Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
LLOFFION 0 BELL AC AGOS.
LLOFFION 0 BELL AC AGOS. Ychydig amser yn ol, aeth ci perth- ynol i amaethwr yn liollyn, Yorkshire, Lloegr, yn gynddeiriog, a bratliodd am- rvw anifeiliaid. Bu raid i'r ff ai-mwr ladd tri bustach, dau ful, dau fochyn, a cheffyl. .rrcwchgwenyn: Dinas athrylith adeiniog—gweithfa, Bras-goetlifil llysieuog; Ogof weithiol gyfoethog, Llaf ur gi-eddf y w'r gelif ro gro-, 1 1:1 Cyfrifir fod gwerth dros$2,000,000 o ychain wedi eu lladrata yn Texas gan yspeilwyr o Mexico er y laf o Ionawr. Y mae y llyvvodraetli yn awr wedi anfon llongau rhyfel i enau y Rio Grande, i edrych ar ol ein buddianau yno ac i gyd- weithredu a'n mihvyr i atal rlmthriadau y lladron. Ailforiwyd yn 1854 o San Francisco 175,000 o bwysi o wiaii, gwerth$14,000. Yn 1874, ailforiwyd 86,088,701 o bwysi, yn wertli$8,182,000 Mae miliwn o bwysi o wlan a gneifiwyd eleni wedi ei werthu yn San Francisco am o 18 cent i 25 cent—sef o un i ddwy cent yn uwcli na'r pris y llynedd.' .Englyn i'r Peiriant Dyrnu Ha, i'r felin yd geir i'w falu—pur Trwy'r peiriant sy'n dyrnu; Diwall fodd, ii well na'r dull fu, but bynag, na'r hen ffust banu. y 11 .Dywed llaethwyr profiadol, y dylid sylwi yn neillduol ar liw y croen o'r tu fewn i glustiau gwartheg godro. Bron yn ddieithriad, meddir, os bydd o liw melyn, rhywiog, bydd y gwartheg hyny yn du- eddol o roddi llawer o laeth da. .Dyma gyngor un o feirdd Prospect gyda golwg ar y "ceiliog rhedyn yr hwn, fel yr ydym yn coelio, sydd yn lied ddieithr i ysgogiadau cyflym y creadur rheibus hwnw: Deuwcli, pob perchen tyddyn,—a lladdwn Holl geiliogod rhedyn, I'w cadw rhag d'od gwedyn I dlodi 'nifail a dyn. RED OAK, PA., Gor. oed—Mewn papyr arall, yn ddiweddar, cylioeddwyd ysgrif uwch y llythyren D. Pe buasai yn D—1, buasai yr enw a'r ysgrif yn cytuno â'u gil- ydd yn well, o lierwydd yr oedd yr ysgrif yn hollol anwireddus. Ond dyma y ifeith- iau am y lie. Daeth y locustiaid yma ar y 14eg o Mehefin, a bwytasant beth corn yn lied lwyr, ond ychydig iawn o niwed a dderbyniodd y gwenitli, y ceirch na'r Ilin; ac yn wir, ar ol iddo gael amser i dyfu, y mae y corn yn edrych yn lied dda yn awr. Rolling prairie ydyw y tir, ac nid gwastad- tir, fel y mae ef yn ei ddesgrifio. Hefyd, dywed fod yma ddau gapel, yr hyn sydd gelwydd eto, canys y gwir yw, nad oes yr un capel yn y plwyf hwnw gan un llwyth, iaith na chenedl, er fod ar yr Annibynwyr wir angen am un, o herwydd eu bod yn Iluosogi.-TV. II. Jones. JUDSON, lrNN. Y mae y ffarmwyr yma wedi gweled amser caled, mewn canlyniad i gnydau bychain a haint y locustiaid. Mor fawr yw difrod y creaduriaid rheibus hyn, fel oddiwrth y 111 o fwsieli o wenith a heuais, nis gallaf gasglu cymaint a llon'd llaw. A dyna dynged fy nghymydogion hefyd. Nid yw y corn chwaith fawr gwell, ac yehydig o geirch a gawn. Yn wir, y mae yn ymddangos yn dywyll iawn yma i ddyn ac anifail-wedi colli y gwellt a haner y gwair wedi ei fwyta.—R. TV: J.
TGHYDIG AM Y LOCUSTIAID.
