Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
BULL, BEDYDD.
BULL, BEDYDD. FONEDDIGION Y DRYCH: Er pan mae y Bedyddwyr Cymreig wedi eu hamddifadu o gyhoeddiad or eiddynt eu hunain yn y wlad hon, maent wedi bod yn ddyledus iawn i'r DRYCR am gyhoeddi newyddion ac ysgrifau o ddyddordeb i'r enwad yn unig. Gyda diolcligarwch gwirioneddol am eich caredigrwydd yn y mynedol, byddwn yn rhwymedig iawn i chwi os gellwch fforddio lie i'r ysgrif ganlynol yn un o'ch rhifynau dyfodol. Rhan yw o ys- grif a ymddangosodd yn ddiweddar yn y Christian Minor uwch enw Prof. L. L. Paine, D. D., un o athrawon yn Athrofa Dduwinyddol Bangor, Maine. Hanesiaeth Eglwysig yw ei ddosran ef. Cofier mai athrofa perthynol i'n brodyr, yr Annibyn- wyr, yw Athrofa Bangor, acfod Dr. Boone yn un o ser dysgleiriaf yr enwad dysgedig hwn. Pan y trafodir yr ordinhad o fedydd addiar safon dduwinyddol, dylid rhoddi rhyddid barn a chydwybod i bawb. Qnd pan yr ystyrir y pwnc yn ngoleu ieithyfld- iaeth (philology), ac hanesiaeth eglwysig, mae honiadau mai taenellu oedd dull gwreiddiol bedydd, ac mai dyma arferiad yr eglwys foreuol yn swnio yn ddigrifol i berson sydd yn gwybod rhywbeth am feddwl geiriau a hanesiaeth eglwysig. Os grwgnach neb o'm brodyr taenellyddol yn fyerbyn, y waith hon, gwnaf fwch diangol o Dr. Boone; ac os y Dr. sydd gyfeiliorn- us, ac un neu ddau o ohebwyr ein misolion yn iawn—well, well.—Chwedl Byron- "Indeed! 'tis granted, faith! but what care I? Better to err with Pope than shine with Pye. Whitestovm, N. Y. H. 0. ROWLANDS. "DULL GWREIDDIOL EEDYDD." Gofynir yn onest gan rai, Ai trochi oedd dull cyntefig bedydd? 0 barthed i'r faith ary pwnc, mae y dystiolaeth yn ddigonoJ a phendant. Nid oes un cwestiwn mewn hanesiaeth eglwysig yn fwy eglur. Mae'r dystiolaeth oil yr un ifordd; ac mae holl haneswyr eglwysig o unrhyw nodedd yn unol. Nie gallwn honi hyd yn nod wro^Siol- der pan yn dysgu hyn mewn Athrofa Dduwinyddol Gynulleidfaol. Pwnc ydyw ar yr hwn nid yw hanesyddwyr hen, canol- oesol a diweddar—Pabyddol, Protestan- aidd, Lutheraidd, a Chalfinaidd yn ang- hytuno. Am y rheswm syml fod statements y tadau eglwysig mor glir, a'r goleu a deilir ar y dangosiadau hyn gan arferiadau yr eglwys gyntefig mor benderfynol, fel na feiddia un hanesydd sydd yn gofalu am ei enw da, wadu y fFaith, ac ni ddymunai un haneswr sydd yn deilwng o'r enw. Mae rhai pynciau lianesyddol, ar y rhai y mae yr ysgrifenwyr dysgedicaf yn-ang- hytuno. Er engraifft, y pwnc o fedydd babanod; ond ar y pwnc' o'r arferiad gwreiddiol o drochi mewn bedydd, mae yr hynatiaethwyr enwocaf, megys Bingham, Augusti, Smith (o'r Oeiriadur;) a'r hanes- wyr, megys Mosheim, Giesler, Hase, Nean- der, Mil man, Schaff, Alzog (Pabydd), yn dal yr un golygiad. Mae y dyfyniad can- lynol o Hynafiaethau yn arddangos yn eglur iawn yr hyn y cytuna pawb arno: "Yn yr eglwys foreuol (primitive), troch- iad oedd dull bedydd yn ddiamheuoL Yr oll a ellir honi am daenelliad yn y cyfnod boreuol yn hanes yr eg.wys, ei fod yn cael ei ganiatau fel eithriad mewn amgylchiad angenrheidrwydd. Mae y ffaith hon mor sefydlog fel nad oes angen dyfynu awdur- dodau i'w phroti." Er engraifft arall, dyfynwn o'r Eglwys Apostolaidd, gan Schaff: "Partliedy dull alianol o weinyddu yr ordinhad hon, trochiad ac nid taenelliad, yn ddiddadl oedd y dull gwreiddiol a chyffredin." Ond tra mai trochiad y pryd hwnw oedd yr arferiad cyffredinol, yr oedd cyfnewidiad yn y ddefod yn cael ei ganiatau yn rhwydd a'i amddiffyn mewn achosion o angenrheid- rwydd pwysig, megis afiecliyd tost, ac agosrwydd marwolaeth; a daeth y dull neillduol o daenellu i arferiad, ac adna- byddid ef wrth yr enw bedydd y claf lcLnic baptism.') Mae yn bwysig i sylwi na chyfododd dadl o bwys ar ddull bedydd hyd y Diwyg- iad; 0 ganlyniad mae yn anhawdd pt-nder- fynu pa bryd y rhoddes trochiad y ffordd i daenelliad, fel rheol gyffredin yr eglwys.