Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
AIL BRA WF Y PAEGII. HENRY…
AIL BRA WF Y PAEGII. HENRY ki WARD BEECIIER. Ar yr ail o'r mis presenol gwasanaethodd y Barnydd Morris, cyfreithiwr Mr. Theo- dore Tilton, y papyrau ar Mri. Shearaman <& Sterling, cyfreithwyr y Parch. H. W. Beecher, yn eu rhybuddio i fod yn barod i ddechreu prawf newydd, gan eu bod hwy m erlyn Mr. Beecher ar yr un cyhuddiad- au ag o'r blaen. Ymddengys oddiwrth hyn y cosbir y cy- lioedd eto am fisoedd, a hanes y gwarad- wydd sydd wedi bod yn fwrn ar y wlad er's cymaint o amser. Os oes gan y llys hawl i wrthod caniatau prawf newydd, dylai wneyd hyny. 11
CAST LLEGHWRAIDD.
CAST LLEGHWRAIDD. Yr oeddym wedi bwriadu cyhoeddi' 'Han- es bywyd Hen Berson Llandedwydd," ond wedi sylwi yn fanylach gwelwn mai Iled- gyfieithiad ydyw o "Vicar of Wakefield," gan GOLDSMITH, ac nid gwir hanes am Ber- son Cymreig. Hefyd, cawsom ar ddeall oddiwrth amryw fod y gwaith yma wedi ymddangos yn benodau yn yr Herald Oym- raeg, ac wedi eiddarllen gan ganoedd yn y wlad hon. Gellir ei gael yn Llyfr cryno am swllt o swyddfa yr Herald. Y mae yn un da iawn fel lled-gyfieithiad ac efelych- iad, ond y mae yn degi ni wneyd yr eglur- had yma rhag camarwain neb. Y Wasg. Do, siwr, gwnaed addewidion teg i gy- hoeddi yr Hanes, ond wedi sylwi yn fan- ylach gwelwyd mai nid gwir hanes hen Berson Cymreig oedd. Oni ddywedir hyny yn nechreu y rhagyrnadrodd? "Hefyd, caed ar ddeall" ei fod wedi ei gyhoeddi drwy yr Herald Cymraeg. Onid oedd yr Herald yn dyfod i'r swyddfa yn wythnosol, yn cynwys yr hanes? Dealled y cyhoedd mai trie ydyw yr uchod i geisio taflu di- brsiad a sarhad ar HANES BYWYD HEN BERSON LLANEDWYDD, ydym yn gyhoeddi yn wythnosol yn y DRYCH. Ond yr oedd yn deg iddynt wneyd yr eglurhad "rhag camarwain neb," forsooth. Hawdd iawn fuasai dweyd y gwir, sef mai ymddangos- y I iad yr HANES yn y DRYCII a'i cauodd allan o'r Wasg; ond yr oedd yn berygl camar- wain neb."
Adolygiad y Wasg.
Adolygiad y Wasg. LI YFRA U AC A IVI) UR ON. Y MAE y cyfieithiad Seisnig diwygiedig o'r Testament Newidd wedi ei adolygu 11 y 1 at Rhuf. xv. GWELWN fod Mr. Gladstone yn myned i gyhoeddi me vn ungyfrolei dri thraethawd ar y Vatican." Teitl y gyfrol, o'i gyf- ieithu, fydd—" Rhufain a'r ffasiynau di- weddaraf mewn Crefydd." DYWEDIR fod Mr. John Forster yn ys- grifenu Hanes bywyd Dean Swift. BWRIADA y Parch. J. J. Powell, San Francisco, gyhoeddi argraffiad Cymreig o'i lyfr diweddar ar California, teitl yr hwn, fel y mae ein darllenwyr yn hysbys, yw, The Golden State and its Resources." Mae yn debygol mai yn Nghymru yr argreffir ef. YN MHLITII y llyfrau newyddion a gy- hoeddir gan T. Gee, Dinbych, y mae "Han- esiaeth a Gwyddoniaeth y Beibl, yn wir a chywir," gan y Parch. J. Ogwen Jones, B. A.