TGHYDIG AM Y LOCUSTIAID. BUTTERNUT VALLEY, MINN. Gorph. 8.— Amser bywiog yn mhlith y locustiaid fu y pedwar diwrnod diweddaf. Nid ydynt wedi ymadael o Blue Earth County eto, ond disgwylir i hyny gymeryd lie bob awr; a thebygol fod llawer wedi mudo ymaith. Gwibiant drwy'r awyr yn heidiau anferth, a gellid meddwl, wrth edrych tua'r haul, fod ystorm o eira gyda'r fwyaf dycliryn- 11yd yn dyfod. Mae y cyffro mewn llawer ardal braidd yn annyoddefol y dyddiau hyn, o herwydd y cegau aneirif sydd yn ymweled a hwy. Gyiperais daith echdoe bymlheg milltir tua'r 'south, ac ni welais erioed yd yn ymddangos yn fwy prydferth, ond cyn chwech o'r gloch yr oedd y locust- iaid wedi disgyn arno nes ei orcliuddio yn llwyr a hollol. Gan belled ag y gallwn weled, ac yr oedd hyny amrai fiilltiroedd, yr oedd y wlad yn ymddangos yn ddugoch neu o'r un lliw a'r locustiaid. Dealler fod hyn tuallan i'w magwrle, hatching ground, eleni, ac mae y wlad wedi ei gorchuddio lawer yn mhellach nag y bum i. Er mai i'r south-west yr oedd yr hyn a welais, yr ydym yn credu mai i'r north-east ac east y mae eu cyfeiriad; ond cewch ycliwaneg am hyn eto. Ychydig iawn o yd sydd wedi ei adael nes eir tua terfynau yr hatch- ing ground-ycliydig o geirch llwydaidd, ac ambell i ddernyn o gorn, ac oni buasai ein bod wedi cael digonedd o wlaw, ni fu- asai digon o borfa wedi ei adael yn y wlad. Ofnir y bydd y gwair yn brin iawn. Rhag i chwi gam-ddeall, a meddwl mai darn bychan o wlad sydd wedi ei difrodi-saif y valley townships ar yr ochr orllewinol i'r r rhandir difrodedig; felly nid yw y daith yn faith i fyned tuallan i'r rhandir ar yr ochr orllewinol.-E. J. Evans.
SEFYDLIAD FORESTON, IOWA.
SEFYDLIAD FORESTON, IOWA. Dechreuad y sefydliad Cymreig-ei fanteision —Gwahanol enwau y sefydliad. Adnabyddir y sefydliad hwn hefyd wrth yr enwau Limespring a Glen Roy; a bydd- ed i'r darllenydd gofio mai yr un sefydliad a olygir wrth y tri enw uchod, fel y cawn sylwi yn helaethach wrth fyned yn mlaen. Os edrychir ar fap y Dalaeth fe welir fod Swydd Howard ar ochr ogleddol y Dal- aeth, ac yn terfynu ar Dalaeth Minnesota; ac y mae y sefydliad Cymreig drachefn ar ochr ogleddol y Swydd, yn ymestyn yn mlaen i'r gogledd dros linell derfyn y ddwy Dalaeth, i Filmore Co., Minn. Ond i roddi ychydig o hanes y sefydliad o'i ddechreu hyd yn awr, ni a awn i'w ganol i ddechreu, sef i Foreston. Saif Foreston ar lan yr afon Iowa. Yr oedd yma felin lif, a melin flawd, ar raddfa fechan, ac ychydig dai, a stcre neu ddwy, y rhai a breswylid gan Americaniaid, cyn i'r Cymry ddechreu ymsefydlu. Er fod yma dri neu bedwar o deuluoedd Cymreig wedi sefydlu yn yr amgylchoedd, er y flwyddyn 1860 neu 1861, gan arwain math o fywyd patriarchaidu, a gwneyd eu cyn- aliaeth yn benaf wrth godi anifeiliaid, o herwydd nad oedd marchnad y pryd hwnw yn nes atynt na Magregor, ar lan afon y Mississippi, pellder oddeutu 70 milltir; eto ni ystyrid y lie yu sefydliad Cymreig hyd nes y daeth y liifeiriaut ymfudol i mewn oddeutu naw mlynedd yn ol. Gan yr edrychid ar Foreston yn He cyfleus o her- wydd ei water-power, a'r tebygolrwydd y bydclai i'r M. & St. P. fyned drwy y lie, dechreuwyd adeiladu tai a stores. Prynodd Owmni Cymreig cyfoethog o Wisconsin y felin, sef Mri. E. B. Williams, John Ap Jones, a'r Parch. John D. Williams, ac y mae yn gwneyd gwaith rhagorol. Yn fuan pryiiodd Cyiiii-y y tii-oedd cylcliynol bron yn llwyr, ac yn eu plith y cerddor enwog Mr. E. B. Williams. Yna sefydlwyd eg- Iwys gan y T. C., y cyfarfodydd yn cael eu cynal mewn ysgoldy ar y dechreu. Ond yn anffodus i'r pentref oedd a'i ddyfodol mor obeitliiol, aetli y rheilffordd lieibio iddo, gan gadw odcleutu tair milltir i'r de, lie yr adeilaclwyd Depot. Felly, yn fuan symudwyd i'r fan hono yr holl stores, fel nad oes yn awr yn aros i gofio am Dref Foreston, ond y felin ac ycliydig o dai anedd. Ond cofier na phrofodd hyn o un- rhyw niwed i'r sefydliad yn gyiiredinol, yr hwn a barhaodd'i gynyddu hyd nes yr aeth yr ysgoldy yn rliy fychan iddynt allu cynal eu cyfarfodydd ynddo, yr hyn a bar- odd iddynt adeiladu capel. Saif yr adeilad hwn oddeutu milltir i'r de o Foreston, ac y mae yn un hardd a helaeth. Ymgynulla iddo gynulleidi'a hynod luosog, nas gwelir ei liarddacli mewn unrhyw sefydliad Cym- reig yn y Gorllewin. Ond rhag troi yn rhy hir yn y canol, ni a symudwn yn mlaen yn y cyfeiriad gogleddol, gan roddi cam dros y llinell i Minnesota, i gael golwg ar ardal odidog arall. Glen Roy, Iowa. II. O. ROBERTS, [I'W BARIIAU.] (
CYFARFYDDIAD HYNOD.