— Arferid y ddau ddull—un fel rheol, a'r llall fel eithriad, hyd onid aeth Cristionog- aeth i liin oer y Gogledd, pan y daeth yr eithriad yn rheol. Mor ddiweddar a'r 13eg ganrif, yr oedd trochi yn dal yn arferiad, fel y dangosir mewn bmwddeg gan Thomas Aquinas yn ei Sum-met Theologica, lie mae'r rhesymau ffafriol i'r ddau ddull yn cael eu cydmaru, ac y penderfynir mai trochi yw y diogelaf, am mai hwn oedd y dull cyif- redin. Tri chan' mlynedd yn ddiweddarach i amser y Diwygwyr. yr oedd taenelliad yn cael ei arfer yn gyffredinol; er fod Calvin yn siarad yn wahanol am ddulliau bedydd, yr hyn sydd yn arddangos nad oedd trochi wedi myned i ebargofiant. Wrth hyn tybiwn fod Dr. Schaff yn rhoddi y dyddiad yn llawn.rhy foreu pany dywed "mai cynt na'r 13eg ganrif y daeth taenelliad yn rheol, a throchiad yn eithr- iad." Dylid sylwi na chymerodd y cyf- newidiad hwn le ond yn yr eglwys Latin- aidd. Yn yr eglwys Iloegaidd, mae trochi yn parhau yn unig yn ddull bedydd hyd y dydd hwn.
IFORIAETH YN OInO.
IFORIAETH YN OInO. AnnAN E. YN NEWBURGH.—Cynaliwyd v cyfarfod yma ar y dyddiau Sadwrn a Llun, Medi 4ydd a'r 6ed. Yr oedd saith o gyfrinfaoedd yn cael eu cynrychioli.— 6ylwyd a gweithredwyd ar gryn lawer 0 faterlon. Yn yr hwyr nos Sadwrn, cafwyd cyfar- fod cyffredinol, a'r neuadd yn liawn gan wyf a gwragedd parchus ac hawddgar— J. D. Lewis (Dryslwynfab), yn gadeirydd. Can agoriadol hapus gall D. A. Rees. Yn y fan yma, galwyd ar y beirdd i arllwys eU- ffrydlif barddonol; ond syndod bytli, a chywilydd dybryd iddynt hefyd, nid agorodd genau yr un o honynt. Adroddiad pwrpasol iawn gan G. Thom- as, Sharon; araethgynwysfawr dda gan D. Owens, Sodom, a chan a byrdwn, "Yr jwn wyl Eisteddfodol," yn liwyliog a blasus gau L. Davies, Brookfiold; araeth sylwedd- 01 ac adeiladol gan Wm. Griffiihs," Brook- field; can gan J. Harries; adroddiad dydd- orol eilwaith gan T. Thomas, Sharon; ar- aeth fer a tharawiadol gan L. Davies, Brookfield, a clian alarnadol ac effeithiol iawn gan J. Timothy; arailli faith ond cryno, sylweddol a choethedig gan D. A. Williams, Brookfield; can gan Jas. Davies o Mineral Ridge; can eto gan T. D. Davies, Newburgh, sef Telyn Cymru, ac araeth fechan gan D. F. Lewis; can drachefn gan B. NY. >1 organ, Newburgh; araeth goethedig a buddiol gan J. A. Jones, New- burgh; can dwt a swynoi gan D. A. Rees, ac yna araeth faith, ond llawn o'r digrif- wch a'r arabedd mwyaf gan L. L. Jones, Newburgh. Er fod yr araeth hon yn peri ffrwydiadau hapus o cliwerthin, eto yr oedd ynddi wersi gwir deilwng o'u dysgu a'u gweithredu. Yn canlyn hyn, cawd ychydig o syl wadau tra phriodol i'r am- gylchiad gan y Parch. J. Jones, diweddar o Racine, yr hwn oedd wedi dyfod yma erbyn y Sabboth, a phregethodd yn nghapel yr Annibynwyr, yn dderbyniol a chymeradwy. I ddiweddu y cyfarfod, canwyd un o emynau y gyfrinfa ar y don anfarwol genedlaethol, sef Difyrwch Gwyr Harlech, fel yr oedd y neuadd yn gronfa o fiwsig Gymreig pur. Cyflawnodd y cadeirydd ei wasanaeth gyda'r bywiogrwydd, a'r deheurwydd mwyaf, yn ol ei arfer, a chyflwynodd y cyfarfod ddiolchgarwch brwd iddo am hyny, drwy guriad dwylaw. Dyna ychydig o hanes, ond tra anmher- ffaith, o un o'r cyfarfodydd mwyaf adlon- iadol a dreuliasom er's blwyddi. Moes eto. Iforiaeth sydd yn awr Fel cornant fyw lifeiriol, Yn teithio dolvdd mad Galonau'r Cymry siriol. Mwyn ffrydiau gloew ber, Aberant i'w mynediad; A hithau'n chwyddo sydd, Mewn dyfnder a lledaeniad. 0 boed yn fuan hon, 'N Amazon fawr brydferthol, Yn enwog yn ei gwerth, I'r Cymry'n gymdeithasol. IVOR.
