Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
;r '..".ESTABLISHED 1851.
;r .ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
Y DALL, Y MUD A'R BYDDAS.
Y DALL, Y MUD A'R BYDDAS. y dall ni wel na lloer na ser, Na gwenau siriol mam na thad; 0 syJla ar y blodau heirdd Erioed ni cliafodd y mwynhad. Diwen i hwn yw'r heulwen deg, A rhyfeddodau anian cllos; Oud gwel mor glir a'r angel gwyn, pan elo i'r wlad heb ynddi nos. y mud, rhaid iddo'n ddystaw fod, Tra pawb o'i ddeuttilti canu'n lion; Ni fedr yngan gair wrth neb Er maint fo'r teimlad dan ei fron. Seliedig yw ei lais yn awr, Fel pe yn rhwym mewn cadwyn gref; Ond clywir yntau'n moli Duw Mor groew a Gabriel yn y net. Y byddar druan! ni clilywddim Yn nglianol seiniau miwsig per; Rhu'r eigion mawr a'r daran grach Ynt iddo'r un a cherddi'r ser. Ni chlywodd dyner lais ei fam, Na'i hwian-gerdd wrth siglo'i gryd; Caifi yntau glywed Lief Mab Diiw" Y diwrnod daw i farnu'r byd.
...... A OES BERYGL?
A OES BERYGL? A ydyw Pabyddiaeth yn my rid ar Gynydd? GAN SAM. J. DAVIES, YSW., WASHINGTON, D.C. Yn y dyddiau cyffrous hyn, mewn byd ac eglwys, nid ychydig yw'r ysgrifenu, y dadlu a'r bygwtli sydd ar Babyddiaeth tu yma a thu draw i'r Werydd. Anaml y dygir mesurau mawrion oddiamgylch heb yn gyntaf eu pwyso a'u mesur i gael gwel'd pa effaith a gant ar y byd, ac wedi'r cyfan amser yn unig a ddengys y canlyniad. Yn y Chwildroad Americanaidd, ni wyddai'r bob], ddewr ac hunanymwadol a gymerodd ran ynddo beth fyddai'r canlyniad, er o bosibl iddynt lawer gwaitb gydeistedd i fwrw'r draul, yn ngliyda'r canlyniad tebyg- ol os collent y dydd.—Duw fu o'u tu- daethant allan yn fuddugoliaethus, ac y mae America heddyw yn fath o noddfa i ortlirymedig y ddaear. Ni wyddai Pryd- ain a galluoedd y cyfandir, cyn brwydr byth gofiadwy Waterloo, pwy ddeuai allan yn fuddugol, pa un ai y galluoedd cyng- reiriol, ynte Napoleon, yr hwn a ymddiried- ai fwy yn nerth, a medrusrwydd ei filwyr, a rhif ei fagnelau nag a ymddiriedai yn ei Greawdwr; ond Duw cyfiawnder a drodd y fantol o blaid rhyddid. Er, feallai nad ydyw rhyddid ar y cyfandir y peth yw yn Lloegr neu'r America, eto mae yn rhyddid anmlirisiadwy o'i gydmaru i'r hyn fuasai pe enillasai y Francod y dydd ar faes gwaedlyd Waterloo; canys pellwyddasentyno, buasai Napoleon fel Alexander Fawr, yn barod i wylo am na fyddai byd arall i' w orchfygu; ond fe ddarparodd Duw offeryn priodol i'r amgylchiad yn mherson yr hen Dduc Wel- lington i ddarostwng balclider, nid yn unig y Corsican mawr ei dalentau, eithr hefyd ymerodraeth ffroen-uchel Ffrainc. Ar ryw ystyriaeth, i ddymchweliad y Ffrancod ar faes Waterloo yr ydym yn ddyledus am ein rhyddid gwladol, os nad am ein rhyddid crefyddol yn ogystal. Ni wyddem yn y Tdlaethau ugain mlynedd yn ol beth fyddai y canlyniad o ryddhau pedair miliwn o gaethion, er y gwyddem yn dda fod Duw a'i air santaidd o'n plaid, yn nghyd a chyd- ymdeimlad rhif luosocaf o bobl oreu y ddaear; ac yn wir, ni wyddom hyd heddyw beth fydd hyn, fel llawer o bethau eraill sydd i'r dyfodol mawr i'w benderfynu.