. Ond siomwyd hwynt yn fawr, druain. Ni luniwyd celwyddau erioed mwy gwyneb-galed a digywilydd na'r uchod.— Nid oes braidd wythnos yn myned heibio, nad oes yn y Wasg gyfeiriadau coeglyd, salw, enllibus a bradwrus at y DRYCH a'i olygwyr, gan ryw ddynionach gwen- wynllyd uwch ffug-enwau; eithr bydd gen- ym orchwyl mwy pwysig i'w gyflawni, na chymeryd sylw o honynt. Ond am yr haeriad ein bod wedi amcann eu drygu o flaen y Post Feistr Cyffredinol yn Wash- ington, yn nghylch arlun Caradog, y mae y celwydd hwn yn coroni y lleill oil, ac os oes gwreichionen o ddynoliaeth yn yr hwn a'i lluniodd, dylai wrido o herwydd anfad- rwydd ei galon. Yr ydym mor lan oddi- wrthy cyhuddiadau a'r baban sydd heb ei eni. Nid dyma y tro cyntaf i ni gael aw- grym am hyn, canys derbyniasom lythyr oddiwrth gyfaill o Pittsburgh yn ein hys- bysu fod pobl y Wasg yn dweyd eu bod wedi cael sicrwydd mai rhywun o Utica a wnaeth eu trosedd yn hysbys yn Washing- ton, a'u bod yn credu fod y rhywun hwnw yn dal cysylltiad a'r swyddfa hon. Mor fuan, gan hyny, ag y gwnaed y cyhuddiad yn gyhoeddus, anfonasom at Postmaster Utica i ofyn a wyddai ef rywbeth am y mater; ac wele ei dystiolaeth: UTICA P. 0., July 19, 1875. Dear Sir-Your communication of this date, de- siring a statement from me in relation to my actions with a newspaper called YWasg, containing an en- graving in April last, is received. On the 9th of April last I forwarded a copy of said paper with engraving enclosed to the P. 0. Depart- ment, and said in my letter that I presumed each copy of the whole issue .contained a like engraving, and thereby subjecting the entire issue for the loth April to third class rate of postage; and, therefore, I hoped the P. O. Department would give the case their attention for the benefit and protection of the postal service. Yours, very respectfully, C. H. HOPKINS, P. M. T. J. Griffiths, Esq. Ystyriwn yr uchod yn ddigon i hoelio y celwydd wrth wefusau ein cyhuddwyr drwg-dybus a rhagfarnllyd.
[No title]
—Cyn dydd boreu y 15fed cyfisol torodd nifer o grwydriaid i dy James Roondon, Orange Co., N. J., a rhwymasant ef a'i briod; yna ysbeiliasant y tf o aur, arian, a nwyddau, i'r swm o un cant ar ddeg o ddoleri. Clywodd y garddwr eu swn, ond hwy a'u tarawsant ef i lawr, a diangasant.
AOHOS Y PARCH. II. W. BEECIIER,…
AOHOS Y PARCH. II. W. BEECIIER, AC ENSYNIADAU Y PARCH. G. GRIFFITHS. Wrth ffarwelio, yn ein rhifyn cyn y di- weddaf, a'r gwaradwydd gwarthus, fu yn gwenwyno cymdeithas er's cymaint o am- ser, yr oeddym yn gobeithio y buasai pawb yn foddlon i gladdu yr ysgerbwd aflan yn mor ebargofiant bythol, ac na fuasai neb i'w gael yn awyddus am ei adgyfodi; ond yn hyn cawsom ein siomi, fel y gwelir oddiwrth lythyr y Parch. G. GRIFFITHS, un o gyfeillion goreu y DRYCR, mewm col- ofn arall. Yr ydym yn ei gyhoeddi yn unig o herwydd ei fod yn beirniadu ymddygiad y DRYCH yn ystod y prawf; canys nid ydym yn dewis celu dim ra wnaethom, ac wrth roddi lie i lythyr Mr. Griffiths, nis gallascm gyda thegwch wrth- od cyhoeddi y ddau lythyr arall. Buasai yn well genym gadw y tri allan; ond gan fod yr awdwyr yn ddyuion cyfrifol, a dau o honynt yn