[No title]
Mewn arwerthiant diweddar ar "Short Horns" yn Lloegr, cafwyd $189,- 595 am 72 o fuch'od; a $25,000 am 13 o deirw a lloi gwryw. Y pris uchaf a gaed, oedd am fuwch, bedair blwydd oed, sef $12,750.
AMAETIIY/YB SWYDD lorVA, WIS.
AMAETIIY/YB SWYDD lorVA, WIS. JENNTETON, WIS., Medi 15.—Gwelaf ami i ysgrif yn ymddangos trwy golofnau y DWlCII o'r lie hwn, a gellid meddwl wrth- ynt ein bod yn byw, un ac oil, yn y pentref neu y dref fel y gelwir hi. Ond bydded hysbys i ddarllenwyr lluosog y DRYCH, fod yma ardal amaethyddol, a thir da, a llawer o Gymry parchus yn feddianol ar y goreu o hono. Gellir ein rlianu i dri dosbarth, sef yr isel, y canol, a'r cyfoethog; a minau fel y gwaelat yn eu plith, er wedi dechreu er's dwy flynedd ar hugain, ac yn dderbyn- iwr cyson o'r DRYCH o hyny hyd yn bres- enol, (nid oedd ond tair blwydd oed y pryd hwnw), ac y mae fy hen wraig yn dyweyd y myn hi y ÐHYCH tra byddo y fuwch yn rhoddi llaeth, a hithau yn gallu godfo a thrin yr ymenyn, ac nid wyf am ei chroesi, canys yr wyf yn meddwl cymaint o hono a hithau. Nid ydym ni yma yn gallu codi gwenith y blynyddoedd hyn fel ag yr oeddym bym- theg mlynedd yn ol, ond nid bai y tir yw hyny, eithr ymweliad blynyddol y chinch bugs a'r lie, y rhai ydynt wedi bod yn gwneyd difrodiadau eleni eto, fel y mae y gwenith, ar gyfartaledd, yn llai na haner crop. Y mae yma gnwd da o geirch-tua haner can' bwsiel yr erw, a rhai yn cael ychwaneg. Y mae y corn a'r cloron yn lied dda; er i ni gael dwy noson o rew, sef yr 22 a'r 23ain o Awst, yr hyn a wnaeth beth niwed i'r corn ar yr isel-dir, ond nid cymaint ag oeddym yn feddwl ar y cyntaf. Mae yr amaetnwyr yma yn myned yn mlaen yn galonog, er gwaethaf y creadur- iaid bychain sydd yn dinystrio y gwenith. Er engraifft, y mae yma amaetliwr eleni wedi adeiladu ysgubor gwerth ei chroniclo yn y DRYCH—ei hyd yw cant ac ugain troedfedd, ei lied yn haner cant a dwy droedfedd, ei huchder yn bedair troedfedd ar hugain; Cymry oedd yr adeiladwyr, a dywedir fod arni waith da; y mae y fwyaf yn y County—y inae yr Ellmyn yn dra balch o honi. Cofier mai hen lanciau oedd y seiri coed-tri mewn rhif, a dywedir fod y merched yn gwneyd golwg stir pan yn myned heibio, wrth feddwl fod y fath grefftwyr yn byw heb wragedd; dichon y gwnant gymeryd yr awgrym. Mri. Gel., os gwelweli yn dda, gwnewch yn hysbys i bobl Pennsylvania ac Ohio, nad ydyw yr amaethwyr yma yn y Gor- Ilewin, byth yn myned ar strike, er fod y chinch bugs yn gostwng eu cyflogau yn ami.
AR BRIODAS
AR BRIODAS Mr. Thomas, Damascus, Calif., gyrt o Racine, Wis., a Miss Martha Bone, gynt o Michigan. Gwnaeth Cupid reffynau a chlymodd y ddau Hyd angau mewn cylch priodasol: Mae Robert yn teimlo mor ddedwydd a'r gog 0 herwydd cael seren mor siriol; A Martha yn ddoethaidd ddewisodd ran dda. I'w chynnal drwy yrfa y bywyd; bydded en rhodfa hyd lwybraa IU hoes Yn rhodfa o berfiaith ddedwyddyd. Cael naw o fendithion—chwe1 merch. a tliri niab Yn goron dcdvvyddwch yr nndob, Ac na chlywer croestur na sell yu eu ty 1 darfu ea bnvd gariadoldeb; Y nefoedd yn gvvlawio trysorau am I'r rhiant a'r holl o r hiliogaeth, Ac felly diilaner yu fuan o'r tir Pot> olion o gred ueulaucyddineta. OBEDOG.
; AR BEIODAS %
AR BEIODAS Mr. John James a Mrs. Ellen E. Roberts, Ban- gOt, Wis. Trysor gafodd John i'w fynwes Na fedd holl wrtl1ryelwu'r bycl, I'w gydniaru yn ei olwg Ddim i degweh Ellen glyd; Filum o gariud a enynodd Yn ei galon at y fun Nes y'ngwres y ftlam y toddodd Calon Ellen Lill. Boed yr anr sydd yn y fodrwy Yn arluu pur, o wir serch, heb rith na mympwy, I bara'n hir; Ei cliylch fyddo'n arddangosiad 0 ddilysrwydd didor cariad, Rhwngy ddau mown glan gydgordiad, Heb boeu na chur. M. C. JENKINS.