-pris 2s. 6c. Hefyd, "Y Cydfradwr- iaeth," sef Rhamant yn egluro arferionpre- senol Cymru--buddugol yn Eisteddfod Han- gor, 1874, gan y Parch. W. Pritchard, Pen- traetli, Mon. Pris Is. mewn llian. Y LLE GOREU yn America i gael llyfrau Cymraeg wedi eu hargraffu yn gywir a destlus yw yn Swyddfa y DRYCII, Utica, N. Y. LLYFR NEWYDD THEODORE TILTON-Dy- wed y Brooklyn Argus fod Tilton wedi de- chreu ar ei lafur llenyddol mor fuan ag y terfynodd y Barnydd Neilso.n draddodi ei siars i'r rheithwyr yn y prawf diweddar, a hyny mewn trefn i ddarparu moddion i gynal ei hun, a'r hyn sydd yn weddill gyd ag ef o'i deulu drylliedig. Er prawf o ddiwydrwydd a ffrwythlonrwydd hynod meddwl toreithiog Mr. Tilton, ni raid ond dweyd y bydd y llyfr a ddechreuodd y diwrnod a nodwyd yn barod i'r wasg er- byn canol y mis presenol. Enw y llyfr yd- yw A LEGEND, a chyn wysa tua thri chant o dudalenau wytliplyg. Mae yr awdwr yn codi yn foreu, ac yn gweithio yn galed hyd yn hwyr yn y prydnawn; ciniawa am 5 o'r glocli, yna cerdda bump neu chwe' milltir er mwyn ymarfer corfforol. Derbynia wa- hoddiadau i draddodi darlithiau i fwy o le- oedd nag y gall obeithio eu llanw oil. THE LIFE OF CHRIST, gan y Parch. Henry Ward Beecher. Dywedodd Mr. Samuel Wilkeson, aelodo gwmni J. B. Ford & Co., os buasai y gwaradwydd yn cael ei wneyd yn gylioeddus, "it will knock the Life of Christ higher than a kite;" ac yn awr ad- roddir fod y cwmni wedi tori cyn cwblhau gweithiau Mr. Beecher. Hefyd, hwy oedd cylioeddwyr y Christian Union; ond liys- bysirmai Henry W. Sage, Henry M. Cleve- land a Henry Ward Beecher, ydyw per- clienogion y papyr, yr hwn felly a ddygir yn mlaen fel ai-fer er methiant J. B. Ford a'i Gwm. THE "EISTEDDFOD," or Welsh National Assembly devoted to Music, Poetry, &c.-To be held at Hyde Park, Pa., Sept. 15, 16.— Dyna beniad pamphledyn tlws sydd new- ydd ei gyhoeddi gan Bwyllgor Eisteddfod Hyde Park, yr hwn a gynwysa restr gyf- lawn o destynau eu Heisteddfod iiestf, yr hon a gynelir yn Medi. Hefyd, enwau y beirniaid, llywyddion, arweinwyr, &c. De- allwn oddiwrtho fod y Pwyllgor yn gwneyd ymclrechion egniol o blaid y sefydliad; ac y yn ol pob arwyddion, coronir eu hym drechion a, llwyddiant mawr, er nad yw sefyllfa y glofeydd yn galonog iawn. Cof- ied y cystadleuwyr y rhaid i'w cyfansodd- iadau fod yn nwylaw eu gwahanol feirniaid y 1, erbyn Awst 20fed-gyda'r eithriact o'r cyf- ansoddiadau cerddorol, y rhai a ddylid an- fon i'r Ysgrifenydd—D. C. POWELL (Deioi Cwmtwrch), Hyde Park, Pa., gan yr hwn y ceir pob manylion. "THE NEW SONG, fo," Revivals, Prayer ami Camp Meetings, by Rev. AARON COONS." Dyma lyfr cerddorol tlws at wasanaeth Ysgolion Sabbothol, cyfarfodydd diwyg- iadol, &c., wedi ei gyhoeddi gan y Parch. Aaron Coons, yr hwn sydd yn adnabyddus i'r dosbartlrdarllengar fel gweinidog gallu- uog, bardd da, a clierddor medrus. Cyn- wysa ei lyfr 256 o dudalenau, ary rhai y ceir dros gant o gyfansoddiadau gwreidd- iol o eiddo yr awdwr ei hun. Gwneir y gweddill o'r llyfr i fyny o donau wedi eu dethol o tua 40 o lyfrau oeddynt eisoes ary maes. Cyfarfyddwn vnddo yn ami a chyn- yrchion swynol Wm. B. Bradbury, Philip Phillips, R. Lowery, W. F. Hoot, T. E. Perkins, &c., &c.; a gwyr pob cerddor am satle y boneddwyr hyn fel awduron hymn- au a thonau crefyddol. Pris y llyfr ydyw 45c., a gall Ysgolion Sabbothol ei gael am $L}O y cant. Anfoner pob archebion i S. T. GORDON & SON, 13 East 14 St., New York.
