Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

"RHODFEYDD Y BARDD."

TERFYN RHESWM DYNOL.

CALIFORNIA.

[No title]

HANES BYWYD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD. GANDDO EF EI HUN. PENO-D, V-Tl Daeth Mr. Richards i edrych am danom dranoeth drachefn, end o herwydd rhes- ymau neillduol nid oeddwn yn lioffi ei fynych ymweliadau. Ar yr un pryd, nis gallaswn wrthod iddo fy nchymdeithas, a'm haelwyd. Chwareu teg iddo, byddai yn talu am ei groesaw trwy ein cynorthwyo yn y weirglodd, neu wrth y ddas wair, a byddai ei ymddiddanion mor ddifyrus fel y byddai yn lleihau ein lludded ninau. Yr unig beth oedd genyf yn ei erbyn yd- oedd ei sylw gormodol o fy merch. Pan y dygai anrheg o rubanau i'r genetliod, hi fyddai yn cael y goreu bob amser. Eisteddasom ar y cae i fwyta ein ciniaw, ac yno yr oeddym ar garped natur yn mwynhau trugareddau syml y nefoedd, a chwedlau ysmala Mr. Richards. I ychwan- egu at ein mwynhad, yr oedd dau aderyn du yn pyncio bob yn ail oddiar wrych cyf- erbyniol. Deuai yntau yr hyf robin goch atom i gasglu y briwsion. Creodd yr ol- ygfa dawel, a'r amgylchiadau hyfryd, ryw deimladau pur farddonol yn mynwesau Maria, Llewelyn a Mr. Richards, a chaf. wyd adolygiad manwl ar athrylith amryw o feirdd enwog y genedl. Adroddai Mr. Richards rai darnau i egluro ei farn am hanfodion barddoniaeth, a mawr ydoedd boddhad fy merch Maria tra yn gwrando arno. Ond gyda hyn aflonyddwyd ar ein heddwch gan ergyd o ddryll, ac i lawr ag un o'r ddau aderyn du, byth i ganu mwy. Awdwr y gyflafan hon ydoedd caplan y Sgweiar. Dychrynodd y cynwrf disymwth hwn fy merched yn ddirfawr, a sylwais ar Maria yn syrthio i freichiau Mr. Richards am ddiogelwch. Erfyniodd y caplan fadd- euant am achosi y fath ddychryn, gan nas gwyddai ein bod mor Pgos. Cymerodd ei eisteddle yn ymyl fy merch ieuangaf, a chytygiodd iddi gyfyicn ei helwri»eth. Bu ar fin gwrthod, oi. 'l darfu i edrychiad ar- wyddocaol oddiwrth ei mam beri iddi dderbyn yr anrheg, er nad yn rhyw ewyll- ysgar iawn. Sibrydai fy ngwraig ei Ila- wenydd, gan sylwi fod Maria wedi cael concwest ar y caplan, megis ag y cafodd ei chwaer ar y Sgweiar. Ond yr oeddwn i yn credu, gyda mwy o reswm, fod ei serch- iadau ar wrthddrych arall. Yr oedd y caplan yn dwyn cenadwri oddiwrth Mr. Thomas, i'r perwyl ei fod yn liwylio cael cwrdd adloniadol, wrth oleu y lloer, ar y gwellt glas, o flaen ein preswylfod y noson hono, a'i fod yn liyderu cael yr liyfrydwch o weled y merched ieuainc yno. 'Gan mai fi a ddygodd y newydd," meddai, "yr ydwyf yn dysgwyl, fel gwobr, gael llaw Miss Maria yn y ddawns." Atebodd fy merch nad oedd ganddi unrhyw wrthwyn- ebiad, os gallai wneyd hyny gydag an- rhydedd; "ond dyma," meddai hi, gan- gyfeirio at Mr. Richards, "foneddwr sydd wedi bod yn gydymaith i mi yn ystod gor- chwylion y dydd, ac y mae yn deg iddo gael cyfranogi o'r difyrweh." Diolchodd Mr. Richards iddi am ei hewyllys da, ond cyflwynodd hi i'r caplan, gan egluro fod ganddo alwad arall ar y pryd. Synais gymaint at ei wrthodiad ef ag a wnaethum ly o'i dewisiad hithau o ddyn tlawd yn hyt- rach na dyn o ragolygon dysglaer. Ond megis ag y mae dynion yn fwy medrus i ganfod rhinweddau merch, felly hefyd y mae merched yn gallu ffurfio barn mwy cywir am danom ninau. Rhywfodd, mae y ddau ryw wedi eu cynysgaeddu a thalent i ffurfio barn briodol y naill am y llall- methant ambell dro. Gyda i Mr. Richards fyned ymaith, a Maria gydsynio i ddawnsio gyda'r caplan, dyma y plant bach yn rhedeg atom i ddweyd fod y Sgweiar wedi dyfod, a llu o bobl i'w ganlyn. Wedi cyraedd y t, dyna lie yr oedd ein meistr, gyda dau o weision a dwy foneddiges, mewn gwisg- oedd ysblenydd, y rhai a gyflwynwyd i'n sylw fel rhai o urddas uchel yn y dref. Gan ein bod yn brin o gadeiriau, cynyg- iodd Mr. Thomas fod i bob boneddwr eis- tedd ar lin boneddiges. Sefais yn ben- derfynol yn erbyn hyn, er holl gilwg fy ngwraig. Anfonwyd Llewelyn i chwilio am fenthyg dwy gadair, ac aeth dau fon- eddwr gydag ef i ymofyn merched ieuainc Plas Newydd i ymuno yn y ddawns. Dylid hysbysu mai ychydig o fercjied