Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
NODION PERSONOL.
NODION PERSONOL. Drwg genym gael ar ddeall fod iechyd yr hybarch VVM. MORGANS, Pottsville, wedi bod yn lied wael yn ddiweddar. Os ydyw fel y dywed goliebydd, ar orphen ei ddi- wrnod gwaith," y mae gwobr gwas ffydd- lon yn ei aros. Deallwn fod y Parch. J. T. BREESE, diw- eddar o Milwaukee, Wis., yn llafurio fel pregethwr teithiol dros Gymdeithas y "Bethel Home," Chicago. Y mae JOHN B. GOUGH yn 58 mlwydd oed. Mae THEODORE TILTON a'i ddwy ferch, Florence ac Alice, ar ymweliad a'i rieni yn Kevport, N. J. Mae wedi rhoddi o'r neilldu ei waith ar ei lyfr newydd, ac yn parotoi ei ddarlith newydd ar "Broblem Bywyd," i draddodi yr lion y mae ganddo ymrwymiadau am bob noson o Medi 20fed, drwy y tymor gauaf. 11 Mae MAX STRAKOSCH, y trefnwr cyng- 11 erddau enwog, wedi dychwelyd o Ewrop. Bydd iddo yn ddioed ddechreu cynal rhestr o gyncrerddau, yn y rhai y disgwylir y bydd i Ma'me. Sitiens enill enwogrwydd. Dywedir fod DEon STANLEY ar fedr adeiladu cof-golofn yn Westminster Abbey i JOIIN a CHARLES WESLEY. Credir y par y weithred lion i lawer o Eglwyswyr selog dramgwyddo wrtlio. Mae Admiral ThoM THUMB o Lundain yn cliwe' modfedd byrach na Tom Thumb o'r wlad lion. Ei oed yw un ar bymtheg ar hugain, a phwysa chwe' phwys ar hug- ain. Brodor yw o Holland, a gall siarad pump o ieithoedd. b Dywed yr Anrh. J. RUSSEL JONES, di- weddar Weinidogy Talaethau yn Belgium, tra nad oedd ei gyfiog ond $8,000 y flwydd- yn, fod yn cdstio iddo $20,000 i fyw yn Brussels. Glaniodd Argl. HOXJGIITON, awdwr adna byddus, a bardd enwog o Loegr, yn Can- z, ada yr wythnos ddiweddaf, a bwriada gym- eryd taitli drwy y Talaethau Unedig. Di- au y ca dderbyniad brwdfrydig, canys y mae bob amser wedi dangos ei hun yn gyf- aill i Weriniaeth. Y Parch. D. R. THOMAS, M. A., Cefn, Llanelwy, fydd olynydd y Parch. D. Sil- van Evans, fel golygydd yr Archmlogia Cambrensis. Yn Nghymdeithasfa y T. C. a gynaliwyd yn Mhontypridd, y mis diweddaf, cyflwyn- wyd Cyfarchiad a Beibl goreuredig ysblen- ydd i'r hybarch W. EVANS, Tonyrefail, fel cof-arwyddion ei fod wedi cyraedd ei Jiw- bili fel weinidog ordeiniedig. Dechreu- odd bregethu yn 1811, ac ordeiniwyd ef yn Aberteifi yn 1825. Bydd y Parch. W. ROBERTS, D. D., o Bellevue, Pa., yn pregethu yn addoldy y iynoi ^a ^t*Cd y Sab both nesaf a'r un can- ^anv y Parch. CYRUS NUTT, D. D., • •> ychydig ddyddiau yn ol, yn Bloom- yifl?]yWyddapHf Bu bymtheg mlynedd y y y I nfysgol Talaeth Indiana. Mae y Proffeswr R. A. PROCTOR, y Ser- eithiwr politicaidd, am New'^t Vr ar 16eg o Fedi. ^ew York ar yr Bu JONATHAN EDWARDS, un o ddisgyn- yddion y duwmydd a'rysgolor enwo- o'r un enw, o Loegr Newydd, farw yn "ddi- weddar yn New Haven, yn yr oedra™ o 77 mlwydd. Brodor ydoedd o Hartford Conn., a mab Jonathan Walter Edward' wyr y Llywydd Edwards. Yr oedd yn dda genym gael gair oddi- wrth yr IIEN lenor oedranus AB MORYDD, Floyr], N. Y., a deall ei fod yn ei gynefin U. Pa a y gwcUom ef ddiweddaf yn Eisteddfod Utica, Calan 1874, yr oedd yn