[No title]
DINAS NEW YOHK-Picnic Cymreig.— Dydd Merclier, Gorph. 28, cynaliodd Cym- ry dinas New York eu hwythfed bicnic blynyddol yn y Crist's Park, Mott Haven, o dan nawdd y St. David's Benevolent So- ciety. Yr oedd y picnic y llynedd mor llwyddianus, fel yr oedd rhagddisgwyliad mawr am y pincic hwn, ac ni siomwyd y gwyddfodolion yn rhifedi a chymeradwy- aeth y rhai a ddaethant yn nghyd. Yr oedd y pwyllgor wedi gweithio yn rhagorol, sef Mri. John Thomas, Brooklyn; "John L. Davies, John Hughes, Daniel L. Jones, Owen Roberts a Morris New York. Yr oedd seingor ardderchog o New York yn adseinio y wig a thonau, a phawb yn mwyn- hau eu hunain mewn gwahanol ddulliau, sef dawnsio, rhedeg, coitio, &c. Yn mhlith y gwyddfodolion gellir dweyd fod Cymry New York yn cael eu cynrychioli yn dda yno yn ngwahanol gangenau masnach a clielfyddyd, ac yr oedd y cynrychioliad hefyd yn anrhydedd i Gymreigiaeth y ddi- nas. Gellid; enwi W. Miles, arianydd, Llywydd yr Astor Place Saving's Bank; J. L. Davies, Dry-goods, Grand St.; Williams, Wholesale Boots & Shoe Store, Brooklyn; Rodgers, un o brif adeiladwyr y ddinas; Aneurin Jones, Architect; R. Treharne o Gwm. Hill & Treharne, Painters and De- corators mwyaf y ddinas-yn cyflogi weith- iau gant a haner o ddwylaw; John Hughes, Houston St., Afolygydd yn y Department of Buildings; Mr. Morris, masnachydd; Isaac Williams. Confectioner; John Lloyd, Produce Merchant; John Thomas, Agent, &c.,&c. Yr oedd y boneddwyr uchod a'u teulu- oedd gyda hwynt, heblaw Americaniaid ac Ellmyniaid cyfrifol,ji sylw pa rai y dygodd y picnic hwn y Cymry yn drachymeradwy; o herwydd cydnabyddiaeth y respectibility a threfn y cynull iad yn ei wahanol agwedd- au, mewn modd neiliduol. Cynaliwyd yno bwyllgor neillduol er trefnu mesurau i wneyd Cym ry New York yn fwy adna- byddus yn'y dyfodol; ac y mae yn debvg y bydd y "St. David Benevolent Society" yn gwneyd trefniadau tuag at o-ael cyn- rychioliad o Gymry Dinas New l^ork yn y canmlwyddiant yn Philadelphia; cewch glywed eto. I goroni y picnic, dysgwylid y buasai yn troi allan yn ffafriol o ran arian, yr hyn a ddefnycldia y gymdeithas at acliosion elusengar. Golygir cael Gran<JCentennial Welsh Picnic y tl wyclclyn nesaf. GOIIEBYDD NEWYDD. -c.
NO I) ION rEUSONOL.
NO I) ION rEUSONOL. Gyda theimladau drylliedig yr ydym yn hysbysu am farwolaeth ein cyfaill ffydd- lon, y Parch. PHILIP L. DAVIES, gweinidog y Bedyddwyr Seisonig yn lieol Bleecker, New York, yr hyn a gymerodd le ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Claddwyd ef yn Philadelphia, ddydd Llun, yr 2il cyfisol. Hysbysid fod car i'w logi i fyned o New York i Philadelphia ac yn ol, gyda'r gal- arwyr a chyfeillion yr ymadawedig. Deallwn fod JOHN H. GRIFFITHS, gynt o Danielsville, Pa., yn bwriadu cychwyn i'r Hen Wlad ar yr 16eg cyfisol, er mwyn cael llwyr adferiad i'w iechyd. Dyma fel y dywed: Hwyliaf tros foroedd heli-i weled Hen Walia anwylgu; A gweled beirdd gwlad y bri, A'r amvyl hen rieni. Galwodd y Parch. H. C. PARRY (Cefni,) Pittston, yn Utica ddydd Gwener diwedd- af, ar ei ffordd adref o Rome, lie y bu o dan law Dr. Kingsley am rai wytlinosau.— Da genym hysbysu ei gyfeillion yn mhob man fod y cancer wedi ei dynu allan o'i wefus, a'i fod yn disgwyl bod yn abl i bregethu yn mhen Sabboth neu ddau. Y mae Mri. MOODY a SANKEY, y diwyg- wyr, yn bresenol ar daith drwy Ogledd Cymru. Ddydd Llun diweddaf, yr oedd- ynt i fod yn gosod careg sylfaen capel Presbyteraidd yn agos i Wrexham. Dywedir fod Madame PAREPA ROSA, pan fu farw, ynwerth$250,000. Bu farw y Gwir Barchedig CONNOP TIIIRLWALL, Esgob Ty Ddcwi, ar y 27ain cynfisol. Bydd y Parch. D. TODD JONES, gynt o Mahonoy, Pa., yn dychwelyd o Gymru yn Awst neu ddechreu Medi. Mae y Parch. T. C. EDWARDS (Cynon- fardd,) Wilkes-Barre, Pa., wedi caelrliydd- had gan ei eglwys am dri Sul. Treulia hwy yn ninas New York a'r cylchoedd. Y dydd o'r blaen urddwyd Miss EDITH WYNNE (Pencerddes,) yn un 0 "Farchogesau y Vorn Gron." Derbyniodd yProffeswr EVANS, diwedd- ar o Goleg y Presbyteriaid, Caerfyrddin, dysteb wertlifawr gan ei gyfeillion a'i ed- mygwyr, yn cynwys pwrsllawnoaur, yn nghyda time-piece liardd. WICONISOO, PA.