Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Mae'n Hawddach D'od Lawr Na…
Mae'n Hawddach D'od Lawr Na Myn'd Fyny. Os buost mor ffodns a chripio i'r lan, Hyd gopa bryn parch ac anrhydedd, Ymochel rhag cwympo, mesura dy gam, Neu'n drwsgl do'i lawr yn y diwedd; Rhaid myn'd gyda'th lwc, 0 glogwyn i gnwc, Ac atal dy dynged ni elli; A'th gwymp fydd yn drwm Ar waelod y cwm, Mae'n hawddach d'od lawr na myn'd fyny. Os cefaist dy eni yn blentyn hoff ffawd, A gwSn ar foreuddydd dy fywyd; Heb ofal, ti elli dd'od eto yn dlawd Wrth ymgais am fwy o ddedwyddyd; Gwna'n siwr o dy fan Wrth ddringo i'r lan, Gochela bob cam a gymeri; Ystyria mewn pryd, Wrth fyned trwy'r byd, Mai hawddach d'od lawr na m yn'd fyny. Os gweli'th gymydog yn gwthio i'r lan, 0 afael tylodi yn onest; Na fydd yn eiddigus os llwydd ddaw i'wran, Ar lwybr mor serth, bydd yn orchest; Na rwystra'r tylawd I ddringo bryn ffawd, Ond estyn dy law i'w ddyrehafti; Paid byth bod mor ffol A'i dynu yn ol, 0- hyd yn nod gelyn a weli ei him Yn liithro dros ddibyn aflwyddiant, Gochela'i ddirmygu, ymddyga yn ddyn, Bydd hyny i ti yn ogoniant; I lawr fe fydd cant, i u i^vaclod y pant, Yn barod a'u traed idd ei sathru; Anhawdd maes o law Fydd codi o'r baw, Mae'n hawddach d'od lawr na myn'd fyny. Topeka Kas. AP IOAN.
....It." AWSTRALIA A'I BRODORION.
It." AWSTRALIA A'I BRODORION. GAN TOM AP DA VIES, CHURCH HILL, 0. LLITH IV. Creda brodorion Queensland eu bod yn alluog i lywodraethu neu reoleiddio sym- udiadau y planedau, ac mai yr achos fod diffyg ar yr haul neu'r doer yw, fod rhai o'r llwythau gwrthryfelgar yn cuddio gwyn- ebau y cyfryw oleuadau a darn o risgl, i'r dyben o ddychrynu y Ileill; ond y maent yn ofidus ac anesmwyth iawn tra y par- hao'r diffyg-gwyliant ef yn fanwl tra yr aroso, gan gnoi dwrneidiau o laswellt, ac ocheneidio ac oernadu mewn modd dy- chrynllyd. Credant y gallant reoleiddio y gwlaw (Durgun) i beri iddo ddisgyn, ac i beri iddo beidio, yn ol eu hewyllys. Eu cred am fwa'r cyfamod, neu fwa'r Drindod (terebere) ydyw, mai y cymylau gydd yn chwydu pysgod i'r llynoedd (yam- rama) & gwreiddiau'r bryniau (kooringa) neu rywbeth er daioni iddynt hwy yn y ddau gyfeiriad, lie byddo dau ben y bwa yn ymddangos fel yn cyffwrdd a'r ddaear. Maent yn ofnus iawn o'r t-iranau (tegoora) a'r mellt (timulba), er na welais i lawer o niwed yn cael ei achosi ganddynt. Ni wvddant pa fodd y daethant i fodolaeth, nac ychwaith fod iddynt fodolaeth gwa- hanol i'r eiddo cwn; ond mewn amgylch- jaci o farwolaeth, sylwais'fod ynddynt ryw ddychryn dwys. Credai rhai y delent yn ddynion gwynion'ar ol marw. Syniad er- aill yw (sef y rhai a gredant mai ysbryd- oedd dynion fuont feirw yw y lloer a'r planedau), fod rhyw fath o sefyllfa ddy- fodol, ac fod yn. bosibl dyfod yn ol o honi i'r un bresenol, ac fod y;bryd dyn ag oedd yn lieliwr da yma yn gallu hawlio ei ddy- chweliad, ac y gall weithdo ei ffordd yn ol yn liawdd. Y mae ser syrthiedig yn ar- wyddo fod perygl yn ;v cyfeiriad liwnw. Y mae yn eu plith draddodiad hynod am ryw ddylif mawr; yr un mae'n debyg ag y sonia Moses am dano yn y Beibl. Dywed- ent wrthyf i'w cyn-dadau, filoedd o flyn- yddau yn ol, weled y byd yn cael ei foddi. Daeth dyn gwyn dysglaer o'r awyr, a gor- chymynodd i bump o honynt, sef tair o ferched a dau ddyn, i gilio i ben mynydd 11 mawr a elwir Blbiringda, yr hwn sydd ger Haw Cape Cleveland, ac iddynt gymeryd gyda hwynt ddau o bob rhywogaeth o ani- feiliaid, ymlusgiaid ac adar, ac wedi iddynt wneyd hyny, dechreu wlawio, a rhuthrodd y mor allan o'i wely, ond ataliai y gwr gwyn bawb rhag ffoi i'r mynydd, a bodd- odd pawb ond y pump uchod; enwau y rhai oeddynt Woggin, Boolray, Goodijoo, Munwool a Murgai. Mesurent amser wrth y lloer a thymorau gwlyb a sych. Nid oes geiriau yn eu hiaith i ddynodi rhif. Er engraifft, pe gofynech iddynt pa sawl diwrnod sydd mewn wythnos, yr unig ffordd y gallent eich ateb fyddai, trwy ddal i fyny saith o'u bysedd, ac felly yn mlaen hyd 28; gelwir hyny yn lloer. Dwy loer a phedwar bys yn cael eu dal i fyny yw 60, &c. Maent yn cael tan trwy rath- iad (friction), rhathiant ddau bren o'r un natur yn nghyd; y pren ffigys du a arferir yn fwyaf cyffredin, am mai hwnw yw yr hawddaf: Gosodant un darn ar y llawr, a'u traed arno, a rhwbiant y darn arall yn groes ar hwnw fel pe baent yn llifio, ac yn mhen ychydig daw gwreichion, y rhai a gyneuant y borfa sych fyddo ganddynt hwy yno i'w dal. Mae y ddefod o wneyd y bechgyn yn wyr priod yn cymeryd lie bob pump neu chwech mlynedd. Gorfodir y bechgyn i ymneillduO am gryn bellder oddiwrth y llwvtli am naw lloer yn mlaen llaw. Ni chaniateir iddynt weled nac edrych ar ddynes yn ystod y cyfnod hwnw, ac ys- tyrid pob un a allai ddal y prawf yn ym- geisydd teilwng am wraig. Yna, pan fyddo y nawfed lloer yn llawn, dygir y bechgyn i'r gwersyll (camp), a gosodir cortynau o risgl y pren (stringy bark) mor dyn am eu II breichiau nes atal cylchrediad y gwaed i'r dwylaw. .^liwydua eu bretchiau yn ddy- chrynllyd, yr hyn a'u gesyd mewn poenau dirfawr, a gadewir hwynt yn y cyfryw boebau am noson gyfan. Bydd eu llefau yn dorcalonus tuhwnt i ddesgrifiad, oer- nadant nes byddo'r clogwyni cyfagos yn diaspedain; adar y nos a giliant o'r fangre; y cathod gwylltian brodorol a'r kangaroo rats a redant i'w tyllau, a neidia y kanga- roos ymaith i chwilio am le tawelach i or- wedd. Lleda y gwyr ieuainc eu dwylaw ar y llawr, a dodant eu sodlau arnynt trwy y nos, rhag i'w bysedd grebachu, ac felly gael eu hanffurfio. Yn y bore arweinir hwy allan i bresenoldeb eu perthynasau- eu mamau, eu chwiorydd a'u cariadau, ac ar ol dadrwymo eu breichiau, cymer eu mamau gerig llymion a thorant ddau neu dri o archollion bychain yn eu breichiau chwyddedig, nes y byddo eu gwaed yn rhedeg. Gwneir hyny, mae'n debyg, er atal y llosgfa (inflamation), yna mae y bechgyn yn rhydd i fyned a dewis eu car- iadau, ac y maent yn briod o'r awr hono allan; a diweddir y wledd (?) briodasol hon mewn math o gyngerdd mawreddog o ganu a dawnsio, a neidio, yr hon a alwant caro- bore (neu carobri). Nid ystyriaf fod cnawd dynol yn rhan o'u hymborth, eto, bwytant ef weithiau, Bwytant gnawd bechgyn a merched ieuainc a fuasent wedi eu lladd mewn rhyfel a fuasai yn dygwydd weith- iau rhyngddynt â llwythau eraill; ond ni fwytant gyrff eu gelynion. Torent gyrff eu gelynion yn ddarnau, a sychent hwynt yn ngwres yr haul, yna dosbarthent y darn- au yn eu plith, ac wedi gwneyd felly cred- ent fod nerth a dewrder eu gelynion yn cael ei ychwanegu at yr eiddynt hwy, yr hyn a'u galluogai i fod yn fwy ffodus wrth ryfela, hela a physgota. Ond fel rheol, y maent yn llosgi cyrff y meirw (mallalla mulgo) a chariant y lludw oddiamgylch am wyth neu naw mis, yna taflant ef i bwll o ddwfr, ac yfant yr oil o hono os gallant. Nid yw o bwys i'r darllenydd wybod y rheswm i mi fod mor hir yn mhlith y fath bobl. Digon yw dweyd, i mi eu cael yn garedig iawn, am y rheswm fy mod inau felly iddynt hwy, a rhagorent yn mhell ar lawer o bobl wareiddiedig America mewn diweirdeb a gwir gyfeillgarwch.
CANIADAETH GYIWLLEID-FAOL.
CANIADAETH GYIWLLEID- FAOL. GAN HEN FLAENOR. Y mae llawer wedi ei wneyd yn ddiwedd- ar tuag at ddiwygio a pherffeithio caniad- aeth gynulleidfaol. Y mae Ieuan Gwyllt, yn Nghymru, yn nygiad allan y Lyfr tonau Cynulleidfaol," yn nghyd ag E. Stephen, wedi gwneyd ysgogiad yn yr iawn gyfeiriad, i raddau pell, yn ddiameu- wedi dwyn allan donau cyfaddas i fod yn rhai cynulleidfaol, ac wedi llafurio gyda'r cymanfaoedd cerddorol, er cael y cynull- eidfaoedd i'w canu mewn dullwedd priod- ol ac addas i'r addoliad. Hefyd yn y wlad hon, y mae Undeb Cerddorol Wisconsin wedi gwneyd llawer o ddaioni yn yr un cyfeiriad, yn nygiad allan" Delyn yr Un- deb," sef casgliad chwaCtlius o donau cyn- ulleidfaol a chorawl, yn nghyd ag anthem- au, a darnau gosodedig. Hefyd, yn yllafur parhaus gyda'r cymanfaoedd cerddorol.— Y mae "Telyn yr Undeb" yn llyfr destlus o faint a rhwymiad, ac wedi ei ddethol yn ofalus, gan yr enwogion E. Samuel, a J. P. Jones, Racine, Wis., y rhai ydynt gerddor- ion adnabyddus mewn chwaeth a gwybod- aeth gerddorol. Teilynga, yn ddiameu, gefnogaeth pob cerddor Cymreig drwy yr Undeb. Dymunol fyddai gweled mwy o lafur.yn y cyfeiriad hwn yn America. Tuag at gael y canu cynulleidfaol yn addas a phriodol i'r addoliad, mae yn ofyn- ol, nid yn unig i'r dechreuwr canu fod yn ofalus i ddewis tonau priodol, ond y mae hefyd yn llawn mor angenrheidiol i'r preg- ethwr a'r blaenor, a phawb sydd a wnelont a rhoi hyirnau allan i'w can'l yn yr addoliad nvlinpHjInn f{1'1 "n ,11«wn :")11' cvheloffT rhag rhoddi hymnau anmhriodol i'w caI}U yn y gynulleidfa. Fe ddylid bod yn llawil InoT wyliadwrus gyda'r naill fel y llall. Y mae tQnau addas ar y geiriau yn beth gwrthun,yn ddiameu. ac yn beth sydd wedi cael gwneyd sylw o hono gan amryw o'n dynion mawr; ond yr ydym 'yn meddwl mai ychydig iawn, os dim sylw cyffredinol, sydd