CYFARFYDDIAD HYNOD. "CYNT Y CYPE-RFVU-n DAU DDYN NA DAU FYNYDD." PENOn VIII. Yr oedd yn adeg ddifrifol iawn yn y Wern, fel y gellid meddw], mewn canlyn- iad i farwolaeth Arthur Williams. Aetli y si ar led fod yn rhaid fod rhyw un a Haw yn yr amgylchiad gofidus; ond barnai y rhai mwyaf pwyllog nad oedd seiliau di- gonol i gasglu hyny, ac fod y ddrwgdyb- iaeth wedi codi oddiar y ffaith fod gelyn- iaeth led gyffredinol tuag ato, o herwydd ei ortlirwm a'igalon-galedwcli tuag at bawb oedd islaw iddo, ac oddiwrth y bygythion ly a'r melldithion a glywyd o dro i dro wrth son am dano. Aeth yr heddgeidwad yn foreu y diwr- nod ar ol y ddamwain i chwilio yn fanwl y fan lie cafwyd y corif, a galwyd am feddyg i archwilio yr archollion cyn rhoddi treng- holiad ar y corff. Ar ol myned drwy eu harcliwiiiadau, ymddiddanai yr heddgeid- wad a'r meddyg: Wel, Doctor, a gawsocli chwi foddlon- rwydd j'cli meddwl yn yr archwiliad?" Wel naddo yn wir, Jones, yn hollol, rhyngwyf fi a cliwithau. Mae yna. Ie cryf i ddrwgdybiaeth, ac eto nis gellir bod yn ddigon penderfynol ar y mater. Yr wyf yn metliu credu rywfodd y buasai codwm oddiar gefn y ceffyl yn malu ei ben yr un fath. Y mddengys i mi mai ar ei dalcen y 11 y syrthiodd, ond ar ei wegil y mae yr arcltoll- ion mwyaf angeuol. Nid oes dim tebyg i ol erfyn miniog arno, ond wedi ei falu y mae. Beth welsoch chwi yn eich ymcliwiliad?" Wei, mae yn anhawdd dweyd. Pe bu- aswn wedi gweled y lie cyn i'r dynion sy- mud y corff, buasai genyf well mantais.— Ni ddylasent ei gyffwrdd cyn i mi fyned yno, gan ei fod wedi marw. Gall fod yno struggle wedi bod, ac yr wyf yn credu fod yno ol traed heblaw eiddo y gweision yma, ond nis gallwn gymeryd fy llw ar hyn. Gan nas gallwch chwi brofi ei fod wedi cael cam, yr wyf yn metliu gweled y gallaf linau gael tystiolaethau cligon cryrion i brofi hyny "oddiwrth ddim a fedrais gan fod ar y fforcld, na dim a glywais chwaith." Wel, ein dyledswydd, beth bynag, Jones, ydyw cliwilio allan y gwirionedd. Gan nad pa mor angliymeradwy oedd A. Williams, nid oedd gan neb hawl i gymer- yd ei fvwyd, beth bynag." U Mae hyny yn eithaf gwir, Doctor; ond nis gall-wn byth deimlo yr un fath wrth ymlid llofrudd A. Williams ag y teimlem wrih ymlid llofrudd rhai eraill sydd yn y plwyf yma." Mae hyny yn eithaf gwir; a phe buasai yr hen lane o'r Fron wedi cyfarfod yr un dynged, buasai yr holl wlad oddiamgylch yn codi allan i huntio y llofrudd, a buasent yn lynclvio unrhyw ddyn ar ddrwgdybiaeth, fel y gwnant yn California. Wei, dyma y trengholydd yn dyfod. A ydyw y tystion a'r rheithwyr yn barod genycl ?" Y dynt." Ar ol i'r rlieitliwyr weled y corff, a chy- meryd y liw arferol, holwyd yn gyntaf y dyn oedd wedi gweled, ac wedi bod yn ymddyddan a'r ymadawedig ddiweddaf, pan oedd yn cychwyn o'r dref. Dywedodd hwnw ei fod yn ymddangos yn ei iechyd arferol, ac yn ddigon sobr, mor belled ag y gallai ef farnu, pan ydoedd yn ei adael ef. Wedi hyny holwyd y dyn oedd yn cadw y doll-glwyd (turnpike). Dywedodd ei fod wedi agor y gate iudo tua 11 o'r gloch, ond nas gallai sicrhau pa un ai sobr ynte meddw ydoedd; na ddywedodd ddim wrtho—ddim cymaint ag ateb ei gyfarchiad. Nid ystyriai hynyyn ddim neillduol yn ei ymddygiad; dyna oedd ei arfer gyffredin. Nid oedd yn marchogaeth yn debyg i ddyn meddw. Wedi hyny holwyd y dynion oedd wedi dyfod a'r corff adref. Ceryddodd y treng- holydd hwy am symud y corff cyn i'r hedd- geidwad ei weled. Rhoddodd y dynion ddesgrifiad manwl o'r modd y cawsant y corff, y lie a'r dull y gorweddai. Nis gall- ent ddweyd fod yno ol struggle, ac ni fedd- yliasant am edrych yn fanwl, gan na ddaeth i'w meddyliau ar y pryd y gallai fod hyny wedi cymeryd lie. Yna holwyd yr hedd- geidwad. Dywedodd ei fod wedi chwilio y lie y cafwyd y corff mor fanwl ag y gall- ai. Nis gallai sicrhau fod yno struggle wedi bod; yr oedd hyny yn anmhosibl, o her- wydd fod yno gymaint o ol y dynion fuont yn