—(jyngerdd.—Cynaliodd y "Cambrian Male Choir" ddau gyngerdd llwyddianus yn eglwys y (c edyddwyr Cym- reig yn y lie hwn, Gorph. 19, 20, pryd y cafwyd cynulliad liuosog. Amcan y cyng- erdd oedd casglu arian i drysorfa. yr Ysgol Sul. Gellir dweyd fod y canu yn ardderch- og, ac enillodd Mr. Taylor ganmoliaeth ucliel fel arweinydd medrus. Cymerwyd rhan yn y cyngerddau gan y personau can- lynol heblaw y cor: J. 1" ay lor, H. Lawrence ac E. Argus; W. Beynon a'i barti; W. Williams ac R. Howells. Trefnydd y cyngerdd oedd Mr. Lewis Morgans.— Gohebydcl. UTICA, N. Y.—Gyflwyniad Tysieh.—Nos Lun, v SOain cyfisol, ymwelwyd a'r Parch. JAMRS JARRETT gan nifer luosog o gyfeill- ion, y rhai a roddasant arwydd o'u teim- ladau da tuag ato, ar ei waith yn rhoddi gofal gweinidogaethol eglwys y T. C. i fyny, ac o'u bod yn gwerthfawrogi ei lafur yn ystod y pum' mlynedd y bu yn weinid- og, drwy ei anrhegu ag oriawr aur ysblen- ydd, a phin ysgrifenu o'r un defnydd.- Dewiswyd yr hen wr hynaws a'r diacon ffyddlawn, Mr. Richard E. Roberts, yn llywydd, yr hwn, wedi anerchiad pwrpasol er egluro amcan y cynulliad, a gyflwynodd yr anrhegion; yna gahvyd ar y Parch. D. M. Jones, Remsen, gan yr hwn y cafwyd anerchiad barddonol doniol dros ben. Caf- Wyd ychydig sylwadau gan amryw o gyf- eillion, a phawb yn amlygu y teimladau goreu tuag at Mr. Jarrett, a chryn anmhar- odrwydd i ollwng eu gafael o hono fel gweinidog. Adroddodd Mr. W. C. Jones (Cynwal), yr englyn canlynol a gyfansodd- odd ar gyferyr achlysur: Wele! wrth borth eich calon—dywedyd Mae dadwrdd olwynion— Felly mae serch cyfeillion; Ell cariad hwy yw curiad hon. Yna cyfododd Mr. Jarrett i ddatgan ei ddiolchgarwch am y fath arddangosiad o deimlad da tuag ato. Dywedai nas gallai amlygu ei deimladau, ond ei fod yn gallu gwerthfawrogi caredigrwydd; ereifod yn teimlo ei hun yn hollol anhaeddianol o'r anrhegion a gyfiwynasid iddo. Dywedai na byddai iddo byth angliofio y caredig- rwydd a ddangosasid tuag ato, pa le bynag y trefnai rhagluniaeth fod iddo ddiweddu ei yrfa. Dymunai bob llwyddiant i'r cyf- eillion oeddynt yn bresenol yn gystal ag i'r eglwys yn gyffredinol. Gallesid gweled yn amlwg oddiwrth wynebau pawb pan yn ymadael eu bod wedi mwynhau eu hunain yn gampus. Teg yw hysbysu mai gyda'r boneddigesau ieuainc y dechreuodd y symudiad, ac ar ddiwedd y cyfarfod cyf- lwynwyd diolchgarwch i'r rhai fuont wrthi yn casglu at y dysteb, sef Misses Margaret Anthony, Mary Roberts, Mary Watkins ac Ellen Roberts.— Un oedd yno. EISTEDDFOD lFOEAIDD.-At y Corau.- Mae amryw geisiadau wedi dyfod i law Mr. David Owen, yr ysgrifenydd, yn gofyn am ohirio yr Eisteddfod o'r Nadolig i'r Calan, yn nghyd a newid y brif don, am y rheswm, "meddai nhw," ei bod yn un pur anhawdd i gorau ieuainc i'w meistroli. Fel atebiad ar hv" o b \t], dymunwn eu hysbysu y caifi u liapa':a iau sylw manylaf y pwyll- gor; achan gynted ag y cant amser i gyf- arfod a'u gilydd, ca y cyhoedd wybod sut y mae pethau i fod. Yr ydym wedi sicr- hau gwasanaeth beirniaid galluog, enwau y rhai a gyhoeddir yn fuan.—Yr ydwyf wedi derbyn 13 o gyfansoddau ar y Penill- ion Angladdol at wasanaeth yr Ifori,-tid.- CaifE y feirniadaeth a'r penillion buddugol ymddangos yn fuan yn y DRYCH. Mae y gweithfeydd wedi cychwyn; dechreued y corau ar eu gwaith ar un- waith, er gwaethaf y panic a'r strike; mae argoelion y cawn Eisteddfod fendigedig.— Yr eiddoch yn rhwymau awen a chân, DAFYDD Y GAREG WEN. Youngstown, Ohio.
G WEITHFAOL-MASNA CI J OIj.
