Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
COLEG MARIETTA, OHIO.-Nos Sul, y Main o Hydref, cawsom yr hyfrydwch o wrandaw ar Lywydd yr Athrofa, J. W. Andrews, D. D., LL. D., yn traddodi y bregeth a draddododd yn y Cyngrair Efengylaidd yn Chicago. Nid ydyw yn perthyn i ni ganmol y bregeth, gan fod canmoliaeth uchel iddi yn mhapyrau y dref yn yr hon y traddodwyd hi gyntaf. Nid oes ond pedwar o fyfyrwyr Cymreig yn yr athrofa hon yn bresenol, a thri yn yr adran barotoawl, ond y maent oil yn Gym- ry brwdfrydig, heb fod arnynt gywilydd o'u cenedl, fel ambell i un a fu yn ein plith. Y dydd o'r blaen, tra yr oedd dau ddos- barth yn chwareu troed bel, yn anffodus i un o'u cyfeillion, sef Cymro o'r enw D. J. Davis, syrthiodd a thorodd ei fraich yn yr arddwra. Yn awr, dichon y bydd rhai yn beio ac yn dywedyd nad oedd un angen am iddo fyned allan i chwareu. I'r cyfryw dywedaf, darllenwch ychydig ar y corff dynol, ac hefyd rheolau ar Hygiene, ac yna chwi welwch fod angen rhyw gymaint o exercise" corfforol ar bob un sydd yn astudio yn galed, a dyma'r peth oedd gan ein cyfaill mewn golwg wrth fyned allan. y fraich yn ei lie yn union, a da genym allu hysbysu ei fod yn gwella yn .bvnod o dda. Er mwyn Alumni yr athrofa, dywedaf fod un o'r adeiladau, y Cap, wedi cael ei losgi i'r llawr er y noswaith olaf o Hydref. Dygwyddiad galarus i lawer o honomi- Un o'r Saith.
[No title]
YSBEILIO ARIANDY YN PITTSTON, PA.— 'Tor-odd lladron i fewn i'r First National IBank, Pa., noson dydd yr etholiad, a hyny wn ngwyneb llawer iawn o anhawsderau. Llwyddodd y lladron i weitliio eu ffordd Fr ariangell, ac yno chwythasant ddwy ,.wfe yn agored a phylor. Cymerasant o honynt $40,000 mewn arian a bonds, yna diangasant. Yr oedd 11,000 o'r bonds yn perthyn i'r Lackawanna & Bloomsburg H. II.; Wilkes Barre City bonds,$5,000; Pittston Seminary bonds, 2,000. Gwneir pob ymdrech i ddal y lladron.
HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD.
HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD. GANDDO EF EI HUN. PENOD XVII. Dranoeth y boreu, cychwynais i a fy merch adref. Gwnes bob ymdrech i leddfu ei gofidiau, ac i'w harfogi a. gwroldeb i wynebu ei mam dramgwyddus; achubwn bob cyfleusdra i gyfeirio ei sylw oddiwrth brydferthwch at y ffaith fod y nefoedd yn dynerach wrthym ni nag ydym ni y naill tuag at y llall. Ymdrechais ei sicrhau na byddai iddi byth ganfod y gwahaniaetb lleiaf yn fy serchiadau tuag ati. Ceisiais ei chyfnerthu yn ngwyneb gwg a cherydd y byd a dangos iddi fod y llyfrau yn gym- deithion tawel a charedig i'r truan anffod- us; ac os na allent ein dwyn i fwynhau bywyd, y gallent ein dysgu i ddioddef ei drallodion. Yr oedd y ceffyl a logasom i'w adael mewn gwestdy y noson liono o fewn rhyw bum' milltir i'm cartref; a chan fy mod yn awyddus i barotoi y teulu i dderbyn fy merch, penderfynais ei gadael hithau yno, ac i ddychwelyd ati yn y boreu gyda fy merch Maria. Yr oedd wedi tywyllu cyn i ni gyraedd y lie. Wedi cytuno am lety iddi, a gorchymyn swper, rhoddais gusan ar ei grudd, a phrysurais tua chartref. Yr oedd fy nghalon yn llawenychu fel yr ag- osawn at fy mhreswylfod tawel a heddych- lon. Myfyriwn ar y pethau rhyfedd oedd genyf i'w hadrodd, a'r derbyniad crQesaw- us oeddyn fy nisgwyl. Yr oeddwn eisoes yn teimlo cofleidiad serchus fy mhriod, a gwenwn wrth feddwl am lawenydd fy rhai bychain, gan mai araf iawn yr oeddwn yn cerdded; yr oedd y nos wedi rhedeg yn mhell. Yr oedd meibion llafur wedi myn- ed oil i orphwys-y goleuadau wedi diffodd yn mhob bwthyn-dim swn o unman ond cyfarthiad ambell i gi yn y pellder draw.