ymofyn y corff, heblaw eraill fu yn ed- rych y lie cyn iddo ef gyraedd. Yr oedd wedi clywed fod rhai wedi bod yn bygwth yr ymadawedig, ond nad oedd unrhyw sail i hyny. Yr oedd wedi bod yn ymddiddan a dau y dygid y cyhuddiad hwnw yn eu herbyn. Yr oeddynt wedi dweyd wrtho mewn ymrafael eu bod yn credu na byddai farw fel dyn arall. Yr liyn a feddylient wrth hyny oedd, y byddai i ryw farn ddy- fod arno am ei ymddygiadau. Yr oedd wedi cymeryd eu tyddynod. Felly hyd yn hyn yr oedd wedi methu cael allan fod neb yn euog mewn cysylltiad a'i farwolaeth. Yn olaf, liolwyd* v meddyg. Dywedodd yntau ei fod wedi gwneyd archwiliad man- wl ar ei ben. Yr oedd yn credu y gallasai y codwm fod yn angeuol iddo; yr oedd yn eithaf amlwg mai yr archollion ar ei ben oedd wedi achosi ei angau. Petli a ym- ddangosai braidd yn rliyfedd oedd fod ar- chollion ar ei wyneb a'i wegil; ond yr oedd yn credu ei fod wedi syrthio ar ei dalcen, ac iddo godi ar ei draeel a syrthio drachefn ar ei wegil ar geryg llymion. Gan ei fod yn ddyn mor drwm, dichon y gallasai dder- byn yr archollion ar ei wegil felly. Nis gallasai gasglu oddiwrth unrhyw arwydd allanol ei fodyn feddw, nac wedi cael flit i achosi y codwm. Symiodd y trengholydd y tystiolaethau i fyny, a dymunodd ar i'r rheithwyr ystyried y mater yn ddifrifol cyn cylioeddi eu rheith- farn. Bu y rheithwyr o'r neilldu am haner awr. Rheithfarn, "Cafwyd wedi marw." Dranoeth cludwyd gweddillion. yr ymad- awedig i dy ei hir ga.Ltref, gan ycliydig o'r perthynasau agosaf. Peth pur sobr ydyw claddu dyn heb ond ychydig berthynasau yn galaru ar ei ol. [I'W BARIIAU.] —
EISTEDDFOD TROTIIWY Y LLEUAD.
EISTEDDFOD TROTIIWY Y LLEUAD. Efallai mai nid anyddorol gan ddarllen- wyr y DRYCH fydd darllen ycliydig o hanes yr Eisteddfod arucliel a cynaliwyd yn y lie uchod ar y pedwerydd o Orphenaf, 1875, yr hwn le sydd heb fod yn mhell o Emigrant Gap, Placer County, lleygwydd- ys gan ddarllenwyr y DRYCH fod Obedog o Fon er ys tro. Ar y diwrnod hynod hwnw cyd-gyfarfyddodd Obedog, Mr. Jerry Watts, Mr. Joseph Jones, gynt o Fangor, a'r ys- grifenydd, a chynaliwyd yr Eisteddfod nodedig a enwyd. Er yr ymddangosai cyn i ni ddyfod i'r lie na fuasai ond cam bach oddiyno i'r Ileuad, eto wedi i ni gyraedd yno, gan yr ymddangosaiyngam lied fawr, nid aethom yn mhellach. Nid aethom llawn mor bell a Gabintwr;" ond fel y gwelir yn mlaen yn yr hanes, bu Obedog mewn trafodaeth lied bwysig a. rhai o dri- golion y byd hwnw; ac yn sicr teimlem oil mor ddyrchafedig ag y dylai neb yn y fuchedd lion, a chynaliasom Eisteddfod o arolygiaeth ar holl Eisteddfodau y byd. Agorwyd yr Eisteddfod gan Mr. Watts, mewn araeth llawn o ysbrydoliaetn y lie a'r achlysur gogoneddus. Dywedai fod gwel- ed Eisteddfod Gymreig ar safie mor uchel yn Ngaliffornia, yn peri i'r Shasta Butte a'i bendefigion mynyddig ledu eu breichiau i'n chotieidio, y coed i guro dwylaw o law- enydd, a'r afonydd i arafuermwyn gweled yr olygfa ogoneddus, &c. Yna galwodr) ar yr ysgrifenydd am anerchiad, yr hwn a safai ar y ddaear tra y safai y tri eraill ar fanlawr, sef hen bren syrthiedig o dan eu traed, ac anerchodd hwynt fel y canlyn: Ar safle uchel dyna chwi, Tri Chymro, dyna fri; Pwy, pwy yn awr yn uwch na ellwi, Uwchlaw fi dorf ddiri'? Y fath eangder yma sydd Mor glir yr awyr bur, Ar ddeial tur gwawl y dydd 'R y'm ni ar pen mewn cur; Yn cynal rhydd Eisteddfod ain Uwch cymyl a phob tawch, Lie ni chyrhaedda'r un o'r brain Na chlywir byth mo'i gwawch; I ben y Wyddfa heu mae bri, Ac enwog y boed byth; ond uweh na'r Wyddfa chwi eich tri, Lie clywch yn awr fy nhruth, Cawn yma drem eryrod Uwcli eymyl gwlad a thref, Tra'n cynal ein Heisteddfod Ar oriel entrych nef. Yna galwodd ar y beirdd, pan y cawsom yr anerchiad canlynol gan Mr. Joseph Jones, gynt o Fangor: ID 11 Hawddamor, holl Gymry, i'n 'Steddfod bob un, Chwi bleidwyi- ein hanwyI lenyddiaeth; Difyrus gyfai-fod fel hyn yn gytun. I feithrin pob dysg a gwybodaeth. Meithrinwch yr arfer o ddyfod yn nghyd, Tra fyddwch yn byw mewn pell fanau; Arddelwel-i yr awrhon brif iaith yr holl fyd, Sef yr hen iaith a ddysgodd eich mamau. Chwi feibion, y dewrion, cydanwch yn lion, Mewn bloedd o glodforedd i Gymru; Nes byddo yr Wyddfa a'r Idris o'r bron, Gan adsain eich banllef yn crynu. Fe gollsom Caradog, Caswallon, gwir yw, Llywelyn ein hanwyl lyw olaf; Ond, diolch i'r Nef, iiiae'r lien iaith yn fyw, A byw fydd i'r dydd mawr diweddaf. 