wedi ei dalu erioed yn ein plith fel cenedl ar y priodoldeb o fod yn ofalus i roddi hymnau addas i fod yn rhai cynulleidfaol. Yr ydym yn ystyried mai mawl weddai fod prif destyn ein hymnau cynulleidfaol. ac yn wir, a ddylai fod yn brif destyn canu ynmhob man, a than bob amgylchiad; ond fel arall, rhaid addef, y mae. Prif destyn- au ein canu, hyd yn nod y cynulleidfaol, ydynt hunan-geisiol i raddiu cywilyddus. Yn lie bod y galon yn ymdiyrchafu mewn mawl a diolch, rhyw destynau tuchanol erfyniadol diddiwedd sydd 3n cael eu rhoddi i'r gynulleidfa. Caniatawnyn rhwydd fod ly erfyniadau yn briodol hyd yn nod mewn cynulliad cyffredinol, ond aid yn ddiddi- wedd, fel ag y mae yn h-esenol. Ond beiddiwn ddweyd fod dy'od a hymnau profiadol i'r addoliad eyhoeddus yn beth pell iawn o fod yn briodol-yn gwneyd, fe allai, i gorff y gynulleidfa diweyd celwydd dan ganu yn nghysegr y ] vi) Goruchap! ie, a hyny o dan yr enw ,'i folianu. Pa beth ond digywilydd-dra jer bron Duw ydyw myned ato yn mhob dull a modd i grefu am gymwynas oddiarei law yn ddi- ddiwedd mewn gweddi ac mbil, ac ar ol y cwbl, pan yn cymeryd arnom ganu ei fawl, pa beth a glywir weeyn ond yr un hen stori? Y mae genym ffyrdd eraill i osod ein he.,fyniadau a'n irofladau, &c., o'i flaen, llawn mwy cyson t phriodol. Fel y dywedasom, yr ydrm yn dal mai prif destynau canu, yn enwdig cynulleid- faol, a weddai fod yn fawl diolch; ac mai i hyn yn benaf y mae y dalat o ganu wedi ei chyfranu i ddyn. Dysgvn fod yn gy- son, ac nid yn ddigywilyddger bron Duw. ,,y Rhoddwn iddo ei ogonian a'i fawl yn y "gynulleidfa fawr." Adorgwn ein dull o addoli, rhag ofn ein bod ti fwy digywil- ydd, anfoesgar, ac anghysor pan yn siarad neu yn ymwneyd a Duw new;n unrhyw fodd, nag a fyddwn pan yrrrfyn cymwyn- as oddiar law ein hucliradi neu bendefig daearol. Ni chwenychem <11 hunain gael ein blino gan fegeriaid didiolch yn ddi- ddiwedd. Mae yn llawn tyd, yn ddiam- eu, roddi heibio y dull beprllyd ptesenol o addoli. Dymunem fod yn offeriol i symbylu pregethwyr a blaenoriaid crefyddol, a phawb a deimlant ddyddoreb mewn add- oli yn gywir y gwir Dduw, gymeryd hyn yn sobr at eu hystyriaeth. < Tuag at ddwyn hyn oddiamgylch, bydd- ai yn ofynol cael casgliad 0 hymnau cynull- eidfaol allan yn Ilyfr i'w osod ar ein pwl- pudau; ac fe fyddai yn angenrheidiol, fe allai, cael rhyw fardd, neu feirdd, i gyfan- soddi hymnau newyddion; oblegid ychyd- ig sydd genym mewn cyferbyniad o rai cynulleidfaol yn ein llyfrau. Y mae yn- ddynt ychydig o salmau llawn 0 fawl a gorfoledd; ond fel y mae ryfeddaf, pur an- aml y ca yr un o honynt eu rhoddi allan i'w canu, mewn rhai manau, o'r hyn lleiaf. Hyderwn y daw rhyw rai 0 safle 0 ddy- lanwad gyda chrefydd yn ei gwahanol ran- au i wneyd sylw ar hyn drwy golofnau y DRYCH, naill ai yn gefnogol i'r ysgrif hon neu ynte yn wrthwynebol. Os ydym yn camgymeryd, dymunem gael ein goleuo; ,,y ond cofier am gadw o fewn terfynau bon. eddigeiddrwydd. HEN FLAENOR.