fwy heinif ei ystum a'i gerddediad, ac yn fwy bywiog ei feddwl na llawer Cymro yn haner-canmlwydd ieuangach nag ef. Os na chyferfydd a rhyw anhap, gall obeithio gweled ei hun "yn fab canmlwydd." Dy- wed mewn nodyn cyfrinachol—"Byddaf yn pruddhau mewn adgof am y diweddar JOHN EVANS, y teiliwr; canys byddai yn bleserus genyf wrandaw ei resymau cryf- ion ar bynciau pwysig y dydd. Cyfadd- efaf hefyd yn ddi-gel, y bu y newydd o farw y dirodres J. MATHER JONES, yn loes bwysig i fy nheimladau; meddyliwyf, pe digwyddai i mi ddyfod i'ch Swyddfa ryw- bryd, na fedrwn beidio a disgwyl gweled ei wOn siriol, onest a diragrith. Ow fy ffoledd." YMWELIAD A SIR SCHUYLKILL, P A.-Bu y Parch. J. P. HARRIS (Ieuan Delu) ar ym- weliad ag amryw o eglwysi Bedyddiedig Schuylkill yn ddiweddar. Ar wahoddiad oddiwrth eglwys Minersville, daeth i'w gwasanaethu yn yr Arglwydd ar y 15eg. Yr oedd ben adgofion yn llosgi mewn llawer calon tra y traddodidyr athrawlaeth am y groes; ac yn nghyfranogiad o swper yr Ar- glwydd yr oedd llawer llygad yn ffynon o ddagrau. Rhoddodd y T. C. eu moddion i fyny yn yr hwyr, a gwelwyd yr hen add- oldy yn llawn megis cynt. Ar daer ddeisyfiad y Parch. W. Morgan (yr hwn sydd yn dihoeni er's wythnosau bellach, ac ar orphen ei ddiwrnod gwaith), ymwelodd Mr. Harris a St. Clair a Potts- ville—cafodd gynulleidfaoedd lluosog yn y ddau le. Ni bu Ieuan Ddu erioed mor boblogaidd yn y cylchoedd hyn. Bydded i'r Arglwydd roddi hir ddyddiau iddo I wneuthur daioni, a'i lafur fo'n cael ei gor- oni a llwyddiant mawr, yw gweddi—Mab 1 angnefedd. EISTEDDFOD HYDE PARK, PA.—Ffagen- wau ymgeiswyr-Derbyniodd y Parch. J. Gordon Jones, Coldwater, Mich., 30 o gyf- ansoddiadau Barddonol, yn dwyn y ffugen- wau canlynol :Y Mayfiower"-J ohn Al- den, John Robinson (2). "Y Gwallgof- ddyn"—Dychrynedig, loan ap Huw, John Howard, Russell, Teimladwy (5). Ym- son-" Y Ferch Dwylledig yn y Tloty"- Alon, Amanda, Bore Wlithyn, Cadwgan, Dinah, Francwraig, Hamlet, Joan of Arc, Monferch, Nidy Twyllwr, Tamaid i Fwyd- od, Tad, Teimladwy 1, Teimladwy 2, Twymgalon, Un hoff o'r Merched, Ymson- ydd, loan ap Mair (18). "Tri Hir a Thodd- aid i Mr. Stephen (Casnodyn)"—Galarwr dan Glwy, Gwron, Hywel ab Einion, Meig- an ei Edmygydd, Y Bardd yn ei Awen (5). Daeth cyfansoddiadau cerddorol yn dwyn y ffugenwau canlynol i law D. C. Powell, y rhai a anfonwyd yn uniongyrchol i'r beimiad:—"Nyni yw'r becligyn cerddgar" 1, Verdi; 2, Brys Gwyllt; 3; Ap lolo; 4, Orlando; 5, Prestissimo. "Y Triawd"—1, Vincent; 2, Apollo; 3, Brysiog; 4, Major Domo; 5, Elizabeth Sterling. "Y Deuawd" -1, Glover; 2 Piebro Bizzari; 3, Gwas. DYDDIADUR Y T. C. El TO- I T ydwyf wedi deisyf amryw weithiau am gael y cyfrifon oil i mewn erbyn diwedd Awst, ond ni ddaeth dim eto o Dalaethau Ohio, Minne- sota, Missouri, Kansas, Dosbarth Vermont, &c., nac o haner eglwysi Pennsylvania. Os na ddaw y cyfrifon i'm llaw cyn diwedd yr wythnos nesaf, rliaid i mi roddi yr antur- iaeth i fyny, rhag colledu fy hun. Utica, Medi 1. Titos. JENKINS. 4
CYDJYABYDDIAETH 0 GAREDIG-BWYDD.