'Rol gadael llanerchau a bryrilaii'r hoff wlad I ymdaith pewn gwledydd pellenig, Ni sathrwn yr arian a'r aur dan ein traed Ar gopa prif fryniau'r Amerig. Tra gwelir y ecnedloedd ar ddiwrnod fel hwn Yn porthi eu chwautau—Ow alaeth! Down ninau'r Brythoniaid yn gryno fel nn I feithrin ein dawn mewn llenyddiaeth. Yn nghanol Chineaid anwariaid diras, Ellmyniaid a chiwaid pob gwledydd; Addolwn yr awen a phrofwn ei bias, Can's hyn ydyw nefoedd y prydydd. Naturioi i'r Cymry yw 'Steddfod oni te, I drafod ein iaith a'n materion; Mae lawn mor naturiol ag i ferch yted te, Neu haner gwirioni am ddynion. Fe ddigiai OBEDOG fel cacwn hebrith, ac elai yn faehgen tra hynod; WATTS, ELLIS a wisgant eu dill ad o chwith, pe na chaw- sent anerch Eisteddfod. Dymunaf pob llwyddiant i'r cyfan yn wir, ni pheidiwn bod yma er un dyn; ac os y cydsyniwch ni a fynwn cyn hir, gael deuddeg Eistedd- fod bob blwyddyn." Yna ffrydiodd awen Obedog o Fon fel y canlyn: Wel rhoddwn haleluia Uwch claer gymylau'r Ne- Cael cynal ein Heisteddfod Mewn gogoneddus Ie; Cael ewmnl'r hen Gabintwr" Ar drothwy'r lleuad wen, A gwledda a'r lloerigion Ar frasder pasta bren! Mae gwledydd maith afrifed Yn y dyfnderoedd draw, A'r ser fel claer dduwiesau Yn gwenu ar bob llaw; A'r oil yn gorfoleddu Wrth wel'd y dyrfa fawr, 0 Gymry mewn Eisteddfod Uwch holl ofidiau'r llawr. Y beirdd a ysbrydolwyd, Mae'r awen yn ei grym; A thafod Isaac Ellis, Fel gloew arf yn llym; Fe welaf saint ac engyl A'u clustiau wrth y ddor, Yn gwrando ar hyawdledd Yn chwyddo fel y mor. Rhoes Dafydd heibio'i delyn Pan glywodd Jerry Watts,1 Yn bwrw coeth farddoniaeth Fel ergyd o wn elate: Ac yntau'r hen frawd Pedr, A bwlch yn mlaen'ei glust, Yn galw'r cyngor nefol Ar fyr i roddi usti Yr oedd yr holl Loerigion 1, w gweled wrth eu bodcl, A rhoesant y mynyddoedd I'r Cymry byth yn rhodd— Mynyddoedd California, O'r Shasta Butte i'r Gap; I Watts y rhoed y weithi ed, A chadwodd hi—'r hen chap. Yn awr cyhoeddir gosteg 0 flwyddyn ac un dydd, Ac yn y llecyn yma .Eisteddfod eto fyd(l; Y llywydd anrhydeddns FyddJones o Fangor Fawr, A chyngerdd gogoneddus Yr hwyr gan fodau'r llawr. Gwelir yn ol Obedog fod y Lloerigion wedi rhoddi yr holl fynyddoedd i'r Cymry byth yn rhodd; ond cwynafod Watts wedi pocedu y deed. Wel cadwed hi mor ddi- ogel a clialon hen lane; ond beth yw'r gwahaniaeth ond iddo adael i ni fwynhau eu brasder. Nid eicldilod ond Anakiaid yw meibion y mynyddoedd. Cawsom yn nes- af englyn byrfyfyr gan Obedog, yr hwn a a ganlyna: Swynol ban, bryniau a brodydd—i fardd Lie 'i fyw'n dragywydd; Lie enwog, er llawenydd, A diaa i seintiau sydd. Yna torodd allan awen ein cadeirydd, Mr. Watts, fel y canlyn: Y coedydcl aruthrol a safant yn rhes I wrandaw hyawdledd y Cyttiro, A bloeddiant lawenydd, a hyny mewn gwres, Gan grechwen-en dwylaw wnant gnro. A hwythau'r afonydd yn fawrion a man, Wrthodant am adeg ymdreiglo; Oncl safant yn llonydd heb sisial un gair, Nes darfod Eisteddfod y Cymro. A hwythau'r mynyddoedd a dyrant yn nghyd, A bloeddiant o'u calon lawenydcl; Ymwthiant can dyned y liaill at y llall, Nes sangu ar fodiau eu gilydd. Fel Saul o'i ysgwyddau yn uwch na hwynt oil, Eisted(la'r ficii Stiasia i wratido; Diosga y gorchadd oddiamgylch ei ben, Uael trem ar E steddfod y Cymro. Wedi mwynhau yr Eisteddfod Gymreig uwchaf, mae'n debyg, gynaliwyd erioed, disgynasom yn ol i blith daearolion cy- ffredin. ISAAC H. ELLIS. Emigrant Gay, Calif.
