Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
1 !R FY LOR.
1 !R FY LOR. I Llwch odiaeth ail llucheden—ei daniad A 1 yni fel mellten; Yw r pylor, er gyru pelen, TT Neu dori ais ein daear hen. Hyde Park, Pa. D. JONES. j
ETO IIR PYLOR.
ETO IIR PYLOR. Rhua'r pylor fel taran-dyrwyga Dirioaeth creig anian; 5': Gaa farw mewn twrwtan, Gyda'i holl lygaid allan. Nantiooke, Pa. IEUAN DDU. »««»-
Y GAREG FILL TIR.
Y GAREG FILL TIR. [.Annghystadleuol. ] Rhyw nig faen i'r hwn gofyna-dyn J Hyd y daith drafaelia; I Gair sydd wir, a gwers sydd dda, 1 Ei hanesyn gynwysa. Chicago. R. DDU o FON. •j 4in»
: ' DANIEL WYN.
DANIEL WYN. Ein Daniel gu 'nawr sy'n huno—a'i wedd O'r byd aeth ei ysbryd o I Salem i breswylio. Trenton, N. Y. HUW DYFI. I Salem i breswylio. OI»
A YDYW III YN ANGBL?
A YDYW III YN ANGBL? Gofynaist im', fy nghyfaill, B'le cefais i y ferch; Ar ba ddisgynfa cwrddais A gwrthrych cam fy serch! A ydyw hi yn angel ? Uofynet braidd mewn gwawd, Atebaf finaii'ii bwyllus, Heb roddi sen, fy mrawd:— Go brin y mentrwn dyngu Ei bod yn angel glau; illae'r'liedyn heb ddadl)lygii Yn hinsawdd "Gwlad y Gân;" Mae'r corff mor frau a gwanaidd, Ac nid yw'n sicr iawn A yw yr ysbryd yma'n bnr, Er pob ainrywiaeth dawn. Fe'i gwnawd o nawd angylaidd, Ond dyna yw fy nghred, Nad llawer o angylion Sy'n berffaith ready-made I mi y mae yn angel, Tra yma ar y llawr: Mewn arall fyd disgleiria Nes gwrido gwrid y wawr. Cemmaes, Mont. RHYDDERCH TORWERTH.
HIRAETUG ANAM GYMRU.
HIRAETUG ANAM GYMRU. Ymddyrch ochenaid lwythog- Hiraethua o fy mron, Am wel'd fy ngwlad, yr harddaf wlad, Hen Gymru fad yw hon; Mae met yn ei hafonydd, Cartrefle swyn yw'r wlad; Dos awel fwyn a d'wed fy nghwyn Yn awr yn nghlust fy Nhad. Yn Nghymru mae'm paradwys, Sef cartref nhad a mam, A Llwydlo"'n dlws sydd uwch y drws Mewn llinell gylchog gam; Mi welais heirdd balasau Wrth deithio trwy y byd; I'm serch mae rhain, fel nythod brain, Nis gallant ddenu'm bryd. Amerig fawr d' adnoddan, Trwy'r byd eheda'th glod; Mae'th ryddid (?) di, sy'n rhoi it' fri, Yn mhob man is y rhod; Ond pe cawn i'th Dalaethau A'th gyfoeth oil yn rhad, Fe'u taflwn hwynt i'r pedwar pwynt, Am fedd yn Nghymru fad. Er fod mawr wynt ystormus, A'r m6r a'i donau erch, Cydrhyngwyf 'nawr a gweled gwawr Hen Eden dlos fy serch; Ond. a! dan nawdd Rhagluniaeth, Mi groesa'r mor mewn hedd; Ac af ar hynt, yn groes i'r gwynt, I Gymru i gael bedd. Clan y Mississippi. lOAN NONNI.
RWYF YN FALCH FY MOD YN GYMRO."
RWYF YN FALCH FY MOD YN GYMRO." "'Rwyf yn falch fy mod yn Gymro," 'Rwyf yn earn enw'r wlad, Lie anadlodd fy hen deidiau Ar fynyddoedd Cymru fad; Cartref fu i hen wrolion Ac enwogion lawer iawn. Gwlad y beirddlon a'r llenorion A'r cerddorion mawr eu dawn. 'Rwyf yn falch fy mod yn Gymro," 'Ran enwogrwydd Gwalia lan, Nid oes unrhyw wlad mor enwog Ag anwylaf Wlad y gan;" Ynddi hi fe fagwyd lluaws O enwogion mawr eu bri; Hen ryfelwyr—gwrol arwyr, Fa'n cartrefu ynddi hi. 'Rwyf yn falch fy mod yn Gymro," Mae enynfa dan fy mron, Wrth adgofio hen enwogion Fa'n dysgleirio o fewn hon; Er fod Hengist a'i gydoeswyr A'u calonau yn llawn brad, Wedi twyllo ein gwrolion, 'Rwyf yn earn enw'r wlad. 'Rwyf yn falch fy mod yn Gymro," Er mwyn seinio'r hen Gymraeg, Mae fy nghalon yn orlawen Dros anrhydedd yr hen acg; Pan ddaw angau gyda'i gleddyf Ataf inau ar ei daith, Fe ddymunwn i gael marw Yn nhrwst anwyl yr hen iaith. Remsen, N. Y, SIMEON D. JONES.