CYDJYABYDDIAETH 0 GAREDIG- BWYDD. BALA, KAS., Awst 10.—Pan y mae dyn yn derbyn c3rmwynasgarwcii a charedig- rwydd oddiar law ei gyd-diiyn, y mae yn ddyledswydd arno gyduabod y cyfryw hyn- t awsedd. Nid oes dim ag y teimlwn yn galetacli ato nag aniolchgarwcli unrhyw berson, a fyddo yn ymddibynu nrnom am elusen Ni tlieimlwn yn awyddus estyn cynorthwy i un felly. Yr wyf fi wedi cael caredigrwydd anghyffredin yn ddiweddar, gan Mr. John H. Jenkins o'r lie hwn. Eriyniaf eich hynawsedd i gael cydnabod, fel hyn, trwy eich newyddiadur clodwiw, y cymwynasgarwch a gefais ganddo. Daethum i'r wlad hon o Llanbadarn-fawr, ger Aberystwyth, D. C., yn y flwyddyn 1866, a sefydlais i a'm teulu, gyntaf yn New York Mills. Yn 1870, daethum i'r sefydliad hwn. Cefais iechyd rhagorol er pan wyf yma, hyd mis Mai diweddaf, pryd y cymerwyd fi yn glaf gan y bilious fiver a'r gravel, mewn modd llym anarferol.- Daeth meddyg o Manhattan i'm gweled ddwy waith; ond ni chefais unrhyw leshad ganddo; ac ni phetrusaf ddweyd na fuas- wn wedi gwella o gwbl oni bai ymdrech- londiflmoMr. Jenkins. Yr oedd yn deall fyafiechyd yn anrhaetliol well na'r medd- •i Yr oeddynt yn anghytuno yn ngliylcli y clefyd, ond profwyd tu hwnt i bob am- heuaeth mai Mr. Jenkins oedd yn gywir. Y cyfferiau a gefais ganddo ef a fu yn olferynol, dan fendith Rhagluniaeth, Ïm hadfer Illl cynefinol iechyd; a'm gwaredu o'r poenau dirfawr yr oeddwn yn ddi- oddef. l r wyf yn byw agos i filldir a haner o dref y Bala. Yr oedd Mr. Jenkins yn dyfod i'm gweled bob dydd, unwaith, os nad dwywaith; a phan yr anfonasom am dano, yn nhrymdery nos, daeth i'm gweled gyda'r ewyllysgarwch a'r parodrwydd mwyaf, a rhoddodd yr holl feddyginiaeth angenrlieidiol hefyd. Gwnaeth yr oil am ddim. Gwrthododd yn bendant yr ad- daliad lleiaf am ei holl lafur, &'i hunan- ymwadiad. Y mae Mr. Jenkins yn foneddwr yn mhob ystyr o'r gair. Y mae yn llenwi ei le yn mhob cylch y try ynddo. Y mae iddo, yn ddiddadl, "air da gan bawb, a Chan y gwirionedd hefyd." Ystyrir ef gan bawb, yn y lie yma, fel dyn caredig a hyqaws, ac nid oes yma neb wedi gofyn cymwynas ganddo erioed na chafodd y cyfryw, gyda'r parodrwydd mwyaf. Ed- mygir ef yn fawr fel gwladwr-fel cymyd- og, fel blaenor, ac fel Cristion. Yn y modd mwyaf diffuant. dymunwn fel hyn, gydnabod fy rhwymedigaetliau iddo, gan ddymuno iddo llwyddiant, yn dymorol ac yn ysbrydol, yn y byd hwn, a'r hwn a fydd. Gan hyderu, Mr. Gol., ar eich hynawsedd, y gwnewch ganiatau i hyn ym- ddangos yn eich newyddiadur clodwiw, y terfynaf. Yr eiddoch, &c.-Ilios. Morgan.
[No title]
—A ganlyn yw trefn cynaliad Cymanfa yr Annibynwyr yn Swydd Oneida: Hem- sen Medi 14—15; Penymynydd 15-16 j Tu- rin Y-17. Gwnaed camgymeriad yn ein I'hiiyn diw.;d !af.
-. GWEITHFAOL—MASNA CHOL.
GWEITHFAOL—MASNA CHOL. —Daeth mwnwyr zinc yn Greenfield, Mo., o hyd yn ddiweddar i delpyn o blvrm bron yn bur ac yn pwyso dros 30,000 o bwysi. Mae hyn wedi achosi i'r mwnwyr adael eu gwaith er chwilio am fwn plwm, ac mae pris y tir wedi codi. —Mae symiau mawr o lo anthracite wedi ei ddarganfod yn mynyddoedd Shenan- doah, Va., tua phedair milldir a'r bymtheg o Harrisburg. —Deallwn fod cwmni melin haiarn Port- land (Me.), wedi gosod i fyny ffwrnesiau newyddion a roliau i wneyd bar iron; a'u bod yn gwneyd masnach dda yn barod. —Cyfanswm y tollau a gasglwyd ar gam- lesi talaeth New York o'u hagoriad hyd ddiwedd yr ail wythnos yn Awst, 1875, oeddynt$704,247.32. Am yr un tymor y flwyddyn ddiweddaf yr oeddynt yn $1,411,- 097.68, yn dangos lleihad eleni o $706,- 850.36 mewn canlyniad i ostyngiad y tollau. ae yr Occidental Mining Company —.Mae yr Occidental Mining Company wedi myned dan awdurdod y Consolidated Virginia. Perthyna 1,706 o droedfeddi o'r Comstock Lode iddo, ac mae ganddo gyfalaf o $4,000,000. t, —Bydd i ddarganfyddiad gwelyau mawr- ion o lo yn California chwanegu at gyfoeth y dalaeth hono, mewn