G WEITHFAOL-MASNA CI J OIj. —Dywed gohebydd o Wilkes-Barre, Pa., fod "Inspectors" y glofeydd wedi derbyn eu comisiwn newydd er Gorph. 19eg. Byddant yn eu swydd am bum' mlynedd. —Mewn cyfarfod a gynaliwyd yn New York yr wythnos ddiweddaf, i bleidio ad- feriad arian bathol, pasiwyd penderfyn- iadau yn condemnio pob cynlluniau i chwyddo yr arian cylchredol. Etholwyd pwyllgor i fyned i'r gynadledd a fwriedir gynal yn Cincinnati ar" y 25ain o Hydref. —Aclioswyd cryn gynwrf mewn cylch- oedd masnachol, yn Chicago, gan y newydd fod cwmni y Chicago Plate & Bar Mill "wedi tori." Ffurfiwyd y cwmni yn 1868 gyda chyfalaf o$84,000, yr hyn a dalwyd i fewn. —Mae llawer o ddynion wedi ymadael o Allentown, Pa., i chwilio am waith yn y glofeydd. -Er pan aeth y glowyr i weitliio, y mae ffwrnes W. Ward yn Niles, 0., yn rhedeg amser llawn ac yn gwneyd pum' tunell ar hugain y dydd. Y mae y dref yn dechreu arddangos bywiogrwydd yr hen amser gynt. —Dengys y datlen ganlynol y metildal- iadau yn New York o'r flwyddyn 1857 i'r flwyddyn 1873: Methdaliadau. SWill. 1857 915 $135,129,000 1868.406 17,773,462 1850.269 13,218,000 186 0 428 22,127,297 1861.970 69,066,114 186 2 162 7,491,000 1863. 3-t 1,670,000 1868.417 31,654,000 1869.418 21,370,000 1870.430 20,503,000 187 1 324 20,740,000 1872.385 20,684,000 187 3 644 92,635,000 — Darganfyddwyd mynydd o haiarn, drigain milldir i'r gogledd o Duluth, yr hwn sydd yn wyth milldir o hyd a milldir a haner o led, ac yn 1,200 o droedfeddi uwchlaw llyn Superior. GWEITHFEYDD GEORGE CREEK, MD.- Llawer o ddisgwyl a fu yn yr ardal hon yn y gwanwyn am weled y gweithfeydd yn cychwyn. Gwnaethant hyny, ond yn hynod o araf; yna gobeithicm y byddai. iddynt fywiocau ychydig tua chanol yr haf, ond yn lie hyny y mae yn ddrwg genyf orfod dyweyd mai i'r gwrthwyneb y mae y rhod wedi troi. Dechreu yr wyth- nos ddiweddaf cafodd holl lowyr'yr ardal hon eu taro megis gan stroke o'r palsy, o herwydd y nOwydd galarus, fwl amryw o weithfeydd yr ardal wedi eu hatal yn holl- ol, (dros ba hyd nis gwyddom,) ac y mae rliai o honynt wedi gorfod dyfod a'u ho- ffcrynau gweithio allan, tra y mae eraill heb wneyd hyny hyd yn hyn, ond nis gwyddom pa bryd y cymer hyny le, er ein bod yn gobeithio na cliymer le o gwbl, ond yn liytrach y claw galwad am ein llafur eto cyn hir. Y gweithfeydd y gwyddom am danynt ag sydd wedi cael gorchymyn i ddyfod a'u tools allan, ydynt y rliai can- lynol: Jackson, hen waith Linnconing a Middleothion; y maent i mewn yn yr oil o'r gweithfeydd eraill hyd yn hyn, hyny yw, y rhai sydd yn segur. Dywed y Bosses mai diffyg archebion yw yr achos o'r atal iad presenol, ond ofnwn fod rhywbeth gwaeth yn y llawes o'r golwg. Ond go- beithiwn y goreu, gan hyderu y cawn fyn- ed at ein gwaitli eto yn fuan. Y mae yn hawdd gweled fod gwir angen am weithio arnom yn gyffredinol, ddim ond ystyried nad yw y rhan fwyaf o weithfeydd George Creek wedi gweithio ddim dros saitli neu wyth mis er's yn agos i ddwy flynedd. Wrth derfynu, dywedwn mai ein dymun- iad ydyw gweled adfywiad ar fasnach, a hyny yn fuan. W. MASON. CANAL, FULTON, Ohio, Gorph. 29.— Mar- waidd anghyffredin yw y gweithfeydd glo yn yr ardaloedd hyn er's cryn amser bell- ach, ac i ychwanegu at ofidiau y gweith- wyr tlodion, mae yma rybudd wedi ei roddi allan yn y rhan fwyaf o'r gweith- feydd, fod 10 cent o ostyngiad pris i gym- eryd lie ddechreu y mis nesaf (Awst y laf). Nis gwn pa beth fydd y canlyniadau; ond gwell yw i ddyeithriaid sefyll draw ar hyn o bryd beth bynag. Y pris presenol yw 80 cents y dunell.-Lilosiiz.