ANNIB YNIAETH AMERICA.
ANNIB YNIAETH AMERICA. Ha! er i gaethwasiaeth a'i chyfrwys gyBllunia', Gael cymorth o Loegr y gref Alabama, Yn nQhyd a dyliilad mawr arian oddiyno— Mae rhyddid yn gwenu! a'i faner yn r.hwifio! Ac er holl ymdrechion uffernol feddyliau, Amcanu gorlethu yr Unol Dalaethau- Fe wena yn siriol bin teg Annibyniaeth Tra uffern ofidia yn un hyd ei phenaeth: Em rhyddid sydd gadarn a'i gwisg sydd wirionedd, Ac arm y nefoedd bentyra anrhydedd: Hal heddyw mae bryniau gwlad fawr y Gorllewtn, 0 tan eu baneraiu a rhyddid yn ddigryn- A gorthrwm yn gorwedd tan draed Annibyniaeth, A rhyddid fiodeua hyd byth yn ei alaethI Annibyniaeth fawr Amerig, Gydnabyddir trwy'r holl fyd— Yr holl wledydd gwareiddiedig Ar wir ryddid rho'nt eu bryd; Ser a rhesi" heirdd ein baner Sy'n teg chwiflo uwch ein gwlad, Arwyddluniant Undeb" cofier A nerth egwyddorion mad. c'n bryniau teg a'n doldir, v™ «n £ oedwigoedd heirdd eu gwawr, T hTho^di rhyddid cvwir Maef'tn d^on ar yllawr! Yn fa™*™. dewr a diwyd Bellach mewn iaith:— Mae Gwerintaeth fawr Amerig A gweddiau yn ddian erlg Ytnaq'r Neifion mawr Amgylchynant dir ^n »Sau' Yn crochfloeddio hyd ei Sn- Annibyniaeth a rhyddhad/ Ymaegwaedymnoeddbechsvn A gysegrodd wellt y IIawr gyn Heddyw'n dyrchafedig esgy- I I Annibyniaeth, daeth yr awrl Do, rhoddasom ni ein bywyd Dros wir ryddid hoff ein gwlad A-chaethwasiaeth a ddifodwyd' Annibyniaeth mwy heb frad I"' P-aidmod, Ill. AP DAPYDD.
JD rr JtCJJJJ > Ji ilLilfl).
JD rr JtCJJJJ > Ji ilLilfl). SYLLYDD1AETH WYDDONOL. MRi. GOL.—Gwclais ysgrif yn y DRYCH, am Gorph. 22ain, gan un a eilw ei hun yn "Syllwr," yn cyhuddo dau fardd nid an- enwog, o "ffolineb anesgusodol," oblegid i un o honynt ddweyd ar farwolaeth rhyw- un, "nid marw wnaeth," ac i'r llall ddy- weyd am amgylcliiad cyffelyb, "marw wnaeth." Felly, yn ol y "Svllwr" hwn, rhaid i bob bardd ddyfod i edrych ar bob peth o'r un safle. Yn ol ei athrawiaeth ef, pe byddai i arlunydd cywrain dynu dau ddarlun o fynydd oddiar wahanol safle- oedd, byddai un o honynt, o angenrheid- rwydd, yn "ddyehrynllyd o gyfeiliornus," yn gymaint felly fel y dylai yr holl wlad ag un fonllef dragwyddol waeddi allan, Cysondeb, bobl anwyl." Dywedir fod y rhai sydd yn dyoddef o dan y clefyd melyn yn gweled pob peth o'u hamgylch yn felyn -tybiwyf fod rhyw anhwyldeb cyifelyb ar Syllwr "-piti onide? Ymddengys un peth yn eithaf sicr, fod golygon Syllwr (trwy orymdrech, efallai) wedi byrhau i'r fath raddau, fel na all weled un fodfedd yn ddyfnach i gynyrch yr awen na'r wisg allanol yn unig; ac o dan y fath amgylchiadau, cyngorem ef i bwrcasu par o wydr-ddrychau yn ddioed; ac os na chaniata amgylchiadau Syllwr iddo eu pwrcasu, dylid gwneyd tysteb gen- edlaethol iddo i'r dyben hwnw, gan ei fod wedi dangos ei hun mor fedrus yn ei allu- oedd syllyddol fel critic o'r first degree; yna dichon y nerthir ei alluoedd syllyddol i'r fath raddau fel y gall sylwi gyda manylder ar yr engreifftiau canlynol: Dywed Isl w yn, "Nos yw'r dydd syn'n cuddio'r sgr o'r golwg, A dydd yw'r nos sy'n gwneyd y nef yn amlwg." Dydd yw dydd, waeth i ti heb na thaeru, A nos yw nos, nes delo boreu fory, Medd Syllyddiaeth ddiliafal. Klioddodd yr hen wr Solomon gyngor unwaith, i "ateb yr ynfyd yn ol ei ynfyd- rwydd," a bron ar un gwynt, dywedai dra- chefn, "nac ateb yr ynfyd yn ol ei ynfyd- rwydd." Pitina buasai yr hen frawd yn cael byw i weled Syllwr y bedwaredd gan- rif ar bymtheg; diameu genyf y buasai yn teimlo gradd o gywilydd wrth weled ei anghysondeb, a'i gael gymaint ar ol ei oes. Dywedir hefyd yn yr Hen Lyfr, "Yr haul a gyfyd, a'r haul a fachlud, ond y ddaear a saif byth." Ond y mae yn eithaf amlwg, er dyddiau