- Cyn imi gyraedd mangre fy nghysur,daeth yr hen Bero ffyddlawn i'm cyfarfod gan ysgwyd ei gynffon yn groesawus. Yr oedd yn haner nos pan gurais wrth y drws- pawb yn dawel a llonydcl; ac yr oedd fy nghalon yn orlawn o ddedwyddwch anes- grifiadwy, paner fy syndod a'm dychryn y gwelwn y ty yn ffaglu. o dan, a pbob peth agored yn fflamio! Syrthiais i'r llawr yn ddideimlad. Deffroes fy mab, a phan wel- odd y tan, rhedodd i ddeffro fy ngwraig a fy merch, a darfu i'w hysgrechfeydd tra yn rhedeg yn haner noethion mewn dychryn, fy nwyn inau i ymwybyddiaeth. Yr oedd yr elfen ddinystriol yn ymdaenu gyda chyf- lymdra arswydus, y naill ran ar ol y llall yn disgyn, a'm holl deulu yn sefyll ac ed- rych fel pe yn mwynhau yr olygfa. Ed- r rychais o'm hamgylch am y plant bach, ond nid oedd yr un o'r ddau i'w canfod yn unman. O! drueni! meddwn, yn mha le y mae fy rhai bychain! 'Y maent wedi llosgi i farwolaeth,' atebai fy ngwraig yn ddigyff- ro, 'ac yr wyf finau am farw i'w canlyn.'— Gyda hyn clywn eu lleisiau oddi mewn, wedi eu deffro gan y tan. Nid oedd gallu mewn bod allasaify rhwystro rhag rhuthro trwy y fflamau i'r ystafell lie yr oeddynt.— Lie mae fy mhethau bychain? llefwn yn groch. 'Yma, tada bach, dymani,' meddai'r ddau gyda'u gilydd, tra yr oedd y fflamau bron wedi cyraedd eu gwely bychan. Cip- iais hwynt yn fy mreichiau a ffwrdd a mi trwy y goelcerth allan. Gyda fy mod dros y trothwy gyda fy nau berl anwyl, syrth- iodd y to i mewn. Yn awr," meddwn, gan eu dal i fyny, "gadawer i'r fflamau losgi eu goreu, nes difa fy holl feddianau. Dyma nhw, yr ydwyf wedi achub fy nhrysor. Hwdiwch, fy anwylaf, dyma ein trysorau, a byddwn hapus eto." Cusanwyd y pethau bach fil o weithiau. Ymglymai eu breichiau gwynion meinion am ein gvddfau fel yn cydfwynhau ein llawenydd tra y wylai, ac y chwarddai eu mam bob yn ail. Safwn i edrych yn ddystaw ar y fflamau, ac yn mhen peth amser canfyddais fod fy mraich hyd at yr ysgwydd wedi ei llosgi yn ddrwg iawn; ac felly yr oeddwn yn hollol analluog i gynorthwyo fy mab i ar- bed y dodrefn, ac atal y tan i gyraedd yr yd. Llosgwyd bob peth o werth, hyd yn nod yr arian-nodau a gedwais yn gynysg- aeth i fy merched. Daeth y cymydogion i'n cynorthwyo i ail gychwyn yn y byd trwy ddodrefnu un o'r tai allan yn gartref i ni. Wedi i ofnau a dychryn fy nheulu lonyddu tipyn, yr oeddynt braidd yn awyddus i wybod fy hanes, a'r achos 01m habsenoldeb maith. Dywedais wrthynt y cwbl, ac ymdrechais barotoi eu meddyliau i dderbyn y golledig. Er nad oedd ond truenusrwydd yn ei haros, yr oedd yn dra awyddus i ddangos pob croesaw iddi. Bu- asai y gorchwyl yn fwy anhawdd oni bae am yr anffawd ddiweddar, yr hwn oedd wedi darostwng balchder fy ngwraig. Gan nad oeddwn yn alluog, o herwydd fy mraich,i'w nhol fy hun,anfonais fy mab a'm merch i'r neges, y rhai a ddychwelasani yn bur fuan. Ni fynai fy ngwraig edrych ami. Y mae merched yn fwy creulon wrth gamweddau eu rhyw nag ydyw dynion. Wel, ngeneth bach i," meddai hi, "yr wyt wedi dyfod i le tlawd iawn o ganol rhodres y byd. Gormod o gamp i Maria a minau fydd dy ddifyru. Ydym, Olwen, y mae dy dad, druan, a minau wedi poeni llawer o'th achos; ond gobeithio y bydd i'r Nefoedd faddeu i ti." Yn ystod yr araeth hon, safai y druanes yn ddystaw gan grynu, ac yn analluog i siarad na wylo.— Nis gallwn edrych ar ei gofid ddim yn hwy heb ymyraetli, a chan arddangos ffyrnig- rwydd urddasol mewn ton ac agwedd, meddwn wrthi: "Ddynes, gwrandewch fy ngeiriau; yrydwyfwedi dyfod a fy mhlen- tyn yn ol, ac y mae ei dychweliad i'r teulu yn galw am ein tynerwch. Y mae trallod- ion bywyd yn ein goddiweddydyn brysur; na adewch i ni, gan hyny, eu cynyddu trwy ymrafaelion yn mysg eichein hunain. Mae caredigrwydd y Nefoedd yn cael ei addaw i'r edifeiriol, a gadewch i ninau ddilyn ei hesiampl. Dysgir ni fod mwy o lawenydd yn y Nefoedd am un pechadur edifeiriol nac am namyn un cant o rai na phechasant erioed: ac y mae hyny yn briodol hefyd, oblegid y mae yn gofyn mwy o ymdrech i sefyll ar oriwaered i ddystryw nac i gyflawni cant o weitlired- oedd da." --e¡. e-
AR YR ADEN.