[No title]
—Mae Mrs. Tilton yn treulio yr haf gyda pherthynasau a chyfeillion yn Washing- ton, Connecticut. —Mae y dwymyn felen yn ddinystriol yn Fort Barrancas, a'r wythnos ddiweddaf bu farw y Rhaglaw Deshler. Cymerwyd 64 yn gleifion, a chollodd 19 eu bywydau. 11 —Saethwyd Capten Sisvey i farwolaeth, nos Fercher wythnos i'r ddiweddaf, yn Carbondale, Ill., tra yn eistedd yn dawel gyda'i deulu yn ei dy ei hun. Diangodd y cudd-lofrudd. —Cynaliwyd cyfarfod poblogaidd yn New York yr wythnos ddiweddaf, i ffafrio adferiad arian bathol, ac atal argraffu rhagor o'nodau papyr. —Enillodd Judge Fullerton, y ceffyl, nid y cyfreitliiwr,$3,000 mewn rhedegfa yn Chicago yr wythnos ddiweddaf. -Bu farw 125 o bersonau o'r cyfog du yn Vera Cruz, Mexico, yn ystod y mis diweddaf. —Bu llifogydd trymion iawn yn ddiw- eddar yn nyffryn yr afon Ohio, a gorlif- wyd dros 10,000 o erwau o dk- yn iseldir Wabash. —Cymerodd ffrwydriad le yn shaft No. "2, gwaith glo Cwmni Pennsylvania, yn Irwin Station, ddydd Mawrth wythnos i'r diweddaf, pryd y lladdwyd John Hum- phreys, ac yr anafwyd chwech o lowyr yn d, s,.
Prydain Fawr.
Prydain Fawr. LLUNDAIN, Awst 2-Rhoddodd Arglwycd Faer Llundain ddawnsfa ardderchog yn Guild Hall ar y 30ain o'r mis diweddaf, ac yr oedd yn bresenol 3,500 o bersonan. Mae ■50 o r melinau yn Ashton wedi eu cziii, a 8000 wedi eu troi allan o waith. Ar y 2f)ain cynfisol, gwnaeth Mr. Plimsoll esgusawd yn Nhy y Cyffi-ediii dros yr iaith a ddefn- yddiodd pan gollodd ei dymer yr wythnos o'r blaen; ond dywedodd nad oedd yn galw yn ol y ffeithiau, neu y cyhuddiadau, a ddygodd yn mlaen yn erbyn rhai o'r aelod- au. Ymddengys fod y llywodraeth wedi ofni canlyniad" gwrthodiad ei fesur er am- ddiffyn bywydau ymorwyr; ac yn hytra.ch. na gadael y pwnc hyd yr eisteddiad 'nesaf, fel yr addawyd, dygwyd mesur arall yn mlaen, i wneyd y tro, hyd nes y ceir amser i berffeithio deddf newydd. Gorchymyn- odd Mr. Disraeli i'r cwyn yn erlJyn Mr. Plimsoll gael ei ddiddymu. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Hyde Park y Sabboth diweddaf i frafrio rhydd- had y Feniaid, pryd yr ymgynullodd llawn can' mil (100,000) o bobl. Y cadeirydd yd- oedd Mr. John O'Connor Roweli's, aelod Seneddol dros Mayo, a siaradodd amryw yn rymus dros anog y llywodraeth i rydd- hau y carcharorion, a phasiwyd rlies o ben- benderfyniadau i'r perwyl.
Ffrainc.
Ffrainc. PARIS, Awst 3.—Cymwysodd y Senedd 8,000,000 francs yr wythnos ddiweddaf at wasanaeth y fyddin. Gofynodd M. Raul Duval i'r llywodraeth beth oedd y rheswm fod y Talaethau Unedig heb dalu i ddinas- yddion Ffrainc yr iawn sydd yn ddyledus iddynt am eiddo a gollasant yn ystod y rhyfel cartrefol, tra mae tramoriaid eraill wedi derbyn eu tal? Atebodd Due De Cazes, gweinidog helyntion tramor, fod tramoriaid eraill hefyd heb dderbyn tal; a bod yr Arlywydd Grant yn ei genadwri ddiweddaf wedi galw sylw y Gydgyngorfa at y pwnc; ond na weithredwyd efo \yn y cyfeiriad liwnw. Dywedodd fod ganddo ffydd yn addewidion y llywodraeth" Amer- icanaidd, ac y gwnant bob peth yuan- rhydeddiis. Dywedir fod Henri Kochefort a M. De Cassagnac yn myno4 i Geneva i ymladd gornest.
Smugglers Brydeiiiig.