- Erbyn- y byddo un gorchwyl pwysig dros- odd, arall a ddaw yn union ar ei ol. Fel y crybwyllasom yn y declireu, mai nid ychydig yw'r bygwth sydd ar Babydd- iaeth y dyddiau hyn. Nid heb achos y gwylir yr hen eglwys sydd wedi achosi cymaint o ofid a thywallt gwaed yn y byd er's canoedd o flynyddoedd; y mae gofyn ei gwylio ac eistedd i fwrw'r draul, beth fydd y canlyniad os llwydda i gael yr oTuchafiaeth-mesur mawr yw i bob Pro- testant ei bwyso yn awr cyn yr elo yn rhy ddiweddar; dylesid fod wedi ei gwylio yn fwy craffus er's blynyddciedd lawer. Yr ydym yn ofni ein bod wedi hepian yn rhy hir, ac fod byddin y "dyn pechod"'bron, os nad wedi ein hamgylcliu, ac nad oes ganddi yn awr ondgyruyn araf y pickets Protestanaidd yn eu holau, a chymeryd meddiant o'r maes iddi ei hunan. Y mae'r Tywysog Bismarck wedi dech- reu yn'Germany er's misoedd yr hyn a ddylasai rhywun fod wedi ei ddechreu er's bIynyddoedd. Nid ydym yn meddwl ein bod yn ddallbleidiol, ac nid ydym mewn un ystyr yn credu mewn un math o erled- igaeth; canys nid oes dim yn fwy niweid- iol i Iwyddiant Cristionogaeth a-gwareidd- iad nag ymrysoniaeth crefyddol; er hyny, pan welem enwad mor gryf, mor unol ei olygiadau, ac mor erlidgar ei ysbryd a'r gelyn Pabyddol yn ceisio ein gorthrymu, dylasem fel Protestaniaid, "heb neb yn tynu'n groes," waeddi ag un lief, hyd yma yr âi, a dim yn mhellach. Y mae yr awr wedi dod, pryd y dylem ddweyd, Stand back. Mae y Pabyddion yn fwy cyfrwys nag ydym yn feddwl; gwyddant yn dda ble maent yn sefyll—gwyddant eu nerth yn Ewrop ac yn y Talaethau. Nid ychydig yw awydd yr offeiriaid am awdurdod; ac os iawn barnu y dyfodol wrth y darfodol, gellir dweyd gyda phob sicrwydd, mai amcan yr eglwys yw enill safle manteisiol i luosogi ei rhif, ac yn y diwedd ymaflyd yn awenau'r llywodraeth; a phan gyr- haedda hyny, fliarwel am oesoedd, os nad am byth i ryddid Protestanaidd ar y cyfan- dir hwn. Os ydym i farnu wrth hanes yr eglwys -ei hymddygiad tuag at Brotestaniaid yn y gwledydd hyny, lie mae ganddi awdur- dod, o'r oesaji boreuaf hyd heddyw, beth yw ei hanes? Llufruddjo ac erlid pawb nad ydynt Babyddion. Ofn y ehwiHys lawer.tro cyn hyn sydd wedi bod yn etfeith- iol i orfodi llawer un yn erbyn ei ewyllys i fabwysiadu y ffydd Babaidd. Pwy a ddywed fod y Pabydd yn caniatau yr un rhyddid crefyddol i'r Prostestant ag a gan- iata yr olaf i'r. bIaenaf, pan mae y gallu ganddo i wneyd yn wahanol. Hyd o fewn ychydig flynyddoedd, ni oddefid Beibl Protestanaidd o fewn cyffiniau Yspaen, ac ni oddefid gymaint ag Ysgol Sabbothol' u fewn muriau dinas Rufain cyhyd ag y bu'r y Pab ar ei orsedd dymorol; ond wedi cym- eryd ei awdurdod oddiarno, mae yno yn awr Ysgol Sabbothol lewyrchus dan arol- ygiaeth Mr. VanMeter o New York. Ni oddeflr cynal cymaint a chyfarfod gweddi o fewn dinas enwog Paris, lle'r ymffrostir fod gwareiddiad yn ucliel, heb ganiatad yr awdurdodau. Dyna ryddid lie mae'r Bab- aeth yn teyrnasu. Nid gwiw.ameu chwaitli nad yw y Protestaniaid ar brydiau wedi bod yn fyrbwyll ac erlidgar yn yr oesoedd aethant heibio; ond nid felly yn awr, ac amheus ydyw a fuont erioed mor greulon a'r Pabyddion. Nid yw dallbleidiaeth mwyach yn rheoli rheswm, naphenboethni yn llywodraethu barn y lluaws fel yn y dyddiau gynt; ond ni allwn ddweyd yr un peth am ein gelynion, canys fel rheol dall- bleidiaeth, yr hon a dardda oddiar anwy- bodaeth yw mamaeth duwioldeb yn eglwys Rufain. [I'W ORPHEN YN Y NESAF. ]
........ TERFYN RHESWM DYNOL.