PABYDDIAETH.
PABYDDIAETH. GAN Y-PARCH. J. E. JONES, OAK HILL, O. Eglur yw, gan fod Pabyddiaeth mor niweidiol yn y byd, y dylid ymdrechu ei dyfetha. Pe gofynid pa fodd y gellir gwneyd hyny, gellid ateb mai nid yr un fath ag y mae'r Pabyddion wedi ceisio dyfetha Protestaniaeth, trwy ddyfetha per- sonau. Na, ein harfau ni nid ydynt gnawdol. Nid yw Brenin Seion wedi bwriadu helaethu ei deyrnas trwy arfau daearol. Dangosodd hyny pan orchymyn* odd i Petr roddi ei gleddyf yn y wain ar ol tori clust gwas yr archoffeiriad. Gwelir hyny yn ymddygiadau y Cristionogion cyntefig. Pob parch i Bismarck am ei sel a'i ymdrech yn ceisio diwreiddio sefydliad- I au gormesol Pabyddiaeth yn Genua D}r nnrt gellid meddwl fod ei ddull yn gwneyd hytlY yn xliy debyg i eiddo'r Ptbylldion, wrth ymosod ar Brotestaniaeth, ac Ybyddai yn dda iduG gymeryd cyngor Dr. Jones, Utica, yn ei lythyr diweddar ^to» Y mae ffordd Gladstone yn sicr 0 fod yn rhagori. Y mae yn dda genyf ddeall fod un o'r mesurau mwyaf dinystriol i Babyddiaeth wedi ei fabwysiadu yn y wlad hon yn ddi- weddar, sef cychwyn newyddiadur o'r enw, The National Protestant. Yr wyf wedi gweled y rhifyn cyntaf, ae os yw y rhai dilynol i fod mor alluog a hwn, (a thebyg yw y bydd apt yn alluocach,) y tnae y papyr hwn i wneyd galanasdra yn rhengoedd y gelyn, a hyderir y claw Protes- taniaid o bob enwad allan fel un gwr i'w gefnogi. Dylai pawb ei dderbyn ag sydd yn gallu fforddio i wneyd hyny, ac y mae yn hynod 0 rad. Dyma un ffordd i filwrio yn erbyn Pabyddiaeth. Y mae hi i gael ei gorchfygu trwy foddion moesol, trwy gynal a gwasgaru cyfryngau gwybodaeth fuddiol, yn enwedig gwybodaeth ysgryth- yrol. Y pethau hyn laddant y Babaeth— y rhai hyn a ofnir ganddi fwyaf. Y mae cymaint ofn goleuni arni ag sydd ar dduw y byd hwn, yr hwn sydd yn dallu meddyl- iau y rhai digred. A ganlyn yw tystiolaeth cynadledd 0 esgobion i'r Pab Julius III, yn 1553, wedi i'r Diwygiad ddechreu tori allan. Wedi gwneyd addefiadau go ryfedd yn barod, dywedasant: "Ond yr ydym wedi cadw'r cyngor pwysicaf allwn ni roddi i'ch uchelder hyd yn ddiweddaf. Y mae yn riiaid i chwi fod yn effro a clieisio rhwystro, hyd y mae ynocli chwi, yr efeng- yl i gael ei darllen (yn enwedig yn iaith y bobl), trwy'r holl ddinasoedd sydd dan eich awdurdod. Bydded i'r ychydig gant o honi yn yr offeren wasanaethu; ac na chaniataer i neb ddarllen dim yn ychwan- eg; canys cyhyd ag oedd dynion yn fodd- haol ar yr ychydig hyny, yr oedd pethau yn myned yn mlaen yn ol eich ewyllys, ond aethant yn waeth-waeth o'r pryd y