Galileo, fod yr haul yn ddiysgog yn nghanol-bwynt y dosbarth heulog; a bod yr hen ddaear mor heinif yn rhedeg yn ei gyrfa ag un chwaer-blaned arall. Onid hollol ofer, yn ol deddfau manyl-graff Syllyddiaeth, ydyw son mwy- ach am godiad a machludiad yr haul? Yn hytrach, dyweder yn ol Syllyddiaeth, y troa'r ddaear o'r Gorllewin i'r Dwyrain, hyd nes y canfyddwn yr haul, ac hefyd y pRry i deithio yn mlaen nes y collwn ein golwg arno. Dichon y gwasanaetha hyn o engreifftiau er tynu sylw Syllwr at feusydd diderfyn Syllyddiaeth, yna gall droi ei het o am- gylch y gwagle mawr sydd odditani, a gwaeddi hyd ddiwedd amser, Na chododd haul erioed, ac na fachludodd chwaith. Ond y ddaear sydd yn troi-mae hyn o hyd yn ffaith. Os daw Syllyddiaeth yn ei grym, A gofyn am unoliaeth im', Dywedir am ryw broblem sydd Yn gwneyd y nos yn oleu ddydd. Syllwr yw'r gwr rhagorol—a genfydd Y ganfed ill filiol 0 ranau penwirionol, Swn di-ffawd asynod ffol. Os llwyddir mewn Syllyddiaeth-wydd- Wedd enwog (bombastiaeth) [onol. Oni fydd i fenydd faeth, Am reol ddiamrywiaeth. Cambria, Wis. WM. AP WILLIAMS EILON MON FEL BARDD SEISNIG. MRT. GOL.—Yn y DRYCH, am Awst 5ed, darllenais Adolygiad ar Benillion Seisnig Cefni, gan Ap P. A. Mon, ac yr wyf yn cydsynio ag ef yn mhob peth a ddywedodd. Ond mawr oedd fy syndod wrth weled, yn yr un rhifyn, Englyn Saesneg gan y bardd awenog Eilon Mon, i "Molly Darling." Darllenais yr englyn, ac er fy mod yn ystyr- ied fy hunan yn ysgolhaig Saesneg lied dda, nis gallwn, ac nis gallaf ddychymygu beth yw meddwl yr englyn. Nid wyf yn deall pa reswm sydd mewn dyn yn ysgrif- enu yn Saesneg, pan y mae yn amlwg nad ydyw yn deall llawer am Gystrawen ac laiom yr iaith. Yr un mor resymol fyddai i mi geisio ysgrifenu yn yr iaith Choctaw, ac i'r i Cymro hwnw i geisio ysgrifenu yn yr iaith Saesneg. Ar ol darllen yr englyn Swaith, yr unig synwyr a gefais ydyw- Fully Molly Darling, does thy mien satisfy my heart longing. Yes Molly, joyous love in thy breast to me thou bringest." Y mae v ddwy linell fiaenaf yn lied angramadegol, ac yn hollol dywyll i mi. All dearly, Molly darling-is thy mien To sooth my heart's longing." 11 Y mae y gair "dearly" yn rhagferf, yr hon sydd yn dangos ansawdd berf, ansodd- air, neu ryw ragferf arall; ond nid wyf yn gweled, yn y llinellau uchod, pa gysylltiad sydd rhwng y dearly ag un gair arall yn y frawddeg. Ac y mae y gair all-" yn y llinellau yn angramadegol a disynwyr. Y mae yr awdwr wedi aberthu synwyr er mwyn cynghanedd. Eto, ystyr y gair "soothe" yw, to appease, to calm. Onid y meddwl a geisia Eilon osod allan yw, to satisfy my heart's longing J Y ddwy linell olaf sydd fel hyn:- "Yes, Molly, love so smiling In thy breast to me thou bring." Pan y mae dyn yn newid y rhag-enw Cymraeg chwi i di, y mae yn rbeidiol, er 'g gwneyd synwyr, i newid y ferf hefyd. Er engraifft: Ddywedwn ni ddim, ysgrifen- wch di, ond ysgrifena di. Hefyd, nid cenwch di, ond cana di. Felly yn y Saes- onaeg, pan newidir y rhagenw you i thou, rhaid newid y ferf. Felly, buasai y llin- ellau uchod yn gywir fel hyn: Yes, Molly, love so smiling In thy breast to me thou bringest. Neu fel hyn- Yes, Molly, love so smiling In thy breast to me you bring. Gobeithiaf na chymerwch chwi hyn fel gwawdiaeth o'r farddoniaeth, ond fel rliy- budd i'r beirdd Cymreig, i ofalu pan yn ysgrifenu yn Saesonaeg, i sylwi yn fanwl, fel na byddont yn troseddu pob rheol o'r gramadeg. Pe buasai Sais yn darllen yr englyn uchod, neu benillion Cefni, (er eu bod yn dangos ffrwyth gwir awen,) ar ol clywed am wres ac awen y beirdd Cym- reig, buasai yn eu gwawdio yn Ilym; ac yn wir, nid heb reswm. Frostburgh, j,11d. AP DIDYMTJS.