TERFYN RHESWM DYNOL. Rheswm dynol heb Ddadguddiad JDwyfol yn fethiant cywilyddus. GAN Y PARCH. R. H. EVANS, HYDE PARK, PA. Mae llawer ffordd i fesur mawredd dyn, ac un ffordd neillduol i gael golwg ar ei fawredd yw edrych ar ei angen. Rhaid i ddyn gael mwy i'w ddiwallu. na'r holl gre- aduriaid eraill sydd ar y ddajar. Rhaid cael mwy i ddiwallu ei gorff nag un amfail. Heblaw ymborth, rhaid iddo tael dillad i'w gwisgo, ty i fyw ynddo, a gwely i orwedd arno; ac y mae fel creadur cymdeithasol yn gofyn am gydymdeimlad pawb o'i am- gylch. Nis gall dyn fyw ar gynyrch y meusydd yn unig, ond rhaid iddo gael cyn- yrch meddwl hefyd. "Ni chaiff ei lygaid ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust 8, chlywed." Soniwch am ddiwallu angen dyn, mae yn anmhosibl i'w lygaid gael di- gon! Beth yw yr holl wisgoedd costus, a'r ffasiynau newyddion—yr adeiladau hardd, a'r holl gywreinwaith sydd yn y byd? Peth- au i foddhau llygaid dyn ydynt, ac yntau yn nghanol y golygfeydd yn llefain am ragor. Fe deithia dyn y byd o begwn i begwn er mwyn gweled, a'i lygaid yn sal am ragor wed'yn! Mae gan ddyn glust nad oes modd ei digoni a cherddoriaeth, hanes- yddiaeth, areithyddiaeth, na..dim arall. Os gofynir paham y gofyna synwyrau y corff gymaint i'w diwallu, neu yn hytrach pa- ham nad ellir eu diwallu, yr ateb yw, am fod enaid o'i fewn. Yn awr, os yw enaid yn gwneyd angen y corff mor fawr, beth yw angen yr enaid ei hun? Rhaid i enaid gael drychfeddyliau, ac nid oes digon o feddyliau creadigol mewn bod i'w ddigoni. Rhaid i enaid gael gwirionedd, ond y mae hwnw wedi ei golli o'n byd nv. p ganlyn- iad, mae eneidiau yn marw ¿'fnewyn ys- brydol. Yn awr, gan fod mqddyliau cre- adigol yn rhy fach i ddiwallu effaid, rhodd- odd Duw iddo ei feddwl ei hun yn ei Air sanctaidd; ac anfonodd ei Fab i'r byd yn y natur ddynol i ddiwallu yr enaid a gwir- ionedd; "canys I gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist." Rhoddodd ei Air i ddangos y modd y mae i wagder mawr yr enaid gael ei lanw, a'r modd ymae i enaid sydd yrtlÔaeléi ddifa gan elfenau marwol- aeth gael ei wella. "Dijeth bywyd ac an- llygredigaeth i oJeuni trvsy yr efengyl." Yr oedd y dynion mwyaf doeth yn mysg athronwyr paganaidd yn cydnabod, nid yn unig fod dadguddiad allanol yn angen- rheidiol, ond fod yr holl oraclau oedd gan- ddynt yn anigonol i gyfateb i angen dyn. Nid ydym byth yn cael dynion it- sydd yn rhodio wrth oleuni lloer traddodiad a na- tur yn honi fod y goleuni mesv#lol oedd ganddynt yn ddigon. Na, yn ngoleu lian- er dydd Cristionogaeth y fewn ni ddynion i sefyll i fyny, a dywedyd nad oes arnynt hwy angen dadguddiad oddiwrth Dduw! Ar ol derbyn y fantais odclilkrth y goleuni mae Gristionogaeth yn wasgar o'u cwmpas, ac ar ol derbyn y budd a'r llbsad sydd i gymdcit^as oddiwrth ei dylanwad, maent yn ddigon