YR AFON.
YR AFON. Yr afon ytndreigla o'r ffynon risialaidd, Sy'n nghusaiiy mynydd mewn padell o graig; Ymdrvdia'n bistylluedd dros lethrawg glogwyni, Nes adsaiu o'r cteigiau ei chau am yr aig; Ar waelod y glasgwm ei rliediad aritft, Gan dderbyn i'w myrnves fan ffrydiau y fro; Mewn uudeb mae nerthoedd," ei dyfroedd sisiala, Gan esmwyth ymlithraw ar wely o ro. Ei glenydd a wisgir ag irwellt blodcuawg, A thlysion liliau mewn urddas a bri; Tra'r llwynl cysgodlawn a'r coedydd talgryfion A'u Ilaniau dillynaidd yn ngweiy y Hi; Ymruthra yn orwyllt dros ddibyn y ceuuant Yn rhaiadr mawreddoy; i'r dyJuder ishiw, A'l dwrf croch diddarfocl mal myrdd o daranan X,. Sy'n gwneyd i'r edrychydd ymgilio mewn braw! f Dolenawg ymdeithia drwy'r dyHryn l-oreithiog, A'i ilynau yn llawnion o berlawg heirdd bysg; f Diweilir ardaloedd a'i blasus ddanteithion, Y* Brithylliaid a gleisiaid a geir yn eu mysg; A'i dwfr glan iachusol diwalla y gwledydd, Yn ddyn ac anifail cydyfant yn nghyd; O'i gloew win peraidd cyt'rana'n Ldldcliwcdd I Yn rhad, a gwas'naetha drigolion y byd. r Er cymaint ddefnyddir o'i helfen rinweddol, Cyfnerthir hi bouuydd gan tirydiau'u ei tliaith; I'r ddinas a'r pentref, i'r tlawd a'r cyfoethog, I bawb heb wahaniaeth gweuiydda ei gwaith; Hi sydd yn chwyrneliu oivvyuioii y mwnglawdd, Gan godi y trysor o'r dyfuder i'r lan; A hi sydd yn gweithio y mawrion felinau At falu yr yclau-cyliawna ei rhau. A phrif weithdai cywareh, llin, gwlan a'r holl gotwm, A'u miloedd wehyddion cidibynant ar hon; Yn nhymor y gwauwyn ar war ei IJifeiriaut Bydd myrddiwn o brenau yn myr1"cl gyda'i thon; Hwy gerir yn chwimwth o odrau'r mynyddoedd I lawr i'r dinasoedd ar gefu crych y lti, Ac yno fe'u llifir, fe'u ueddir yn acldas, At uchel ddibenion drwy nerth ei dwfr hi. Hyfrydlawn yw rhodio ar hafaidd brydnawn-gwaith, Ger glanau swyuhudawl ei gloew cldwfr glan, I weled y pysgod mewn gemawg frnithwisgoedd Yn chwaren drwy 'u gilydd ar wely'r gro man; A'r goedwig yn gweull dan ddeiliog heirdd fentyll, A'i lliwiau ysblenydd yu goch, glas a gwyn, A'r adar yn arllwys cawodydd perorawl 0 oriel yr irwydd nes goglais y glyn. Yr afon ymlithra yn donau t.ryloewon Ar balmant o arian gau furmur ei cherdd, Rhwng llenyrch dillynaidd coed)w> ni y glynoedd, Lie chwardd y binwydden a'r dderwen gref werdd; A lln o ynysoedd dan lwyni bythwyrddion Mal gerddi nofiadwy ar fynwes y Hi, A'r trefydd godidog a'u huchel biuaclau Oddeutu el glenydd mewn mawredd a bri. A'r pontydd mawreddog, gorchestion celfyddyd, Wrth didau'n grogedig a groesant ei llif; Rhai eraill pibellawg ar gedyrn golofnau, A safant yn gampwaith am oesau dirif; Y raeirch a garlarnant ar enfys o haiarn, Uwch tonau y dyfnlif heb ot'ni eu gwg; A'r hunansymydydd a'i hirfaith gorbyd'res A trosodd gan chwiban mewn colofn o fwg. Gwyr ieuainc y ddinas a'r tlysion rianod, Mewn heirddiou fan fadau a welir ar hon- A'r ll on gau addurnawl dan hwyliau claerwynion. Mal temlau ysblenydd a nofiantrai thon; Y gyflym agerlorig a rwyga y gorlif, A'i chastell gorchestawl gan deithwyr yn llawn; ^ra r haul mal yn aroe ar nsiau'r gorllewin, 1 baentio'r olygfa yn lliwiau'r prydnawn! Ar Iwyfan o risial rhwng llenyrch meillionog Mae'r afon yn canu ei cherdd am y mor, Ac nid yw yr Andes na thrumull yr India, 1'w rhwystro i'r eigion yn ddigon o ddor; Ei gweision hi ydyw y miloedd cymylau, Arwisgir a nifwl yn ysgafn eu hynt; Godraon eu mhentyll ymylir a me lyn Chwimdeithiant y nefoedd yn ngherbyd y gwynt. Hi yw y brif ffordd i gario trafnidaeth Rhwng gwlad y canoldir a marchnad y byd, Heirdd longau marsiandwyr dryfrithant ei mynwes, A'u celloedd yn llawnion o olew ac yd; Cyflenwir y farchuad a mêl ac ymenyn, Sidanau, gwlaneni, aur, arian a phres; A'i llongwyr gydganant eu cydgerdd am ryddid I gario rhyddfasnach er llwyadiant a lies. Hi sydd yn diodi y wlad a'i thrigolion, Hi sydd yn chwyrneliu olwynion fil-myrdd, Hi sydd yn dramwyfa lengoedd o longau, A hi vdyw bywyd y dyffryn mawr gwyrdd; Hi deithia j tiroedd gan wneuthur daioni, Hi weitbia y cyfan wrth gynllun yr lor, A'i thaith a orphena gan arllwys ei hunan I'w chartref cynhenid-C,udd fynwes y mor. Monson, Me. BEN THOMAS.