AR YR ADEN. GAN Y PARCH. A. S. PHILLIPS, CHURCH HILL, OHIO. Ar foreu tesog, y 3ydd o Fedi, cefais fy hun ar gerbydres y Pittsburgh, Youngs- town ac Ashtabula R. R., yn teithio tua'r dwyrain, i fwynhau awelon iachus y Dal- aeth Ymerodrol. Wedi teithio tua thriug- ain milltir i'r gogledd-ddwyrain, dyna y Conudctor yn gwaeddi, ''Ashtabula—change cars for Buffalo and New York." Tref fechan ar lan Llyn Erie yw hon, tua haner can' milltir i'r dwyrain o Cleveland, Ohio. Wedi cymeryd seibiant o 20 mynyd i gin- iawa, ffwrdd a ni dracliefn gyda'r Lake Shore and Michigan Southern R. R. Mae hon yn rhedeg o Buffalo, N. Y., i Chicago. Mae yn rhedeg drwy bump neu chwech o Dalaetliau o Cleveland i Buffalo. Rheda gyda chwr y Llyn Erie, ac mae golygfeydd prydferth a swynol i'w cael wrth deithio ar hyd-ddi. Cyraeddasom Buffalo tua 7 o'r o-loch yn yr hwyr. Yr oedd mantellau y nos wedi ymdaenu dros y ddinas, felly nis gallem weled ond ychydig o,'r ddinas fawr hon. Boreu dranoeth, cychwynasom gyda'r Buffalo N. Y. and Philadelphia R. R. i Ar- cade, He tua 40 milltir o Buffalo, a tua 7 o Freedom, Cattaraugus Co. Cymerais yr hac]c o Arcade i Sandusky, ac erbyn 12 o'r Z; y gloch dydd Sadwrn cefais fy hun yn eis- tedd wrth y bwrdd yn 11 awn trugareddau yn "lhy y brawd a'r chwaer anwyl Mr. J. P. Williams a'i briod serchog a charedig. Mab ydyw y brawd anwyl hwn i'r hen frawd parchus Deacon-Williams, yr hwn fu am flynyddau lawer yn aelod a diacon ffyddlon yn eglwys y Bedydd\fyr yn Free- dom, yr hwn sydd wedi myned oddiwrth ei waith at ei wobr; a'r chwaer Mrs. Wil- liams yn ferch i'r hen bererin a'r brawd anwyl Deacon J. Lewis, yr hwn sydd wedi dal pwys a gwres y dydd gydag achos Crist. Mae yr hen frawd yn tynu i lawr tua rhosydd Moab, ac yn fuan bydd yn croesi yr afon. Gobeithio y caiff fynediad gogoneddus i mewn i'r etifeddiaeth nefol. %] £ sefydliad cryf o Gymry parchus a chai-edig iawn yn Cattaraugus. Mae yno bedair o eglwysi Cymreig—dwy gan yr A., un gan y B. ac un gan y T. C. Cefais y fraint o dreulio dau Sabbotli gyda'r brodyr y Bedyddwyr. a phregethu iddynt Air y Bywyd. Mae ganddynt gapel eang a hardd, wedi ei adeiladu mewn man prydferth ar Fish Lake Flats. Costiodd tua phum' mil o ddoleri, ac mae yr oil wedi ei dalu. Mae yno gynulleidfa ragorol yn dyfod i wrando bob Sabboth. Gobeithio y bydd i lawer o'r ieuenctyd hardd sydd yno ddyfod i dder- byn Crist yn Waredwr i'w heneidiau. Mae yno parsonage yn perthyn i'r eglwys, ty bychan cysurus iawn i weinidog fyw yn- ddo; ond ymddengys yn bresenol fel pel- ican yr anialwch, fel dallhuan y diffaeth- wch, fel aderyn y tõ yn unig (nid ar ben y ty), ond ar y ddaear. Mae capel y T. C. tua haner milltir o bentref Sandusky. Nid oes ganddynt hwy, fel y B. yr un gweinid- o"1 yn bresenol. Mae y Parch. Jais. Grif- fiths yn llafurio gyda dwy eglwys yr A.; ac er fod yr hen frawd dros driugain a deg oed, eto teimla yn ddigon ieuanc a heinyf 1 bregethu dair gwaith bob Sabboth. Ben- dith yr Arglwydd fyddo arno ef a'i briod, a hir oes iddynt eto i fwynhau cymdeithas eu gilydd. Pregethais unwaithyn Sandus- ky yn nghapel y B. Seisonig-yr unig gap- el 3ydd yn y pentref. Mae yno hen gapel gan yr Universaliaid, ond y mae Universal- iaeth yn mhlith y pethau a fu yno, diolch am hyny; sonient am droi yr hen gapel yn ysgoldy. Wel, daeth yr amser yr oedd yn rhaid ymadael a hwy, er mor dda oedd bod yno. Derbynied yr oil o honynt fy niolchgar- wch am eu caredigrwydd