WILLIAMSBURGE, IOWA.
WILLIAMSBURGE, IOWA. MRI. GOL.-Gwelir nodion yn fynych o'r ardal hon yn y papyr bach hwnw o'r ddinas fyglyd, ond anaml y bydd dim oddiyma yn y DRYCH. Mae hyn dipyn yn chwithig pan Vstyrir fod tua 50 o'r DRYCH yn dyfod i'r swyddfa hon, a dim ond pedwar neu bump o'r papyr gwir genedlaethol." (?) Lie tawel ar y cyfan sydd yma, a dim llawer gan hyny o bethau neillduol i'w hysgrifenu. Y mae'r cynauaf drosoddyma—pawb wedi cario ei yd i'w das,a llawer o honom wrthi yn dyrnu. Nid yw y gwenith cystal ag a allasai fod; ond byddy corn yn lied dda,er yr holl anfanteision ddechreu y tymor. Dal braidd yn oer y mae ar les y corn hefyd. Y mae'r achosion crefyddol yma braidd yn ddilewyrch, yn benaf o herwydd peth- au anghysurus yn yr eglwysi, na byddai yn ddoeth son am danynt. Cariad a guddia luaws o bechodau." Y mae'r Parch. Thos. E. Hughes yn llafurus yma gyda'r T. C.- yr unig weinidog sefydlog gyda'r Cymry yn yr arckI. Siomwyd disgwyliadau yr eg- lwys Gynulleidfaol am gael y Parch. E. W. Jones, Johnstown, Pa., o herwydd i'r brod- yr yno sicrhau ei wasanaeth am dymor yn hwy. Y mae yma eglwys Seisnig hefyd heb weinidogaeth. Y ddau Sabboth diweddaf bu y Parch. Owen Griffith (B), gynt o Utica, yr ydym yn meddwl, yn llanw pwlpud y Cynulleid- fawyr gyda graddau o gymeradwyaeth. Y mae hefyd yn gwerthu llyfr o'i waith ei hunan. Y mae yn dda genym weled fod y gweinidog brawdol hwn yn synied yu briod- ol am undeb Cristionogol; y mae yn rhydd gymunwr egwyddorol ac ymarferol. Prys- ured yr amser pan y bydd brodyr yn gallu byw yn nghyd, a gweithio yn nghyd, a bwytaynngliyd, gydagwaith yr Arglwydd ac wrth ei fwrdd. Y mae yn bryd yn yr oes oleu hon i hen syniadau culion yr oes o'r blaen gael eu rhoddi o'r neilltu. Yr oeddwn wedi meddwl beth amser yn ol fod pobl dda wedi cael gafael ar game da, diniwed, yn y game a elwir croquay (sut y mae ei sillebu?) Ond y mae yn ymddang- os fod y diafol wedi cymeryd meddiant o hon hefyd, fel o'r cardiau, &c., o herwydd y dydd o'r blaen yr aeth yn anghydweled- iad rhwng dau lane ieuanc wrth ei chwareu, a'r canlyniad fu ymladdfa waedlyd. Mae yma rai yn bygwtli,os bydd iddynt ymladd mwy am beth mor fychan, y dygir hwy o flaen yr Ustus, ac y cyhoeddir eu henwau yn y DRYCR. Oni fyddai yn well cael in- junction yn erbyn y dynion sydd yn cadw y taclau chwareu hyn? Bod yn fyw yw y goreu genych yn ddiau, felly terfynaf yn avrar hyn. Yr eiddoch, &c. DWYGYFYLCHI.