weinidogion yr efengyl, gad- awsom iddynt draethu eu syniadau am y tro hwn yn unig. Gan mai baich llythyr Mr. Griffiths ydyw cwyn yn erbyn anliegweh y DRYCH yn ys- tod y prawf, yr ydym yn erfyn ar ein dar- llenwyr i'w ddarllen yn ofalus, fel y deall- ont swm a sylwedd ein trosedd. Beth byn- ag a haerir ac a gredir i'r gwrthwyneb, yr ydym ni yn dweyd yn gydwybodol a pliwyllus, i ni amcanu ymdclwyn yn berffaith deg ac anmhleidiol drwy ystod yr holl bnlwf. Rhaid ein bod yn gwybod ein hamcan yn well na neb arall; ond y mae gan eraill hawl i farnu ein hamcan oddiwrth ein gwaitli. Pe buasem yn awyddus am greu dylanwad anffafriol i Mr. Beecher ar fedd- yliau y darllenwyr, nid yr awgrymiadau bychain a ddyfyiiodd Mr. Griffiths fuasem yn ddefnyddio; canys yr oedd llawer gwell defnyddiau wrth law, a'r rhai hyny o enau Mr. Beecher ei hun. Y gwir ydyw hyn: Ni chafodd y cyhoedd Cymreig fantais i ffurfio barn deg ar achos Mr. Beecher, o herwydd na chyhoeddwyd yn Gymraeg y llythyrau a ysgrifenodd pan yn amcanu cymodi y pleidiau, a thawelu y gwarad- wydd. Darfu i ni beidio eu cyhoeddi yn gwbl o gydymdeimlad ti Mr. Beecher, rhag duo ei achos, cyn iddo ef gael cyfle i'w liesbonio; ond er y cwbl, cyhuddir ni o beidio cyhoeddi y ddwy ochr! Ymddengys fod Mr. Griffiths wedi tram- gwyddo wrthym o herwydd y frawddeg ganlynol: "Mae pleidwyr enwadol Mr. Beecher mor selog dros ei anffaeledig- rwydd, fel na fynant gredu iddo wneyd dim ond yr hyn oedd ddoeth, cyfiawn ac anrhydeddus yn ei holl gysylltiadau a theu- lu Mr. Tilton." Er profi y gosodiad uchod, cyfeiriwn at yr hyn a gymerodd le yn y cyfarfod cy- Ily hoeddus yn Eglwys Plymouth, ar ol ter- fyniad y prawf a chyn hyny. Yr oedd y ganmoliaeth a'r ucliel foliant a roddwyd i Mr. Beecher mor eithafol ag y caniatiii an- sodd-eiriau yr iaith Saesonaeg iddynt fod. Nid oedd yno son am fai nac anoethineb, ond purdeb dihalog; a mynent gredu hyny hyd yn nod pe buasai deng ftlil o reith- wyr yn ei farnu yn euog." Heriasant yr holl fyd, yn nghyd ac anwn a'i holl ellyll- on; a dywedodd y duwiolfrydig Shearman, yr hwn, amser yn ol, oedd mor selog wrth amddiffyn y puteiniwr Jim Fisk, fel y can- lyn: Pa le byna-yr elych di, yr af fin; au; ac yn mha le bynag y lletyech di, y lletyaf finau; dy bobl di fydd fy mliobl i, a'th Dduw di fydd fy Nuw inau; lie bynag y byddych di marw, y byddaf finau farw, ac yno y'm cleddir;" Gwada Mr. Griffiths y gosodiad blaen- orol drwy y geiriau hyn: Na, na, yn yr haeriad ysgubellog yna, yr ydych, nid yn unig yn gwneyd cam a Mr. Beecher, ond hefycl a miliynau, yn mhob gwlad, a gre(lant yn ei ddienog- rwydd o> cyhuddiad a ddug Tilton a Moulton yn ei erbyn—eto a addefant,/« £ ninau, iddo wneuthur "yn ynfyd iawn," a mawr golli ei le mewn llawer o beth- au. Nid ydym wedi canfod yn mysg pleidwyr Mr. Beecher gymaint ag un a feddyliant na chollodd ei le i fesur. Os gwnaeth "yn ynfyd iawn, a mawr gollz ei le mewib,llaver o bethau," onid oedd yn haeddu cerydd o'r hyn lleiaf Ond pa fath gerydd a dderbyniodd oddiwrth swyddog- ion Eglwys Plymouth? Wel, y mae yr atebiad wrth law, sef codi ei gyflog o ugain mil i gan' mil o ddoleri, er ei fod wedi gwneyd "yn ynfyd