i mi. Yr Ar- glwydd fvddo gyda hwynt. Aethym oddi yno i Buffalo, a chymerais y trgn i fyned i weled un o ryfeddodau mawr Natur, Rhai- adr Niagara, yr hwn sydd tuag ugain mill- tir i'r gogledd-orllewin o Buffalo. Mae tref brydferth ar lan y rhaiadr, sef tref Niagara, yn cynwys tua mil o drigolion, ac ymddangosent i mi fel haid o gwn gwanc- us, neu sharks, yn barod i'm llyncu yn fyw; ac yr oeddwn yn ofni fy mod fel y dyn a aeth i waered o Jerusalem i Jericho, ac y buasai yr un dynged yn fy ngoddi- weddyd; ond drwy drugaredd cefais y fraint o ddianc oddiyno heb fy archolli, ac heb fy niosg o'r cwbl a feddwn. Bu yn dda genyf gymeryd yr aden, ac ymaith a fi, ac mewn ychydig o oriau cef- ais fy hun mewn lie mwy diogel a dymun- ol yn nhy y brawd tangnefeddus Mr. The- odore Ellison a'i deulu anwyl yn Attica. Treuliais un Sabboth gyda'r ychydig frod- yr yno. Gobeithio y bendithia yr Arglwydd fy ymweliad a hwynt er daioni iddynt.- Derbynied y brodyr a'r cyfeillion yno fy niolchgarwch am eu sirioldeb a'u caredig- rwydd i mi. Addewais dreulio Sabboth gyda hwynt wrth ddychwelyd o Oneida; ond yr oedd amgylchiadau yn fy lluddias. Drwg genyf fy mod yn gorfod eu siomi. A. S. P- ■»!»»»■
[No title]
—Nid oes yn holl Dalaeth Rhode Island, ond 258,239 o bobl; 38,875 o anedd-dai; 52,245 o deuluoedd; 4.67 o bersonau yn mhob ty; 6,271 o bobl dduon; merched, 132,637; gwrywod, 125,603; 186,609 wedi eu geni yn y Talaethau Unedig; 134,630 wedi eu geni o rieni Americanaidd; 123,609 wedi eu geni allan o'r wlad, a 51,979 wedi eu geni o rieni tramor. i
Adolygiad y Wasg.
Adolygiad y Wasg. LL TFBA U AO A WD URON. "ENWOGION GERMANI" yw peniad nifer o ysgrifau gan y Parch. J. Harris Jones, Ph. D., yn y Goleuad.. Y MAE Efengyl Luc wedi ei chyfieithu i'r Japanaeg, ac wedi ei chyhoeddi yn Llun- dain. MEWN Ilythyr at gyfaill yn Nghaerdydd, dywedai Mr. Gladstone ei fod yn brysur gyda rhyw orchwyl sydd yn mhell ar ol ganddo. Dyfalir cryn lawer beth all ei fod. Dywed rhai mai geiriadur Homeraidd. YMDDENGYS fod Oscar II, brenin Swed- en, yn dilyn llwybrau ei dad, nid yn unig fel brenin, ond hefyd fel awdwr. Mae cyfrol o'i weithiau barddonol a rhyddiaeth- 01 i gael ei chyliseddi yn fuan yn Llundain. YSGRIFENA Ieuan Gwyllt fel y canlyn i'r Goleuad, mewn atebiad i ofyniad goheb- ydd: 'Buasai fy Llyfr Tonau, mewn short score, allan er's blynyddoedd oni buasai am- gylchiadau nad gwiw eu crybwyll yn y lie hwn. Y mae bellach, pa fodd bynag, yn cael ei argraffu er's rhai misoedd; a dygir ef allan gan Mri. Hughes a'i Fab, mor fu- an ag y gallont." Bydd hyn yn newydd da i lawer o gynulleidfaoedd yn Nghymru ac America,lie y mae offerynau cerdd wedi dyfod i arferiad. HEN FEIBL HYNOD-Y mae yn meddiant THOMAS JOHN a'i briod, New Cambria, Mo., hen Feibl yr hwn agafoddei argraffu yn y flwyddyn 1588-a'r hwn felly nad yw ond 13 mlwydd yn fyr o fod yn 300 oed.— Dyma y llyfr hynaf a welais erioed. A oes rhyw un yn gwybod am Feibl can hyned yn America ? Y mae hanes yr hen Feibl anwyl hwn yn bur ddyddorol; ac hwyrach y cawn y fraint ryw dro o grybwyll ychyd- ig am dano yn y DRYCH. Yr oedd yn rhyfedd genyf ei weled wedi ei argraffu mewn llythyrenau gwahanol i'r rhai yr ar- greffir llyfrau yn bresenol. Nis gallwn ei ddarllen, er ei fod wedi ei argraffu yn Gymraeg, yr hyn a ddengys fod ffurf ac or- graff yr iaith wedi cyfnewid yn fawr i'r hyn oeddynt yn y bedwaredd ganrif ar dcieg.