Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

G WJi 0 L GA MP A U A DIFYRWCII.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

G WJi 0 L GA MP A U A DIFYRWCII. Bydd Pwns yn ami iawn yn cael llawer o ddigrifwcb iddo ei hun wrth wrando ar bersonau hynod o santeiddiol eu hymar- weddiad, yn dwrdio campau a gorchestion digrifol yr lien amser, gan ddiolch fod chwareu pel, ymaflyd codwn, taflu maen, coetio, ymryson rliedeg, canu gyda'r tanau, &c. wedi diflanu o'n plith yn gwbi. Cymer y bobl hyn arnynt gredu fod digrifwch, ad- loniant a llawenydd diniwed, yn anfoesol a drwg. Nid ydynt yn foddlon i eraill chwerthin, ac ymlawenhau. Nis gallant chwerthin eu hunain, o herwydd fod eu natur yn rhy afrywiog, a'u cyneddfau meddyliol heb eu dadblygu a'u diwyllio yn briodol. Credant mai ymarweddiad rhin- weddol ydyw gwisgo gwyneb hir. rhodio yn bendrist, a gresynu o herwydd gwagedd a gwamalrwydd eraill. Pobl ddrwg eu natur, anynad, trofaus a gwrthnysig ydyw y rhai hyn bob amser; edrychant yndrwyn sur a sarug ar bob chwareu, gorcliest gamp- au, ac ymarferiad corfforol. Mynant fod yn brudd-glwyfus a chlafychlyd eu hys- brydoedd, gan ymdrechu gwyrdroi eu natur; nid am eu bodyn gwybod fod hyny yn rhinwedd, ond o herwydd yr hyfryd- wch a gymerant wrth fod yn wahanol i eraill. Mae hyn yn peri iddynt fod yn waelion eu hiecliyd, ac yn cwyno yn bar- haus. Nid ydyw eu hymborth yn treulio fel yr eiddo dynion eraill, o ganlyniad y maent yn llwydion a theneuon yr olwg arnynt, yn dioddef gan walldreuliad par- haus. Maent yn rhy biwis a chintachlyd i ymborth ddygymod a hwy; ac yn gyffred- in y maent yn yiiiollwng i arferion budron a niweidiol, megis cnoi a mygu tobaco, defnyddio snisin, a phetliau eraill, llawer gwaeth na'r digrifwch dinwed a gon- demniant mewn eraill. Yn awr, y mae Pwns yn credu mai "Loli gyd, Lol i gyd," ydyw pethau felyna; ac mae dynoliaeth wedi diraddio mewn cryfder corfforol, o lierwydd i benboethni cul a liunanol, erlid gwrol-gampau a gorchestion corfforol allan o arferiad mewn llawer o leoedd. Pa niwed i foesoldeb, purdeb a rliinwedd, a all gorchest gampau ac ymarferiadau corff- orol wneyd? Arfer corfforol iachus, di- niwed, digrifol ac adlouiaclol ydyw dawns- io, a pha niwed a all cadw amser i fiwsig gyda'r traed wneyd? Cedwir amser miwsig a'r dwylaw mewn addoldai. A oes gorch- ymyn pendant yn rhyw le i beidio cadw amser miwsig a'r traed? Pe byddai i lawer un sydd yn cwyno o herwydd gwalldreul- iad a phen-ysgafnder, ddawnsio ychydig yn ddyddiol gydag alaw fywiog, caent wellad buan, ac ni fyddai raid talu bil y doctor. Faint bynag a resynir o herwydd cyflwr y rhai a arferant ddawnsio, nis gall neb brofi fod hyny yn niweidiol i foesau cymdeitlias. Os cysylltir drygioni gyda'r ddawnsfa, nid ar ddawnsio v bydd y bai, mwy nag ar wir grefydd y mae y bai fod ami grefyddwr yn meddwi, neu yn troi allan yn anonest. Rhaid i'r bobl gael adloniant a difyrwch i ateb gofynion cyneddfau eu natur. Ni thyfant ac ni ddadblygir eu meddyliau, eu serchiadau, &c., nac aelodau eu cyrff, heb ymarfer corfforol. Edryclier ar y plant bychain, y rhai a chwareuant mor fuan ag y byddant yn ddigon cryfion. Yr un mod(I y mae gyda'r wyn ar y bryniau, a'r holl anifeiliaid o fewn dosbarth natur, yn nghyd a'r adar a ehedant yn yr awyr. Mae natur a dull y chwareu yn cyfnewid fel y dadblygir y corff, ac o herwydd hyny rhaid cael darpariadau gwahanol yn ol y tuedd- fryd a'r oed. Mae digrifwch plant hen yn wahanol.i'r eiddo rhai ieuainc. Er pan alltudiwyd y gwrol-gampau, yr ymrysonfeydd egniol, y rhedegfeydd, &c., o blith y Cymry, cynyddodd meddwdod a drwg-weithredoedd eraill, yr hyn a gymer le bob amser; canys rhaid i'r bobl gael rhyw beth i gymeryd i fyny eu hamser; ac os na chant adloniant a digrifwch mewn un ffordd mynant hyny ryw ffordd arall.— Mae y bobl yn awr yn Nghymru, er pan ataliwyd hwy i bysgota gan y gwyr mawr- ion, foreu a hwyr, ic ar ddyrldiau gwyl, ac er pan dorwyd i fyny eu chwareuon a'u hymffrost gampau, yn ymgynull i'rtafarn- au i gyfeddach a meddwi. Parhant i wneyd hyny os na ddarperir rhyw beth arall ar gyfer eu horiau hamddenol. Arwydd dda oedd gweled Ty y Cyffredin a Thy yr Arglwyddi yn ymryson saethu yn ddiweddar. Diau fod yr ymryson rhwyfo ar Lyn Saratoga, a gymerodd le y dydd o'r blaen rhwng efrydwyr Prif-ysgolian Cor- nell, Harvard, Darmouth, Yale, Amherst, &c., wedi gwneyd daioni i'w cyrff a'u meddyliau; a bydd iddynt ofalu yn well nag erioed am eu hiechyd a'u cryfder erbyn yr ymdrechfa y flwyddyn nesaf. Pa niwed fyddai i weinidogion y Methodist- iaid, yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a'r Wesleyaid, ymryson saetliu, rhwyfo neu redeg? Dimynddiau! Ceir clywed rhag- or ar hyn eto. Yr eiddoch, PWNS.

,•SAN FRANCISCO.

[No title]

' mS. f>wK$. I

EIN RHIG YJIWYR MAR WNAD OL.

ilf-4 R TYNA D Y X UL YN "…

MEIGANT IIEN AR DAITII.

Family Notices

YMOFYNIAD Allf

Advertising