mwy nag un ifordd. Y llynedd, talwyd $10,000,000 am haiarn, yr hwn a gostiai haner cymaint arall am ei drosglwyddo o'r gweithfeydd dwyreinol. -Er fod cloddio am awr yn parhau i gael ei ddwyn ymlaen i raddau helaeth yn California, telir mwy o sylw yn bresenol i amaethyddiaeth ar y glanau. Golwg dlod- aidd ac anhrefnus sydd ar y trefydd yn nghymydogaeth y mwngloddiau o'u cy- mharu a'r rhai yn y rhanau gweithfaol ac amaethyddol. —Anfynych, medd y Buffalo Express, y gwelwyd amser pan oedd masnach ar y llynau mor ddifywyd ag yw yn awr. Ni ddengys yr adroddiadau fod cymaint ag un long hwyliau lwythog o yd yn rhwym am Buffalo rhwng yma a Cliulfor Mackinaw. Mae hyn yn cymeryd i mewn lynau Erie a Huron. —Bodola gradd helaeth o sirioldeb mas- nachol mewn amryw gylclioedd yn bres- enol. Dywedir y bydd i'r De brynu mwy o nwyddau y tymor hwn nag mewn un rhyw flwyddyn er y rhyfel. Mae y cyn- yrch yd yn dra helaeth, a chredir y bydd iddo gael ei werthu ac nid ei gadw. Mae y sirioldeb hwn ynddo ei hunan yn werth- fawr. NILES, 0., Awst 18.—Mae y nail mill yma wedi stopio er ys pum wythnos, er fod y furnishing department ya. parhau i weitliio y stock a'r muck iron, hyd yr wythnos hon. Ar ol liyny bydd y cyfan ar stop.—WAT. LLOYD. CHAPMAN, 0., Awst 19.-1Hac yr holl weitlifeydd yn y c-lelioedd hyn wedi pen- derfynu myned i weithio am bump y cant o ostyngiad yn lie deg. Cyfarfyddodd y meistri a'r gweithwyr ar dir canol. Dech- reuodd y rhan fwyaf o honynt lieddyw. Telir i ni yn awr 75cts. y duuell yn lie 80. Cawsom lawer o wlaw yma yn ddiweddar ac mae wedi efreitiio yn ddrwg ar y gwcn- itli, ond mae argoel am gnwd da o gorn a p hytat ws.—Goliebydd. HOUTZDALE, PA.—Ysgrifena J. S. Berk- stresser f-ci y lie hwn yn sefyll yn un or rhandiroedd glo a lumber mwyaf yi Penn- sylvania. Gallai mwnwyr wneyd yn dda yma," meddai, drwy sicrhau cartrefi rhad iddynt eu liunain athrwy Jiyny arbed rhent. Yr wyf yn crybwyll am hyn, yn gwbl er budd y dosbarth gweithiol, a dy- munwn i cliwi fod mor garedig a galw sylw at y mater yn eich papyr. Carwn weled eich pobl yn ymsefydlu yma ac yn gwneutliur yn dda. Yr wyf fi o'r farn y bydd hwn yn un o'r rhandiroedd mwnawl mwyaf llwyddianus am lavvcr o Jlynydd- oedd, gan fod gio-welyau mawrion yn Cleaifield. Co., ac enw uchel i'r glo yn y farchnad. Os ydycli yn coledd unrhyw amheuaeth o barth' fy amcan yn rhoddi cyhoeddusrwydd i'r lie. Yr wyf yn eich cyfeirio at y Parch. W. R. Joces, o'r lie hwn SALINEVILLE, 0., Awst 12-Saif y lie hwn rhwng man fryniau, rhyw 12 milltir i'r gogledd-orllewin o lanau yr Ohio, a 86 1-1 1 o Cleveland, ar ochr y P. a'r C. R. R. Prif fasnach y lie ydyw y glo a godir ac a dros- glwyddir i walianol fanau. Ceir yn y cylch- oedd hyn 12 o lofeydd yn tynu allan o gol- uddion y bryniau yn barhaus, er mai ar raddfa fechan y gweithir rhai o honynt. Yr ydym wedi cael bin anarferol o wlyb yr haf hwn-y mae wedi gwlawio rhyw ran o'r dydd, neu bob yn ail ddydd, er y cyntaf o Orphenaf, ac yn parhau felly hyd liedd- yw. 0 herwydd hyny, cedwir yr amaeth- wyr yn ol o gael eu cynauaf i mewn, ac ofnant y bydd i'r holl wlybaniaeth effeith- io yn niweidiol ar y cropiau. Dywedir mai ysgafn yw y gwenith a'r rhyg, o herwydd y niwed a gawsant oddiwrth y rhewj ond mae y ceirch yn addawol iawn, ac ni wel- wyd cystal er's blynyddau. Mae y corn yn edrych yn gampus, ond achwynir fod rhai o'r ystormydd a gawsom y mis o'r blaen wedi ei niweidio mewn rhai manau o'r Swydd. Ceir toraeth o bytatws, er gwaeth- af y bugs- of nir pa fodd by nag fod y gwlyb- aniaeth yn dechreu eu niweidio yn y tir- oedd isel. Gwerthant o 40 cents i 50 cents y bwsiel. Y mae rhai o'r banciau yn rhedeg amser llawn er dechreu y flwyddyn, eraill haner amser, a than hyny—rhai o honynt fel pe yn dechreu bywhau am ryw dymor eto.- Cymerwyd y 50c. a gawsom ddechreu Me- liefin oddiarnom ddechreu Gorphenaf.-T. ab Morgan.