Family Notices
GAN W YD— HUoHEs-Mehefin 13, yn Somersville, Calif., merch i Mr. J. J. Hughes a'i briod; gelwir hi Sarah. RAYNOLDS-Meheftn 19,' yn Noi-ionville, Calif., mab i Mr G. M. liaynolds a Harriet ei wraig; gelwir ef Alvinlaroy. BOTTING—Mehefin 25, yn Nortonville, Calif., mab i Mr. G. Hotting a Gwenllian ei wraig; gelwir ef Gomer. HUGHES-Mehcfin 25, yn Nortonville, Calif., merch i Mr. William Hughes a'i briod; gelwir hi Edith. JONEs-Gorphenaf 1, yn Nortonville, Calif., mab i Mr. J. Jones a'i briod; gelwir of Johnnie. ELLls-Gorphenaf 13, yn Shenandoah, Pa., mab i Mr. Benjamin Ellis ac Elizabeth ei briod; gelwir ef Isaac. PRIOI) IF YD— PHILLIPS—HUXTABLE—Gorphenaf 6, yn nhy Mr. John E. Lloyd, ar gongl heolydd 7th a Pop- lar, gan I. R. Harris, Ysw., Mr. John G. Phillips a Miss Sarah Jane Huxtable, y ddan o Soddy, Hamil- ton Co., Tenn. COLVIN-OWENs-Gorph. 5, yn Pratt's Hollow, N. Y., yn ei dy ei linn, gan y Parch. H. A. Wolcott, Mr. John Colvin, Morrisville, a Miss Grace A. Owens, Nelson, N. Y. REEs-Ev ANs-Gorphenaf 9, yn ardal Pejiiel, ger Oshkosh, Wis., yn nhy tad a mam y bri- odasferch, gan y Parch. John K. Roberts, Mr. Hen- ry Rees a Miss Mary Alice Evans, y ddau o'r ardal llchod. LEWIS— WILLIAMS— Gorphenaf 7, yn Oshkosh, Wis., gan y Parch. B. Isaac Evans, yn ei dy ei hun, Dr. William Lewis a Miss Ida E. Wil- liams, y ddau o Nekemi, Wis. BRADBURY—EVANS—Mai, 1875, yn nhy rhieni y briodasferch, Edward B. a Sarah Evans, Watertown, Wis., gan y Parch. Dr. Miller, y boriedd- wr ieuanc Mr. Eugene Bradbury, gornchwyliwr cledr- ffyrcld, a Miss Sadie E. Evans, merch hynaf i'r rhi- eni crybwylledig. Yr oedd y briodasferch yn un o'r genethod mwyaf cymeradwy, ac yn ferch i rhieni sydd yn sefyll gyda'r parchusaf a fedd ein cenedl yn y ddinas. Cafwyd prawf o hyn trwy y rhoddion gwerthfawr a gyflwynwyd iddi, sef llestri atir ac ar- ian, yn nghyd a defnyddiau drudf iwr eraill o amryw fathau. Uno gas bethau y teulu hwn ydyw coeg- ganmoliaeth; er hyny rhaid i rinwedd gael ei gydna- bod, a dywedir i mi gan ddynion rhinweddol, dynion sydd yn adnabod teflyngdod oddiwrth sothach ffng- iol, na thalwyd cymaint o barch o'r blaen i neb o'n cenedl o'r ddinas hon ar y cyfryw amgylchiad. Ar Eugene a Sadie y tywyno Pelyarau haul llwyddiant yn lion, Braich gadarn yr lor a'u diffyno Rhag saethau i friwio eu bron; Dan wnaethpwyd yn un trwy Hyddlondeb Er cysur a rhwydd-deb i fyw, Gwnaed Duw i fendithio eu hundeb A hwythau fendithio eu Duw. ROB. B U FARJV- WILLIA'Als- Gorplienaf 5, yn Russell Gulch, ger Central City, Colorado, Mrs. Mary Eliza Williams, anwyl briod Mr. E. Wynne Williams, ar ol byr gystudd, sef curiad y galon (palpitation of the heart). Claddwyd hi ar y 6ed yn mynwent y lie gan dyrfa barchus, pryd y gweinyddwyd yn Saesneg gan y Parch. H. Linsley, ac yn Gymraeg gan y Parch. O. M. Williams. Mawr wylo herwydd marwolaeth-hon sydd Loes yw i'r gym'dogaeth; I'r bedd oer heibio ydd aeth, I orwedd er ein luraeth. CALEil-RYN. Dymunir i bapyrau Cymru godi yr uchod. WILLIAms-Afeliefin 16, yn Taylorville, Pa., yn 28 mlwydd a 5 mis oed, Mrs. Sarah Williams, gwraig Mr. John D. Williams. Achos ei marwol- aeth oedd enyniad yr ymysgarodd. Pedwar diwrnod y bu fyw wedi ei rhyddhad. Bu iddynt dri o blant- gadawodd ddau ar ei ol—bu farw y babi yn mhen 11 o ddyddiau. Cyn ei marwolaeth rhoddodd ofal y babi 1 fodryb i'w gwr, Mrs. Langley, ac y maent yn galaru yn fawr ar ei ol. Gelwid hi Sarah Jane. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlawn yn eglwys y Cyn- ulleidfawyr yn Taylorville. Daliodd ei gafael yn yr Arglwydd, er ei thaflu dros y drws ac yn yr holl dywydd garw, a chredwn ei bod wedi cael helaeth fynediad i mewn i'r eglwYB fuddugoliaethus. Dech- reuodd ar ei gyrfa ysbrydol cyn ei bod yn 11 oed, a derbyniwyd hi i gyflawn aelodaeth gan Dr. Rees, yn Carmel, Cendl, D. C., yn awr Abertawe. Genedigol oedd o Cendl. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1870 o Aberdargyda'i rhieni, Benjamin H. Jones ac Eliza- beth ei briod, ac ymsefydlasant yn Taylorville. Gadawodd ar ei hoi dystiolaeth dda. Ymgasglodd lluaws o wahanol genedloedd ar ddydd e1 hangladd i dalu eu cymwynas olaf i'w gweddillion, ac i gydym- deimlo a'r perthynasau galarus. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan D. R. Davies B.) a'r ysgrifenydd. y nefoedd fyddo drostynt oil fel perthynasau, d^Htod a'i merch fach. D. T. DAVIES.
