Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

G WJi 0 L GA MP A U A DIFYRWCII.

,•SAN FRANCISCO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SAN FRANCISCO. Os derbyniol fydd genych yr ychydig linellau hyn, maent at eich gwasanaeth. Ceisiwn roddi gair yn fyr am y dull y treuliwyd y Pedwerydd yn San Francisco —gwasanaeth y Cymry yn nghyd a gair at Pwns. Dathlwyd y Pedwerydd yn anrhyd- eddus gan drigolion San Francisco y Llun canlynol. Yr oedd masnach wedi peidio bron yn hollol—gorymdaith hardd wedi ei llunio, yr lion oedd tua dwy filltir o hyd- yr heolydd yn orchuddiedig gan fanerau a decorations, ac arwyddion Jubilee cyffred- inol trwy yr holl ddinas (oddigerth North Beach). Cynaliwyd gwasanaeth y dydd yn y Pavilion, lie yr oedd tua chwe' mil o drigolion wedi ymgynull, pryd y cafwyd gwledd dda mewn llenyddiaeth-arwydd- ion amlwg o gydweithrediad, ac y dangos- wyd parch cyffredinol i enwau y gwron- iaid a wnaethant gymaint dros ryddid ein gwlad naw deg a naw mlynedd yn ol. Yn yr hwyr yr oedd fire works yn ymsaethu o ddifrif, nes oedd yr awyrgylch yn dys- gleirio. Ychydig o ddamweiniau a dyg- wyddiadau anymunol a gymerodd le yn ystod y dydd, mewn cydmariaeth; ar y cyfan, nid ydym yn credu i drigolion Mil- waukee gael gwell Fourth, oddigerth pan yn Mae y Cymry yn parhau i gynal modd- ion crefyddol ar y Sabbothau, a'r sociables yn fisol. Yn y diweddaf yr oedd y doniol- ddigrif Proffes or Price yn llywyddu—canu rhagorol gan Patreso Glee Club, yn nghyd a'r Cymro Bach, a Mri. Davies a Meredith. DarUenwyd yn hwyliog gan Powell (Law- yer), ac un arall digyffelyb i'r merohed gan gan Prof. Jones; rhaid iddo edrych ati, rhag iddynt newid ei enw. Mae'r moddion crefyddol yn dra llwyddianuus, ond nid rhyfedd pan mae Moses ac Aaron yn bu- geilio; ac er mwyn y rhai nad ydynt yn gyfarwydd yn y Gymraeg byddwn yn cael pregetli Saesonaeg, ar brydiau, gan J. J. Powell, awdwr y llyfr cynwysfawr "The Golden State and its Iiesources," ond er cymaint gofal ydym yn gael, rhyw was- garu mae y praidd tua'r mynyddoedd, ond yn addaw dycliwelyd yn fuan—yr ydym yn disgwyl eu gweled cyn liir; oblegid y mae son, Mr. Pwns, fod Obedog wedi cyt- uno gyda Mr. Gabintwr, iddo newid y lleuad'yn amlach, nes y caiff gyfarwydd- iad yn mhellach, gan fod arno fwy o frys nag erioed i fyn'd yn hen lane; bydd hyny yn lies i ninau tua'r ddinas. Yr ydym yn cydymdeimlo ag ef pan yn y blues; heblaw fod Lilies San Franciseo mor fawr, buasem yn anfon un iddo mewn adeg o gyfyngder fel yr un y mae ynddi yn bresenol. An- rhegwn ef a tliebot, os gall fyw i dd'od yn ol; orid rliig codi mwy o hiraeth arno, a tlirethu eich amynedd chwithau, ni a ym- ataliwn gyda'n sylwadau cyffredinol ar ddiwedd pregeth. GAINY. San Francisco, Gorph. lOfed.

[No title]

' mS. f>wK$. I

EIN RHIG YJIWYR MAR WNAD OL.

ilf-4 R TYNA D Y X UL YN "…

MEIGANT IIEN AR DAITII.

Family Notices

YMOFYNIAD Allf

Advertising