Y DTWEDDAR BARCH. HUGH R.…
Y DTWEDDAR BARCH. HUGH R. PRIOE. Mab ydoedd y Parch. Hugh R. Price i Edward a Jane Price, gynt o Remsen, N. Y., a nai fab chwaer i'r Parch. Evan Rob- erts, gweinidog yr Annibynwyr yn Steu- ben dros amryw flynyddoedd. Ymfudodd ei rieni o Lanfyllin, G. C., pan oedd eftua 17 mlwydd oed; wedi cael ei fedyddio yn faban gan Dr. Lewis, yr hwn oedd athraw yr athrofa y pryd hwnw yn Llanfyllin, a gweinidog yr eglwys yno, lie yr ydoedd ei rieni yn aelodau selog. Yr olwg gyntaf i mi ei adwaen ydoedd yn Utica, yn 1831, yn cael addysg at y weinidogaeth dan y Parch. Beriah Green, yn Whitesboro; ac yn ol yr wyf fi yn ei gofio, yn aelod o eglwys Anni- bynol Gymreig Utica-yn ddyn ieuanc bywiog, talentog, a hynod hyawdl fel siar- adwr, yn dechreu ar waith y weinidogaeth fel pregethwr yn mysg yr A. Ond yn fuan collodd ei le, a therfynodd ei yrfa fel preg- ethwr gyda'r A. Ymfudodd i'r gorllewin yn mhen amser wedi hyny, a chawn hanes ei adferiad i'r weinidogaeth yn mhlith y Presbyteriaid. Ordeiniwyd ef gan Bresbyter Columbus yn weinidog ar eglwys Dublin, lie yr aros- odd ddwy flynedd. Ei le nesaf ydoedd Blue Creek Church, Champaign Co., lie y llafuriodd yn agos i ugain mlynedd. Ei le nesaf ydoedd yr Eglwys gyntaf yn Bloom- ington, Illinois, lie yr arosodd am 7 mlyn- edd. Wedi hyn bu yn weinidog am amryw flynyddau i hen eglwys Gynulleidfaol Pad- dy's Run, neu New London; a'ile olaf yd- oedd Gallia, 0., am dair neu bedair blyn- edd, hyd Gorph. 1, 1874. Y pryd hwnw collodd ei iechyd, drwy darawiadau o'r parlys, yr hyn a derfynodd ei yrfa Mai 20, 1875, yn ei hen gartref, Paddy's Run.- Claddwyd ef yn Urbane, lie yr oedd rhai o'i blant o'i flaen. Ganwyd ef Meh. 12, 1812, yn Nghymru. Yr ydoedd yn ddyn talentog, yn siaradwr rhwydd yn Gymraeg neu Saesoneg, ac yn bregethwr efengylaidd ac ymarferol. Clyw- som ef yn pregethu yn Remsen a'r ardal droion, pan yn ymweled a'i berthynasau. Llafuriodd yn gyson a difwlch o'i urddiad hyd nes yr analluogwyd ef yn gwbl. Caf- odd gwrdd gweddi Cymreig gyda'i hen irodyr, a meddyliai cyn marw dreio preg- ethu Cymraeg unwaiih, ond nis gallodd.— Gadawodd weddw ac amryw blant y chyf- eillion i alaru ar ei ol. Remsen, N. Y. MORRIS ROBERTS. 0. Y.—Yr oedd adeg adferiad y brawd yn gwbl briodol i'w ddawn a'i duedd, adeg y dadleuon rhwng yr eglwysi, a rhanu ac ymranu, yn gwbl groes i'r hyn ydyw yn awr; ac felly yr oedd ei ddawn ef yn cwbl daro yr adeg, a'i gynorthwy i gymeradwy- aeth neu anghymeradwyaeth y naill blaid neu y llall, ac enillodd safle uchel yn mysg ei enwad.
[No title]
JENNIETON, WIS. Yn Rhif 32 o'r DRYCH ymddangosodd ysgrif o'r lie hwn, yn yr hon y rhoddir ycliydig o hanes yr ardal. Dibena yr ysgrif fel y canlyn-" Llawer o lid a dig, cenfigen a malais; cariad brawd- ol yn brin, crefydd yn flodeuog." Yn awr, pa fath grefydd sydd yn flodeuog yn y llawnder a enwir, a phrinder brawdgar- wch? Beth yw rheol y brawd i gael allan yr holl bethau yna; ai ansawdd enllibaidd ei fynwes ei hun? Dichon pe buasai yn gwel'd yn dda roi i ni ei enw priodol, na buasai yn anhawdd olrhain rhyw siomiant a dderbyniodd yn eglwysig neu gymydog- aethol, yr hynfu yn achos o ddeoriad y fath gabldraith ac anghydgordiad. Gyda golwg arnaf fy hun, yr wyf gyda chrefydd er yn lied ieuanc, ac wedi bod mewn cysylltiad a gwahanol eglwysi yn Nghymru ac Amer- ica, a bydd coffadwriaeth o'm perthynas a hwynt yn anwyl genyf tra byddaf yn cofio dim, ond yn eu mysg oil ni welais yr un yn para mor frawdol a chydgordiol yn mhob amgylchiad ag y mae yr eglwys y perthyn- af iddi yma wedi bod er's blwyddyn. Tyb- iwyf hefyd pe bae y wasg Gymreig yn gweled yn ddoeth i gau y drws yn erbyn pob enllibwyr na welant yn dda amlygu eu henwau, y byddai yn waredigaeth fawr i bersonau y cymydogaethau a chrefydd.— Evan Owen.
HYDE PARK, PA.