LLEF O'R DYFNDER.
LLEF O'R DYFNDER. Afiach fardd ydwyf, Och fir Uthr dywydd ddaeth ar Dewi. Gwres tost y geriwst* yw, Cadarn ei grafanc ydyw; Ingol afael fy nghlefyd A'n dynach—chwerwach o hyd; Amlach, amlach y teimlais Ewinedd ei fysedd yn f'ais; Fy ysig afu, f' ysgyfaint I'w wanc rhydd lynca yr haint; Fy ngholuddion aflonydd > Eesynol droes yn wlad rydd;" Gwenwyna gig 'y nannedd, iJi swm wyf, nid oes im' hedd. Gorboethi'm gwythi mae gwfn, A gwaew yn mhob gewyn. liTi i'm'ien °! 'r gynhen sy'n gvvc.u— Cyllyll a brad-bicellau, Mmau n gruddfan dan eu dig- Y drychllwyd archolledig! Rho, 9 Arglwydd, arwydd er Daioni lmrn dyner- Rho d' ymwared dymhorol, Rho iecbyd lion etolijol: Dwg f' enaid i gyfannedd I ail fwynbau elfen hedd; Yna rhwydd iawn yr eiddutiaf 0 gywir nerth dy garu wnaf, A gweddus lawn gyhoeddi:— Da yn ei oil yw'n Duw ni. DEWI GLAN PEHYT>T*w Qwehj Cystudd, Medi 16, 1875. Bi!lious fever.
JACK TAB.
JACK TAB. Tra mae yr Americaniaid yn canmol ac edmygu gwaith Mr. PLIMSOLL yn ymladd y frwydr dros Jack Tar yn JNhy y Cyffred- HI yn Lloegr, a hyny yn erbyn lioll arfog- oeth perchenogion arianol, byddai yn briodol iawn iddynt edrych yn nes gartref, a chwilio i mewn i sefyllfa morwyr ein llongau masnachol. Mae Dr. Heber Smith yn ei adroddiad blynyddol diweddaf am sefyilfa yr ysbytai morawl, yn dangos rhai ffeithiau a deilyngant sylw a chydym- deimlad. Dengys fod sefyllfa ein morwyr yn druenus i'r eithaf, ac fod gwelliantau Lman yn angenrheidiol. Dywedai nad yw ond peth cyfi'redin i weled 20 neu ragor o forwyr wedi eu pacio i fwyta a chysgu mown filar eg (forecastle) fechan, lIe nad oes ond prin ddigon o awyr i un morwr.- Dengys hyn nad yw swyddogion morawl ein gwlad yn ysfcyried morwyr yn well na clnvn. Byddai cael bwrdd ymchwiliadol i archwilio llongau pan ar gychwyn, fel yr aw^grjaua Mr. Plimsoll (yn sicr o ddwyn gwelliantau yn y cyfeiriad hwn.) Gwir nad oes genym ryw eirch nonadwy o long- au coffins), fel y dealla Mr. P. y term; ac fel rheol ni orlwythir ein llongau, ac ni suddant wrth y canoedd pan fydd y gwynt a'r mor yn dawel, fel y gwna llong- au Prydain; ond mae sefyllfa pethau ar ein llestri bron cynddrwg.. Awyriad yw y peth diweddaf a ddysga y llong-adeiladwyr Americanaidd; ac y mae yn amheus os oes un genedl wedi ei iawn ddeall hyd yn hyn. Dengys ystadegau nad yw hyd oes morwyr ar gyfartaledd ond 12 mlynedd, ac fod 17,000 yn marw yn flyn- yddol o'r darfodedigaeth, ac anhwylderau eraill yr ysgyfaint, ac fel canlyniad natur- iol, nid oes ond ambell forwr yn foddlon myned i fordeithiau pell, ac o herwydd hyny mae llawer o longau yn cychwyn heb ddigon, ac weithiau heb fwy na haner digon o ddwylaw! ac o ddiffyg gallu i ffrwyno y mor-feirch, rhed canoedd o honynt i ddinystr. Gweddied y Yankee Jack Tar am i ryw Plimsoll Americanaidd gyfodi i ddadleu ei hawliau. UN FU 0 FLAEN Y MAST."
MBINUIWCH EICll BUSNES.