darllenasant ychwaneg. Hwn (y Beibl) tu hwnt i bob rhai eraill, yw y llyfr sydd wedi cyfodi'r ystormydd a'r tymestloedd hyn, sydd bron wedi ein gyru ni i ddinystr Ac mewn gwirionedd, pwy bynag a chwil- io yr Ysgrythyrau, ac yna a ystyrio yr hyn a wneir yn gyffredin yn ein heglwys ni, a ga allan fod gwahaniaeth dirfawr rhyng- ddynt, ac fod ein hathrawiaeth ni yn an- hebyg iawn; ie, ac mewn llawer 0 bethau yn hollol groes iddynt." Gan hyny def- nyddier y Beibl mewn gwahanol ddulliau i ymosod ar y Babaeth. Egwyddorer y plant yn dda yn ngair Duw. Gallwn ddysgu gwers oddiwrth ein gwrthwyneb- wyr yn hyn. Y mae eu prif ymdrech hwy gyda'r plant, ac wedi sicrhau'r plant, y mae y dynion mewn oed ganddynt. Awn ninau a gwnawn yr un modd. Ymdrech- wn blanu egwyddorion crefydd bur yn y plant, ac ni bydd ant mor debyg o gymeryd eu harwain gan bob awel dysgeidiaeth.— Dylid hefyd cyfranu er anfon cenadon i wahanol wledydd Pabyddol, yn nghyd a chynal y rhai sydd wedi myned yn barod. Y mae ymdrechion neillduol yn cael eu gwneyd y dyddiau hyn i efengyleiddio'r gwledydd hyny lie mae'r Babaeth yn teyrnasu yn benaf, megys Spaen, Awstria, Mexico, &c.; ac y maent yn llwyddianus. Y mae llwyddiant anarferol wedi bod yn Mexico yn ddiweddar-lluoedd o'r offeir- iaid wedi troi yn Brotestaniaid. Wel, fe ddylai y glewion hyn sydd ar y maes gael pob cefnogaeth oddiwrthym a allwn roddi iddynt, fel yr oedd y bechgyn dewrion oeddynt yn y front yn sefyll rhyngom ni a'n gelynion, yn amser y gwrthryfel mawr, yn sirioli ac ymwroli wrth gael profion o'n cydymdeimlad a'n cymorth ni, y rhai oedd gartref! Ymddygwn yn gyffelyb tuag at y milwyr hyn, sydd yn agor magnelau y nefoedd ar gestyll anuwioldeb. Ond wrth ymdrechu diwygio gwledydd eraill, na fydded i ni anghofio ein gwlad ein hunain; wrth geisio dymchwel Pabyddiaeth mewn manau eraill, nid ydym i esgeuluso cartref. Na, cartref yn gyntaf ac yn benaf.— Dyma'r dull fabwysiadodd y Gwaredwr i enill y byd—"Gan ddechreu yn Jerusalem." Gallwn ddwyn yr holl ddylanwad sydd yn perthyn i ni i weithredu ar y Pabydd- ion sydd gyda ni gartref, nid yn unig dylanwad ein cyfraniadau a'n gweddiau, eithr hefyd dylanwad ein geiriau a'n bur—actio allan bregeth Crist ar y mynydd o flaen ein cymydogion Pabyddol, ac wrth wneyd hyn, gallant weled rhagoriaeth ein crefydd ni ar yr eiddynt hwy, ac mewn canlyniad ymwrthod a'r naill a chofleidio'r llall. Byddai mwy 0 rym yn yr ymdrechion Protestaniaid i ymosod ar eu gwrthwyneb- wyr pe byddai mwy 0 undeb yn bodoli rliwng y gwahanol enwadau efengylaidd. "Mewn