[No title]
DONALDSON YR AWYRBMWR—Mae potel arall wedi ei chael yn cynwys yr liysbys- rwydd canlynol am Donaldson, yr awyren- wr—" Uwchben Llyn Michigan am wyth o'r gloch y noson y cychwynwyd, tua deng milltir ar hugain o Chicago, a 3000 o droed- feddi o uchder. Y mae gwynt cryf yn chwytliu o'r gogledd-ddwyrain. Mae yr awyren yn myned allan o drefn, a'r nwy yn rhedegallanyngyflym. Nis gallwn aros i fyny lawer yn hwy. Byddwn yn sicr o ddisgyn yn y llyn. Ystorm ofi-i,,tdwy. Donaldson. —Ffrwydrodd berwedydd a weithiai beir- iant dyrnu yn agos i Oshkosh, Wis., ych- ydig ddyddiau yn ol, gan ladd Wm. Owens a Henry Party, ac anafu amryw eraill. Cyfrifir tod tua 97,103 o bersonau wedi eu llofruddio yn y wlad hon yn ystod y cliwe' mis diwcddaf.
"----NOD ION CEIZDDOLZO-L.
NOD ION CEIZDDOLZO-L. DYWEDIR fod Miss Edith Wynne, Mr. Lewis Thomas, Mr. John Thomas (telynor i'w Mawrhydi), a Miss Bessil Waugh, yn 11 gwneyd parotoadau i gymeryd taith gyng- erddol drwy y Dywysogaeth. GWELWN fod Caradog wedi bod yn lied wael ei iechyd yn ddiweddar. Cymer go- liebydd yn y Gwladgarwr fantais o hyny i anog plant y gfui" yn Nghymru i gyfranu at y Dysteb, yr hon sydd i gael ei chau y dydd olaf o'r flwyddyn hon. Gweithied pawb o liyn hyd hyny," meddai, "fel y gallom gael swm anrhydeddus yn nghyd, ac yna boddlon fydd Caradog i adael mas- nachy dafarn i eraill, a tliroi, ei sylwpenaf at dduwies ysbrydol Cerddoriaetli." YN ddiweddar cynaliwyd cyngerdd godi- dog gan gor yr Eisteddfod, yn nghapel Pen- mount, Pwllheli, yn cael eu cynorthwyo gan Miss Cordelia Edwards, Aberystwyth; Miss E. A. Williams, Master Haydn Parry (mab y Pencerdd), ac un Mr. Davies, o Gol- eg Aberystwyth. Yr oedd perfformiad y Gantawd Owain Glyndwr,' gan Eos Brad- wen, meddir, ynwir feistrolgar; a "gwnaeth Miss Williams a Miss Edwards eu rhan yn ogoneddus, yn enwedig yr olaf," am yr hon y canodd Edeyrnfab mal y canlyn: Cordelia! curo y delyn-a wnai, Mae fel nwyf aderyn; Nid yw eos glos y glyn < Yn gywreiniach un gronyn. Am yr Haydn—bendith i'w ben melyn! chwareuodd yn fendigedig." Wele ym- fflamychiad yr Edeyrnfab iddo yntau. Doniau pur Haydn Parry—ogleisiai Glysion danau ini; Mae 'i fysedd fel alweddi Eiiun net i nghalon i. DYWEDIR fod Mme Parepa Rosa wedi marw, yn wertli$250,000. Yr oedd yn ddynes ddarbodus iawn, ac yn ofalus o'i henilliorr. Nid yw Mme Nilsson Rozeand yn wastraffus, gan ei bod yn werth tua $500,000. Mae Miss Kellog yn perchen eiddo i'r swm 0$200,000, neu ychwaneg, a buasai yn werth Hawer mwy oni buasai ei bod yn bur haelfrydig. Dywedir fod Ade- line Patti yn wastraffus, ac yn hoff o arian hefyd. Gwna lawer o arian, ond gwaria lawer hefyd. Ond y mae hithau wedi casglu ffortiwn. Y mae Lucca yn fwy tebyg i'r prima clonna hen ffasiwn. Nid yw yn gallu cadw dim, er ei bod yn enill symiau mawrion. Anarbodus hefyd yw De Murska; ac hynod anffortunus yw Mme Anna Bishop, yr hon, er wedi enill cyfoeth mawr, sydd heddyw yn dlawd. Nid oes gan Carl Formes, Mario, Tamberlik, ddim wedi ei roddi heibio erbyn y dydd drwg,' ac maent hyd yn nod wedi colli eu lleisiau. 0 gantorion yr oes hon, cyfrifir Wachtell yn dda allan; felly hefyd Santley, Sims Reeves, Faure a Niemann. Safiodd Camp- anini arian; felly hefyd Carpi. Ni wnaeth Capoul hyny, mwy na Maurel a Brignoli; ac y rrae y tenors a'r baritones o'r ail radd yn dlotach na llygod eglwys. O! AKWYL DELYN Cymru lan Mor uchel yw dy fri, Yn mysg holl offerynau can, Bytli-enwogfyddi di; Ni cliladda henaint byth dy glod, Na rhydu 'th beraidd dant; Cysegrwyd di gan fysedd glan Y dewr er mwyn y plant. IIudolus delyn ydwyt ti, Nefolaidd yw dy swyn, Gwnei ddotio pawb a seiniau pur Dy danau melus, mwyn, Sy'n llawn o'r miwsig mIVyaf pur, A mwyaf byw a rhydd, Nes codi'r galon drom uwch ser At delyn gwlad y dydd. Os cleddir iaith y Cymrydewr Mewn bjdd o warth dinod, Ti, delyn hardd, a fyddi byw, Anfarwol wyt i fod; Tra byddo lloer a ser y nef, A'r haul i droi uwchben, Hardd fyw gofadail fyddi di, Hen delyn Gwalia Wen.