impudent i ddywedyd y gallant hwy wneyd y tro heb Feibl! Maent fel bachgen .drwg, ar ol cael 'ei fagu ar aelwyd 1 9 ei dad, a llanw ei logellau ag arian ei dad, yn sefyli ar ei sodlau, a dywedyd y gall ef fyw hehdclo r G wna Ilawer creadur chwydd- edig siarad am y sconces pan yn dadleu yn erbyn dadguddiad; Ó.ad pe buasent heb er- ioed gael eu dwyn i swirion- eddau y Beibl, mewn ;l';Yw fo(U neu gll- ydd, buasent nior boclus a'r Rottento- iaid. Pe bnasai y dyLaion sydd >"n cyfeirio at reswm fel safon y 't byw yn Athen gynt- caent ddynion yn ;T!ieddu cyneddfau ys- brydol, a galluoedd ,eddyliol crjfion, yn adeiladu aIlor i'r DtTW NID ADVAENIR." Yr oedd y dyn goreu 11 mwyaf doetli o'r paganiaid (Socrates) yn C}\rfaci<^ nad oedd ef yn alluog i gyraedd yr" \1ll sif"wydd am 17, 3,r y wirionedd crefyddol, na 'y^ydd foes- ol; adywedai, "Mae yn rfiai > :ii 0 anS' enrheidrwydd aros nes yj mIo rhyw un oddiwrth yr Hwn sydd ni am dan- om, i'n dysgu pa fodd y c:1^ -i:u yruddwyn tuag at Dduw a dyn." Cydnebydd pawb mai Pla'L'oedd un o'r meddylwyr mwyaf galhiog 4{ inue genym hanes am dano, a'i tiol' tl, of oedcl- "Mae yn anmhosibl i ni w ')od 0 honom ein hunain pa ddeisyfiad <y. yn boddloni Duw, neu pa addoliad a dd")'iem daJu iddo; mae yn angenrheidiol i dde^{lf-r°^dwr gael ei anfon o'r nefoedd i'n dy'sSu- 0, fel yr wyf yn hiraethu am gael' y dyn hwnwt" Yn mhellach, 'dywed fod yn "rhaid i'r deddfroddwrfod yn FWY NA DYN, fel y gallai ein dyspu* am bethau nad all dyn eu gwybod od<vrt'' natur ei hun." Dyma tin o fedâyIwyr mwyaf y byd, heb Air Duw, yn yj'nbalfalu am wir- ionedd, a chyhoeddi fod i .rheswm yn Jeth- iant. Ac yn awr, mae yr hwnw, "mwy na dyn," ag y teimlai PlaV angen am dano i olcuo meddwl dall d}rioliaeth, wedi ei gael yn mherson Iesu Grilst. Yn ein nesaf, cymerwr'1 0 dan ystyriaeth beth fu rheswm dynol yrL a^u°g i'w ddysgu i'r cenedloedd Paganaid'1-
[No title]
Y mae y Parch. D. l/ L Jokes, cenadwr yn nihlith Indiaid y W1 ^a -11 Patag°nia, yn cwyno o herwydd n^ yn cae^ cyn" aliaeth briodol. Fel hy t yr ysgrifena: Bwriadaf, yn ol fy ymnv.^i!ad'1 fyned yn mlaen a'm gwaith; ond y mae fy arian 1 dalu am yr hyn oedd lianfodol i ni fel ttfllu, wedl fy ngorfodi i a'r plant i wneyd y goreu oli Uafur, ac wedi fy nhafiu yn ol o leiaf flwyddyu. Tn y.lafur dirfawr, yr wyf wedi cael murlau pedair agos i fyuy o briddfeini wedi eu lloagi. fwaethumi a'r plant, gyda chymorth un dyn, 18,0^ 0 britidfeini wedi en llosgi. Ehaid i mi wneyd 4 gwaith Qrtjd a r plastro fy liunan eto. B) dd gensyiniint a hyn eto o waitli i'w wneyd. Mae ry V caleda fel haiarn. Yr wyf yn ofni fy, 1Vl biamd jn rhy hen i labro yn galed, ond hwyrao: '^ymniaaf i chwi sylwi yn aibenito nemawr a'r Indiaid heb ro ,11, a^f ',?u ddysgu, bwydo a dilladn e it cael dim." Cvvyna l\f?. Jc «r adfa feddvvo1 eisoes yn niwaid mawr l rt lll t!ai1- »