-G. T. Williams, Highland Farm, Lentner, Mo. CYSTADLEUAETH BWYSIG-Oddeutu tair blynedd yn ol, cynygiwyd dwy wobr o $1000 a $500 gan Senor Don Arturo de Marcoastu, am y ddau draethawd goreu ar 'Pa fodd y dylai cynadledd gyd-genedlaeth- ol gael ei chyfansoddi tuag at ffurfio casgl- iad o ddeddfau cyd-genedlaethol, a pha rai a ddylent fod yn egwyddorion sylfaenol y cyfryw reith-gasgliad.' Rhoddwyd yr ar- ian yn ngofal Cymdeithas y Wyddoniaetli Gymdeithasol yn Llundain, a gwnaed y cynygiad yn hysbys yn ngwahanol wled- 'ydd Ewrop ac America, gyda chaniatad i'r cystadleuwyr ysgrifenu yn Saesneg,Ffranc- aeg, neu Germanaeg. Y beirniaid oeddynt Mri. Westlake, H. D. Jencken, ac E. Wendt, cyfreithwyr o Lundain. Derbyn- iwyd naw ar hugain o gyfansoddiadau, a dyfarnwyd y wobr flaenaf i Mr. Abram Pulling Sprague, cyfreithiwr o New York; a'r ail wobr i M. Paul Lacombe, cyfreith- iwr Ffrengig. Cyflwynwyd y gwobrau iddynt gan Arglwydd Aberdar, llywydd y Gymdeithas. COFIANT DAVIES, LLANFAIR, gan y Parch. G Griffiths, Gincinr^ti, O. Dyma Gofiant gwir ddesgrifiadol a theilwng o'i z, wrthrych. Cyfiawnodd Mr. Griffiths ei waith yn gampus. Mae y Cofiant yn drefn- us, yn goethedig, ac yn gynwysfawr; a bydd yn wir fuddiol i'r miloedd a'i darllen- ant yn fanwl. Yr oedd fy anwyl gyfaill, yr hen weinidog efengylaidd a llafurus, y Parch. James Davies, gynt Llanfair-caer- einion, G. C. wedi hyny Radnor, Ohio, yn wir deilwng o'r fath gof-golofn barchus ac oesol. Da iawn genyf ddeall fod y llyfr yn gwerthu mor gyflym. Diau y rhaid cael ail-argraffiad o hono. Dylai gael ei gy- hoeddi yn Nghymru hefyd. Carwn glyw- ed fod miloedd o gopiau o'r Cofiant gwerth- fawr hwn wedi eu gwerthu yn y ddwy wlad, a nyny yn fuan. Mae wedi cael ei argraffu a'i rwymo yn hardd gan T. J. Griffiths, Utica, N. Y. Nid yw ei bris wedi ei rwymo ond 80 cents.—Iorthryn Gwynedd. YB YMWELYDD a AWTRALIA-Daeth y rhifyn am Medi i law, yn cynwys ysgrifau ar Werth Ffydd; Y Cysegr a'i ordinhadau, a gogwydd yr oes; Cyfrifoldeb personol; Pregethau a Phregethwyr, &c. Ychydig o newyddion cartrefol o ddyddordeb sydd yn y rhifyn hwn. Ceir hanes cyfarfodydd cyhoeddus Gobeithlu Carmel, Sebastopol, a gynaliwyd o dan lywyddiaeth y Parch. W. Thomas; a chrybwyllion am ddwy far- wolaeth, sef THOMAS JONES, Ancient Brit- ain Hotel, Globe Point Road, Sydney, yr hwn a fu farw yn 57 mlwydd oed, ac yd- oedd enedigol o Ruthin, Sir Ddinbych (plastrwr wrth ei gelfyddyd; ac ANN, pri- od Mr. Daniel Bassett, Harris Street, Ulti- mo a Vulcan Forge, Druit St., Sydney. Yr oedd Mrs. Bassett yn 43 mlwydd oed, ac yn nith i Mr. John Roberts, Pontfaen, Bridge- end, Sir Forganwg. Gyda golwg ar ragol- ygon yr Ymwelydd, dywed y golygydd- "Mae y derbyniad mae yr Ymwelydd wedi ei gael y flwyddyn hon yn peri i ni deimlo yn galonog gyda golwg ar y dyfodol." LLYFR EMYNAU A THONAu-At weinidog- ion yr efengyl, a beirdd a cherddorion ein gwlad-Etholwyd y tanysgrifwyr gan Gym- anfa Gynulleidfaol Dwyreinbarth Pennsyl- vania, yn ei chynulliad yn Mahanoy, Medi 25ain, yn bwyllgor i barotoi llyfr emynau a thonau at wasanaeth y teulu a'r eglwys. Teimlir yn gyffredin fod prinder llyfrau yn y gynulleidfa yn rhwystr i ganu mawl. Teimlir hefyd .fed yn ein llyfrau presenol lawer o emynau a thonau anarferedig, ac felly fod y pris yn chwyddo, a ninau heb ddefnyddio yr hyn a brynir. Y mae an- hawsder mawr i gael cyflenwad i'r erchyb am lyfrau, o herwydd nad ydynt yn cael eu hargraffu yn y wlad hon. Wedi gwran- do pethau fel