[No title]
SAN FRANCISCO, CALIF.—Nos Wener, y 13eg cyf., cynaliwyd sociable gan Gymry y ddinas hon. Mae yn arferol genym gael cyfarfod o'r fath unwaith bob mis, ond y ddiweddaf hon oedd yr oreu a gafwyd hyd yma. Yn absenoldcb y Prof. Price, cym- erwyd y gadair gan Mr. H. A. Powell. Yn ystod y rhan gyntaf o'r cyfarfod, adrodd- wyd darnau dyddorol gan Carie a Willie Allan, Arthur Price a Grace D.Pearce. Yna can gan little Hattie Thompson, achwareu- wyd dernyn ar y clarionet a'r piano gan Prof. James a Prof. D. P. Hughes. Hefyd, caf- wyd canig, "Oh 1-ohat full delight," gan y Cambrian Glee Party, o dan arweiniad medrus Prof. D. P. Hughes. Cyfansodd- wyd y ganig erbyn yr achlysur gan yr ar- weinydd, ac mae yn ddernyn liynod swyn- ol. Wedi cymaint a hyn o wledd feddyl- iol, aethpwyd i ystafell gyfagos, lie yroedd bwrdd wedi ei hulio ag ice cream, candy, cakes a clioffi, a dyna lie y buwyd am dri chwarter awr yn llawn prysurdeb gyda treatio y merched ieuainc. a gwneyd y naill yn gydnabyddus a'r llall. Yna aed at yr ail ran or program. Canwyd triawd gan Philip Jones, J. Jones a James Davies, a D. P. Hughes yn chwareu ar y piano. Ad- roddwyd Y Bachgen Gwyddelig a'r Off- eiriad." gan H. P. Humphreys (gyat o Uti- ca). Hwn oedd yr unig ddernyn Cymreig a adroddwyd. Wedi can gan Mr. J. Jones, diweddwyd y eyfarfod drwy i Miss Moore a'r ddwy Miss Pearce ganu triawd, gyda chydgan gan y Cambrian Glee Party.— Un oedd yno.
[No title]
—Yysgrifena Mr. D. Protliero, o Arvon- ia, Kas.—" Yr ydym yn cael tywydd rhag- orol at y gwair. Y mae yn hyfrydwch i'r amaethwr feddwl fod ei lafur yn cael ei ad-dalu eleni gan gnydau toreithiog o gorn." —Agorwyd llythyrdy newydd dinas New York nos Sadwrn diweddaf. Galluogir y Postfeistr James gyda'r trefniadau newydd- ion a fodolant yn awr i estyn llawer o gyf- leusderau ychwanegol i'r dinaswyr. Ni fydd yr hen eglwys Ellmynaidd yn Cedar St. o ddyddordeb i neb mwyach ond henaf- iaethwyr, a rhyfeddir gan lawer yn y dy- fodol pa fodd y buwyd yn alluog i gario yn mlaen y gwasanaeth llythyrol am gyhyd o amser o fewn i'w muriau cyfyng. —Dydd Liun diweddaf syrthiodd John E. Jones, mab Mr. William Jones (Jones & Howarth), oddiar ben wagon yn Utica, a thorodd ei goes mewn dau fan.
Y Gwrthryfel yn Spaen.
Y Gwrthryfel yn Spaen. MADRID, Awst 31.— Mae dinas Seo De Urgel o'r diwedd wedi ymostwng i fyddin Alfonso yn hollol ddiamodol. Cymerwyd y gwarchlu yn garcharorion ac anfonwyd hwy i Puvcerda. Anfonwyd esgob y ddinas hefyd yn garcharor rhyfel i'r un lie. Adroddir fod y brenin Alfonso i briodi yn fuan a merch hynaf y Duke de Montpensier.
Yr Aifft.
Yr Aifft. ALEXANDRIA— Mae y Khedive wedi an- foil tair o lougau rliyfel gyda gallu cryf o filwyr i derfynau Abyssinia, er cospi nifer o Negroaid a wnaethant ymosodiad ar ei diriogaeth. Cedwir pedair mil o filwyr yn barod at alwad yn Suez. —Dywedir fod y Pab wedi anfon at Archesgob Ledochowski, yr hwn sydd yn garcharor yn Germani, i'w wahodd i Ruf- ain ar derfyn ei garchariad, pryd y rliodd- ir iddo y teitl o Gardinal. —Bu gwraig Garibaldi farw yn Rhufain. —Ofnir y tyr gwrthryfel arall allan yn Uruguay, gan fod gwrtliwynebiad cryf yn bodoli tuag at y Llywydd a'i Weinydd- iaeth. —Dywedir fod Rhydd Farwniaetli yn cynyddu yn fawr yn Lloegr ar ol i Dyw- ysog Cymru gael ei wneycl yn ben ar yr Urdd, yn gystal ag o herwydd ymosodiad Gladstone ar y Babaeth. 4.