Advertising
-w-W yAIRIANT BYWYDAU AC EIDDO. DEWISWCH Y CWHNIAU GOREU, SEF T SECURITY INSURANCE Co., o New Haven, Conn,, a sefydlwyd 1841—Cyfalaf$200,000,000. THE LONDON ASSURANCE CO., a sefydlwyd 1720, yn meddu Trysorfa o $14,038,400 yn aur. THE CITY INSURANCE CO., o Providence, Rhode Island. C. K. GRANNIS, Goruchwyliwr. 138 Genesee St., Ulica, N. Y. Yn yr hwn y gellir rhoddi pob ymddiried. 4' 75 Y Meddyginiaeth SEISOM TIODEDIG Y CORDIAL BALM 0 SYRICUM A'R P ELENA U GRYFIIAOL. LLESGEDD GIEUOL. Pa mor ddirgel bynag y gall yr achos fod sydd yn cynyrchu gwendid gieuol, yr hwn sydd salwch mor gyilredin, yn effeithio ar haner y boblogaeth, y mae yn ffaith dorcalonus ein bod yn dystion o gynydd dychrynllyd yr anhwyldeb, o'r gwaew yn y gwyneb hyd lwyr Ymollyngiad GIEUOL. Mae o'r pwys mwyaf i bersonau fod yn alluog i farnu drostynt eu hunain, drwy eu teimladau, pa mor bell y maent yn ngafael y gelyn bradwrus hwn i iechyd, dedwyddweh a bywyd ei hun, rhag iddo red- eg ei gwrs yn ddirwystr, fel y gellir defnyudio medd- yginiaeth yn auiserol. Adnabyddir LLESGEDD GIEUOL Drwy wendid cyffredinol yr holl gyfansoddiad, yn enwedig y gyfundrefn gieuol, gan ddyrysu aihwystro swyddogaethau cyfEredin natur, o ganlyniad y mae yr organau dydoliadol yn myned i annhrefn, a di- lyna rhwymedd, lleiha y lleisw, a daw o linv coch, yn cynwys gwaddodion materol, a arwydda dreuliad yr ymenydd a'r gewynau; gorguriad y galon, ditianiad y cof; eiddilwch mewn penderfyniad; anallu i roddi unrhyw fwriad mewn gweithrediad, neu sefydlu y meduwl dros amser ar unrhyw wrthrych. Bodola teimlad tyner hawdd ei gynyrfu, ond hynod o gyf- newidiol, a'r meddwl yn nwyfus a chrynedig, nes bydd y person yn anwadal yn mhob petll. Mae yn wir y bydd yr arwyddlon hyn yn wahanol mown gwa hanol bersonau, yn ol ansawdd eu cyfansoddiad, a'r cryniadau gieuol naturiol i organ corff pob un. Gwahaniaetha hyn yn ol gwahaniaeth y personal!. Nid ydyw yr arc!daugosiadau gwahanol hyn, yn ar- wyddo fod yn ofynol i'r driniaeth feddygol fod yn wahanol; mae yr un meddyginiaeth yn gymwysiaaol i'r gwan a'r cryf, i'r gwrol ac i'r gwael, gan wahan- iaethu YlllllUg mewn graddau a'r amser a gyrnerir i wrthweithio yr anhwyldeb. Mae llesgead gieuol mor gyfnewidiol yn ei arddangosiadau ag ydyw breuddwydion morwr mewn Iloiigddrylliad, yr hwn a esyd ei hun i lawr i gysgu am foment, tra yn nolio ar ddarn o'r llong, ac elfenandinystr yn ei amgylchu; ond dychlamiad cyntaf ei natur yn y fath le ydyw cael daiar dan ei draed. Mewn rhai achosion o'r anhwyldeb hwn bodola gloesau mawrion a llesgedd eithafol yn mhob man, yn ffurflo cyflwr mallgryniadol yn ei holl agweddau, gan ddangos ei liun yn ami yn fwyaf grymus yn ngiau y gwyneb. Hefyd gall y poenau hyn fod yn unrhyw barth arall o'r corff, megis y gwddf, y col- uddion, yr aelodau, gyda phoen yn yinsaethu yn dreiddiadol drwy y corff. Gellir egluro y cytiwr hwn drwy y ffatth fod ymegniadau gormodol, cyuliyrtiad- au eithafol ar amserau anaddas, yn cynyddu teim- ladrwydd gieliol, yr hyn a ganlynir gan farweidd-dra neu wanychiad yr egwyddor fywydawl. Gall rhai pethau