hyn, barnodd y Gymanfa y gallem ni yn America gyhoeddi llyfr hylaw a rhad—llyfr yn cynwys digon o donau ac emynau at wasanaeth yr eglwys a'r teulu am hir amser, ac heb fod ei bris dros haner dolar. Nid yn unig gallwn, ond dylem wneyd hyn. Rhaid i bawb gyfaddef nad ydyw llyfrau yr Ysgol Sul yn rhagorach, nac mor ragorol yn un v^lad ag ydynt yma. Ac oni ddylem ddwyn diwygiad yn llyfr mawl y cysegr? Erfyniwn arnoch anfon at un o honom awgrymiadau, emynau a thonau. Daioni, ac nid hunan-elw, yw yr amcan. Hyderwn yn ostyngedig y cyd- weithiweh a ni-R. R. Williams, Miners- ville, Pa.; D. E. Evans, Plymouth, Pa.; T. C. Edwards, Wilkes-Barre, Pa.
[No title]
-Byddai yn dda genym weled eraill yn berffaith, ond er hyny nid ydym yn ceisio diwygio ein beiau ein hunain. —Clywsom am un ferch ieuanc mor gyd- wybodol fel na dderbyniai un cusan heb ei dalu yn ol. -.A.r yr holl ffyrdd heiyrn yn Germany, y mae meistri y gorsafoedd yn gwisgo cap- iau cocliion; ac ar bob tocyn cludiad, y mae y pris wedi ei argraffu. -Dywed diareb Rwsiaidd: Cyn myned i ryfel; gweddia unwaith; cyn myned i'r mor, gweddia ddwy waith; a chyn myned i dy briodi, gweddia dair gwaith. -Cafodd dinas Pompeii ei gorchuddio gan lafa neu ludw poeth, o losgfynydd Vesuvius, yn mis Awst, yn y flwyddyn 70, a bu gladdedig am 1676 o flvnyddoedd. -Tipyn o alcohol wedi ei gymysgu ag ink a rwystra iddo rewi yn yg-uaf. -Cariad unwaith aeth i chwareu, Ar ei daith i blith rhosynau; s Ac yno'r oedd, heb wybod iddo, ( Wenynen fach yn diwyd sugno. Wrth arogli o hono'n lioew Y rhosyn hwn a'r rhosyn acw, Y Wenynen fach a bigodd Ben ei fys, ac ymaith hedodd, A gwaeddodd yntau rhag ei cholyn, A chan y boen ag oedd yn dilyn; At ei Fam y gwnai brysuro, A'r dagrau dros ei ruddiau'n llifo. Gwaeddodd, Mam! yr wyf yn marw; Brathwyd fi yn arw arw, Gan ryw sarphhedegog, felen, Ac ei henw yw Gwenynen. Ebai Gwener. Os Gwenynen f A'th bigodd di, mor drwm, fy machgena Pa faint mwy y saethau llymion || A blenaist ti yn llawer calon. I —Yn ddiweddar, gwahoddoddboneddwifg cyfoethog o Belgium nifer o'i berthynasau$ i ddyfod i weled y got newydd ag yr oedd ef wedi rhoi archiad am dani. Hwy yn meddwl mai gwahoddiad i frecwest a feddylid, a aethant, ac er eu syndod gwelent nifer o eirch, y rhai yr oedd y boneddwr yn eu profi, un ar ol y llall,- Achosodd i'r eirch gael eu gwneyd gan wahanol seiri. O'r diwedd cafodd un^ oedd yn ei foddloni, gorweddodd i lawr*' ynddi, cymerodd wenwyn, a bu farw mewn llai na mynyd, yn nglianol ei gyfeill- ion dychrynedig. -Bwytawyd miliwn o fwsieli ° peanuts yn y Talaethau Unedig y llynedcl, ac eto ceir rhai a haerant fod yr Americanwr yn ddiog. -0 gedrwydd henafol Libanus, dywedir nad oes yn awr ond saith yn aros. Y maent yn sefyll ar haner milldir o dir ar ochr y mynydd. Bernir fod rhai o honynt wedi I eu planu gan Solomon. —I'rdderwen: Hon erioed, saif i'r goedwig—yn nodded, Ac addurn mawreddig; Daliodd dan dymhestloedd dig, Yn hardd adail urddedig. —Yr oedd yn y Talaethau Unedig yn 1870, 63,000 o leoedd o addoliad, gydag eisteddleoeddd i 22,000,000 o bobl. Cyf- rifid yr eiddo eglwysig yn werth$354,483 t 581. I DINIWEIDRWYDD NATURIOL.—Gofynodd bachgen pert i'w fam un dydd Sul wrth ddyfod o'r capel—"Mam, a ydyw yr Ar- glwydd yn darllen y papyrau newydd?" "Paham y gofyni y fath gwestiwn?" ebe y fam. "Dim, ond fy mod yn meddwl nad oedd, o herwydd fod y pregethwr mor hir yn dweyd pob peth wrtho heddyw, oedd atebiad y bachgen.