[No title]
PITTSTON, PA., Awst 16.— Nid wyf wedi anfon gair i'r DUYCH er ys talm, diogi yn ddiau yw yr achos. Yr ydym yn Ö cael llawer iawn o wlaw y mis hwn, ond buom yn nechreu yr haf heb fawr wlaw. Mae y Pennsylvania Coal Company yn gweithio yn gyson o hyd maent fel pe bae cynydd yn galwad am ylo. Maent wedi suddo un pwll dwfn i'r weithien isaf yn ymvl Hughestown, ac maent yn suddo un arall yn agos i anedd y Brith yn Hughestown bydd hono tua 500 troedfedd o ddyfnder. Nid wyf yn anfon yr hanes er mwyn tynu neb yma, gan fod yma eisioes ormod o weithwyr i ateb y galw sydd am danynt. Mae'r enill yn fach. Mae y pregethwr mawr (chwedl D. Thomas, S. Hill,) yn gwella yn dda iawn, ar ol i'r meddyg nod- edig ei ryddhau o'i boenau. Bu Owen James, o Lewisburg, ar ymweliad a'r lie, a phregethodd yn addoldy'r Bedyddwyr yn dda iawn. Bachgen pert yw ef; aed rhag- ddo, medd pawb yma. 0, ie, bu y Parch. Thomas R. Evans, o Balligomingo, Mont- gomery County, Pa., yma. Mae Tom yr uh o byd, sef yn adnabod ei hun yn difalch a gostyngedig i ddyn a Duw; ac 0, na bae rhagor o'r pregethwyr ieuanc sydd yn codi yn ei efelychu. Llwydded yr Ar- glwydd ei weinidogaeth i enill miloedd at yr iawn. Dyna yw dymuniad un o'i hen gyfeillion amser a fu.-Sioii.
Prydain Fawr.
[GYDA Y PELLEBYR TANIVrlRYDDOL. Prydain Fawr. LLUNDAIN, Awst 31.— Hysbysir fod ang- hydwelediad wedi cymeryd lie rhwng China a Lloegr, ond dywed swyddogion 11 y Swyddfa Dramor nad yw o natur bervg- .9 lus, a gobeithir allu dyfod i gytundeb buan. Y mae Albert Cohn a'i Gwm., masnachwyr, wedi myned yn fethdalwyr am y swm o $600,000; ac hefyd Edward Hewitt a'i Fab, am y swm 0$125,000. Mae pla y traed a'r genau yn gwneyd difrod mawr yn mhlitb y gwartheg. Dy- wedir fod tua 12,000 yn dioddef o dano yn swydd Dorset, ac mae yn ymledu yn gyf- lym. Cynaliwyd cyfarfod yn Llundain i ddadleu yr achosion 0 bris uchel cig. Pasiwyd penderfyniad yn gwrthdystio yn erbyn cyfyngiad ar ddadforio gwartheg tramor, a ffurfiwyd cwmni i sicrhau cyf- lenwad o wartheg o'r Talaethau Unedig. -Taflwyd gwaith y Capt. Boynton i'r cysgod gan Capten Webb, yr hwn a nof- iodd ar draws yr English Channel mewn 21 o oriau a 40 mynyd, heb un math o gynorthwy.
Ffrainc.
Ffrainc. PARIS, Awst 31.Mae y pererindod cref- yddol o Germany yn achosi cryn gyffro yn Ffrainc. Cytuna y LIywodraeth a'r cy- hoedd mai eu dyledswydd yw ymatal rhag ymyraeth a'r dyryswch rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaetli yn Germany, ac er sicrhau heddweh, i rwystro i'w dadleuon crefyddol gael eu dwyn yn mlaen ar diriog- aeth Ffrengig.
Y CliwyMz-oad yn Twrci.
Y CliwyMz-oad yn Twrci. CONSTANTINOPLE, Awst 31.-Parlia y gwrthryfelwyr i warchae ar Trebigne. Maent wedi derbyn adgyfnerthion a dis- gwylir y gwnant ymosodiad ar y dref. Hysbysir fod y gwrthryfelwyr wedi llof- ruddio 95 o Dwrciaid a gymerwyd yn gar- charorion yn Marsic. Mae cwmniau o wrthryfelwyr yn ymgasglu yn mynyddau Crete, a dywedir fod mab hynaf y Sultan yn symud tuag yno gyda byddin gref. Mae y Porte yn crynhoi gallu cryf yn nghyfeir- iad Nissa, mewn canlyniad i'r rhan a gy- merwyd gan y Serviaid yn y gwrthryfel. Ymddengys fod y teimlad cyhoeddus yn Serbia mor gryf o blaid y gwrthryfelwyr, fel yr ofnir y bydd yn anhawdd i'r llywod- raeth gadw rhag dyfod i wrthdarawiad a Twrci. Nid yw yn anhebygol y rhoddir Servia dan lywouraethfilwrol. Methodd y galluoedd Ewropaidd berswadio y Sultan i atal gweithrediadau milwrol tra y byddont hwy yn cyfryngu. Os bydd i'r Herzego- viniaid wrthod y cyfryngiad, dywedir y bydd Austria, yr lion sydd wedi crynhoi corphlu cryf o filwyr yn Dalmatia, mewn sefylifa i gynyg ei gwasanaeth i Twrci.