[No title]
Y DIWEDD AR BARCN. PHILIP L. DAVIES. —Mewn cyfarfod rheolaidd a gynaliwyd yn neuadd y Gymdeithas Athronoi, Hyde Park, neillduwyd y rhai sydd a'u henwau isod gan Bwyllgor yr Eisteddfod Genedl- aethol i'r perwyl o gyfansoddi a chyhoeddi penderfyniadau o gydymdeimlad agalar er cof am y diwcddar Barch. Philip L. Da- vies, A. M. Felly mabwysiadwyd a gan- lyn gan y Pwyllgor apwyntiedig: YN GYMAINT ag i ni golli o'n mysg drwy offeryn- oliaeth angau y lTenor coetheclig, yr efrydydd try- lwyr, y pregethwr galluog a'r Cristion dysglaer, y Parch. Philip L. Davies, A. M., dinas Efrog New- ydd; Penderfynwyd— 1. Ein bod yn cyflwyno i weddw a theulnyr ymad- awedig yn eu trallod ein cydymdeimlad dwysaf, gan obeitliio yr erys amddiffyniad Tad yr amddii'aid gyda hWYllt drwy eu hoes. 2. Ein bod yn cyd-alaru a chenedl y Cymry yn America, o herwydd colli un o gedyrn yr areithfa ac un o'r gwladgarwyr Cymreig gwresocaf yn y wlad. 3. Fod Pwyllgor yr Eisteddfod Genecllaethol yn gofidio am nad allant lawenhau yn mhrescnoldeb yr ymadawedig yn eu Heisteddfod agoshaol, ac am nad > allant byth mwyach sicrhau ei wasanaeth fel beirniad. 4. Fodcopi o'r penderfyniad'an hyn i gnel eu h an- fon i'r weddw, a'u bod yn cael eu cyhoeddi yn y DnYCH a'r Fatier. H. M. EDWAEDS, } THOS. T. MOKGAN, > Pwyllgor. Jons T. WILLIAMS,)
Y PARCH. PHYLIP L. DAVIES.
Y PARCH. PHYLIP L. DAVIES. GAN Y PARCH. D. W. MORRIS, HYDE PARK. Adwaenem ni neb yn ail iddo yn enwad y Bedyddwyr, yn America; ond y mae wedi marw, ei gladdu, a myned i orphwys ar nawn ei ddydd. Mae y gwybed yn chwifio, ond y cryf wedi syrthio; lluaws yn wylo, a llaweroedd yn synu. David Davies ydoedd enw tad Phylip Lumley Davies, ac un o frodorion Llanddeusant, rhwng y Mynydd Du -a Myddfai, yn Sir Gaerfyrddin, D. C. Mudodd D. Davies o'i fro ei hun i Blaenau Gwent, Mynwy, ac yno y ganed Phylip ei fab yn y flwyddyn 1835; canys yr oedd ei wedd, ei wallt, a'i adgofion, yn profl iddo fyw tua deugain mlynedd yn myd yr helbul mawr. "Ac efe eto yn fachgen" deunaw mlwydd oed, derbyniodd ras i newid ei galon, gwella ei dueddion, a'i ddwyn i gyfrinach y saint, Bedyddiwyd ef gan y Parch. W. Roberts, ymunodd a'r eglwys yn Salem, Blaenau, ac yr oedd enw "Nefydd" yn nofio ar nifwl ei gof beunydd. Mudodd Phylip pan yn ieuanc i'r Amer- ica, bu yn gweithio dan y ddaear yn y Five Points, yn aelod gyda'r Bedyddwyr Cymreig yn Pottsville, yn edmygu gwein- idogaeth y Parch. W. Morgan, ac yn der- byn adnewyddol ras yn ei gymell i "was- anaetliu yr allor" i ddwyn yr arch, i ddangos y drugareddfa. Anogwyd ef i rodio gwinllan yr Anwylyd, i siglo coeden cariad, mynegu grawnwin trugaredd, a thynu afalau y bywyd i becliaduriaid y Gorllewin, plant y gras, a phererinion yr anialwch. Athrofa yr Enwad yn Lewis- burg a'i derbyniodd am dair blynedd, a