DEFODA U HYNOD.
DEFODA U HYNOD. ABERTHU BODAU DYNOL YN ASHANTEE, GOLD COAST, GORLLEWIN AFFRICA—Y DDEFOD WRTH GTLADDU PENAETH. I Mor fuan ag y bydd Penapth, neu f renin un o'r llwythau brodorol farw, golchir ei i gorff yn lan mewn dwfr; yna rhwbir ohw peraroglaidd a saim drosto; ac wedi hyny tefiir llwch aur dros y cyfan, yr hwn a lyna yn y saim, a chan fod y corff yn ddu mae disglaerdeb rhagorol yr aur melyn i'w weled yn ei berÏfelthrwydd. Trwsir y farf yn glymau, ac ar bob clwm, clymir glein- ron (bead) gwydr a gronynau teneuoaur; yna gwisgir y corff mewn llian, neu y damask mwyaf drudfawr, ymylwaith yr hwn sydd o sidan neu vdvet, ac addurnir y dwylaw a'r gwddf ag aur ac arian, yna gosodir y corff i eistedd ar gadair, neu ar wely fyddo wedi ei addurno a'r llieiniau 1 goreu; ac ystyrir y ddefod buredigol drosodd. Creda yr anwariaid hyn fod rhan anfar- wol yr ymadawedig yn crwydro ar hyd y ddaear, a llwybrau anherfynol gofod, ac y dylai tywysog ymadawedig gael un o'i hen gaethforwynion i'w wasanaethu yn y cyt- ryw sefyllfa i goginio ei fwyd a'i gynorth- wyo i hela, cario'r game, &c. Dyma'r llwybr gymerir i anfon y gaethferch gyda'r penaeth. Pan orphenir trwsio'r corff, ym- gasgla perthynasau a chyfeillion yr ym- adawedig i ganu a dawnsio; a phan fydd- ont yn eu hwyliau goreu, dygir i fewn holl gaethforwynion y cynlywydd; yna daw olynydd y marw i fewn ac a ddewisa pa un o'r caethferched sydd i gael ei lladd, er gwasanaethu ei hen feistr trancedig. Tynir dillad y druanes anffodus i ffwrdd, rhwymir ei gwddf a'i breichiau a rhaffau o wellt,. yna llusgir hi oddiamgylcb yn [ ddidrugaredd; gosodir pridd ar ei phen, a churir hi yu a^w gan bob un o'r tylwyth yn ei dro; canys credant fod hyny yn wasan- aeth caredig i'r marw. Bydd yr edrych- wyr yn dangos eu parch i'r curwyr trwy godi troed ddeheu y gweithredwyr a'u gosod ar eu penau; yna gosodir y gaethes i orwedd ar ben arch ei hen feistr, a thorir archoll uwch yn ei bron ddeheu, o'r hwn archoll uwch yn ei bron ddeheu, o'r hwn archoll y tynir ddigon o waed i baentio yr oil o'r arch. Wedi hyny cauir yr archoll j ac arweinir y ddynes, druan, i'r dienyddle. Ar ol i'r dienyddwr dori ei phen, rhed a'r pen yn wyllt a llawen trwy heolydd y pentref, gan neidio a chrochfloeddio, a thaflu y pen i fyny, a gad iddo syrthio i'r llawr, gan ei gicio fel pel; yna dychwela at y corff a thynir y galon allan ganddo trwy agoriad bychan a wna yn y cefn, a chaiff y I galon yr un driniaeth ag a gafodd y pen, yna teflir y corff a'r galon a'r pen o'r neilldu i ga^l eu bwyta gan greaduriaid ysglvfaeth- us a vultures yr awyr. CARNHUANDES.