MBINUIWCH EICll BUSNES. MNI. GOL. Gwelaisyn y DRYCR diwedd- af hanes priodas Thomas P. Evans, Pen- rliyn, Calif., gydag un Miss Paine. Gad- ewch i mi liysbysu fy nghyfeillion mai an- wiredd yw y cwbl. Nid wyf etc wedi breuddwydio am briodi; y mae y cwbl yn ffrwyth dychymyg rhyw leban gwirion ffol sydd islaw sylw. Cywilyddied am ei waith; a chymered gyngor— I ,y Mae genyf gyngor bach i'w ddweyd, Mae'n gyngor da rwy'n credu; Mae'n gyngor hen a hawdd ei wneyd, Ond nid yw'n waeth er hyny; Y sawl a wnelo'r cyngor hwn, Ni fydd ef ar ei golled; Ca fwy o barch gan bawb mi wn, A mwy o bres i'w boced: A. dyma y cyngor, gwrandawed pob un, Meindied pawl) eifusnes ei hun. Fe fyddai llawer llai o ddrwg, Tae pawb yn gwneuthur felly, A llai o gas a llai o ddrwg, A llawer llai o bechu; A mwy o 1reddwch yn y wlad, A m<vy o gariad brawdol, A llawer mwy o bob mwynhad Gydrhwng y teulu dynol; Gofalwn am wneuthur y cyngor bob un, A meindied pawb ei fusnes ei hun," Penrhyn, Calif. THOMAS P. EVANS.
AT DAFYDD Y GAREG WEN.
AT DAFYDD Y GAREG WEN. Y PENILLION IFOBAIDD HYNY.—Anwyl Syr! Darllenais eich amddiffyniad yn y DRYCR, ond nid ydych yn cyfiawnhati dim arnoch eich hun. Yr oil a wnewch ydyw dadleu eich gwendid a phron anghysondeb eich beirniadaeth. Nis gelhvch brofi fod pob Iforydd yn "amddilfynwr hawliau dyn yn mhob cysylltiad," Mae eich haer- iad heb fEeithiaa fel "ffydd heb weithred- oedd" yn farw. Nid "hawliau dyn" yn unig yw y pwnc, ond "hawliau dyn yn nihob cysylltiad." A yw fod pob Iforydd dan rwymau i "noddi y gweddwon a'r amddifaid" yn pron fod y cyfryw yn "am- ddiffynwr hawliau dyn yn mhob cysyllt- iad? A glywsoch chwi erioed am yr un bod meidrol yn "amddiffynwr hawliau dyn yn mhob cysylltiad? Na, Duw yn unig yn ei air sydd yn esbonio ac amddiffyn "y dyfnion bethau hyn," neu fel y dywedai lolo Morganwg wrth yr anflyddiwr, "Y Beibl yn unig sydd yn traethu y gwirion- edd am hawliau dyn." Goddefwch i mi gyfeirio eich sylw at "Y Gan o Glod" (buddugol yn Eisteddfod Plymouth y Nad- olig diweddaf,) i Benj. Hughes, am ei ym- drechion o blaid Iforiaeth, fel engraifft o gyfiawnder a thegwch a'r gwrthrych.— Sylwch ar y llinellau hyn: "Gwir Gymro urddasol yw Hughes isel- frydig, b Lesola ei genedl hyd eithaf ei nerth." Nid yw y bardd yma yn honi fod Hughes yn llesolwr ei genedl 'yn mhob cysylltiad,' ond dywed yn syml a gonest ei fod felly "hyd eithaf ei nerth," er fod Mr. Hughes yn cael ei ystyried yn ddyn galluog, ac yn cael ei restru yn mysg y rhai blaenaf o'r Iforiaid. Ond y mae eich bardd chwi yn gwneyd pob Iforydd (pa mor egwan bynag y cyfrifid ef yn ei fywyd), ar ddydd ei angladd yn "amddiffynwr hawliau dyn yn mhob cysylltiad." Pe dywedasid, Cadarn amddiffynwr hawliau Dyn, yn" ol ei allu fu, credwyf y buasai hyny yn fwy cydunol a rheswm a gwirionedd am bob Iforydd ar ei ymadawiad a'r fuchedd hon. Cenfydd yr hwn sydd a haner llygad yn ei ben fod y ddwy linell gondemniedig yn cynwys y bai a elwir gormodedd, a gwelech chwith- au hyny oni bae eich bod "mor ddall fel na fynwch weled." Nid wyf yn amheu nad ydych yn deall beth yw barddoniaetli cystal a Byr ei Ddeall, a gwe-1 hefyd; ond gwyr JtJyr ei Ddeall cystal a Dafydd y Gareg Wen, nad barddoniaeth yw rhigymu twyll ac anwir- edd i'w adrodd ar "lais can" yn yr am- gylchiad difrifolaf yn nghreadigaeth Duw. Er cymaint yw eich galluoedd deallawl, yr ydych yn agored i wendidau fel eraill, "canys mewn llawer 0 bethau yr ydym ni bawb yn llithro," ac y mae lago yn deall y natur ddynol cystal a chwi. Bydded yn hysbys i chwi fod y ddau benill a ddifyn- ais yn y DRYCR yn rhan o "Alar-gan ar oly Parch. Hugh Pugh o'r Brithdir;" ac os na ellwch gael o liyd iddynt wrth "cliwilio yn ddyfal, anfonaf gopi o lionynt i chwi o dosturi atoch, ac ni cheisiaf wobr anheii- wng genych am fy nhrafferth. Hyd nes y profoch fy mod yn elyn i'r gwirionedd, gwnaf eich dal yn gyfrifol