bu yn rymus yn Ramah, yn enwog yn Bethel, ac yn hynod yn mhlith meibion y pro- phhwydi. Daeth allan wedi graddio yn M. A.; ac nid cynffon ar ol ei enw oedd nyn, ond llytliyrenau yn dynodi Myfyriwr Awyddus, Mcddyliwr Arbenig, Maethfa Aru j..loi a Meistr. Arddullion dawnus a dengar. Amser y Nadolig y flwyddyn 1860, efe a urddwyd yn weinidog i'r gynulleidfa yn Carbondale, Pa.; a bu gofal eglwys Blak- ley arno am ryw gyfnod. Denodd sylw y gynulleidfa yn y Delaware, yn agos i Phil- adelphia, ac yno y tyfodd yn Ilawer mwy. Derbyniodd alwad yr eglwys yn Camden, New Jersey, ac yno y dringodd yn llawer pwch. Drachefn, saith mlynedd yn ol, y mae Eglwys y Bereaid, yn Efrog Newydd, yn ei wahodd i fod yn athraw iddynt hwy. Ac os yn meddu parodrwydd meddwl i dderbyn y gair, i'w chwilio beunydd, ac i wrando oracl y nef, rhaid eu cyhoeddi yn foneddigeiddiach na'r rhai o Thesalonica. Phylip L. Davies a fu eu Paul yn perori, eu Silas yn denu, eu Barnabas yn diddanu, eu Simon yn ymboeni, a'u Timotheus yn efengylu i'r werin ras y dwyfol gynllun. Edrychwch ar ei wyneb gwelw, ei dalcen cribog, ei lygaid byw, ei gefn cywir, a'i ystum oil yn meddi nodedigrwydd mawr. Ethryb y dyn inewnol, y mae yno y rhes- ymydd manwl, y darfeiydd lioyw, y cre- bwyllydd dawnus, a'r perorydd mwyn i swyno tyrfa. Ei ddyn newydd a greodd gras yn meddu lliwion y nef, llais y ffydd, a llun yr resn. Rhodfeydd y dyffryn, ty y cedyrn, a gardd y Brenin Mawr, fu meus- ydd ei dramwyfa. Ac o phechodd Phylip Davies— meddwl yn rhy ddyfal, myfyrio yn rhy ddwys, a myned yn rhy bell i ddir- gelwch y Duwdod oedd y camwedd. Dadfeiliodd iechyd Mr. Davies yn fawr ddechreu y flwyddyn hon, a bu bywyd ac angeu rai misoedd ar y macs yn ymladd am dano; ac yr oedd ef yn werth yr ym- laddfa. Tri o feibion athrylith yn llafurio mewn "cystudd mawr," a fu Meredith Evans, Machynlleth, yn barddoni; Ieuan Gwynedd yn golygu, a Phylip Davies yn pregethu, a myfyrio "wrth afon Aliavah," "porth y glyn," glan y bedd, a chysgodion anelwig y gororau draw. Beiddiwyd ei rifo gyda meibion atlirylith, ac yn anwyl- ach ganddi na neb a adwaenir genym ni yn y Gorllewin Mawr, yn ymlechu dan y mwgwd ffug-enwol, ac heb gyhoeddi llin- ell erioed a fydd byw gyda'r werin. Der- byniwyd Mr. Davies i'r Nawdd-dy yn Phil- adelphia, ac esgynodd myrdd o weddiau am iddo wella; ond pan oedd y blodau mad, o amgylch Dinas y Brawdgarwch, yn Ily agor eu calonau i dderbyn yr haul, dyna angeu yn gorwedd ar galon dyner v Parch. P. L. Davies, Er hyny, gyda'r gelyn y mae Iesu ei hun, angylion Duw, a brodor- ion Paradwys, yn cipio y meddwl pur, yr enaid mawr, a'r ysbryd parod, i gyfrinach y gwaredigion. Do, bu farw y Parch. Phylip L. Davies, dydd Gwener, Gorph. 