HYDE PARK, PA. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL HYDE PARK YN DEBYG 0 FOD YN LLWYDDIANT-CYNELIR HI MEDI 15EG A'R 16EG. HYDE PARK, Awst 18—Fel y mae amser ein gwyl fawr yn agosau, mae ein pryder a'n llafur yn cynyddu, ac yr ydym ar ein goreu yn ceisio mesur, cymharu a phwyso ein lhagolygon. Gwyddom nad gwaith bychan ydyw dwyn anturiaeth Eisteddfod- ol o faint hon allan yn llwyddiant. Yr yd- ym wrthi fel pwyllgor yn cynllunio ac yn trefnu er's dros chwc' mis, agwnai ein holl weithrediadau eleni gyfrol fechan. Yr yd- ym yn awr yn 45 o rif, ac yn cyfarfod bob prydnawn dydd Llun, am 4U o'r gloch; ac yr ydym wedi ymranu yn 17 o wahanol bwyllgorau, er ceisio hwylysu ein gwaith; ac afreidiol yw hysbysu fod rhai o ddinas- yddion parchusaf ein dinas yn aelodau yn- ddo. 21 oedd ein nifer declireuol; ond fel yr ymagorai ein cynlluniau, penderfynas- om ddyblu ein rhif. Rliifa swyddogion ein Heisteddfod, yn Llywyddion, Is-Lyw- yddion, Arweinwyr, Beirniaid, &c., 39; ac yn eu mysg y mae 14 a'r gair Hon. o flaen eu henwau. Mae genym yn mysg ein His- lywyddion enwau dau Lywydd y corffor- iaethau mwyaf yn y dyfEryn hwn, y rhai sydd yn cynrychioli dros driugain miliwn o ddoleri o gyfalaf, a byddant yn debyg o roddi eu presenoldeb yn yr Eisteddfod. Y mae un o honynt wedi addaw yn sicr.— Wedi i'r wasg Seisnig yn y cylchoedd hyn wybod pethau o'r fath, maent yn hynod o barod i'n cynorthwyo, ac Eisteddfod sydd ar wefusau pawb, yn Wyddelod, Ellmyn- iaid ac Americaniaid. Deallwn fod estron- iaid yn cystadlu ar y prif Draethawd, chwareu y Piano, a'r Organ. Gan fod yr Eisteddfod wedi ei dwyn i sylw mor gyffredinol, yr ydym yn sicr o gynulleidfa luosog iawn. Y pwnc mawr fydd i ni gario ein mudiad allan fel yr ad- lewyrcho glod ar Gymry a Chymraeg trwy yr holl wlad. Byddwn megis yn gosod ein cenedl ar arddangosfa i'w beirniadu, i'w chanmol neu ei hiselu yn ngolwg yr holl Dalaethau. Rhaid i ni gael cynorthwy ein holl genedl yn y parthau hyn er dwyn all- an ein Heisteddfod yn anrhydeddus. Bydd- ed i bob un feddwl drosto ei hun am y pwysigrwydd iddo ymddwyn yn deilwng o ddyn yn yr amser hwnw; a bydded i'n gweinidogion o bob enwad, a'r wasg, breg- ethu ar y pwys o iawn ymddygiad yn nghyf- arfodydd yr Eisteddfod. Gan fod ein gwobrwyon dros fil o ddol- eri, bydd costau y beirniaid, y babell, ar- graffu, &c., yn fawrion. Bydd ein holl dreulion yn sicr o gyraedd dros dair mil ($3000) o ddoleri! Y pwnc a'n gofidiai yn barhaus oedd cael pabell ddigon eang at ein gwasanaeth. Bu pwyllgor y babell yn gohubu a gwneuthvrwyr pebyll yn Philad- elphia, New York, Boston. &c., ond meth- ent yn deg a chael un ddigon mawr. O'r diwedd, penderfynodd y Pwyllgor Cyffred- inol gyflogi dyn i fyned i chwilio am un, a da genym hysbysu ein bod wedi llwyddo i gael benthyg Pabell Ganmlwyddol Con- cord (Concord Centennial Tent, Mass., yr hon sydd yn mesur 242 troedfedd wrth 82 tr., a deil 6000 o bobl! Yr ydym yn gorfod talu swm mawr am ei benthyg, a rhaid i ni ei dodrefnu, oddieithr y banerau. Mae iddi chwech o centre poles, wedi eu lliwio yn wyrdd, a'r ser a'r brithresi yn liongian ar bob un o honynt. Bwriedir codi banlawr eang i'r swyddogion, ac urddasolion yr Eis- teddfod, wedi ei garpedu yn hardd, ac o amgylch iddo bydd reserved seats i 2,600; bydd y' seddau hyn a chefnau iddynt, a'r llawr wedi ei fyrddio yn dda o danynt.