YMOFYNIAD AM
YMOFYNIAD AM JOHN JONES, dyn trwehus, ac o bryd goleu. Aeth o Plymouth, Pa., ar y 23ain o Ionawr diweddaf, gan adael ei wlaig. Dywedai ei fod yn myned i'r Hen Wlad ond bernir mai yn Kansas y mae. Bu yn briod o'r blaen, ond bu ei wraig farw yn Fairhaven. Mae yn arfer new id ei enw yn ami. Hefyd, person o'r enw WILLIAM JONES, dyn tal, main, a gwyneb cocli, yn llawn brychm haul. Yr oedd yn byrddio gyda gwraig John Jones, ac aeth ymaitii mewn dyled 0$40. Bernir fod y ddau gyda'u gilydd, gan i William Jones llythyr oddiwrth John Jones, ond gwnh- odai ei ddangos i'r wraig. Os oes rhyw in yn gwybod eu hanes, bydded lynt hys- bysu hyny, a chant eu gwobi- Cyfeir- ier, Sarah Joues, Portland 1'. U" North- ampton Co., Pa. 36-37.
NODION GWLEIDYDDOL.
trwbl y llynedd; ond gwenodd rhai o'r blaenoriaid mewn gwawd; a dywed y Scranton Republican am y 18fed, fod ei eir- iau yn ddisylw a difudd. Dywedaf finau iddo siarad i bwrpas, ac yn ei bryd; ond gan mai Cymro oedd yn siarad, nid oedd ond ei hwtio. Pa hyd y pery hyn? Caf- odd y party weled mai llew yw y Cymro, ond wedi bod yn cysgu; ond yn Hydref, 1874, deffrodd o'i gwsg, ac ysgydwodd ei fwng, a thaflodd y Rep. i'r ffos, ac yno y maent eto; ac os na wnant gyfiawnder a ni, yno y byddant am enyd. Mae twyll a hoc- ed mawr yn Wilkesbarre gan y ring bolitic- aidd. Torwn hi, a safwn at ein hiawn- derau. Tra byddo y rhai sydd yn rheoli a'r awenau yn eu dwylaw ni ddaw diwygiad byth yn ein plith. Wrth syllu ar bethau o'r fath yma, nid rhyfedd fod A. G. Cur tin, a Trumbull, ac ugeiniau o ddynion da wedi troi eu cefnau ar y Republicans; eto nid wyf am anog neb i'w hefelychu-ot,d rhaid cael diwygiad. Mae eisau mwy o'r dosbarth gweithiol i lenwi swyddi. Ond nid rhai. wedi eu gwerthu i'r Democrat- iaid, fel yr amcanwyd yn Luzerne Na ato ddynion. Y peth sydd yn andwyo ein gwlad yw, fod gormod o gyfreithwyr yn dal swyddi pwysig yn y llywodraeth. Mae y 11 eisiau mwy o'r cymysg. Mae yn ein Con- gress 336 o aelodau, ac mae or nifer yna 198 o gyfreithwyr, 56 o fasnachwyr, 20 o Editors a 18 o amaethwyr. Mae yn y Tal- aethau Unedig 40,000 o gyfreithwyr, a 2,500,000 o amaethwyr. Ymddengys fod un cyfreithiwr yn y Congress am bob 200 o'r rhai ydynt yn yr alwedigaeth hono, a dim ond un amaethwr i bob 130,000. Erbyn 'i ni bwyso yr oil, mae eisiau i ni oil ymddwyn yr un modd a'r Grangers amaethyddol, fel y delo pethau i well trefn yn ein gwlad; ac hefyd, mae eisiau i ni sefyll yn un corff-lu mawr yn erbyn i'r Pabyddion gael eu hethol i unrhyw swyddi pwysig, onide daw i'n rhan i oddef eu ffon haiarn. Mae y llifeiriant Pabyddol yn cyflym oresgyn ein gwlad. Aeth y cardi- nal Mc'Closkey o Efrog Newydd i ym- weled a'r Tad Santaidd, ac yn ei feddiant $20,000 yn aur, i'w rhoddi iddo yn anrheg, o'r America. Gan fy mod wedi methu ag atal y pin hyd yn awr, tawaf bellach, gan ddymuno ar i rywun galluocach na'ch an- nheilwng was i roddi gair o gyngor i'n cydgenedl. Yr eiddoch yn ddidwyll, J. E. ROBERTS (Cymro Brith). u'"