Smugglers Brydeiiiig. Daliwyd y Hong Seisnig Darbisbrooke yn glanio nwyddau a rheitliwyr ar Ynys Hainan, yn grocs i'r ddeddf, i y llong gan swyddogion y tolldy,"y rhai a'i hanfonasant i Whampoa i'w liarcliwilio.— Addawodd y capten ddilyn cadlong Chine- aidd i'r porthiadd hwnw: ond ar ol myned allan, amcan odd ddianc droion. Rhvbudd- iwyd ef, oad nfwrandawai. 1 aniwyd ar y llong, a drylliwyd ei llyw; yna cymerwyd hi i Whampoa i'w cliondemnio. Creodd hyn gynwrf mawr; ac er .od cane, dj 0 deithwyr ar ei bwrdd, ni an:;f «yd neb.— Gosodir y pwnc o flaen yr awdurdodau yn Pekin.
Y G-vrrtliryfel yn Spaen
Y G-vrrtliryfel yn Spaen MADRID, Awst 2-Hysbvsir fod prif gortr y fyddin 'Garlistaidd yn agos i Catalonia, a bod brwydr bwysig gerllaw.. Mae tan-bel- eniad Leu De Urgcl yn parhau ac ad- roddir fod bradwriaetli yn mhlith y Car- listiaid. Mae milwyr y .llywodrtvjtJi yn cadarnhau yr amddiifynfeydd, ac yn gosod magnelau ar lethrau y mynyddoedd, er atal gwalianol gangenau o'r fyddin Gar- listaidd ymuno. Cymerodd amryw fan frwydrau le yr wythnos ddiwedclaf.
Clxwyldroad yn China.
Clxwyldroad yn China. SHANGHAI, Gorph. laf—Mae arwyddion amlwg fod rhyfel cartrefol ar dori aiian yn China. Ymddengys fad blaenoriaid gwlad- ol tiriogaetli Hashgar yn gwrthod cydna- bod awdurdod China drostynt; ac y maent dan arfau yn barod. Bu tan evclivll yn Hong Kong Mehefin 22, a llosgwyd llawer o nwyddau tramoriaid. Mae y gwrthryfel- wyr cartrefol yn Manicliooria yn aliuog i wrthsefyll milwyr y llywodraeth.
[No title]
Clrivyiuroaxl yn Twrci. BELGRADE, Awst 2.—Aeth y Tywysog Milan i Vienna i ymddiddan a'r awdurdod- au yn nghylch y chwyldroad yn Herzego- via; ac mae y Servaniaid yn cynorthwyo y terfysgwyr ag arian ac arfau. Mae awdur- dodau Twrci yn liaeru fod Awstria yn dy- lanwadu i greu anghydfod rhwng "dinas- yddion ei ac mae helyntio-i yr atnserau yn anffafriol, i barhad hedd- wch. Gwasgarwyd byddinoedd y terfysg- wyr gan lilwyr Twrci; ond ofnir y gwnant ail ymddangosiad.
[No title]
—Teimhvyd daeargryn amlwg yn Hart- ford, Conn., ar yi- 2t)nin o'r mis diweddaf, ond ni wnaed niwed i neb. Yr oedd y cryniadau yn rymus yn ngorliewin-bartli y Dalaeih. —Lladdwyd pedwar o bersonau ar y Northern Pacific R. R. ar y 27 cyntisol, ac anafwyd pedwar, drwy i'r train redeg dros bont, yn Brainerd, Minnesota. —Gjrrodd dyn o'r enw William Johnson ei wagen, yn cynwys ei wraig a plnunp o blant, i'r afon Cooswatta, Gordon, yr wythnos ddiweddaf; ac o herwyGd t'od y dwfr yn ucliel, codwyd box y i fyny, a boddodd y plant oil. Llwyddodd Johnson a'r wraig i lynu wrth y cerbyd, a nofiodd y ceifylau i'r lan. —Yr oedd cefnenau mawrion o eira mewn amryw bantiau a cliiifachau y myn- yddoedd yn agos i Bethel, Maine, ar y cyntaf o Orphenaf —Prisiwyd eiddo dinas New York.. r hafhwn, i yr un fr;I: y llynedd yr oedd y prisiad yn$1,154,2^ 176. Mae y lleihad 0 achosi di-wy i gynifer 0 dalwyr drw.g L;IC[ eu croesi allan. —Mae yn y Talaethau Unedig 323 0 gol- egau ac athrofiiu o gymeriad ucliel.