— Bydd diagrams o'r rhai hyn yn ein prif stors yn fuan. Mae llawer yn lioli am dan- ynt yn barod. Tu cefn i'r rhai hyn bydd rising seats gydag ochrau y babell. Gwneir banlawr hefyd i'r corau, gyda sedd gyfleus i'r arweinydd. Deallwn fod chwech o gorau yn ymarfer yn brysur, sef dau yn Plymouth, un yn Taylorville, a thri yn Hyde Park, heblaw y lluaws sydd yn ymarfer y Parties, Trios, Duetts, Solos, &c., trwy yr holl ddyffryn. Dywedwyd wrthyf y gallwn ddisgwyl dros fil o Plymouth yn unig. Cystadleuaeth ar- all sydd yn tynu llawer o sylw ydyw un y Bands. Deallwn fod rhyw wyth neu ddeg o'r rhai hyn yn ymarfer eu heithaf o Dan- ville i Carbondale. Mae yr adran gelfydd- ydol hefyd yn dechreu anfon ei ehynyrch- ion i'r beirniaid. Am yr adran lenyddol, mae y cyfansodd- iadau cerddorol yn dylifo i law. Yn ol a glywsom, bydd gwaith darllen dychrynllyd gan feirniad y traethawd ar Ffug-hanes.— Dywed beirniad y farddoniaeth fod llawer o gyfansoddiadau wedi dyfod i law, a rhai o honynt yn hynod o dda. Cyhoeddir y ffugenwau ar ol yr amser penodedig yn y DIIYCH, a'r Faner. Ofnwn y bydd dau ddi- wrnod yn rhy fychan i fyned trwy yr holl weithrediadau. Mae genym Bwyllgor Croesawol (Recep- tion Committee), yn cael ei flaenori gan faer ein dinas, i dderbyn y Ilywyddion a'n beirn-' iaid, ac i'w harwain i'r babell, &c. Tebyg- 01 y gosodir yr holl seingorau i ganu "Hail to tlte Chief" pan y bydd Llywodraethwr ein Talaeth yn dyfod i mewn i'r babell. Mae genym hefyd Bwyllgor Llenyddol o wyth, i gyhoeddi papyr ar ddyddiau yr Eisteddfod, yn cynwys rhagdrefn y cyfar- fodydd a'r cyngerddau, y beirniadaethau, anerchiadau y swyddogion, hysbysiadau, &c., &c. Darperir lie cyfleus i gynrycli- iolwyr y wasg. Gobeithio y cawn weled un o Olygwyr y DRYCR yn ein Heistedd- fod. Dyna rai o'n cynlluniau. Mae ein huch- elgais yn fawr, a'n rhagolygon yn obeith- iol. Gobeithio y coronir ein hymdrechion a llwyddiant, ac y llwyddwn i gynal Eis- teddfod na welwyd erioed ei bath yn y wlad hon. DAVID C. POWELL, Ysg. Gohebol. Hyde Park, Awst 18, 1875.
LLOFFION 0 BELL AC AGOS.
LLOFFION 0 BELL AC AGOS. Adroddir fod un o'r gwynt dymestl- oedd diweddar yn Minnesota wedi chwythu dwy ddafad i ben coeden tua milldir o'r fan y porent! Yn ol y cyfriflad diweddar, cynwysa Wisconsin boblogaeth o 1,137,166, ar gyfer 1,054,670 yn 1870, yr hyn sydd yn enill o 182,496. Dywedir fod teulu yn Michigan wedi eu gwenwyno agos i farwolaeth, drwy giniawa ar gywion ieir oeddynt wedi bod yn bwyta y Colorado beete. Cyfrifir fod cnwd gwenith Minnesota eleni yn werth $30,000,000. Ymddengys mai yn meddiant y Cad. Cronk, Jackson, Mich., y mae y ceffyl hynaf yn y byd. Ei enw yw Romp, ac mae yn 51 mlwydd oed. Enw ei dad oedd Dragon, yr hwn oedd yn enwog fel rhed- egydd. Dywed y Pall Mall Gazette fod rhai gwartheg yn lioffi ciniaw o bysgod yn well na dim arall; a dywed y vice Consul Crowe, fod y gwartheg mewn rhai parthau o Norway yn difa tua 10,000,000 o benau codfish yn flynyddol. .Ymddengys fod poblogaeth Iowa ar gynydd. Dengys y cyfrifon a dderbyn- iwyd gan Ysgrifenydd y Dalaeth o 76 o sir- oedd, gynydd o 81,700 er y census diwedd- af. Yrunig siroedd a ddangosant leihad ydynt Black Hawk, Johnson ac Emmet. .Dywedir fod teulu yn y gorllewin ydynt yn symud mor ami, fel pan ddig- wydd gwagen gauedig basio, y gorwedda y dofednod ar eu cefnau, gan groesi eu coesau yn barod i'w rhwymo. Dengys tafleni y swyddfa amaeth- yddol mai pris cyfartal llafur amaethyddol gyda bwyd, yn y Talaethau Unedig yw $12 40 y mis, yr hyn sydd yn ostyngiad o 22 y cant er 1860. .Mae Jefferson Davis wedi derbyn gwahoddiadau o DesMoines, Iowa, Charles- ton, Ill., a lleoedd eraill yn y Gorllewin, i draddocli yr anerchiadau blynyddol yn nghynulliadau amryw o gymdeithasau am- aethyddol. Adroddir mai golwg gwael sydd ar y samplau newydd o wenith Prydeinig o'u cymharu a rhai y flwyddyn o'r blaen.