iawn, a: cholli ei le mewn llawer o bethau Amcan Mr. Grif- fiths ydyw profi fod y DRYCH |wedi ym- ddwyn yn anffafriol i Mr. Beecher, ac wrth wneyd hyny y mae yn troi min ei gleddvf ato ei hun; canys ni ddefnyddiodd y DRYCH o gwbl ymadroddion mor anffafriol ag a wnaeth Mr. Griffiths ei hun, sef "iddo (Beecher) wneyd yn ynfyd iawn, a mawr golli ei le mewn llawer o bethau Mae yr addefiad yna o eiddo Mr. Griffiths yn llwyr ddirymu ei gwyn yn erbyn y DRYCH, o herwydd nas gall ganfod ar ei dudalenali eiriau mor gelyd am Mr. Beecher. Cwynir yn nesaf o herwydd y frawddeg ganlynol o eiddo y DRYCH: Yn awr, sr 01 chwe' mis o brawf, methwyd argyhoeddi deuddeg o ddynion fod Mr. Beecher n. hollol lan oddiwrth y cyhuddiadau yn ei erbyn." Rhaid fod Mr. Griffiths yn hatd up am rywbeth yn erbyn y DRYCH, cyn y cwynasai o herwydd y gwirionedd llythyr- enol a gyfleuir drwy y frawddeg flaen oro], Onid ydyw mor amlwg a haul haner dydd y methwyd argyhoeddi yr holl reithwyr fod Mr. Beecher yn ddieuog ? Neu, er boddloni quibble yr adolygydd, dywedwn y methodd eyfreithwyr Mr. Beecher "rwys- tro ei ymosodwyr i'w fwrw yn euog," ya
Advertising
EIN TELERAU AM 1875. Pris yn mlaen llaw$2.50. Pris y DRYCR i Glybiau ..$2 20 JEif Pris y DRYCH i Canada .$2 70 PF Pris y DRYCH i Gymru 3 50 Anfoner arian mewn Post Office Order neu Registered Letter, neu mewn Draft arlNew York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. —— LLYFR NEWYDD—" The Golden State and Us Res&urces," gan y Parch. J. J. POWELL. Yr han- es oreu am Dalaeth California. Pris $1.50, ac i'w gael gan R. T. Roberts, U. S. Mint, San Francisco, California. 4'75—29'75 H. A. POWELL, ATTORNEY AT LAW, RHIF. 520 MONTGOMERY STREET, SAN FRANCISCO. ~Vy L. B. WLLLIAIIS, G WA WE-ARL UNYDD, UWCHBEN 77 & 79 GENESEE ST., UTICA, N. Y. Cymerir pob math o arluniau, yn y dull goreu sydd yn bosibl. 8.75tf RHYBUDD.—Dyniuna JOHN EMDIN, Tremonydd, a'r unig wneuthurwr DRYCHWYDRAU (Specta- cles) yn Utica, alw sylw ei gyfeillion a'r cyhoedd yn gyffredinol, ei fod yn gwarantu pob Spectol a werth- ir yn ei fasnachdy i roddi boddlonrwydd perifaith. Os na bydd yn flitio y llygaid, gellir ei newid unrhyw nifer o weithiau. Adgyweirir hen wydrau yn ddest- lus a rhadlawn. Ei fasnachdy o hyn allan yn 9 BAGGS HOTEL, 32-ly Ar waelod Heol Genesee, Utica. Post Free. 30 Cents. SKETCHES ABOUT WALES. By Owen of Wales, Pontypridd, S. Wales. CONTENTS. How a Queen of England fell in love with a Welsh- man. A Visit to the Grave of the Last Native Prince of Wales. The Wonderful Old Scholar of the Vale of Gla- morgan, viz: IOLO MOESANWG. The Great South Wales Choir at Aberdare; Pre- sentation of the Welsh Flag; Meeting at Colston Hall, Bristol; Journey to London; Harp and Fiddle in the Train; the Victory at the Crystal Palace; the Reception by the Prince and Princess of Wales, and the Czarevna of Russia; and a complete list of MEM- BERS OF THE SOUTH WALES CHOIR, as it appeared below the Handel Organ at the Crystal Palace on the day that Caradog Led them on to Victory." I rejoice to find that a gentleman connected with the South Wales Press has published a book giving the history of the visit to