ENLLIBION Y " WAder"
< 2. Yr ail gyliuddiad yn eu herbyn oedd, ein bod wedi anfon i Washington i hysbysu y Postfeistr Cyifredinol, eu bod hwy wedi twyllo y llywodraeth, drwy anfon darlun Caradog yn y Wasg i'w derbynwyr. Prof- asom mai anwiredd maleisddrwg arnom i oedd y cyhuddiad hwn eto; ac mae ein tyst yn ddyn nas gallant hwy estyn bys at ddim anhei1 wng yn ei gymeriad, fel dinesydd a Christion. Dyma ei dystiolaetli: UTICA P. 0., July 19, 1875. Dear Sir-Your communication of this date, de- siring a statement from me in relation to my actions with a newspaper called Y Wasg, containing an en- graving in April last, is received. On the 9th of April last I forwarded a copy of said paper with engraving enclosed to the P. O. Depart- nient, and said in my letter that I presumed each copy of the whole issue contained a like engraving, and thereby subjecting the entire issue for the 10th of April to third class rate of postage: and. there- fore, I hoped the P. O. Department would give the case their attention for the benefit and protection of the postal service. Yours, very respectfully, C. H. HOPKINS, P. M. T. J. Griffiths, Esq. Er mor amlwg a chadarn ydyw yr uchod amcana gwyr y Wasg roddi y bai arnom ni, -f> herwydd mai y rhifyn pertliynol i'r swyddfa hon a anfonodd y Post-feistr i Washington. Ei rcswm dros anfon y rhif- yn hwnw oedd, am nad oedd yn eiddo i'r un person unigol, ond i'r swyddfa hon yn gyfnewid am y DRYCH. Mae yn amI wg i » bawb, pe buasai arnom ni eisiau dinoetlii gwaitli y bobl hyn yn twyllo y llywodr- aeth, na fuasem mor ddall ag anfon y Wasg i Washington, ag enw y DKYCII ami. A phaham y mae y bobl hyn yn cwyno cy- maint, o herwydd i'w trosedd a'u twyll ddyfod i'r amlwg ? Maent yn cyfaddef eu 't bod wedi tori y gyfraith a chael maddeu- ant; ond er y cwbl tuchanant a grwgnach- ant vn barhaus. Maent yn brolio fod Bwrdd eu Cyfarwyddwyr" yn cynwys (e cyfreithwyr a cliyfraith-wneuthurwyr, a braidd ar yr un anadliad dywedant, pan ofynodd Mr. Negley a oeddynt yn gwybod eu bod wedi troseddu y gyfraith, u Na wyddem ni, ar ein gwir." Cyfreithwyr a chyfraitli-wneutliurwyr heb wybod pan oeddynt yn tori y gyfraith Mae yn ym- ddangos mai Model Postmaster ydyw Mr. Negley, yn ol y dull y mae yn rhyddhau troseddwyr. Dyma hanes prawf Mr. Rob- erts o flaen Post-feistr Pittsburgh: Aeth Mr. Roberts i swyddfa y postfeistr, ac ar ol y moes-gvfarchiadau arferol, meddai Mr. Negley wrtho: Yr wyf yn deall fod y Wasg wedi cyhoeddi darlunian i'w rhoddi i'r derbynwyr.'i "Ydym," ebe Mr. R., "a hoifech chwi gael un o honynt Mr. Negley?" "Diolch i chwi," meddai y postfeistr; "ond a ddarfu i chwi eu hanfon yn eich papyr?'1 "Do, syr," ebe Mr. R., "ac fe ychwanegodd eu pwysau ein bill yn ddirfawr am yr wythnos hono." Oni wyddech chwi fod anfon pethau felly y tu fewn i newyddiadur yn droseddiad o'r gyfraith?" gofynai y postfeistr. Na wydclem ni, ar ein gwir," atebai Mr. R.; "meddyliasol11 y buasai pobpeth yn iawn tra yr oeddem yn talupostaae wrth y pwys, ac yr ystyrid y darlun megys supplement." Na, nid felly," meddai y postfeistr, dylasech anfon y dar- luniall wrthynt eu hunain. Gan i chwi anfon agos yr oil o'r darldniau i ffwrdd, ac i chwi wneyd hyny yn liollol ddifwriad o droseddily gyfraith, dywedwn wrthych y waitn lion, Dos, ac na pheclia mwyacii. £ ■■ Mae teilyngaod llenyddol a chyfreitliiol yr.ilelio(i y fftth, fel ag y dylai rhywun ei gyfieitliu i'r caesonaeg, a'i anfon i'r Post Office Department yn Washington, fel specimen o weinyddiad cyfiawnder ar dros- eddwyr yn Pittsburgh Post Office. Felly, yr oedd anwybodaeth o'r gyfraith yn ddi- gon o esgus dros ei throseddu, yn marn y model Post Master Pa mor bell y mae yr egwyddor newydd yna yn cael ei cliario yn mlaen tua Pittsburgh ? ) Mae y gwyr hyn yn dra hoff oYlnffrostio yn eu moesoldeb, eu tegwch, eu boneddig- eiddrwydd, a'u bod yn ymegnio i gyhoeddi newyddiadur o chwaeth uchel, er dyrchafu moesau eu cydgenedl; ond banier coetli- der eu chwaeth oddiwrth y geiriau clasurol a ganlyn yn eu siboleth yr wythnos ddiw- cddaf:- BA W AIDD, DYNIONACH, LLYSNAF- EDD, ASYNOD, CLEPWYP, CENEDLAETHOL, PUNIA, ASYNOD Y DRYCH, DEMAGOGIAID, HERETTCIAID, RENANIAID, HUNAN-BWFF- WYH, &c. Maddeued ein darllenwyr i ni am bardduo gwyneb y DHYCII a'r fath eir- iau am y tro hwn yn unig; ac o hyn allan ni a adawn ein henllibwyr i orphwys yn eu dinodedd haeddianol. 1111 au O*