undeb mae nerth." Y mae fod byddin yn wasgaredig yn rhoddi mantais i'r gelyn ymosod ami. Y mae'r Pabydd- ion wedi defnyddio'r fantais hon ar Brotes- taniaid. Mewn cyfarfod Beiblau yn Lloegr unwaith, daeth offeiriad Pabaidd i'r esgyn- lawr, a dywedodd—"Yn awr, foneddigion yma, lie yr ydych chwi yn ein cymell ni i gymeryd y Beibl, ac ymuno a chwi—a phwy yr ymunwn ni? Yma, lie yr ydych yn Esgobaethwyr, Trefnyddion, Bedydd- wyr, Cynulleidfawyr, Crynwyr, pob un yn hawlio bod yn oreu. Beth wnawn ni? Ond atebodd Gwyddel oedd yn bresenol hwnw yn eithaf priodol, gan ddywedyd, "Yr wyf fi yn ateb y gwr boneddig, os ymuna ef ag unrliyw un 0 lionom, byddyn llawer iawn gwell na bod yn y man lie y mae ef yn awr." Y mae yn llawenydd i bawb sydd yn awyddus am gael y byd i'w le, weled cyn- ifer o ymdrechion yn cael eu gwneyd y blynyddoedd hyn, i ddwyn y gwahanol bleidiau crefyddol yn nes at eu gilydd, a'r ymdrechion hyn mor llwyddianus. Ond byddai yr oil a allai y dynion goreu a gallu- ocaf wneyd er diddymu y Babaeth yn an- nigonol heb eu Duw gyda hwy. Arwydd- air Israel yn awr fel cynt wrth, fyned i ym- ladd a'r gelyn ddylai fod—"Cleddyf yr Arglwydd a Gideon." Er fod genym arfau nad oes modd cael eu rhagorach-rhai o drefniad Duw ei hun ydynt-eto maent yn aneffeithiol yn anibynol arno ef; eithr dim ond cael gallu dwyfol gyda hwy, gwnant rymusder, ac maent yn alluog trwy Dduw i fwrw i lawr y cestyll cadarnaf, hyd yn nod castell y Babaeth ei hun. Gan hyny awn allan i gyfarfod a'r gelyn hwn fel yr aeth Dafydd allan i gyfarfod a'r Cawr 0 Gath, a'n hymddibyniad ar Dduw, a thynged hwnw fydd ei dynged yntau, a buan y gwelir y bwystfil yn tynu ei draed ato, ac y clywir yr angel yn bloeddio, "Syrthiodd, syrthiodd Babilon." "Daw'r bwystfil a'i brophwyd i lawr, Eu gorsedd a fwrir i'r llyn, A syrthia y Babilon fawr, Bydd miloedd yn moli am hyn."
[No title]
—Hysbysir fod y Seneddwr Sharon 0 Nevada yn perchenogi gwerth $7,000,000 0 eiddo tirol yn San Francisco.
Advertising
3± WBEX^r WUlf S'PA 'P&l'l. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
[No title]
IIIIIUU.. —" Tada," ebe bachgen pert wrth ei dad un diwrnod, "beth ydyw y rheswm fod eich dwylaw mor wynion?" "Am fy mod yn eu cadw yn fy mhocedi," oedd yr ateb. "Wel, rhoddwch eich trwyn yno hefyd," oedd ateb y pertyn. —Byddai fy ngwallt i cyn hardded a gwallt mama pe bae yn gadael i mi gymer- yd cymaint gofal o hono ag a gymer hi o'i gwallt. Nid yw mama byth yn cysgu yn ei gwallt, ond bob amser yn ei roddi o'r naill du gyda'i dillad pan yn myned i'w gwely.