the Crystal Palace in 1873, and also a complete list of my glorious "five hun- dred." Yours faithfully, GRIFFITH RHYS JONES (Caradog). Treorky, Rhondda Valley, June 15. MASNACHDY DODREFN DAVIES., Franklin Square, Utica, yw y MASNACHDY MWYAF A RHATAF yn Nghanolbarth New York, lie y gellir prynu Dodrefn o bob math at wasanaeth y Parlwr, y Gegin a'r Office", hefyd Mattrasses, Plu a Drychau (Looking Glasses am brisiau rhesymol. Cofiwch y rliif—51, 52 a 53 Franklin Square, gyferbyn a'r Arcade newydd. JOHN A. DAVIES. ENWAU YR AGERLONGAU A gychwynant o New York y mis hwn. Agerlongau. Morio. j I ba le. Swyddfa N. Y. Wyoming Gorph. 13[Liverpool[29 Broadway, Abyssinia Gorph.14 Liverpoolj4 Bowling Green S. of Indiana Gorph.14 Glasgow. 72 Broadway. Adriatic Gorph.17 Liverpool 19 Broadway. Spain Gorph.17 Liverpool 69 Broadway. City of Paris.. Gorph.17 Liverpool 15 Broadway. Elysia Gorph.17 Glasgow. 7 Bowling Green Idaho Gorph.20 Liverpool 29 Broadwpy. Algeria Gorph.2t Liverpool 4 Bowling Green Erin Gorph.24 Liverpool 69 Broadway. Celtic Gorph.24 Liverpool 19 Broadway. City of Berlin. Gorph.24 Liverpool 15Broadway. California Gorph.24 Glasgow. 7 Bowling Green Montana Gorph.27 Liverpool 29 Broadway. Scythia Gorph.28 Liverpool 4 Bowling Green S. of Georgia.. Gorph.28 Glasgow 72 Broadway. C.of Richmond Gorph.31 Liverpool 15 Broadway. Republic Gorph.31 Liverpool 19 Broadway. City ofBrussels Awst 7. Liverpool 15 Broadway. Britannic.. Awst 7. Liverpool 19 Broadway.
---------------DYDD IAU, GORPHENAF…
DYDD IAU, GORPHENAF 22,1875. T. J. GRIFFITHS, Cyhoeddwr. GOLYGWYR, J. W. JONES, J. C. ROBERTS. YR ydym wedi derbyn papyrau Cymru i fyny i'r 10fed cyfisol; a gwelir cynodeb o'u cynwysiad mewn colofnau eraill. I'r glo- wyr, bydd hanes y cyfarfod yn Merthyr yn ddyddorol; i'r cerddorion, hanes cyfarfod o bwyllgor y Cor Mawr yn Aberdar; i'r enwadau crefyddol, amryw grybwyllion eg- lwysig; ac i'r Patagonwyr, y,'newyddion di- weddaraf o'r wladfa. MEDDWN y pleser o hysbysu darllenwyr y DRYCH fod TO--A AP DAYIES, ar ol gorphen ei ysgrifau addysgiadol ar "Awstralia a'i Brodorion," yn bwriadu ysgrifenu hanes ei ymweliad ag Ynys St. Helena, lie y bu yr enwog Napoleon I farw mewn alltudiaeth. AR dudalen arall o'r rhifyn hwn, yr yd- ym yn cyhoeddi y Benod Gyntaf o lyfr nodedig Oliver Goldsmith- Vicar of Wake- field, wedi ei Gymreigio, o dan y teitl- "Hanes Bywyd Hen Berson Llanedwydd." YN EIN "NEWYDDION TRAMOR" gwelir sylwedd llythyr a dderbyniwyd o'r Wladfa Gymreig, dyddiedig Ebrill 22ain, oddiwrth yr hwn y gwelir eu bod wedi cael cynauaf da owenith yno eleni. Mae Mr. Edwin Roberts wedi glanio yn Nghymru, a deall- wn y bwriada ymweled ag America cyn ei ddychweliad. Sieryd yn ffafriol am y Wladfa; a dywed fod y cnwd gwenith yn cyraedd i 4000 neu 5000 o fanegas. DYMUNEM alw sylw ein darllenwyr at Hysbysiad a welir yn y rhifyn hwn am Diroedd rhad a manteisiol ar werth yn Col- umbus Junction, Iowa, ger y, sefydliad Cymreig blodeuog yno. Ysgrifena amryw o Gymry atom fod yno le campus i amaeth- wyr a masnachwyr Cymreig i sicrhau car- trefi iddynt eu hanain. Ceir pob manylion ond anfon yn ol y cyfarwyddyd yn yr Hys- bysiad.