— Camgymeriad oedd yrtdroddiad blaenorol Ily eu bod yn edrych yn dda. Rhoddir y swm o C329 yn wobrwy- on yn arddangosfa amaethyddol Sir Aber- teifi, D. C., sydd i gael ei chynal yn Aber- ystwyth ar y 15fed o Fedi. Trethir y Gynadledd Amaethyddol Genedlaethol a gynelir yn Cincinnati, Medi 22, 23 a'r 24, mewn gwneyd anerchiadau a dadleuon. .Mae naturiaethwyr wedi penderfynu nas gall un iar ddodwy mwy na chwe' chant o wyau. Wedi i iar ddodwy y nifer hwn, gellir ei gwerthu fel spring chicken. Dywedir fod gan un o ddinasydd- ion Beaver, Pa., iar sydd mor fedrus gyda dal llygod ag unrhyw iar. Cwyna amaethwyr California o her- wydd difrod y gwiwerod ar eu cnydau yr haf hwn. Cyfrifa un dyn iddo golli digon o rawn i besgi cant o foch yn barod i'r farchnad. .Bu bachgenyii pymtlieg oed farw yn ddiweddar mewn canlyniad i anadlu Paris Green i mewn, tra yn ei daenu ar hyd y pytatws. .Disgwylir ybydd y cyn-Lywodraeth- wr Seymour, a'r Llywodraethwr Taylor yn bresenol yn ffair amaethol gogledd-barth Wisconsin, heblaw yr Anrh. Charles Fran- cis Adams, ieu., yr hwn sydd i draddodi yr anerchiad blynyddol yno. Daliwyd mocking-bird gwyn yn Charleston, S. C. Anfonir mil o farilau o afalau yn ddyddiol o Memphis. .Mae cwmni wedi ei ffurfio yn Omaha gyda'r amcan o adeiladu rheilffordd yn dwyn yr enw Kansas Central & Black Hills Narrow Range Railroad. Bwriedir ei chycliwyn yn ddioed o Omaha, drwy y wlad amaetlijrddol i'r de o'r afon Platte, ac estynir hi at y Bryniau Duon mor fuan ag y ceir caniatad i hyny. 0 EFFAITH Y RHEw.-Ymddengys fod y rhew a ddigwyddodd nos Sul, Awst 22ain, wedi gwneyd cryn niwed i'r cnydau mewn amryw o'r talaethau gorllewinol. Dioddef- odd y corn a chropiau anaddfed eraill i raddau helaeth yn Minnesota. Dywed ad- roddiad o dair ar ddeg o siroedd yn Wis- consin fod tua thri chwarter y cnwd corn wedi ei ddinystrio, ac mae y tybaco yn sir- oedd Rock a Jefferson, wedi ei lwyr ddistrywio. Gwnaed cryn niwed hefyd i'r hops, buckwheat, a'r pytatws, a phob math o winwydd. Niweidiwyd y corn a'r pytatws hefyd i raddau mwy neu lai mewn gwahanol barthau o Illinois ac Iowa. CORN ARDDERCHOG YR KANSAS.—Ys- grifena Mr. Ellis W. Griffiths o St. George, Pottowatonie Co., Kansas: Yr wyf yn anfon gair neu ddau mewn perthynas i'r corn ardderchog sydd yma. Beth pe gwelech ear o gorn yn mesur deuddeng modfedd o hyd, a naw a haner o amgylch- edd, ac yn cynwys oddeutu pedwar cant ar ddeg o rawn. Ni byddai yn ofynol cael nifer mawr o'r cyfryw i wneyd bwsiel.— Carwn allu anfon dwy neu dair o honynt yna, i chwi allu eu gweled. Hefyd nid eithriad yw rhai o'r maint yna, ond maent yn lied gyffredin. Bernir y ceir ar gyfar- taledd tua phedwar ugain ar yr erw o gorn eleni yn y parthau hyn." KINGSTON, WIS., Awst 23.- Y mae y cynhauaf drosodd, a disgwylir gwenith da. Cawsom gryn lawer o wlaw ond ni wnaeth lawer o niwed i'r cropiau. Boreu yr 22ain, cawsom farug trwm, ond ni wnaeth nemawr o niwed. Mae y tywydd yn oer yr adeg hon o'r flwyddyn; credwn y cawn fall cynar, a dichon y niweidir y corn gan rew. Da genym hysbysu fod y tywydd oer wedi difa y mosquitoes pigfain y soniai yr hen fab gweddw o Markesan am danynt; felly gall ef gysgu yndawelynei drigfan newydd yn Bangor, lie y gobeith- iwn.y ca cyn hir hyd i'r asen a geisia.— W. E. Williams.