30ain., yn 40 mlwydd oed. Dyna oedran Robert Roberts, Clynog; Richard Wil- liams, Liverpool; Samuel Rosewell, LIun- dain; a P. L. Davies, Efrog Newydd. Dydd Llun, Awst yr 2il, yr oedd ei ang- ladd. Torodd y cymylau i wylo gyda'r weddw, a llawer yn crynu yn achos y peth hyn, ac yn achos y gwlawogydd. Efe oedd ein Hezeciah ni, yn haeddu "yr uwchaf o feddau meibion Dafydd." Mynega un o newyddiaduron Philadelphia mai 41 oedd rhifedi blynyddoedd Mr. Davies, pan y daeth arno ddydd ymladd a rhyfel. Dygwyd y corS i addoldy y Tabernacl, Camden, gweinyddwyd gan ral o weinid- ogion Philadelphia, a rhoddwyd y gwedd- illion i huno yn y llwch, malurio yn y pridd, a gorphwys yn y ddaear hyd awr adferiad etifeddion y nef, ar alwad Mab y dyn, a Gwaredwr y prynedigion. Mae "y marwol hwn," hyd hyny, i gael gorphwys- fa, seibiant, a llonyddwch; ac nid yw byddinoedd Midian, duciaid Edom, nac arglwyddi Philistia i aflonyddu ar ei hafod, ei gwrlid a'i wely. Ei weddw a noddir, ei amddifaid a borthir, ei enw a anwylir, ac yn swyddfa y seraphiaid y mae lie i'r new- yddion am y saint. Myned Bedyddwyr America Gofiant cryno, bywgraffiad llawn, a hanes manwl am y mwyaf o'u meibion. Dirfawr waddol fyddai cyhoeddi cyfrol o'r pregethau don- iolfawr a gyfansoddwyd ganddo—"Anian- awd yr angylion, a'r Iesu'n dewis dynion." "Byw i'r gwaith mawr, y gwaith mwy, a'r gwaith mwyaf;" "Credo Simon yn sail i Seion;" "Edmygedd Joshua o wasanaeth Jehofah;" "Mynydd y gweddnewidiad yn gronfa meddyliau cariad;" Santeidd- rwydd Duw yn safon i ddyn." Dyna rai, a ••l!ir rbifo canoedd cyffelyb. Mae y weddw yn gwaeadi, yr amddifaid yn gaiw, y cynyrchion yn liaeddu, a phrinder medd- yliau o'r fath, yn dymuno ar y Bedyddwyr i ddeffroi weithian, i godi bellach, ac i wisgo meddyliau mawrion Phylip Lumley Davies yn nillad y wasg. Doed y Parch. Richard Edwards, Pottsville, allan y waith hon, canys nid adwaenir neb yn yr enwad yn fwy cyfaddas i grynhoi, i drefnu, i ar- graffu, a chyhoeddi cynyrchion rhyfedd- fawr P. L. Davies, na Mr. Edwards ei hun. Anfaddeuadwy oedd peiclio ei gefnogi gyda'r Seren Orllewinol cyn ei maeiiludiad, ac mae yr enwad dan waradwydd yn aclros hyny. Maddeuer i ni os yn cyfeillorni, a deffroed yr enwad i weithgarwch ac hael- ioni. Mae beddrod Mr. P. L. Davies yn areithfa, ei ddystawrwydd yn llefaru, a mudanrwydd marwolaeth yn wylo am ddi- wygiad. "Eithr y bobl sydd lawer, a'r amser yn wlawog, ac ni ellir sefyll allan; ac nid gwaith un diwrnod na dauydyw; canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hwn." "Come then, and added to thy tanxiy crowns Receive yet one, the crown of all the eartlr, Thy saints proclaim the king, and in their hearts Thy title is engraved with a pen Dipt in the fountain of eternal love."
[No title]
-Desgrifir y 1,150 o Formoniaid a aeth- ant trwy Chicago yn ddiweddar fel yn I "fudr, carpiog, a clian mwyaf yn ddynion canol oed a gwragedd hagr." Newydd drwg i Brigham