!Y " CLEDDYF" HWNW!
gost!" 0 berthynas i "chwareu teg," bydd- ed hysbys i Mr. Griffiths mai dyna yn unig ydym yn ddymuno, "chwareu teg" i un blaid yn ogystal a'r llall. Daeth ef allan yn bytheirio celaneddau" yn erbyn Mr. Tilton, yn ei alw yn gelwyddwr, a phob peth isel a gwael, gan ei draddodi i ddyfn- deroedd dinystr tymorol ac ysbrydol, cyn dechreu y prawf. Dyna Qngraifft o'i chwareu teg ef! Oberthynas i'r"gosb'' sydd yn ein haros, nis gallaf ddirnad pa beth mae y bachgen yn ei feddwl. Dear anwyl, beth fydd hi tybed! Mae Mr. Griffiths yn diweddu ei ysgrif yn y dull mwyaf bombastaidd. Mae y "cleddyf" sydd wedi bod yn taw el gysgu yn ei wain i gael ei ddeffro. "O'r goreu," medd yr addfwyn ysgrif enydd, "dyma fy nghleddyf inau allan eto. Mynaf weled pa faint o wir sydd yn y dywediad, that "one sword keeps anotlier\in its scabbard." Bobol anwyl, ffowch i'r noddfa cyn i ddialydd y gwaed eich dal, a chyn i'r cleddyf hwnw drywanu eich calonau! Ond 'mewn difri', yn awr, heb ddim 'smaldod, onid yw rhyw fygythiad fel yna yn ein gorfodi i wenu? Mae yn wir fod Mr. Griffiths yn wr gallu- og, yn ysgrifenwr medrus, ac yn bregeth- wr campus. Yn yr ystyriaethau hyn, mae lei glod yn yr holl eglwysi.' Ond gwyb- ydded ein parchedig frawd na chrea y fath iaith un braw yn ein mynwesau. Nid oes genym un awydd i ddefnyddio na 'chleddyf' na phicell, ac nid oes un angen- rheidrwydd iddo yntau son am 'gleddyf;' a'r cyngor a roddwn i iddo fyddai y cyngor a glywais un fam y diwrnod o'r blaen yn roddi i'w bachgen bychan tra yn chwareu a chleddyf a ddygwyd gan ei dad o'r rhyf- el—'Willie bach," meddai y fam, 'dyro y cleddyf yna yn ei wain.' '0, na hidiwch, mam,' meddai Willie, 'wna'i mo'ch brifo chwi.' "Does arna'i ddim ofn hyny,' ebai y fam, 'ond mae arna'i ofn i ti frifo dy hun.' Guto bach, dyro y cledda yna yn y wain, rhag ofn i ti frifd dy hun! Ond os yw Mr. Griffiths yn penderfynu ymosod arnom, am nad ydym yn cyd-uno ag ef o berthynas i Mr BeeCher, diolch yn fawr iddo am ein rhybuddio. Mr. Griffiths, yr ydym yn liollol barpd—deuwch yn mlaen. Dewis- well faes yrymladdfa. Cawn faes y DRYCH heb rwgnach. Gwn y bydd croesaw i chwi mewn papyr Cymreig arall; ond a ga rhyw un arall ddyfod ar y maes hwnw i'ch erbyn sydd gwestiwn. Yr ydym yn barod, gyda y teimladau mwyaf serchus tuag atocli, i'ch cyfarfod unrhyw amser. Ond byddai yn well genym, os yw y peth o fewn cylch posiblrwydd, i chwi beidio ein galw yn 'kuklux,' neu yn 'erlidiwr,' neu yn 'frad wr,1 neu yn goward,' neu yn ysbryd af- lan,' neu yn 'hyena,' neu yn 'buzzard.' Ond os nad yw yn boslbl i chwi ysgrifenu ar Mr. Beecher heb alw enwau drwg, allan a niiw; ond rhaid i chwi beidio disgwyl i'ch gwrthwynebydd eich efelychu. Mae Mr. Griffitihs yn siarad yn goeglyd am 'ffugen- wau.' Credwyf y buasai yn fwy o anrhyd- eild i efengyl Iesu pe buasai iddo yntau ys- grifenu y fath erthyglau o dan ffugenw. Pa wahaniaeth a wna enw priodol yr ysgrifen- ydd i Mr. Grimths ? Beth os yw yn aelod eglwysig cymeradwy, neu yn ddiacon jffyddlon, neu yn flaenor defosionol, neu yn weinidog parchus ? Yn ei farn ef ni phwys- ai hyn bluen—"kuklux, bradwr, erlidiwr, ysbryd aflan, un yn sychedu am waed, hy- ena, buzzard, a phregethwr rhagfarnllyd," a fyddai ar ol y cyfan. Pan ddel angen- rheidrwydd am ein henw priodol, bydd yn ddigon hawdd i'w gael. Ond dyna ddigon jiydymddangosiady 'cleddyf' hwnw. LUKE MOSES (Pistillfardd).