[No title]
MAE yn ddrwg genym ein bod wedi cael ein gosod o dan angenrheidrwydd i gymer- yd cymaint o ofod ein herthyglau golyg- yddol yr wythnos hon gyda phethau per- sonol, yr hyn sydd yn groes i'n harfer.— Mae genym y parch mwyaf i farn y Parch. G. Griffith, yr hwn sydd bob amser yn beidiwr selog i'r DRYCH, ac yn addaw bod felly rliagllaw; ond ni allesid disgwyl i ni adael ei lythyr ar gwrs y DRYCH gyda gol- wg ar brawf Beecher yn hollol ddisylw. Beth bynag a ysgrifenir eto o'r naill oclir neu y llall, gwneir hyny yn foneddigaidd a didramgwydd.—Yn ngwyneb ensyivadau ac anwireddau pendant golygydd anfoneddig- aidd a dichwaeth papyryn Pittsburgh, yr oedd yn ddyledswydd arnom ddyfod allan i fynegu y gwirionedd yn eglur, gonest, a di- z!1 cl dderbyn wyneb. Nid yw y Drycii yn teimlo dim oddiwrth fodolaeth y papyryn dinod hwnw, ac yr ydym yn foddlawn iddo ym- lwybro wrth ei bwysau ei hun goreu y gallo; ond gadawed lonydd i ni, a cliofied y ddiareb-" Cellfigen a ladcl ei pherchenog."
[No title]
GWELIR oddiwrth ein newyddion tramor fod llifogydd dinystriol wedi cymeryd lie yn JNeheudir Cymru, a Gorllewin-barth Lloegr, yr wythnos ddiweddaf, pryd y boddwyd pymtheg o bersonau, ac y coll- wyd llawer o eiddo. Yr oedd y dinystr yn alaethus yn Mynwy a Morganwg, yn Sir- oedd Henffordd, Devon, Oxford, &c.; ac mae miloedd o erwau o dir dan ddwfr, a'r colledion yn hynod o drymion mewn adeil- adau, cynyrch y tir, anifeiliaid, &c.
[No title]
CYHOEDDA y Des Moines (Iowa) Register, fod Mr. Gliarles E. Locke, Kansas City, wedi cytuno gyda'r Parch. H. W. Beecher, i draddodi ugain o ddarlithiau yn y Gor- llewin o hyn i ddiwedd y flwyddyn, am $500 y ddarlith a'r costau. Traddodir ar- eithiau yn St. Louis, Des Moines, Kansas City, St. Joseph, Omaha, Leavenworth, Burlington, Lawrence, Davenport, &c. Bydd pris y tocynau o 50c. i $1. Dywed y Register fod swm da o arian wedi eu talu i Mr. Beecher yn mlaen llaw. Mae$10,000 am 20 o ddarlithiau yn bris da.
[No title]
CREWYDcynwrf anarferol yn mhlith y gwragedd bron yn mhob ty yn New York a'r cylchoedd, yr wythnos ddiweddaf, gan y torwyr tai beiddgar, fuont yn rhodio o dy i dy, gefn dydd goleu, gan rwymo y gwragedd a lladrata wrth eu liewyllys. Eu cynllun oedd curo wrth y drysau, a myned i mewn i gymeryd arnynt edrych y pibcll- au nwy neu ddwfr; yna troi yn sydyn at y menywod a'u rhwymo draed a dwylaw, a chau i fyny eu safnau. Wedi hyny yr oeddynt yn alluog i wneyd fel y mynent Buont yn llwyddianus bob cynyg, ac nid oes yr un o honynt wedi eu dal. Mae y merched yn gomedd aros yn y tai eu hun- ain yn bresenol, ac mae ganddynt esgus da dros orfodi y gwyr i aros gartref.
[No title]
Ofnir y bydd canlyniadau annymunol i'r anghydfod sydd yn bodoli l'hwng y Tal- aethau Unedig a Gweriniaeth Venezuela, o herwydd fod y wlad hono yn esgeuluso talu ei dyledion i ddinasyddion y wlad hon, yn unol a'r amodau a wnaed yn 1866. Nid ydyw Venezuela yn gwrthod talu; ond horia fod ganddi hawl i'w hamser ei hun i wneyd hyny. Mae ffurf-lywodraeth y wlad yn debyg i'r eiddo y Talaethau Unedig-Arlywydd, Is-arlywydd a Gwein- yddiaeth. Cynwysa 13 o Dalaethau, a phob un yn meddu ei deddfwrfa ei hun. Cym'er terfysg gwladol le yn ami yno, o herwydd y gorawydd am annibyniaeth Talaethol. Os na ddaw y wlad i delerau boddhaol yn fuan, torir pob cymundeb rhyngddi a'r Talaethau Unedig.