am lunio cel- wydd arnaf. Ond a ydych chwi "yn ormod o gyfaill i'r gwirionedd?" Peidiwch a mesur eraill yn ol hyd a lied eich hunan. Ar ba sail y dywedwch fy mod yn un o'r ymgeiswyr siomedig? Y mae yn ofynol i chwi gael eich tynu ddwywaith o leiar drwy drwyth swynyddiaeth gwybodaethol yr Aifft ac Athen, cyn y gellwch brofi eich haeriad. Dylasech gael digon o sicrwydd y byddaf yn un o'r ymgeiswyr cyn addaw cofio am danaf, pan y gelwir chwi i'r sedd feirniadol yn y dyfodol. "Addaw'n deg wna ffwl yn llawen." Yr ydych yn ceisio gwneyd i'r cyhOedd gredu fy mod wedi anfon cyfansoddiad i'r gystadleuaeth "ryw ddeng neu ddeuddeg diwrnod ar ol yr amser penodedig, yn nghyd a nodvn byclian" wrtli ei gynffon, &c. Ond, yr ydycli yn hyn fel mewn pethau eraill yn siarad a gweithio yn ol eich teimlad, ac mor bell oddiwrth y gwirionedd ag yw Pcgwn y Gogledd o Begwn y De. Pan y profweh hyn, yna chwi ellwch brofi fod llyfl'aint Cors FochnS yn feirdd cadeiriol. ? Fairvtew, N. Y. BYR EI DDEALL.
AK Y FifORDT).
AK Y FifORDT). CHATTANOOGA, TENN.—Yn mhob tref neu bentref, ceir rhywbeth neu ryw un "ar y ffordd." Nid oes modd cael cynllun na gwelliant yn un man na bydd rhyw un neu ryw rai ar y ffordd. Cyfaddefir yn eithaf rhwydd fod eisiau diwygiad, ac fod eisiau gweithio allan gynllun i hyny; ond ceir allan yn union os na fydd y cynllun hwnw yn ffrwyth ymenydd rhyw un neillduol, neu yn unol a meddwl rhyw un, mae'n rhaid gwrtliwynebu y cwbl, a cheisio dyrysu pob cjmllun er diwygiad, am fod 1:71 rhywbeth "ar y ffordd." Gwelir hyn yma yn eithaf amlwg trwy bob cwr o'r wlad heddyw yn mhob cangen a dosbarth o'r wladwriaeth, o'r Ty Gwyn yn Washing- ton i'r ysgoldy bychan gweledig diaddurn ar fynyddoedd y Chillowhi, neu yr Unakas yn North Carolina. Er fod digon o eisiau chwilio allan a symud y rhwystrau sydd ar ein ffordd i gael diwygiad yn ein Llywod- raeth, gadawaf fi hyny ar hyn o bryd, gan droi oddiar y ffordd er rhoddi lie i'r rhai sydd fwy hoff o boltics na mi. Ond y mae un peth y carwn yn fawr daflu fy boil allu corfforol a meddyliol i'w symud oddiar y ffordd, sef y peth hwnw, beth bynag yw, sydd ar ffordd y Weriu weithgar yn America i lwyddiant. Y mae yn eithaf amlwg fod sefyllfa y gweithiwr tlawd yn waeth heddyw yn y Talaethau nag y bu oddiar pan wyf fl. yn ei gofio, a hyny yn ddiamheu yn ganlyniad naturiol y strikes a'r suspensions ami a dinystriol a gymerasant le yn ystod y deng mlynedd di- weddaf. A'r pwne pwysig yw, sut mae gwella sefyllfa y gweithiwr. Da gan fy nghalon weled fod hyny yn cael ychydig sylw ar wyneb prydferth yr hen DDUYCII anwyl yma, trwy ysgrifau fel eiddo Cyn- felyn a Virginian. Y mae misoedd lawer wedi myned heibio oddiar pan ddarfu i'r Hen Wr wneyd cyffelyb gynygiad i'w gyd- genedl anwyl yn Pennsylvania ac Ohio. Ewch yn mlaen gyfeillion, cewch law a chalon yr Hen Wr i'eh cynorthwyo; cewch bob cyfarwyddyd am diroedd rhad a chyf- oethog y De yma, am fanteision ac anfan- teision y wlad-ei glo a'i meteloedd, yn haiarn, plwm, copr, arian ac aur, yn rhad ac am ddim, er hyrwyddo y cynllun, ac er rhoddi mantais i chwi chwilio allan y lie goreu i osod eich hunain i lawr. Un peth wyf yn argraffu ar eich meddwl; hyny yw, byddweh bwyllog a doeth yn eichdewisiad o ddynion i'ch arwain mewn anturiaeth mor bwysig. Bydded eu bod yn ddynion o ymddiried a phrofiad, a pheidiwch gadael lie i genfigen ac eiddigedd weithio eu ffyrdd i'ch plitli. Gwaith digon hawdd yw codi cwmni o fwnwyr Cymreig gydachyf- alaf o$500,000 yn Pennsylfania, Ohio, Vir- ginia, Maryland a Thalaethau eraib, lie y maent yn preswylio mewn 4 neu 5 mlyn- edd, a chychwyn un o'r gweithfeydd haiarn, plwm, neu gopr, mwyaf llwyddian- us yn y Talaethau Unedig, ond cadw eidd- igedd a chenfigen y Cymry "oddiar y z, y ffordd." Ewch ati o ddifrif fechgyn, a'r Nefoedd a'ch bendithio a llwyddiant, yw dymunitld calon yr-Heii Wr 0 Dwll y Cacicn.