dclylanwadu ar y giau mewn modd ail achos- oij, yr hyn a gynyrfa yr achosion gwreiddiol. Mae rhifrestr yr achosion yn helaeth iawn megis twym- ynau, anlladrwydd, manwynau, mallrwydd, lien ddoluriau a enynant yn eithafol. Wedi i'r anhwyl- derau hyn dclylanwadu ar fadruddyn y cefn, canol- bwynt y giau, dilyna gorwendid, a pharlysir holl er- migau y corff, fel na fyddant yn alluog i gyflawni eu swyddogaeth, a dinystrir pob cyfiiddasrwydd yn y person i gyflawni dyledswyddau ei alwedigaeth a mwynhau dedwyddweh bywyd. Gellir gwella y cyflwr hwn, er mor erchyll ydyw, drwy ddefnyddio y MEDDYGIIAETll SEISOMG KODEOIG Y Cordial Balm o Syricum a Phel eni Cryfhaol Lotlirop. Sef cyffeiriau anghydmarol, a rhyfeddol eu gallu i wella Anhwylderau Gieuol; ac maent yr un mor eff- eithiol i wella Dafaden Wyllt, Cylymau, CornwydJ ydd, Llyfrithod, Plorynau, Tarddwreinion, Doluriau Twymynol, Marchwraiiit, Tan Iddwf, Pen Crachlyd, YingrafU yr Eilliwr, Clefti Poeth, Ymgrafu, Dyfrwst Hallt, Pylorod o liw Cop:, Chwyddiadau Chwarenol, Pryfed ac Ysniotiau Duon ar y Gwyneb, Dadliwiad y Cnawd, Doluriau Rhedegol yn y Gwddf, yn y Genan, yn y Trwyn, Dolur Coesau, a oolnriau o bob math dros yr holl gorlf; canys y mae y cyffer hwn y goreui Feddyginiaetliu y Gwaed, A roed erioed o flaen y bobl. Dyma y cyffeiriau Newidiadol mwyaf Nertnol a ddyfeisiwyd erioed gall ddyn. Cyfranant NEETH I'R CORFF AC YNI PR MEDDWL, Teimladrwvdd Aflach. Iselder Ysbryd, Gorphwylledd a'r Pruddglwyf. Pris $2 50. Y sypyn mwyaf $5 00. Mae pob syp- yn o'r Cordial Balm yn cynwys Blychiad o'r Peleni Cryfhaol, y rhai hefyd a werthir ar wahan am 50c y blwch. TYSTIOLAETHAU DIWEDDAR. FREWSBURGH, Tachwedd 12,1874. Defnyddiais y Cordial Balm o Syricum a Pheleni Cryfhaol Lothrop, i atal a gwella arferiad diodydd cadarn a meddwdod arferol; ac yr wyf wedi eu can- fod yn feddyginiaeth briodol yn mhob achos. Yr wyf yn eu hystyried y cyffeiriau mwyaf gwerthfawr, ac nis gall dim fy narbwyllo i fyw hebddynt. JACOB MESERVE. TIPTON, Rhag. 3, 1874. Yr ydym yn cymeryd pleser mawr i'ch hysbysu o'r buddioldeb rhyfeddol a ddeilliodd o ddefnyddio eich Meddyginiaeth Seisonig, y Cordial Balm o Syricum, a Pheleni Cryfhaol Lotlirop, mewn achos o Lesgedd Gieuol mawr, ac Ymollyngiad Gieuol, un aelod o'r teulu, yr hwn a fu dan ddwylaw meddygon gwahanol am agos i dair blynedd, fteb dderbyn dim lies; ond darfu i'ch cyffeiriau chwi gynyrchu y cyfnewidiad mwyaf nerthol er daioni; ac mae y dioddefydd yn awr yn mwynhau iechyd rhagorol. MRS. HARRIET STURGISS. D. S.—Yr ydym yn dweyd wrth bawb a adwaenom mewn gwaeledd am iddynt roddi prawf ar eich cy- ffeiriau. GORUCHWYLWYR CYFANWERTKOL. JOHN F. HENRY & Co., New York City. JOHNSON, HOLLOWELL & Co., Philadelphia, Pa. SETH S. HANCE, Baltimore, Md. E. MONTEUSE & Co., New Orleans, La. VAN SHAACK, STEVENSON & REID, Chicago, Ill. JOHN D. PARKS, Cincinnati, Ohio. STRONG & COBB, Cleveland, Ohio. Ar Werth gan Gyffeirwyr yn gyffredin yn mhob man. Gellir dal cymundeb a Dr. Lothrop, y Perchenog, drwy lythyrau, a hyny yn rhad. Cyfeirier DR. G. EDGAR LOTHROP, 143 COURT STREET, BOSTON. 3yiy