Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

C YFL WYNEDIG

MAE FY MEDDWL YN'HEDEG TR…

AT FY NGYFAILL CYNWAL.'

AR FARWOLAETH

Y GWYDDEL A'R DELYN.

DIWYGIAD MEWN PETHAU.

AT H. O. ROWLANDS ETO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT H. O. ROWLANDS ETO. BARCHUS OLYGYDDION: Ni fydd i mi ormesu ar eich derbynwyr a meithder y tro hwn, namyn eywiro ychydig o gam- syniadau a ollyngodd H. O. R. i lithro o flaen y werin yn ei ysgrif ddiweddaf.— Byddaf hefyd yn bur dyner o hono, rhag ofn y digwydd iddo gael ei gynhyrfu i ormodedd, a cholli ei synwyrau; oblegyd gallai peth felly fod. Gwyr y darllenwyr yn eithaf da nad oedd gwaith H. O. R. yn beirniadu llinellau ei ewythr, Ap P. A. Mon, fel rhagymadrodd i'r feirniadaeth ar Benillion Cefni, ond tric cyfrwys i geisio taflu llwch i lygaid y bobl. Mae y ffaith fod ei feirniadaeth ar linellau ei ewythr mor ddiniwaid a babi dol, yn lied arwyddo "deall da" rhwng dynion a'u gilydd. Pan mae dyn yn proffesu dysgu boneddigeidd- rwydd yn ei ysgrifau ei hun, ac ar yr un pryd yn diraddio ei wrthwynebydd, trwy chwythu ei ysgrif ag edliwiadau anwiredd us o Fyfiaeth, ymwylltiad, a chabldraith ar y.critic, beth ydyw y casgliad a dynir yn naturiol oddiwrth y fath anghysondeb? Mae yn ddrwg genyf gymharu haeriadau H. O. R. a'r Gwirionedd noeth ei hun.— Dywed H. 0. R., "Niwyddwn am waeledd fy nghyfaill." "Cousin H. O. Rowlands kindly remembers you, and is awful sorry- for your sufferings." Derbyniais y nodyn a gynwys y dyfyniad yna pan oeddwn yn Rome o dan law Dr. Kingsley, oddiwrth foneddiges ieuanc, ag y gwyr H. O. R. pwy ydyw hi, ac na faidd amheu ei geirwiredd! Eto, "Collodd Mr. Parry Gadair Eis- teddfod fawr Aberdar yn 1861, pan oedd tri o gewri Cymru yn beirniadu, a geilw y Feirniadaeth yn rigwm dienaid Aneurin Fardd." Y gwirionedd: Ni chafwyd hyny," (sef darlleniad y Feirniadaeth) "oblegyd ni ddarllenwyd beirniadaeth ar y cyfansoddiadau, oddieithr rhyw rigwm dienaid gan Aneurin Fardd. Cadwodd y ddau feirniad arall eu 'cerdd yn eu cod,' dros y prvd hwnw o leiaf, ac hyd eto, ar ddim a glywais i." Anwiredd dyfeis-ddrwg H. O. R. i gyn- hyrfu digllonedd Aneurin Fardd i'w helpio ef a'i ewythr i guro ar Cefni, yw hyn yna. Ni cheisiodd Cefni ddiddymu Eos Glan Twrch erioed; ond coledda barch gwirion- eddol i'r hen wron llenyddol, fel bardd, beirniad a Christion diledryw. Am ddi- ddymu H. O. R. a'i ewythr! byddai yn haws diddymu pechod ei hun, na eu di- ddymu hwy. Nid oes neb yn ymhyfrydu mwy yn an- rhydedd H. O. R. a'i ewythr na Cefni; a barned y byd pa un ai hwy sydd yn "ceisio merthyrtC Cefni, ai Cefni sydd yn "ceisio eu merthyru hwy." Mae y "sylw beirniadol" yn holl ddibwynt ar y llinellau, Developed beauty of the child, Was cherished by the morning shower, oblegid nid yw "Crab's Synonymes" yn awdurdod mewn ffugyrau a throellymad- roddion barddonol. Gall gair yn ei ystyr wreiddiol fod y peth hyn, ac yn ei ystyr fenthycol fod y peth arall; a chyn y byddo tegwch mewn beirniadaeth, rhaid cymeryd y gair yn yr ystyr ag y defnyddir ef gan yr awdwr. See "Figures of Speech by S. Niel:" "Great freedom of collocation, more violent inversion of the grammatical order of words, and greater variety of syntactic structure is permitted to Poetry than Prose —a constant and perpetual implication of intellectual perceptions in sensible signs- an interfusion of speculation and perpetual phenomena, embodied in, and expressed through the objects of sensation-pervades the whole of Poetry, and is markedly dif- ferentiating feature between it and Prose." How beautiful! those floating isles of thoughts, That move along the streams of eloquence; 01 thoughts immortal cherished by the smiles Of heavenly wisdom, pure and all divine." Neil on Prose and Poetry. Os ydyw hunanymwadiad Cefni yn cyd- nabod fod ei benillion yn "syml, gwirion, anghelfydd, tlodaidd ac anmherffaith ddigon," yr hyn a wnai pob dyn ond a fyddo wedi ymchwyddo a mpfiaeth, nid teg a boneddigaidd yn y "critic" yw cymeryd mantais ar hyny i'w gwneyd yn waelach nag ydynt, yr hyn yw holl ymdrech H. O. R.! Ond gwybydded y critic y caiff fwy gorchwyl nag a freuddwydiodd erioed i "eiddilio" pob diffyniad a wna Cefni i'w benillion. Gweddied lawer am "ms atal- iol," cyn pechu gormod yn erbyn Cerid- wen. Pittston, Pa. CEFNI. [Mae hen ddigon, a gormod, wedi ei ys- grifenu ar y mater hwn.—Gol.]

MORDAITH ANGLADDOL.

....... .CHURCH HILL, 0.

BALA, KANSAS.

low1. A YRA,-..I--11-..WR.…

[No title]

!BABI DOL FY NGKNETil FACII.

DERBYN FI.

PECHOD YR OES.