LLOFFION 0 BELL AC AG OS.
LLOFFION 0 BELL AC AG OS. Gwerthodd un tyfwr hopys, o'r enw J. L. Martin, yn byw heb fod yn mhell o Utica, ddeg tuneH o hopys am 15c. y pwys. Yn ol yr amcan-gyfrif diwedllaraf 11 y bydd y cuwd gwenith yn Lloegr o 15 i 20 y cant yn llai nag arfer; liynyyw, yn lie bod digon i ddiwallu 18.000,000 0 drigolion allan o 32,000,000, ni cheir eleni ond digon ar gyfer 13,000,000 neu 14,000,000; felly,, rhaid gwneyd y gweddill i fyny drwy ddadforiad. Mae gan ddyn o'r enw G. H. Philips, 188 Gcnessee St., Utica, bytaten "early rose" yn debyg iawn o ran ffurf i droed chwith dyu. Y mae y bysedd yn bur eg- lur, a dynodir yr ewinedd drwy lygaid naturiol y bytaten. Mr. John E. JMorris a ysgrifenai o Oshkosh, Wis., ar yr 22ain cyfisol: "Mae pawb yn y cymydogaethau hyn wedi cael eu cynauaf; a gellir dyweyd fod y gwenith wedi troi allan yn dda, a cheir prisiau rhesymol am dano. Ond yr ydym wedi cael tywyddgwlyb iawn er's peth amser." .Mr. J. F. Jones, derbyniwr ffyddlon o'r DRYCH er's ugain mlynedd, er yn byw yn nglianol estroniaid, a ysgrifena o Atchi- son, lias. Y mae yma grop da o gorn yr Hydref hwn; ond gwnaeth y grasshoppers gryn lawer o ddifrod ar y gwenith, a phrin- der arian yw y gwyn gyffredinol sydd yma. Yr wyf yn gweled un Cymro o Utica yma bob wythnos, a hwnw yw yr unig Gymro sydd yn byw yma. Ond y mae y DRYCR yn hyfrydwch i mi, a bwriadwyf ei dder- byn tra byddwyf byw. PETERSON, IOWA, Medi 15—Gwelaf yn y DltYCH fy enw fel agent dros yr ardal hon. YVel, yr wyf yn teimlo yn anrhydedd gael bod o ryw wasanaeth i newyddiadur mor ardderchog ag ydyw y DRYCH, yr hwn a ddylai gael ei dderbyn a'i ddarllen a thalu am dano gan bob Cymro drwy y wlad. Mae y tywydd yn parhau yn anarferol o wlyb yn yr ardaloedd hyn. Dechreuodd wlawio ar y 28ain o Awst, ac y mae wedi parhau hyd yn hyn—ystorm ar ol ystorm, heb roddi digon o amser rhyngddynt i'r yd gael sycliu ar y meusydd, yr hwn sydd mewn canlyniad yn pydru neu'n egino. Mae yr afonydd wedi chwyddo dros eu glanau, a llawer o ýd wedi cael ei ysgubo ymaith gan y llifeiriant. Llawer iawn o gwyno sydd wedi bod o herwydd difrod y grasshoppers, ond mentraf ddyweyd, pe byddai i'r holl ddifrod a wnaethant yn Swydd Clay, er pan y mae dyn gwyn yn cofio, yn cael ei symio i fyny, ni byddai agos gymaint a'r dinystr drwy y gwlaw- ogydd diweddar. Golwg sobr sydd ar bethau yma; ac oni bydd i'r Hwn sydd yn llywodraethu yr elfenau gofio am danom yn ei drugaredd, anhawdd gwybod beth a ddaw o honom.— W. Evans. FFERMYDD MAWRIOX A BYCHAIN-Mewn deuddeg o'r Talaethau Unedig y mae maint y ffermydd, ar gyfartaledd, o dan gant a phump ar hugain o erwau, tra mewn rhai o'r Talaethau rhedant mor uchel a phum' cant o erwau. A ganlyn yw maintioli cyf- artal y ffermydd yn mhob un o'r Talaethau hyn— Maine US 0 erw. I.,ew Jer 98 0 JTW. Mass. 103 Penn. 103 N. Hamp. 122 Indiana 112 R. Island 94 Ohio 111 Conn. 93 Mich. 101 New York 103 NVisconsin 114 New York 103 Wisconsin 114 Cyfritir fod holl ffermydd y Talaethau Unedig yn werth$9,262,803,3(51, ac eiddo y deuddeg Talaeth uchod yn werth $5,407,- 587,178, neu agos i dair rhan o bump o'r cyfan, tra y mae arwynebedd y Talaethau hyn yn llai nag un rhan o ddeg o arwyn- ebedd yr holl Dalaethau. Y mae hyn, ni a dybiwn, yn profi yn eglur ragoriaetli cyf- uudrefn ffermydd bychain.